Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 24 Hydref 2013.

Cyfnod ymgynghori:
26 Awst 2013 i 24 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion - rhan 1 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 164 KB

PDF
164 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Crynodeb o'r ymatebion - rhan 2 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 195 KB

PDF
195 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r ymgynghoriad hon yn gofyn am eich barn am y canllaw drafft diwygiedig i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a perchenogion ysgolion annibynnol ar y trefniadau i ddiogelu plant.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Daeth adran 175 y Deddf Addysg 2002 (dolen allanol) i rym yng Nghymru ar 1 Medi 2006 a chrëwyd dyletswydd gyfreithiol i awdurdodau lleol ysgolion a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru i ymgymryd â’u swyddogaethau mewn ffordd sydd yn ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.  

Yn Ebrill 2008 cyhoeddwyd Llywodraeth Cymru Cylchlythyr 05/2008 Diogelu Plant mewn Addysg: Rôl awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu o dan Ddeddf Addysg 2002 i rhoi canllaw ar sut i roi effaith i’r ddyletswydd statudol hon. Rhaid i'r ddarparwyr addysg ystyried y canllawiau hyn.

Rhaid i perchenogion ysgolion annibynnol gydymffurfio  gyda’r canllaw hyn er mwyn cyfarfod â safonau lles iechyd a diogelwch a bennwyd mewn rheoliadau o dan adran 157 o’r Deddf Addysg 2002 (dolen allanol).

Mae’r canllaw yn berthnasol i:

  • awdurdodau lleol
  • prif athrawon a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion) ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig
  • perchenogion ysgolion annibynnol 
  • penaethiaid sefydliadau addysg uwch.

Mae’r canllaw wedi ei diwygio i adlewyrchu’r canllawiau statudol diweddaraf am faterion diogelu cysylltiedig ag newidiadau deddfwriaethol ers cyhoeddwyd y canllaw diwethaf yn 2008.  Yn arbennig mae’r canllaw diwygiedig yn cynnwys gwybodaeth am y newidiadau allweddol i’r trefniadau datgelu a gwahardd newydd cyn cyflogi a chyflwynwyd gan y Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (dolen allanol).

Mae rhywrai o’r wybodaeth yn y canllaw wedi ei ymledu i ddarparu canllaw fwy cynhwysfawr i’r ystod lawn o faterion diogelu y dylid darparwyr addysg fod yn ymwybodol am.  Mae’r canllaw diwygiedig yn cynnwys hypergysylltiadau i ganllawiau arall adroddiadau defnyddiol rheoliadau a deddfwriaeth er mwyn helpu darllenwyr darganfyddi wybodaeth fwy manwl yn ôl angen.

Mae’r canllaw diwygiedig wedi ei strwythuro o gwmpas saith thema:

  1. y fframwaith ar gyfer diogelu plant yng Nghymru
  2. rolau a chyfrifoldebau diogelu plant yn y gwasanaeth addysg
  3. cyfrifoldebau diogelu mewn amgylchiadau penodol
  4. arferion recriwtio mwy diogel
  5. fetio staff a gwirfoddolwyr o dan y trefniadau datgelu a gwahardd newydd
  6. ymateb i honiadau o gam-drin yn erbyn staff.
  7. cyfeiriadau at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae’r ymgynghoriad hon yn gofyn am eich barn am y canllaw drafft diwygiedig isod.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 143 KB

PDF
143 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Canllawiau drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.