Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Ionawr 2017.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ynghylch canllawiau drafft i Ofwat ynghylch codi tâl. Bydd y canllawiau’n ymwneud â thaliadau gan ddatblygwyr, taliadau mynediad a thaliadau am gyflenwi ar raddfa fawr.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Deddf Dŵr 2014 yn amlinellu fframwaith newydd ar gyfer rheoleiddio’r arfer o godi tâl o fewn y diwydiant dŵr.
Hoffem glywed eich barn ynghylch canllawiau drafft i Ofwat, sef y corff rheoleiddio economaidd annibynnol ar gyfer y sector dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr mewn perthynas â’r canlynol:
- cysylltiadau newydd i rwydweithiau dŵr a chartffosiaeth (taliadau gan ddatblygwyr)
- cyflenwi a gollwng ar raddfa fawr
- mynediad at rwydweithiau cwmnïau dŵr.
