Neidio i'r prif gynnwy

2. Paneli solar wedi'u mowntio ar adeilad annomestig

Rhaid cadw at yr holl amodau a ganlyn:

  • dylid lleoli'r paneli, hyd y gellir, er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith ar ymddangosiad allanol yr adeilad ac amwynder yr ardal
  • dylid lleoli’r paneli, hyd y gellir, mewn modd sy’n sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith gan lewyrch neu ddisgleirdeb
  • pan nad oes eu hangen mwyach, dylai'r paneli cynhyrchu gael eu symud cyn gynted â phosibl.

Rhaid bodloni'r holl gyfyngiadau a ganlyn:

  • ni chaniateir i baneli solar fod o fewn 3km i faes awyr neu faes glanio
  • ni ddylai paneli solar wedi'u gosod ar wal neu do ar ongl ymestyn mwy na 200mm o arwyneb y wal neu lethr y to
  • os yw paneli yn cael eu gosod ar do gwastad ni ddylai rhan uchaf y cyfarpar fod mwy nag un metr uwchlaw rhan uchaf y to (ac eithrio'r simnai)
  • ni ddylai cyfarpar wedi'i fowntio ar do fod o fewn metr o ymyl allanol y to
  • ni ddylai cyfarpar wedi'i fowntio ar wal fod o fewn un metr i gyffordd y wal honno â wal arall neu gyda tho'r adeilad
  • ni ddylid gosod paneli ar adeilad rhestredig neu ar adeilad sydd o fewn tir adeilad rhestredig
  • ni ddylai'r paneli gael eu gosod ar safle sydd wedi'i ddynodi'n heneb gofrestredig
  • os yw'r adeilad ar dir dynodedig* ni ddylai'r cyfarpar gael ei osod ar wal neu lethr to sy'n wynebu priffordd

* Mae tir dynodedig yn cynnwys parciau cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ardaloedd cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd.