Canllawiau cynllun addysg personol: asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig ar gyfer canllawiau cynllun addysg personol (CAP).
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau gweithredu mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried, a pham
Mater
Yn ôl y Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth: ar 31 Mawrth 2023, roedd 7,095 o blant yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Cam-drin neu esgeulustod, neu’r perygl o hynny, oedd y rheswm mwyaf cyffredin i blant ddechrau derbyn gofal a chymorth, a’r prif reswm pam oedd dros hanner y plant yn derbyn gofal a chymorth.
Mae’r Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal (a gasglwyd ym mis Mawrth 2023) yn datgelu bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng plant mewn gofal a’u cyfoedion.
Cyflawniad yng Nghyfnod Allweddol 3
Mae’r Dangosydd Pynciau Craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 yn cynrychioli canran y disgyblion sy’n cyflawni Lefel 5 neu uwch, yn seiliedig ar asesiadau athrawon, yn y Gymraeg (iaith gyntaf) neu’r Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth gyda’i gilydd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, yn 14 oed.
- Roedd 42% o blant 13 neu 14 oed sy’n derbyn gofal a chymorth ac yn cyfateb i Gronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion wedi cyflawni’r Dangosydd Pynciau Craidd yng Nghyfnod Allweddol 3.
- Roedd hyn yn wahanol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a chymorth a oedd yn derbyn gofal (52%) a phlant nad oeddent yn derbyn gofal (34%).
- Mae hyn yn cymharu â 77% o’r holl ddisgyblion yng Nghymru a gyflawnodd y Dangosydd Pynciau Craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 yn 2023.
Cyflawniad yng Nghyfnod Allweddol 4
Cyfrifir y dangosydd Capio 9 cyfartalog (fersiwn mesur interim) gan ddefnyddio naw canlyniad gorau disgyblion Blwyddyn 11 o’r cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru, gan gynnwys gofynion pwnc penodol. Ers 2018 i 2019 mae hyn yn cynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg (Iaith neu Lenyddiaeth), Mathemateg neu Fathemateg Rhifedd a phwnc Gwyddoniaeth.
- Y dangosydd Capio 9 cyfartalog (fersiwn mesurau interim) oedd 192 pwynt ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a chymorth. Roedd hyn yn uwch ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a chymorth a oedd yn derbyn gofal o’i gymharu â phlant nad oeddent yn derbyn gofal.
- Mae hyn yn cymharu â sgôr dangosydd Capio 9 gyfartalog (fersiwn mesurau interim) o 358 pwynt ar gyfer pob disgybl yng Nghymru yn 2023.
Mae’r ffactorau canlynol yn gallu cyfrannu at y bwlch cyrhaeddiad hwn drwy greu rhwystrau i blant sy’n derbyn gofal o ran cael mynediad at addysg a datblygu brwdfrydedd yn yr addysg honno:
- problemau sy’n gysylltiedig â’r system ofal, fel symud cartref a newid lleoliad ysgol yn aml, sy’n amharu ar gyfleoedd dysgu
- effeithiau cymdeithasol ac economaidd fel magwraeth incwm isel, y teulu yn chwalu a thrawma yn ystod plentyndod
- iechyd meddwl a llesiant meddyliol gwael sy’n gallu ei gwneud yn anodd dysgu a chadw diddordeb mewn addysg
- risg uwch o anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gan gynnwys oedi wrth ddatblygu gwybyddiaeth ac iaith, anawsterau rheoli emosiynau neu ymddygiad ac anghenion niwroddatblygiadol
Pa gamau gweithredu mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried, a pham
Mae’r Cynllun Addysg Personol (CAP) yn helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i gefnogi addysg plant sy’n derbyn gofal. Mae’r CAP yn caniatáu i blant sy’n derbyn gofal a’r oedolion sy’n eu cefnogi gytuno ar gamau gweithredu ymarferol i’w helpu i wneud cynnydd yn eu haddysg. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau anstatudol newydd i helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i sefydlu, datblygu ac adolygu CAPau.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal.
