Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

1. Mae'r ddogfen hon yn esbonio gweithdrefnau Llywodraeth Cymru ar gyfer cofrestru ysgolion annibynnol. Mae hefyd yn darparu canllawiau i helpu perchnogion, ac eraill, i ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol yn well. Mae’r rhain yn cynnwys bodloni'r safonau a nodir yn Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 (y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon fel 'y safonau').

2. Mae'n rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gael ei chofrestru gyda Llywodraeth Cymru. Rhaid gwneud ceisiadau ar gyfer cofrestru cyn i ysgol dderbyn unrhyw ddisgyblion. Mae'n anghyfreithlon:

  • rhedeg ysgol sydd heb ei chofrestru
  • i ysgol gofrestredig wneud newid sylweddol i'w chofrestriad cyn cael caniatâd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru

3. Nod y canllawiau hyn yw helpu darpar berchnogion a pherchnogion ysgolion annibynnol sydd eisoes wedi’u cofrestru gyda Llywodraeth Cymru i ddeall a chyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol yn well. 

4. At ddibenion Deddf Addysg 2002 a rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf, ystyr ‘perchennog’ yw'r person neu'r corff o bersonau sy'n gyfrifol am reoli'r ysgol a gall gynnwys unig berchennog, cyrff llywodraethu, ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr. Mae’r perchennog yn gyfrifol am sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024. Er y gallai’r pennaeth fod yn gyfrifol am redeg yr ysgol o ddydd i ddydd, y perchennog sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod y safonau'n cael eu bodloni.

5. Mae'r canllawiau'n cynnig cyngor ar bwyntiau a godir yn gyffredin, ond nid ydynt i’w defnyddio yn lle cyngor cyfreithiol annibynnol.

6. Er mwyn deall yr hyn sy'n ofynnol iddynt ei wneud, anogir ysgolion a pherchnogion i gyfeirio, lle bo hynny'n berthnasol, at:

7. Gallai’r wybodaeth yn y canllawiau hyn hefyd fod yn ddefnyddiol i bartïon eraill sydd â diddordeb, gan gynnwys:

  • uwch arweinwyr
  • staff
  • llywodraethwyr
  • aelodau o wahanol fathau o grwpiau rheoli
  • penaethiaid
  • rhieni a gofalwyr
  • gwasanaethau diogelu ac addysg awdurdodau lleol
  • timau comisiynu awdurdodau lleol

Defnyddio’r canllawiau hyn

8. Mae 4 rhan i'r canllawiau. Mae pob rhan yn ategu’r un blaenorol ac ni ddylid darllen un rhan ar ei phen ei hun. Dylid darllen y canllawiau yn eu cyfanrwydd. Mae’r canllawiau wedi’u cynllunio i helpu'r darllenydd i gael gwell ddealltwriaeth o’r rheoliadau a'r safonau a'u rhwymedigaethau mewn cysylltiad â'r rhain.

9. Mae Rhan 1 o'r canllawiau'n darparu gwybodaeth gefndirol am y gofynion deddfwriaethol ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru. Mae'n amlinellu prif rwymedigaethau cyfreithiol perchnogion ar gyfer cofrestru a chofrestriad parhaus. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a threfniadau ar gyfer arolygu ysgolion annibynnol.

10. Mae Rhan 2 yn egluro gweithdrefnau Llywodraeth Cymru ar gyfer cofrestru ysgolion annibynnol newydd a sut y dylai darpar berchennog fynd ati.

11. Mae Rhan 3 yn amlinellu'r gofynion ar gyfer cofrestriad parhaus ysgol annibynnol. Mae gwybodaeth wedi'i chynnwys am yr ystod o weithgareddau ôl-gofrestru arferol y mae'n rhaid i ysgol naill ai fod yn rhan ohonynt neu y gallent fod yn rhan ohonynt. Mae hyn yn rhan o ddyletswyddau'r perchennog o dan yr holl reoliadau y mae'n ofynnol i ysgolion annibynnol yng Nghymru gydymffurfio â nhw. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am effaith peidio â gwneud hynny.

12. Mae Rhan 4 yn nodi mwy o fanylion am y rheoliadau safonau ac yn rhoi gwybodaeth am arfer effeithiol wrth gydymffurfio â nhw. Nod yr adran hon yw cefnogi ysgolion annibynnol yn well wrth iddynt hunanwerthuso deilliannau disgyblion, ansawdd darpariaeth ac effaith arweinyddiaeth i fodloni'r holl ofynion rheoleiddio a sicrhau mwy o welliant. 

13. Gydol y canllawiau hyn defnyddir y termau 'rhaid', 'dylai' ac 'arfer effeithiol'. Defnyddir y term 'rhaid' pan fydd dyletswydd statudol i fodloni'r gofyniad. Defnyddir y gair 'dylai' pan ddylid dilyn y cyngor a nodir oni bai fod rheswm da dros beidio â’i ddilyn. Defnyddir y term 'arfer effeithiol' pan ystyrir y dylai'r lleoliad addysg ddilyn y cyngor, ond nid oes gofyniad i wneud hynny.

14. Mae rhai rheoliadau'n defnyddio'r term 'rhoi sylw i', sy'n golygu bod yn rhaid i chi ystyried canllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru, ymgysylltu â nhw, a'u hystyried yn ofalus cyn gwneud penderfyniad neu cyn penderfynu ar bolisi ac ymarfer.

15. Er nad yw'r canllawiau hyn yn statudol, byddai angen rheswm da dros wyro oddi wrthynt a chyfiawnhad dros beidio â chydymffurfio â nhw.

Rhan 1: Gwybodaeth allweddol

Cefndir

16. Mae'n rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gofrestru gyda Gweinidogion Cymru ac maent yn ddarostyngedig i fframwaith o reoliadau. Y prif reoliadau a'r gorchymyn yw:

17. Mae Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid i bob ysgol annibynnol eu bodloni fel amod cofrestru a hefyd ar gyfer parhau i fod yn gofrestredig. Mae'r safonau ysgolion annibynnol hyn yn cwmpasu:

  • ansawdd yr addysg a ddarperir
  • datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion
  • llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion
  • addasrwydd perchnogion, staff a staff cyflenwi
  • mangreoedd ysgolion a llety byrddio mewn ysgolion annibynnol
  • darparu gwybodaeth
  • y dull o ymdrin â chwynion

18. Hefyd, mae Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2024 yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i bob ymgeisydd sydd eisiau cofrestru ysgol annibynnol ei darparu i Weinidogion Cymru i’w hystyried ac, yn amodol ar gofrestru llwyddiannus, yr wybodaeth y mae'n rhaid i'r perchennog ei chyflwyno mewn ffurflen gychwynnol yn ogystal â ffurflenni blynyddol i Weinidogion Cymru.

19. Mae Rhannau 2, 3 a 4 o'r canllawiau hyn yn rhoi mwy o fanylion am Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2024. Mae Rhan 4 yn rhoi mwy o fanylion am arfer effeithiol wrth gydymffurfio â'r Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol. Mae Rhan 4 hefyd yn nodi'r camau i'w cymryd os oes gan aelod o staff bryderon ynghylch disgybl.

20. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn ceisio gosod gofynion manwl y sector a gynhelir ar ysgolion annibynnol yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n rhoi seiliau clir i Weinidogion Cymru dros gymryd camau effeithiol yn erbyn ysgolion annibynnol sy'n methu cydymffurfio'n gyson â'r safonau deddfwriaethol. Mewn achosion ynysig, os yw diffyg cydymffurfio yn ddigon difrifol, neu os nodir darparwyr addysg posibl nad ydynt yn debygol o allu cydymffurfio o’r diwrnod agor yn y lle cyntaf, cymerir camau effeithiol hefyd.

21. Hefyd, mae Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024 yn rhagnodi'r seiliau y caniateir rhoi cyfarwyddyd, o dan Adran 167A o Ddeddf Addysg 2002, i wahardd person rhag cymryd rhan mewn rheoli mewn ysgol annibynnol yng Nghymru neu’n gosod cyfyngiad ar allu person i wneud hynny.

Y diffiniad cyfreithiol o ysgol annibynnol

22. Y diffiniad cyfreithiol[Troednodyn 1] o ysgol annibynnol yw, fel y'i diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Addysg 1996, unrhyw ysgol lle darperir addysg amser llawn ar gyfer: 

Y rhwymedigaeth gyfreithiol i gofrestru ysgol annibynnol

23. Rhaid i bob sefydliad yng Nghymru sy'n bodloni'r diffiniad o ysgol annibynnol gofrestru gyda Gweinidogion Cymru a chydymffurfio â'r rheoliadau cyn iddynt ddechrau gweithredu. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn golygu bod yn rhaid i gais darpar berchennog i gofrestru gael ei wneud a'i gymeradwyo cyn derbyn unrhyw ddisgyblion.

24. Os yw darpariaeth y tu allan i'r diffiniad o ysgol annibynnol a roddir yn gynharach, ni fydd yn cael ei chofrestru gyda Llywodraeth Cymru fel ysgol annibynnol. Fodd bynnag, pan fo awdurdod lleol wedi gosod disgyblion mewn darpariaeth benodol, bydd angen iddo fod yn fodlon bod y plant hynny o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ddarpariaeth yn derbyn addysg amser llawn sy'n addas i'w hoedran, gallu, dawn, ac unrhyw ADY y gellid bod ganddynt.

25. Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Gall Estyn arolygu sefydliad y mae'n ystyried yn rhesymol ei fod yn gweithredu fel ysgol annibynnol heb gofrestriad fel y’i diffinnir yn Adran 159(4) o Ddeddf Addysg 2002. Bydd Estyn wedyn yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru. Mewn achosion o'r fath, bydd Estyn yn asesu a yw'r sefydliad yn bodloni'r diffiniad o ysgol annibynnol. Bydd hyn yn cynnwys asesu a yw'r ddarpariaeth yn bwriadu darparu addysg gyfan y plentyn neu ran sylweddol o’i addysg ai peidio.

26. Mae'n drosedd gweithredu ysgol annibynnol anghofrestredig cyn cael caniatâd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru. Gall unrhyw un sy'n gwneud hynny fod yn agored, yn dilyn euogfarn ddiannod, i ddirwy neu garchar o dan Adran 159(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002. Gallai gwneud newid sylweddol i fanylion cofrestredig cyn cael caniatâd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru arwain at dynnu'r ysgol annibynnol oddi ar y gofrestr. Mae hynny’n unol ag Adran 162(1) o Ddeddf Addysg 2002.

27. Mae'r adrannau sy'n dilyn wedi'u cynllunio i helpu darpar berchnogion, a rhai ysgolion annibynnol sydd eisoes wedi'u cofrestru gyda Llywodraeth Cymru, i ddeall yn well beth yw ystyr y diffiniad cyfreithiol o ysgol annibynnol a'r hyn sy'n ofynnol iddynt ei wneud mewn cysylltiad â hyn. Fodd bynnag, nid ydynt yn cymryd lle ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol pan nad yw darparwr yn sicr ynghylch cyfreithlondeb unrhyw agwedd ar ei ddarpariaeth.

Sut y diffinnir addysg amser llawn

28. Nid oes diffiniad cyfreithiol o addysg 'amser llawn'. Fodd bynnag, rydym o'r farn bod sefydliad yn darparu addysg amser llawn os yw'n darparu addysg y bwriedir iddi ddarparu holl addysg, neu ran sylweddol o holl addysg, plentyn.

29. Mae'r ffactorau perthnasol wrth benderfynu a yw addysg yn amser llawn yn cynnwys:

  • nifer yr oriau yr wythnos sy'n cael eu darparu, gan gynnwys seibiannau ac amser astudio annibynnol
  • nifer yr wythnosau yn ystod y tymor neu’r flwyddyn academaidd y darperir yr addysg
  • yr adeg o'r dydd y mae'n cael ei darparu
  • a yw'r ddarpariaeth addysg yn ymarferol yn atal y posibilrwydd y gellid darparu addysg amser llawn yn rhywle arall

Beth yw oedran ysgol gorfodol

30. Mae oedran ysgol gorfodol yn cwmpasu’r ystod oedran 5 i 16 oed. Bydd plentyn yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol[Troednodyn 5] ar un o'r 3 dyddiad canlynol yn y flwyddyn: diwrnod cyntaf mis Medi, Ionawr neu Ebrill. Bydd penderfynu pa un o'r dyddiadau oedran ysgol gorfodol hyn fydd yn cael ei gymhwyso yn dibynnu ar ddyddiad pen-blwydd y plentyn yn 5 oed fel y dangosir yn y pwyntiau bwled a'r enghraifft isod.

  • Os yw pen-blwydd plentyn yn 5 oed rhwng 1 Ebrill a 31 Awst, bydd o oedran ysgol gorfodol ar 1 Medi.
  • Os yw pen-blwydd plentyn yn 5 oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr, bydd o oedran ysgol gorfodol ar 1 Ionawr.
  • Os yw pen-blwydd plentyn yn 5 oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth, bydd o oedran ysgol gorfodol ar 1 Ebrill.

31. Bydd plentyn a aned ar 1 Ionawr 2019 yn cael ei ben-blwydd yn 5 oed ar 1 Ionawr 2024 ac, felly, ni fydd yn 5 cyn y dyddiad cymhwystra o 1 Ionawr 2024, ond bydd yn 5 cyn 1 Ebrill 2024. Felly, ni fydd o oedran ysgol gorfodol tan 1 Ebrill 2024.

Oedran gadael yr ysgol

32. Caiff disgyblion yng Nghymru adael yr ysgol ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin, cyn belled â'u bod yn 16 oed erbyn diwedd gwyliau'r haf y flwyddyn ysgol honno.

Darparu addysg i blant o dan 5 oed

33. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr sy'n darparu yn bennaf ar gyfer plant dan 5 oed gofrestru fel ysgol annibynnol dim ond os ydynt hefyd yn darparu addysg amser llawn ar gyfer:

  • o leiaf 5 disgybl o oedran ysgol gorfodol
  • un neu fwy o ddisgyblion o'r oedran hwnnw y cynhelir cynllun addysg, iechyd a gofal neu CDU neu ddatganiad o anghenion addysgol (datganiad) ar eu cyfer neu rai sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol

34. Fodd bynnag, os yw darparwr yn darparu ar gyfer plant o dan 5 oed, rhaid iddo gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.

Darparu addysg i fyfyrwyr dros 16 oed

35. Mae oedran ysgol gorfodol yn dod i ben ar ddiwedd gwyliau haf yr ysgol yn dilyn pen-blwydd disgybl yn 16 oed. Ni fydd sefydliad sy'n darparu ar gyfer myfyrwyr dros 16 oed yn unig yn cael ei gofrestru gyda Llywodraeth Cymru oherwydd ei fod y tu allan i gwmpas y diffiniad o ysgol annibynnol.

36. Fodd bynnag, rhaid i ddarparwyr sydd hefyd yn darparu ar gyfer:

  • 5 neu fwy o ddisgyblion oedran ysgol gorfodol
  • o leiaf un disgybl o oedran ysgol gorfodol y cynhelir cynllun addysg, iechyd a gofal neu CDU neu ddatganiad ar eu cyfer neu sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol gofrestru fel ysgol annibynnol

Darparu addysg gyda llety byrddio cysylltiedig i blant am fwy na 295 diwrnod y flwyddyn

37. O dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 1), diffinnir ysgol annibynnol gyda phreswylwyr fel cartref plant os yw'r sefydliad yn lletya un neu fwy o blant am dros 295 diwrnod y flwyddyn naill ai yn yr ysgol neu o dan drefniadau a wneir gan berchennog yr ysgol. Nid yw nifer y disgyblion sy'n cael eu lletya am gyfnodau byrrach, fel hyd y 3 thymor ysgol arferol, yn effeithio ar y diffiniad.

38. Mae’n ofynnol i ysgol annibynnol sy'n bodloni'r diffiniad o gartref plant gofrestru gydag AGC. Sylwch fod hyn yn ychwanegol at gofrestru fel ysgol annibynnol gyda Llywodraeth Cymru.

ADY

39. Yng Nghymru, y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yw'r system gymorth statudol newydd ar gyfer plant a phobl ifanc 0 i 25 oed sydd ag ADY. Dechreuodd y system hon weithredu'n raddol ym mis Medi 2021 ac mae'n parhau hyd at 2025. Am y rheswm hwn, drwy gydol y cyfnod gweithredu parhaus wrth i blant symud o'r system anghenion addysgol arbennig (AAA) i'r system ADY, byddwn yn cyfeirio at gynllun datblygu unigol (CDU) a datganiad.

