Canllawiau Cronfa Gymorth Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol (LAQM)
Canllawiau ar wneud cais am gyllid gan Gronfa Gymorth LAQM, gan gynnwys cymhwystra ac amodau.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Cronfa Gymorth LAQM yn cefnogi uchelgeisiau hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer aer glanach, cymunedau iachach ac amgylcheddau mwy gwydn. Mae'n darparu cyllid i awdurdodau lleol gyflawni camau wedi'u targedu sy'n cyd-fynd ag amcanion strategol ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd aer. Mae'r rhain wedi'u nodi yn y Cynllun Aer Glân i Gymru. Mae'r cynllun yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithredu lleol cydgysylltiedig i leihau cysylltiad y cyhoedd â llygredd aer ac i wella'r amgylchedd sain.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn ychwanegu at ddeddfwriaeth bresennol ac yn ei chryfhau. Mae'n cyflwyno dyletswyddau newydd a thargedau cenedlaethol. O dan y fframwaith hwn, mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl ganolog wrth asesu, rheoli a lleihau cysylltiad y boblogaeth â llygredd aer a sŵn. Mae'r gronfa yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni'r cyfrifoldebau hyn drwy gefnogi gweithgarwch sy'n canolbwyntio ar hybu ymwybyddiaeth, atal, lliniaru ac arloesi.
Mae'r gronfa hefyd yn adlewyrchu ymrwymiadau ehangach i lesiant hirdymor, cydraddoldeb a chymunedau cynaliadwy. Mae'r ymrwymiadau hyn wedi'u nodi mewn deddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Amcanion y Grant
Diben y gronfa hon yw cefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflawni gwelliannau mewn ansawdd aer sy'n cyd-fynd ag amcanion ansawdd aer lleol a chenedlaethol.
Mewn rhai achosion, gall hyn gynnwys gwelliannau sy'n gysylltiedig â sŵn a seinweddau, fel agwedd gysylltiedig ar ansawdd yr amgylchedd lleol. Mae nodau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer sŵn a seinweddau wedi'u nodi yn y Cynllun Sŵn a Seinwedd i Gymru.
I weld enghreifftiau o brosiectau a gefnogwyd yn flaenorol gan y gronfa, gweler yr Adroddiad Blynyddol ar Ansawdd Aer yng Nghymru.
Meini prawf
Mae'r gronfa ar gael i gefnogi prosiectau sy'n bodloni un neu ragor o'r meini prawf canlynol.
Hybu ymwybyddiaeth
Gweithredu sy'n gwella dealltwriaeth o ansawdd aer. Mae'n cynorthwyo pobl i leihau eu cyfraniad at lygredd aer a'u cysylltiad ag ef, nawr ac yn y dyfodol.
Mae hybu ymwybyddiaeth yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth o achosion ac effeithiau llygredd aer. Mae hefyd yn dangos sut y gellir lleihau cysylltiad â'r llygredd hwnnw. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion a sefydliadau i gymryd camau ymarferol sy'n cyfrannu at aer glanach. Nod y prosiectau hyn yw cefnogi newid ymddygiad hirdymor ac annog pobl i wneud penderfyniadau gwybodus. Maent hefyd yn helpu i sicrhau y gellir cynnal gwelliannau mewn ansawdd aer.
Mae'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer yn nodi meysydd â blaenoriaeth ar gyfer gweithredu, gan gynnwys llosgi domestig, a segura llonydd yng nghyd-destun cerbydau. Mae'r Arolwg Ymwybyddiaeth o Ansawdd Aer Cymru hefyd yn darparu llinell sylfaen. Mae'n cwmpasu ymwybyddiaeth, agweddau ac ymddygiadau ymhlith y cyhoedd ynghyd ag effeithiau hunangofnodedig ar iechyd a llesiant.
Atal
Gweithredu sy'n gwella ansawdd aer yn rhyngweithiol. Mae'n atal cynnydd mewn crynodiadau o lygryddion aer a phroblemau cysylltiedig.
Mae gwaith ataliol yn canolbwyntio ar weithredu cynnar. Ei nod yw atal problemau ansawdd aer rhag datblygu neu waethygu. Gallai hyn gynnwys casglu gwell tystiolaeth leol, siapio penderfyniadau ynghylch cynllunio neu drafnidiaeth cyn i broblemau godi, neu wneud gwelliannau bach ond strategol sy'n lleihau'r posibilrwydd o allyriadau neu gysylltiad â llygryddion aer yn y dyfodol.
Er enghraifft, efallai y bydd awdurdodau lleol eisiau edrych ar ardaloedd lle mae disgwyl datblygiad newydd neu gynnydd mewn traffig. Gallant wedyn gymryd camau gweithredu i leihau risgiau sy'n dod i'r amlwg.
