Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Cafodd Parth Rheoli Dros Dro (TCZ) ei gyhoeddi gan y Prif Swyddog Meddygol o 6pm 1 Hydref 2025 o amgylch eiddo y cadarnhawyd ei fod wedi’i heintio â’r Tafod Glas, ger Tyndyrn, Sir Fynwy. Mae'r parth yn ffinio â'r A449, yr A40 a'r M4, ond nid yw'r ffyrdd hyn o fewn y parth.

Symud Anifeiliaid a Chynnyrch Cenhedlu

Ni chaiff neb symud anifeiliaid na chynnyrch cenhedlu i'r parth nac ohono ac eithrio yn unol â thrwydded a roddir gan arolygydd milfeddygol neu gan un o arolygwyr neu swyddogion Gweinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol. 

Caniateir symud anifeiliaid sy'n gallu dal y tafod glas i'r TCZ yng Nghymru ac ohono, cyn belled nad ydynt yn dangos arwyddion o salwch clinigol, yn unol â'r trwyddedau canlynol. Os oes rhan o ddaliad o fewn y TCZ, ymdrinnir â'r daliad fel pe bai'r daliad cyfan yn y TCZ. Caniateir symud anifeiliaid o fewn y daliad heb unrhyw amodau, ond bydd symudiadau o'r daliad yn gorfod bodloni'r trwyddedau a restrir isod.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r trwyddedau isod maes o law. 

Symudiadau i ladd-dy o'r TCZ

Bydd trwydded gyffredinol yn cael ei chyhoeddi sy'n caniatáu symud anifeiliaid o'r TCZ i'w lladd. Nid oes gofyn eu brechu na chynnal profion cyn symud.

Symudiadau i'r TCZ i fyw

Cyhoeddir trwydded gyffredinol sy'n caniatáu symud anifeiliaid i'r TCZ i fyw. Argymhellir eu brechu i amddiffyn iechyd a lles yr anifeiliaid sy'n cael eu symud i'r parth. Nid oes angen cynnal profion cyn symud nac ar ôl symud. 

Symudiadau o'r TCZ i fyw mewn ardal yng Nghymru sydd heb y tafod glas: anifeiliaid wedi'u brechu

Cyhoeddir trwydded gyffredinol sy'n caniatáu symud anifeiliaid sydd wedi'u brechu o'r TCZ i fyw mewn ardaloedd yng Nghymru sydd heb y tafod glas.

Symudiadau o'r TCZ i fyw mewn ardal yng Nghymru sydd heb y tafod glas: Anifeiliaid heb eu brechu

Bydd angen trwydded benodol gan APHA a phrawf PCR cyn symud negyddol ar gyfer y math hwn o symudiad. 

Symudiadau o'r TCZ i fyw ym mharth dan gyfyngiadau Lloegr

Cyhoeddir trwydded gyffredinol sy'n caniatáu symud anifeiliaid i Barth dan Gyfyngiadau Lloegr i fyw. Argymhellir brechu anifeiliaid ar gyfer y math hwn o symudiad.

Symudiadau o ardal yng Nghymru sydd heb y tafod glas, drwy'r TCZ

Nid oes angen profion ar anifeiliaid sy'n cael eu symud yn syth o ardal yng Nghymru sydd heb y tafod glas heb stopio drwy'r parth dan gyfyngiadau, ac eithrio i aros, trwy drefniant, yn y canlynol:

  • gorsafoedd gwasanaethau ar y draffordd
  • cilfannau swyddogol ar gefnffyrdd/priffyrdd
  • meysydd parcio i lorïau neu fannau tebyg

Symud anifeiliaid am resymau force majeure (lles) o'r TCZ

Os bydd digwyddiadau force majeure fel llifogydd neu danau glaswellt difrifol, dilynir y mesurau canlynol: 

  1. Rhaid i'r ceidwad hysbysu APHA fod angen symud oherwydd force majeure, gan nodi nifer y da byw a CPH y safle y bydd yn symud yr anifeiliaid iddo.
  2. Y ceidwad ddylai symud yr anifeiliaid.
  3. Rhaid i'r ceidwad drefnu i'w filfeddyg preifat gynnal archwiliad clinigol o'r da byw o fewn 24 awr ar ôl eu symud, ac eithrio anifeiliaid sydd wedi cwblhau cynllun brechu sylfaenol seroteip feirws 3 y tafod glas yn unol â'r daflen wybodaeth ac nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion o salwch.
  4. Dylai'r milfeddyg preifat gysylltu ag APHA i gadarnhau statws clinigol y da byw yn dilyn yr archwiliad.
  5. Bydd APHA yn penderfynu a oes angen cyfyngiadau/ymchwiliadau yn seiliedig ar yr adroddiad,

Symud cynnyrch cenhedlu

Cyhoeddir trwydded gyffredinol sy'n caniatáu symud cynhyrchion cenhedlu o'r TCZ.