Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw diben y canllawiau hyn ac at bwy y maent wedi'u hanelu

Nod y canllawiau hyn yw helpu Datblygwyr sy'n Cymryd Rhan a thrydydd partïon wrth ddefnyddio prosesau cyfryngu i helpu i ddatrys unrhyw anghydfodau a all godi o dan gontract cyweirio Llywodraeth Cymru i ddatblygwyr, cyn llofnodi contract gwaith. Mae croeso i bartïon sy'n rhan o gyd-destunau datrys anghydfodau eraill ddefnyddio egwyddorion y canllawiau hyn ar yr amod nad ydynt yn tanseilio'r cymal datrys anghydfodau mewn contract gwaith perthnasol. 

At ddibenion y ddogfen hon, mae trydydd parti yn cyfeirio at unrhyw endid neu unigolyn sy'n gyfrifol am adeilad y mae angen ei gyweirio ac sy'n gysylltiedig â'r broses gyweirio, ond nad yw'n un o brif bartïon (h.y., y datblygwr neu Lywodraeth Cymru) y contract cyweirio i ddatblygwyr. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi contract cyweirio i ddatblygwyr (“Y Contract”) â datblygwyr, ac o dan y contract hwnnw, mae rhwymedigaeth ar ddatblygwyr i nodi a chyweirio (neu dalu i gyweirio) diffygion diogelwch tân hanfodol i fywyd mewn rhai adeiladau penodol. Mae'r Contract ar gael yn Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru: canllawiau cyweirio diogelwch tân

Mae 11 o ddatblygwyr wedi ymrwymo i'r Contract, sef: 

  • Barratt Redrow
  • Lovell
  • Vistry
  • Countryside
  • Persimmon
  • McCarthy Stone
  • Taylor Wimpey
  • Crest Nicholson
  • Bellway
  • Watkin Jones
  • Lendlease

Mae cymal 13 o'r Contract yn darparu ar gyfer y posibilrwydd y gallai ‘Anghydfod Trydydd Parti’ godi rhwng y datblygwr ac un parti arall neu fwy (fel arfer y rhydd-ddeiliad a/neu'r llesddeiliaid) mewn perthynas â'r ffordd y mae'r datblygwr yn gweithredu yn erbyn ei rwymedigaethau o dan y Contract. Nodir cymal 13 yn Atodiad A. Yn gryno, mae'r cymal: 

  • (1) yn gosod rhwymedigaeth ar y datblygwr i weithredu mewn ffordd deg a chyn gynted â phosibl i ddatrys Anghydfodau Trydydd Parti
  • (2) yn datgan y bydd y datblygwr yn gweithredu mewn ffordd gydweithredol a rhagweithiol i helpu i ddatrys yr Anghydfod Trydydd Parti
  • (3) yn datgan bod Gweinidogion Cymru yn cadw'r hawl i ymyrryd mewn Anghydfod Trydydd Parti lle y bo'n briodol 

Gellir dilyn egwyddorion y canllawiau hyn hefyd ar gyfer prosiectau cyweirio preswyl o dan gynlluniau Adeiladau Amddifad, Datblygwyr Llai a'r Sector Cymdeithasol yng Nghymru. 

Mae'n bosibl y bydd y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau (LEASE) yn gallu helpu preswylwyr sy'n wynebu anghydfod â'u hasiantiaid rheoli ar faterion eraill (er enghraifft, taliadau gwasanaeth).

Cyfryngu

Beth yw cyfryngu? 

Proses hyblyg a chyfrinachol a ddefnyddir i setlo anghydfod rhwng dau barti neu fwy yw cyfryngu. 

Fel rhan o'r broses, caiff cyfryngwr ei benodi, sef trydydd person annibynnol a diduedd, i helpu'r partïon i drafod y materion, negodi, a dod i ddatrysiad sy'n dderbyniol i bawb. 

Beth yw manteision cyfryngu? 

Mae cyfryngu yn eich galluogi i gadw rheolaeth dros y sefyllfa. Yn wahanol i lys, lle bydd barnwr yn gwneud y penderfyniadau, wrth ymgymryd â phroses gyfryngu, gallwch chi benderfynu sut yr hoffech ddatrys yr anghydfod ac nid oes yn rhaid i chi dderbyn canlyniad nad ydych yn fodlon arno.

Mae cyfryngu fel arfer yn gyflymach ac yn rhatach na mynd i lys, felly gall fod yn ffordd fwy effeithlon o ddatrys anghydfodau sy'n galluogi pawb i symud ymlaen o'r broblem yn gyflymach. 

Gall cyfryngu helpu i warchod eich cydberthnasau. Gall datrys anghydfod drwy frwydr elyniaethus yn y llys roi pwysau ychwanegol ar y gydberthynas rhwng partïon. Mae cyfryngu yn eich helpu i ganolbwyntio ar gyfathrebu'n effeithiol â'ch gilydd i ddod o hyd i ddatrysiadau sy'n gweithio i bawb. 

Beth sy'n digwydd yn ystod y broses gyfryngu? 

Mae'r cyfryngwr yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol er mwyn hwyluso'r broses negodi er mwyn i'r ddwy ochr, gobeithio, allu dod o hyd i setliad y maent yn cytuno arno. 

Bydd y cyfryngwr yn gwrando ar bob barn, yn siarad â chi'n breifat, ac weithiau ar y cyd â'r parti arall, er mwyn helpu i'ch tywys drwy'r broses. 

Mae cyfryngwyr yn arbenigwyr ym maes cyfathrebu ac maent yn deall yr emosiynau cryf a all godi pan fydd partïon yn anghytuno â'i gilydd. 

Pryd yw'r adeg orau i gyfryngu? 

Gellir rhoi proses gyfryngu ar waith ar unrhyw adeg a bydd yr adeg orau yn aml yn dibynnu ar eich achos unigol. Yn gyffredinol, mae'n well rhoi cynnig ar gyfryngu cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn helpu i leihau faint o amser a gaiff ei dreulio a faint o arian a gaiff ei wario ar yr anghydfod ac yn agor deialog cyn i'r partïon ddod yn rhy amharod i gyfaddawdu. 

Mae'n bosibl y byddwch am ddewis y broses gyfryngu fel dewis amgen neu ar y cyd â hawliad i'r llys. Os ydych eisoes wedi dechrau hawliad llys a'ch bod am ddechrau proses gyfryngu, gall y llys ohirio eich achos i'ch galluogi i wneud hynny. Ni fydd y barnwr yn cael gwybod beth a drafodir neu a gynigir yn ystod y broses gyfryngu ac ni fydd yn cael effaith andwyol ar eich achos llys. 

Pa fathau o anghydfod sy'n addas ar gyfer proses gyfryngu o dan y Contract?

Gall cyfryngu fod yn addas ar gyfer datrys anghydfodau rhwng datblygwyr sydd wedi llofnodi'r Contract (fel Endidau Cyfrifol, gan gynnwys cwmnïau rheoli preswylwyr a rhydd-ddeiliaid) sy'n ymwneud â materion sy'n atal y partïon hynny rhag llofnodi contract gwaith ar gyfer gwaith cyweirio. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys anghydfodau am amodau sy'n rhoi mynediad i'r datblygwr i'r adeilad (er mwyn i'r datblygwr allu ei asesu a/neu ei gyweirio) a/neu gost asesu a/neu gyweirio'r adeilad. 