40. Y ddeddfwriaeth sy'n darparu ar gyfer y system newydd yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET), Cod ADY Cymru a rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf. Mae ALNET yn disodli'r termau 'anghenion addysgol arbennig (AAA)' ac 'anawsterau a/neu anableddau dysgu' (AAD) gyda'r term newydd 'anghenion dysgu ychwanegol' (ADY).

41. Mae gan berson ADY os oes ganddo anhawster neu anabledd dysgu sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

42. Mae gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY, hawl i gynllun cymorth statudol o'r enw 'Cynllun Datblygu Unigol' (CDU). Mae plant a phobl ifanc ag ADY yn derbyn cymorth o'r enw darpariaeth ddysgu ychwanegol (ALP) a nodir yn eu CDU neu ddatganiad.

43. Ers mis Tachwedd 2020, mae'n ofynnol i bob cais i gofrestru ysgol annibynnol gynnwys gwybodaeth am y mathau o ALP a wneir gan yr ysgol.

44. Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi rhestr o'r ysgolion ar y gofrestr ysgolion annibynnol ac yn cynnwys, ar gyfer pob ysgol, yr wybodaeth a roddwyd iddynt am y mathau o ALP a wneir gan yr ysgol ar gyfer disgyblion ag ADY. Bydd yr wybodaeth yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol wrth baratoi neu adolygu cynlluniau datblygu unigol neu ddatganiadau, neu i ystyried a fyddai ysgol benodol yn gallu cyflawni’r ALP gofynnol. Efallai y bydd hefyd o ddiddordeb i rieni a gofalwyr wrth ystyried yr ysgol y byddent efallai yn dymuno i'w plentyn ei mynychu.

45. Mae canllawiau pellach ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer ADY disgyblion, a'r mathau o ALP y gallai ysgolion eu darparu, wedi'u cynnwys yn Rhan 2. Darperir canllawiau ychwanegol ynghylch gwneud newidiadau i'r math(au) o ALP a wneir gan ysgol ar ôl cofrestru yn Rhan 3.

Trefniadau ar gyfer arolygu ysgolion annibynnol cofrestredig

Estyn

46. Mae Estyn yn cynnal arolygiad cyn-gofrestru o'r holl ddarpar ysgolion annibynnol i gynghori Llywodraeth Cymru ar gydymffurfiad yr ysgol â'r rheoliadau safonau. MaeRhan 2 o'r canllawiau hyn yn rhoi mwy o fanylion am y broses arolygu cofrestriad.

47. Ar ôl cofrestru, bydd ysgolion yn cael arolygiad llawn gan Estyn, i asesu cydymffurfiad â'r safonau cofrestru. Gwneir hyn o leiaf bob 8 mlynedd fel arfer. Bydd Estyn hefyd yn cynnal arolygiadau monitro, fel arfer bob 12 i 18 mis mewn ysgolion annibynnol sydd wedi'u trefnu'n arbennig i gynnig ALP, ac eithrio’r flwyddyn pan drefnir arolygiad llawn. Hefyd, pan fo unrhyw ysgol annibynnol yn achosi pryder, bydd arolygiad fel arfer yn digwydd yn amlach.

48. Mae canllawiau ar arolygiadau ysgolion annibynnol presennol ar gael ar wefan Estyn.

49. Daw cylch presennol o arolygiadau Estyn ar gyfer ysgolion annibynnol, a'r rhan fwyaf o sectorau eraill, i ben yn haf 2024. Felly, mae Estyn yn adolygu sut mae'n arolygu addysg a hyfforddiant ym mhob sector o 2024 ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth a diweddariadau rheolaidd ar gael ar wefan Estyn: Arolygu ar gyfer y dyfodol (2024 i 2030).

AGC

50. Mae AGC yn arolygu llety byrddio a llesiant disgyblion mewn ysgolion byrddio bob 3 blynedd fel arfer. Mae’n arolygu ysgolion annibynnol sydd wedi'u trefnu'n arbennig i gynnig ALP, gan gynnwys y rhai hynny sydd ag addysg gysylltiedig a darpariaeth cartref plant, bob 18 mis fel arfer. Mae fel arfer yn arolygu ysgolion arbennig preswyl bob blwyddyn.

51. Os yw ysgol yn cynnig darpariaeth gofal plant megis ar gyfer darpariaeth diwrnod estynedig neu glwb gwyliau, mae gofyniad i'r ddarpariaeth hon gael ei chofrestru gydag AGC os yw cyfanswm yr amser gofal ar gyfer plant hyd at 12 oed yn fwy na 2 awr mewn unrhyw ddiwrnod ac yn fwy na 5 diwrnod y flwyddyn y tu allan i ddiwrnod ysgol amser llawn y plentyn a bydd angen i'r ysgol drafod cofrestru ar wahân gydag AGC.

52. Gall AGC ymweld ag unrhyw ysgol sy'n darparu llety byrddio neu ofal dydd i blant dan 12 oed ar unrhyw adeg, gyda rhybudd neu heb rybudd.

53. Mae canllawiau ynghylch arolygu ysgolion byrddio, cartrefi plant a gofal dydd i blant dan 12 oed ar gael ar wefan AGC. Ar hyn o bryd nid chodir unrhyw ffioedd am arolygiadau AGC.

54. Gall adrannau gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ymwneud ag ysgolion annibynnol os ydynt yn ystyried lleoli disgybl y bydd yr awdurdod lleol yn ariannu ei leoliad addysg yn yr ysgol benodol honno. Yn aml, ond nid bob amser, bydd gan y disgyblion hyn CDU neu ddatganiad.

55. Pan fo lleoliad disgybl a ariennir gan yr awdurdod lleol mewn ysgol annibynnol, bydd angen i'r awdurdod lleol sy'n lleoli fodloni ei hun y byddai anghenion y dysgwr yn cael eu diwallu'n briodol yn yr ysgol annibynnol benodol, os nad yw'r ddarpariaeth hon ar gael yn y sector a gynhelir.

56. Mae gan ysgol annibynnol lle mae disgybl a ariennir gan awdurdod lleol wedi’i leoli ddyletswydd i gydweithredu â'r awdurdod lleol ynghylch gwybodaeth a threfniadau penodol ar gyfer y dysgwr.

57. Wrth gynnal CDU neu ddatganiad ar gyfer plentyn o'r fath, er mwyn sicrhau'r ALP a bennir ynddo, dylai'r awdurdod weithio gyda'r ysgol i fodloni ei hun ei fod yn cael ei gyflawni.

Y camau nesaf

58. Os ydych yn ansicr a yw eich darpariaeth yn bodloni meini prawf ysgol annibynnol, dylech ofyn am gyngor annibynnol. Fodd bynnag, os ydych yn bwriadu cofrestru darpariaeth fel ysgol annibynnol, bydd angen i chi ystyried Rhan 2 o'r canllawiau hyn, sy'n nodi'r broses ar gyfer cofrestru.

Rhan 2: Gwneud cais i gofrestru ysgol annibynnol

59. Cyn gwneud cais, dylai perchnogion sicrhau eu bod yn darllen yr wybodaeth yn y rhan hon o'r canllawiau yn ogystal â Rhan 1 a Rhan 4. Bydd hyn yn rhoi iddynt ddealltwriaeth lawnach o'r safonau y mae'n rhaid i'r ysgol eu bodloni.

60. Mae Rhan 1 o'r canllawiau'n darparu gwybodaeth gefndirol am y gofynion deddfwriaethol ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru.

61. Mae Rhan 4 o'r canllawiau'n disgrifio'r safonau yn fanylach ynghyd â gwybodaeth am arfer effeithiol tuag at eu bodloni.

Rôl Llywodraeth Cymru

62. Mae'n rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru fod wedi cofrestru gyda Llywodraeth Cymru cyn iddynt ddechrau gweithredu.

63. Rhaid gwneud ceisiadau am gofrestriad a chael y cais wedi’i gymeradwyo cyn i ysgol dderbyn unrhyw ddisgyblion oedran ysgol statudol.

64. Mae'n drosedd i redeg ysgol heb ei chofrestru. Mae unrhyw un sy'n gwneud hynny yn agored i erlyniad.

65. Gallai gwneud newid sylweddol i fanylion cofrestru cyn cael caniatâd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru arwain at dynnu'r ysgol annibynnol oddi ar y gofrestr.

Trefniadau gweinyddol

Sut ydw i'n gwneud cais

66. Mae ffurflen gais electronig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Cofrestru ysgolion annibynnol: ffurflen gais.

67. Mae'r ffurflen gais yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi manylion eich ysgol arfaethedig. megis ystod oedran arfaethedig y disgyblion a mwyafswm nifer y disgyblion. Mae hefyd yn gofyn i chi gyflwyno'r eitemau canlynol fel amgaeadau i'r ffurflen:

  • Plan, wedi'i dynnu i raddfa (o leiaf 1:100), sy'n dangos cynllun y fangre a'r llety byrddio ar gyfer pob adeilad
  • Cynlluniau cwricwlwm manwl, cynlluniau gwaith manwl ar gyfer y pynciau a addysgir a'r gweithdrefnau manwl ar gyfer asesu gwaith a chynnydd disgyblion
  • Copi o bolisïau ysgrifenedig yr ysgol sy'n ofynnol gan baragraffau 2(1)(a), 6(b), 7(b), 8(a), 11(a), 12, 13, 15 a 29 o'r Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024. 
  • Copi o'r polisi ar y cwricwlwm, wedi'i ategu gan gynlluniau a chynlluniau gwaith priodol
  • Copi o'r polisi i ddiogelu a hyrwyddo lles disgyblion
  • Copi o'r polisi llety byrddio
  • Copi o'r polisi asesu risg sy'n cynnwys asesiad o'r gweithgareddau y tu allan i safle'r ysgol
  • Copi o'r polisi ymddygiad
  • Copi o'r polisi gwrth-fwlio
  • Copi o'r polisi iechyd a diogelwch sy'n cynnwys ystyriaeth o'r gweithgareddau y tu allan i safle'r ysgol 
  • Copi o'r polisi cymorth cyntaf
  • Copi o'r weithdrefn gwyno

Pa ddogfennau y dylid eu hystyried cyn cwblhau'r cais

68. Cyn gwneud cais, dylai'r darpar berchennog ddeall y rhwymedigaethau o dan y safonau y mae'n rhaid i'r ysgol eu bodloni a gynhwysir yn yr Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.

69. Mae'n bwysig ymgyfarwyddo â dogfennau canllawiau Llywodraeth Cymru sydd â hyperddolen iddynt yn yr adran 'Sut ydw i'n gwneud cais?' ar gyfer pob un o bolisïau ysgrifenedig gofynnol yr ysgol.

70. Dylech hefyd fod yn gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth sy'n gosod y safonau ar gyfer ysgolion annibynnol a materion eraill:

Beth am ALP

71. Mae'n ofynnol i bob cais i gofrestru ysgol annibynnol gynnwys gwybodaeth am y mathau o ALP sydd yn cael ei chynnig gan yr ysgol. Bydd yn dod yn ofyniad i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o ALP.

72. Mae’r adran ar darparu ar gyfer disgyblion sydd ag AAA neu ADY yn darparu gwybodaeth i ysgolion annibynnol a allai fod o gymorth.

Hyd y broses gofrestru

73. Bydd y broses gofrestru yn cymryd 4 mis o leiaf ar ôl i’r holl wybodaeth angenrheidiol ddod i law. Felly, dylid gwneud ceisiadau i gofrestru ymhell cyn i'r disgyblion gael eu derbyn. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr eich bod wedi crynhoi ac atodi'r holl wybodaeth sydd ei hangen cyn cyflwyno eich cais. Mae'n anochel y bydd cais anghyflawn yn cymryd mwy o amser i'w brosesu gan y bydd angen gofyn am ddogfennau coll a’u cyflwyno.

Cyfyngiadau o ran enw'r ysgol

74. Os gellir dehongli'r enw rydych chi'n ei gynnig ar gyfer eich ysgol fel un sy'n awgrymu cysylltiad Brenhinol, er enghraifft, y Frenhines, y Brenin, y Tywysog, mae mabwysiadu'r enw hwnnw yn gofyn am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'ch cais.

75. Yn absenoldeb cymeradwyaeth i ddefnyddio enw, fe'ch gwahoddir i awgrymu enw gwahanol. Bydd ysgolion dim ond yn cael eu cofrestru os yw'r enw'n addas. Os oes amheuaeth ynghylch defnyddio enw penodol, dylech ofyn am gyngor annibynnol.

Yr hyn sy'n digwydd unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn y ffurflen gais

76. Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a yw gofynion Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 yn cael eu bodloni ac yn debygol o barhau i gael eu bodloni cyn i ysgol gael ei hychwanegu at y rhestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru.

77. Pan dderbynnir cais cyflawn, bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu Estyn a fydd yn cysylltu'n uniongyrchol â'r ddarpariaeth i drefnu amser a dyddiad addas i gynnal ymweliad cyn-gofrestru.

78. Os y bwriad yw darparu llety byrddio newydd mewn ysgol newydd neu agor ysgol ar yr un fangre â chartref plant, cysylltir ag AGC hefyd.

Y broses ymweliadau cofrestru

79. Bydd arolygwyr o Estyn yn cynnal arolygiad cyn-gofrestru o'r holl ddarpar ysgolion annibynnol i gynghori Llywodraeth Cymru ynghylch cydymffurfiad yr ysgol â'r rheoliadau safonau.

Sut bydd Estyn neu AGC yn cynnal yr arolygiad cyn-gofrestru

80. Bydd yr arolygiaethau yn cysylltu'n uniongyrchol â'r ddarpariaeth i drefnu amser a dyddiad addas i gynnal ymweliad cyn-gofrestru. Bydd gan yr arolygwyr gopïau o'r dogfennau a oedd yn cyd-fynd â'r cais. Byddant yn:

  • archwilio'r dogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais
  • edrych ar y fangre arfaethedig
  • trafod gyda pherchennog yr ysgol y cynlluniau ar gyfer gweithredu'r ysgol

81. Bydd yr arolygiad yn ceisio tystiolaeth i farnu:

  • a yw’r fangre arfaethedig yn ddiogel ac yn addas
  • a yw'r cwricwlwm arfaethedig yn foddhaol 
  • a oes polisïau ar waith i ddiogelu a hyrwyddo llesiant, diogelwch a lles disgyblion

82. Yn dilyn yr ymweliad, bydd yr arolygiaethau yn cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y graddau y mae'r ddarpariaeth yn debygol o fodloni Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r adroddiad arolygu cyn-gofrestru

83. Pan fydd yr arolygiad wedi'i gwblhau, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y cais ac yn penderfynu a ellir cofrestru'r ysgol o dan adran 161(1) o Ddeddf Addysg 2002. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried yr adroddiad gan Estyn, a phan fo hynny'n briodol, AGC, ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sy'n ymwneud â'r Safonau Ysgolion Annibynnol wrth ddod i benderfyniad.

84. Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y safonau'n cael eu bodloni ac yn debygol o barhau i gael eu bodloni unwaith y bydd yr ysgol yn cael ei chofrestru fel ysgol annibynnol, yna bydd yn cael ei chofrestru o dan adran 161(3) o Ddeddf Addysg 2002.

85. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau bod eich ysgol wedi'i chofnodi ar Gofrestr Ysgolion Annibynnol Cymru. Bydd yr ysgol yn cael ei hychwanegu at y Gofrestr ar ddyddiad y llythyr cofrestru. Bydd y llythyr hwn hefyd yn eich hysbysu o’r canlynol:

  • rhif cofrestru eich ysgol
  • uchafswm nifer y disgyblion sy’n gallu bod ar y gofrestr
  • ystod oedran y disgyblion
  • cyfeiriad cofrestredig
  • a yw'r ysgol yn cynnig darpariaeth ddydd, byrddio neu breswyl
  • yr anghenion dysgu ychwanegol penodol y gall yr ysgol eu darparu ar eu cyfer, os yw'n berthnasol
  • bod angen cyflwyno ffurflen gychwynnol o fewn 90 diwrnod o dderbyn disgybl

Rhaid i chi beidio â derbyn unrhyw ddisgyblion i'r ysgol cyn i chi dderbyn y llythyr hwn gan Lywodraeth Cymru.

Beth sy'n digwydd os yw fy nghais yn aflwyddiannus

86. Bydd llythyr Llywodraeth Cymru yn esbonio'r rhesymau dros wrthod eich cais.

87. Gallwch ailgyflwyno'ch cais, ond ni fydd Llywodraeth Cymru ond yn ystyried ailgyflwyno os yw'n argyhoeddedig yr ymdriniwyd â’r rhesymau dros fethu. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, achosion lle ystyrir bod y fangre arfaethedig yn anaddas i'w defnyddio fel ysgol.

