Neidio i'r prif gynnwy

Mae nodweddion allweddol cynllun bach trydan dŵr yn cynnwys y canlynol:

  • ‘colofn’ hydrolig - y pellter fertigol rhwng ffynhonnell y dŵr a’r tyrbin
  • mewnlif dŵr uwchlaw cored neu y tu ôl i argae
  • pibell neu sianel i gludo’r dŵr i’r tyrbin
  • tyrbin, generadur a chysylltiad trydanol
  • all-lif, lle mae’r dŵr yn dychwelyd i’r cwrs dŵr.

Mae’r elfennau hyn yn codi nifer o faterion pwysig sy’n ymwneud â chynllunio, a bydd angen caniatâd cynllunio fel rheol.

Gallai elfennau cynllun bach trydan dŵr effeithio ar y canlynol:

  • y dirwedd a harddwch
  • cadwraeth natur
  • y drefn o ran dŵr.

Bydd rhyw fath o asesiad amgylcheddol yn hanfodol pan ddaw’n fater o wneud cais am ganiatâd cynllunio a thrwyddedau amgylcheddol.

Yn unol â’r Town and Country Planning (Assessment of Environmental Effects) Regulations 1988 (Saesneg yn unig), rhaid sicrhau bod Datganiad Amgylcheddol yn cyd-fynd â’r cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiad y mae’r awdurdod cynllunio’n credu ei fod yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.

Bydd y ddogfen dan sylw’n darparu asesiad o effeithiau amgylcheddol tebygol y prosiect, ac yn nodi unrhyw gamau dylunio, adeiladu, gweithredu a datgomisiynu y dylid eu cymryd i leihau’r effeithiau hynny gymaint ag y bo modd.

Fel rheol bydd y ddogfen yn ymdrin â materion megis blodau, anifeiliaid, lefelau sŵn, traffig, defnydd tir, archaeoleg, hamdden, tirwedd, ac ansawdd yr aer a’r dŵr.

Dylid nodi y bydd yn rhaid ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch trwyddedau echdynnu dŵr hefyd, oherwydd nid y tirfeddiannwr sy’n berchen ar y dŵr.

Cliciwch yma i weld rhagor o fanylion am echdynnu dŵr ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd (Saesneg yn unig).