Mae cymal 6.3 (A), (B) ac (C) o'r Contract yn gosod rhwymedigaeth ar ddatblygwyr sydd wedi'i lofnodi i gynnwys darpariaeth datrys anghydfodau yn y contract gwaith. Os bydd y partïon wedi llofnodi contract gwaith ac wedi ymrwymo i ddull gweithredu penodol mewn perthynas â datrys anghydfodau fel rhan o'r contract hwnnw, mae'n debygol y bydd rhwymedigaeth ar y partïon i ddilyn y dull y cytunwyd arno a nodir yn y contract gwaith. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth i atal partïon rhag defnyddio'r egwyddorion a nodir yn y canllawiau hyn ar gyfer anghydfodau eraill rhwng Datblygwyr sy'n Cymryd Rhan a thrydydd partïon o dan y Contract, ar yr amod na fydd gwneud hynny yn tanseilio contract gwaith a lofnodwyd gan y partïon perthnasol. 

Os bydd anghydfod yn ymwneud â chwmpas gwaith mewn perthynas ag Asesiad Diogelwch Tân (ADT) a/neu Asesiad Risg Tân o Waliau Allanol (ARTWA) a gafwyd gan ddatblygwr, bydd Llywodraeth Cymru yn aml yn comisiynu archwiliad annibynnol o'r ADT a/neu'r ARTWA a gafwyd gan y datblygwr cyn cynnal unrhyw waith cyfryngu er mwyn cadarnhau a yw'r asesiad(au) yn bodloni gofynion y Contract. Mae'r archwiliad annibynnol yn aml yn helpu i gadarnhau a yw ADT a/neu ARTWA y datblygwr yn ddigonol i ffurfio'r sail ar gyfer y contract gwaith. 

Os ydych yn ystyried proses gyfryngu, rydym yn cynghori partïon i gysylltu â Llywodraeth Cymru cyn ymrwymo i'r broses er mwyn cael gwybod a oes archwiliad annibynnol o unrhyw asesiad(au) a gafwyd gan y datblygwr wedi'i gynnal neu'n mynd rhagddo. Gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru yn diogelwchadeiladau@llyw.cymru.

Cost cyfryngu

Beth yw cost cyfryngu? 

Bydd yn dibynnu ar gymhlethdod yr anghydfod. Rydym yn cynghori partïon i ofyn i ddarparwr cyfryngu gadarnhau'r gost cyn ymrwymo i'r broses. 

Pwy ddylai dalu am gyfryngu mewn anghydfodau sy'n gysylltiedig â'r Contract? 

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod hi'n rhesymol i ddatblygwyr dalu 100% o'r ffioedd cyfryngu i ddatrys anghydfodau trydydd parti sy'n ymwneud â'r Contract, er mwyn osgoi achosion lle byddai lesddeiliaid a phreswylwyr yn wynebu ffioedd a fyddai'n gweithredu fel diffyg cymhelliant neu'n atal y partïon rhwng datrys yr anghydfod a chytuno ar gontract gwaith i gyweirio diffygion diogelwch tân hanfodol i fywyd yn yr adeilad. Mewn achosion eithriadol, gall fod angen negodi, yn enwedig mewn achos sy'n ymwneud â mwy na dau barti. 

Er y dylai'r datblygwr dalu 100% o'r ffi gyfryngu, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu y dylai pob parti gytuno i dalu ei gostau a'i dreuliau ei hun o ran paratoi ar gyfer y broses gyfryngu a mynychu sesiynau cyfryngu, gan gynnwys ffioedd teithio ac unrhyw ffioedd cyfreithiol (os bydd y partïon yn dewis defnyddio cyfreithwyr). 

Cyfrifoldeb pob parti unigol fydd penderfynu i ba raddau y caiff ei gynrychioli gan gyfreithwyr yn ystod y broses gyfryngu.

Y cyfryngwr

Beth yw rôl y cyfryngwr? 

Rôl y cyfryngwr yw gweithredu fel trydydd parti diduedd a hwyluso cyfarfod rhwng y partïon sy'n rhan o'r anghydfod er mwyn cytuno sut y dylid datrys yr anghydfod. Gallai hyn gynnwys: 

  • hwyluso cytundeb ynghylch fformat, gweithdrefn, hyd, dyddiad(au), amser dechrau a darparu trefniadau ar gyfer lleoliad y broses gyfryngu fel y bo angen
  • hwyluso'r broses o gyfnewid crynodebau achos a bwndeli dogfennau rhwng y partïon
  • trefnu unrhyw gyfarfodydd cyn cyfryngu y cytunwyd arnynt gan y partïon a'r cyfryngwr os gwneir cais am hynny
  • casglu enwau a rolau'r unigolion sy'n bresennol er mwyn dosbarthu ffurflen cyfranogwyr cyn cynnal y broses gyfryngu
  • hwyluso sgwrs rhwng y partïon a allai gynnwys helpu i gyfathrebu a rheoli emosiynau, helpu partïon i gyflwyno eu pwyntiau mewn ffordd bwyllog a chlir, ac i wrando ar bartïon eraill heb dorri ar eu traws neu wylltio. Bydd y cyfryngwr hefyd yn helpu'r partïon os bydd y broses yn achosi straen iddynt. 

Beth yw rhwymedigaethau'r cyfryngwr yng nghyd-destun y Contract?

Dylai'r cyfryngwr: 

  • ymgymryd â gwaith ymchwilio/darllen sylfaenol i ddeall y Contract a'r dyletswyddau cysylltiedig, gan gynnwys darllen canllawiau Llywodraeth Cymru ar y contract i gyfryngwyr. Dylai partïon rannu'r Contract â'r cyfryngwr a ddewiswyd
  • meddu ar brofiad o gyfryngu anghydfod adeiladu a bod yn gyfforddus â chyd-destun y Contract
  • cytuno (ar y cyd â'r holl bartïon sy'n gysylltiedig â'r anghydfod) i ddefnyddio Cytundeb Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Llywodraeth Cymru (Atodiad B i'r ddogfen hon)
  • cytuno ar y telerau hyn a chadarnhau eu bod wedi darllen y Ddogfen Canllawiau i Gyfryngwyr yn Atodiad C
  • sicrhau nad oes unrhyw achos o wrthdaro buddiannau yn berthnasol iddo
  • cytuno i barhau'n ddiduedd ac yn niwtral 

All y cyfryngwr benderfynu ar y canlyniad? 

Na. Ni ddylai'r cyfryngwr geisio dyfarnu, cyflafareddu, cynghori na gorfodi penderfyniad neu ddatrysiad mewn perthynas ag unrhyw fater, oni bai y bydd y partïon wedi cytuno i hynny. Mae cyfryngwyr wedi'u hyfforddi i helpu partïon i ddod o hyd i ffordd i ddatrys yr anghydfod, ond nid ydynt yn gorfodi datrysiadau. Eich cyfrifoldeb chi a'r partïon eraill fydd cytuno sut rydych yn bwriadu setlo'r anghydfod. 

Dechrau'r broses gyfryngu

Sut ddylwn i ddechrau'r broses ar gyfer datrys anghydfod? 

Dylai'r partïon gysylltu â'i gilydd i gynnig trefniadau ar gyfer datrys anghydfod mewn perthynas â materion penodol. Rydym yn cynghori partïon i roi gwybod i Lywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu rhoi proses datrys anghydfodau ar waith drwy anfon e-bost atom yn diogelwchadeiladau@llyw.cymru. Rydym yn cynghori partïon i wneud hyn oherwydd mewn rhai achosion mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru wedi cynnal archwiliad annibynnol o asesiad(au) diogelwch tân a gafwyd gan y datblygwr neu y bydd yn bwriadu gwneud hynny, a all olygu na fydd angen i'r partïon ymgymryd â phroses datrys anghydfodau. 

Os bydd y partïon yn cytuno y dylid dechrau'r broses gyfryngu, yna'r cam nesaf fydd i'r partïon gytuno ar y cyfryngwr. 

Beth sy'n digwydd os bydd un parti yn gwrthod cymryd rhan yn y broses gyfryngu? 

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bartïon gydweithio'n ddidwyll er mwyn datrys anghydfodau er mwyn gallu lliniaru diffygion diogelwch tân sy'n hanfodol i fywyd cyn gynted â phosibl. 

Os ydych yn credu bod un parti neu fwy yn gwrthod ymgymryd â phroses gyfryngu heb esboniad rhesymol, dylech roi gwybod i ni yn diogelwchadeiladau@llyw.cymru

Mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn dehongli methiant parti i gymryd rhan yn y broses gyfryngu fel rhywbeth sy'n achosi goblygiadau cytundebol arwyddocaol i'r partïon a/neu waith cyweirio yn y dyfodol. Mae cymal 13 o'r Contract yn berthnasol yn hyn o beth. 

Dewis cyfryngwr

Ble galla i ddod o hyd i gyfryngwr? 

Gall partïon ganfod a dewis eu cyfryngwr eu hunain ond dylent sicrhau eu bod yn dewis cyfryngwr â phrofiad a chymwysterau addas sy'n cytuno i'r rhwymedigaethau i gyfryngwyr a nodir ym mharagraff 10 o'r canllawiau hyn. 

Dylai partïon ddefnyddio eu hymdrechion gorau i sicrhau y caiff penderfyniadau amserol eu gwneud, gan gynnwys dewis cyfryngwr a chytuno ar ddyddiad ar gyfer cynnal y cyfarfod cyfryngu. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd y partïon yn dod o hyd i gyfryngwr ac yn cytuno arno o fewn 20 diwrnod busnes i'r adeg y byddant yn cytuno i ymgymryd â'r broses gyfryngu, ac yn disgwyl iddynt ddod i gytundeb o fewn 60 diwrnod busnes. 

A yw cyfryngwyr yn cael eu hachredu a'u rheoleiddio? 

Mae'r rhan fwyaf o gyfryngwyr yn cael eu rheoleiddio gan eu cyrff proffesiynol ond nid yw cyfryngwyr yn cael eu rheoleiddio'n ffurfiol fel grŵp diffiniedig. 

Beth sy'n digwydd unwaith y bydd y partïon wedi cytuno ar gyfryngwr? 

Bydd y cyfryngwr yn tywys y partïon drwy'r broses gyfryngu. Bydd y cyfryngwr yn cysylltu â chynrychiolydd o bob parti cyn dechrau'r broses gyfryngu er mwyn helpu'r partïon a'r cyfryngwr i baratoi ar gyfer y broses. 

Y broses gyfryngu

Beth sydd angen i mi ei wneud i baratoi ar gyfer y broses gyfryngu? 

Bydd eich cyfryngwr yn trafod yr hyn sydd angen i chi ei wneud i baratoi ar gyfer y broses gyfryngu â chi. Fel arfer, bydd hyn yn cynnwys y canlynol (ymhlith pethau eraill): 

  • cytuno ar fformat, gweithdrefn, hyd, dyddiad(au), lleoliad ac amser dechrau'r broses gyfryngu â'r cyfryngwr. Yng nghyd-destun anghydfodau sy'n ymwneud â'r Contract ac y mae'r canllawiau hyn yn berthnasol iddynt, bydd hyn yn cynnwys llofnodi Cytundeb Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Llywodraeth Cymru (yn Atodiad B)
  • trefnu i dalu am y gwasanaethau cyfryngu. Fel y mae'r canllawiau hyn yn egluro, disgwylir i'r datblygwr dalu 100% o ffi'r cyfryngwr
  • paratoi a chyfnewid crynodeb achos am yr anghydfod i'w ystyried yn ystod y broses gyfryngu a chytuno gyda'r partïon ar unrhyw ddogfennau eraill sydd eu hangen ar gyfer y broses
  • mynychu unrhyw gyfarfodydd cyn cyfryngu i drafod telerau ac agenda y cytunwyd arnynt gan y partïon neu a gynigir gan y cyfryngwr
  • darllen pob crynodeb achos a bwndel dogfennau a gyflwynir cyn y broses gyfryngu
  • hysbysu'r cyfryngwr am enwau a rolau pawb a fydd yn bresennol yn ystod y broses gyfryngu ar ran eich parti, er mwyn i'r cyfryngwr allu cysylltu â phob parti cyn y cyfarfod cyfryngu
  • sicrhau bod negodwr arweiniol sy'n meddu ar awdurdod llawn i setlo'r anghydfod yn mynychu'r cyfarfod cyfryngu yn bersonol neu fod modd cysylltu ag ef i gytuno ar ddatrysiad. Mae'n bwysig bod y bobl allweddol sy'n mynychu ar ran pob parti yn parhau'n bresennol neu, ar y gwaethaf, eu bod ar gael dros y ffôn neu drwy ddull fideo-gynadledda am gyfnod cyfan y cyfarfod cyfryngu. Dylid rhoi gwybod i'r cyfryngwr am unrhyw gyfyngiadau amser cyn gynted ag y byddant yn hysbys. Os bydd unigolion yn gadael yn annisgwyl, gall gael effaith andwyol ar gynnydd y cyfarfod cyfryngu a chael ei ystyried yn amharchus gan y partïon eraill. 

A oes Cytundeb Gweithdrefn Datrys Anghydfodau? 

Mae Cytundeb Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Llywodraeth Cymru i'w weld yn Atodiad B. Mae'n adlewyrchu'r Contract a bydd yn sicrhau bod anghydfodau sy'n codi o dan Gymal 13.1 neu 13.2 o'r Contract yn destun gofynion sylfaenol tebyg. Nod hyn yw hwyluso dull gweithredu cyson, yn unol â'r gofynion o ran tegwch, annibyniaeth, niwtralrwydd, cymesuredd ac effeithiolrwydd sydd wedi'u nodi yn y Contract. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd tuag at ddatrys anghydfodau trydydd parti rhwng datblygwyr a thrydydd partïon a bydd yn disgwyl iddynt weithredu'n ddidwyll er mwyn gallu bwrw ati â gwaith cyweirio cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl. 

Pwy ddylai lofnodi'r Cytundeb Gweithdrefn Datrys Anghydfodau? 

Mae angen i bob parti sy'n ymwneud â'r broses gyfryngu lofnodi'r Cytundeb Gweithdrefn Datrys Anghydfodau yn Atodiad B. Bydd eich cyfryngwr yn tywys y partïon drwy'r broses hon. 

Pwy ddylai fynychu'r cyfarfodydd cyfryngu? 

Dylai o leiaf un cynrychiolydd o bob parti sy'n rhan o'r anghydfod fynychu'r cyfarfod cyfryngu ar ran y parti hwnnw. Mae'n bosibl y bydd y partïon am ystyried gofyn i gynrychiolwyr preswylwyr fod yn bresennol yn ystod cyfarfodydd cyfryngu. Mae'n bosibl hefyd y bydd partïon am hysbysu rhanddeiliaid eraill â diddordeb am y bwriad i fwrw ati â'r broses gyfryngu/ y cyfryngu ei hun, a'u cynnwys (fel y bo'n briodol). Dylid diwygio'r cytundeb cyfryngu fel y bo angen, i gynnwys unrhyw bartïon pellach fel y gwêl y partïon a'r cyfryngwr yn briodol. 

Mater i'r partïon unigol ei ystyried fydd i ba raddau y cânt eu cynrychioli gan gyfreithiwr, ac i ba raddau y caiff cynrychiolwyr cyfreithiol eu cynnwys. Dylai'r partïon ganolbwyntio ar sicrhau tegwch a chydraddoldeb i bawb yn ystod y broses gyfryngu. 

Cyfrifoldeb y partïon fydd datrys eu hanghydfod a dod i gytundeb. Nid yw Llywodraeth Cymru yn debygol o gymryd rhan mewn cyfarfodydd cyfryngu ond ceidw'r hawl i fynychu os bydd o'r farn bod angen gwneud hynny. 

Pa mor hir ddylai'r broses gyfryngu ei gymryd? 

Ar ôl dechrau proses ar gyfer datrys anghydfod, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r partïon gwblhau'r broses o fewn 60 diwrnod gwaith. Yn ystod y cyfnod hwn, disgwylir i'r partïon gytuno ar gyfryngwr, cwblhau'r gwaith paratoi gofynnol, cynnal y sesiwn gyfryngu (fel arfer dros gyfnod o ddiwrnod) a dod i gytundeb ar gyfer datrys yr anghydfod. 

Beth sy'n digwydd os bydd angen mwy o amser ar y partïon i ddod i gytundeb? 

Mae gan y broses gyfryngu gyfradd lwyddiant uchel. 

Mewn achosion cymhleth, mae'n bosibl y bydd y partïon yn gweld eu bod wedi gwneud cynnydd da ond nad ydynt yn barod eto i gytuno ar ddatrysiad. Gall fod yn ddefnyddiol cymryd seibiant i ystyried pethau ac ailddechrau'r broses gyfryngu wedi hynny. Byddai angen i'r ddau barti gytuno i hyn. Lle bynnag y bo'n bosibl, dylid defnyddio'r un cyfryngwr wrth barhau â'r broses gyfryngu. 

Yn yr achosion hyn, dylai'r partïon ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn diogelwchadeiladau@llyw.cymru er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi am y rheswm dros hyn ac amserlen resymol ar gyfer cytuno ar ddatrysiad. 

Dylai'r partïon drafod unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â pharhau â'r negodiadau a chytuno arnynt. 

Beth fydd yn digwydd os na fyddwn ni'n dod i gytundeb? 

Os na fydd y partïon yn dod i setliad ar ddiwedd y broses gyfryngu, gofynnir i'r cyfryngwr ddrafftio'r canlynol a'u rhannu â'r partïon a Llywodraeth Cymru: 

  • Datganiad nad yw'n gyfrwymol o'r prif ffeithiau ac amgylchiadau.
  • Cadarnhad bod y partïon wedi cymryd rhan yn y broses gyfryngu.
  • Manylion unrhyw gamau nesaf neu faterion perthnasol er mwyn parhau â'r broses gyfryngu fel sy'n briodol i'r partïon a Llywodraeth Cymru. 

Gellir cwblhau'r broses hon drwy'r ffurflen ar ddiwedd y ddogfen Canllawiau i Gyfryngwyr yn Atodiad C. 

Os ymddengys bod un parti neu fwy yn methu â chymryd rhan yn y broses gyfryngu mewn modd priodol a/neu amserol, a/neu ei fod yn methu â gweithredu'n ddidwyll i ddod o hyd i ddatrysiad, yna ceidw Llywodraeth Cymru yr hawl i gymryd camau priodol, gan gynnwys mewn perthynas â rhwymedigaethau datblygwyr o dan y Contract a/neu effaith hawliau o dan y Contract, yn enwedig mewn perthynas â Chymal 13. 

Beth sy'n digwydd os bydd y partïon yn dod i gytundeb? 

Os llwyddir i ddod o hyd i ddatrysiad, bydd y partïon yn llofnodi cytundeb ysgrifenedig yn nodi'r cytundeb y daethpwyd iddo. 

Gall partïon ddewis a hoffent ddefnyddio Cytundeb nad yw'n Gyfrwymol (nad oes modd ei orfodi'n gyfreithiol) neu Gytundeb Setlo (y mae modd ei orfodi'n gyfreithiol mewn llys). 

Ni ddylai unrhyw gytundeb y deuir iddo drwy broses gyfryngu wrth-ddweud yr hyn a nodir yn y Contract a/neu'r Telerau Hunan-Gyweirio, ac ni chaiff unrhyw gytundeb o'r fath wanhau safonau diogelwch statudol. 

Rhaid rhannu unrhyw gytundeb (cyfrwymol neu nad yw'n gyfrwymol) â Llywodraeth Cymru yn diogelwchadeiladau@llyw.cymru er mwyn i swyddogion Llywodraeth Cymru allu monitro cynnydd y broses gyweirio sy'n cael ei harwain gan y datblygwr. 

Sut y bydda i'n gwybod na fydd cytundeb yn gwanhau'r safonau diogelwch sylfaenol a nodir mewn statud a/neu yn y Contract? 

Yng nghyd-destun y Contract, y datblygwr sy'n gyfrifol am sicrhau nad yw unrhyw gytundeb y deuir iddo drwy broses gyfryngu yn gwanhau'r safonau diogelwch sylfaenol a nodir mewn statud a/neu yn y Contract. 

Rhaid i'r datblygwr anfon copi o unrhyw gytundeb cyfryngu y daethpwyd iddo i diogelwchadeiladau@llyw.cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru allu bodloni ei hun fod y datblygwr wedi cyflawni ei rwymedigaethau. Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi unrhyw faterion o ran cytundebau drwy eithriad. 

A oes modd gorfodi'r cytundeb yn gyfreithiol? 

Os bydd y cytundeb ar ffurf Cytundeb nad yw'n Gyfrwymol, yna ni fydd modd ei orfodi'n gyfreithiol. 

Os bydd y cytundeb wedi'i nodi mewn Cytundeb Setlo ffurfiol, yna bydd modd ei orfodi'n gyfreithiol mewn llys. 

Gall y partïon benderfynu pa fath o gytundeb i'w ddefnyddio. 

Rhaid i'r datblygwr anfon copi o'r cytundeb cyfryngu i diogelwchadeiladau@llyw.cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru allu bodloni ei hun fod y datblygwr wedi cyflawni ei rwymedigaethau. Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi unrhyw faterion o ran cytundebau drwy eithriad.

Cyfrinachedd

A gaiff y cyfarfod cyfryngu ei recordio? 

Ni ddylai'r partïon na'r cyfryngwr wneud unrhyw recordiad na thrawsgrifiad air am air o'r cyfarfod cyfryngu ar unrhyw ffurf, ond gall cyfranogwyr wneud eu nodiadau preifat eu hunain na ddylid eu datgelu i unrhyw un arall, gan gynnwys fel rhan o unrhyw achos ymgyfreitha neu gyflafareddu dilynol. 

A yw'r broses gyfryngu yn gyfrinachol? 

Fel arfer, bydd y broses gyfryngu yn gyfrinachol rhwng y partïon dan sylw. Ond oherwydd cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod datblygwyr yn atebol o dan delerau'r Contract ac i adrodd i'r cyhoedd ar gynnydd gwaith cyweirio sy'n cael ei arwain gan y datblygwr, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r partïon sicrhau'r canlynol: 

  • y caiff unrhyw gytundeb cyfryngu y daw'r partïon iddo (cytundebau cyfrwymol neu rai nad ydynt yn gyfrwymol) eu rhannu â Llywodraeth Cymru
  • lle nad yw'r broses gyfryngu wedi arwain at gytundeb, bod y cyfryngwr yn darparu adroddiad byr i Lywodraeth Cymru fel y nodwyd ym mharagraff 5 o'r canllawiau hyn 

Dylai'r partïon anfon deunyddiau perthnasol ac ymholiadau i Lywodraeth Cymru drwy anfon e-bost atom yn diogelwchadeiladau@llyw.cymru

Bydd cytundebau yn ddarostyngedig i'r cymal cyfrinachedd yn y Cytundeb Cyfryngu ac ni chânt eu rhannu â phartïon y tu allan i'r rhai hynny sy'n rhan o'r broses gyfryngu a/neu lle bo proses ddiogelwch/ proses gyfreithiol yn ei gwneud hi'n ofynnol y dylid rhannu'r cytundeb. Yn ystod y broses gyfryngu, caiff pob sgwrs ei chynnal ‘heb ragfarnu’, sy'n golygu na ellir defnyddio unrhyw beth a ddywedir yn ystod y broses gyfryngu mewn llys os bydd yr anghydfod yn cyrraedd y cam hwnnw. 

Drwy eithriad, gall unrhyw barti rannu canlyniadau cyfryngu (hyd yn oed os nad ydynt yn gyfrwymol) os bydd y gyfraith yn mynnu ei fod yn gwneud hynny a/neu os bydd angen rhannu gwybodaeth â rheoleiddiwr er mwyn sicrhau diogelwch. 

Os bydd y partïon wedi dewis dilyn llwybr Cytundeb Setlo cyfryngu ysgrifenedig, bydd modd datgelu'r cytundeb hwnnw mewn llys wedi hynny at ddibenion gorfodi'r cytundeb. 

Cwynion

Beth gallaf ei wneud os bydd gennyf gŵyn am fy nghyfryngwr? 

I ddechrau, dylech gysylltu â'r cyfryngwr i esbonio pam eich bod yn anfodlon gan roi'r cyfle iddo unioni'r sefyllfa. 

Os bydd y cyfryngwr yn aelod o gorff proffesiynol, mae'n bosibl y byddwch am gysylltu â'r corff gan y dylai allu ymchwilio i'ch cwyn. Mae'n bosibl hefyd y byddwch am gadarnhau eich hawliau fel defnyddiwr er mwyn sicrhau eich bod wedi cael gwasanaeth teg. 

Atodiad A: Dyfyniadau o'r Contract

Isod, nodir y testun o gymal 13 y cyfeirir ato yn y canllawiau hyn, wedi'i ddyfynnu'n uniongyrchol o gontract cyweirio Llywodraeth Cymru i ddatblygwyr ('y Contract').

13. Dispute Resolution between Participant Developers and Third Parties

  • 13.1 In the event of a dispute between a Participant Developer and any Third Party in relation to any element of that Participant Developer’s Works or any other action or omission of that Participant Developer in the performance of its obligations in accordance with these Self-Remediation Terms and/or The Contract (a “Third Party Dispute”), the Participant Developer will use all reasonable endeavours to resolve the Third Party Dispute fairly and as expeditiously as possible. 
     
  • 13.2 In the case of a Third Party Dispute between a Participant Developer and a Responsible Entity prior to entry into any given Works Contract in accordance with Clause 6.3, the Participant Developer will, in addition to its obligations under Clause 13.1 and 13.3, act cooperatively and proactively to facilitate the resolution of the Third Party Dispute (including by suggesting that the Third Party Dispute is referred to senior representatives of the Participant Developer and the Responsible Entity such that they attempt to resolve the Third Party Dispute through good faith negotiation within 10 Business Days (or such longer time period as may be appropriate given the nature of the Third Party Dispute) and/or by suggesting such other alternative dispute resolution mechanism as may be appropriate given the nature of the Third Party Dispute). 
     
  • 13.3 The Welsh Ministers reserve the right to become involved in a Third-Party Dispute in such manner that it considers appropriate. Each Participant Developer shall use reasonable endeavours to cooperate with the Welsh Minister's reasonable requests / requirements in respect of a Third-Party Dispute.

Atodiad B: Cytundeb Gweithdrefn Datrys Anghydfodau

Diben

Mae'r Cytundeb Gweithdrefn Datrys Anghydfodau hwn yn berthnasol i bob parti sy'n ymwneud â'r broses gyfryngu. Mae'n nodi'r weithdrefn i'w dilyn ac i gydymffurfio â hi wrth gynnal proses gyfryngu sy'n ymwneud â chymal 13.2 o Delerau Hunan-Gyweirio contract cyweirio Llywodraeth Cymru i ddatblygwyr ('Y Contract'). Drwy lofnodi'r Cytundeb hwn, mae pob Parti a'r rhai hynny sy'n mynychu'r Broses Gyfryngu ar ei ran yn cytuno i gydymffurfio â'i delerau. 

Cynhelir y Broses Gyfryngu rhwng: 

  • [enw a chyfeiriad y Parti cyntaf]
  • [enwau a chyfeiriadau partïon dilynol] (wedi hyn, y “Partïon” a phob “Parti”)
  • [enw'r cyfryngwr] (y “Cyfryngwr”)
  • Llywodraeth Cymru (ceidw'r hawl i fynychu os bydd yn briodol)

Mae'r anghydfod yn ymwneud â'r canlynol 

  • [rhowch fanylion cryno am yr anghydfod]

Cynhelir y Broses Gyfryngu: 

  • [rhowch amser, dyddiad a lle]

Bydd yr unigolion sy'n mynychu ar ran pob Parti fel a ganlyn: 

  • [Parti Cyntaf: rhowch enwau]
  • [Partïon dilynol: rhowch enwau]

Telerau'r Cytundeb Gweithdrefn Datrys Anghydfodau

1. Mae'r Partïon yn cytuno i ymdrechu'n ddidwyll i setlo eu hanghydfod yn ystod y Broses Gyfryngu. Mae'r Cyfryngwr yn cytuno i gynnal y Broses Gyfryngu, ac mae'r Partïon yn cytuno i gymryd rhan yn y Broses Gyfryngu, yn unol â'r Cytundeb hwn a chan gydymffurfio â gwerthoedd tegwch, annibyniaeth, niwtralrwydd, cymesuredd ac effeithiolrwydd. 

2. Mae'r Partïon yn cytuno eu bod wedi dewis cyfryngwr sy'n dderbyniol i'r ddau barti sy'n bodloni'r gofynion a nodir isod a thrwy lofnodi'r ddogfen hon, mae'r Cyfryngwr hefyd yn cadarnhau'r canlynol: 

a. nad oes unrhyw achos o wrthdaro buddiannau yn berthnasol iddo 
b. ei fod yn cytuno i barhau'n ddiduedd ac yn niwtral 
c. ei fod yn meddu ar brofiad o gyfryngu anghydfodau cytundebol ac anghydfodau adeiladu ac y bydd yn darparu tystiolaeth o hynny os bydd angen 
d. ei fod yn cytuno i ymgymryd â gwaith ymchwilio/darllen sylfaenol i ddeall y Contract a'r dyletswyddau cysylltiedig, os nad yw eisoes yn ymwybodol ohonynt (dylai'r Partïon rannu'r Contract â'r cyfryngwr a ddewiswyd) 
e. ei fod wedi darllen y canllawiau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru 
f. cyhyd ag y bo'n rhesymol bosibl, y bydd yn annog y partïon i ddod i unrhyw gytundeb yn ystod y broses gyfryngu nad yw'n tanseilio'r Contract 
g. y bydd yn darparu adroddiad byr i Lywodraeth Cymru drwy gwblhau ffurflen o'r enw'r Ffurflen Ôl-gyfryngu sy'n cynnwys: 

i. datganiad cryno o'r prif ffeithiau ac amgylchiadau 
ii. cadarnhad yn nodi a wnaeth y ddau barti fynychu a chymryd rhan 
iii. a ddaethpwyd i gytundeb 
iv. os na ddaethpwyd i gytundeb, a fyddai'n briodol parhau â'r Broses Gyfryngu, ac a gytunwyd ar unrhyw gamau nesaf neu faterion penodol 

Mae'r Ffurflen Ôl-gyfryngu wedi'i chynnwys fel atodiad i'r canllawiau i Gyfryngwyr. Bydd hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i fonitro effeithiolrwydd negodiadau ac i benderfynu a fu unrhyw ymddygiad a fyddai'n awgrymu diffyg didwylledd. 

3. Ar ôl cytuno ar Gyfryngwr a'i benodi, mae'r Partïon yn cytuno i gydymffurfio â thelerau busnes y Cyfryngwr. Mae hyn yn cynnwys ffioedd a thelerau talu. Y datblygwr sy'n gyfrifol am gost ffioedd y Cyfryngwr. (Gall fod angen negodi, yn enwedig mewn achos sy'n ymwneud â mwy na dau Barti). Ni ddylai lesddeiliaid orfod talu costau ffioedd Cyfryngwr o dan unrhyw amgylchiadau. Mae pob Parti yn cytuno i dalu ei gostau a'i dreuliau ei hun o ran paratoi ar gyfer y Broses Gyfryngu a'i mynychu. Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer y Broses Gyfryngu neu ei mynychu gan unrhyw Barti yn gyfystyr â 'chost y Gwaith' yn unol â chymal 6.1 o'r Telerau Hunan-Gyweirio. 

4. Y Cyfryngwr fydd yn pennu'r weithdrefn cyn y Broses Gyfryngu ac yn ystod y broses honno, gan ymgynghori â'r Partïon. Mae'r Cyfryngwr yn hwyluso'r broses er mwyn annog y Partïon i ddod i gytundeb. 

5. Mater i'r Partïon unigol ei ystyried fydd i ba raddau y cânt eu cynrychioli gan gyfreithiwr, ac i ba raddau y caiff cynrychiolwyr cyfreithiol eu cynnwys, ac mae pob Parti yn cytuno i dalu ei gostau a'i dreuliau ei hun wrth benodi cynrychiolwyr cyfreithiol o'r fath. Dylai'r Partïon ganolbwyntio ar sicrhau tegwch a chydraddoldeb i bawb yn ystod y Broses Gyfryngu.

6. Mae'r Partïon yn cytuno bod y Cyfryngwr yn gweithredu fel contractwr annibynnol ac na all roi cyngor cyfreithiol i unrhyw Barti. Nid yw'n asiant i unrhyw un o'r Partïon, ac nid yw ychwaith yn gweithredu ar eu rhan mewn unrhyw rinwedd. Ni ellir galw arno fel tyst mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â'r anghydfod y mae'r Broses Gyfryngu yn ymdrin ag ef, ac mae'n cytuno na fydd ar unrhyw adeg yn gweithredu ar ran unrhyw un o'r Partïon yn unigol mewn perthynas ag unrhyw anghydfod. 

7. Caiff Llywodraeth Cymru ei chynnwys fel Parti yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru. Ni fydd y Partïon eraill yn gorfodi Llywodraeth Cymru i weithredu fel Parti nac yn ceisio ei hatal rhag gwneud. 

8. Anogir y ddau barti i ystyried cynnwys lesddeiliad fel cynrychiolydd ar ran holl lesddeiliaid yr adeilad(au) dan sylw. Os bydd cynrychiolydd lesddeiliaid yn mynychu'r Broses Gyfryngu, dylai'r Cyfryngwr, gan ymgynghori â'r Partïon, wneud unrhyw ddiwygiadau priodol i'r Cytundeb Datrys Anghydfodau i ystyried hyn. 

9. Bydd rhywun ag awdurdod llawn i setlo'r anghydfod heb fod angen iddo ymgynghori ag unrhyw un nad yw'n bresennol yn bresennol i gynrychioli pob Parti yn ystod y Broses Gyfryngu. Os bydd hyn yn achosi unrhyw anawsterau i Barti, bydd y Parti yn rhoi gwybod i'r Cyfryngwr cyn gynted â phosibl. Os bydd angen i Barti ymgynghori ag unigolion na fyddant yn bresennol yn ystod y Broses Gyfryngu, bydd yn sicrhau y gall gyfathrebu âr unigolion hynny drwy gydol y Broses Gyfryngu. 

10. Ni fydd unrhyw gytundeb y deuir iddo drwy Broses Gyfryngu yn ceisio gwrth-ddweud yr hyn a nodir yn y Contract a/neu'r Telerau Hunan-Gyweirio, sydd ar gael i'r cyhoedd. Ar bob adeg, bydd y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan yn parhau'n rhwymedig i'r Contract ac ni fydd unrhyw gytundeb y deuir iddo yn disodli nac yn lleihau'r rhwymedigaethau yn y Contract/Telerau Hunan-Gyweirio. I'r graddau y mae unrhyw gytundeb yn disodli neu'n lleihau'r rhwymedigaethau ar y partïon a gynhwysir yn y Contract/Telerau Hunan-Gyweirio, bydd y rhan honno/rhannau hynny o'r cytundeb sy'n gwneud hynny yn annilys ac ni fydd modd eu gorfodi. 

11. Mae'r Broses Gyfryngu yn gyfrinachol rhwng y Partïon a Llywodraeth Cymru (os/lle nad yw Llywodraeth Cymru yn un o Bartïon ffurfiol y cytundeb). Bydd pob Parti a'r rhai hynny sy'n mynychu'r Broses Gyfryngu yn cadw'r holl wybodaeth, gohebiaeth a dogfennau sy'n deillio o'r Broses Gyfryngu neu mewn perthynas â hi yn gyfrinachol, ar yr amod na fydd gwneud hynny yn mynd yn groes i unrhyw un o'r canlynol: 

a. gwneud unrhyw ddatgeliad sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith neu sy'n hanfodol er mwyn sicrhau trefniadau rheoleiddio diogelwch priodol (gan gynnwys hawliadau adennill gan drydydd parti) 
b. datgelu unrhyw wybodaeth at ddiben hysbysu broceriaid ac yswirwyr ac mewn perthynas ag unrhyw brosesau cysylltiedig 
c. gwneud unrhyw ddatgeliad angenrheidiol i gyfrifwyr neu archwilwyr neu gynghorwyr cyfreithiol 
d. gwneud y cyfryw ddatgeliadau ag sydd eu hangen at ddiben gorfodi unrhyw setliad y cytunwyd arno fel rhan o'r Broses Gyfryngu 

12. Lle bydd Parti yn datgelu'n breifat i'r Cyfryngwr unrhyw wybodaeth gyfrinachol cyn, yn ystod neu ar ôl y Broses Gyfryngu, ni fydd y Cyfryngwr yn datgelu'r wybodaeth honno i unrhyw Barti neu berson arall heb ganiatâd y Parti sy'n ei datgelu. 

13. Ac eithrio gwybodaeth y byddai'n rhaid bod wedi ei chyflwyno neu ei datgelu fel rhan o achos pe na fyddai'r Broses Gyfryngu wedi cael ei rhoi ar waith, ac yn ddarostyngedig i'r amodau a nodir ym mharagraff 12 uchod, bydd yr holl wybodaeth a gohebiaeth (boed ar lafar, yn ysgrifenedig neu fel arall) a gyflwynir yn ystod y Broses Gyfryngu, neu mewn perthynas â'r broses honno, heb ragfarn, yn freintiedig ac ni fydd modd ei chyflwyno fel tystiolaeth na'i datgelu fel rhan o unrhyw achos ymgyfreitha neu achos arall sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd neu a fydd yn dilyn. 

14. Ni wneir unrhyw recordiad na thrawsgrifiad ffurfiol o'r Broses Gyfryngu. Ni chaiff unrhyw dystiolaeth (ac eithrio'r dystiolaeth a gynhwysir ar ffurflen cytundeb y Cyfryngwr a ddarperir ar ddiwedd y Broses Gyfryngu) sy'n ymwneud â'r ffordd y cynhaliwyd y Broses Gyfryngu ei hatodi fel rhan o dystiolaeth mewn unrhyw achos ymgyfreitha, achos cyflafareddu neu achos arall parhaus neu ddilynol rhwng y Partïon mewn perthynas â'r Anghydfod. 

15. Gall cytundeb fod ar ffurf cytundeb cyfrwymol neu gytundeb nad yw'n gyfrwymol. Nid oes modd gorfodi Cytundeb nad yw'n Gyfrwymol yn gyfreithiol. Os bydd y cytundeb wedi'i nodi mewn Cytundeb Setlo ffurfiol, yna bydd modd ei orfodi'n gyfreithiol mewn llys. Bydd y Broses Gyfryngu yn dirwyn i ben pan geir setliad (ac y bydd cytundeb ar waith), pan fydd y Cyfryngwr yn ymddeol o'r Broses Gyfryngu, neu pan fydd un o'r Partïon yn tynnu'n ôl (ac eithrio, pan fydd mwy na dau barti, gallant gytuno y bydd y Broses Gyfryngu yn parhau rhyngddynt hyd nes y caiff ei dirwyn i ben). 

16. Os na fydd y Broses Gyfryngu wedi dod i ben o fewn 60 diwrnod busnes i'r adeg y cychwynnwyd y broses datrys anghydfodau gan un Parti, dylai'r partïon ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac yn nodi amserlen resymol ar gyfer datrys yr anghydfod. 

17. Er mwyn helpu'r Partïon, os na lwyddir i ddod i setliad, bydd y Cyfryngwr yn cwblhau'r Ffurflen Ôl-gyfryngu i Lywodraeth Cymru sy'n nodi'n gryno gyd-destun y Broses Gyfryngu (gweler paragraff 2g), p'un a lwyddwyd i ddod i gytundeb, neu a fyddai'n fuddiol parhau â'r Broses Gyfryngu, gan gynnwys a gytunwyd ar unrhyw gamau nesaf (mae'r Ffurflen Ôl-gyfryngu wedi'i hatodi i'r canllawiau i Gyfryngwyr), y mae'n rhaid ei rhannu â Llywodraeth Cymru. 

18. Nid yw'r broses o atgyfeirio'r anghydfod at Gyfryngwr yn effeithio ar unrhyw rai o hawliau'r Partïon o dan Erthygl 6 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Os na chaiff yr anghydfod ei setlo drwy'r Broses Gyfryngu, nid effeithir ar hawliau'r Partïon i dreial teg. 

19. Mae'r Cytundeb Gweithdrefn Datrys Anghydfodau hwn yn ddarostyngedig i gyfraith Cymru a Lloegr. Os bydd unrhyw anghydfod o ran dehongli, ystyr, effaith neu orfodi unrhyw gytundeb y deuir iddo yn ystod y Broses Gyfryngu, bydd y Partïon yn ceisio setlo'r anghydfod hwnnw gan ddefnyddio'r Broses Gyfryngu, ac os bydd hynny'n methu, bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth benodol i setlo unrhyw hawliad, anghydfod neu wahaniaeth barn a allai godi yn deillio o'r Broses Gyfryngu neu mewn perthynas â hi. 

Llofnodwyd:

…………………………………………………………[enw] ar ran y [Parti cyntaf]

………………………………………………[enw] ar ran y [partïon dilynol]

…………………………………………………………………………………….. [Cyfryngwr] 

Dyddiad …………………………………………………………………………………………

 

Atodiad C: Canllawiau i Gyfryngwyr

Canllawiau a ffurflen i gyfryngwyr sy'n cyfryngu anghydfod o dan gontract cyweirio Llywodraeth Cymru i ddatblygwyr (‘Y Contract’). 

Dylech sicrhau eich bod yn meddu ar yr arbenigedd perthnasol a'ch bod wedi darllen y dogfennau perthnasol i allu rhoi cymorth priodol i'r Partïon drwy gydol y Broses Gyfryngu. 

Os na fydd y Partïon yn llwyddo i ddod i gytundeb, gofynnir i chi gyflwyno ffurflen adrodd gryno (isod) i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y Broses Gyfryngu. 

Cymalau allweddol i gyfryngwyr 

Disgwylir i gyfryngwyr fod yn gyfarwydd â'r Contract ac iddynt fod wedi ei nodi a'i ddarllen ymlaen llaw, gan ganolbwyntio ar y Datganiad o Faterion a ddarparwyd gan y Partïon ymlaen llaw er mwyn nodi pa gymalau sy'n berthnasol i'r anghydfod y maent yn ei ddatrys. 

Dylid nodi mai bwriad y cynnwys isod yw darparu crynodeb byr o agweddau allweddol Atodlen 1 i'r Contract, gan anelu at helpu Cyfryngwyr i ymgysylltu â'r cymalau allweddol yn y Contract, ac ni ddylid ei ddefnyddio yn lle ymgysylltu'n briodol â'r Contract. Mae'n debygol y bydd rhai anghydfodau yn ymwneud â chymalau nas nodir isod. 

1. Cymal 4 – Dechrau a hyd (y Contract) 

Mae pob is-gymal o fewn cymal 4 yn berthnasol. 

2. Cymal 5 – Rhwymedigaeth i nodi ac asesu Adeiladau y mae Angen Cynnal Gwaith Arnynt 

  • 5.3, 5.4 a 5.14 – Dyletswyddau'r Datblygwr sy'n Cymryd Rhan mewn perthynas â'r ADT a'r ARTWA o ran safon y gwaith i'w gyflawni. Dylid nodi o dan y Contract mai Asesiad Diogelwch Tân (ADT) ac Asesiad Risg Tân o'r Waliau Allanol (ARTWA) y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan (ar yr amod eu bod yn gyfredol ac yn cydymffurfio) sy'n pennu safon y gwaith i'w gyflawni. O dan 5.14, y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan fydd yn talu'r costau sy'n gysylltiedig â chael ARTWAau sy'n cydymffurfio. 