88. Ni ddylech dderbyn disgyblion o dan unrhyw amgylchiadau os yw eich cais yn aflwyddiannus. Trosedd yw gweithredu ysgol annibynnol anghofrestredig.

Ar ôl i'm hysgol gael ei chofrestru

89. O fewn y 3 thymor cyntaf ar ôl derbyn disgyblion oedran ysgol statudol, bydd arolygwyr Estyn yn arolygu eich ysgol eto i gadarnhau eich bod yn bodloni'r safonau ar gyfer cofrestriad parhaus. Er mwyn bodloni'r diffiniad ysgol annibynnol (5 disgybl neu un â CDU neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal neu sy'n derbyn gofal) disgwylir y bydd disgyblion oedran ysgol statudol yn cael eu derbyn i'r ysgol o fewn 3 mis i'r dyddiad cofrestru. 

90. Mae Rhan 3 o'r canllawiau hyn yn rhoi mwy o fanylion am yr ymweliad sy’n dilyn cofrestru.

Sut mae'r broses gofrestru yn wahanol i'r ysgolion sy'n dymuno darparu gofal preswyl newydd

91. Os darparu gofal preswyl newydd yw’r bwriad, fel cartref plant gyda darpariaeth addysgol, bydd angen cyflwyno cais ar wahân i gofrestru elfen gofal y ddarpariaeth yn uniongyrchol gydag AGC. Ni chaniateir i chi ddarparu addysg mewn adeilad heb ei gofrestru.

Y rôl sydd gan AGC wrth arolygu ysgolion byrddio

92. Caiff ysgolion byrddio annibynnol eu harolygu gan AGC. Mae AGC yn asesu'r ddarpariaeth breswyl o’i chymharu â Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Preswyl. Mae'r rhain yn cwmpasu 5 maes eang fel a ganlyn:

  • polisïau a gweithdrefnau llesiant 
  • trefnu a rheoli
  • cymorth llesiant i breswylwyr
  • staffio
  • mangreoedd

93. Bydd angen i ysgolion sy'n darparu gofal preswyl naill ai'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gyfeirio at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl.

94. Rhaid i unrhyw ysgol fyrddio sy'n darparu llety am fwy na 295 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis hefyd gael ei chofrestru gydag AGC. 

Pa mor aml y mae ysgolion annibynnol cofrestredig yn cael eu harolygu

95. Ar ôl cofrestru, bydd ysgolion yn cael arolygiad llawn gan Estyn, fel arfer bob wyth mlynedd o leiaf. Bydd yr arolygiad llawn yn barnu a oes cydymffurfiad parhaus â'r Safonau Ysgolion Annibynnol.

96. Bydd Estyn hefyd yn cynnal arolygiadau monitro blynyddol mewn ysgolion annibynnol sydd wedi'u trefnu'n arbennig i gynnig ALP, ac eithrio’r flwyddyn pan drefnir arolygiad llawn. Hefyd, pan fo unrhyw ysgol annibynnol yn achosi pryder, bydd arolygiad fel arfer yn digwydd yn amlach. Mae Rhan 3 yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn. Bydd AGC yn arolygu llety byrddio a llesiant disgyblion mewn ysgolion byrddio fel arfer bob tair blynedd, ond fel arfer 12 i 18 mis mewn ysgolion annibynnol sydd wedi'u trefnu'n arbennig i gynnig ALP, gan gynnwys yr ysgolion annibynnol hynny sydd ag addysg gysylltiedig a darpariaeth cartref plant.

Cofrestru i ddod yn ysgol ffydd neu ysgol eglwys

97. Gall ysgol annibynnol wneud cais am Statws Cymeriad Crefyddol.

98. Am ragor o fanylion, cysylltwch ag: YsgolionAnnibynnol@llyw.cymru

Rhan 3: Sut mae ysgolion yn cadw cofrestriad

Gwybodaeth sy'n ofynnol o fewn y 3 mis cyntaf o weithredu

99. Mewn ymateb i gais gan yr awdurdod cofrestru, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith o dan Reoliad 4 o Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2024 i'r perchennog gyflwyno ffurflen gychwynnol i Lywodraeth Cymru sy'n gorfod cynnwys gwybodaeth sy'n cadarnhau bod y gwiriadau cofnodion troseddol priodol wedi'u cynnal ar adeg penodi staff. Mae hynny’n unol â gofynion Rheoliad 4 a Rhan 3 o'r Ddeddf a Rhan 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau Ysgolion Annibynol (Darparu Gwybodaeth( (Cymru) 2024.

100. Mae angen rhagor o wybodaeth hefyd, fel nifer y disgyblion a'r staff yn yr ysgol. 

101. Yn unol â Rheoliad 6 o Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2024, gall methu â dychwelyd yr wybodaeth hon arwain at dynnu ysgol oddi ar y Gofrestr. Yn unol â Rheoliad 7 o Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2024, mae hynny hefyd yn drosedd.

Ymweliad dilynol ar ôl cofrestru

102. Pan fydd eich ysgol wedi'i chofrestru, a thua 2 neu 3 thymor ar ôl i'ch ysgol agor, byddwch yn derbyn hysbysiad am 'ymweliad dilynol ar ôl cofrestru' gan Estyn. Mae'r hysbysiad hwn fel arfer yn dod 10 diwrnod gwaith cyn yr ymweliad.

103. Diben yr ymweliad yw rhoi cyfle i arolygwyr Estyn asesu a yw eich ysgol yn parhau i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024. 

104. Bydd arolygwyr yn rhoi sylw arbennig i'r safonau a'r rheoliadau nad ydynt yn cael eu harolygu yn ystod yr ymweliad cyn-gofrestru. Gellir gwerthuso’r safonau a’r rheoliadau hyn yn fwy cadarn pan fydd disgyblion wedi'u derbyn ac mae'r ysgol yn weithredol. Er enghraifft, bydd y tîm arolygu yn edrych ar y safonau canlynol o’r Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.

  • Safon 1: 'Ansawdd yr addysg a ddarperir' 
  • Safon 3: gweithredu polisïau ar gyfer 'Llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion'

105. Ar ddiwedd yr ymweliad, bydd arolygwyr yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru:

  • a yw'r ysgol yn parhau i fodloni'r holl safonau yn llawn
  • a oes safonau y mae'r ysgol yn methu â’u bodloni yn llawn

106. Os yw eich ysgol yn bodloni'r holl safonau, bydd Estyn fel arfer yn cael arolygiad llawn bob 8 mlynedd i farnu cydymffurfiad parhaus. 

107. Bydd Estyn hefyd yn cynnal arolygiadau monitro mewn ysgolion annibynnol sydd wedi'u trefnu'n arbennig i ddarparu ALP, fel arfer bob 12 i 18 mis ac eithrio yn y flwyddyn pan fydd arolygiad llawn wedi'i drefnu. Gall Llywodraeth Cymru hefyd gomisiynu Estyn i gynnal ymweliad arolygu os yw eich ysgol yn dymuno gwneud 'newid sylweddol' i'w cofrestriad. Darperir manylion am y ddau fath o ymweliad arolygu a gweithgareddau arolygu eraill y gallech fod yn ymwneud â nhw, yn yr adrannau sy’n dilyn. 

108. Os nad yw eich ysgol yn bodloni'r holl safonau ar unrhyw adeg ar ôl cofrestru, bydd Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y diffygion yn cael eu cywiro. Mae paragraffau 147 i 151 hefyd yn mynd i'r afael â materion ynghylch yr hyn sy'n digwydd os nad yw ysgol yn bodloni'r safonau. 

Y ffurflen flynyddol

109. Bob blwyddyn (ym mis Ionawr fel arfer) mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ffurflen gyfrifiad i bob ysgol annibynnol yng Nghymru y mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddynt ei chwblhau erbyn y dyddiad cau a roddir. Mae'r ffurflenni cyfrifiad hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i:

  • gadw manylion cywir a chyfredol ar gyfer y Gofrestr Ysgolion Annibynnol
  • sicrhau bod pob ysgol annibynnol yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol penodol, megis gwiriadau priodol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer perchnogion a newidiadau sylweddol i gofrestriad

110. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ysgolion annibynnol gwblhau'r cyfrifiad blynyddol. Felly, gall methu â dychwelyd ffurflen y cyfrifiad erbyn y dyddiad cau a roddir arwain at Weinidogion Cymru yn cymryd camau i dynnu ysgol oddi ar y Gofrestr Ysgolion Annibynnol. Mae methu â’i dychwelyd hefyd yn drosedd.

Gwneud newidiadau i ysgol gofrestredig

111. Mae Adran 162 o Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion annibynnol gael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru cyn gwneud newidiadau sylweddol penodol.

Newidiadau i ysgolion sydd angen eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru

112. Mae’r paragraffau canlynol yn cynnwys rhestr o’r newidiadau sylweddol perthnasol, ynghyd â manylion yr wybodaeth ategol y mae'n rhaid i ysgolion ei darparu i Lywodraeth Cymru wrth wneud cais i gymeradwyo newid.

Newid perchennog

113. Bydd yn rhaid i berchennog newydd wneud cais am ddatgeliad DBS fel y gall Llywodraeth Cymru fod yn fodlon fod y perchennog newydd yn addas i weithio gyda phlant. Mae Rhan 4 yn esbonio'r weithdrefn hon yn fanylach. Bydd angen i'r perchennog newydd ddarparu'r un wybodaeth ag unrhyw berchennog sy'n gwneud cais i agor ysgol newydd. Bydd hyn yn cynnwys hanes cyflogaeth a geirdaon. Mae'r gofynion manwl wedi'u nodi'n llawn ym mharagraffau 2 i 6 o Atodlen Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) 2024.

Newid cyfeiriad ysgol

114. I newid cyfeiriad yr ysgol mae’n rhaid anfon y canlynol i Lywodraeth Cymru:

  • cyfeiriad post llawn
  • rhif ffôn
  • copi electronig o gynlluniau’r ysgol newydd a ddarluniwyd ar raddfa (o leiaf 1:100)
  • asesiad risg tân cyfredol

Newid yn ystod oedran disgyblion

115. Er mwyn cefnogi cais i newid ystod oedran disgyblion bydd angen copïau o'r dogfennau canlynol:

  • cynlluniau gwaith
  • cynlluniau asesu
  • polisi'r cwricwlwm ar gyfer yr ystod oedran newydd
  • nifer y plant yn y grŵp oedran newydd
  • nifer y staff addysgu ychwanegol a gyflogir i addysgu a chefnogi'r grŵp oedran newydd a'u cymwysterau
  • manylion unrhyw newidiadau mewn ystafelloedd dosbarth yn yr ysgol

116. Os yw'r newid arfaethedig hwn yn cynnwys gwaith adeiladu ar y fangre bresennol, cyflwynwch:

  • gopi o gynlluniau diwygiedig o'r fangre wedi'u darlunio ar raddfa (o leiaf 1:100) 
  • asesiad risg tân diwygiedig 

117. Sylwch, os bydd ysgol yn ymestyn ei hystod oedran i gynnwys darpariaeth feithrin, bydd angen i'r ysgol drafod cofrestru gydag AGC.

Newid ym mwyafswm nifer y disgyblion

118. Mae’n rhaid anfon manylion y newidiadau arfaethedig i gynyddu uchafswm nifer y disgyblion o'r nifer y mae'r ysgol wedi cofrestru ar ei gyfer ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru. 

119. Os yw'r cais hwn hefyd yn cynnwys un neu ragor o newidiadau sylweddol ychwanegol megis ystod oedran disgyblion neu fangre’r ysgol, bydd angen i ysgol roi'r wybodaeth ategol arall a amlinellir yn y rhannau perthnasol o'r adran hon i Lywodraeth Cymru.

Newid i dderbyn bechgyn yn unig, merched yn unig neu ddod yn gydaddysgol 

120. Os yw’r newidiadau yn gofyn am newidiadau i fangre’r ysgol, cyflwynwch:

  • gopi o gynlluniau diwygiedig y fangre a ddarluniwyd ar raddfa (o leiaf 1:100) 
  • asesiad risg tân diwygiedig

121. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn am:

  •  gopi o unrhyw gynlluniau cwricwlwm diwygiedig
  • manylion nifer y disgyblion ychwanegol arfaethedig 
  • nifer y staff addysgu ychwanegol a'u cymwysterau

Os yw ysgol yn derbyn disgyblion byrddio ar hyn o bryd, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn am:

  • fanylion unrhyw staff newydd nad ydynt yn athrawon a gyflogir a'u cymwysterau priodol

122. Dylech nodi y gall ysgolion annibynnol sydd wedi'u cofrestru fel elusennau gael eu llywodraethu gan offeryn neu offerynnau ymddiriedolaeth (Siarteri Brenhinol, statudau) sy'n cyfyngu’r ysgol i dderbyn disgyblion o un rhyw yn unig. Mae adran 99 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac Atodlen 14 iddi, yn rhoi pŵer i Weinidog y Goron wneud Gorchymyn yn dileu neu'n diwygio'r cyfyngiad un rhyw. Pan fo ysgol yn gwneud cais am Orchymyn o dan Atodlen 14 rhaid i'r ysgol gyhoeddi ei chynigion mewn papur newydd cyhoeddus. Rhaid i'r hysbysiad cyhoeddedig ddatgan bwriadau'r ysgol a gofyn i unrhyw sylwadau ar y cynnig gael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru. Bydd manylion pellach yn cael eu darparu ar gais.

Newid i ddarparu neu i roi’r gorau i ddarparu llety byrddio

123. Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am:

  • gopi o gynlluniau’r ysgol ar gyfer y fangre a ddarluniwyd ar raddfa (o leiaf 1:100), gan ddangos newidiadau disgwyliedig i’r fangre (megis lleoedd cysgu)
  • asesiad risg tân diwygiedig
  • manylion arfaethedig yn ymwneud â nifer y preswylwyr, ystod eu hoedran a’u rhywedd
  • manylion unrhyw staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu newydd arfaethedig a gyflogir, a'u cymwysterau

Bydd yn rhaid i'r ysgol fodloni'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Preswyl perthnasol. Bydd copi o'r cynlluniau hyn yn cael ei anfon ymlaen i AGC i'w cymeradwyo ac yna ceir arolygiad o’r fangre.

124. Noder, os bydd ysgol yn rhoi’r gorau i ddarparu llety byrddio, mae’n rhaid i'r perchennog hysbysu Llywodraeth Cymru hefyd.

Newid i dderbyn disgyblion neu roi'r gorau i dderbyn disgyblion ag ADY neu newid mathau o ALP a gynigir

125. Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am:

  • fanylion am nifer ac ystod oedran disgyblion arfaethedig
  • gwybodaeth am y mathau o ALP sydd i'w darparu
  • gan ddibynnu ar nifer y disgyblion y darperir ar eu cyfer, manylion y cwricwlwm, cynlluniau gwaith a, phan wnaed newidiadau i fangre’r ysgol, copi o gynlluniau'r ysgol a ddarluniwyd ar raddfa (o leiaf 1:100)

126. Os cynigir newidiadau i'r math neu'r mathau o ALP sydd i'w cynnig gan eich ysgol, rhaid i'r perchennog hysbysu Llywodraeth Cymru yn ysgrifenedig a disgwyl am gymeradwyaeth ffurfiol cyn cyflwyno'r newid arfaethedig. 

127. Dim ond os yw'r ysgol yn bwriadu darparu math gwahanol o ALP y mae angen cymeradwyaeth ar gyfer newid sylweddol. Nid oes angen gwneud cais am gymeradwyaeth newid sylweddol lle mae'r ALP gwirioneddol yn amrywio, ar yr amod bod y ddarpariaeth o fewn y disgrifiad o'r mathau o ALP a wnaed. 

128. Rhaid i ysgol hefyd hysbysu Llywodraeth Cymru os yw’n bwriadu rhoi'r gorau i ddarparu rhai mathau penodol o ALP yn barhaol fel y gellir diweddaru'r gofrestr a gyhoeddwyd.

Y broses ymgeisio

129. Rhaid i'r perchennog wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer unrhyw newid sylweddol i Lywodraeth Cymru neu yn achos cymeradwyo newid perchennog, cais gan y perchennog newydd arfaethedig.Mae hyn yn unol ag Adran 162(3) o Ddeddf Addysg 2002. Mae'n bwysig iawn gwneud cais am newid ymhell ymlaen llaw fel y gellir ystyried y cais, a chael cymeradwyaeth mewn pryd. Gellir gwneud ceisiadau mewn e-bost i ysgolionannibynnol@llyw.cymru.