Mae Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) yn egluro dyletswyddau cyfreithiol awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth plant, gan gynnwys ar gyfer iechyd ac addysg. Mae’r Cod yn nodi’r canlynol: “mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod cynllun addysg personol (CAP) effeithiol o ansawdd uchel ar gael ar gyfer pob plentyn y maent yn gofalu amdano, a fydd yn rhan annatod o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn”. Hefyd, mae’n nodi y dylai’r Cynllun Addysg Personol “ddisgrifio’r hyn sydd angen ei wneud i helpu’r plentyn i wireddu ei botensial”.
Bwriad y canllawiau ar CAPau yw cynorthwyo awdurdodau lleol ac ysgolion i weithredu hyn. Byddant yn ategu cymorth arall sydd eisoes yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i blant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys:
- Dogfennau canllaw eraill sydd â’r bwriad o helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i ddeall anghenion dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal a’u cefnogi yn well a hyrwyddo ymarfer effeithiol.
- Ariannu Adoption UK Cymru yn ystod blynyddoedd ariannol 2024 i 2025 a 2025 i 2026 i ddarparu hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr addysg er mwyn eu helpu i ddeall a chefnogi anghenion cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal.
Mae plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn grŵp amrywiol, ond mae llawer wedi profi trawma ac yn wynebu rhwystrau eraill sy’n effeithio ar ddeilliannau addysgol. Ymhlith ymrwymiadau maniffesto seithfed tymor Llywodraeth Cymru mae ffocws cryf ar lythrennedd a rhifedd, cydweithredu amlasiantaethol ac arferion sy’n ystyriol o drawma. Ein bwriad yw codi safonau a mynd i’r afael â’r heriau yn ein hysgolion o ran iechyd meddwl ac ymddygiad. Wrth ddatblygu’r dull gweithredu holistaidd hwn, byddwn yn sicrhau bod anghenion dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael eu hystyried yn llawn. Eleni, mae gwaith pellach yn cael ei wneud yn y maes hwn:
- Comisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o effeithiolrwydd darpariaeth addysg ar gyfer dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal yn 2026. Bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i nodi a rhannu arferion effeithiol ar draws y sector.
- Gweithio gyda’r sector i sicrhau bod dysgwyr yn elwa ar y cymorth ychwanegol wedi’i dargedu a ddarperir gan y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r Grant Hanfodion Ysgol, sydd ar gael i bob plentyn sy’n derbyn gofal o’r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
Mae’r canllawiau ar CAPau yn cyfrannu at ddau o’r nodau llesiant cenedlaethol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys:
- Cymru lewyrchus: mae plant sy’n derbyn gofal i gyd yn wahanol ond maent yn fwy tebygol o fod wedi wynebu trawma yn ystod eu bywyd, gan gynnwys camdriniaeth, esgeulustod neu golled. Trwy ddarparu’r cymorth priodol i blant a phobl ifanc, wedi’i gynllunio trwy CAP o ansawdd uchel, gellir sicrhau bod modd eu helpu i wireddu eu potensial a gwneud cynnydd yng nghamau nesaf eu bywyd. Mae hyn yn cefnogi’r nod llesiant sy’n datgan bod Cymru “yn datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig” ac a fyddai’n caniatáu “i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith teg”.
- Cymru sy’n fwy cyfartal: mae nifer o resymau dros y rhwystrau i blant sy’n derbyn gofal wrth gael mynediad at addysg. Dylai CAP o ansawdd da amlinellu cynlluniau dysgu wedi’u personoli sy’n helpu i oresgyn y rhwystrau a nodwyd i’r person ifanc a datblygu ei gryfderau a’i ddyheadau. Dylai’r CAP sicrhau bod addysg pobl ifanc wedi’i theilwra i’w hanghenion penodol, gan sicrhau eu bod yn gallu gwireddu eu potensial yn llawn. Mae hyn yn cefnogi’r nod o sicrhau “cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau”.
Mae’r canllawiau wedi’u datblygu yn unol â ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bwriad CAP o ansawdd da yw cefnogi cynnydd hirdymor plant sy’n derbyn gofal er mwyn eu helpu i ffynnu yn eu haddysg a chael y deilliannau gorau. Hefyd, dylai helpu i leihau’r rhwystrau sy’n cael eu hachosi gan drawma ac anfantais gynnar sy’n effeithio ar ddeilliannau addysgol plant.
