Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r asiant

  • Os yw'r prynwr yn gweithredu ar ran ymddiriedolaeth noeth, rhowch fanylion y buddiolwr.
  • Os yw'r prynwr yn gweithredu fel unrhyw fath arall o ymddiriedolaeth (er enghraifft, setliad), rhowch fanylion yr ymddiriedolwyr.
  • Os nad yw'r buddiolwr neu'r ymddiriedolwr yn unigolyn/grŵp o unigolion, neu os yw'r ymddiriedolaeth wedi'i chofrestru gyda CThEM, rhaid i chi beidio â chwblhau'r adran hon.

Rhagor o ganllawiau ar ymddiriedolaethau

Lle nad oes ymddiriedolaethau’n gysylltiedig

Os nad yw'r prynwr yn unigolyn/grŵp o unigolion, rhaid i chi beidio â chwblhau'r adran hon

Gallwch ddewis prynwyr ychwanegol o dudalen grynodeb y ffurflen dreth ddrafft.

Teitl

Os nad yw'r teitl priodol yn cael ei ddangos fel opsiwn, gallwch lenwi'r blwch ‘Arall (nodwch)’. Os nad yw'r teitl priodol yn ffitio yn y blwch hwn, defnyddiwch dalfyriadau. Er enghraifft, gallwch ddangos Capten fel Capt.

Enw cyntaf y prynwr

Rhowch enw cyntaf y prynwr. Gallwch roi enw canol hefyd.

Cyfenw’r prynwr

Rhowch gyfenw’r prynwr.

Cyfeiriad y prynwr

Rhowch brif gartref y prynwr o’r dyddiad y mae’r trafodiad yn dod i rym.

Defnyddiwch ‘chwilio cyfeiriad’ i ddod o hyd i’ch eiddo  fel bod gennym ddata cywir. Os na allwch chi ddod o hyd i’r cyfeiriad drwy ‘chwilio cyfeiriad’, gallwch ei roi i mewn eich hun.

Dyddiad geni’r prynwr

Mae’n rhaid i chi ateb y cwestiwn hwn.

Rhowch ddyddiad geni'r prynwr, gan ddefnyddio'r fformat dd/mm/bbbb. Er enghraifft, ‘28/06/1979’.

Rhif ffôn y prynwyr

Rhowch rif ffôn y prynwr yn ystod y dydd gan gynnwys y cod ardal. 

Gallwch roi rhif ffôn symudol os yw’n haws defnyddio hwn i gysylltu â'r prynwr.

Os oes mwy nag un prynwr a'u bod yn rhannu'r un rhif ffôn, rhowch y rhif hwn ar gyfer pob prynwr yn adran manylion cyswllt y prynwr.

Cyfeiriad e-bost y prynwr

Rhowch gyfeiriad e-bost y prynwr.

Os oes mwy nag un prynwr sy’n rhannu’r un cyfeiriad e-bost, rhowch yr un cyfeiriad e-bost ar gyfer pob prynwr / yn adran manylion y prynwr.

Os byddwch yn canfod:

  • nad oes gan y prynwr gyfeiriad e-bost ond y gall ddefnyddio cyfrif e-bost  cynorthwyydd dibynadwy (fel ffrind neu aelod o'r teulu), gellir defnyddio hwn gyda'u caniatâd
  • nad oes gan y prynwr gyfeiriad e-bost na mynediad at gyfeiriad e-bost, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth

Rhagor o ganllawiau ar ddefnyddio e-bost i ohebu am dreth.

Rhif Yswiriant Cenedlaethol y Prynwr

Mae'n rhaid i chi ateb y cwestiwn hwn os yw’r prynwr yn unigolyn sydd â rhif Yswiriant Gwladol parhaol.

Rhowch y rhif Yswiriant Gwladol cywir ar gyfer y prynwr. Bydd rhif Yswiriant Gwladol yn edrych yn debyg i hyn ‘QQ 12 34 56 A’. Mae hwn i’w gael ar slipiau cyflog gan gyflogwr, neu unrhyw lythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu’r Ganolfan Byd Gwaith.

Peidiwch â defnyddio rhif Yswiriant Gwladol dros dro (mae'r rhain bob amser yn dechrau gyda ‘TN’).

Dulliau adnabod eraill

Dewiswch y rhif adnabod sydd gennych chi neu dewiswch ‘Arall’ a llenwi’r blwch ‘Arall (nodwch)’ i ddweud wrthym i ba fath o ddull adnabod mae eich cyfeirnod/rhif adnabod yn berthnasol.

Rhowch y cyfeirnod adnabod o’r dull o adnabod rydych chi’n ei ddefnyddio:

  • ar gyfer pasbortau, trwyddedau gyrru, a Chardiau Adnabod, os ydynt wedi’u cyhoeddi yn y DU, mae’r cyfeirnod i'w weld ar eich pasbort, eich trwydded yrru neu eich Cerdyn Adnabod
  • ar gyfer Cyfeirnodau Treth Unigryw, os ydynt wedi cael eu rhoi yn y DU, bydd ganddynt 10 digid a byddant i'w gweld ar ohebiaeth gan CThEM neu yng nghyfrif ar-lein y prynwr gyda CThEM

Rhaid i chi hefyd ddangos pa wlad a roddodd y dull adnabod i chi yn y blwch 'Gwlad y cofrestriad’.

A yw'r prynwr yn gweithredu fel ymddiriedolwr?

Os yw'r buddiant mewn tir yn cael ei gaffael ar ymddiriedaeth a bod y prynwr yn ymddiriedolwr neu'n un o sawl ymddiriedolwr, atebwch ‘Ydy’. Atebwch ‘Nac ydy' ym mhob achos arall.
 
Sut mae TTT yn berthnasol gyda buddiannau mewn ymddiriedolaethau

A oes cysylltiad rhwng y prynwr a’r gwerthwr?

Mae'r diffiniad o ‘gysylltiad’ i’w weld yn adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010. Mae enghreifftiau o bersonau cysylltiedig yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i’r rhain:  

  • gŵr, gwraig neu bartner sifil
  • brawd neu chwaer, ei hynafiaid a'i d/ddisgynyddion uniongyrchol
  • partneriaid busnes a'u perthnasau
  • person a chwmni y maent yn eu rheoli
  • 2 gwmni sy’n cael eu rheoli gan yr un person

Gweler y Ddeddf Treth Gorfforaeth
 
Rhagor o ganllawiau ar drafodiadau cysylltiol

Atebwch ‘Oes‘ os yw’r prynwr yn gysylltiedig â’r gwerthwr mewn unrhyw ffordd a ddiffinnir yn adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth (CTA) 2010. Fel arall, ateb 'Nac oes’.