Neidio i'r prif gynnwy

Mae ychwanegu heulfan i'ch tŷ yn cael ei drin yn yr un ffordd ag ychwanegu estyniad un llawr ac mae'r un rheolau’n berthnasol. Ystyrir bod heulfan yn ddatblygiad a ganiateir, nad oes angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer, yn amodol ar y terfynau a'r amodau isod:

  • Ni chaiff yr heulfan estyn y tu hwnt i wal sy’n rhan o brif wedd y tŷ annedd gwreiddiol. Mae canllawiau ar yr hyn a olygir wrth brif wedd i’w gweld yn y canllaw i ddeiliaid tai. 
  • Ni cheir gorchuddio mwy na hanner arwynebedd y tir o amgylch y tŷ gwreiddiol â heulfan.
  • Ni chaiff yr heulfan fod yn uwch na bargod y tŷ annedd gwreiddiol.
  • Os yw’ch heulfan o fewn 2 fetr i ffin eich tŷ, ni chaiff bargod yr heulfan fod yn uwch na 3 metr.
  • Nid yw heulfannau’n waith datblygu a ganiateir o fewn cwrtil adeilad rhestredig.
  • Ni chaiff eich heulfan fod yn hirach nac yn uwch na 4 metr.
  • O ran heulfannau ar ochr tŷ, ni chaiff lled eich heulfan fod yn fwy na hanner lled y tŷ annedd gwreiddiol.
  • Mae cyfyngiadau ychwanegol ar faint heulfannau ar ochr tai mewn ardaloedd cadwraeth, parciau cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu Safleoedd Treftadaeth y Byd. Ni chânt ymestyn am fwy na 3 metr o ochr y tŷ annedd gwreiddiol a rhaid iddynt gael eu gosod o leiaf 1 metr yn ôl o brif ochr yr annedd gwreiddiol.

Sylwer: mae'r lwfansau datblygiad a ganiateir a ddisgrifir yma yn gymwys i dai ac nid i fflatiau, maisonettes nac adeiladau eraill. Mae canllawiau ar fflatiau a maisonettes i’w gweld yma.

Os bwriedir gwneud gwaith i adeilad rhestredig, efallai y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig. Dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am ragor o gyngor.

Os yw’ch datblygiad dros 100 metr sgwâr, mae’n bosibl y caiff taliad ei godi arno o dan yr Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Dileu hawliau datblygu a ganiateir

Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr. 

Canllaw i ddeiliaid tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.

* Ystyr y term "tŷ gwreiddiol" yw’r tŷ fel y cafodd ei adeiladu gyntaf neu fel yr oedd ar 1 Gorffennaf 1948 (os cafodd ei adeiladu cyn y dyddiad hwnnw). Er nad ydych chi efallai wedi adeiladu estyniad i’r tŷ, gallai perchennog blaenorol fod wedi gwneud hynny.

* Mae tir dynodedig yn cynnwys parciau cenedlaethol a’r Broads, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ardaloedd cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd.