Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i helpu awdurdodau lleol i ddilyn y gyfraith ar asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Gorffennaf 2026

Pennod 1: cyflwyniad

Cyflwyniad

Mae’r canllawiau statudol hyn wedi cael eu cynhyrchu i helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014). Cyhoeddir y canllawiau hyn o dan adran 106 o Ddeddf 2014. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf 2014.

Rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer pob cyfnod adolygu a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo. Pan fydd yr asesiad yn canfod bod angen heb ei fodloni am safleoedd cartrefi symudol, rhaid i awdurdodau lleol arfer eu pwerau yn adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol i’r graddau y gall fod yn angenrheidiol i fodloni’r anghenion hynny.

Rhaid canfod, deall a rhoi sylw i anghenion llety’r holl Sipsiwn a Theithwyr drwy fframwaith cynllunio cyffredinol yr awdurdod lleol a’r strategaeth dai ar yr un sail â sectorau eraill o’r gymuned.

Dylai’r anghenion a nodir yn y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr gael eu prif ffrydio yn y strategaeth dai leol. O dan adran 107 o Ddeddf 2014, pan fo’n rhaid i awdurdod tai lleol o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 fod â strategaeth mewn perthynas â bodloni anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw neu’n aros yn ei ardal, rhaid i’r awdurdod tai lleol roi sylw i’r canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth baratoi ei strategaeth.

Mae’n bwysig i awdurdodau lleol ddeall nad yw’r broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn disodli eu dyletswyddau statudol i helpu pobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn eu hardal. O dan adran 55 o Ddeddf 2014, mae person yn ddigartref os oes ganddo lety, ond ei fod yn strwythur symudol neu’n gerbyd sydd wedi’i ddylunio neu ei addasu i bobl fyw ynddo ac nid oes gan y person hawl neu ganiatâd i’w leoli yn unman nac i breswylio ynddo.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu pwysigrwydd llety sy’n briodol yn ddiwylliannol i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ei nod yw:

“Cydnabod bod angen llety diogel a diwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau, ac i ymdrin â’r prinder safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bob rhan o’r gymuned a rhaid i Sipsiwn a Theithwyr gael yr un mynediad at lety diogel ac addas sy’n briodol yn ddiwylliannol â phob aelod arall o’r gymuned.

Mae defnyddio dull sy'n seiliedig ar hawliau dynol a chydweithio â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn un o elfennau craidd y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, ac mae’n hanfodol er mwyn sicrhau tegwch a chydymffurfedd â dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus yr awdurdod lleol, a’i ddyletswyddau sy’n benodol i Gymru. Mae’r dull hwn hefyd yn cyd-fynd â phwyslais y Canllawiau ar gydgynhyrchu a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, sydd i gyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu cynhwysol a chynrychioladol:

Pwrpas asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr yw sicrhau bod tai digonol yn realiti i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais gyffredinol i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at dai digonol sy’n briodol yn ddiwylliannol ac yn cyd-fynd â meini prawf Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r egwyddor o drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (y “Mesur”) yn darparu ar gyfer pennu safonau ymddygiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Mae’r safonau presennol yn cael eu pennu yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyflwyno hysbysiad cydymffurfio i Weinidogion Cymru yn nodi pa safonau sy’n berthnasol i unrhyw weithgaredd neu wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan ar hyn o bryd.

Mae gan bob awdurdod lleol ei Hysbysiad Cydymffurfio Iaith Gymraeg ei hun, wedi’i orfodi gan y Comisiynydd.

Pam asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr?

Mae asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr, a’r ddyletswydd i ddarparu safleoedd lle mae’r asesiad wedi canfod bod angen, yn ofynion statudol o dan Ran 3 o Ddeddf 2014.

Mae adran 108 o Ddeddf 2014 yn diffinio “Sipsiwn a Theithwyr” fel a ganlyn:

  1. Pobl sy’n arfer ffordd nomadaidd o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:
    1. pobl sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi'r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol;
    2. aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bobl sy’n rhan o syrcasau teithiol (p’un ai eu bod yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio);
  2. Unrhyw bobl eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.

Mae angen diffiniad eang er mwyn cael dealltwriaeth lawn o anghenion llety pawb sy’n rhan o’r cymunedau hyn.

Mae Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig yn grwpiau hiliol cydnabyddedig at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010. Bwriad y diffiniad uchod yw sicrhau bod grwpiau ethnig perthnasol eraill yn cael eu cynnwys hefyd, yn ogystal â’r rhai o unrhyw grŵp arall sy’n dilyn ffordd nomadaidd o fyw. Er enghraifft, gallai’r diffiniad gynnwys Teithwyr Newydd os ydynt yn dilyn ffordd nomadaidd o fyw.

Nid oes angen i aelodau o’r cymunedau hyn o reidrwydd ddangos eu bod yn arfer ffordd nomadaidd o fyw yn barhaus i gael eu hystyried yn Sipsiwn neu’n Deithwyr at ddibenion yr asesiad hwn. Efallai y bydd Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn tai brics a mortar eisiau symud i safle yn y dyfodol, a bydd yn hanfodol i awdurdodau lleol hefyd ystyried eu hanghenion nhw mewn asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Y gofyniad o dan Ddeddf 2014 yw i awdurdodau lleol ddarparu safleoedd cartrefi symudol addas i fodloni anghenion Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal. Ni ddylid rhoi pwysau ar Sipsiwn a Theithwyr i symud i gartrefi brics a mortar oherwydd nad oes gan awdurdodau lleol ddigon o safleoedd ar gael.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol o hyd i fodloni’r anghenion llety a nodir yn eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cymeradwy diweddaraf os ydynt yn dal heb eu bodloni, hyd yn oed pan fyddant wedi cyflwyno asesiad drafft i Lywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adolygu dilynol. Os yw amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers yr asesiad blaenorol, er enghraifft os yw angen wedi’i nodi’n flaenorol ddim yn bodoli mwyach, rhaid i awdurdodau lleol egluro’r rheswm dros y newid hwn yn eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr drafft.

Cafodd y canllawiau hyn eu hysgrifennu yn 2025, yn nhrydydd cylch yr asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr. Mae Cylch 3 yr asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr yn berthnasol i’r cyfnod 2022 i 2027. Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyflwyno ei asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr Cylch 3 i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo erbyn 24 Chwefror 2027.

Dyma ddyddiadau’r cylchoedd yn y dyfodol:

  • 2027 i 2032: rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr erbyn 24 Chwefror 2032.
  • 2032 i 2037: rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr erbyn 24 Chwefror 2037.
  • 2037 i 2042: rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr erbyn 24 Chwefror 2042.

Y gofyniad yn adran 101 o Ddeddf 2014 yw i bob awdurdod lleol asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw neu’n aros yn ei ardal yn ystod pob cyfnod adolygu. Caiff awdurdodau lleol ddewis pryd ym mhob cylch maent yn cyflwyno eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i’r Gweinidogion.

Mae hi’n hanfodol deall materion sy’n ymwneud â llety Sipsiwn a Theithwyr er mwyn i awdurdodau lleol allu cynllunio i ddarparu llety’n briodol i’r gymuned ac osgoi’r problemau sy’n gysylltiedig â gwersylloedd ad hoc neu ddiawdurdod.

Bydd asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cynhwysfawr a strategaeth glir i fodloni’r angen a nodwyd yn lleihau’n sylweddol y risg o wersylloedd diawdurdod mewn awdurdod lleol, oherwydd cydnabyddir bod gwersylloedd diawdurdod yn aml yn digwydd oherwydd nad oes safle awdurdodedig ar gael.

Mae adran 102 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno eu hadroddiadau asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo. Rhaid i bob adroddiad:

  • gynnwys manylion am sut cynhaliwyd yr asesiad
  • cynnwys crynodeb o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r asesiad, a’r ymatebion (os oes rhai) a gafwyd i
  • roi manylion yr anghenion llety a nodwyd gan yr asesiad

Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo'r asesiad fel y'i cyflwynwyd, cymeradwyo'r asesiad gydag addasiadau, neu wrthod yr asesiad. Os caiff yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ei wrthod, rhaid i’r awdurdod lleol naill ai adolygu ac ailgyflwyno ei asesiad i’w gymeradwyo neu gynnal asesiad newydd.

Bydd Gweinidogion Cymru’n asesu pob adroddiad i sicrhau ei fod yn gadarn, yn cydymffurfio â phob un o ofynion Deddf 2014, yn dangos bod yr awdurdod lleol wedi rhoi sylw dyledus i’r canllawiau hyn a bod y gwaith o gyfrifo anghenion yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei gyflawni ar ôl ymgynghori’n briodol ag unigolion perthnasol.

Mae adran 105 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn mynnu bod awdurdod tai lleol yn darparu Gweinidogion Cymru ag unrhyw wybodaeth (ac ar unrhyw adeg) y gall fod ei hangen arnynt er mwyn arfer eu swyddogaethau o dan Ran 3 o’r Ddeddf.

Caiff Gweinidogion Cymru ofyn am wybodaeth y gallai fod ei hangen arnynt yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achos penodol.

Er mwyn helpu i sicrhau bod gan Weinidogion Cymru yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymeradwyo asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, dylai awdurdodau lleol gyflwyno eu hasesiad llawn, ynghyd â’r holl dystiolaeth berthnasol, i ddangos bod yr asesiad yn gynhwysfawr a’u bod wedi nodi’n gywir yr anghenion sy’n weddill o ran llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw ac yn aros yn eu hardal.  Wrth ddarparu manylion am yr anghenion llety a nodwyd, argymhellir bod awdurdodau lleol yn rhoi dadansoddiad ar y ffurf a nodir yn Atodiad 5.

Rhaid i awdurdodau lleol hefyd nodi cynllun yn eu hasesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr i egluro sut maen nhw’n bwriadu mynd i’r afael â’r anghenion llety maent wedi’u nodi.

Mae angen i awdurdodau lleol weithio’n agos gyda Sipsiwn a Theithwyr drwy gydol y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ac ar ôl i’r asesiad gael ei gymeradwyo. Mae’n bwysig bod y canlyniadau a’r camau nesaf yn cael eu cyfleu i aelodau o’r gymuned, gan gynnwys plant a phobl ifanc, mewn fformat hygyrch. Yn benodol, argymhellir bod awdurdodau lleol yn rhoi adborth uniongyrchol i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr asesiad i sicrhau eu bod yn deall sut cafodd eu safbwyntiau eu hystyried.

Ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol ei gyhoeddi ar ei wefan.

Pam mae angen asesiad ar wahân ar Sipsiwn a Theithwyr?

Fel arfer, mae Sipsiwn a Theithwyr yn ganran fach iawn o’r boblogaeth mewn unrhyw ardal awdurdod lleol benodol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Efallai nad yw’r cyfanswm hysbys yn cynnwys aelodau’r cymunedau hyn a wrthododd gofnodi eu hethnigrwydd oherwydd bod arnynt ofn y gwahaniaethir yn eu herbyn, eu bod yn teimlo ymlyniad cryfach â chategorïau ethnigrwydd eraill (ee Gwyn Gwyddelig) neu am resymau eraill, er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ymdrechu i ddeall y materion hyn yn well.

Gall Sipsiwn a Theithwyr fod yn byw mewn cartrefi brics a mortar neu ar safleoedd cartrefi symudol preifat neu rai awdurdodau lleol. Mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol yn asesu anghenion yr holl boblogaeth fel rhan o’r broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Efallai fod rhai sy’n byw mewn cartrefi brics a mortar wedi symud o fyw mewn cartrefi symudol oherwydd diffyg dewisiadau eraill, efallai oherwydd nad oedd yr awdurdod lleol lle maen nhw’n byw wedi darparu digon o lety safle. Bydd angen i’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr asesu a yw unigolion neu deuluoedd yn byw mewn cartrefi brics a mortar oherwydd nad oes digon o ddarpariaeth amgen ar gael a'u bod yn dymuno symud yn ôl i safle awdurdod lleol pan fydd lleiniau ar gael.

Dylid nodi arweinydd yn yr awdurdod lleol i fwrw ymlaen â’r broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, a sicrhau bod targedau cynnydd a cherrig milltir allweddol yn cael eu cyflawni. Fel arfer dylai hyn fod yr awdurdod tai lleol oherwydd dyma’r corff tai strategol.

Mae’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn gofyn am arolwg manwl ar ffurf Cyfrifiad a chasglu data sylfaenol ac eilaidd.

Mae angen casglu data ‘sylfaenol’ fel arolwg i asesu anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr oherwydd bod maint eu poblogaeth yn fach a’u hanghenion llety yn benodol. Byddai dim ond defnyddio ystadegau sydd eisoes ar gael (neu ddata ‘eilaidd’) i asesu eu hanghenion llety yn annhebygol o arwain at ganlyniadau sy’n ystadegol gadarn neu gyfredol oherwydd mai ychydig iawn o ddata dibynadwy sydd ar gael ar hyn o bryd am ofynion llety’r cymunedau hyn ym mhob ardal leol.

O ganlyniad, bydd yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn mynnu bod arolwg sylfaenol yn cael ei gynnal yn uniongyrchol gyda’r boblogaeth Sipsiwn a Theithwyr (a gesglir drwy ddull sy’n debyg i’r cyfrifiad), yn ogystal ag adolygiad o’r data sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd y broses yn cael ei hegluro’n fanylach ym Mhennod 2.

Gyda phwy mae angen ymgynghori drwy’r asesiad llety?

Mae adran 101 o Ddeddf 2014 yn mynnu’n benodol bod awdurdod tai lleol yn ymgynghori â’r unigolion hynny sy’n briodol yn eu barn nhw wrth gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal. O dan adran 102, rhaid i’r awdurdod lleol baratoi adroddiad sy’n rhoi manylion am sut cafodd ei asesiad ei gynnal, yn crynhoi’r ymgynghoriad a gynhaliwyd a’r ymatebion a gafwyd, ac yn amlinellu’r anghenion llety a nodwyd.

Os bydd Gweinidogion Cymru’n credu bod yr awdurdod lleol wedi methu cynnal ymgynghoriad priodol, mae modd gwrthod ei asesiad. Felly, mae’n bwysig iawn bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod eu hymgynghoriad yn drylwyr ac yn effeithiol.

Rhaid i awdurdodau lleol benderfynu gyda phwy y byddai’n briodol ymgynghori yn eu barn nhw. Disgwylir i hyn gynnwys y gwahanol gymunedau o fewn cwmpas y diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr er mwyn gallu asesu eu hanghenion yn briodol.

Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi ceisio ymgynghori â chymunedau Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig yn eu hardal wrth gynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr. Fodd bynnag, yn aml mae hyn wedi’i gyfyngu i’r rhai sy’n byw ar safleoedd awdurdod lleol neu safleoedd preifat sydd â chaniatâd cynllunio. Rhaid asesu anghenion y rhai sydd ar safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio, y rhai sy’n defnyddio gwersylloedd diawdurdod a’r rhai sy’n byw mewn cartrefi brics a mortar hefyd drwy ymgynghori uniongyrchol, ynghyd â’r rhai sy’n aros yn ardal yr awdurdod lleol.

Dylid cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr mewn ffordd ystyrlon hefyd, a chyfleu’r canlyniadau mewn ffordd glir a hygyrch. Bydd hyn yn cynnal eu hawliau ac yn cefnogi penderfyniadau sy’n fwy seiliedig ar wybodaeth a’r gymuned.

Mewn rhai rhannau o’r wlad, mae Teithwyr Newydd yn lleiafrif sylweddol o’r boblogaeth sy’n teithio. Rhaid i’r awdurdodau lleol perthnasol asesu eu hanghenion nhw hefyd ynghyd ag anghenion y grwpiau Sipsiwn a Theithwyr mwy traddodiadol.

Rhaid hefyd ystyried anghenion y Siewmyn Teithiol fel rhan o’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, gan y gallai’r grŵp hwn, er enghraifft, fod angen gwersyll gaeaf mewn ardal awdurdod lleol.

Wrth asesu adroddiadau asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw penodol i’r graddau mae awdurdodau tai lleol wedi dangos eu bod wedi ymgynghori’n uniongyrchol ag aelodau o’r holl gymunedau Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw neu’n aros yn eu hardal. Gallai adolygu ffynonellau data (fel yr amlinellir ym Mhennod 2) a chysylltu â sefydliadau cymorth Sipsiwn a Theithwyr (gweler Atodiad 2) i ganfod ac i ymgysylltu ag aelodau’r gymuned gefnogi’r nod hwn ond nid yw’n disodli’r angen i ymgynghori’n uniongyrchol â’r rhai yr asesir eu hanghenion.

Er mwyn sicrhau bod yr amcangyfrif o’r angen am leiniau mewn asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn gadarn, mae’n hanfodol sicrhau ymgynghoriad llwyddiannus ag aelodau’r gymuned. Cynghorir awdurdodau lleol i ddilyn y ‘rhestr wirio ymgysylltu’ i sicrhau eu bod yn cyrraedd cynifer o aelodau’r gymuned â phosib.

Rhaid i awdurdodau lleol gadw cofnod o gyfweliadau i ddangos i Weinidogion Cymru bod pob ymdrech wedi’i gwneud i ymgysylltu â’r holl Sipsiwn a Theithwyr yn yr ardal. Rhaid i’r cofnod o gyfweliadau nodi’n glir a yw ymdrechion rheolaidd i ymgysylltu ag aelodau’r gymuned wedi methu a rhoi rhesymau dros beidio â chymryd rhan lle bo hynny’n bosib. Mae cofnod drafft o gyfweliadau yn Atodiad 4.

Efallai y bydd angen i Weinidogion Cymru adolygu’r cofnod o’r cyfweliadau wrth ystyried a ddylid cymeradwyo neu wrthod asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol, ac felly argymhellir cyflwyno hwn ynghyd â’r asesiad.

Mae adran 103 o Ddeddf 2014 yn egluro, os bydd asesiad a gymeradwywyd gan awdurdod lleol yn canfod anghenion am safleoedd y caniateir gosod cartrefi symudol arnynt, rhaid i’r awdurdod arfer ei bwerau yn adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i’r graddau y gall fod angen bodloni’r anghenion hynny.

Os canfyddir bod angen lleiniau Sipsiwn a Theithwyr, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried sut mae gwneud y ddarpariaeth angenrheidiol ac a ddylid defnyddio ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i ddarparu’r safleoedd gofynnol.

Mae’n debyg mai darparu lleiniau a safleoedd awdurdod lleol yw’r ateb tymor hir mwyaf effeithiol i fodloni anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr, ond efallai bydd ar awdurdodau tai lleol hefyd eisiau ystyried sicrhau lleiniau ar safleoedd a weithredir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu safleoedd preifat i Sipsiwn a Theithwyr, lle bo’n briodol.

Gallai’r grwpiau canlynol fod yn arbennig o debygol o arwain at angen am leiniau. Aelwydydd annedd cartref symudol:

  • heb safleoedd awdurdod lleol na phreifat i fyw arnynt
  • y mae eu llety safle presennol yn orlawn neu'n anaddas ac nid yw preswylwyr yn gallu cael llety mwy o faint neu fwy addas
  • sy’n cynnwys aelwydydd mae angen iddynt sefydlu unedau teulu ar wahân ond nid ydynt yn gallu cael gafael ar le ar safle awdurdod lleol na datblygu eu safle preifat eu hunain

Aelwydydd annedd ‘brics a mortar’:

  • y mae eu llety presennol yn orlawn neu’n anaddas (mae ‘anaddas’ yn y cyd-destun hwn yn cynnwys bod yn anaddas oherwydd gwrthwynebiad diwylliannol i lety brics a mortar)
  • sy’n cynnwys aelwydydd cudd nad ydynt yn gallu sefydlu unedau teulu ar wahân ac nad ydynt yn gallu cael llety addas neu briodol

Beth mae’n rhaid i’r asesiad llety ei gynhyrchu?

Gofyniad yr asesiad yw darparu data a fydd yn nodi anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn gywir.

Dylai’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr wedi’i gwblhau arfogi awdurdodau lleol â’r holl ddata perthnasol fel sail i’w strategaeth dai leol a pholisïau darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn eu Cynllun Datblygu.

Pan fydd awdurdod lleol wedi canfod bod angen safleoedd ychwanegol, dylai’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr hefyd nodi sut bydd yn bodloni’r anghenion hynny ac o fewn pa amserlenni.

Dylai’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr nodi a yw’r awdurdod lleol yn bwriadu arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i fodloni’r anghenion dynodedig a chynnwys unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol i ddangos sut bydd yr awdurdod fel arall yn cyflawni ei ddyletswydd i ddarparu’r llety gofynnol.

Sut bydd yn wahanol i asesu anghenion tai’r gymuned nad ydynt yn Sipsiwn a Theithwyr?

Bydd nodau’r asesiad ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yr un fath ag ar gyfer sectorau eraill o’r gymuned, hynny yw, er mwyn canfod yr angen sydd ar ôl. Fodd bynnag, bydd y prinder difrifol o lety Sipsiwn a Theithwyr sy’n briodol yn ddiwylliannol yn golygu bod y broses i gynnal yr adolygiad yn dra gwahanol. Yn wahanol i sectorau eraill o’r gymuned, gall Sipsiwn a Theithwyr fyw yn y mathau canlynol o lety:

  • safleoedd awdurdod lleol
  • safleoedd preifat gyda chaniatâd cynllunio
  • safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio
  • brics a mortar
  • mannau aros tramwy neu dros dro/a negodwyd
  • gwersylloedd diawdurdod

Gall anghenion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr fod yn wahanol i weddill y boblogaeth oherwydd:

  • eu patrwm bywyd nomadaidd neu led-nomadaidd
  • y diwylliant o fyw mewn carafán
  • symud posib rhwng tai a charafannau
  • nifer y gwersylloedd diawdurdod
  • patrymau byw teulu estynedig

Mae’n bosib y bydd symud rhwng gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol yn arwain at y goblygiadau canlynol wrth gynnal asesiad:

  • efallai bydd angen gweithio ar lefel ranbarthol wrth gynnal asesiadau a llunio atebion i ddarparu safleoedd gofynnol
  • bydd angen ystyried amseriad yr asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr i gyd-fynd ag awdurdodau lleol perthnasol eraill
  • efallai bydd angen gofyn cwestiynau gwahanol
  • efallai bydd angen defnyddio ffynonellau data gwahanol

Os nad oes gan awdurdod lawer o wybodaeth am Sipsiwn a Theithwyr, neu ddata dibynadwy amdanynt, mae’n bwysicach fyth bod grwpiau sy’n cefnogi’r cymunedau hyn yn cael eu cynnwys er mwyn sicrhau bod yr asesiad yn gywir ac yn cyrraedd cynifer o bobl â phosib.

Rhaid ail-wneud y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr o leiaf bob cyfnod adolygu o bum mlynedd i sicrhau bod y dystiolaeth yn dal yn gyfredol ac yn gadarn. Caiff awdurdodau lleol gynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr yn amlach na hyn os ydynt yn dewis gwneud hynny.

Argymhellir bod Cynghorwyr lleol yn cael gwybod am y gofyniad i gynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, i fodloni’r anghenion a nodwyd a’r canllawiau hyn. Mae darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn gallu bod yn fater cymhleth mewn cymunedau ehangach, a gallai fod yn ddefnyddiol sicrhau bod aelodau’r Cyngor yn cael eu briffio’n llawn ac yn deall y dyletswyddau statudol sydd gan bob awdurdod lleol yn gynnar.

Pennod 2: cynnal yr asesiad

Paratoi a gweithio mewn partneriaeth

Mae’n hanfodol bod y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn derbyn ac yn y credu yn y broses asesu. Os nad, gall fod yn anodd ymgysylltu ag aelodau’r gymuned, a fydd yn tanseilio cywirdeb yr arolwg. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn cynnwys cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng ngham cynllunio cychwynnol y broses asesiad llety, oherwydd bydd y cymunedau hyn yn gallu sicrhau bod y weithdrefn i’w dilyn yn adlewyrchu eu cefndiroedd a’u hanghenion amrywiol.

Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am benderfynu pwy ddylai arwain y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. Un o adrannau’r awdurdod lleol fyddai’n gwneud hyn fel arfer, naill ai’r adran Dai neu Gynllunio. Dylai pwy bynnag a benodir sicrhau bod yr adrannau Tai a Chynllunio yn gweithio’n agos gyda’i gilydd, bod ganddynt statws priodol i gymryd perchnogaeth dros y canlyniad, a sicrhau bod dogfennau canllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn cael sylw dyladwy ar draws yr awdurdod lleol.

Mae gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i benderfynu cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr unigol neu ranbarthol. Er mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol unigol yw cynnal yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, a bod yn rhaid iddynt nodi’r holl anghenion llety sydd heb eu bodloni yn eu hardal eu hunain, efallai y bydd modd gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill wrth benderfynu ar y ffordd orau o fodloni’r anghenion hynny. Gall manteision posib dull o’r fath fod yn arbennig o berthnasol mewn perthynas â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr oherwydd eu patrymau teithio a symud, sy’n debygol o groesi ffiniau awdurdodau lleol, ac mae’n rhaid deall y rhain yn benodol er mwyn gwneud darpariaeth dramwy briodol. Yn y pen draw, gall gweithio mewn partneriaethau rhanbarthol arbed costau a gwella’r ffynhonnell ddata a’r ddarpariaeth o lety digonol.

Mae’n rhaid ceisio cyflawni’r canlynol wrth weithio mewn partneriaeth:

  • ymgysylltiad gwell â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr
  • dealltwriaeth well o’r anghenion llety ar draws y ffiniau gweinyddol
  • dealltwriaeth well o batrymau teithio i helpu i gyfrannu at yr angen am ddarpariaeth dramwy
  • dull gweithredu cyffredin a chysondeb ar draws ardal y bartneriaeth
  • arbedion maint
  • llai o risgiau o gyfrif ddwywaith
  • cyfleoedd i gydweithio i lunio dull gweithredu strategol ar y cyd ar gyfer prinder safleoedd cartrefi symudol Sipsiwn a Theithwyr 

Os yw awdurdodau lleol yn dymuno cynhyrchu asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr rhanbarthol, rhaid cynnal trafodaethau cynnar gydag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth i weld a yw hi’n bosib gweithio mewn partneriaeth. Dylid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru hefyd. Bydd unrhyw oedi yn y broses o gynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr rhanbarthol yn golygu bod awdurdodau lleol mewn perygl o dorri eu dyletswydd statudol i gyflwyno’r asesiad i Weinidogion Cymru o fewn y terfynau amser penodol yn Neddf 2014. Felly, mae’n hanfodol cytuno’n gynnar ar y broses i gomisiynu asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr ar y cyd mewn unrhyw bartneriaeth ranbarthol.

Wrth asesu pa ardaloedd awdurdodau lleol a allai ddymuno cydweithredu i ddeall anghenion rhanbarthol, dylai awdurdodau lleol ystyried gwybodaeth a phrofiad eu swyddogion ac unrhyw farn gan aelodau o’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol. Bydd yr ardal a fydd yn cael ei chynnwys yn dibynnu i raddau helaeth ar batrymau teithio a symud arferol yn y rhanbarth neu lle mae’r safleoedd presennol yn agos at ffiniau gweinyddol. Dylai aelodau’r gymuned allu egluro’r ardaloedd ehangach sy’n berthnasol yn eu barn nhw i awdurdodau. Mae cynnwys unigolion o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn gynnar yn y trafodaethau hyn yn hanfodol i roi gwybodaeth i ardal y bartneriaeth a dylai gynhyrchu’r canlyniadau mwyaf effeithiol.

Rheoli prosiect

Bydd penodi grŵp llywio ar gyfer yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn helpu i sicrhau bod y broses yn seiliedig ar yr holl arbenigedd sydd ar gael i gynhyrchu’r asesiad mwyaf effeithiol posib. Mae’n bwysig bod rhanddeiliaid allweddol yn gwybod am benodiad y grŵp llywio ac yn cael cyfle i gymryd rhan yn gynnar. Dylai’r grŵp gynnwys y rhai sydd wedi sefydlu rhwydweithiau mewn cymunedau Sipsiwn a Theithwyr ac sy’n gyfrifol am fodloni eu hanghenion llety. Maen nhw’n gallu cynnwys cynrychiolwyr o:

  • adrannau Tai a Chynllunio awdurdodau lleol
  • aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr leol
  • sefydliadau sy’n gweithio i gefnogi cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, Atodiad 2
  • gwasanaethau perthnasol eraill fel gwasanaethau addysg i Deithwyr, swyddogion cyswllt Sipsiwn a Theithwyr neu swyddogion byrddau iechyd sy’n gweithio’n agos gyda chymunedau Sipsiwn a Theithwyr ac a allai fod â gwybodaeth am gymunedau yn yr ardal
  • cynghorwyr awdurdodau lleol, er enghraifft, deiliad y portffolio Cydraddoldeb neu Gynllunio

Argymhellir hefyd, lle bo hynny’n ymarferol, cynnwys person sydd â gwybodaeth fanwl am y prosesau asesu a’r canlyniadau mewn ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos.

Mae cynnwys aelodau o’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol yn rhan hanfodol o gyfansoddiad y grŵp llywio ac ni ddylid anwybyddu na gohirio hynny. Mae eu cyfraniad yn hollbwysig i helpu i fynd i’r afael ag unrhyw ganfyddiad bod yr asesiad yn cael ei chynnal ‘ar gyfer’ cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, yn hytrach na ‘gyda nhw’. Mae eu cyfraniad hefyd yn gallu rhoi persbectif hollbwysig ar batrymau teithio cymunedau a’r angen (neu fel arall) i weithio ar sail ranbarthol. Byddant hefyd yn helpu i sicrhau bod anghenion y gymuned Sipsiwn a Theithwyr i gyd yn cael eu cynnwys yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. Bydd hefyd yn cryfhau’r cyfleoedd i’r astudiaeth gael cyhoeddusrwydd da ymysg aelodau’r gymuned ac yn archwilio’r ffordd orau o gynnwys aelodau’r gymuned i gasglu’r wybodaeth angenrheidiol.

Dylid nodi, pan na fydd unrhyw aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn dymuno ymgysylltu â’r broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, neu os nad ydynt yn gyfforddus yn siarad â’r awdurdod lleol, ni ddylid rhagdybio nad oes angen lleiniau arnynt. Os felly, rhaid i’r grŵp llywio ystyried dulliau eraill o ganfod eu hanghenion tai. Gallai hyn gynnwys defnyddio sefydliadau rhanddeiliaid Sipsiwn a Theithwyr neu gysylltu ag aelodau eraill o’r gymuned a allai hwyluso cyfranogiad yn y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ar eu rhan.

Wrth wahodd aelodau’r gymuned i gymryd rhan yn y grŵp llywio, dylid rhoi cyfle i aelodau’r gymuned eu hunain enwebu unigolion. Gallai sefydliadau sy’n gweithio’n agos gyda’r cymunedau hyn hefyd enwebu’r rhai a fyddai, yn eu barn nhw, yn gallu cefnogi nodau’r grŵp llywio. Er nad yw safbwyntiau aelodau unigol o’r gymuned o reidrwydd yn cynrychioli pawb, efallai byddant yn cynnig safbwynt gwahanol fel aelodau o’r gymuned y mae eu hanghenion llety’n cael eu hasesu.

Efallai y bydd aelodau’r gymuned hefyd yn gallu rhoi rhywfaint o gyngor ar briodoldeb y technegau ymgysylltu arfaethedig a chwestiynau tebygol gan y gymuned.

Mae cynrychiolaeth Sipsiwn a Theithwyr ar y grŵp llywio yn debygol o fod yn lleiafrif o ran niferoedd. Fodd bynnag, rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod eu barn yn cael sylw priodol gan eu bod yn debygol o fod yn y sefyllfa orau i roi cyngor ar anghenion eu cymunedau eu hunain.

Bydd angen i’r grŵp llywio gyflawni amrywiaeth o gyfrifoldebau, gan gynnwys:

  • argymell ardal yr arolwg daearyddol
  • dylunio nodau a chanlyniadau’r astudiaeth
  • penodi ymchwilwyr (mewnol neu allanol)
  • rhoi cyhoeddusrwydd i’r astudiaeth ymysg rhanddeiliaid
  • darparu gwybodaeth leol i’r ymchwilwyr
  • rhoi adborth i gyfranogwyr a rhanddeiliaid yr ymgynghoriad
  • goruchwylio asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cadarn o anghenion a chynlluniau i fynd i’r afael ag anghenion

Ar ôl penderfynu ar hyd a lled ardal yr arolwg, ac unrhyw gydweithio ag awdurdodau lleol eraill, bydd angen i’r grŵp llywio nodi nodau a chanlyniadau’r asesiad. Rhaid i’r canlyniadau allweddol gyd-fynd â chyflawni dyletswyddau’r awdurdod lleol o dan Ran 3 o Ddeddf 2014, gan gynnwys sefydlu dealltwriaeth glir o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr ac asesiad cywir o nifer y lleiniau cartrefi symudol y nodwyd bod eu hangen yn yr ardal. Dylai’r canlyniadau allweddol hefyd gynnwys cynllun i fynd i’r afael â’r angen hwnnw.

Cynghorir yr awdurdod lleol i ddefnyddio holiadur Llywodraeth Cymru yn Atodiad 3 i sicrhau bod data allweddol yn cael ei nodi a’i ddadansoddi. Fodd bynnag, efallai bydd ar y grŵp llywio eisiau ystyried ychwanegu cwestiynau ychwanegol at yr holiadur i gasglu unrhyw ddata sy’n benodol i’r ardal ac i sicrhau unrhyw ganlyniadau eraill, a allai fod yn ofynnol mewn unrhyw ardal benodol. Argymhellir bod unrhyw holiadur hirach yn cael ei dreialu gydag aelodau’r gymuned i sicrhau nad yw hyd y cyfweliad yn cael effaith andwyol ar gyfranogiad.

Bydd sefydlu canlyniadau clir yn helpu’r grŵp llywio i benodi ymchwilwyr i ymgymryd ag adrannau casglu tystiolaeth a dadansoddi data’r asesiad llety.

Gall yr ymchwilwyr a benodir fod yn staff mewnol neu’n ymgynghorwyr allanol.

Penodi ymchwilwyr

Ar ôl penderfynu ar ardal a nodau'r arolwg, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer sut rhoddir adborth i'r rhai sy'n cymryd rhan, bydd angen penodi ymchwilwyr i gynnal yr astudiaeth asesu llety. Mae’r opsiynau’n cynnwys defnyddio:

  • staff mewnol: yn ddelfrydol o'r adran Sipsiwn a Theithwyr neu adran dai'r awdurdod lleol
  • ymgynghorwyr arbenigol, sy’n meddu ar brofiad bywyd yn ddelfrydol

Wrth benderfynu pwy fydd yn cynnal yr arolwg, bydd angen i awdurdodau lleol ystyried:

  • gallu ac arbenigedd staff mewnol
  • cymwysterau a hanes ymgynghorwyr, gan gynnwys tystiolaeth bod y rhai sy’n cyfweld wedi ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol
  • pa mor effeithiol y gallai pob opsiwn fod o ran cyrraedd y grŵp targed (ee perthynas flaenorol â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr neu a allai gweithio gyda Sipsiwn a Theithwyr eu hunain fod yn ddefnyddiol i gael gwell mynediad i’r gymuned a sicrhau ymddiriedaeth y rhai sy’n cael eu hasesu)
  • y gallu i ddadansoddi data sylfaenol ac eilaidd i asesu anghenion llety
  • cadernid y broses, a fydd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y canlyniadau’n cael eu derbyn
  • hygrededd pob opsiwn gyda Sipsiwn a Theithwyr a’r gymuned sefydlog
  • adnoddau a chostau

Dylai awdurdodau lleol gofio, os oes gan ymchwilwyr wybodaeth bersonol am y cymunedau targed yn barod, efallai y bydd rhai aelodau o’r gymuned yn gyndyn o ddatgelu gwybodaeth bersonol a phreifat iddynt.

Mae pob un o’r ffactorau hyn yn ystyriaethau pwysig wrth asesu opsiynau comisiynu. Dylai awdurdodau lleol ystyried defnyddio sefydliadau ac unigolion mae’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol yn ymddiried ynddynt gan fod hyn yn debygol o arwain at gyfradd uwch o gyfranogiad ac ymatebion mwy manwl i’r holiadur. Efallai y bydd modd contractio sefydliadau dibynadwy i gynnal cyfweliadau’r arolwg, er mai’r awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am ddadansoddi’r ymatebion i’r arolwg.

Rhaid i’r grŵp llywio sicrhau bod gan y rhai a benodir i gynnal yr arolwg ddigon o wybodaeth am y gymuned Sipsiwn a Theithwyr leol a sgiliau ymchwil addas i fynd i’r afael â nodau ac amcanion yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Mae hefyd yn hanfodol bod gan y rhai sy’n cynnal yr arolwg y sgiliau ymchwil sydd eu hangen i ddatblygu, i weinyddu ac i ddadansoddi’r data a geir drwy’r arolwg.

Ar ôl nodi pwy fydd yn cynnal yr arolwg, dylai’r grŵp llywio ganolbwyntio ar ddarparu cymorth i’r ymchwilwyr a benodir. Argymhellir eu bod yn defnyddio eu rhwydweithiau yn adrannau perthnasol yr awdurdod lleol a chymunedau Sipsiwn a Theithwyr i sicrhau bod yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a’r arolwg yn cael digon o gyhoeddusrwydd a bod pob aelod o’r gymuned sydd â diddordeb yn gwybod sut mae cymryd rhan.

Gall y grŵp llywio hefyd ddarparu gwybodaeth leol berthnasol lle bo hynny’n briodol i’r rhai sy’n cynnal yr arolwg, gan gynnwys rhestr o gysylltiadau allweddol i’w helpu i lunio astudiaeth gynhwysfawr mewn ffordd sensitif a diddorol sy’n adlewyrchu naws benodol y cymunedau maent yn gweithio â nhw.  Fel rhan o hyn, bydd angen i awdurdodau lleol ystyried a chydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac unrhyw gyfyngiadau ar rannu data. Dylai’r awdurdod lleol a’r ymchwilwyr a benodir fodloni’r gofynion diogelwch data bob amser, gan sicrhau bod yr holl ddata personol a geir mewn cysylltiad â’r arolwg yn cael ei brosesu a’i storio’n gyfreithlon.

Ar ôl cynnal yr arolwg a’i gyflwyno i’r grŵp llywio, dylid sicrhau bod adborth yn cael ei roi i’r holl gyfranogwyr a rhanddeiliaid (yn unol â chyfyngiadau diogelu data). Heb adborth hygyrch, gallai cyfranogiad aelodau’r gymuned gael ei ystyried yn symbolaidd yn hytrach nag yn ystyrlon gan nad yw unigolion yn gallu gweld sut mae eu cyfraniad wedi dylanwadu ar bolisi lleol. Yn waeth fyth, gall diffyg adborth fod yn wrthgynhyrchiol oherwydd gallai’r un unigolion wrthod cymryd rhan mewn prosesau ymgynghori dilynol oherwydd canfyddiad bod “dim byd yn newid”.

Mae angen i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol y bydd Gweinidogion Cymru, fel rhan o’r broses cymeradwyo’r asesiad, yn craffu ar lefel yr ymgysylltu uniongyrchol â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ac ar gadernid y dadansoddiad o ganlyniadau’r arolwg. 

Bydd proses asesu a gynhelir yn briodol a chynllun clir i fynd i’r afael â’r anghenion a nodir yn helpu i sicrhau bod camau gweithredu’r awdurdodau lleol i weithredu ar yr asesiad mor gadarn â phosib.

Oherwydd y gallai asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr gael eu hystyried yn ystod y broses gynllunio, mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod y broses asesiadau llety yn gynhwysfawr, yn deg ac yn dryloyw, gan sicrhau bod y data’n adlewyrchu cefndiroedd ac anghenion amrywiol. Dylai awdurdodau lleol hefyd gofio y bydd eu hasesiadau cymeradwy yn dystiolaeth ddibynadwy i gefnogi a chael eu hymgorffori yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol

Dylai rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys sefydliadau trydydd sector, eisoes gael eu cynnwys yn y broses asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr fel rhan o grŵp llywio’r prosiect. Serch hynny, dylid ymgynghori’n ehangach hefyd ar ddylunio a chynnal yr asesiad gydag asiantaethau lleol a’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol. Bydd y broses hon yn cynnwys mapio’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol i sicrhau bod yr ymchwilwyr yn ymgysylltu â chynifer o aelodau â phosib. Bydd hefyd angen profi methodoleg yr arolwg, gan gynnwys cynigion ynghylch pwy fydd yn bresennol i ofyn cwestiynau, pryd bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal, priodoldeb y cwestiynau, a’r geiriad mwyaf effeithiol i gefnogi’r ddealltwriaeth a’r cyfranogiad gorau posib. Mae’r holiadur asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a argymhellir ar gael yn Atodiad 3.

Mae’n hanfodol bod pwrpas y gwaith yn cael ei egluro’n llawn i’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr cyn dechrau’r arolwg. Dylai awdurdodau lleol ddyrannu digon o amser i egluro’n glir beth yw’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, i amlinellu pob cam o’r broses asesu, ac i ddarparu manylion am sut bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio, gan sicrhau eu bod yn defnyddio iaith glir i helpu pob aelod o’r gymuned i ddeall beth fydd yn digwydd, a phryd.

Y bwriad yw helpu i sicrhau eu bod yn cefnogi’r broses ac yn ymrwymo iddi. Rhaid egluro pwrpas y casglu data, a dylid pwysleisio mai dim ond at ddibenion asesu a bodloni anghenion llety y bydd unrhyw ddata a ddarperir yn cael ei ddefnyddio. Pan fydd aelwydydd yn ceisio symud rhwng ffiniau awdurdodau lleol, dylid gofyn i unigolion gytuno i’w data gael ei rannu at y diben penodol o drafod eu hanghenion llety ag awdurdodau eraill, fel sy’n briodol.

Bydd angen i awdurdodau lleol roi hysbysiad preifatrwydd i bawb sy’n darparu data personol fel rhan o’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn amlinellu sut bydd eu data’n cael ei gadw a’i brosesu, a beth yw eu hawliau gwybodaeth o dan y ddeddfwriaeth diogelu data.

Dylid egluro hefyd, er yr ystyrir yr wybodaeth a roddir gan unigolion yn ofalus cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am yr angen i ddarparu safle, nad yw’r awdurdod lleol yn gallu ymrwymo i fodloni unrhyw geisiadau penodol mae modd eu gwneud fel rhan o’r arolwg, er enghraifft cais am safle newydd mewn lleoliad penodol.

Mae’n bwysig bod rhanddeiliaid yn cael gwybodaeth reolaidd am y cynnydd ac yn cael gwybod am ganlyniad yr asesiad. Bydd yr adborth hwn yn sicrhau bod aelodau’r gymuned yn deall sut mae eu safbwyntiau wedi cael eu hystyried a bydd yn ychwanegu atebolrwydd at y broses.

Dylai methodoleg a phroses brofi’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr gynnwys pedair prif elfen:

  1. Dadansoddiad o ffynonellau data sydd eisoes ar gael.
  2. Cynnal arolwg arbenigol.
  3. Asesu anghenion llety.
  4. Datblygu cynllun i fynd i’r afael â’r angen.

Dadansoddiad o ffynonellau data sydd eisoes ar gael

Efallai y bydd gan awdurdodau lleol neu asiantaethau eraill rywfaint o wybodaeth berthnasol yn barod, ac er bod modd defnyddio hon fel sail i’r asesiad, o ystyried maint bach y boblogaeth, bydd angen bod yn ofalus nad oes unrhyw unigolion yn cael eu henwi na bod modd eu hadnabod.

Ffynonellau data eilaidd

Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno defnyddio rhai o’r ffynonellau data eilaidd canlynol, os ydynt yn credu eu bod yn ddigon dibynadwy a chyfredol: 

Cyfrifiad 2021:

  • Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dadgyfuno’r data hwn i lefel awdurdodau lleol. Mae rhywfaint o ddata ar gael hefyd i ddangos faint o aelwydydd sy’n byw ym mhob ardal ac ym mha fath o lety.

Cofnodion tai:

  • Mewn ardaloedd sydd â safleoedd awdurdod lleol, dylai gwybodaeth fod ar gael o gofnodion rheoli safleoedd. Gallai’r rhain ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol am drosiant lleiniau, rhestrau aros am leiniau a cheisiadau i neilltuo lleiniau.
  • Efallai fod gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ddata sy’n ymwneud â thrigolion Sipsiwn a Theithwyr neu’r rhai sydd ar restrau aros.
  • Efallai y bydd gan Cefnogi Pobl fynediad at wybodaeth a allai helpu i ganfod aelodau o’r gymuned i’w cyfweld.
  • Yn yr un modd â chofnodion tai a rhestrau aros eraill awdurdodau lleol, gall y data hwn fod yn hen neu’n anghyflawn ac efallai na fydd yr aelwydydd a gofnodir yn cynrychioli’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

Cofnodion cynllunio awdurdodau lleol:

  • Bydd gwybodaeth sy’n ymwneud â safleoedd preifat ar gael i’r Awdurdod Cynllunio Lleol drwy’r broses ceisiadau cynllunio. Dylai hyn gynnwys nifer y carafannau/lleiniau a ganiateir ar bob safle, a roddwyd y caniatâd cynllunio yn barhaol neu dros dro, ac a oedd yn cyfyngu deiliadaeth i unigolion a enwir.
  • Hefyd, dylai fod gan awdurdodau lleol ddata am safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio yn eu hardal, gan gynnwys nifer y carafannau neu’r lleiniau ar bob safle a manylion unrhyw geisiadau cynllunio, apeliadau a/neu gamau gorfodi dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Eto, gall rhywfaint o’r data hwn fod yn hen neu’n anghyflawn. Serch hynny, gellir ei ddefnyddio gyda gwybodaeth arall fel man cychwyn i nodi aelodau’r gymuned a helpu i ddangos a oes digon o safleoedd yn cael eu darparu a’r angen am safleoedd ychwanegol. Os caiff y ffigurau hyn eu defnyddio neu eu dehongli, dylid nodi’n glir unrhyw gyfyngiadau ar y data.

Gall asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cyfredol a chywir fod yn dystiolaeth ddefnyddiol i ddangos bod angen wedi’i nodi am ragor o safleoedd cartrefi symudol mewn ardal awdurdod lleol. Cyfrif carafannau:

  • Bydd y cyfrif carafannau yn cynnwys nifer y carafannau ar bob math o safle: gan gynnwys safleoedd awdurdodau lleol, gwersylloedd diawdurdod, mannau aros dros dro/a negodwyd a safleoedd preifat gyda/heb ganiatâd cynllunio. Fodd bynnag, nid yw’r cyfrif yn darparu gwybodaeth am anghenion aelwydydd ychwanegol.
  • Yn ogystal â hynny, nid yw’n cynnwys unrhyw Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn brics a mortar ac sy’n dymuno symud i safle cartrefi symudol.

Eto, er bod gan y data hwn ei gyfyngiadau, gall helpu drwy ddarparu man cychwyn ar gyfer mapio’r cymunedau hyn.

Cofnodion addysg teithwyr:

  • Yn amodol ar ofynion diogelu data, mae’n bosib y bydd gan awdurdodau lleol hefyd fynediad at ffynonellau data ychwanegol am boblogaethau Sipsiwn a Theithwyr lleol gan eu darparwyr gwasanaeth, fel y gwasanaeth iechyd neu’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr. Efallai y bydd gan y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr wybodaeth am niferoedd y disgyblion Sipsiwn a Theithwyr drwy’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion a chofnodion eraill. Efallai y bydd y data hwn yn cofnodi lefel uwch o boblogaeth Sipsiwn a Theithwyr na Chyfrifiad 2021.

Swyddogion cyswllt / sefydliadau cymorth:

  • Mae’n bosib iawn y bydd gan Swyddogion Cyswllt Sipsiwn a Theithwyr neu fudiadau sy’n cefnogi’r cymunedau hyn wybodaeth bersonol fanylach o lawer am y gymuned, a dylai awdurdodau lleol neu bartneriaethau ddefnyddio hyn wrth gynllunio a chynnal eu hasesiad lle bo hynny’n ymarferol (Atodiad 2).

Archwiliadau cychwynnol a lles gwersylloedd diawdurdod:

  • Gall awdurdodau lleol hefyd ddefnyddio gwybodaeth a geir wrth gynnal archwiliadau lles ar wersylloedd diawdurdod i helpu i ddeall yr angen am fannau aros parhaol, tramwy neu dros dro/a negodwyd yn eu hardal ac unrhyw leoliadau sy’n cael eu ffafrio ar gyfer y rhain.

Dylai adrannau sydd â chyswllt rheolaidd â Sipsiwn a Theithwyr ystyried cael caniatâd i rannu unrhyw ddata maent yn ei gasglu ag adrannau eraill yn yr awdurdod lleol at ddibenion asesiadau llety. Yn yr un modd â’r holl ddata personol, bydd angen i unrhyw brosesu gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data sy’n ymwneud â chael mynediad at ddata personol a’i ddefnyddio.

Mae’n debygol mai cymharol ychydig o ddata eilaidd sydd ar gael sy’n cofnodi nifer y Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn cartrefi brics a mortar. Nid yw cofnodion tai lleol yn debygol o nodi pwy neu ble maen nhw. Yn aml, nid yw categorïau monitro ethnig yn nodi Sipsiwn a Theithwyr ar wahân, a lle maen nhw’n gwneud hynny, efallai y bydd Sipsiwn a Theithwyr mewn tai sefydlog yn amharod i gofnodi eu hunain felly fel rhan o unrhyw gyfrifiad.

Efallai nad yw rhestrau aros tai awdurdodau lleol yn adlewyrchu anghenion llety’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn llawn, yn enwedig gan nad yw llawer o Sipsiwn a Theithwyr efallai’n chwilio am dai brics a mortar.  Efallai y bydd data defnyddiol ar gael os oes gan awdurdodau lleol restrau aros sy’n caniatáu i aelwydydd nodi’r angen am leiniau cartrefi symudol. Os nad yw awdurdodau lleol yn defnyddio rhestrau aros o’r fath ar hyn o bryd, argymhellir eu bod yn dechrau gwneud hynny (gweler y rhestr wirio ymgysylltu).

Efallai fod cofnodion darparwyr gwasanaethau eraill hefyd yn anghyflawn, gan mai dim ond y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaethau perthnasol y byddant yn eu cofnodi.

 Mae Race Equality Foundation / Zoe Matthews, ‘The Health of Gypsies and Travellers in the UK’' (2008) yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn.

Felly, ni fydd dibynnu ar ddata eilaidd sydd eisoes ar gael ar ei ben ei hun yn ddigon wrth gynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. Oherwydd hynny, mae’n annhebygol iawn y bydd asesiadau sy’n defnyddio data sydd eisoes ar gael yn unig yn ddigon cynhwysfawr neu fanwl i Weinidogion Cymru eu cymeradwyo. Dim ond brasamcanion o angen y bydd y data hwn yn eu rhoi ac ni fydd yn darparu’r wybodaeth benodol a chyfredol sydd ei hangen i gynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cadarn a chywir.

Cynnal arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr

Mae arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei gynnal i gasglu data ar ofynion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Ar sail y data hwn, disgwylir i awdurdodau lleol lunio cynlluniau y gellir eu gweithredu i fodloni’r anghenion hyn yn effeithiol. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod yr anghenion llety a nodwyd yn arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu trosi’n atebion a darpariaethau ymarferol. Nid yw asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn ymwneud â chanfod anghenion llety’r gymuned yn unig.  Ei fwriad yw bod yn broses gynhwysfawr sy’n ceisio datblygu cynllun strategol i fynd i’r afael â’r anghenion hyn.

Er mwyn cael y data mwyaf cywir a chasgliadau a gefnogir, bydd angen i awdurdodau lleol neu bartneriaethau gynnal arolwg maint y boblogaeth cyflawn tebyg i’r cyfrifiad o ymatebion arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, gan wneud ymdrechion rhesymol i gysylltu a chael ymateb gan bob aelwyd Sipsiwn a Theithwyr mewn awdurdod lleol, a bod ymateb neu reswm gwrthod ymateb yn cael ei gofnodi ar gyfer pob un.