130. Pan fydd Llywodraeth Cymru wedi ystyried cais ysgol i wneud newid sylweddol, gall benderfynu bod angen ymweliad arolygu newid sylweddol. Bydd yn comisiynu Estyn neu AGC i gynnal yr ymweliad arolygu hwnnw. 

131. Lle bydd ymweliad arolygu newid sylweddol, bydd arolygwyr yn ystyried goblygiadau'r newid sylweddol. Byddant hefyd yn argymell i Lywodraeth Cymru a yw'r ysgol yn debygol o fodloni'r safonau perthnasol os bydd y newid sylweddol yn cael ei weithredu. 

132. Fel yr awdurdod cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol, bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu a ddylid cymeradwyo'r cais am newid sylweddol, yn seiliedig ar ganlyniad yr ymweliad arolygu ac unrhyw dystiolaeth arall sydd ganddi am gydymffurfiad tebygol yr ysgol â'r safonau.

133. Mae gan ysgolion hawl i apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf os bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthod cais. Mae hyn yn unol ag Adran 166(1)(a) o Ddeddf Addysg 2002. 

134. Pan wneir newid sylweddol heb gymeradwyaeth, gall Gweinidogion Cymru gyhoeddi penderfyniad i dynnu'r ysgol oddi ar y Gofrestr Ysgolion Annibynnol neu ei gwneud yn ofynnol i'r ysgol roi'r gorau i ddefnyddio'r fangre at ddiben penodol, neu roi'r gorau i dderbyn disgyblion newydd.

135. Yn ogystal â'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer newid sylweddol, mae gan ysgolion annibynnol ddyletswydd i sicrhau bod unrhyw newidiadau i fangre’r ysgol yn cydymffurfio â Safon 5 y rheoliadau safonau ysgolion. Felly, mae'n arfer effeithiol rhoi manylion i Lywodraeth Cymru am newidiadau arfaethedig i fangre ysgolion. Bydd hyn yn:

  • caniatáu i'r fangre gael ei harolygu fel y bo'n briodol cyn i'r cyfleusterau newydd gael eu defnyddio
  • lleihau'r tebygolrwydd y bydd ysgol yn methu â chydymffurfio â Safon 5 y rheoliadau safonau ysgolion

Ymweliadau monitro i ysgolion annibynnol sydd wedi'u trefnu'n arbennig i gynnig darpariaeth ddysgu ychwanegol

136. Yn aml, disgyblion ag ADY yw rhai o'r disgyblion mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cais blynyddol i Estyn ddarparu cyngor a chymorth parhaus ynghylch addysg a lles y disgyblion hyn.

137. Mae'r ymweliad monitro wedi'i gynllunio i werthuso:

  • cydymffurfiaeth barhaus pob ysgol â'r safonau 
  • cynnydd pob ysgol yn erbyn argymhellion yr ymweliad monitro blaenorol neu'r arolygiad craidd

Os oes gan yr ysgol lety preswyl neu os oes llety preswyl cysylltiedig ynghlwm wrth yr ysgol fel cartref plant, gall arolygwyr AGC hefyd ddarparu tystiolaeth ar gyfer yr ymweliad.

138. Er y bydd arolygwyr yn gwirio cydymffurfiaeth â'r safonau, ni fyddant o reidrwydd yn gwirio cydymffurfiaeth â phob safon ar bob ymweliad.

139. Bydd canlyniad yr ymweliad yn cael ei adrodd i Lywodraeth Cymru. Bydd arolygwyr yn:

  • amlinellu cryfderau a meysydd datblygu'r ysgol
  • adrodd ar y cynnydd y mae'r ysgol wedi'i wneud wrth fynd i'r afael ag argymhellion yr ymweliad monitro blaenorol
  • adrodd a yw'r ysgol yn parhau i fodloni'r holl safonau yn llawn

140. Os nad yw'r ysgol yn cydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion yn y safonau, bydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r ysgol gyflwyno cynllun gweithredu i fynd i'r afael â sut y bydd y diffygion hyn yn cael eu datrys. Mae hyn yn unol ag Adran 165 o Ddeddf Addysg 2002. Rhaid i'r cynllun gweithredu:

  • nodi'r unigolion sy'n gyfrifol am weithredu
  • sefydlu amserlenni penodol ar gyfer cwblhau pob cam gweithredu a cherrig milltir addas a fydd yn galluogi staff i farnu cynnydd tuag at gwblhau pob camau
  • diffinio'r meini prawf ar gyfer barnu llwyddiant neu fel arall y camau gweithredu wrth gyflawni eu hamcanion
  • nodi’r adnoddau ariannol ac amser a ddyrennir i bob cam

Gweithgareddau arolygu eraill a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion annibynnol cofrestredig

141. Yn ogystal â chomisiynu Estyn ac AGC i gynnal arolygiadau craidd a'r ystod o ymweliadau arolygu a nodir uchod, gall Llywodraeth Cymru eu comisiynu i gynnal ymweliad arolygu neu weithgareddau arolygu cysylltiedig ag ysgol annibynnol ar unrhyw adeg y tu allan i'r cylch arolygu arferol i roi cyngor iddi. 

142. Gall mathau eraill o weithgareddau arolygu gynnwys, er enghraifft, ymateb i gynlluniau gweithredu ar ôl arolygiad a chynnal gwaith monitro ôl-arolygiad neu ymweliad arolygu â phwyslais arbennig. 

Beth sy'n digwydd pan fydd ysgol yn methu â bodloni'r safonau

143. O dan adran 165 o Ddeddf Addysg 2002, fel yr awdurdod cofrestru, caiff Gweinidogion Cymru gymryd ystod o gamau gorfodi yn erbyn ysgol annibynnol pan fônt yn fodlon nad yw un neu fwy o'r safonau'n cael eu bodloni. 

144. Os yw Llywodraeth Cymru yn fodlon, yn dilyn adroddiad gan Estyn, neu AGC, o arolygiad craidd, ymweliad arolygu monitro gan yr arolygiaethau neu unrhyw dystiolaeth arall nad yw un neu fwy o'r safonau'n cael eu bodloni ac mae'r arolygiaethau o'r farn bod risg o niwed i lesiant disgyblion yn yr ysgol, caiff Gweinidogion Cymru dynnu’r ysgol oddi ar y Gofrestr Ysgolion Annibynnol ar y cyfryw ddyddiad ar ôl yr apêl, y mae Gweinidogion Cymru yn ei bennu. 

145. Pan nad yw Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad i gau'r ysgol ar ôl derbyn tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio ag un neu fwy o'r safonau, yna rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno hysbysiad i'r ysgol yn nodi'r safonau dan sylw a gofyn i'r perchennog gyflwyno cynllun gweithredu o fewn cyfnod penodedig. Rhaid i'r cynllun gweithredu ôl-arolygiad nodi'r camau y bydd yr ysgol yn eu cymryd i fodloni'r safonau. 

146. Ar ôl cyflwyno'r cynllun gweithredu, gall Llywodraeth Cymru ofyn am gyngor gan Estyn neu AGC pan fo hynny'n briodol. Yna bydd naill ai'n:

  • cymeradwyo'r cynllun gydag addasiadau neu heb addasiadau
  • gwrthod y cynllun

Os oes angen diwygio'r cynllun gweithredu neu ei gryfhau, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor i'r ysgol am hyn ac yn rhoi cyfnod ychwanegol o amser i'r ysgol ailgyflwyno ei chynllun. Fel arfer, ni fydd yr amser ychwanegol hwn yn fwy na 10 diwrnod gwaith.

147. Ar ôl i Lywodraeth Cymru gadarnhau gyda'r ysgol bod y cynllun gweithredu wedi'i dderbyn, bydd yn cysylltu â'r arolygiaethau i benderfynu ar amserlen briodol a'r math priodol o gamau dilynol i'w cymryd. Gallai'r camau hyn gynnwys ymarfer desg neu ei gwneud yn ofynnol i'r arolygiaethau ailymweld â'r ysgol i sicrhau bod y camau gweithredu wedi'u gweithredu'n effeithiol.

Beth sy'n digwydd pan na fydd ysgol yn darparu cynllun gweithredu erbyn y dyddiad a bennwyd

148. Os na fydd ysgol yn darparu cynllun gweithredu erbyn y dyddiad a bennwyd, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llythyr dilynol i'r ysgol ymateb iddi. Bydd y llythyr yn nodi y gallai methu â darparu'r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani arwain at gamau gweithredu, fel y nodir ym mharagraff 150. Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau gweithredu ar ôl arolygiad ym mharagraffau 279 i 281.

Beth sy'n digwydd pan fo cynllun gweithredu wedi'i gymeradwyo ond nad yw'r camau a nodwyd wedi'u cymryd erbyn y dyddiad gofynnol

149. Pan fo cynllun gweithredu wedi'i gymeradwyo ond nad yw'r camau a nodwyd wedi'u cymryd erbyn y dyddiad gofynnol:

  • caiff Llywodraeth Cymru roi dyddiad diweddarach yn lle'r dyddiad hwnnw
  • gall Gweinidogion Cymru wneud Gorchymyn fel yr amlinellir isod 
  • gall Gweinidogion Cymru benderfynu bod yr ysgol i'w thynnu oddi ar y Gofrestr ar y cyfryw ddyddiad ar ôl yr apêl y mae’r awdurdod yn ei bennu

Beth yw'r sancsiynau os oes angen cynllun gweithredu ond nad yw'n cael ei gyflwyno neu'n cael ei gyflwyno ond yn cael ei wrthod

150. Pan fo angen cynllun gweithredu ond nad yw'n cael ei gyflwyno neu’n cael ei gyflwyno ond yn cael ei wrthod, gall Llywodraeth Cymru bennu bod yr ysgol i gael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Ysgolion Annibynnol ar y cyfryw ddyddiad ar ôl yr apêl y mae’r awdurdod yn ei bennu. Fel arall, caiff Gweinidogion Cymru wneud Gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ysgol wneud un neu fwy o'r canlynol heb fod yn hwyrach na'r cyfryw ddyddiad ar ôl y cyfnod apelio a bennir yn y Gorchymyn:

  • rhoi'r gorau i ddefnyddio unrhyw ran o fangre'r ysgol at bob diben neu ddibenion a bennir yn y Gorchymyn
  • cau unrhyw ran o weithgareddau'r ysgol
  • rhoi’r gorau i dderbyn unrhyw ddisgyblion newydd, neu fath o ddisgyblion newydd a bennir yn y Gorchymyn

Hawl i apelio

151. O dan ddarpariaethau adran 166 o Ddeddf Addysg 2002, mae gan berchennog ysgol hawl i apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn unrhyw Orchymyn a wneir gan Weinidogion Cym’u sy'n effeithio ar gofrestriad yr ysgol’ Mae'n rh’id i'r cais gael ei wneud o fewn 28 diwrnod i:

Tribiwnlys Safonau Gofal
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Llawr 1
Llys Ynadon Darlington
Parkgate
DL1 1RU
Y Deyrnas Unedig

ffôn: 01325 289 350

Ffacs: 01264 785 013

e-bost cst@justice.gov.uk.

Sylw dyledus ysgolion annibynnol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP)

152. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau plant. Yn 2004 mabwysiadodd CCUHP fel sail ar gyfer llunio polisïau sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc.

153. Mae 4 erthygl allweddol sy'n sail i'r hawliau a nodir yn y CCUHP:

  • yr hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu (erthygl 2)
  • ymrwymiad i fudd pennaf y plentyn (erthygl 3)
  • yr hawl i fywyd, goroesi a datblygu (erthygl 6)
  • yr hawl i gael eu clywed (erthygl 12)

154. Mae'r gofyniad yn Safon 1 (ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol, paragraff 2(2)) yn ymrwymo ysgol i ddarparu addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd sy'n adlewyrchu ei nodau a'i hethos gan annog parch at bobl eraill. Efallai yr hoffai’r ysgol roi sylw i ganllawiau Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru ynghylch hawliau dynol, amrywiaeth a'r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (1). Mae Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau Safonau yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion ystyried egwyddorion Rhan 1 o CCUHP wrth ddatblygu polisïau, cynlluniau a chynlluniau gwaith ysgol yn ogystal â mewn cysylltiad ag addysgu yn yr ysgol.

155. Mae Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 hefyd yn cynnwys gofynion i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP.

156. Mae'r Comisiynydd Plant hefyd wedi cyhoeddi 'Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant i Addysg yng Nghymru' sy’n fframwaith ar gyfer gweithio gyda phlant, wedi'i seilio ar CCUHP. Datblygwyd y model a nodir yn y canllawiau ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru. Mae'n berthnasol ar draws y sector addysg, i ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol.

Y camau y dylai ysgol eu cymryd os oes pryderon bod plentyn mewn perygl o niwed

157. Rhaid i'r holl staff sy'n gweithio mewn ysgol annibynnol ystyried Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae’r gweithdrefnau hyn yn nodi'r ddyletswydd i adrodd i'r awdurdod lleol pan fo achos rhesymol dros gredu bod plentyn mewn perygl o:

  • gael ei gam-drin
  • cael ei esgeuluso
  • dioddef math arall o niwed

Mae'r camau gweithredu penodol sydd i'w cymryd wedi'u nodi yn Rhan 4.

Y gofynion os nad oes gan ysgol ddisgyblion ar y gofrestr

158. Er mwyn bodloni'r meini prawf ar gyfer cofrestru fel ysgol annibynnol, disgwylir y bydd yr ysgol wedi derbyn disgyblion oedran ysgol statudol er mwyn bodloni'r diffiniad o ysgol annibynnol (5 disgybl neu un sydd â CDU/Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal neu un sy'n derbyn gofal) o fewn 3 mis i'r dyddiad cofrestru. Mae ysgol nad yw'n derbyn disgyblion o fewn y 3 mis cychwynnol yn agored i gael ei chofrestriad wedi’i ddiddymu gan Weinidogion Cymru. 

159. Er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru ac Estyn yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael, pan fo ysgol annibynnol a oedd â disgyblion oedran ysgol statudol yn flaenorol mewn sefyllfa lle nad oes disgyblion ar y gofrestr am y dyfodol rhagweladwy (o leiaf dau dymor academaidd fel arfer), gohirir ymweliadau monitro yn ystod y cyfnod hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn caniatáu i ysgol annibynnol aros ar y gofrestr, heb unrhyw ddisgyblion, am dair blynedd o'r dyddiad pan nad oedd disgyblion ar y gofrestr nes i'r cofrestriad ddod i ben. Ar ôl hyn, bydd angen i'r ysgol ailymgeisio i gofrestru yn ôl yr angen.

160. Os bydd ysgol yn bwriadu cofrestru disgyblion yn ystod y cyfnod 3 blynedd hwn, rhaid iddynt hysbysu Llywodraeth Cymru un tymor ymlaen llaw. Mae hyn er mwyn sicrhau bod Estyn a phan fo hynny'n briodol, AGC, yn gallu ailddechrau ei swyddogaeth monitro ac arolygu.

Gofyniad i staff mewn ysgolion annibynnol gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA)

161. Mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol (Cymru) 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i bob athro a gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol gofrestru gyda CGA. Yn benodol, mae Rhan 2 o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 yn nodi'r manylion ar gyfer gwasanaethau athrawon ysgol annibynnol, a'r gofyniad i berson sy'n athro ysgol annibynnol neu'n weithiwr cymorth dysgu ysgol annibynnol gael ei gofrestru. Mae Rhan 4 o'r canllawiau hyn yn rhoi rhagor o fanylion am yr agwedd hon.

Gofynion ar gyfer rhoi gwybod am achosion o gamymddwyn neu anghymhwysedd staff

162. Mae gan bob cyflogwr (gan gynnwys asiantaethau cyflenwi athrawon) yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i roi gwybod i'r awdurdod perthnasol am achosion o gamymddwyn proffesiynol ac anghymhwysedd fel sy'n ofynnol o dan adrannau 35 a 36 o’r Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu Reoliadau Addysg (Cyflwyno Gwybodaeth) (Cymru) 2009.

