Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad ar ganllawiau newydd sy'n ymwneud ag addysg yn y cartref yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r canllawiau statudol drafft yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei wneud i ddod o hyd i blant nad ydynt yn cael eu haddysgu mewn ysgolion, ac yn rhoi cyngor iddynt ar sut i asesu pa mor addas yw'r addysg y mae'r plant hynny yn ei chael.

Mae'r canllawiau'n nodi y dylai plant gael eu gweld unwaith y flwyddyn fel rhan o'r asesiad o ba mor addas yw'r  addysg, oni bai bod materion eraill sy'n haeddu sylw mewn cyfarfodydd amlach. Mae'r canllawiau hefyd yn egluro'r cymorth y dylai fod ar gael gan awdurdodau lleol i addysgwyr cartref yn eu hardal.

Yn ogystal, mae llawlyfr yn cael ei ddatblygu gyda chyngor a chymorth i bobl sy'n darparu addysg yn y cartref i'w plant ar hyn o bryd neu'n ystyried hynny. Mae'r canllawiau hefyd yn anelu at sicrhau bod y gefnogaeth sydd ar gael i addysgwyr cartref yn gyson drwy Gymru. 

Yn nes ymlaen eleni, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata er mwyn eu helpu i ddod o hyd i blant nad ydynt wedi eu cofrestru mewn ysgol neu ar gofrestr addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS), ac yna i bennu a yw'r plant yn cael addysg briodol.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Bydd y canllawiau statudol yn helpu awdurdod lleol i gefnogi teuluoedd sy'n penderfynu addysgu eu plant gartref, ac yn cryfhau'r mecanwaith sydd ar gael i awdurdodau lleol pan na fo'r addysg sy'n cael ei darparu yn briodol.

“Y brif flaenoriaeth yw sicrhau'r deilliannau gorau i blant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref drwy ddatblygu partneriaethau adeiladol rhwng yr aelwydydd hynny lle darperir addysg yn y cartref ac awdurdodau lleol. Mae'r ymgynghoriad yn gyfle i bawb ddweud eu dweud a'n helpu i sicrhau bod y dull gweithredu hwn yn rhesymol a chymesur.

“Mae budd pennaf y plentyn yn hollbwysig, a ph'un a yw'r plentyn yn cael ei addysgu mewn ysgol neu yn y cartref, rydym yn benderfynol o gefnogi pob plentyn i fod ar eu gorau a  chyrraedd eu potensial llawn.