3. Cymal 6 – Rhwymedigaeth i gynnal a chwblhau gwaith 

  • 6.1 – Bydd rhwymedigaeth ar y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan i gynnal/ caffael y gwaith drwy ymgynghorwyr â chymwysterau addas, gan ystyried buddiannau a phryderon rhesymol pob lesddeiliad, preswylydd, deiliad a defnyddiwr arall yr adeilad y mae angen cynnal gwaith arno. Ymdrinnir â'r costau a gwmpesir a'r costau nas cwmpesir yma.
  • 6.3 – Lle mai'r Datblygwr sy'n Cymryd Rhan sy'n ymgymryd â'r gwaith, dylai ymrwymo i Gontract Gwaith â'r endid cyfrifol a ddylai gynnwys ei ddarpariaethau ei hun ar gyfer Dulliau Datrys Anghydfodau Amgen yn y contract hwnnw. Dylid nodi lle bo contract gwaith, ond nad yw'n cynnwys cymal Datrys Anghydfodau, y dylai'r Cyfryngwr yn gyntaf ystyried gyda'r Partïon pam nad oes cymal Datrys Anghydfodau yn y Contract Gwaith gyda'r bwriad o gytuno ar gymal Datrys Anghydfodau i'w gynnwys yn y Contract Gwaith. Wedi hynny, yn ystod y Broses Gyfryngu honno, os bydd amser yn weddill y diwrnod hwnnw, ac os bydd y Partïon yn awyddus i barhau i gyfryngu ynghylch materion eraill y ceir anghydfod yn eu cylch, gallant fwrw ati i Gyfryngu agweddau eraill ar yr anghydfod o dan y cymal Datrys Anghydfodau diwygiedig fel y cytunwyd arno ac fel y cafodd ei fewnosod i'r Contract Gwaith, os byddant am wneud hynny. 

4. Cymal 7 – Eithriadau sy'n berthnasol i'r rhwymedigaeth i gynnal a chwblhau'r gwaith 

  • 7.1 – Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan i gwblhau gwaith sy'n ymwneud â diffygion sy'n deillio o waith addasu gan berson ac eithrio'r Datblygwr sy'n Cymryd Rhan ar ôl y dyddiad cwblhau gwreiddiol.
  • 7.3 – Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan i gynnal y gwaith os na roddir mynediad iddo (ar yr amod ei fod wedi gwneud ei ymdrechion gorau i gael caniatâd i gael mynediad).
  • 7.4 – Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan i fynd y tu hwnt i'r gwaith sydd ei angen i unioni'r diffygion, ac eithrio gwaith gwella nad oes modd ei osgoi.
  • 7.7 – Rhaid ymgymryd â'r holl waith yn unol â'r Rheoliadau Adeiladu a'r gyfraith gymwys sy'n berthnasol i'r gwaith. 

5. Cymal 8 – Rhwymedigaeth i ymgysylltu â thrydydd partïon penodol 

  • 8.2 – O ddechrau'r gwaith hyd nes y bydd y Gwaith wedi'i gwblhau'n ymarferol, bydd y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Gwaith i'r Endid Cyfrifol mor aml ag sy'n rhesymol angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys diweddariadau o leiaf unwaith bob cyfnod o 3 mis drwy gydol hyd y gwaith.
  • 8.3 – Bydd y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan yn gofyn i'r Endid Cyfrifol rannu'r holl wybodaeth berthnasol y mae'r Datblygwr sy'n Cymryd Rhan yn ei rhoi i'r Endid Cyfrifol yn ysgrifenedig â'r lesddeiliaid, y preswylwyr, y deiliaid a'r defnyddwyr eraill o fewn 10 diwrnod busnes o'i derbyn.
  • 8.4 – Os na fydd yr Endid Cyfrifol yn rhannu'r holl wybodaeth â'r lesddeiliaid, y preswylwyr, y deiliaid a'r defnyddwyr eraill, bydd y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan yn rhannu'r wybodaeth honno o fewn 10 diwrnod busnes yn dilyn cais ysgrifenedig. 

6. Cymal 11 – Rhwymedigaethau ar ôl cwblhau'r Gwaith yn ymarferol 

  • 11.1 – Caiff Asesiad Cymhwysol (sy'n Cydymffurfio) ei ddarparu i Weinidogion Cymru a'r Endid Cyfrifol o fewn 20 diwrnod busnes i'r dyddiad y daw'r Asesiad Cymhwysol i law.
  • 11.6 – Y telerau ar gyfer rhyddhau'r datblygwr o'i gontract â Llywodraeth Cymru a'r Telerau Hunan-gyweirio. 

7. Cymal 13 – Datrys anghydfodau rhwng y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan a Thrydydd Partïon 

  • 13.1 - Os bydd anghydfod rhwng Datblygwr sy'n Cymryd Rhan ac unrhyw Drydydd Parti, bydd y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan yn defnyddio'r holl ymdrechion rhesymol i ddatrys yr Anghydfod Trydydd Parti mewn ffordd deg a chyn gynted â phosibl. 
     
  • 13.2 - Os bydd anghydfod, bydd y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan yn cydweithio ac yn gweithredu mewn ffordd ragweithiol i hwyluso'r datrysiad drwy negodi'n ddidwyll o fewn 10 Diwrnod Busnes o leiaf a/neu drwy awgrymu dull datrys anghydfodau amgen arall fel y bydd o bosibl yn briodol. 
     
  • 13.3 - Ceidw Gweinidogion Cymru yr hawl i ymyrryd mewn Anghydfod Trydydd Parti yn y fath fodd ag y gwêl yn briodol. 

8. Cymal 16 – Hawliadau rhwng Cwmnïau Grŵp Datblygwr sy'n Cymryd Rhan a Thrydydd Partïon 

  • 16.5 – Nid yw'r Datblygwr sy'n Cymryd Rhan yn atebol am golledion anuniongyrchol/ canlyniadol unrhyw Drydydd Parti (Gweler Adran 1 am ddiffiniad o'r Trydydd Parti). 

9. Cymal 17 – Rhwymedigaeth i Drydydd Partïon penodol 

  • 17 – Mae'r cymal hwn yn nodi rhwymedigaeth y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan i bob Trydydd Parti â buddiant rhydd-ddaliadol/les-ddaliadol yn yr adeilad mewn perthynas â'r costau rhesymol i'r graddau bod y Trydydd Parti wedi mynd i'r cyfryw gostau hynny o ganlyniad i unrhyw ddiffyg gan y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan wrth gyflawni ei rwymedigaethau o dan y Contract (ac eithrio costau anuniongyrchol). 

10. Cymal 20 – Achosion o Dorri'r Contract a Therfynu 

  • 20.1 – Hawl Gweinidogion Cymru i derfynu'r Contract os ceir achos o dorri'r Contract. 

11. Cymal 28 – Cyfrinachedd 

  • 28.1 – Ymrwymiad y Datblygwr sy'n Cymryd Rhan a Gweinidogion Cymru i drin yr holl wybodaeth gyfrinachol yn gyfrinachol (gweler y diffiniad ar gyfer cyfrinachol yn Atodiad 1), yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn 28.1. 

Ffurflen Ôl-gyfryngu 

I'w chwblhau gan y Cyfryngwr a'i hanfon i Lywodraeth Cymru yn diogelwchadeiladau@llyw.cymru os na fydd y partïon wedi dod i gytundeb. 

  • Enw'r partïon
  • Natur yr anghydfod
  • A wnaeth y ddau barti fynychu ac a wnaethant gymryd rhan? Do/Naddo
  • A ddaethpwyd i gytundeb? Do/Naddo
  • Os na ddaethpwyd i gytundeb, a yw'r partïon yn bwriadu parhau â'r broses gyfryngu? Ydyn/Nac ydyn
  • Yn eich barn chi, a fyddai'n fuddiol parhau â'r broses gyfryngu?
  • A gytunwyd ar unrhyw faterion penodol neu gamau nesaf?
  • Pa sylwadau eraill sydd gennych i'w gwneud?