Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych yn bwriadu dymchwel eich tŷ, rhan o’ch tŷ, neu unrhyw adeiladau allan, efallai y bydd yn rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol gytuno ar fanylion y gwaith dymchwel, ar sut yr ydych yn bwriadu ei wneud a sut yr ydych yn bwriadu adfer y safle wedyn.

Bydd angen ichi wneud cais am benderfyniad ffurfiol ynghylch a fydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol am gymeradwyo’r manylion hyn cyn ichi ddechrau ar y gwaith dymchwel. Gelwir cais o’r fath yn "gais am gymeradwyaeth ymlaen llaw", a bydd eich Awdurdod Cynllunio Lleol yn gallu egluro beth y mae’n ei olygu.

Dymchwel ar frys

Os oes angen dymchwel ar frys am resymau’n ymwneud â diogelwch neu iechyd, mae’n rhaid ichi, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ddarparu cyfiawnhad ysgrifenedig dros y gwaith dymchwel i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Adeiladau rhestredig ac adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth

Efallai y bydd arnoch angen caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth i ddymchwel adeiladau rhestredig neu adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth.

Dylech drafod hynny â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol cyn gwneud unrhyw benderfyniad i ddymchwel adeiladau mewn lleoliadau sensitif, er mwyn osgoi’r perygl y gallai achos llys gael ei ddwyn yn eich erbyn.