Lliniaru
Gweithredu sy'n gwella ansawdd aer mewn cymunedau lleol drwy fynd i'r afael â phroblemau hysbys.
Mae lliniaru yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â phroblemau sy'n bodoli'n barod, yn enwedig pan fo ansawdd aer gwael eisoes wedi'i nodi neu pan fo rhai cymunedau yn cael eu heffeithio'n anghymesur. Nod y prosiectau hyn yw lleihau allyriadau a gwella amodau lleol. Maent hefyd yn ceisio sicrhau gwell dealltwriaeth o'r rhesymau dros ansawdd aer gwael fel y gellir darparu atebion.
Er enghraifft, efallai y bydd awdurdodau lleol am fynd i'r afael â segura llonydd yng nghyd-destun cerbydau drwy weithgarwch sy'n rhybuddio gyrwyr am y drosedd.
Arloesi
Gweithredu sy'n defnyddio dulliau neu dechnolegau arloesol. Ei nod yw gwella ansawdd aer a/neu leihau cysylltiad â llygryddion aer.
Mae prosiectau arloesi yn caniatáu i awdurdodau ymchwilio i offer, technolegau neu ddulliau gweithredu newydd, neu eu rhoi ar waith. Gall y rhain wella dealltwriaeth leol o ansawdd aer neu gynnig ffyrdd mwy effeithiol o leihau allyriadau a chysylltiad â llygryddion aer. Mae'r prosiectau hyn yn aml yn gynlluniau peilot neu'n dreialon. Maent yn helpu awdurdodau lleol i brofi syniadau newydd ac asesu eu gwerth cyn eu defnyddio yn ehangach.
Cymhwystra
Gall pob awdurdod lleol yng Nghymru gyflwyno cynigion i'r gronfa. Gall cynigion gael eu gwneud gan awdurdodau lleol unigol neu grwpiau o awdurdodau lleol ar gyfer prosiectau ar y cyd.
Os nad yw'r cyllid yn cael ei ddyrannu'n llawn yn y flwyddyn ariannol gyfredol, mae'n bosibl y bydd rowndiau ymgeisio pellach yn cael eu cynnal. Yn yr achos hwn, gall awdurdodau lleol gyflwyno cynigion ychwanegol. Rhaid i brosiectau beidio â dyblygu cyllid sydd eisoes wedi'i ddyfarnu o dan gontract presennol.
Gall trefniadau cyllido newid mewn rhai achosion. Er enghraifft, gall hyn ddigwydd os yw prosiect yn rhedeg y tu hwnt i'r cyfnod cyllido neu os caiff ei ganslo. Yn yr achosion hyn, bydd prosiectau yr effeithir arnynt yn cael eu tynnu o'r cytundeb a bydd cyfanswm y dyraniad yn cael ei addasu. Ni fydd hyn yn effeithio ar gymhwystra ar gyfer rowndiau yn y dyfodol.
Nid oes unrhyw isafswm nac uchafswm o ran y cyllid y gellir gwneud cais amdano, ar yr amod ei fod o fewn y gyllideb gyffredinol sydd ar gael. Os yw cyfanswm y cyllid y gwneir cais amdano drwy gynigion yn fwy na'r cyllid sydd ar gael, nid oes unrhyw warant y bydd y swm llawn y gofynnir amdano ar gyfer unrhyw brosiect penodol yn cael ei ddyfarnu. Bydd pob cynnig yn destun yr un asesiad o werth am arian a byddant yn cael eu hasesu yn erbyn ei gilydd.
Gall awdurdodau lleol wneud cais heb fod ganddynt Ardal Rheoli Ansawdd Aer neu broblemau ansawdd aer wedi'u nodi, cyn belled â'u bod yn diwallu angen a nodwyd mewn perthynas ag ansawdd aer lleol.
Gellir cynnwys costau staff ar gyfer cyflawni prosiectau mewn cynigion. Rhaid i’r costau hyn gael eu nodi'n glir ac yn fanwl yn y cais. Rhaid hefyd gynnwys tystiolaeth ohonynt wrth gyflwyno hawliad. Nid yw costau staffio arferol yn gymwys oni bai eu bod yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni'r prosiect.
Dim ond ar gyfer prosiectau cymwys y gellir defnyddio'r cyllid. Rhaid i'r prosiectau hyn gael eu cyflawni o fewn yr amserlen a nodir yn y cytundeb cyllido. Nid yw costau yr eir iddynt cyn i'r llythyr dyfarnu gael ei gyhoeddi yn gymwys. Nid yw costau yr eir iddynt y tu allan i'r cyfnod cyllido yn gymwys chwaith.
