Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Mawrth 2014.

Cyfnod ymgynghori:
10 Rhagfyr 2013 i 6 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 203 KB

PDF
203 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn diweddaru'r canllaw ar Adran 101A o Ddeddf y Diwydiant dŵr 1991. Rhowch eich barn.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Wrth asesu a oes dyletswydd o dan adran 101A i osod carthffos gyhoeddus ac a yw hi’n briodol gwneud hynny mae’n rhaid ystyried unrhyw ganllawiau y mae Gweinidogion Cymru’n eu cyhoeddi.

Mae’r rhan fwyaf o eiddo yng Nghymru a Lloegr wedi’u cysylltu â charthffos gyhoeddus. Ond mae rhyw 4% wedi’u cysylltu â system garthffos annibynnol sy’n eiddo i’r perchennog ac sy’n cael ei chynnal ganddo.

Os nad yw’r systemau hyn yn gallu ateb gofyn y perchennog yn foddhaol yn yr hirdymor yna gall y perchennog ymgeisio o dan adran 101A am garthffos gyhoeddus.


Dyma sydd yn y canllaw drafft:

  • disgrifiad o’r opsiynau ar gyfer sicrhau system garthffos gynaliadwy ar gyfer eiddo nad yw wedi’i gysylltu â charthffos gyhoeddus
  • gwybodaeth fydd yn helpu deiliaid tai meddianwyr a pherchnogion eiddo benderfynu a fydd adran 101A o help iddyn nhw
  • disgrifio rôl a chyfrifoldeb y cwmnïau carthffosiaeth y rheoleiddwyr amgylcheddol (Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru) a pherchnogion eiddo wrth ddefnyddio adran 101A
  • cyngor ar arferion da.

Mae’r canllaw drafft yn disodli ac yn diweddaru’r canllaw blaenorol a gyhoeddwyd ym 1996 gan Adran yr Amgylchedd a’r Swyddfa Gartref.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 225 KB

PDF
225 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.