Canllawiau a gwybodaeth ar beth yw gwaith teg.
Cynnwys
Beth yw gwaith teg
Gwaith teg yw gwaith sy’n bodloni hawliau gweithwyr, sy’n cefnogi llesiant gweithwyr, ac sy’n sicrhau bod gan weithwyr lais. Gwaith teg yw presenoldeb amodau gweladwy yn y gwaith sy’n golygu bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a’u cynrychioli’n deg. Gall gweithwyr hefyd ddatblygu mewn amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol lle y rhoddir parch i’w hawliau fel gweithwyr.
Beth yw manteision darparu gwaith teg
Mae’r achos dros sicrhau gwaith teg yn seiliedig ar reidrwydd moesol, yn syml, trin gweithwyr ag urddas a pharch yw'r peth iawn i'w wneud; rheidrwydd lles, oherwydd bod gwaith annheg yn cael effaith negyddol ar les corfforol a meddyliol; a rheidrwydd economaidd a busnes mae gwaith teg yn dda i'n heconomi, cynhyrchiant ac agweddau eraill ar berfformiad busnes:
- Mae gweithlu sy’n cael ei wobrwyo’n deg, sy’n ymgysylltu ag eraill ac sy’n cael ei werthfawrogi yn debygol o arwain at well morâl ymysg y gweithlu, gwell dealltwriaeth a gwell ymrwymiad tuag at y busnes a’i amcanion.
- Gall sicrhau gwaith teg sydd â thâl a thelerau ac amodau teilwng helpu eich busnes i recriwtio a chadw gweithwyr yn ogystal â lleihau’r costau yn sgil trosiant staff.
- Mae gweithwyr sy’n cael eu trin ag urddas a pharch yn y gwaith yn debygol o fod yn fwy cynhyrchiol ac ymroddedig. Gallant fod yn fwy parod i fuddsoddi yn eu sgiliau a’u dysgu. Gall sicrhau bod gweithwyr yn cael eu clywed a’u cynrychioli helpu’r busnes i ganfod syniadau, creadigrwydd ac arloesedd.
- Gall gwaith teg gyfrannu at iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant ehangach. Gall amodau gwaith sy’n cyd-fynd â llesiant gweithwyr arwain at gyfraddau is o newidiadau ac absenoldebau o fewn y gweithlu.
- Gall ymgorffori gwaith teg helpu busnesau i elwa ar weithlu sy’n fwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol, yn ogystal â’r gronfa dalent a sgiliau cynyddol sy’n deillio o hynny.
Sut i roi gwaith teg ar waith
Amlinellir isod rhai enghreifftiau o gamau y gallai cyflogwyr eu cymryd.
Gwobrwyo teg
- Mae’r cyflogwr yn talu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol i bob gweithiwr, neu mae wedi ymrwymo i weithio tuag at wneud hynny.
- Mae’r cyflogwr wedi ymrwymo i gyflawni Achrediad y Living Wage Foundation a/neu roi mwy na’r tâl salwch statudol.
Llais y cyflogai a chydgynrychiolaeth
- Mae’r cyflogwr yn caniatáu i weithwyr gael cefnogaeth Undebau Llafar pan eu bod yn gwneud cais am hynny. Mae’r cyflogwr hefyd yn cadw at gydgytundebau pan fo’r rhain yn berthnasol.
- Mae gan y cyflogwr drefniadau ffurfiol ac anffurfiol effeithiol ar waith er mwyn sicrhau bod llais unigol a llais torfol gweithwyr yn cael ei glywed.
Sicrwydd a hyblygrwydd
- Nid yw contractau heb eu gwarantu (contractau dim oriau) yn cael eu rhoi i weithwyr mewn modd unochrog. Mae gweithwyr yn cael rhybudd digonol ynghylch patrymau shifftiau ac unrhyw newidiadau.
- Mae’r cyflogwr yn defnyddio hyblygrwydd o ran cynllunio swyddi, oriau gwaith a gweithio o bell er mwyn hyrwyddo cynhwysiant a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
- Mae’r cyflogwr yn ymrwymo i sicrhau bod gweithwyr yn cael cynnig sicrwydd o isafswm oriau wedi’u gwarantu a, phan fo hynny’n rhesymol ac yn ymarferol, cynnig gweithio o bell a mathau eraill o weithio’n hyblyg sy’n gwella llesiant a’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Cyfle i gael mynediad at waith, i dyfu ac i gamu ymlaen
- Mae prosesau dysgu a datblygu perthnasol ac o ansawdd da ar gael i bob gweithiwr.
- Mae pob gweithiwr yn cael sicrwydd o, a hyfforddiant ynglŷn â chydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth.
Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol
- Mae’r cyflogwr yn casglu data er mwyn cadw golwg ar amrywiaeth y gweithlu. Mae prosesau effeithiol ar waith i fynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle.
- Mae mesurau iechyd a diogelwch effeithiol ar waith ac yn cael eu rhannu a’u hadolygu yn rheolaidd gyda’r gweithwyr.
- Mae’r cyflogwr yn ymrwymo i fynd i’r afael â than gynrychiolaeth ar draws y nodweddion gwarchodedig ar bob lefel o’r sefydliad, yn ogystal â chulhau’r bwlch cyflog ar sail rhyw, hil ac anabledd.
Parchu hawliau cyfreithiol
- Mae’r cyflogwr yn cydymffurfio â’r holl rwymedigaethau statudol sy’n ymwneud â’r gweithwyr ac nid yw’n ceisio’u hosgoi.
- Rydym yn annog sefydliadau i gael gwared ar arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesol sydd yn eu cadwyni cyflenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar sut i gyflawni hynny ar gael yn Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer, arweiniad a hyfforddiant.