Mae’n hanfodol bod y rhai sy’n cynnal yr asesiad yn ceisio cysylltu â’r holl Sipsiwn a Theithwyr hysbys sy’n byw neu’n aros yn yr ardal i sicrhau bod yr holl gyfranogwyr yn ystyried bod yr asesiad yn un dilys ac mae hyn yn rhoi’r asesiad mwyaf cywir o angen heb ei fodloni.

Adnabod y gymuned

Wrth ddylunio’r arolwg, rhaid i awdurdodau lleol ystyried sut gallant adnabod cymunedau Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn gwahanol fathau o lety.

Dylai’r rhai sy’n cynnal arolygon geisio cyfweld ag o leiaf un cynrychiolydd o bob aelwyd ac osgoi dibynnu ar un ymateb gan un person yn unig o bob safle. Bydd hyn yn sicrhau bod yr wybodaeth a geir yn fwy cynrychioladol o anghenion unigol cywir ac nad yw un person yn dod yn borthor i’r gymuned gyfan nac yn camliwio anghenion llety pobl eraill yn anfwriadol. Mae dibynnu’n gyfan gwbl ar safbwyntiau un person sy’n cael ei gyfweld ar ran safle cyfan yn annhebygol o gynrychioli holl leisiau’r gymuned gyfan yn iawn.

Bydd data o ansawdd uchel gan awdurdodau lleol am Sipsiwn a Theithwyr sydd ar safleoedd presennol awdurdodau lleol. Mae’n bwysig bod anghenion llety aelwydydd cudd (neu sydd wedi’u ‘dyblu’) sy’n rhannu lleiniau awdurdod lleol hefyd yn cael eu cofnodi a’u hystyried. Rhaid asesu anghenion yr aelwyd gudd ar wahân i anghenion yr aelwydydd sydd wedi cytuno i fod yn denantiaid i’r llain.

Mae awdurdodau lleol yn llai tebygol o fod â gwybodaeth gyflawn am aelodau’r gymuned sy’n byw mewn cartrefi brics a mortar. Efallai fod rhai awdurdodau lleol wedi creu rhestrau aros penodol ar gyfer lleiniau Sipsiwn a Theithwyr neu efallai byddant yn cofnodi ethnigrwydd ar eu rhestrau aros ehangach am dai cymdeithasol. Fodd bynnag, mae hyd yn oed y data hwn yn debygol o fod yn anghyflawn. Dylai awdurdodau weithio gyda gweithwyr proffesiynol arbenigol (fel Gwasanaethau Addysg i Deithwyr, ymwelwyr iechyd arbenigol neu swyddogion cyswllt Sipsiwn a Theithwyr) a sefydliadau cymorth cymunedol, Atodiad 2, lle bo hynny’n berthnasol, i ganfod ac i gynnwys yr aelodau hyn o’r gymuned yn well yn eu hasesiadau.

Mae hefyd angen adnabod Sipsiwn a Theithwyr mewn gwersylloedd diawdurdod neu safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio, er enghraifft drwy’r Cyfrif Carafannau neu drwy waith monitro’r awdurdod lleol, neu drwy achosion sy’n ymwneud â meddiant.

Efallai fod yr awdurdod lleol yn gwybod am rai sy’n byw neu’n aros mewn gwersylloedd diawdurdod, tra bo eraill efallai’n llai adnabyddus ac yn anoddach eu hadnabod. Bydd yn arbennig o bwysig egluro i unrhyw feddianwyr diawdurdod bod arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn ceisio deall yr angen am leiniau preswyl a lleiniau tramwy.

Hyd yn oed pan fydd meddianwyr gwersylloedd diawdurdod wedi gwrthod cymryd rhan yn yr arolwg, dylai’r rheswm dros eu gwersyll fod wedi cael ei gofnodi’n barod drwy elfen cofnod gwersylloedd diawdurdod y Cyfrif Carafannau a gellir ei gynnwys yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr drwy ddadansoddi ffynonellau data sydd eisoes ar gael. Mae’n bwysig cynnal sgyrsiau parhaus am yr angen am ddarpariaeth barhaol neu dramwy mewn prosesau gwersylloedd diawdurdod er mwyn cofnodi anghenion aelodau o’r gymuned nad ydynt efallai’n byw yn yr awdurdod lleol yn ystod cyfnod gwaith yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Mae’n ddigon posib y bydd yn anodd iawn cael ymatebion gan feddianwyr safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio. Y rheswm am hyn yw y gall meddianwyr amau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu i gymryd camau gorfodi yn erbyn y safle, yn hytrach na deall eu hanghenion. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn, byddai’n fuddiol i awdurdodau lleol fod yn gwbl bendant am eu bwriad a phwysleisio nad dyma bwrpas yr arolwg. Mae aelodau Sipsiwn a Theithwyr y grŵp llywio yn debygol o wybod lle mae gwersylloedd diawdurdod yn yr ardal ac efallai y bydd ganddynt rai awgrymiadau defnyddiol am y ffordd orau o ymgysylltu â'r aelwydydd hyn.

Rhaid i ymchwilwyr gadw cofnod o apwyntiadau a chyfweliadau gydag aelodau'r gymuned i ddangos tystiolaeth o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd. Os nad ydynt yn llwyddiannus tro cyntaf, dylai ymchwilwyr geisio ymgysylltu ag aelwydydd ar o leiaf ddau achlysur arall. Dylent gofnodi dyddiad ac amser pob cynnig ar y cofnod o’r cyfweliadau a’r dull a ddefnyddiwyd i geisio ymgysylltu â’r aelwyd (ee rhybudd ymlaen llaw o apwyntiad, ymweliad dirybudd, cyflwyniad gan gyfryngwr dibynadwy ac ati).

Mae’r cofnod cyfweliadau enghreifftiol yn Atodiad 4. Gall awdurdodau lleol benderfynu diwygio’r templed cofnod cyfweliadau i’w ddefnyddio yn eu hardal. Fodd bynnag, rhaid tynnu unrhyw ddata personol a allai ddatgelu pwy yw unrhyw unigolyn o’r fersiwn a gyflwynir i Lywodraeth Cymru.

Rhaid i awdurdodau lleol neu ymchwilwyr a benodir bob amser geisio ymgysylltu â chynifer o aelwydydd â phosib yn yr arolwg arbenigol.

Rhaid i awdurdodau lleol allu dangos eu bod wedi ceisio cyrraedd cynifer o aelwydydd â phosib drwy’r broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr – gall y ‘rhestr wirio ymgysylltu’ isod helpu yn hyn o beth. Bydd Gweinidogion Cymru yn edrych yn benodol ar lefelau ymgysylltu wrth asesu a ddylid cymeradwyo unrhyw asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Rhestr wirio ymgysylltu

  1. Cynnwys Sipsiwn a Theithwyr ar grŵp llywio prosiect yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.  Mae talu aelodau’r gymuned am eu hamser yn gallu eu helpu i gymryd rhan yn y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a helpu i sicrhau bod canlyniadau’r arolwg yn gywir ac yn gynrychioladol.
  2. Ymweld â phob aelwyd Sipsiwn a Theithwyr a nodir drwy’r broses dadansoddi data o leiaf dri gwaith, os oes angen. Dylid cynnal yr ymweliadau ar wahanol adegau o’r dydd i sicrhau’r adeg orau i gyd-fynd â chyfrifoldebau gwaith neu ofalu. Gall hyn olygu ymweld ag aelwyd i gytuno ar amser cyfleus i ail-ymweld.
  3. Cyhoeddi manylion y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys manylion cyswllt, er mwyn i aelodau’r gymuned allu gofyn am gyfweliad, er enghraifft, ar wefan yr awdurdod lleol, gwefan Travellers’ Times a chyhoeddiad y World’s Fair. Postio manylion mewn man canolog ar safleoedd awdurdodau lleol ac mewn unrhyw ganolfannau cymunedol perthnasol ac ati.
  4. Ymgynghori â sefydliadau cymorth cymunedol perthnasol, fel y rhai yn Atodiad2.
  5. Os nad oes modd ymgysylltu’n uniongyrchol ag aelodau’r gymuned ar safle, gall awdurdodau lleol ystyried gweithio drwy gyswllt dibynadwy ar y safle i gefnogi a hwyluso cyfathrebu effeithiol â’r holl breswylwyr.
  6. Datblygu rhestr aros awdurdod lleol ar gyfer lleiniau a thai brics a mortar, sy’n hysbys i aelodau’r gymuned.
  7. Sicrhau bod manylion cyswllt unrhyw aelod arall o’r gymuned a allai gael eu rhoi i’r awdurdod lleol drwy broses yr arolwg yn cael eu defnyddio a bod eu hanghenion yn cael eu hasesu hefyd.
  8. I gynyddu gwelededd a chyfranogiad, dylid ystyried cynnal digwyddiadau cymunedol  gwybodaeth asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ar y safle (neu gerllaw) i egluro pam dylai aelodau’r gymuned gymryd rhan, ac annog trigolion y safle i ddod â phobl eraill gyda nhw nad yw’r awdurdod lleol yn gwybod amdanynt o bosib.

Anawsterau o ran cael mynediad i’r gymuned

Hyd yn oed ar ôl adnabod y cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol yn llawn, efallai na fydd hi’n hawdd darbwyllo pawb i gymryd rhan yn yr arolwg asesiad llety. Efallai y bydd pobl yn amharod i roi gwybodaeth, neu’n amau dibenion defnyddio’r wybodaeth. Gall swyddogion neu fudiadau cymorth y mae’r gymuned yn ymddiried ynddynt, ynghyd â chynrychiolwyr Sipsiwn a Theithwyr, chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fraenaru’r tir, gan egluro pwrpas yr arolwg a chyflwyno’r ymchwilwyr.

Gellid hefyd gwahodd aelodau o’r gymuned i gyfrannu at fapio’r gymuned yn yr awdurdod lleol neu ardal y bartneriaeth.

Dylai awdurdodau lleol ystyried cynnal digwyddiadau cynnwys y gymuned i sicrhau bod pwrpas a natur yr asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu deall yn iawn a'u bod yn cael cyhoeddusrwydd. Dylid cynnal y digwyddiadau hyn mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r rhan fwyaf o aelodau’r gymuned leol. Gall hyn gynnwys defnyddio unrhyw gyfleusterau cymunedol ar safleoedd awdurdodau lleol neu gyfleusterau cymunedol cyfagos. Dylid annog aelodau o’r gymuned i ddod gyda pherthnasau neu ffrindiau sy’n byw oddi ar y safle a allai fod angen llain yn yr ardal awdurdod lleol.

Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ystyried rhannu’r arferion gorau o ran sut maent wedi ymgysylltu ag aelodau’r gymuned a chydweithio’n agos i roi cefnogaeth well i Sipsiwn a Theithwyr sy’n teithio ar draws ffiniau. Mae’n bwysig bod aelodau’r gymuned yn deall ei bod yn annhebygol y bydd yr angen diweddaraf am unrhyw safleoedd ychwanegol yn yr ardal yn cael ei ganfod heb i gynifer â phosib o Sipsiwn a Theithwyr gymryd rhan a bod awdurdodau lleol eisiau gweithio gyda’r gymuned i ddarparu’r lleiniau a’r safleoedd hynny. Os gall awdurdodau lleol ddangos eu bod wedi ymgymryd â gwaith mapio trylwyr o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal ac wedi defnyddio eu hymdrechion rhesymol i ymgysylltu â’r gymuned, byddant yn fwy tebygol o allu dangos cadernid eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Rheoli disgwyliadau

Wrth gynnal yr arolwg, rhaid egluro i’r rhai sy’n cymryd rhan mai nod yr ymarfer hwn yw deall hyd a lled anghenion Sipsiwn a Theithwyr am leiniau, y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt, ac i’w helpu i ddatblygu strategaeth i fodloni’r anghenion hynny. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y bydd yr awdurdod lleol yn gallu bodloni gofynion llety penodol pawb sydd wedi cael eu cyfweld fel rhan o’r astudiaeth.

Mae’r ddyletswydd yn dilyn yr asesiad yn ymwneud â darparu lleiniau cartrefi symudol i fodloni’r angen a nodwyd. Ni fydd yr awdurdod lleol bob amser yn gallu bodloni’r holl ddewisiadau ar gyfer lleiniau neu safleoedd mewn lleoliadau penodol, ond dylai weithio gyda’r gymuned i weld beth mae modd ei gyflawni’n realistig. Mae dyrannu’r lleiniau safle sydd ar gael gan awdurdodau lleol hefyd yn fater i awdurdodau lleol benderfynu arno ar y cyd â’u swyddogaethau tai eraill.

Mae’r holiadur cyffredinol yn Atodiad 3 yn cynnwys cwestiwn sy’n caniatáu i unigolion ofyn am gael eu cynnwys ar y rhestr aros leol am lain cartrefi symudol neu dŷ brics a mortar.

Sensitifrwydd diwylliannol

Rhaid ymchwilio’n ofalus i sensitifrwydd diwylliannol a’i ystyried wrth ddylunio’r arolwg. Rhaid asesu yn ofalus unrhyw newidiadau i eiriad yr holiadur templed i sicrhau nad ydynt yn tramgwyddo unrhyw sensitifrwydd diwylliannol a dylid eu hegluro wrth gyflwyno’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru.