163. Rhaid i gyflogwyr adrodd am yr achos i'r DBS os ydynt wedi symud unigolyn o weithgaredd rheoledig, neu y byddent wedi gwneud hynny pe na bai'r person dan sylw wedi peidio â chymryd rhan mewn gweithgaredd o'r fath fel arall, oherwydd bod y cyflogwr o'r farn:

  • bod y person wedi ymgymryd ag ymddygiad perthnasol, neu 
  • y gallai’r person:
    • niweidio plentyn neu oedolyn agored i niwed
    • achosi i blentyn neu oedolyn agored i niwed gael ei niweidio
    • rhoi plentyn neu oedolyn agored i niwed mewn sefyllfa lle gallai gael ei niweidio
    • annog rhywun arall i niweidio plentyn neu oedolyn agored i niwed

164. Mewn achosion o'r fath, rhaid i gyflogwyr adrodd am yr achos i'r DBS. Mewn achosion eraill pan fo cyflogwyr yn rhoi’r gorau i ddefnyddio gwasanaethau athro cofrestredig ar sail camymddwyn, anghymhwystra proffesiynol neu euogfarn am drosedd berthnasol, a phan nad yw'r ymddygiad yn cynnwys niwed, neu berygl o niwed, i blentyn, mae'n ofynnol i gyflogwyr gyflwyno adroddiad i CGA.

165. Mae canllawiau pellach ar yr amgylchiadau pan ddylid atgyfeirio a'r wybodaeth y dylid ei darparu i'r awdurdod perthnasol i'w cael yn Cadw dysgwyr yn ddiogel: Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002 a Diogelu plant mewn addysg: ymdrin â honiadau o gam-drin yn erbyn athrawon a staff eraill.

Beth sy'n digwydd pan fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu bod unrhyw berson sy'n gweithio mewn ysgol yn anaddas i weithio gyda phlant, yn anaddas i weithio fel athro neu’n anaddas i gymryd rhan yn y gwaith o reoli'r ysgol

166. Mae adran 169 o Ddeddf Addysg 2002, a'r rheoliadau a wnaed oddi tani, yn caniatáu i Lywodraeth Cymru dynnu ysgol oddi ar y Gofrestr (cau'r ysgol) os yw person sy'n gweithio yno, neu'r perchennog, yn destun gorchymyn, penderfyniad neu gyfarwyddyd a ragnodir gan y rheoliadau neu'n gwneud gwaith a ragnodir gan y rheoliadau. Mae Rheoliadau Addysg (Ysgolion Annibynnol) (Personau Anaddas) (Cymru) 2009 yn rhestru personau yr ystyrir eu bod yn anaddas i wneud gwaith rhagnodedig mewn ysgolion annibynnol yng Nghymru.

167. Mae Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli (Cymru) 2024 yn rhagnodi'r seiliau y caniateir rhoi cyfarwyddyd o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 ("cyfarwyddyd adran 167A") sy'n gwahardd person rhag cymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol yng Nghymru neu’n gosod cyfyngiad ar allu person i wneud hynny.

Rhan 4: Canllawiau ar fodloni Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024

168. Rhaid i ysgolion annibynnol fodloni Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol Cymru 2024. Mae rhai rheoliadau'n defnyddio'r term 'rhoi sylw i', sy'n golygu bod yn rhaid i ysgolion ystyried canllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru, ymgysylltu â nhw, a'u hystyried yn ofalus cyn gwneud penderfyniad neu benderfynu ar bolisi ac ymarfer.

169. Mae'r hyn sy'n ofynnol i fodloni pob un o'r safonau hyn wedi'i nodi yn Atodlen Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.

Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024

170. Disgrifir pob safon yn fanylach yn y paragraffau sy’n dilyn. Ceir ynddynt hefyd arweiniad a gwybodaeth ychwanegol mewn sawl maes y codir cwestiynau amdanynt yn aml. Fodd bynnag, er bod y canllawiau'n cynnig cyngor ar bwyntiau a godir yn gyffredin, nid yw'n cymryd lle darllen a deall y safonau llawn eu hunain na cheisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

171. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn ceisio gosod gofynion manwl y sector a gynhelir ar ysgolion annibynnol yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n rhoi seiliau clir i Weinidogion Cymru ar gyfer gymryd camau effeithiol mewn achosion pan fo ysgolion annibynnol yn methu'n gyson â chydymffurfio â'r safonau. Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn caniatáu i gamau gael eu cymryd mewn achosion unigol o fethu â chydymffurfio pan fo'r methiannau hynny'n ddigon difrifol.

Safon 1: Ansawdd yr addysg a ddarperir

172. Diben cyffredinol safon 1 yw sicrhau bod gan ysgol gwricwlwm sy'n:

  • cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau pwnc
  • sy’n cael ei gyflwyno trwy addysgu a fydd yn galluogi pob disgybl i wneud cynnydd da yn unol â'i allu, a bod cynnydd o'r fath yn cael ei asesu'n briodol fel rhan o broses barhaus sy'n cyfrannu wedyn at wersi

173. Mae'n rhaid i ysgolion annibynnol gynnig addysg amser llawn dan oruchwyliaeth ar gyfer pob disgybl o oedran ysgol gorfodol (rhwng 5 ac 16 oed). Mae hyn yn cynnwys deunydd pwnc sy'n briodol i oedran, doniau ac anghenion pob disgybl, gan gynnwys y rhai sydd â chynllun datblygu unigol neu ddatganiad. Rhaid i'r ysgol lunio polisi cwricwlwm ysgrifenedig sy'n nodi dull yr ysgol o addysgu, a gefnogir gan gynlluniau a chynlluniau gwaith priodol. Rhaid i'r rhain beidio â thanseilio:

  • gwerthoedd sylfaenol democratiaeth
  • rheolaeth y gyfraith
  • rhyddid unigol
  • cydbarch a goddefgarwch tuag at ffydd a chredoau eraill

Rhaid i gynlluniau polisi ysgrifenedig a chynlluniau gwaith yr ysgol hefyd ystyried egwyddorion Rhan 1 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Dim gofyniad i addysgu Cwricwlwm i Gymru

174. Ni fwriedir i'r rheoliadau fod yn rhagnodol ynglŷn â'r ffordd y mae ysgol yn trefnu ei chwricwlwm. Yn ogystal â hynny, nid ydynt yn ei gwneud yn ofynnol i'r ysgol ddilyn Cwricwlwm i Gymru ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol.

175. Wrth baratoi i arolygwyr farnu cydymffurfiaeth â'r safon hon ar ymweliad cofrestru cychwynnol, rhaid i ysgol:

  • fod â pholisi cwricwlwm a chynlluniau cwricwlwm eang ar gyfer disgyblion o wahanol oedrannau a galluoedd, sy'n briodol i anghenion dysgu'r disgyblion a fydd yn mynychu ac yn eu galluogi i wneud cynnydd da
  • bod â chynllun ar gyfer gweithgareddau ar y safle, oddi ar y safle ac o bell, pan fo hynny'n briodol
  • rhoi syniad o sut olwg fydd ar ddysgu ac asesu yng nghyfnodau allweddol y datblygiad, gan ymdrin â'r holl feysydd dysgu
  • rhoi arwydd o'r cymwysterau neu'r achrediadau y bydd disgyblion yn barod ar eu cyfer, pan fo hynny'n briodol

176. Mae'n rhaid i'r ysgol roi profiad i ddisgyblion yn y meysydd canlynol a (rhaid i gynlluniau a chynlluniau gwaith ddangos sut mae pob maes yn dod yn rhan o wead cwricwlwm yr ysgol).

Iaith, cyfathrebu a sgiliau (gan gynnwys siarad, gwrando a llythrennedd)

Mae'r maes hwn yn ymwneud â datblygu sgiliau llythrennedd cyffredinol disgyblion a chynyddu eu meistrolaeth dros iaith trwy wrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Os iaith nad yw’n Gymraeg nac yn Saesneg yw prif iaith dysgu, rhaid cael gwersi mewn Cymraeg neu Saesneg ysgrifenedig a llafar. Ni fydd y gofyniad hwn yn berthnasol mewn cysylltiad ag ysgol annibynnol sydd dim ond yn darparu addysg i ddisgyblion sydd i gyd yn preswylio dros dro yng Nghymru ac sy'n dilyn cwricwlwm gwlad arall.

Mathemateg a sgiliau (gan gynnwys rhifedd)

Mae'r maes hwn yn ymwneud â:

  • datblygu gallu'r disgyblion i wneud cyfrifiadau
  • datblygu gallu'r disgyblion i ddeall a gwerthfawrogi perthnasoedd a phatrymau mewn rhif, siâp a gofod 
  • datblygu hyder disgyblion a'u gallu i feddwl yn rhesymegol trwy gymhwyso eu sgiliau mewn ystod eang o sefyllfaoedd a mynegi eu hunain yn glir

Dylid datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o fathemateg a rhifedd mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys:

  • gweithgaredd ymarferol
  • datrys problemau bywyd go iawn
  • archwilio
  • trafod

Gwyddoniaeth

Mae'r maes hwn yn ymwneud â chynyddu:

  • gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o natur, deunyddiau a grymoedd
  • sgiliau dysgwyr mewn perthynas â gwyddoniaeth fel proses ymholi, er enghraifft, arsylwi, ffurfio damcaniaethau, cynnal arbrofion, a chofnodi eu canfyddiadau

Technoleg

Mae disgresiwn eang ynghylch sut mae ysgolion yn datblygu cwricwlwm i ddysgu sgiliau technolegol. Er enghraifft, efallai na fydd rhai ysgolion yn dymuno annog agweddau penodol ar dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu, neu ddim o gwbl o bosibl. Rhaid i'r ysgolion hyn sicrhau bod disgyblion yn gyfarwydd yn gysyniadol â'r sgiliau a'r dechnoleg ddigidol y dônt ar eu traws mewn bywyd bob dydd megis ar gyfer cyllid, busnes a chyfathrebu, gan gynnwys ffonau symudol. Er y gall sgiliau technolegol gynnwys defnyddio TGCh, maent yn gyffredinol yn ymwneud â:

  • datblygu, cynllunio a chyfathrebu syniadau
  • gweithio gydag offer, deunyddiau a chydrannau i gynhyrchu cynhyrchion o ansawdd da
  • gwerthuso prosesau a chynhyrchion

Dyniaethau

Mae'r maes hwn yn ymwneud â:

  • phobl a'u hamgylchedd
  • sut mae gweithredu dynol, nawr ac yn y gorffennol, wedi dylanwadu ar ddigwyddiadau ac amodau

Yn aml mae pynciau hanes a daearyddiaeth yn gwneud cyfraniad cryf yn y maes hwn.

Iechyd a lles

Nod y maes hwn yw helpu disgyblion i ddatblygu eu:

  • hiechyd a datblygiad corfforol
  • iechyd meddwl
  • lles emosiynol a chymdeithasol
  • rheolaeth a chydsymudiad corfforol
  • sgiliau tactegol
  • ymatebion dychmygus

Mae hefyd â’r nod o’u helpu i:

  • werthuso a gwella eu perfformiad
  • meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol ffitrwydd ac iechyd
  • deall a gwerthfawrogi sut mae gwahanol gydrannau iechyd a lles yn rhyng-gysylltiedig

Mae’r maes hefyd yn cydnabod bod iechyd a lles da yn bwysig i alluogi dysgu llwyddiannus.

Y celfyddydau mynegiannol

Mae'r maes hwn yn ymwneud â phrosesau gwneud, cyfansoddi a dyfeisio. Mae'n helpu disgyblion i ddatblygu eu doniau creadigol, eu sgiliau artistig a'u sgiliau perfformio. Mae agweddau mynegiannol, esthetig a chreadigol ar bob pwnc, ond mae rhai yn gwneud cyfraniad arbennig o gryf. Mae’r rhain yn cynnwys y rheini sy’n gofyn am ymatebion personol, dychmygus ac ymarferol yn aml, megis:

  • celf
  • cerddoriaeth
  • dawns
  • drama
  • astudio llenyddiaeth

Trwy ymgysylltu â'r celfyddydau mynegiannol, gall disgyblion gael dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'u diwylliannau a'u cymdeithasau eu hunain ac eraill.

177. Er nad yw Cwricwlwm i Gymru yn orfodol i ysgolion annibynnol, gall ysgolion gael gwybodaeth gyfredol amdano o wefan 'Cwricwlwm ac Asesu' Llywodraeth Cymru.

Addysgu

178. Mae Rhan 1 o'r safonau'n cynnwys nifer o ofynion sy'n ymwneud â chyflawni addysgu yn yr ysgol. Nodir y rhain yn y safon ym mharagraff 2(3) o Atodlen y Rheoliadau Safonau. Mae rhagor o wybodaeth hefyd yn cael ei rhoi yn yr adran nesaf.

Cymwysterau staff mewn ysgolion annibynnol

179. Nid oes unrhyw ofyniad fod rhaid i athrawon mewn ysgolion annibynnol fod yn athrawon cymwysedig. Rhaid i bob athro feddu ar arbenigedd neu brofiad perthnasol. Rhaid iddynt hefyd ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r pwnc sy'n cael ei addysgu. Rhaid i addysgu yn yr ysgol gynnwys gwersi sydd wedi'u cynllunio'n dda sy'n ystyried galluoedd, anghenion a chyraeddiadau blaenorol y disgyblion, meithrin diddordeb yn eu gwaith a'r gallu i feddwl drostynt eu hunain, a galluogi disgyblion i gaffael gwybodaeth newydd a gwneud cynnydd da yn unol â'u gallu.

180. Bydd disgwyl i ysgolion preswyl annibynnol hefyd gyflogi staff ategol a gofal plant digonol sydd â chymwysterau a phrofiad priodol. Mae'n rhaid i ysgol annibynnol sy'n derbyn disgyblion ag ADY fod â digon o staff sydd â phrofiad addas.

Safon 2: Datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion

181. Diben y safon hon yw sicrhau bod trefniadau'r ysgol ar gyfer datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn eu galluogi i:

  • chwarae rôl hyderus, wybodus mewn cymdeithas
  • bod â system werth wedi'i datblygu'n llawn
  • gallu rhyngweithio â phobl eraill mewn ffordd gadarnhaol

Yn aml, gall meysydd pwnc fel addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) ac addysg grefyddol wneud cyfraniadau cryf ond gall gwaith o fewn pob pwnc arall gyfrannu hefyd.

182. Er mwyn cydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen y Rheoliadau Safonau, rhaid i'r perchennog fynd ati i hyrwyddo:

  • gwerthoedd sylfaenol democratiaeth 
  • cefnogaeth ar gyfer cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, rheolaeth y gyfraith, rhyddid unigol, cydbarch a goddefgarwch tuag at ffydd a chredoau eraill
  • gwybodaeth a dealltwriaeth yn ymwneud â Rhan 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

183. Rhaid i'r perchennog hefyd sicrhau bod yr ysgol yn mynd ati i hyrwyddo egwyddorion sy'n galluogi disgyblion i ddatblygu eu:

  • hunan-wybodaeth
  • hunan-barch
  • hunanhyder

Rhaid cefnogi disgyblion i:

  • wahaniaethu rhwng y da a’r drwg 
  • gweithredu'n gyson â'u credoau ac ystyried canlyniadau eu gweithredoedd eu hunain a gweithredoedd eraill

Rhaid annog disgyblion i ddangos blaengaredd a deall sut y gallant gyfrannu'n gadarnhaol at:

  • fywydau'r rhai yng nghymuned yr ysgol
  • bywydau'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal y mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi
  • y gymdeithas yn ehangach. 

184. Mae'r Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 yn cynnwys gofynion penodol bod rhaid i'r perchennog:

  • atal hyrwyddo safbwyntiau gwleidyddol pleidiol wrth addysgu unrhyw bwnc yn yr ysgol
  • cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau pan dynnir sylw disgyblion at faterion gwleidyddol, ym mhob agwedd ar fywyd ysgol, y cynigir cyflwyniad cytbwys iddynt o safbwyntiau gwrthwynebol

Safon 3: Llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion

185. Mae gofynion Safon 3 yn ymdrin ag ystod eang o faterion ond yn gyffredinol maent wedi'u cynllunio i sicrhau bod disgyblion yn ddiogel cyn belled ag y bo modd, a bod eu llesiant yn cael ei hyrwyddo.

186. Er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau, rhaid i'r perchennog sicrhau:

187. Pan fo'r ysgol yn darparu llety byrddio, rhaid i'r perchennog sicrhau -

188. Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog sicrhau:

  • bod llesiant disgyblion yn yr ysgol yn cael ei ddiogelu a'i hyrwyddo drwy lunio a gweithredu polisi asesu risg ysgrifenedig yn effeithiol sy'n cynnwys asesu gweithgareddau a wneir y tu allan i fangre’r ysgol
  • bod camau priodol yn cael eu cymryd i leihau'r risgiau a nodir

Cyfrifoldebau arweinyddiaeth

189. Mae'r rheoliadau ar gyfer Rhan 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog sicrhau bod personau sydd â chyfrifoldebau arwain a rheoli yn yr ysgol yn mynd ati i hyrwyddo lles disgyblion, a bod:

  • yr holl staff (gan gynnwys staff cyflenwi), gwirfoddolwyr a disgyblion yn cael hyfforddiant priodol o ran polisi diogelu'r ysgol yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â diogelu
  • cofnod ysgrifenedig o'r hyfforddiant hwnnw'n cael ei gadw

190. Rhaid i unrhyw un sy'n gweithio mewn ysgol annibynnol ystyried Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae’r gweithdrefnau hyn yn nodi'r ddyletswydd i adrodd i'r awdurdod lleol pan fo achos rhesymol dros gredu bod plentyn mewn perygl o:

  • gael ei gam-drin
  • cael ei esgeuluso
  • dioddef math arall o niwed

Fel arfer, bydd hyn yn cael ei wneud drwy'r Person Diogelu Dynodedig. Fodd bynnag, diogelwch y plentyn yw’r flaenoriaeth. Felly, os oes pryder uniongyrchol, bydd angen i staff gysylltu â'r awdurdod lleol yn uniongyrchol.

