Gofynion ar gyfer creu, amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli mwg yn unol â Deddf Aer Glân 1993.
Cynnwys
Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r gofynion ar gyfer creu, amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli mwg yn unol â Deddf Aer Glân 1993.
Gallwch greu gorchymyn rheoli mwg yn eich ardal, a fydd yn golygu na chaiff pobl a busnesau:
- allyrru swm sylweddol o fwg o simnai adeilad. Mae hyn yn cynnwys adeiladau awyr agored sydd â simnai, fel adeiladau haf
- prynu neu werthu tanwydd solet rheoledig (anawdurdodedig) i'w ddefnyddio mewn adeilad, lle tân, boeler sefydlog neu gyfarpar diwydiannol sefydlog y mae ardal rheoli mwg yn berthnasol iddo/iddi, oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn offer esempt. Ceir rhestr o offer esempt i'w ddefnyddio yng Nghymru yma: Exempt Appliances – Clean Air Act Data Entry System Dim ond y mathau o danwydd y mae'r gwneuthurwr yn dweud y gellir eu defnyddio yn yr offer y cewch chi eu defnyddio.
I gael rhagor o wybodaeth am orfodi ardaloedd rheoli mwg, ewch i: Canllawiau ardaloedd rheoli mwg ar gyfer awdurdodau lleol: taflen ffeithiau sancsiynau sifil.
Gellir gweld rhestr o fathau cymeradwy o danwydd i'w defnyddio mewn ardal rheoli mwg yma: Authorised/Certified Fuels – Clean Air Act Data Entry System
Gellir dirymu neu amrywio gorchymyn rheoli mwg trwy orchymyn dilynol.
Gallwch amrywio gorchymyn rheoli mwg sy'n bodoli eisoes yn eich ardal drwy orchymyn dilynol, er enghraifft, os ydych yn dymuno:
- newid ffiniau ardal rheoli mwg
- eithrio rhai adeiladau, lleoedd tân, neu fathau o adeilad neu le tân, neu amrywio unrhyw eithriadau presennol.
Gallwch ddirymu'ch gorchymyn rheoli mwg trwy orchymyn dilynol hefyd.
Creu gorchymyn rheoli mwg
Mae'r weithdrefn ar gyfer gwneud gorchymyn rheoli mwg i'w gweld yn Atodlen 1 i Ddeddf Aer Glân 1993.
Cyn gwneud gorchymyn rheoli mwg, mae'n ofyniad cyfreithiol i gyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette ac o leiaf unwaith yr wythnos mewn dwy wythnos olynol mewn papur newydd lleol.
Mae'n ofyniad cyfreithiol hefyd i bostio'r hysbysiad am gyfnod o ddim llai na chwe wythnos. Drwy gydol y cyfnod ymgynghori rhaid i chi arddangos copïau o'r hysbysiad mewn sawl man yn yr ardal berthnasol i sicrhau bod pobl yr effeithir arnynt yn ymwybodol o'r cynnig. Enghreifftiau yw meddygfeydd, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, etc. Yn ogystal, dylid cyhoeddi'r hysbysiad ar wefan yr awdurdod lleol os oes ganddo un.
Rhaid i’r hysbysiad:
- ddatgan eich bod yn bwriadu sefydlu gorchymyn rheoli mwg, ac egluro beth mae hyn yn ei olygu i breswylwyr a busnesau;
- pennu man yn yr ardal berthnasol lle gall unrhyw berson adolygu copi o'r gorchymyn ac unrhyw fap neu gynllun yn rhad ac am ddim ar bob adeg resymol am ddim llai na chwe wythnos o ddyddiad diwethaf cyhoeddi'r hysbysiad; a
- datgan y gall unrhyw berson yr effeithir arno wrthwynebu drwy ysgrifennu at yr awdurdod lleol yn y cyfnod hwnnw.
Rhaid i chi ystyried unrhyw wrthwynebiadau cyn dod â'ch cynnig i rym (gweler isod) a rhaid i'r gorchymyn ddod i rym ddim llai na chwe mis ar ôl iddo gael ei wneud. Gallwch oedi dod â'ch gorchymyn i rym trwy gyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette ac o leiaf unwaith yr wythnos mewn dwy wythnos olynol mewn papur newydd sydd ar gael yn yr ardal berthnasol.
Pan fyddwch wedi gwneud y gorchymyn, rhaid i chi hysbysu Gweinidogion Cymru a darparu'r dyddiad y mae'r gorchymyn i ddod i rym neu y daeth i rym. Yna bydd y gorchymyn yn cael ei ychwanegu at MapDataCymru (nid yw'r cam olaf hwn yn ofyniad cyfreithiol).
Amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli mwg a wnaed ar neu ar ôl 13 Tachwedd 1980
I wneud gorchymyn yn amrywio neu'n dirymu gorchymyn rheoli mwg a wnaed ar neu ar ôl 13 Tachwedd 1980, rhaid i chi ddilyn yr un camau ag ar gyfer creu gorchymyn newydd (gweler uchod) fel y nodir yn Atodlen 1 i Ddeddf Aer Glân 1993.
Os mai'r unig ddarpariaeth yw amrywio gorchymyn presennol i eithrio'r canlynol o'ch rheolau ardal rheoli mwg:
- adeiladau penodol neu fathau penodol o adeiladau
- llefydd tân penodol neu fathau penodol o lefydd tân
yna gall ddod i rym ar neu unrhyw adeg ar ôl y dyddiad y caiff ei wneud.
Os yw'r gorchymyn yn gwneud unrhyw amrywiad neu ddirymiad arall, rhaid i'r gorchymyn rheoli mwg ddod i rym ddim llai na chwe mis ar ôl ei wneud.
Rhaid cymryd pob cam arall, fel y nodir yn 'Creu gorchymyn rheoli mwg’.
Amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli mwg a grëwyd cyn 13 Tachwedd 1980
Mae'r weithdrefn ychydig yn wahanol ar gyfer amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli mwg a wnaed cyn 13 Tachwedd 1980. Yn yr achos hwn, mae Rhan 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Aer Glân 1993 yn gymwys.
Rhaid i chi ddilyn yr un camau ag ar gyfer creu gorchymyn newydd (gweler uchod) ac yn ogystal, dim ond ar ôl iddo gael ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru y gall y gorchymyn i amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli mwg a wnaed cyn 13 Tachwedd 1980 ddod i rym. Rhaid cyfeirio unrhyw wrthwynebiadau at Weinidogion Cymru (gweler isod ar gyfer gwrthwynebiadau).
Os ydych yn dymuno amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli mwg a grëwyd cyn 13 Tachwedd 1980, rhaid i chi wneud gorchymyn i'r perwyl hwnnw yn gyntaf, ac yna cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette ac o leiaf unwaith yr wythnos mewn dwy wythnos olynol mewn papur newydd lleol. Rhaid i’r hysbysiad:
- ddatgan eich bod wedi gwneud gorchymyn sy'n amrywio neu'n dirymu gorchymyn rheoli mwg, a fydd yn dod i rym os caiff ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru, ac egluro beth mae hyn yn ei olygu i breswylwyr a busnesau
- pennu man yn yr ardal berthnasol lle gall unrhyw berson archwilio copi o'r gorchymyn, ac unrhyw fap neu gynllun y cyfeirir ato ynddo, gan unrhyw berson yn rhad ac am ddim ar bob adeg resymol am ddim llai na chwe wythnos o ddyddiad diwethaf cyhoeddi'r hysbysiad. Enghreifftiau yw meddygfeydd, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, etc.; a
- datgan y gall unrhyw berson yr effeithir arno, yn y cyfnod hwnnw, wrthwynebu cadarnhau'r gorchymyn drwy ysgrifennu at Weinidogion Cymru (mae hyn yn wahanol i orchmynion a wnaed ar neu ar ôl 13 Tachwedd 1980)
Mae'n ofyniad cyfreithiol hefyd i gyhoeddi'r hysbysiad am gyfnod o ddim llai na chwe wythnos. Efallai mai'r lle mwyaf priodol yw gwefan yr awdurdod lleol os oes ganddo un neu mewn mannau cyhoeddus fel meddygfeydd, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, etc.
Rhowch wybod i Weinidogion Cymru cyn eich bwriad i amrywio neu ddirymu gorchymyn a wnaed cyn 13 Tachwedd 1980, fel y gallant fod yn barod ar gyfer unrhyw wrthwynebiadau.
Dylai eich llythyr/e-bost gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- datganiad yn cadarnhau bod y weithdrefn ar gyfer amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli mwg wedi'i chyflawni yn unol â gofynion Deddf Aer Glân 1993
- copi o’r hysbysiad(au); a
- manylion ble a phryd y cyhoeddwyd yr hysbysiadau
Unwaith y bydd Gweinidogion Cymru wedi derbyn yr wybodaeth hon ac os na wneir unrhyw wrthwynebiadau, neu os tynnir pob gwrthwynebiad a wneir yn ôl, gall Gweinidogion Cymru gadarnhau'r gorchymyn yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod, naill ai gyda neu heb addasiadau. Mae'r 28 diwrnod hyn yn dechrau unwaith y bydd y cyfnod o ddim llai na chwe wythnos o ddyddiad diwethaf cyhoeddi'r hysbysiad wedi dod i ben. (Gweler isod am wrthwynebiadau.)