Efallai y bydd sensitifrwydd diwylliannol pwysig i’w ystyried wrth benderfynu sut mae cynnal yr arolwg. Er enghraifft, gallai rhywedd y sawl sy’n cyfweld, amser y cyfweliad neu leoliad y cyfweliad fod yn ystyriaethau y dylid eu trafod â’r cymunedau eu hunain.

Efallai y bydd sensitifrwydd diwylliannol yn effeithio ar barodrwydd rhai unigolion i gymryd rhan. Er enghraifft, efallai na fydd rhai menywod yn gyfforddus yn cael eu cyfweld ar eu pen eu hunain yn eu cartrefi symudol gan ymchwilwyr gwrywaidd. Pan fydd teuluoedd estynedig yn cael eu cyfweld gyda’i gilydd, dylid rhoi cyfle i unigolion ymateb ar wahân ac yn gyfrinachol os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Mae’n bwysig i awdurdodau lleol ystyried y potensial i gyfwelwyr achosi tramgwydd gwirioneddol os nad ydynt yn deall y cymunedau maen nhw’n gweithio gyda nhw. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod pob cyfweliad yn cael ei gynnal gan bobl sy’n ddiwylliannol gymwys ac sydd wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol Sipsiwn a Theithwyr cyn cynnal unrhyw gyfweliadau. Bydd defnyddio cyfwelwyr adnabyddus, y mae pobl yn ymddiried ynddynt, yn helpu i fagu hyder yn y broses ac annog pobl i rannu gwybodaeth yn fwy agored.

Mae’n bwysig cydnabod y gallai’r arolwg gynnwys cyfweld ag aelodau o sawl cymuned wahanol sydd â normau ac arferion diwylliannol gwahanol.

Mae angen i’r ymchwilwyr allu ymgysylltu ag aelodau o bob cymuned wahanol a gyda'r sefydliadau cymorth cymunedol mwyaf perthnasol.

Argymhellir hefyd bod awdurdodau lleol yn ystyried darparu hyfforddiant i Aelodau Etholedig cyn ymgymryd â’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, yn enwedig unrhyw Gynghorwyr sy’n ymwneud â’r grŵp llywio, y Pwyllgor Cynllunio neu’r Pwyllgor a fydd yn craffu’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Amseru’r arolwg

Rhaid ystyried amseriad priodol yr arolwg. Dylid ystyried newidiadau tymhorol bob amser wrth benderfynu ar amseriad yr arolwg. Bydd angen i’r awdurdod lleol neu’r bartneriaeth gael rhywfaint o wybodaeth am batrymau teithio’r boblogaeth Sipsiwn a Theithwyr leol cyn gallu penderfynu’n ystyriol pryd dylid cynnal arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Dylid hefyd ystyried y ffaith y gallai rhai Sipsiwn a Theithwyr sydd fel arfer yn byw yn yr ardal fod i ffwrdd yn teithio eu hunain yn ystod misoedd yr haf. Efallai y bydd y Sipsiwn a Theithwyr a’r sefydliadau cymorth a gynrychiolir ar grŵp llywio’r prosiect a’r rhai sy’n gweinyddu’r Cyfrif Carafannau mewn sefyllfa dda i roi cyngor.

Pan fydd awdurdodau lleol cyfagos yn gwybod bod eu poblogaethau Sipsiwn a Theithwyr yn symud yn rheolaidd ar draws ffiniau gweinyddol, argymhellir eu bod yn ystyried cynnal eu hasesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr yn rhanbarthol neu ar amser y cytunir arno ar y cyd i osgoi’r posibilrwydd o gyfrif ddwywaith ac i bennu’r lleoliad mwyaf addas ar gyfer safleoedd newydd. Gall hyn hefyd gynnwys pennu’r safle mwyaf amgylcheddol gynaliadwy ar draws y rhanbarth.

Yr arolwg a thechnegau ansoddol

Mae technegau arolygu traddodiadol, fel anfon neges drwy’r post i gyfeiriadau, yn annhebygol iawn o sicrhau canlyniadau cadarn. Gall Sipsiwn a Theithwyr fod hyd yn oed yn llai tebygol o ymateb i arolwg o’r fath na grwpiau eraill. Mae’r rhesymau dros hyn yn cynnwys:

  • llawer o symud neu symud yn dymhorol
  • gall gwahaniaethau diwylliannol olygu bod cwestiynau'n cael eu hystyried yn ymwthiol neu fod diffyg ymddiriedaeth yn y broses
  • lefelau llythrennedd is o bosib mewn rhai cymunedau

Oherwydd bod angen meithrin ymddiriedaeth a sicrhau lefelau uchel o gyfranogiad, mae arolygon cyfweliadau wyneb yn wyneb yn fwy priodol gan eu bod yn tueddu i arwain at gyfraddau ymateb uwch o lawer a data mwy dibynadwy gan y cymunedau hyn.

Pan fo’n bosib, mae’n ddefnyddiol sicrhau cynrychiolaeth gyfartal rhwng y rhywiau ymysg y rhai sy’n cael eu cyfweld. Dylid bod yn hyblyg ac yn greadigol wrth gynllunio’r amseroedd i gynnal yr ymweliadau, gan gynnwys cynnal ymweliadau gyda’r nos ac ar benwythnosau. Efallai y bydd defnyddio diwrnodau cynnwys y gymuned mewn cyfleusterau hygyrch neu geisio trefnu apwyntiadau penodol ar gyfer cyfweliadau yn ddefnyddiol, fel y bydd trefnu dychwelyd i’r safle gyda’r nos. Fodd bynnag, gall apwyntiadau cynnar gyda’r nos fod yr un mor anghyfleus os oes gan y teulu blant ifanc a threfn amser gwely. Mae’n debyg mai cytuno ar amseroedd apwyntiadau gydag aelodau’r gymuned fydd y mwyaf effeithiol, a hynny rhwng diwedd y bore a dechrau’r prynhawn. Fodd bynnag, mae hyn yn debygol o newid o achos i achos.

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried hawl plant a phobl ifanc i’w lleisiau gael eu clywed ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw fel sy’n ofynnol dan Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Felly, dylid rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan yn rhydd yn y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr mewn ffordd sy’n hygyrch ac yn gymesur â’u haeddfedrwydd a’u gallu, ac yn amodol ar ganiatâd rhieni a chael cwmni fel y bo’n briodol.

Dylid cydnabod plant a phobl ifanc nid yn unig yng nghyd-destun darpariaeth tai yn y dyfodol, ond hefyd fel unigolion â phrofiadau bywyd. Mae’n rhaid i gynnwys eu safbwyntiau a rhoi cyfle iddynt ddylanwadu ar eu hamgylchedd byw fod yn rhan ganolog o’r broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. 

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau bod yr hawliau hyn yn cael eu cynnal drwy fynd ati i gynnwys plant a phobl ifanc yn y gwaith o lunio canlyniadau’r asesiadau llety, yn gyson ag Erthygl 12 CCUHP. Mae Adran D yr holiadur yn mynd i’r afael â thwf teuluoedd. Er mwyn nodi unrhyw dwf yn y dyfodol, dylai ymchwilwyr geisio cyfweld â phobl ifanc a allai fod angen eu llety eu hunain yn ystod cyfnod adolygu’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gwiriadau priodol wedi'u cynnal drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer unrhyw gyfwelwyr sy'n debygol o ddod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed fel rhan o'r arolwg. Rhaid hefyd cael cydsyniad ar sail gwybodaeth cyn dechrau’r arolwg arbenigol.

Cwestiynau'r arolwg

Mae templed holiadur Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr blaenorol, yn Atodiad 3. Mae’r holiadur yn cynnwys 5 rhan ac mae’n ceisio sicrhau y cesglir yr holl ddata perthnasol sydd ei angen i helpu awdurdodau lleol i asesu anghenion yn briodol.

Argymhellir bod y cyfwelwyr yn llenwi’r holiadur yn ystod sgwrs wyneb yn wyneb â phob aelwyd yn ardal yr awdurdod lleol. Dylai’r broses hon osgoi’r risg o unrhyw broblemau llythrennedd sy’n rhwystro cyfranogiad a sicrhau cyfradd ymateb uwch na deunydd drwy’r post, yn ogystal â rhoi cyfle i aelodau’r gymuned ofyn cwestiynau lle bo angen.

Mae Adran A yr holiadur yn gofyn i aelodau’r gymuned am eu trefniadau llety presennol. Bydd dadansoddi’r adran hon yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar awdurdodau lleol i ddeall natur y cyflenwad llety presennol. Er y gallai’r dadansoddiad o’r data eilaidd sydd eisoes ar gael roi gwybod i awdurdodau lleol faint o leiniau awdurdod lleol neu leiniau preifat sy’n cael eu darparu yn yr ardal, bydd yr atebion i Adran A hefyd yn nodi pa mor fodlon yw aelodau’r gymuned ar eu hamgylchiadau presennol. Mae hyn yn gallu helpu awdurdodau lleol i wybod lle mae angen adnewyddu safleoedd neu addasu aelwydydd. Efallai y bydd grantiau, megis y Grant Cyfalaf Safleoedd a'r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, yn gallu helpu gyda'r broses hon. Efallai y bydd hefyd yn bosib nodi a oes angen ailystyried trefniadau rheoli safleoedd.

Mae Adran B yn ceisio sefydlu strwythur yr aelwyd, gan gynnwys oed, rhywedd, ethnigrwydd ac unrhyw anghenion ychwanegol sydd gan unigolion.

Ni fwriedir i’r golofn ethnigrwydd gofnodi unrhyw ddiffiniadau parod neu gyfreithiol o ‘Sipsiwn’ neu ‘Deithwyr Gwyddelig’ ac ati. Yn hytrach, dylid defnyddio’r golofn hon er mwyn i’r rhai sy’n cael eu cyfweld allu disgrifio sut maen nhw’n gweld eu hunaniaeth. Pwrpas hyn yw rhoi gwybod i’r awdurdod lleol am y gwahanol grwpiau diwylliannol neu ethnig a allai fodoli yn eu poblogaeth Sipsiwn a Theithwyr, a allai effeithio rhywfaint ar faint a ffurfweddiad unrhyw safleoedd newydd sydd eu hangen yn y pen draw.

Mae colofn olaf tabl Adran B yn rhoi cyfle eang i aelwydydd gofrestru unrhyw beth y maen nhw’n credu bod angen i awdurdodau lleol ei wybod am eu llety presennol. Gall hyn gynnwys gwrthwynebiad diwylliannol i fath penodol o lety neu faterion eraill maen nhw’n teimlo y dylid eu hystyried.

Dylai cwestiynau B2 a B3 hefyd helpu awdurdodau lleol i ddeall a yw’n debygol y bydd gorlenwi yn y llety. Mae rhagor o wybodaeth am orlenwi ar safleoedd cartrefi symudol ar gael yn yr adran Gorlenwi isod.

Mae cwestiwn B4 yn rhoi cyfle i aelodau’r gymuned ofyn am becyn cais i ymuno â rhestr aros yr awdurdod lleol ar gyfer lleiniau cartrefi symudol neu dai brics a mortar.

Mae Adran C yn holi am ddyheadau a chynlluniau llety. Bydd yr wybodaeth a gesglir o dan yr adran hon yn helpu awdurdodau lleol i ystyried ymarferoldeb gweithio gydag unigolion i ddatblygu safleoedd preifat ac archwilio dyheadau llety aelwydydd sydd eisiau symud.

Mae cwestiynau C3, C4 a C6 wedi’u dylunio i helpu awdurdodau lleol i ystyried pa fath o lety sy’n debygol o fod ei angen i fodloni anghenion pob aelwyd.

Bydd cwestiynau C2 a C7 (yn ychwanegol at rai cwestiynau yn Adran D) yn helpu awdurdodau lleol i asesu a oes modd bodloni unrhyw anghenion am leiniau cartrefi symudol a nodwyd yn yr awdurdod lleol penodol lle mae’r aelwyd yn byw ar hyn o bryd neu a ellid eu darparu mewn awdurdod lleol arall. Os bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn awgrymu y gellid bodloni’r angen mewn awdurdodau eraill, gallai’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr arolwg drafod posibilrwydd trosglwyddo’r angen i’r awdurdod lleol arall.

Fodd bynnag, byddai’r angen heb ei fodloni yn aros gyda’r awdurdod lle mae’r aelwyd yn byw ar hyn o bryd os yw’r awdurdod arall yn gwrthod derbyn trosglwyddo’r angen heb ei fodloni.

Mae cwestiwn C5 yn rhoi cyfle i aelodau’r gymuned wneud nodyn o unrhyw fwriad i ddatblygu safle preifat yn yr ardal. Mae’r cwestiwn yn caniatáu i aelodau’r gymuned ofyn am drafodaeth gyda’r awdurdod lleol, lle gall yr awdurdod asesu dichonoldeb eu cynlluniau i ddatblygu safle preifat a darparu cyngor cyffredinol ar y broses sydd i’w dilyn. Os nad yw’r aelod o’r gymuned yn dymuno rhoi ei fanylion cyswllt, byddai’n ddefnyddiol i’r cyfwelydd ei gyfeirio at y man lle gall ofyn am gyngor am geisiadau cynllunio.