191. Mae plentyn sydd mewn perygl yn cael ei ddiffinio fel plentyn:

  • sy’n profi neu mewn perygl o brofi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed
  • sydd ag anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio)

Y camau penodol y dylai'r ysgol eu cymryd os oes gan aelod o staff bryderon am blentyn

192. Os oes gan aelodau staff bryderon bod plentyn mewn perygl o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ddioddef niwed arall, rhaid iddynt godi'r rhain gyda'r Person Diogelu Dynodedig. Yna mae'n rhaid i'r Person Diogelu Dynodedig benderfynu a yw'n briodol cyflwyno adroddiad i'r gwasanaethau cymdeithasol neu'r heddlu. Mae'n bwysig nodi y gall unrhyw aelod o staff hefyd roi gwybod am bryderon i wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol neu i'r heddlu'n uniongyrchol. Fodd bynnag, mae cysylltu â'r Person Diogelu Dynodedig yn cael ei gynghori ym mhob achos pan fo hynny'n bosibl.

193. Dylai pryderon bob amser arwain at gymorth a chefnogaeth, naill ai drwy:

  • adroddiad i'r gwasanaethau cymdeithasol
  • cymorth uniongyrchol drwy'r ysgol neu wasanaeth arall fel gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Dylai'r Person Diogelu Dynodedig rannu gyda'r aelod o staff sy'n llunio’r adroddiad a'r perchennog:

  • gamau cychwynnol arfaethedig, gan gynnwys cyfeirio neu’r ffaith na chymerir camau pellach
  • pwy fydd yn gweithredu

194. Lle mae pryderon uniongyrchol am ddiogelwch plentyn neu lle amheuir trosedd yn erbyn plentyn, rhaid cysylltu â'r gwasanaethau brys yn ddi-oed i ddiogelu'r plentyn rhag risg o niwed difrifol.

Adrodd

195. Rhaid i adroddiad y gallai plentyn fod mewn perygl ar-lein neu all-lein gael ei gyflwyno i'r gwasanaethau cymdeithasol o fewn 24 awr i’r pryder gael ei nodi. Y tu allan i oriau swyddfa, rhaid cyflwyno adroddiadau i wasanaeth dyletswydd brys y gwasanaethau cymdeithasol neu i'r heddlu.

196. Pan gyflwynir adroddiad wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, rhaid ei gadarnhau'n ysgrifenedig o fewn 24 awr.

197. Pan fo ar gael, dylid cyflwyno'r adroddiad drwy ddefnyddio ffurflen safonol benodol ar gyfer yr awdurdod lleol perthnasol. Rhaid i'r adroddiad gynnwys:

  • gwybodaeth sylfaenol neu graidd
  • yr hyn sy’n achosi’r pryder
  • unrhyw wybodaeth berthnasol a gedwir gan yr asiantaeth

198. Dylai unrhyw un sy'n gweithio mewn ysgol fod yn ymwybodol na all aros yn ddienw pe bai’n cyflwyno adroddiad.

Ymgysylltu â’r broses amddiffyn plant

199. Efallai y gofynnir i unrhyw aelod o staff sy'n cyflwyno adroddiad gwblhau rhywfaint neu'r cyfan o'r tasgau canlynol. Dylai'r ysgol sicrhau bod gan staff ddigon o amser ac adnoddau angenrheidiol eraill i gyflawni'r tasgau hyn yn effeithiol. Dylai staff fod yn barod ac yn fodlon i wneud y canlynol:

  • cynorthwyo gyda'r ymholiadau amddiffyn plant o dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989 
  • mynd i’r gynhadledd amddiffyn plant
  • darparu adroddiad ysgrifenedig ar gyfer y gynhadledd amddiffyn plant 
  • cyfrannu at yr asesiadau cychwynnol a chraidd 
  • mynd i gyfarfodydd grŵp craidd

200. Dylai perchennog, staff a gwirfoddolwyr ysgolion ymgyfarwyddo â'r gofynion o ran arfer effeithiol yn:

Hyrwyddo ymddygiad da

201. Rhaid i'r perchennog hyrwyddo ymddygiad da ymhlith disgyblion drwy sicrhau bod polisi ymddygiad ysgrifenedig yn cael ei lunio a'i weithredu'n effeithiol sy'n:

  • annog ac yn gwobrwyo ymddygiad da
  • nodi'r sancsiynau sydd i'w mabwysiadu pe bai disgyblion yn camymddwyn
  • sy’n rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru

a bod cofnod yn cael ei gadw o'r sancsiynau a osodir ar ddisgyblion am gamymddwyn difrifol.

202. Rhaid i'r perchennog hefyd sicrhau bod bwlio yn yr ysgol yn cael ei atal cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, drwy lunio a gweithredu strategaeth wrth-fwlio effeithiol.

Iechyd a diogelwch

203. Er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau, rhaid i'r perchennog sicrhau cydymffurfiaeth â deddfau iechyd a diogelwch perthnasol drwy lunio polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig a'i weithredu'n effeithiol. Mae’r polisi hwn yn cynnwys ystyried gweithgareddau y tu allan i fangre’r ysgol annibynnol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol.

Adolygu a diweddaru polisïau a strategaethau

204. Rhaid i'r perchennog:

  • sicrhau bod yr holl bolisïau a strategaethau sydd eu hangen i hyrwyddo llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion yn cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd
  • cadw cofnod ysgrifenedig o pryd y cafodd pob polisi a strategaeth eu hadolygu a'u diweddaru

205. Rhaid i berchnogion geisio trin eu polisïau a'u trefniadau fel 'dogfennau byw'. Dylent gael eu hystyried a'u defnyddio fel sylfaen arfer da a’u teilwra'n briodol i gyd-destun yr ysgol. Rhaid i berchnogion ystyried pa mor gryf yw'r cysylltiadau rhwng eu polisïau a'u harferion, ac os yw'n briodol, cymryd camau i sicrhau bod adolygiad rheolaidd, hyfforddiant staff, ac ystyriaeth o oblygiadau digwyddiadau yn yr ysgol i gyd yn rhan o ddiwylliant yr ysgol. 

206. Mae hefyd yn arfer effeithiol i berchnogion sicrhau bod eu polisi a'u harferion yn seiliedig ar farn eang o'r hyn a allai ddigwydd i ddisgyblion, nid yn unig yn yr ysgol ond hefyd y tu hwnt iddi. Er nad yw ysgolion yn gyfrifol am lesiant disgyblion pan nad ydynt yn yr ysgol, gall ysgolion chwarae rhan sylweddol o hyd wrth sicrhau bod disgyblion yn llai agored i niwed mewn rhannau eraill o'u bywydau. 

207. Gall ysgolion ddefnyddio polisïau gan sefydliadau eraill megis gan 'riant', ‘gofalwr’ neu grŵp cymdeithas o ysgolion. Rhaid i'r polisïau hyn fod yn gwbl gywir ac yn adlewyrchu'r ysgol unigol. Bydd arolygwyr yn gwirio bod staff yn ymwybodol o'r polisïau a phan fo hynny'n briodol, wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu, llunio a gweithredu'r polisïau hyn. Os nad yw polisïau wedi'u teilwra'n briodol i amgylchiadau'r ysgol neu os nad yw staff yn ymwybodol o'r polisïau ac nad ydynt yn eu gweithredu, yna nid yw'r ysgol yn cydymffurfio â'r rheoliad perthnasol.

Rhagofalon tân

208. Rhaid i'r perchennog sicrhau cydymffurfiaeth â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 O dan y Gorchymyn hwn mae'n ddyletswydd ar gyflogwr i gynnal asesiad risg addas a digonol o'r gweithle er mwyn nodi rhagofalon tân cyffredinol angenrheidiol. Rhaid gwneud cofnod ffurfiol o'r canfyddiadau a'r mesurau sylweddol a gymerwyd i liniaru'r risgiau. Dylai'r asesiad gynnwys:

  • risgiau tân
  • gofyniad am systemau synhwyro a rhybuddio am dân
  • ffyrdd o ddianc
  • offer diffodd tân
  • cynllunio ar gyfer argyfwng a hyfforddiant i staff
  • cynnal a chadw a phrofi offer diogelwch tân

209. Bob blwyddyn, fel rhan o ffurflen ddata’r cyfrifiad blynyddol, bydd angen cadarnhad o'r asesiad risg ar Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, os oes:

  • newidiadau i lety
  • cynnydd o fwy na 10% yn nifer y disgyblion
  • argymhellion yr Awdurdod Tân heb eu gweithredu

yna bydd rhaid trefnu arolygiad cynharach.

Cymorth cyntaf

210. Rhaid i'r perchennog sicrhau bod cymorth cyntaf yn cael ei weinyddu'n amserol a chymwys trwy lunio polisi cymorth cyntaf ysgrifenedig a’i weithredu’n effeithiol.

Cofrestrau derbyn a phresenoldeb

211. Rhaid i berchnogion ysgolion annibynnol sicrhau bod cofrestrau derbyn a phresenoldeb yn cael eu cynnal yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 434 o Ddeddf Addysg 1996 ac yn benodol Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 sy'n llywodraethu hyn.

212. Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r manylion sy'n ofynnol yn y cofrestrau a'r dull o'u cwblhau.

213. Yn unol â Paragraff 28(6)(b) o atodlen Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024, rhaid i berchnogion ysgolion annibynnol sicrhau bod y cofrestrau ar gael i'w harchwilio. Mae hefyd yn ofynnol i berchnogion gyflwyno ffurflenni i'r awdurdod lleol sy'n nodi enwau unrhyw blant sy'n methu â mynychu'r ysgol yn rheolaidd yn unol â gofynion Rheoliad 12(1)(a) o’r Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010.

Yr wybodaeth i’w chofnodi yn y gofrestr dderbyn

214. Rhaid i'r gofrestr dderbyn ar gyfer pob ysgol gynnwys mynegai yn nhrefn yr wyddor o’r holl ddisgyblion yr ysgol. Rhaid iddi hefyd gynnwys y manylion canlynol mewn cysylltiad â phob disgybl o'r fath:

  • enw llawn
  • rhyw
  • enw a chyfeiriad pob person y mae’r perchennog yn gwybod ei fod yn rhiant neu’n ofalwr disgybl ac, ochr yn ochr â’r cofnod ar y gofrestr, fanylion unrhyw riant neu ofalwr y mae'r disgybl fel arfer yn byw gydag ef, arwydd o'r ffaith honno ac o leiaf un rhif ffôn ar gyfer cysylltu â'r rhiant neu’r gofalwr mewn argyfwng
  • diwrnod, mis a blwyddyn geni
  • diwrnod, mis a blwyddyn derbyn neu ail-dderbyn i'r ysgol
  • enw a chyfeiriad yr ysgol ddiwethaf a fynychwyd (os o gwbl)
  • dyddiad gadael (pan fo'n hysbys) 
  • mewn ysgolion byrddio, p'un a yw'r disgybl yn breswylydd neu'n ddisgybl dydd, a diwygir yr wybodaeth hon pan fydd disgybl cofrestredig yn dod yn breswylydd neu'n peidio â bod yn breswylydd yn yr ysgol

Gwybodaeth i’w chofnodi yn y gofrestr bresenoldeb

215. Mae'n ofynnol i ysgolion sy'n darparu darpariaeth ddydd lenwi cofrestr bresenoldeb ddwywaith y dydd, ar ddechrau sesiwn y bore ac unwaith yn ystod sesiwn y prynhawn. Rhaid i’r cofrestru yn y prynhawn fod ar ddechrau neu yn ystod sesiwn y prynhawn, nid ar ddiwedd sesiwn y bore nac yn ystod yr egwyl rhwng sesiynau. Mae'r gofrestr yn dangos:

  • a yw'r disgybl yn bresennol
  • a yw'r disgybl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol cymeradwy oddi ar y safle
  • a yw'r disgybl yn absennol
  • nad oes angen i’r disgybl fynychu’r ysgol

216. Pan fo disgybl o oedran ysgol gorfodol, rhaid i'r gofrestr ddangos pa un a awdurdodwyd yr absenoldeb gan yr ysgol neu nad awdurdodwyd yr absenoldeb. Absenoldeb awdurdodedig yw pan fo'r ysgol naill ai wedi rhoi cymeradwyaeth ymlaen llaw i'r disgybl fod yn absennol o'r ysgol, neu pan fo esboniad a gynigiwyd wedyn wedi ei dderbyn gan yr ysgol fel cyfiawnhad boddhaol dros absenoldeb.

217. Mae 'Canllawiau ar godau presenoldeb yn yr ysgol' Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor i ysgolion annibynnol ar ddefnyddio codau i gofnodi presenoldeb ac absenoldeb mewn ysgolion. Mae canllawiau pellach ar gofrestrau presenoldeb hefyd ar gael yn 'Cynnwys a chynorthwyo disgyblion: canllawiau ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol', gan gynnwys manylion am ddull ysgol gyfan o fynd i'r afael â phresenoldeb a rhestr wirio ar gyfer datblygu polisi presenoldeb.

Safon 4: Addasrwydd perchenogion a staff

218. Rhaid i bob perchennog ysgol annibynnol gydymffurfio â gofynion Rhan 4 o Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.

Y broses y dylai'r perchennog ei dilyn wrth wneud cais i gofrestru ei ysgol fel un annibynnol newydd neu pan fydd perchennog yn newid

219. Er bod y paragraffau canlynol sy'n ymwneud â pherchnogion wedi'u bwriadu ar gyfer ceisiadau ysgol newydd, rhaid i ysgolion presennol ddilyn y weithdrefn hon os yw’r perchennog yn newid.

220. Fel rhan o'r broses ymgeisio neu os bydd y perchennog yn newid, mae cyfrifoldeb ar y perchennog i sicrhau:

  • nad yw’n torri neu’n mynd yn groes i unrhyw waharddiad rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd rheoledig neu waharddiad rhag cymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol sydd wedi’i sefydlu
  • bod ganddo hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig 

221. Bydd yn ofynnol i'r perchennog gael gwiriad DBS manylach (wedi'i adnewyddu bob 3 blynedd) a rhaid iddo gyflwyno hwn i Lywodraeth Cymru a chael ei chymeradwyaeth. I wneud cais am wiriad DBS perchennog, anfonwch e-bost i ysgolionannibynnol@llyw.cymru gyda'r wybodaeth ganlynol am y perchennog:

  • enw llawn (teitl, cyfenw ac enwau cyntaf)
  • rhif ffôn
  • cyfeiriad e-bost
  • dyddiad geni

222. Mae'n rhaid i'r perchennog dalu £44 i Lywodraeth Cymru sy'n talu'r ffi y mae DBS yn ei godi ar Lywodraeth Cymru. Bydd manylion am sut i dalu yn cael eu darparu ar adeg y cais.

223. Ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn taliad, anfonir ffurflen electronig at y perchennog er mwyn iddo ei llenwi. Bydd canllawiau ychwanegol yn cael eu darparu gyda'r ffurflen yn manylu ar y 3 ffurf adnabod y mae'n rhaid eu sganio a'u dychwelyd gyda'r ffurflen gais.

224. Os na dderbynnir dogfennau neu’r ffurfiau adnabod o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i'r ffurflen gael ei hanfon allan, bydd yr achos yn cael ei gau, a bydd angen cyflwyno cais newydd.

225. Ar ôl i’r perchennog gyflwyno ei ffurflen a'i ddogfennau adnabod, bydd swyddog fetio Llywodraeth Cymru yn cysylltu ag ef i drefnu amser a dyddiad addas ar gyfer apwyntiad fetio i gadarnhau pwy ydyw. Yn yr apwyntiad hwn, rhaid i ddogfennau adnabod fod yn rhai gwreiddiol, nid llungopïau neu gopïau ar-lein.