Rydym wedi cydweithio ag ystod eang o weithwyr proffesiynol er mwyn helpu i ddatblygu’r canllawiau ar CAPau. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen CAP, sy’n cynnwys unigolion o awdurdodau lleol sydd â rôl strategol i hyrwyddo addysg dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Rhannodd y grŵp ei arbenigedd yn ymwneud â’r broses CAP. Cafodd syniadau’r grŵp ynglŷn â sut mae’r broses CAP yn gallu cyfrannu at gefnogi cynnydd addysgol y plentyn eu cynnwys yn y canllawiau.
Roedd y grŵp gorchwyl a gorffen yn is-grŵp o’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer addysg pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol yn cynnwys rhanddeiliaid allanol o Estyn, Consortia, awdurdodau lleol a’r Trydydd Sector sy’n gweithio i hyrwyddo a chefnogi deilliannau addysgol plant â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru. Rhannwyd copïau drafft o’r canllawiau gyda’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol a Grŵp Swyddogion Adolygu Annibynnol Cymru gyfan. Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y canllawiau rhwng 6 Hydref a 1 Rhagfyr 2025. Cafodd yr adborth a ddaeth i law mewn ymateb i’r gweithgaredd ymgysylltu hwn ei gynnwys yn y canllawiau CAP.
Hefyd, ymgysylltodd Llywodraeth Cymru â dysgwyr sy’n derbyn gofal er mwyn clywed am yr hyn sy’n bwysig iddynt a’r hyn sydd angen ei gynnwys yn y canllawiau hyn. Mae eu barn yn cael ei hadlewyrchu trwy gydol y canllawiau.
Effeithiau
Mae effeithiau ar blant, cydraddoldeb a’r Gymraeg yn cael eu harchwilio’n llawn yn yr asesiadau o’r effaith perthnasol.
Adran 8: casgliad
Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu
Gweithwyr Proffesiynol
Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu’r canllawiau ar gynlluniau addysg personol (CAP). Y bwriad yw darparu gwybodaeth am arferion da i gynorthwyo awdurdodau lleol ac ysgolion i ddatblygu a chyflwyno CAP. Roedd y grŵp gorchwyl a gorffen yn cynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau’r Trydydd Sector sy’n gyfrifol am addysg plant sy’n derbyn gofal.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y canllawiau ar CAPau rhwng 6 Hydref a 1 Rhagfyr 2025. Daeth 19 o ymatebion i law gan bob rhan o’r sector gan gynnwys: chwe awdurdod lleol, pedair ysgol, tri undeb addysg, Estyn, y Trydydd Sector, y byd academaidd a Chomisiynydd Plant Cymru. Cafodd adborth a dderbyniwyd mewn ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad ei ystyried wrth ddatblygu’r canllawiau CAP terfynol.
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (94%) yn cytuno y byddai’r cyngor yn y canllawiau ar CAPau yn helpu awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau i wneud y broses CAP yn fwy ystyrlon ac effeithiol i blant sy’n derbyn gofal. Roedd 53% yn cytuno bod y canllawiau yn rhoi sylw digonol i bopeth sydd ei angen i helpu awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau i wneud CAP yn fwy ystyrlon ac effeithiol i blant sy’n derbyn gofal. Roedd 78% yn cytuno bod y canllawiau yn darparu cyngor digonol i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau ar sicrhau bod y broses o lunio CAP yn canolbwyntio ar y plentyn.
Rhoddwyd adborth ar syniadau am sut i gryfhau a gwella cynnwys y canllawiau a oedd yn cynnwys y themâu canlynol:
- Y Gymraeg: cryfhau’r canllawiau er mwyn hybu effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg.
- Prosesau ADY a CDU: sicrhau bod y prosesau ar gyfer ADY a CDU yn cyd-fynd â’i gilydd er mwyn osgoi dyblygu a sicrhau cydweithrediad.
- Rolau, cyfrifoldebau a chydweithredu rhwng asiantaethau: darparu disgwyliadau cliriach ar gyfer iechyd, CAMHS, a chyfranogiad gofalwyr maeth, a’r angen am swyddogion a chydlynwyr dynodedig ar gyfer CAPau ar lefel awdurdod lleol.
