Neidio i'r prif gynnwy

Penaethiaid Cynllunio,
Awdurdodau Cynllunio Lleol Cymru 

Annwyl Gyfeillion 

Dyma lythyr i’ch hysbysu bod ail rifyn y Canllaw i Gymru’r Dyfodol, Cwestiynau Cyffredin, 2il Rifyn, yn cael ei gyhoeddi ar 22 Medi. 

Yn dilyn cyhoeddi Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040 ar 24 Chwefror, cyfarfu Llywodraeth Cymru â’r holl awdurdodau cynllunio lleol i siarad am y cynllun datblygu cenedlaethol ac i ateb unrhyw gwestiynau. Mae ail rifyn y Canllaw i Gymru’r Dyfodol yn dod â’r cwestiynau a ofynnwyd amlaf ac oedd yn pwyso fwyaf yn y sesiynau hyn ynghyd gydag atebion Llywodraeth Cymru i’r cwestiynau hynny. 

Mae’r ail rifyn hwn yn ategu’r rhifyn cyntaf a gyhoeddwyd i gyd-fynd â Chymru’r Dyfodol ym mis Chwefror. Mae Rhifyn 1 yn parhau’n berthnasol ac yn ateb cwestiynau proses a threfniadol yn bennaf tra bo’r ail rifyn yn canolbwyntio ar faterion polisi. 

Mae’r Ail Rifyn yn esbonio er enghraifft y Cynlluniau Datblygu Strategol a’r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, y Lleiniau Glas, y cyfarwyddiadau datblygu ar gyfer canol trefi, Parthau Gweithredu Telathrebu Symudol, seilwaith band eang sy’n gallu delio â gigabitau a dwysedd anheddol. 

Cyhoeddir Ail Rifyn y Canllaw i Gymru’r Dyfodol er eich gwybodaeth yn unig.  Nid yw’n rhan o Gymru’r Dyfodol.  Er ei fod yn adlewyrchu’r ddeddfwriaeth, nid yw’n ddogfen bolisi, ac felly nid oes statws na phwysau iddo ac nid yw’n cyflwyno gofynion newydd.  Mae’r ddogfen yn cynghori darllenwyr i edrych ar y ddeddfwriaeth i weld beth yw’r gofynion statudol; a Polisi Cynllunio Cymru a Chymru’r Dyfodol i fod yn sicr ynghylch polisi. 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, holwch FutureWales@gov.wales.

Yn gywir,

Neil Hemington

Prif Gynllunydd, Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio

Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.