226. Yn dilyn yr apwyntiad fetio, anfonir dolen ychwanegol at y perchennog a bydd angen iddo roi gwybodaeth yn ei sgil a'i chyflwyno i gael ei phrosesu.

227. Bydd ymgeiswyr ar gyfer gwiriadau DBS yn derbyn eu tystysgrif yn uniongyrchol oddi wrth y DBS.

228. Mewn unrhyw achos, pan fo'r wybodaeth a ddarperir gan y DBS yn wahanol i'r hyn a ddarperir gan yr ymgeisydd, rhoddir cyfle i ymgeiswyr esbonio.

Sut y gall datgelu cofnod troseddol atal person rhag dod yn berchennog ysgol annibynnol

229. Ni fydd datgelu cofnod troseddol, na gwybodaeth arall, o reidrwydd yn atal person rhag dod yn berchennog ysgol annibynnol oni bai fod Llywodraeth Cymru o'r farn bod yr euogfarn yn ei wneud yn anaddas. Wrth wneud y penderfyniad hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried natur y drosedd, pa mor bell yn ôl y cyflawnwyd y drosedd, oedran y person pan gyflawnwyd y drosedd a ffactorau eraill a allai fod yn berthnasol.

230. Mae Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli (Cymru) 2024 yn pennu'r seiliau ar gyfer caniatáu cyfarwyddyd o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 yn gwahardd person rhag cymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol yng Nghymru neu’n gosod cyfyngiad ar allu unigolyn i wneud hynny. Gellir rhoi cyfarwyddyd adran 167A mewn cysylltiad â pherson:

  • sydd wedi cael euogfarn o ran trosedd berthnasol
  • sydd wedi cael rhybudd mewn cysylltiad â throsedd berthnasol 
  • sy'n destun canfyddiad perthnasol o ran trosedd berthnasol
  • sydd wedi ymgymryd ag ymddygiad perthnasol

os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r person felly'n addas i gymryd rhan mewn rheoli ysgol annibynnol.

Bydd ymddygiad o'r fath yn berthnasol os:

  • y bwriad oedd tanseilio gwerthoedd sylfaenol democratiaeth a chefnogaeth ar gyfer cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, rheolaeth y gyfraith, rhyddid unigol a chydbarch a goddefgarwch tuag at ffydd a chredoau eraill
  • canfyddir ei fod yn torri safonau proffesiynol gan gorff proffesiynol
  • yw mor amhriodol, ym marn yr awdurdod priodol, fel ei fod yn gwneud person yn anaddas i gymryd rhan mewn rheoli ysgol annibynnol

231. Mae darpariaethau Rheoliadau Addysg (Ysgolion Annibynnol) (Personau Anaddas) (Cymru) 2009 hefyd yn berthnasol.

Cyfrifoldebau'r perchennog wrth gynnal gwiriadau ar staff a gwirfoddolwyr

232. Mae perchennog ysgol annibynnol yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw aelod o staff yn yr ysgol, boed o dan gontract cyflogaeth, o dan gontract am wasanaethau neu heblaw o dan gontract, wedi bod yn destun gwiriadau recriwtio a fetio. Mae'r gwiriadau hyn yn cynnwys gwiriad cefndir troseddol manylach, y mae'n rhaid ei gynnal cyn i'w gyflogaeth ddechrau. I wneud hyn, rhaid i berchnogion gofrestru'n uniongyrchol gyda'r DBS neu ddefnyddio gwasanaethau trydydd parti (corff ymbarél) i alluogi cynnal gwiriadau.

233. Mae perchnogion ysgol annibynnol yn cael eu hystyried gan y DBS fel darparwr rheoledig ac felly maent yn gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod unrhyw ymgeisydd newydd ar gyfer eu gweithgaredd rheoledig (a gyflogir gan yr ysgol neu wirfoddolwr) yn destun y gwiriadau cyn-recriwtio priodol.

234. Gall unrhyw ysgol sy'n methu â sicrhau bod staff yn cael gwiriad DBS, neu sy'n penodi person yn groes i waharddiad neu gyfyngiad, fod wedi torri safonau'n ddifrifol. Gellir tynnu'r ysgol oddi ar y gofrestr o ysgolion annibynnol a'u gorfodi i gau.

235. Mae Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo'n berthnasol i unrhyw berson, fod y perchennog yn sicrhau’r canlynol:

  • bod tystysgrif DBS wedi'i chael mewn cysylltiad â'r person hwnnw cyn penodiad y person hwnnw 
  • pan fo'r person hwnnw wedi'i gofrestru gyda gwasanaeth diweddaru'r DBS, y gwneir gwiriad o statws tystysgrif DBS y person hwnnw
  • bod pob gwiriad DBS yn cael ei adnewyddu bob 3 blynedd

Cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA)

236. Mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i berson beidio â darparu gwasanaethau athrawon ysgol annibynnol, na chefnogi darparu'r gwasanaethau hyn, mewn ysgol annibynnol yng Nghymru neu ar ei chyfer (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai fod y person hwnnw wedi'i gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.

237. O dan y Gorchymyn hwn, mae'r gweithgareddau canlynol yn wasanaethau athrawon ysgol annibynnol:

  • cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau i ddisgyblion
  • cyflwyno gwersi i ddisgyblion
  • asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
  • adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
  • ymgymryd â rôl arwain uwch wrth reoli dysgu ac addysgu yn yr ysgol

238. Mae gofyniad o dan adran 36 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 i gyflogwyr hysbysu’r CGA am yr holl bersonau cofrestredig y maent yn eu cyflogi.

239. Rhoddir canllawiau pellach ar ystod o wiriadau cyn penodi yn Cadw dysgwyr yn ddiogel: Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002.

Yr wybodaeth y dylid ei chynnwys ar un gofrestr ganolog

240. Rhaid i bob ysgol gadw un gofrestr ganolog yn unol â pharagraff 24 o'r rheoliadau safonau ysgolion. Mae'r gofrestr ganolog yn gofnod o'r gwiriadau cyn cyflogi a wnaed.

241. Rhaid i'r gofrestr ganolog gynnwys yr holl staff (gan gynnwys staff cyflenwi) a phawb arall sy'n gweithio mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.

242. Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw pa un a yw'r gwiriadau canlynol wedi'u cynnal neu a gafwyd tystysgrifau, y dyddiad y cwblhawyd y gwiriadau a'r canlynol:

  • gwiriad adnabod
  • gwiriad DBS manylach y gofynnwyd amdano neu dystysgrif wedi’i darparu
  • gwiriad gwaharddiad rhag addysgu
  • gwiriad o gymwysterau proffesiynol, pan fo angen
  • gwiriadau pellach o bobl sydd wedi byw neu wedi gweithio y tu allan i'r DU
  • gwiriad i sefydlu hawl y person i weithio yn y DU
  • gwiriad ar gyfer unrhyw orchmynion fod person yn anaddas i gymryd rhan mewn rheoli ysgol annibynnol

243. Rhaid cadw copi o'r dogfennau eraill a ddefnyddir ar gyfer y gwiriad adnabod, hawl i weithio a chymwysterau gofynnol yr ymgeisydd llwyddiannus ar ei ffeil bersonél, yn ogystal â chopïau o eirdaon sydd wedi'u gwirio i gadarnhau bod yr wybodaeth yn gywir ac i roi cyfle i'r dyfarnwr ychwanegu unrhyw wybodaeth berthnasol.

244. Rhaid cadw holl wybodaeth o'r fath yn unol â pholisi cadw cofnodion yr ysgol ei hun.

Safon 5: Mangreoedd ysgol

245. Mae'r rheoliadau'n nodi'r hyn sy'n ofynnol, ond lle maent yn cyfeirio at Reoliadau Addysg (Mangreoedd Ysgol) 1999 bydd angen i chi gyfeirio at y rheoliadau hynny i sefydlu'r union ofynion.

Y sefyllfa o ran caniatâd cynllunio

246. Rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu agor ysgol newydd, neu symud i fangre newydd, wneud cais i'r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio i ddefnyddio'r fangre at ddibenion yr ysgol.

Hygyrchedd a sicrhau cydraddoldeb i ddisgyblion sydd â gofynion arbennig

247. Rhaid cynllunio adeiladau ysgol ar gyfer hygyrchedd, gan sicrhau y gellir eu defnyddio ar sail tegwch gan ddisgyblion sydd â gofynion arbennig. Mae hyn yn cynnwys materion mwy amlwg fel hygyrchedd cadair olwyn ond hefyd drwy feddwl yn greadigol am sut i sicrhau’r hygyrchedd gorau i ddisgyblion ag unrhyw fath o ofynion arbennig. Er enghraifft, gall cynllun adeilad wneud gwahaniaeth mawr i ddisgyblion â nam ar eu golwg ac mae cael larymau tân gweledol yn ogystal â'r rhai sy'n gwneud sŵn yn bwysig i ddisgyblion byddar.

248. Lle bynnag y bo'n bosibl, mae'n rhaid i’r gwaith addasu ar gyfer hygyrchedd fod wedi ei rag-gynllunio er mwyn osgoi rhwystrau a fyddant fel arall yn analluogi disgyblion â gofynion arbennig. Pan nad yw hygyrchedd wedi ei ragweld fel rhywbeth sydd ei angen ar ddisgybl penodol, neu pan fo adeiladau hanesyddol yn peri rhwystrau, rhaid gwneud addasiadau rhesymol effeithiol. Er enghraifft, ystyried amserlenni ystafelloedd dosbarth penodol i sicrhau hygyrchedd priodol i’r unigolyn, os nad yw pob rhan o'r ystad yn hygyrch. Mae hygyrchedd yn berthnasol i:

  • adeiladau
  • gweithgareddau dysgu ac allgyrsiol
  • pob math o ofynion arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol

249. Rhaid i ysgolion byrddio annibynnol gydymffurfio â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Preswyl a rhaid i ysgolion arbennig preswyl gydymffurfio â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl.

Tystiolaeth y bydd yn ofynnol i'r ysgol ei chyflwyno i ddangos cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Addysg (Mangreoedd Ysgolion) 1999

250. Yn ystod arolygiad, bydd gofyn i'r ysgol ddarparu dogfennaeth i ddangos cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Mangreoedd Ysgolion sy'n cynnwys:

  • tystysgrif prawf trydanol ar gyfer prif osodiad (prawf cyfnodol)
  • tystysgrif prawf dyfeisiau cludadwy (PAT) 
  • tystysgrif prawf trydanol ar gyfer goleuadau argyfwng
  • tystysgrif prawf larwm tân
  • asesiad risgiau tân (FRA)
  • tystysgrifau prawf gosodiadau olew a nwy
  • arolwg asbestos math 2
  • cofrestr a chynllun rheoli asbestos
  • cofnod o brofion larwm tân ac achosion o wacáu
  • hyfforddiant tân
  • tystysgrif prawf diffoddydd tân
  • cynllun tân sy'n nodi pwyntiau ‘torri gwydr’, clychau, diffoddyddion ac ati
  • caniatâd cynllunio (ysgolion newydd neu adeiladau newydd)
  • caniatâd rheoliadau adeiladu (ysgolion newydd, ychwanegiadau neu newidiadau mawr)
  • Strategaeth Mynediad (Deddf Cydraddoldeb 2010)
  • Cynllun Mynediad (Deddf Cydraddoldeb 2010)

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Safon 6: Darparu gwybodaeth

251. Mae'n rhaid i ysgolion annibynnol roi i holl rieni a gofalwyr disgyblion a darpar ddisgyblion:

  • cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn yr ysgol, ac enw'r pennaeth
  • pan fo’r perchennog yn unigolyn, enw llawn y person hwnnw a chyfeiriad e-bost busnes uniongyrchol, yn ogystal â rhif ffôn a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth (yn ystod y tymor a thu allan i’r tymor) 
  • pan fo’r perchennog yn gorff o bersonau corfforedig neu anghorfforedig, cyfeiriad a rhif ffôn ei swyddfa gofrestredig neu’r brif swyddfa
  • pan fo gan yr ysgol gorff llywodraethu, enw a manylion cyswllt cadeirydd y corff hwnnw
  • datganiad o ethos yr ysgol (gan gynnwys unrhyw ethos crefyddol) a'i nodau
  • manylion polisi'r ysgol ar dderbyniadau a threfniadau ar eu cyfer, ar ddisgyblaeth ac ar waharddiadau
  • manylion darpariaeth addysg a llesiant ar gyfer disgyblion sydd â chynlluniau datblygu unigol neu ddatganiadau ac ar gyfer disgyblion y mae'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt

Adroddiadau ar gynnydd blynyddol

252. Rhaid i'r ysgol ddarparu adroddiad ysgrifenedig blynyddol ar gynnydd pob disgybl cofrestredig a'u cyrhaeddiad yn y prif feysydd pwnc a addysgir ac eithrio pan nad oes angen anfon adroddiad at riant sydd wedi cytuno fel arall gyda'r ysgol.

Gwybodaeth am bolisïau ysgolion a pherfformiad academaidd

253. Mae'n rhaid i'r ysgol ddarparu’r canlynol ar gyfer rhieni a gofalwyr disgyblion a darpar ddisgyblion:

  • manylion polisïau sy'n ymwneud â'r cwricwlwm ac ansawdd yr addysg a ddarperir
  • manylion polisïau sy'n ymwneud â hyrwyddo ymddygiad da ymhlith disgyblion yn ogystal â’u llesiant a’u hiechyd a diogelwch (gan gynnwys gweithgareddau y tu allan i’r ysgol ac mewn perthynas â diogelu a bwlio)
  • manylion perfformiad academaidd yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol flaenorol, gan gynnwys canlyniadau unrhyw arholiadau ac asesiadau cyhoeddus sy'n arwain at gymhwyster
  • manylion y weithdrefn gwyno
  • dyddiadau tymhorau ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol a'r flwyddyn academaidd ddilynol
  • dyddiadau unrhyw achosion o gau’r ysgol arfaethedig yn ystod dyddiadau tymor yn y flwyddyn academaidd bresennol a'r blynyddoedd academaidd dilynol

Yn dilyn unrhyw arolygiad a wnaed o dan adran 163(1) o Ddeddf Addysg 2002, rhaid i'r ysgol hefyd gyhoeddi a chadw copi o'r adroddiad hwnnw ar ei gwefan o fewn 14 diwrnod iddo gael ei gyflwyno i'r ysgol.

Gwybodaeth staffio

254. Mae paragraff 28(3)(e) o atodlen Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 28(3)(e) yn nodi bod rhaid i ysgolion annibynnol roi gwybodaeth i rieni a gofalwyr am nifer y staff a gyflogir yn yr ysgol, gan gynnwys staff dros dro, ynghyd â chrynodeb o'u cymwysterau.

Sut mae’r ysgol yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i rieni a gofalwyr disgyblion a darpar disgyblion

255. Mae'r gair 'darparu' yn y gofyniad hwn yn golygu, os yw'r derbynnydd wedi rhoi cyfeiriad e-bost, yna gellir anfon yr wybodaeth sy'n ofynnol i'r cyfeiriad hwnnw naill ai ar ffurf electronig neu ar ffurf dolen at wefan sy'n cynnwys yr wybodaeth ac y gellir ei lawrlwytho (ar yr amod yn y naill achos neu’r llall, bod yr wybodaeth ar gael i'w harolygu ym mangre’r ysgol yn ystod diwrnod ysgol). Fel arall gellir anfon neu roi’r wybodaeth i'r person ar ffurf copi caled. 

256. Bydd dogfen neu wybodaeth ‘ar gael’ pan fydd ar gael ar wefan yr ysgol i'r rhieni neu’r gofalwyr dan sylw ac mae hefyd ar gael i'w harolygu yn yr ysgol yn ystod diwrnod ysgol. Mae'n bwysig cymryd camau rhesymol hefyd i sicrhau bod y rhieni a’r gofalwyr yn ymwybodol ei bod ar gael trwy'r dulliau hyn ac ar ba ffurf. 

257. Os nad oes dogfen neu wybodaeth ar gael ar wefan yr ysgol (neu os nad oes gwefan o'r fath) bydd 'ar gael' drwy gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y rhieni neu’r gofalwyr yn cael gwybod bod modd gofyn amdani, a thrwy ei hanfon neu ei rhoi i unrhyw riant neu ofalwr o'r fath, yn rhad ac am ddim, pan ofynnir amdani.