- Gofynion statudol: llunio disgwyliadau fel gofynion i hyrwyddo cysondeb o ran arferion da ac atal amrywiad rhwng lleoliadau.
- Ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn: hyrwyddo parch at egwyddorion, diwylliant ac iaith CCUHP, amlygu dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma ac yn ymwybodol o ymlyniad, pwysleisio pwysigrwydd paratoi plant ar gyfer cyfarfodydd CAP a llais y plentyn yn y broses hon.
- Adnoddau: ychwanegu dolenni at adnoddau o ffynonellau fel Comisiynydd Plant Cymru, Plant yng Nghymru, Snap, Estyn a NICE.
Pobl ifanc
Rhwng Hydref 2024 a Mawrth 2025, gweithiodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol a sefydliadau’r Trydydd Sector i gasglu profiadau pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.
Hefyd, fe wnaethom gomisiynu sesiwn gyda phlant a phobl ifanc digwmni sy’n ceisio lloches trwy Voices for Care (sefydliad yn y trydydd sector) er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.
Mae’r cyngor yn y canllawiau wedi’i lywio gan y profiadau a’r safbwyntiau a rannwyd gan y bobl ifanc, a defnyddir rhai o’u dyfyniadau dienw yn y canllawiau.
Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol
Mae’r canllawiau yn atgyfnerthu’r gofyniad cyfreithiol sy’n nodi bod angen CAP ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn gofal mewn addysg statudol. Mae’n darparu cyngor ymarferol i ysgolion ac awdurdodau lleol ar sut i gychwyn, datblygu ac adolygu CAP, ac mae’n cefnogi dull wedi’i bersonoli o gynllunio addysg.
Plant
Nid ydym wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol ar gyfer plant â nodweddion gwarchodedig. Nid ydym wedi nodi unrhyw effeithiau sy’n deillio o’r canllawiau ar CAPau a fyddai’n gwaethygu anghydraddoldeb i blant oherwydd anfantais economaidd-gymdeithasol. Yn hytrach, lluniwyd y canllawiau i gael effaith gadarnhaol drwy sicrhau bod pob plentyn sy’n derbyn gofal yn cael cyfle teg i elwa ar broses cynllunio addysgol o ansawdd uchel.
Mae’r canllawiau ar CAPau yn annog awdurdodau lleol ac ysgolion i fabwysiadu agwedd wedi’i phersonoli sy’n canolbwyntio ar y plentyn a ddylai fod o fudd i bob plentyn sy’n derbyn gofal. Mae’r canllawiau yn rhoi pwyslais ar gynhwysiant ac amrywiaeth. Maent yn rhoi pwyslais cadarn ar lais y dysgwr a chyfranogiad gweithredol yn y broses CAP.
Mae’r canllawiau yn cyd-fynd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), yn enwedig Erthyglau 2 (peidio â gwahaniaethu), 3 (budd pennaf), 12 (llais y plentyn), 28 a 29 (addysg), 20 (yr hawl i dderbyn gofal os na all plentyn fyw gyda’i deulu ei hun) a 22 (mae gan blant ffoaduriaid yr un hawliau â phlant a anwyd yn y wlad honno).
Aelodau’r cyhoedd ac y gymuned fusnes
Ychydig iawn o effaith, os o gwbl, y caiff y canllawiau ar CAPau ar aelodau’r cyhoedd neu fusnesau. Awdurdodau lleol ac ysgolion sy’n gyfrifol am gyflawni’r ddyletswydd gyfreithiol i lunio CAP ar gyfer pob plentyn mewn gofal. Mae’r cyngor arferion da yn y canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion, ac nid ar gyfer busnesau neu aelodau’r cyhoedd nad oes ganddynt rôl benodol yn y broses o lunio CAP.
Y Gymraeg
Roedd yr ymgynghoriad ar y canllawiau ar CAPau yn archwilio sut y gallai’r cynigion effeithio ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Daeth sylwadau i law gan bedwar ar ddeg o ymatebwyr, gan gyfeirio at gyfleoedd i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y broses o lunio CAP.
