Neidio i'r prif gynnwy

Bydd angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio bron bob amser er mwyn codi adeiladau newydd. Bydd y cynllun datblygu lleol ar gyfer eich ardal yn rhoi rhyw amcan ichi a yw’ch cynnig yn debygol o fod yn dderbyniol ai peidio. Byddai’n werth siarad â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol cyn cyflwyno cais, felly.

Efallai na fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer codi estyniadau bach i warysau ac adeiladau diwydiannol, gan gynnwys codi adeiladau ychwanegol o fewn y cwrtil.

Ni fydd angen caniatâd cynllunio fel rheol, yn amodol ar y cyfyngiadau isod:

  • Adeiladau newydd o fewn cwrtil safle sy’n bodoli eisoes – os yw’r adeiladau hynny o fewn 10 metr i ffin y safle, rhaid iddynt beidio â bod  yn uwch na 5 metr. Ym mhob achos arall, rhaid i’r adeiladau newydd beidio â bod yn uwch na’r adeilad uchaf o fewn cwrtil y safle neu 15 metr, pa un bynnag sydd isaf.
  • Estyniadau - os yw estyniadau o fewn 10 metr i ffin y safle, rhaid iddynt beidio â bod  yn uwch na 5 metr. Ym mhob achos arall, rhaid iddynt beidio â bod yn uwch nag uchder yr adeilad sy’n cael ei estyn neu ei newid.
  • Ni cheir wneud unrhyw waith datblygu o fewn 5 metr i unrhyw un o ffiniau cwrtil y safle.
  • Rhaid i arwynebedd llawr gros unrhyw adeiladu newydd a godir beidio â bod yn fwy na 100 metr sgwâr.
  • Ni ddylai’r adeilad newydd neu’r estyniad ychwanegu mwy na’r isod at arwynebedd llawr gros yr adeilad gwreiddiol:
    • 10% yn achos datblygiad mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu ar Safle Treftadaeth y Byd, neu 25% mewn unrhyw achos arall; neu
    • 500 metr sgwâr yn achos datblygiad mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu ar Safle Treftadaeth y Byd, neu 1,000 metr sgwâr mewn unrhyw achos arall.

pa un bynnag yw’r lleiaf

  • Bydd angen caniatâd cynllunio pe byddai’r datblygiad yn arwain at sefyllfa lle byddai llai o le ar gael ar gyfer parcio neu droi cerbydau.

Rhaid cydymffurfio â’r amodau isod hefyd:

  • Rhaid i’r datblygiad fod o fewn cwrtil adeilad diwydiannol neu warws sy’n bodoli eisoes.
  • Dim ond at y dibenion isod y ceir defnyddio unrhyw adeilad a gaiff ei godi, ei estyn neu ei newid:
    • yn achos adeilad diwydiannol, ar gyfer cynnal proses ddiwydiannol at ddibenion yr ymgymeriad, ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu ar gynhyrchion neu brosesau, neu ar gyfer darparu cyfleusterau ategol i’r ymgymeriad ar gyfer gweithwyr cyflogedig
    • yn achos warws, ar gyfer storio neu ddosbarthu at ddibenion yr ymgymeriad neu ar gyfer darparu cyfleusterau ategol i’r ymgymeriad ar gyfer gweithwyr cyflogedig.
  • ​​​​​​Ni cheir defnyddio unrhyw adeilad a gaiff ei godi, ei estyn neu ei newid i ddarparu cyfleusterau ar gyfer gweithwyr cyflogedig*:
    • rhwng 7.00 pm a 6.30 am, ar gyfer gweithwyr cyflogedig heblaw am y rheini sy’n bresennol ar safle’r ymgymeriad at ddibenion eu cyflogaeth, neu.
    • o gwbl, os yw cyfanswm unrhyw sylwedd peryglus sy’n bresennol ar safle’r ymgymeriad yn golygu bod gofyn hysbysu amdano.
  • Rhaid i unrhyw adeilad newydd a godir ar safleoedd o fewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu Safle Treftadaeth y Byd, gael ei adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau sy’n edrych yn debyg i’r rheini a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adeilad diwydiannol neu’r warws sy’n bodoli eisoes.
  • Yn achos safleoedd sydd mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu Safle Treftadaeth y Byd, rhaid i unrhyw estyniad neu addasiad gael ei adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau sy’n edrych yn debyg i’r rheini a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adeilad sy’n cael ei estyn neu ei addasu.

* Ystyr “cyfleusterau ar gyfer gweithwyr cyflogedig” yw cyfleusterau cymdeithasol, gofal neu hamdden a ddarperir ar gyfer y gweithwyr a gyflogir gan yr ymgymeriad, gan gynnwys cyfleusterau crèche a ddarperir ar gyfer plant y gweithwyr cyflogedig hynny.

Os byddwch yn estyn neu’n newid adeilad rhestredig neu adeilad mewn ardal gadwraeth, efallai y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig a chaniatâd ardal gadwraeth arnoch yn ogystal â chaniatâd cynllunio, cyn bwrw ymlaen ag unrhyw waith.

Dileu hawliau datblygu a ganiateir

Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.