Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd) yn rhoi defnydd o dir ac adeiladau mewn gwahanol gategorïau a elwir yn 'Dosbarthiadau Defnydd'. Does dim angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd tir i ddefnydd newydd o fewn yr un dosbarth, oni bai fod cyflwr cynllunio yn cyfyngu arno. Gellir gweld amodau cynllunio ar y gofrestr gynllunio sydd gan yr awdurdod cynllunio lleol.

Mae’r rhestr a ganlyn yn dangos gwahanol fathau o ddefnydd a all berthyn i bob dosbarth defnydd. Dylech nodi mai canllaw yn unig yw hwn ac mai mater i Awdurdodau Cynllunio Lleol, yn y lle cyntaf, yw penderfynu i ba ddosbarth y mae defnydd penodol yn perthyn, gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol pob achos.

  • A1 Siopau – Siopau, siopau trin gwallt, trefnwyr angladdau, swyddfeydd teithio a thocynnau, swyddfeydd post (ond nid swyddfeydd didoli), siopau anifeiliaid anwes, siopau brechdanau, ystafelloedd arddangos, siopau hurio domestig, siopau glanhau dillad a chyfarwyddwyr angladdau.
  • A2 Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol  Gwasanaethau ariannol megis banciau a chymdeithasau adeiladu, gwasanaethau proffesiynol (heblaw gwasanaethau iechyd a meddygol), gan gynnwys swyddfeydd gwerthu tai, asiantaethau cyflogaeth (mae swyddfeydd betio wedi eu heithrio).
  • A3 Bwyd a diod – Lleoedd gwerthu bwyd a diod sydd i’w bwyta/yfed ar y safle – tai bwyta, siopau byrbrydau a chaffis, lleoedd yfed a lleoedd gwerthu cludfwyd.
  • B1 Busnes – Swyddfeydd (heblaw’r rheini sy’n perthyn i ddosbarth A2), gwaith ymchwil a datblygu’n ymwneud â nwyddau a phrosesau, diwydiant ysgafn sy’n briodol mewn ardal breswyl.
  • B2 Diwydiannol cyffredinol – Defnyddir ar gyfer proses ddiwydiannol heblaw un sy’n perthyn i ddosbarth B1 (ac eithrio gwaith llosgi, gwaith trin â chemegion, gwaith tirlenwi neu wastraff peryglus).
  • B8 Gwasanaethau storio neu ddosbarthu − Defnyddir at ddibenion storio neu fel canolfan ddosbarthu. Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys gwasanaethau storio yn yr awyr agored.
  • C1 Gwestai – Gwestai a thai llety lle nad oes unrhyw ofal sylweddol yn cael ei ddarparu (nid yw’n cynnwys hosteli).
  • C2 Sefydliadau preswyl – Cartrefi gofal preswyl, ysbytai, cartrefi nyrsio, ysgolion preswyl, colegau a chanolfannau hyfforddi preswyl.
  • C2A Sefydliad preswyl diogel – Defnyddir i ddarparu llety preswyl diogel, a allai fod yn garchar, yn sefydliad troseddwyr ifanc, yn ganolfan gadw, yn ganolfan hyfforddi ddiogel, yn ddalfa, yn ganolfan gadw tymor byr, yn ysbyty diogel, yn llety diogel awdurdod lleol neu’n farics milwrol.
  • C3 Tai annedd,  a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfeydd -– Tai annedd a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfa a'i feddiannu am fwy na 183 diwrnod mewn blwyddyn galendr – mae’r dosbarth hwn yn cael ei rannu’n dair rhan:
    • C3(a) − dosbarth sy’n darparu ar gyfer person unigol neu deulu (pâr, boed yn briod neu beidio, personau sy’n perthyn i’w gilydd gydag aelodau teulu’r naill aelod o’r pâr i’w trin fel aelodau o deulu’r llall), cyflogwr a rhai gweithwyr domestig penodol (fel au pair, nani, nyrs, athrawes gartref, gwas, chauffeur, garddwr, ysgrifennydd neu gynorthwyydd personol), gofalwr a’r person sy’n derbyn gofal a rhiant maeth a phlentyn maeth.
    • C3(b) − hyd at chwech o bobl yn byw gyda’i gilydd fel un aelwyd ac yn derbyn gofal e.e. cynlluniau tai â chymorth, fel y rheini a ddarperir i bobl ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl.
    • C3(c) − mae’r dosbarth hwn yn darparu ar gyfer grwpiau o bobl (hyd at 6) sy’n byw gyda’i gilydd fel un aelwyd ac nad ydynt yn perthyn i’r diffiniad o Dai Amlfeddiannaeth (HMO) yn C4,  e.e. gallai cymuned grefyddol fach a pherchennog cartref sy’n byw gyda lojar berthyn i’r categori hwn.
  • C4 Tai amlfeddiannaeth (HMO) − tai neu fflatiau bach a rennir rhwng tri a chwech o unigolion sydd heb berthynas â’i gilydd, fel eu hunig annedd neu eu prif annedd, gan rannu’r amwynderau sylfaenol megis cegin neu ystafell ymolchi. At ddibenion dosbarth C4, yr un ystyr sydd i ‘dŷ amlfeddiannaeth’ â’r ystyr yn adran 254 o Ddeddf Tai 2004 ac nid yw’n cynnwys bloc o fflatiau sydd wedi’i addasu ac y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddo.
  • C5 Tai Annedd, a ddefnyddir yn wahanol i unig neu brif breswylfa – Tai annedd a ddefnyddir yn wahanol i unig neu brif breswylfa a'u meddiannu am 183 diwrnod neu lai. 
  • C6 Llety Gosod tymor byr – Tai annedd a ddefnyddir ar gyfer llety gosod tymor byr masnachol heb fod am fwy na 31 diwrnod ar gyfer pob cyfnod o feddiannaeth.
  • D1 Sefydliadau nad ydynt yn rhai preswyl  Clinigau, canolfannau iechyd, crèches, meithrinfeydd dydd, canolfannau dydd, ysgolion, orielau celfyddyd (heblaw’r rheini sy’n gwerthu neu’n hurio), amgueddfeydd, llyfrgelloedd, neuaddau, addoldai, neuaddau eglwysi, llysoedd barn, canolfannau addysg a hyfforddiant nad ydynt yn rhai preswyl.
  • D2 Mannau ymgynnull a hamdden – Sinemâu, neuaddau cyngerdd a cherddoriaeth, casinos, neuaddau bingo a dawnsio, pyllau nofio, canolfannau sglefrio, campfeydd neu ardaloedd ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hamdden dan do ac yn yr awyr agored (heblaw chwaraeon moduron neu weithgareddau lle caiff gynnau eu defnyddio).
  • Defnydd unigryw − Nid yw rhai mathau o ddefnydd yn perthyn i’r un dosbarth defnydd, ac fe’u hystyrir yn ‘ddefnydd unigryw’. Mae'r mathau hynny o ddefnydd yn cynnwys: theatrau, hosteli, iardiau sborion, gorsafoedd petrol a siopau sy’n gwerthu a/neu’n arddangos cerbydau modur, lleoedd golchi dillad, busnesau tacsis, canolfannau peiriannau chwarae a swyddfeydd betio.

Cyn trafod les neu brynu eiddo ar gyfer eich busnes, dylech gadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer y defnydd yr ydych yn bwriadu ei wneud o’r safle, ac os oes, beth yw’ch gobeithion o gael y caniatâd hwnnw.