Mae’r canllawiau ar CAPau wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r adborth hwn:
- Maent yn nodi bod yn rhaid i CAP gofnodi safbwyntiau a dewis iaith y plentyn (Cymraeg neu Saesneg).
- Maent yn ymgorffori cyfleoedd Cymraeg ac yn sicrhau bod y CAP yn hygyrch yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Maent yn sicrhau bod plant yn gallu cymryd rhan mewn ffordd ystyrlon trwy gyfrwng eu dewis iaith.
- Maent yn awgrymu cynnal cyfarfodydd rhithwir ar gyfer plant sy’n siarad Cymraeg mewn lleoliadau nad oes ganddynt staff sy’n siarad Cymraeg.
Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant a (neu) yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol
Bydd y canllawiau ar CAPau yn cyfrannu at gefnogi cynnydd hirdymor plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan eu galluogi i ffynnu yn eu haddysg a sicrhau’r deilliannau gorau.
Bydd annog y broses o gefnogi plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal mewn ffordd effeithiol yn cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), yn benodol y nodau canlynol:
Cymru lewyrchus: mae plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn fwy tebygol o fod wedi wynebu trawma yn eu bywydau, gan gynnwys cam-driniaeth, esgeulustod neu golled. Bwriad CAP o ansawdd da yw cefnogi cynnydd hirdymor plant sy’n derbyn gofal er mwyn eu helpu i ffynnu yn eu haddysg a sicrhau’r deilliannau gorau. Hefyd, dylai helpu i leihau’r rhwystrau sy’n cael eu hachosi gan drawma cynnar ac anfantais sy’n effeithio ar ddeilliannau addysgol plant. Byddai hyn yn cyfrannu at y nod llesiant o “ddatblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig” yng Nghymru.
Cymru sy’n fwy cyfartal: mae nifer o ffactorau amrywiol yn gallu creu rhwystrau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal o ran cael mynediad at addysg.Mae plant sy’n derbyn gofal i gyd yn wahanol, ond maent yn fwy tebygol o fod wedi wynebu digwyddiadau trawmatig yn ystod eu bywyd, gan gynnwys camdriniaeth, esgeulustod neu golled. Mae hyn yn gallu effeithio ar y ffordd y mae person yn cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau, yn rheoli eu hemosiynau, eu perthynas ag eraill, a’u hymddygiad o ddydd i ddydd. Dylai CAP o ansawdd da amlinellu strategaethau dysgu wedi’u teilwra sy’n helpu i oresgyn y rhwystrau a nodwyd i’r person ifanc a datblygu ei gryfderau a’i ddyheadau. Mae hyn yn cefnogi’r nod o greu “cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau”.
Lliniaru
Byddwn yn hyrwyddo’r broses o weithredu’r egwyddorion a’r disgwyliadau sydd wedi’u cynnwys yn y canllawiau ar CAPau. Bydd hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod y broses CAP yn fwy ystyrlon ac effeithiol i blant sy’n derbyn gofal. Dylai CAP o ansawdd da hyrwyddo dull wedi’i bersonoli o ddysgu er mwyn cefnogi cynnydd a chyflawniad addysgol plant sy’n gymwys i gael CAP.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o arferion da i gefnogi addysg plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Bydd hefyd yn ystyried y defnydd o CAPau. Disgwylir cyhoeddi’r adroddiad ym mis Hydref 2026. Bydd yr adolygiad yn argymell dulliau o gefnogi addysg dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Byddwn yn ystyried unrhyw argymhellion mewn perthynas â CAPau ac yn diweddaru’r canllawiau fel sy’n briodol.
Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau
Byddwn yn monitro’r broses o roi’r canllawiau ar waith trwy gael adborth gan randdeiliaid, gan gynnwys ymgysylltu â’n Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer addysg plant â phrofiad o fod mewn gofal. Mae’r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r 22 awdurdod lleol, y Trydydd Sector a chyrff cyhoeddus fel Estyn a Chomisiynydd Plant Cymru.
Byddwn yn ystyried unrhyw argymhellion yn adroddiad Estyn mewn perthynas â CAPau ac yn diweddaru’r canllawiau fel sy’n briodol.
