Neidio i'r prif gynnwy

Nid oes angen caniatâd cynllunio os yw'r defnydd presennol a'r defnydd arfaethedig o fewn yr un 'dosbarth' o fewn Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987, neu os yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995  (GPDO) yn pennu bod newid dosbarth i ddosbarth arall yn cael ei ganiatáu (gweler y tabl isod).

Er enghraifft, gallai siop trin gwallt gael ei newid i siop esgidiau heb ganiatâd gan fod defnydd o'r fath o fewn yr un 'dosbarth', a gallai bwyty newid i siop neu asiantaeth dai gan fod y GPDO yn caniatáu newid o'r fath heb yr angen am ganiatâd cynllunio.

Mae'n debygol y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu allanol sydd ynghlwm wrth newid defnydd
 

O

I

A2 (gwasanaethau ariannol a phroffesiynol) lle y mae gan safle ffenestr arddangos ar lefel y llawr.

A1 (siop)

A3 (bwyd a diod)

A1 neu A2

B1 (busnes) (cyfyngir ar y caniatâd i newid defnydd sy'n gysylltiedig â hyd at 500 metr sgwâr o ofod llawr)

B8 (storio a dosbarthu)

B2 (diwydiannol cyffredinol)

B1 (busnes)

B2 (diwydiannol cyffredinol) (cyfyngir ar y caniatâd i newid defnydd sy'n gysylltiedig â hyd at 500 metr sgwâr o ofod llawr)

B8 (storio a dosbarthu)

B8 (storio a dosbarthu) (cyfyngir ar y caniatâd i newid defnydd sy'n gysylltiedig â hyd at 500 metr sgwâr o ofod)

B1 (busnes)

C4 (tai amlfeddiannaeth)

C3 (tŷ annedd)

Sui Generis - Ystafelloedd arddangos ceir yn unig

A1 Siop

Yn ogystal, nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • o A1 neu A2 i A1 ynghyd â fflat unigol uwchben
  • o A2 i A2 ynghyd â fflat unigol uwchben.

Mae modd gwyrdroi'r newidiadau hyn heb gais ar yr amod yr arferai'r rhan sydd bellach yn fflat gael ei ddefnyddio at ddefnydd A1 neu A2 cyn hynny.