Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r casgliad data hwn yn cael ei wneud i hysbysu a diweddaru'r data sydd gennym ar brosiectau a gefnogir fel rhan o'r rhaglen. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei diweddaru fel rhan o'n cyfarfodydd rheolaidd gyda phartneriaid cyflenwi.

Dylai casglu data gynnwys yr holl brosiectau sydd wedi'u cynnwys fel rhan o'ch rhaglen amlinellol strategol ar gyfer y Rhaglen Dreigl. Mae hyn yn cynnwys yr holl brosiectau sydd i'w cyflawni fel rhan o'r rhaglen.

Rydym hefyd yn gofyn i chi gynnwys unrhyw brosiectau Band A neu B sydd eto i'w cwblhau.

Ar gyfer prosiectau sy'n cael eu datblygu, dylid cynnwys dyddiadau go iawn lle bo hynny'n berthnasol.  

Dylid darllen y daenlen ar y cyd â'r canllawiau hyn i gefnogi cwblhau'r gwaith a'i chwblhau gyda chymaint o wybodaeth ar gael ar y pryd.  Bydd yn cael ei defnyddio a'i ddiweddaru fel dogfen fyw drwy gydol oes y rhaglen a gall prosiectau eraill a ariennir gan grant gael eu hychwanegu yn unol â chais y tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae’r adran las yn gofyn am wybodaeth gyffredinol am brosiectau arfaethedig, a rhai wedi'u cwblhau:

Enw'r prosiect: Dylai enw'r prosiect gyd-fynd â'r Rhaglen Amlinellol Strategol arfaethedig o'r Rhaglen Dreigl , ac wedi hynny'r Rhaglen Amlinellol a gymeradwyed mewn egwyddor, cymeradwyaeth i fwrw ymlaen neu lythyr dyfarnu grant (pa un bynnag sydd fwyaf diweddar).  

Rhaglen: Dewiswch un o'r canlynol o’r gwymplen:

  • Band A neu B: dim ond yn cynnwys prosiectau sydd eto i'w cwblhau.
  • Rhaglen Dreigl: pob prosiect sydd wedi'i gynnwys yn y rhaglen amlinellol strategol.

Math o brosiect: Dewiswch fath y prosiect o’r gwymplen. Os dewisir ‘arall’, nodwch y manylion yn yr adran sylwadau/nodiadau.

Disgrifiad o'r prosiect: Rhowch drosolwg byr o'r prosiect, gan nodi'r prif elfennau. Mae enghraifft wedi'i chynnwys yn y daenlen a dylai hyn fod yn llai na 50 gair.

Cyfeiriad a chod post: Cynhwyswch gyfeiriad a chod post campws sydd wedi'u cynnwys fel rhan o'r prosiect.

Etholaeth a rhanbarth y Senedd: Dewiswch Etholaeth a Rhanbarth y Senedd o'r cwymplenni perthnasol.

Rhai cwestiynau penodol

Mae'r adran oren yn cynnwys cwestiynau penodol sy'n ymwneud â'r prosiectau:

Arwynebedd y safle arfaethedig: Dylech gynnwys arwynebedd y safle arfaethedig ar gyfer y prosiect os yw'n hysbys. Os nad yw safle wedi'i bennu eto, dylech gynnwys arwynebedd gofynnol y safle yn unol â'r bwletin adeiladu perthnasol a chynnwys nodyn yn yr adran sylwadau/nodiadau.

Arwynebedd llawr arfaethedig: Ar gyfer cynlluniau adeiladu newydd, dylech gynnwys arwynebedd y llawr ar gyfer yr adeilad cyfan. Os nad yw'r adeilad wedi'i gynllunio, dylech gynnwys yr arwynebedd llawr gofynnol yn unol â'r bwletin adeiladu perthnasol. Ar gyfer cynlluniau adnewyddu, dim ond arwynebedd y rhan y cynigir ei  hadnewyddu y dylid ei gynnwys. Ar gyfer gwaith sy’n rhannol adnewyddu a rhannol adeiladu o’r newydd, dylech gynnwys arwynebedd yr elfennau unigol ar wahân.   

Cyfanswm cost y prosiect: Os yw'r prosiect wedi'i gymeradwyo yn yr FBC, yna dylid nodi cyfanswm cost y prosiect yn unol â'r llythyr dyfarnu grant. Os nad yw wedi’i gymeradwyo hyd yn hyn, dylai hyn gyfeirio at y rhaglen amlinellol strategol gymeradwy bresennol.

% cyllid sefydliadau addysg: Cynhwyswch ganran cyfraniad yr awdurdod lleol i'r prosiect.

Lefel carbon Sero Net: Dewiswch lefel carbon sero net o'r gwymplen. Mae hyn yn berthnasol i brosiectau sydd wedi'u cwblhau a phrosiectau arfaethedig a dylai adlewyrchu canllawiau'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Atodiad 16a: Canllawiau carbon Sero-Net). Os dewisir ‘arall’, nodwch y manylion yn yr adran sylwadau/nodiadau. 

Trosolwg o'r cyfleusterau cymunedol/a rennir: Darparwch drosolwg o'r cyfleusterau a fydd ar gael i'r gymuned eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys cydleoli gwasanaethau.

Caniatâd cynllunio: Nodwch a fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiect. Os felly, dylech gynnwys y dyddiad cymeradwyo disgwyliedig.

Prynu tir: Nodwch a oes angen prynu tir ar gyfer y prosiect. Os felly, dylech gynnwys y dyddiad cwblhau disgwyliedig. Os oes pryniant tir wedi'i gwblhau ar gyfer y prosiect, dylech nodi 'Oes' a chynnwys y dyddiad cwblhau go iawn.

Cymeradwyaeth achos busnes arfaethedig: Dylech gynnwys y mis rydych chi'n rhagweld y bydd y Panel yn ystyried yr achosion busnes perthnasol sy'n ofynnol ar gyfer y prosiect. Os yw FBC/BJC wedi'i gymeradwyo, dylech gynnwys y dyddiadau go iawn y cymeradwywyd yr achosion busnes.

Dull caffael arfaethedig: Dewiswch y dull caffael o'r gwymplen. Os dewisir ‘arall’, nodwch y manylion yn yr adran sylwadau/nodiadau.

Dyfarniad contract arfaethedig: Nodwch y dyddiad dyfarnu contract a ragwelir ar ôl tendro. Ar gyfer tendrau dau gam, hwn fyddai'r apwyntiad cam cyntaf.

Contractwr penodedig: Nodwch y contractwr penodedig os yw'n hysbys. Os nad yw'n hysbys, nodwch ‘i’w gadarnhau’.

Amserlenni arfaethedig: Nodwch yr amserlenni arfaethedig ar gyfer dechrau ar y safle, meddiannu adeiladau a chwblhau prosiectau. Byddai cwblhau'r prosiect yn cynnwys unrhyw waith allanol.

Sylwadau a nodiadau

Adran i ychwanegu unrhyw nodiadau neu esboniadau ychwanegol sy'n berthnasol i'r prosiect. Dylai’r adran hon egluro unrhyw ymatebion sy'n dangos 'arall' o'r cwymplenni.