Bydd Adran D yn helpu awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer y twf a ragwelir yn y teulu a’r anghenion sy’n debygol o godi o aelwydydd newydd yn ystod y cyfnod adolygu. Bydd cwestiynau D1 i D3 yn helpu’r awdurdod lleol i ddeall y galw yn y dyfodol am lety preswyl sy’n deillio o aelwydydd presennol.

Mae cwestiynau D4 a D5 yn rhoi cyfle i aelodau’r gymuned roi gwybod i’r awdurdod lleol am aelwydydd sy’n byw mewn awdurdodau lleol eraill sydd eisiau symud er mwyn iddynt allu byw yn yr un awdurdod lleol â’u teulu. Os bydd aelodau o’r gymuned yn rhoi manylion aelodau o’r teulu sy’n byw yn rhywle arall, dylai’r awdurdod lleol ystyried cysylltu â nhw i asesu a ddylent fod yn rhan o’i asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Pan fo cais am leiniau’n codi o’r tu allan i’r awdurdod lleol, efallai bydd yr awdurdod sy’n cynnal yr asesiad llety Sipsiwn a theithwyr yn dymuno trafod yr amgylchiadau a derbyn trosglwyddo anghenion o’r awdurdod lleol lle mae’r aelwyd yn byw ar hyn o bryd. Dylid gofyn i’r aelwyd gydsynio i gynnal y trafodaethau hyn a dylai pob awdurdod lleol ystyried rhoi hysbysiad preifatrwydd iddynt.

O dan Ddeddf 2014, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu anghenion y rhai sy’n byw neu’n aros yn eu hardal. Mae cwestiynau D4 a D5 yn helpu i asesu anghenion y rhai sy’n aros yn yr ardal.

Dylid gofalu bod yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn cofnodi nid dim ond y rhai sy’n aros yn ardal yr awdurdod lleol adeg cynnal yr arolwg, ond hefyd y rhai y gwyddys eu bod yn aros yn yr ardal ar adegau eraill o’r flwyddyn.

Yn olaf, mae Adran E yn mynd i’r afael â’r angen am ddarpariaeth aros tramwy neu dros dro/a negodwyd yn yr ardal ac mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill.

Bydd dadansoddi’r adran hon yn helpu’r awdurdod lleol i ddeall lle mae angen y ddarpariaeth dramwy.

Mae Adrannau A i D yr holiadur yn ymwneud â’r anghenion am leiniau preswyl sy’n codi yn yr awdurdod lleol penodol sy’n cynnal yr arolwg. Fodd bynnag, mae Adran E yn gofyn am wybodaeth ar sail ddaearyddol ehangach. Y rheswm am hyn yw mai’r ffordd orau o fodloni anghenion safleoedd tramwy yw ar sail ranbarthol o bosib. Ar ben hynny, mae’r rhan fwyaf o aelwydydd sy’n cael eu cyfweld gan yr awdurdod lleol yn debygol o fod yn drigolion lleol, felly maen nhw’n fwy tebygol o fod yn teithio (ac felly bydd ganddynt fwy o ddiddordeb mewn safleoedd tramwy) mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill. Mae’r wybodaeth a gesglir gan y rhai sy’n defnyddio gwersylloedd diawdurdod hefyd yn hanfodol i ddeall yr angen lleol am fannau aros tramwy neu dros dro/a negodwyd a dylid ei hystyried yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i asesu’n llawn yr angen am leiniau dros dro ym mhob awdurdod lleol.

Dylid rhannu’r atebion i gwestiynau Adran E â’r awdurdodau lleol a enwir gan aelodau’r gymuned i sicrhau bod anghenion safleoedd tramwy yn cael eu hasesu’n briodol yn yr ardaloedd hynny. Mae’r atebion i gwestiynau E2, E3 ac E5 yn debygol o fod yn ddefnyddiol i awdurdodau eraill. Nid oes angen i’r data a rennir gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif na chael ei briodoli i unrhyw aelwyd unigol.

Os bydd awdurdodau lleol, drwy’r grŵp llywio, yn penderfynu eu bod yn dymuno cynnwys cwestiynau eraill sy’n ymwneud ag anghenion llety, dylent eu cynnwys yn Adran F yr holiadur. Er mwyn bod yn fwyaf effeithiol, dylid datblygu cwestiynau ychwanegol drwy ymgynghori â chynrychiolwyr y cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol. Gall cwestiynau ychwanegol gynnwys cymysgedd o gwestiynau ticio blychau caeedig a chwestiynau mwy agored lle mae’r ymatebwyr yn cael eu hannog i ymhelaethu ar eu hatebion. Dylid cynnwys unrhyw gwestiynau ychwanegol wrth gyflwyno’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru.

Pennod 3: asesu anghenion llety

Trosolwg

Bydd y bennod hon yn amlinellu’r broses o ddefnyddio’r data a gasglwyd drwy adolygu ffynonellau data a’r arolwg arbenigol. Mae’n helpu i asesu anghenion a dewisiadau, y galw am lety yn yr awdurdod lleol penodol ac mewn ardaloedd eraill, sut mae rhagweld natur yr aelwyd net, a sut mae gwneud y cyfrifiad terfynol o’r angen am leiniau.

Ar ôl cynnal y cyfweliadau a gorffen adolygu’r data, rhaid i awdurdodau lleol asesu a oes angen darparu lleiniau ychwanegol ar gyfer eu hardal.

Dylai canlyniadau’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr nodi nifer yr aelwydydd Sipsiwn a Theithwyr mae angen lleiniau ychwanegol arnynt ar unwaith, o fewn y cyfnod adolygu a dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol.

Ar ôl casglu’r data a’i roi yn Atodiad 5, bydd y blychau melyn yn llenwi’n awtomatig i nodi’r angen heb ei fodloni.

Rhaid i’r canlyniadau gynnwys:

  • y mathau o lety sydd eu hangen i fodloni’r anghenion a nodwyd (hy safleoedd preswyl neu safleoedd tramwy, safleoedd penodol ar gyfer Siewmyn Teithiol neu Sipsiwn Romani/Teithwyr Gwyddelig ac ati)
  • nifer yr aelwydydd sy’n byw mewn llety anaddas yn yr ardal awdurdod lleol (hy gorlawn, yn byw mewn tai brics a mortar sy’n anaddas oherwydd gwrthwynebiad diwylliannol ac ati)
  • cyfradd debygol natur yr aelwyd net (hy oedolion ifanc sydd angen eu lleiniau eu hunain, mudo a diddymu aelwydydd ac ati)
  • nifer yr aelwydydd sydd â chyfle realistig i symud i fath gwahanol o lety, a allai ryddhau lleiniau sbâr neu gartrefi brics a mortar
  • nifer yr aelwydydd ar wersylloedd diawdurdod
  • nifer y safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio
  • unrhyw fannau aros dros dro/a negodwyd y gwyddys eu bod yn cael eu defnyddio mewn ardal awdurdod lleol, rhaid ystyried y rhain wrth asesu anghenion llety, hyd yn oed os nad oes teuluoedd yn aros yn y man hwnnw adeg yr arolwg ei hun

Mae dyletswyddau awdurdodau lleol o dan Ran 3 o Ddeddf 2014 yn canolbwyntio ar y gofyniad i ddarparu lleiniau cartrefi symudol yn hytrach na mathau eraill o lety.

Fodd bynnag, dylid hefyd ystyried unrhyw angen sy’n codi am gartrefi brics a morter fel rhan o’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a’i gynnwys yn y strategaeth dai leol.

Cyflenwad presennol o leiniau preswyl (wedi'u meddiannu)

Cyn i awdurdodau lleol allu ystyried y galw am leiniau ychwanegol yn eu hardal, mae’n bwysig asesu’r cyflenwad presennol o leiniau preswyl sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys lleiniau ar safleoedd awdurdod lleol, safleoedd preifat, mannau aros tramwy neu dros dro/a negodwyd, a gwersylloedd diawdurdod. Dylai’r rhan fwyaf o’r data hwn fod ar gael yn barod gan adrannau tai a chynllunio awdurdodau lleol.

Rhesi A a B: yn dangos sut dylid cyflwyno nifer y lleiniau awdurdod lleol a lleiniau preifat (gyda chaniatâd cynllunio) sydd wedi’u meddiannu.

Rhes A: lleiniau awdurdod lleol wedi'u meddiannu (mae’r data hwn ar gael o’r system Cyfrif Carafannau a chofnodion tai awdurdodau lleol).

Rhes B: lleiniau preifat wedi’u meddiannu (gyda chaniatâd cynllunio).

Cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl

Rhes C: lleiniau awdurdod lleol a phreifat gwag (gyda chaniatâd cynllunio). Bydd y data hwn ar gael drwy gynnal arolygon safle â phreswylwyr. Efallai na fydd rhai perchnogion safle ar safleoedd preifat yn dymuno lesio eu lleiniau gwag i unigolion nad ydynt yn aelodau o’r teulu. Felly, dim ond nifer y lleiniau gwag ar safleoedd preifat sydd ar gael ar sail agored dylid ei gofnodi yn Rhes C.

Rhes D: lleiniau awdurdod lleol a phreifat sydd ar fin dod yn wag yn y dyfodol agos. Er mwyn nodi nifer y lleiniau newydd y disgwylir iddynt ddod yn wag yn ystod y cyfnod adolygu, gall awdurdodau lleol adolygu eu cofnodion rheoli safle i asesu trosiant blynyddol y lleiniau dros y cyfnod blaenorol o bum mlynedd. Efallai na fydd rhai perchnogion safle ar safleoedd preifat yn dymuno lesio eu lleiniau gwag i unigolion nad ydynt yn aelodau o’r teulu. Felly, dim ond nifer y lleiniau gwag ar safleoedd preifat sydd ar gael ar sail agored dylid ei gofnodi yn Rhes D.

Dylai awdurdodau lleol adolygu atebion yr arolwg o gwestiynau A6 i A7 ac Adran C. Gallai’r atebion i’r cwestiynau hyn roi manylion dyheadau aelwydydd sy’n dymuno symud. Gall awdurdodau lleol nodi pa atebion sy’n dod o aelwydydd sydd ar hyn o bryd yn meddiannu lleiniau awdurdodau lleol drwy gyfeirio at yr atebion i gwestiwn A1. Gall awdurdodau lleol archwilio’r wybodaeth hon i ganfod a oes modd cyflawni unrhyw un o’r dyheadau hyn.

Wrth ystyried y rhai sy’n debygol o adael lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol yn y dyfodol agos, efallai bydd atebion i’r arolwg yn nodi aelwydydd sydd wedi mynegi eu bod yn dymuno symud i dai brics a mortar. Gall awdurdodau lleol gynnwys y lleiniau hyn fel rhai sydd ar gael i’w cyflenwi, ar yr amod eu bod yn gallu dangos y bydd yr aelwyd yn sicr yn cael gafael ar lety amgen. Os gellir dangos hyn, gellir cynnwys y lleiniau hyn yn rhes D.

Rhes E: lleiniau newydd awdurdod lleol gyda chaniatâd cynllunio. Dim ond lleiniau awdurdod lleol newydd gyda chaniatâd cynllunio dylid eu cynnwys ar hyn o bryd. Ni ddylid ystyried safleoedd sydd yn y system gynllunio ar hyn o bryd ond heb ganiatâd cynllunio. Y rheswm am hyn yw nad oes sicrwydd y bydd modd cyflawni’r safle cyn cael caniatâd cynllunio, a byddai cynnwys ceisiadau am safleoedd a allai fod yn aflwyddiannus yn y pen draw yn tanamcangyfrif yr angen heb ei fodloni yn yr ardal. Serch hynny, os caiff caniatâd cynllunio ei gymeradwyo ar gyfer safle ar ôl cyhoeddi’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, bydd nifer y lleiniau a gymeradwyir yn gwrthbwyso’r angen heb ei fodloni a nodwyd.

Bydd y lefelau bodlonrwydd presennol â’r llety presennol yn rhoi rhyw syniad a yw aelwydydd yn debygol o aros yn eu llety presennol. Efallai y bydd rhai unigolion yn dymuno gadael llety cartref symudol a symud i dai brics a mortar, tra bydd eraill yn mynegi dewis neu angen diwylliannol i adael tŷ brics a mortar am lety cartref symudol.

Wrth holi am lefelau bodlonrwydd presennol ar y llety presennol (cwestiynau A2 ac A7), mae’n bosib y bydd yn well gan yr unigolion dan sylw wella neu addasu’r llety presennol yn hytrach na symud. Pan fo’n briodol, gellir helpu unigolion i aros yn eu llety presennol drwy ddefnyddio’r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl neu’r Grant Cefnogi Pobl i wneud y llety hwnnw’n addas at eu dibenion.

Mae’n bosib bod amwynder cyffredinol safle a/neu faterion iechyd a diogelwch yn rhesymau sy’n golygu bod aelwydydd eisiau symud. Efallai fod awdurdodau lleol yn gymwys i ddefnyddio Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Llywodraeth Cymru i adnewyddu eu safleoedd.