Gall gorchymyn ddod i rym ar neu ar unrhyw adeg ar ôl y dyddiad y caiff ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru, os mai'r unig ddarpariaeth yw amrywio gorchymyn presennol i eithrio'r canlynol o'ch rheolau ardal rheoli mwg:
- adeiladau penodol neu fathau penodol o adeiladau
- llefydd tân penodol neu fathau penodol o lefydd tân.
Rhaid i orchymyn sy'n gwneud unrhyw amrywiad arall i orchymyn rheoli mwg, neu'n ei ddirymu, ddod i rym ddim llai na chwe mis ar ôl iddo gael ei gadarnhau.
Bydd angen i chi ysgrifennu at Weinidogion Cymru am ganiatâd os ydych yn dymuno gohirio cyflwyno gorchymyn am fwy na 12 mis neu am gyfnodau sydd, gyda'i gilydd, yn dod i fwy na 12 mis.
Pan fyddwch wedi gwneud y gorchymyn, rhaid i chi hysbysu Gweinidogion Cymru a darparu'r dyddiad y mae'r gorchymyn i ddod i rym neu y daeth i rym. Yna bydd y gorchymyn yn cael ei ddiwygio neu ei dynnu oddi ar MapDataCymru (nid yw'r cam olaf hwn yn ofyniad cyfreithiol).
Gwrthwynebiadau
Wrth greu, amrywio neu ddirymu gorchmynion rheoli mwg a wnaed ar neu ar ôl 13 Tachwedd 1980, rhaid i chi ddarparu manylion cyswllt ynghylch sut y gellir codi gwrthwynebiadau i'ch awdurdod lleol pan fyddwch yn cyhoeddi eich hysbysiad, a rhaid rhoi ystyriaeth i bob gwrthwynebiad cyn y gellir gwneud y gorchymyn rheoli mwg.
Pan fyddwch wedi gwneud y gorchymyn, rhaid i chi hysbysu Gweinidogion Cymru a darparu'r dyddiad y mae'r gorchymyn i ddod i rym neu y daeth i rym. Yna bydd y gorchymyn yn cael ei ddiwygio neu ei dynnu oddi ar MapDataCymru (nid yw'r cam olaf hwn yn ofyniad cyfreithiol).
Wrth amrywio neu ddirymu gorchmynion rheoli mwg a wnaed cyn 13 Tachwedd 1980, mae'r rheolau'n wahanol a rhaid i wrthwynebiadau fynd yn uniongyrchol at Weinidogion Cymru.
Mae'n rhaid i chi roi manylion cyswllt pa wrthwynebiadau y gellir eu codi gyda Gweinidogion Cymru pan fyddwch yn cyhoeddi eich hysbysiad:
E-bost: PolisiAnsawddAer@llyw.cymru
Cyfeiriad post: Polisi Ansawdd Aer, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, Y Deyrnas Unedig CF10 3NQ
Os na wneir gwrthwynebiad i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod o ddim llai na chwe wythnos o ddyddiad diwethaf cyhoeddi'r hysbysiad, neu os tynnir pob gwrthwynebiad a wnaed yn ôl, caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn credu bob hynny'n addas, gadarnhau'r gorchymyn naill ai gyda neu heb addasiadau. Bydd Gweinidogion Cymru'n cadarnhau'r gorchymyn yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau o ddiwrnod olaf y cyfnod o ddim llai na chwe wythnos o ddyddiad diwethaf cyhoeddi'r hysbysiad.
Os derbynnir unrhyw wrthwynebiadau, bydd Gweinidogion Cymru naill ai:
- yn trefnu i ymchwiliad lleol gael ei gynnal, neu
- yn rhoi cyfle i'r gwrthwynebwyr gyflwyno sylwadau'n bersonol gerbron person penodedig.
Bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu ar y camau gweithredu priodol, yn ôl nifer y gwrthwynebiadau a ddaw i law. Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i gynnal ymchwiliad a fyddai'n destun y rheolau ynghylch tystion, dogfennau a chostau fel y nodir yn adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl ystyried y gwrthwynebiad ac adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad neu'r person penodedig, caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau'r gorchymyn gyda neu heb addasiadau.
