Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd ar gyfer y fferm wynt arnofiol gyntaf yn nyfroedd Cymru, 40km oddi wrth arfordir Sir Benfro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd prosiect Erebus yn gosod saith tyrbin cenhedlaeth nesaf, 14 megawat, ar blatfformau sy'n arnofio. Byddan nhw'n darparu digon o ynni carbon isel ar gyfer 93,000 o gartrefi.

Mae Erebus yn rhan o gam cyntaf datblygiad ynni adnewyddadwy pedwar gigawat yn y Môr Celtaidd – digon i ddarparu pŵer ar gyfer pedair miliwn o gartrefi.

Gallai camau'r datblygiad yn y dyfodol ddarparu 20 gigawat o ynni adnewyddadwy, a fydd yn trawsnewid y ffordd rydyn ni'n pweru ein cartrefi a'n busnesau.

Ar hyn o bryd mae Blue Gem Wind, y fenter ar y cyd rhwng TotalEnergies a'r Simply Blue Group, ar y trywydd cywir i ddechrau gweithredu prosiect 100MW Erebus yn 2026.

Mae'r prosiect yn rhan o'r broses o newid o system ynni sy'n dibynnu ar danwyddau ffosil drud, a bydd yn cyfrannu at dargedau ynni Llywodraeth Cymru ac at wella ein diogelwch ynni.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Mae gennyn ni obeithion mawr ar gyfer y sector ynni ar y môr – rydyn ni'n credu bod ganddo'r potensial i ddarparu ffynonellau ynni cynaliadwy yn y dyfodol, ac mae hefyd yn gyfle nad yw'n codi ond unwaith mewn cenhedlaeth i agor marchnadoedd newydd ar gyfer cyflenwyr lleol, ac i greu miloedd o swyddi o ansawdd uchel yng Nghymru.

"Mae gan brosiect Erebus y potensial i ddangos i'r byd y gall Cymru a'r Môr Celtaidd gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ar yr un pryd â rheoli ein hadnoddau morol mewn modd cynaliadwy.

"Drwy roi'r trwyddedau morol a'r caniatadau cynllunio, mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru wedi galluogi'r prosiect hwn i symud yn ei flaen a gwneud cais am gymorthdaliadau gan Lywodraeth y DU.

"Rwy'n annog Llywodraeth y DU i chwarae ei rhan drwy'r broses Contractau ar gyfer Gwahaniaeth i roi hwb i’r diwydiant, drwy weithio gyda thîm Erebus i sicrhau llwyddiant y prosiect fferm wynt arnofiol gyntaf yn nyfroedd Cymru, gan ddod â swyddi ac ynni gwyrdd i'n cymunedau."

Dywedodd Mike Scott, rheolwr gyfarwyddwr prosiect Blue Gem Wind:

"Rydyn ni'n croesawu penderfyniad Gweinidogion Cymru i roi'r caniatadau cynllunio sydd eu hangen ar brosiect Erebus, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ers 2019 i ddatblygu prosiect sy'n parchu'r amgylchedd naturiol ac yn lleihau'r effeithiau ar gymunedau lleol a rhanddeiliaid cymaint ag y bo modd.

"Erebus fydd y fferm wynt arnofiol gyntaf yng Nghymru, a bydd yn chwarae rôl hanfodol wrth gynyddu'r defnydd o’r dechnoleg carbon isel sy'n mynd i fod yn bwysig ar lefel fyd-eang."