Safon 7: Y dull o ymdrin â chwynion

258. Mae'n rhaid i holl rieni neu ofalwyr disgyblion a disgyblion preswyl a darpar ddisgyblion mewn ysgolion annibynnol gael mynediad at weithdrefn gwyno ysgrifenedig yr ysgol, a’i chael ar gais. Rhaid i hon fod ar gael ar wefan yr ysgol, neu pan nad oes gan yr ysgol wefan, caiff ei rhoi i’r canlynol:

  • disgyblion neu ddisgyblion preswyl
  • rhieni neu ofalwyr disgyblion neu ddisgyblion preswyl
  • rhieni neu ofalwyr darpar ddisgyblion neu ddarpar ddisgyblion preswyl yn yr ysgol

259. Pan fo'r ysgol yn darparu llety byrddio, rhaid i'r weithdrefn gwyno hefyd gydymffurfio â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Preswyl. neu, pan fo'n berthnasol, Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl.

260. Rhaid i'r perchennog sicrhau bod yr ysgol yn llunio gweithdrefn gwyno, ac yn ei gweithredu’n effeithiol, i wneud y canlynol:

  • nodi amserlen glir ar gyfer rheoli cwyn
  • rhoi cyfle i gŵyn gael ei gwneud a'i hystyried yn anffurfiol i ddechrau
  • pan nad yw'r achwynwyr yn fodlon â'r ymateb i ddull anffurfiol, gwneud darpariaeth i’w cwyn gael ei gwneud yn ysgrifenedig
  • os yw'r rhieni, y gofalwyr, y disgyblion neu'r disgyblion preswyl yn dymuno i'r mater gael ei ystyried ymhellach, gwneud darpariaeth ar gyfer gwrandawiad gerbron panel a benodwyd gan y perchennog neu ar ei ran sy'n cynnwys o leiaf 3 o bobl nad oeddent yn ymwneud yn uniongyrchol â'r materion a nodwyd yn y gŵyn
  • pan fydd gwrandawiad panel yn cael ei alw, sicrhau bod un person ar y panel yn annibynnol ar waith rheoli a rhedeg yr ysgol
  • caniatáu i rieni, gofalwyr, disgyblion neu ddisgyblion preswyl fod yn bresennol a chael eu hebrwng i’r gwrandawiad panel yn unol â’u dymuniad
  • darparu i'r panel wneud canfyddiadau ac argymhellion, a sicrhau bod yr achwynydd, y perchnogion, y penaethiaid, a phan fo’n berthnasol, y person y cwynwyd amdano, yn cael copi o unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion
  • darparu ar gyfer cadw cofnodion ysgrifenedig (yn unol â pholisïau cadw cofnodion yr ysgol) o'r holl gwynion a'u canlyniadau, gan gynnwys a ydynt yn cael eu datrys ar y cam rhagarweiniol, neu'n mynd ymlaen i wrandawiad panel ac unrhyw gamau a gymerwyd gan yr ysgol o ganlyniad i'r cwynion hynny ac a gawsant eu cadarnhau
  • darparu bod yn rhaid cadw'r holl ohebiaeth, datganiadau cysylltiedig a chofnodion cwynion yn gyfrinachol, ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru neu gorff sy'n cynnal arolygiad o dan adran 163 o Ddeddf Addysg 2002 yn gofyn am fynediad at unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â'r gŵyn

Canllawiau ar gyfer ysgolion annibynnol: darpariaeth i ddisgyblion gydag anghenion addysgol arbennig (AAA) neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

261. Mae gan berson ADY os oes gan y person anhawster dysgu neu anabledd sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (Adran 2 o ALNET, a Phennod 2 y Cod ADY).

262. Mae gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY, hawl i gynllun cymorth statudol o'r enw CDU. Mae plant a phobl ifanc ag ADY yn derbyn cymorth o'r enw ALP sy’n cael ei nodi yn eu CDU. 

263. Bydd yr ALP gwirioneddol a gaiff ei wneud gan ysgol ar unrhyw un adeg, yn dibynnu ar yr hyn sy'n briodol i ddiwallu anghenion penodol y disgyblion unigol sydd ag ADY. 

264. Gall ALP fod ar sawl ffurf, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ddarpariaeth megis:

  • amser penodol a dreulir gyda staff arbenigol (er enghraifft Cynorthwyydd Addysgu neu aelod o staff sydd ag arbenigedd arbenigol)
  • defnyddio offer arbenigol (er enghraifft cyfrifiaduron ar gyfer y rhai ag anghenion synhwyraidd)
  • ymyraethau arbenigol eraill 

265. Wrth ddisgrifio'r math neu'r mathau o ALP y mae ysgol annibynnol yn eu gwneud, dylid ei fframio i ddechrau yn nhermau y mathau o ADY y bydd yn mynd i'r afael â nhw. Gellir dosbarthu hyn yn fras i'r 4 maes canlynol, y mae'r Ddeddf ADY yn cyfeirio atynt fel Meysydd Angen:

  • (a) cyfathrebu a rhyngweithio 
  • (b) gwybyddiaeth a dysgu 
  • (c) ymddygiad, a datblygiad emosiynol a chymdeithasol 
  • (d) anghenion synhwyraidd a chorfforol

266. Ceir rhagor o fanylion a chyd-destun ynghylch pob un o'r 4 maes hyn yn y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru, tudalen 35, paragraffau 2.34 i 2.38.

267. Yn ogystal, efallai y bydd ysgolion yn dymuno nodi agweddau ar yr ALP y maent yn eu cynnig i gefnogi meysydd penodol o angen. Gall y rhain gynnwys, ond nid wedi’u cyfyngu i:

  • unrhyw adnoddau arbenigol sy'n rhan o ddarpariaeth yr ysgol i gefnogi mathau penodol o angen 
  • mynediad at wasanaethau therapiwtig neu wasanaethau arbenigol eraill i gefnogi anghenion penodol 
  • staff arbenigol a gyflogir yn uniongyrchol gan yr ysgol i gefnogi agweddau ADY penodol ar y cwricwlwm a ddefnyddir gan yr ysgol i fynd i'r afael ag ADY penodol yn uniongyrchol 
  • unrhyw fanylion perthnasol am hyfforddiant staff a ddarperir gan yr ysgol i alluogi staff i ddarparu ALP i ddisgyblion ag ADY penodol

268. Gall yr ALP gwirioneddol a wneir gan ysgol newid o bryd i'w gilydd, yn unol ag anghenion newidiol disgyblion unigol. Ar yr amod bod yr ALP o fewn y disgrifiad a roddir i Lywodraeth Cymru o'r math neu'r mathau o ALP a wneir gan yr ysgol, nid oes problem. Fodd bynnag, os oes newid i'r mathau o ALP y mae'r ysgol i'w gwneud, yna mae angen gwneud cais i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt gymeradwyo'r newid.

269. Rhaid i geisiadau i gofrestru ysgol annibynnol gynnwys gwybodaeth am y mathau o ALP sydd i'w gwneud gan yr ysgol. Mae disgrifiadau o'r mathau o ADY wedi'u cynnwys o fewn y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru.

Ysgolion annibynnol y brif ffrwd

270. Dylai ysgol annibynnol sy'n darparu addysg prif ffrwd (nid yw wedi'i threfnu'n arbennig i wneud ALP i ddisgyblion ag ADY) allu darparu ar gyfer disgyblion ag ADY llai difrifol neu gymhleth. 

271. Wrth ddisgrifio'r mathau o ALP y mae ysgol annibynnol prif ffrwd yn eu gwneud, nid oes angen i'r ysgol ddisgrifio pob eitem o’r ALP yn CDUau disgyblion yr ysgol. Yn hytrach, dylid disgrifio'r mathau o ALP yn wrthrychol o ran yr anghenion y byddant yn mynd i'r afael â nhw, gan roi trosolwg lefel uchel o'r ddarpariaeth sydd ar gael.

272. Gallai ysgol annibynnol brif ffrwd ddisgrifio'r mathau o ALP y mae'n eu gwneud yn y ffordd ganlynol.

Mae'r ysgol yn gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol i ddisgyblion [oed ...i... yn ystod blynyddoedd ysgol... i ...] ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) llai difrifol neu lai cymhleth. Mae hyn yn cwmpasu pob math penodol o anghenion, gan gynnwys cyfuniadau o anghenion, ar yr amod bod anghenion y disgybl gyda'i gilydd yn llai difrifol neu'n llai cymhleth yn hytrach na chymhleth.

Yn benodol, er mwyn gwneud darpariaeth o'r fath, dylai fod gan yr ysgol staff cymwysedig arbenigol [cymhwyster MSc neu Diploma ôl-raddedig] i gefnogi disgyblion â nam ar eu clyw yn yr ystafell ddosbarth ac mewn sesiynau un i un ar wahân. Mae’ r ysgol hefyd yn cyflogi therapydd lleferydd ac iaith i gefnogi disgyblion unigol ac i gyfarwyddo hyfforddiant staff cyfan yn y maes hwn.

At y dibenion hyn, mae anghenion dysgu ychwanegol (ADY) disgybl yn gymhleth yn hytrach nag yn llai difrifol neu’n llai cymhleth lle mae rhan o'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol neu’r ddarpariaeth gyfan y gofynnir amdani o fath a fyddai'n fwy arferol yn cael ei darparu mewn ysgolion sydd wedi'u trefnu'n arbennig i wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion ag ADY, yn hytrach na mewn ysgolion prif ffrwd yng Nghymru (gan gynnwys rhai a gynhelir).’

273. Gall rhai ysgolion annibynnol sy'n darparu addysg prif ffrwd wneud darpariaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r disgrifiad uchod. Er enghraifft, efallai y bydd ganddynt uned arbennig ynghlwm neu'n darparu arbenigedd wrth ddiwallu math penodol o angen, gan gynnwys pan fo’r angen hwnnw'n gymhleth. Yn yr achos hwnnw, dylai'r disgrifiad o'r mathau o ALP a wneir gan yr ysgol hefyd fynd i'r afael â'r anghenion penodol y mae'n darparu ar eu cyfer. 

274. Dylid rhoi rhagor o fanylion am unrhyw agweddau ar yr ALP a ddarperir i ddiwallu anghenion o'r fath.

Ysgolion annibynnol sydd wedi'u trefnu'n arbennig i wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol

275. Mae rhai ysgolion annibynnol wedi'u trefnu'n arbennig i wneud ALP ar gyfer disgyblion ag ADY. Gan y bydd gan y rhan fwyaf o ddisgyblion ag ADY anghenion llai difrifol neu lai cymhleth, yn gyffredinol byddant yn gallu mynychu a cheir eu hanghenion eu diwallu mewn ysgolion prif ffrwd (boed yn annibynnol neu'n rhai a gynhelir). Fodd bynnag, mae ysgolion arbennig neu ysgolion annibynnol sydd ag arbenigedd penodol o ran diwallu ADY yn darparu ar gyfer y disgyblion hynny ag anghenion cymhleth a allai fod angen cymorth arbenigol neu gefnogaeth ddyddiol sylweddol. Byddai ysgol o'r fath yn cael ei henwi yn CDU y disgybl pan na ellir diwallu anghenion rhesymol y disgybl am ALP oni bai fod yr awdurdod lleol yn sicrhau lle yn yr ysgol ar ei gyfer. Os felly, rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau lle i'r disgybl yn yr ysgol.

276. Ar gyfer ysgol sydd wedi'i threfnu'n arbennig i wneud ALP ar gyfer disgyblion ag ADY, neu ysgol sydd ag uned sy'n cael ei threfnu yn y ffordd honno, mae'r ysgol yn debygol o allu darparu ALP arbenigol ar gyfer disgyblion ag ADY cymhleth.

277. Felly, dylai'r disgrifiad o'r mathau o ALP fod yn fanylach na'r hyn a ddisgwylid ar gyfer ysgolion annibynnol sy'n darparu addysg prif ffrwd. Dylai'r disgrifiad nodi pa anghenion penodol y mae'r ysgol yn darparu ar eu cyfer, gydag amodau pellach yn ôl yr angen. Gallai amodau o'r fath olygu mai dim ond darparu ar gyfer mathau neu raddau penodol o ddifrifoldeb angen penodol y mae'r ysgol, neu dim ond darparu math penodol o ALP i fynd i’r afael ag angen penodol.

278. Mae’n arfer effeithiol i ysgolion annibynnol gynnwys manylion pellach yn eu disgrifiad megis:

  • maint ysgolion a dosbarthiadau
  • nifer yr athrawon a’u cymwysterau arbenigol unrhyw ddarpariaeth, offer neu fathau o ystafelloedd arbenigol (er enghraifft ystafell synhwyraidd)
  • unrhyw adnoddau allanol y gall yr ysgol eu defnyddio 

279. Mae Rhan 3 o'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am newidiadau i'r mathau o ALP a wneir gan yr ysgol.

Canllawiau ychwanegol i ysgolion ar sut i ddatblygu cynllun gweithredu effeithiol

Beth ddylai cynllun gweithredu ysgol ei gynnwys

280. Yn dilyn ymweliad arolygu neu fonitro, os bernir nad yw ysgol wedi bodloni un neu fwy o Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024, mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r ysgol gyflwyno cynllun gweithredu sy'n amlinellu sut y mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r diffygion a nodwyd yn ystod yr ymweliad arolygu neu fonitro. 

281. Mae diwyg y Cynllun Gweithredu sy’n ofynnol o dan adran 165(4) o Ddeddf Addysg 2002 yn fater i ysgolion. Fodd bynnag, er mwyn i'r cynllun fod yn offeryn cwbl effeithiol wrth sicrhau'r gwelliannau gofynnol sydd eu hangen mae’n rhaid iddo gyflawni’r canlynol:

  • diffinio'n glir y camau a gynlluniwyd
  • nodi’r personau sy'n gyfrifol am weithredu
  • sefydlu amserlenni penodol ar gyfer cwblhau pob cam gweithredu a cherrig milltir addas a fydd yn galluogi'r perchennog i farnu cynnydd tuag at gwblhau pob cam gweithredu
  • diffinio'r meini prawf ar gyfer barnu llwyddiant neu fel arall y camau gweithredu wrth gyflawni ei amcanion
  • nodi'r adnoddau ariannol ac amser a ddyrennir ar gyfer pob cam gweithredu

282. Ar ôl derbyn y cynllun gweithredu, bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am gyngor priodol gan Estyn ynghylch digonolrwydd y cynllun. 

Rhagor o wybodaeth

283. I wneud cais i gofrestru ysgol annibynnol neu i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw bwyntiau a godwyd yn y canllawiau hyn, cysylltwch â:

Y Tîm Ysgolion Annibynnol E-bost: YsgolionAnnibynnol@llyw.cymru.

Dogfennau cysylltiedig

Atodiad: Geirfa a Thermau

AAA

Anghenion addysgol arbennig - mae cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn disodli'r termau 'anghenion addysgol arbennig' ac 'anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD)' gyda'r term newydd 'anghenion dysgu ychwanegol (ADY)'.

Cadeirydd

Pan nad yw'r perchennog yn unigolyn, bydd angen gwybodaeth ar Lywodraeth Cymru am y 'Cadeirydd'. O fewn Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 rheoliad 2(1) mae'r cyfeiriad at Gadeirydd yr ysgol yn gyfeiriad at unigolyn sy'n Gadeirydd corff o bersonau corfforedig neu anghorfforedig a enwir fel perchennog yr ysgol yn y gofrestr neu mewn cais i gynnwys yr ysgol yn y gofrestr ac mae'n cynnwys cyfeiriad at swyddog tebyg.

Datganiad AAA

Cyhoeddwyd datganiadau AAA i ddisgyblion â'r anghenion mwyaf cymhleth. Mae'r datganiad yn ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol bod yn rhaid i'r disgybl dderbyn y ddarpariaeth a nodwyd.

Dyddiad Derbyn

Y 'dyddiad derbyn' yw'r dyddiad cyntaf y mae:

  • 5 neu fwy o ddisgyblion yn cael eu derbyn i'r ysgol, os yw'r ysgol yn ysgol annibynnol yn rhinwedd adran 463(1)(a) o Ddeddf 1996
  • un disgybl yn cael ei dderbyn i'r ysgol, os yw'r ysgol yn ysgol annibynnol yn rhinwedd adran 463(1)(b) o'r Ddeddf Addysg 1996

Troednodyn

[1] Adran 463 o Ddeddf Addysg 1996, fel y'i diwygiwyd gan adran 172 o Ddeddf Addysg 2002 ac fel y'i diwygiwyd wedi hynny.

[2] Adran 37(2) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.

[3] Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod ADY Cymru.

[4] Adran 324 o Ddeddf Addysg 1996.

[5] Adran 8 o Ddeddf Addysg 1996, Gorchymyn Addysg (Dyddiad Gadael Ysgol) 1997, O.S. 1997/1970 a Gorchymyn Addysg (Oedran Dechrau Ysgol Gorfodol) 1998. O.S. 1998/1607.