Dylai cynigion ar gyfer prosiectau fod ar gyfer gweithgarwch sy'n mynd y tu hwnt i ddyletswyddau statudol ac yn ychwanegu gwerth atynt. Os oes ansicrwydd ynghylch natur cynnig, neu reswm cryf dros ystyried gweithgarwch statudol, trafodwch hyn gyda ni cyn llunio cais.
Ni ddylai’ch cynigion gynnwys TAW. Telir y grant ar gyfer gwariant cymwys yn unig.
Cynaliadwyedd
Lle bo hynny'n briodol, dylai awdurdodau lleol gynllunio sut y gellir cynnal prosiectau a gefnogir gan y gronfa y tu hwnt i'r cyfnod ariannu. Gall cynigion sy'n adeiladu ar brosiectau a ariannwyd yn flaenorol fod yn gymwys i gael cyllid; fodd bynnag, ni ddylid defnyddio'r gronfa i gefnogi gweithgarwch arferol neu hirdymor. Mae'r gronfa yn agored am amser cyfyngedig ac mae cynigion ar gyfer pob rownd yn destun proses asesu gystadleuol.
Gwerth am arian
Rhaid i awdurdodau lleol ddangos bod y gweithgarwch arfaethedig yn cynnig gwerth am arian. Gall hyn gynnwys tystiolaeth o brosesau caffael neu ddadansoddiad cost a budd. Rhaid iddynt hefyd gadarnhau y bydd popeth a brynir gyda chyllid y gronfa yn cydymffurfio â gofynion caffael a rheoli cymorthdaliadau.
Dylai ceisiadau nodi unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â'r gweithgarwch arfaethedig. Dylent hefyd esbonio'r camau lliniaru a gynigir, lle bo hynny'n berthnasol.
Rhaid i geisiadau gynnwys dyfynbrisiau sy'n rhoi dadansoddiad llawn o'r costau. Dylid datgan unrhyw ffynonellau cyllid ychwanegol ar gyfer y prosiect hefyd, lle bo hynny'n berthnasol.
Gwerthuso
Dylai awdurdodau lleol gynnwys trefniadau gwerthuso addas yn eu cynigion. Rydym yn cydnabod y bydd maint a chymhlethdod y prosesau gwerthuso yn amrywio yn dibynnu ar y prosiect. Fodd bynnag, dylai pob prosiect allu darparu tystiolaeth o'r hyn sydd wedi'i gyflawni a'r hyn a newidiodd o ganlyniad i hynny. Dylent hefyd gofnodi'r gwersi a ddysgwyd i lywio gweithgarwch yn y dyfodol.
Y broses ymgeisio
Mae’r ffenest ymgeisio ar gyfer 2026/27 bellach wedi cau. Parodd y ffenest ymgeisio o 17/7/2026 tan 14/8/2026.
Hawlio taliadau
Mae'r gronfa hon yn gweithredu ar sail ôl-daliadau. Rhaid i gostau cymwys fod wedi'u hysgwyddo a'u talu cyn gellir cyflwyno hawliad. Rhaid cyflwyno hawliadau i PolisiAnsawddAer@llyw.cymru gan ddefnyddio’r ffurflen hawlio a ddarparwyd. Rhaid i hawliadau gynnwys tystiolaeth ategol, fel anfonebau a dalwyd. Bydd y taliad yn cael ei wneud pan ystyrir bod yr hawliadau yn rhai derbyniol.
Gellir cyflwyno hawliadau fesul tipyn yn unol â phroffil taliadau dangosol i'w nodi yn y llythyr dyfarnu grant. Mae'r un gofynion o ran tystiolaeth yn berthnasol i bob hawliad.
Mae'n rhaid cyflwyno pob hawliad yn brydlon. Rhaid iddynt ddod i law dim hwyrach na phythefnos ar ôl y dyddiad y bydd y cytundeb cyllido yn dod i ben.
Os na fyddwch yn hawlio'r cyllid blynyddol llawn yn unol â'r amserlenni a nodir yn y proffil taliadau dangosol, ni fydd unrhyw swm heb ei hawlio ar gael mwyach. Nid yw hyn yn effeithio ar gymhwystra ar gyfer rowndiau cyllido yn y dyfodol.
Os ydych chi'n gwario llai na'r disgwyl, cewch ofyn am ailddyrannu'r cyllid. Mae'n ofynnol sicrhau cymeradwyaeth ymlaen llaw i wneud hyn. Cysylltwch â ni cyn ymrwymo i gostau newydd.
Gellir caniatáu ailddyrannu symiau bach yn fewnol. Rhaid i hynny beidio â newid diben na chanlyniadau'r prosiect, ac efallai y bydd angen cael cadarnhad drwy lythyr amrywio. Ni dderbynnir ailddyrannu symiau mawr os bydd hynny'n newid y prosiect yn sylweddol.
Cymorth
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni yn PolisiAnsawddAer@llyw.cymru.