Yn ogystal â’r asesiad o leiniau presennol awdurdodau lleol, dylai awdurdodau lleol ystyried faint o leiniau ychwanegol sydd â chaniatâd cynllunio sydd ar fin dod ar gael. Bydd hyn yn cynnwys lleiniau safleoedd preifat a fydd ar gael i’w rhentu yn agored, y dylid eu cynnwys fel rhan o’r cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl yn rhes F. Dim ond safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio y dylid eu cynnwys ar hyn o bryd. Ni ddylid ystyried safleoedd sydd yn y system gynllunio ar hyn o bryd ond heb ganiatâd cynllunio. Y rheswm am hyn yw nad oes sicrwydd y bydd y safle ar gael cyn cael caniatâd cynllunio, felly byddai cynnwys ceisiadau am safleoedd a allai fod yn aflwyddiannus yn y pen draw yn tanamcangyfrif yr angen heb ei fodloni yn yr ardal. Serch hynny, os caiff caniatâd cynllunio ei gymeradwyo ar gyfer safle ar ôl cymeradwyo a chyhoeddi’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, bydd nifer ychwanegol y lleiniau awdurdodedig yn gwrthbwyso’r angen heb ei fodloni a nodwyd.

Rhes F: lleiniau preifat newydd gyda chaniatâd cynllunio. Dim ond lleiniau preifat newydd gyda chaniatâd cynllunio dylid eu cynnwys ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai perchnogion safle ar safleoedd preifat yn dymuno lesio eu lleiniau gwag i unigolion nad ydynt yn aelodau o’r teulu. Felly, dim ond nifer y lleiniau newydd ar safleoedd preifat sydd ar gael ar sail agored dylid ei gofnodi yn y rhes hon.

Y galw presennol am leiniau preswyl

I sefydlu’r galw presennol am leiniau preswyl, bydd angen i awdurdodau lleol ddadansoddi’r data a gesglir drwy’r arolwg arbenigol a llenwi’r rhesi canlynol:

  • (rhes G) ar wersylloedd diawdurdod awdurdod lleol sydd ag angen llety safle
  • (rhes H) ar safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio (nes bod caniatâd cynllunio yn cael ei roi a bod yr holl amodau wedi’u bodloni, bydd y safle’n parhau i gynrychioli angen preswyl heb ei fodloni).
  • (rhes I) ar safleoedd presennol awdurdod lleol ond mewn amodau gorlawn
  • (rhes J) mewn tai brics a mortar ond gyda gwrthwynebiad diwylliannol at dai o’r fath neu dai gorlawn
  • (rhes K) aelwydydd newydd y disgwylir iddynt gyrraedd neu y mae angen llety arnynt yn yr ardal 

Dylai’r data a gesglir drwy Adrannau A, C a D yr holiadur helpu awdurdodau lleol i asesu cyfanswm y galw yn eu hardaloedd yn briodol.

Deall ‘anghenion’ a ‘dewisiadau’

Yn aml, nid yw Sipsiwn a Theithwyr wedi gallu cael mynediad at safleoedd sy’n ddiwylliannol briodol yn yr ardaloedd lle maen nhw’n dymuno byw. Mae dulliau gwahanol awdurdodau lleol o ddarparu safleoedd a chamau gorfodi weithiau wedi gwneud i gymunedau ymgartrefu mewn lleoliadau amhriodol neu anaddas, er enghraifft, mewn ardal awdurdod lleol i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd estynedig. Os felly, dylai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am yr ardal lle mae’r angen am lety wedi codi weithio’n agos gydag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth i ddod o hyd i ateb a rennir ac ystyried mabwysiadu’r angen heb ei fodloni lle bo hynny’n ymarferol.

Mae dosbarthiad safleoedd awdurdodau lleol wedi’i wasgaru’n anwastad ledled Cymru. Bydd rhywfaint o hyn yn deillio o ddewisiadau personol aelodau’r gymuned sydd wedi dewis byw mewn ardaloedd penodol am resymau teuluol, economaidd neu ddiwylliannol.

Fodd bynnag, gall safleoedd mewn rhai ardaloedd gynnwys rhai sydd â chysylltiadau hirdymor mewn awdurdodau cyfagos lle byddai’n well ganddynt fyw. Efallai nad oes gan ardaloedd eraill safleoedd ond bod poblogaethau sylweddol o Sipsiwn a Theithwyr yn byw mewn tai brics a mortar yno ac y byddai’n well ganddynt fyw mewn cartref symudol.

O ganlyniad, gall awdurdodau tai lleol ddod ar draws sefyllfaoedd amrywiol wrth gynnal eu harolygon, lle gall fod yn anodd datgysylltu anghenion a dewisiadau meddianwyr.

Mae ystyried anghenion yn erbyn dewisiadau yn debygol o fod yn seiliedig ar 3 prif thema:

  1. Aelodau o’r gymuned mewn tai brics a mortar sydd angen lleiniau cartref symudol oherwydd gwrthwynebiad diwylliannol.
  2. Aelodau o’r gymuned sydd â llain awdurdodedig mewn un ardal awdurdod lleol ond a fyddai’n hoffi symud i ardal yr awdurdod sy’n cynnal yr asesiad.
  3. Y rhai sydd ar wersylloedd diawdurdod oherwydd prinder lleiniau awdurdod lleol y mae angen llain cartref symudol arnynt yn yr un ardal.

Deall gwrthwynebiad diwylliannol

I lawer o Sipsiwn a Theithwyr, mae byw mewn cartrefi symudol yn agwedd allweddol ar eu hunaniaeth ddiwylliannol. Fodd bynnag, roedd Cyfrifiad 2021 yn awgrymu mai dim ond 22% o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru a Lloegr sy’n byw mewn carafannau neu strwythurau dros dro eraill. Roedd Cyfrifiad 2021 yn dangos bod 78% o’r cymunedau hyn yn byw mewn tai, fflatiau, fflatiau deulawr neu randai yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd.

Efallai fod llawer o’r rhai sy’n byw mewn tai, fflatiau, fflatiau deulawr neu randai yn gwneud hynny o ddewis am amrywiaeth o resymau. Fodd bynnag, efallai fod rhywfaint o’r boblogaeth hon fod wedi symud i dai brics a mortar oherwydd diffyg dewisiadau cyfreithlon ar gyfer lleiniau i gartrefi symudol. Gweler Shelter, ‘Good Practice Guide: Working with housed Gypsies and Travellers’ (2007)

Mae’n debygol y bydd gan rai aelodau o’r gymuned sy’n byw mewn tai brics a mortar yr hyn a elwir yn ‘wrthwynebiad diwylliannol’ i’r math hwn o lety. Mae hyn wedi cael ei sefydlu mewn cyfraith achosion, yn wreiddiol yn Clarke v. Yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau (2001) 

Hynny yw, aelodau o’r gymuned sydd â thraddodiad o fyw mewn cartref symudol neu ar safleoedd ac sy’n ei chael hi’n anodd addasu i fyw mewn llety brics a mortar ond sy’n gwneud hynny oherwydd rheidrwydd nid oherwydd dewis.

Gallai gwrthwynebiad diwylliannol fod yn seiliedig ar y math o lety neu ffordd o fyw mwy llonydd sy’n gysylltiedig â thai brics a mortar neu ynysu oddi wrth aelodau o’r gymuned a’r teulu a allai fod yn byw mewn cartrefi symudol.

Bydd angen i awdurdodau tai lleol ystyried yn ofalus a ellid dweud bod gan y rhai sy’n byw mewn tai brics a mortar ac sy’n ffafrio byw ar safleoedd cartrefi symudol hefyd wrthwynebiad diwylliannol at eu llety presennol.

Dylai awdurdodau lleol ystyried y rheswm dros symud i gartref confensiynol a’r effaith andwyol bosib ar yr unigolion os ydynt yn aros mewn tai confensiynol.

Rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried rôl ansawdd safle mewn penderfyniadau ynghylch llety a sicrhau nad yw teuluoedd dan bwysau i dderbyn opsiynau tai sy’n gwrthdaro â’u dewisiadau diwylliannol. Yn unol ag Erthygl 30 CCUHP, mae gan blant a phobl ifanc hawl i berthyn i’w grŵp ethnig lleiafrifol ac arfer eu hunaniaeth ddiwylliannol. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ddarparu lleiniau addas sy’n addas i’r diben.  Ni ddylai teuluoedd deimlo bod yn rhaid iddynt symud i lety brics a mortar o ganlyniad i amodau byw gwael mewn safleoedd cartrefi symudol awdurdod lleol.

Yn ystod yr asesiad llety, ni fyddai’n briodol i awdurdodau lleol fynnu bod y rhai sy’n cael eu cyfweld yn dangos eu gwrthwynebiad drwy unrhyw fath o asesiad. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi y gall y ffordd nomadaidd draddodiadol o fyw fod yn anodd i Sipsiwn a Theithwyr ei chyflawni. Mae Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig yn lleiafrifoedd ethnig cydnabyddedig ac nid oes angen y ffordd draddodiadol o deithio na nomadiaeth er mwyn cynnal eu hunaniaeth hiliol. Felly, mae’r diffiniad ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr a ddefnyddir at ddibenion y canllawiau hyn yn cydnabod y gallai aelodau o’r gymuned hon, er eu bod yn bobl o arferiad nomadaidd o fyw, fod wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu’n barhaol oherwydd anghenion addysgol, iechyd neu henaint.

Dylai gwybodaeth a gofnodir yn holiadur yr arolwg (yn enwedig cwestiynau A2, A3, A7 ac Adran B) helpu awdurdodau lleol i ganfod a oes gan unigolion wrthwynebiad diwylliannol at dai confensiynol.

Dylai amcangyfrifon o nifer yr aelodau o’r gymuned sydd â gwrthwynebiad diwylliannol at dai confensiynol adlewyrchu’r atebion a roddir yn yr holiadur a’r pwyntiau a amlinellir uchod. Cydnabyddir mai amcangyfrifon yw’r rhain ond gallent serch hynny fod yn ffordd bragmataidd o fesur nifer yr aelwydydd sy’n byw mewn tai brics a mortar sydd angen lleiniau cartrefi symudol.

Lle nodir bod gan unigolion wrthwynebiad diwylliannol at dai brics a mortar, dylai awdurdodau tai lleol gynnwys yr angen am leiniau cartrefi symudol gan yr aelwydydd hyn fel rhan o’r galw presennol. Dylid cynnwys hyn yn Rhes K Atodiad 5.

Y galw am lety mewn ardal leol arall

Wrth gynnal arolygon, efallai bydd rhai aelodau o’r gymuned yn nodi bod yn well ganddynt neu fod arnynt angen cael llety ar safle cartrefi symudol mewn ardal awdurdod lleol arall.

Dylai Adrannau C a D yr holiadur gasglu data i helpu awdurdodau lleol i ddeall lle mae’r galw am lety o’r fath yn debygol o godi. Mae Adran E hefyd yn debygol o ddarparu data defnyddiol i awdurdodau cyfagos i’w helpu i ragweld anghenion llety tramwy yn y dyfodol. Dylai awdurdodau lleol geisio ymgysylltu’n rhagweithiol ag ardaloedd eraill gan ragweld y tebygolrwydd hwn. Bydd hyn yn haws ei gyflawni os oes partneriaeth ranbarthol eisoes wedi’i sefydlu i gynnal asesiadau llety neu os yw’r awdurdodau lleol eraill yn cynnal eu hasesiadau ar yr un pryd.

Mae’n bwysig bod yr anghenion mae aelodau’r gymuned yn eu datgan yn cael eu hystyried yn briodol a bod yr awdurdodau lleol perthnasol yn gweithio gyda’i gilydd i benderfynu lle dylid nodi’r galw am lety yn briodol. Pan fo galw wedi’i nodi am lety mewn awdurdod arall, rhaid ei gofnodi, a rhaid rhoi’r manylion i’r awdurdod perthnasol (cyhyd â bod unrhyw ddata personol yn cael ei ddiogelu’n briodol).

Mae hyn yn debyg o fod yn broses ddwyffordd gyda’r naill awdurdod a’r llall angen cyfathrebu’n effeithiol â’i gilydd. Dylid cytuno sut yr ymdrinnir ag amgylchiadau o’r fath cyn ymgymryd â’r arolwg.

Gallai’r broses hon olygu bod yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael gwybod gan awdurdodau lleol eraill am aelwydydd newydd y disgwylir iddynt gyrraedd eu hardal, ac i’r gwrthwyneb. Bydd atebion i gwestiwn D5 hefyd yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am y pwynt hwn. Yn olaf, gall rhestr aros yr awdurdodau lleol am leiniau hefyd gynnwys gwybodaeth a fydd yn ychwanegu at y ffigur hwn. Bydd nifer yr aelwydydd a nodir yn llenwi rhes L Atodiad 5.

Y galw am lety o wersylloedd diawdurdod

Pan fydd arolygon o’r rhai sy’n defnyddio gwersylloedd diawdurdod neu safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio yn dangos y galw am leiniau cartrefi symudol mewn awdurdod lleol lle maen nhw’n byw ar hyn o bryd, bydd angen i awdurdodau lleol wneud yn siŵr nad oes gan aelodau’r gymuned lety arall yn rhywle arall.

Os oes gan yr aelwydydd hyn lety arall yn rhywle arall, ni fyddai eu dewis i gael lleiniau mewn ardal wahanol fel arfer yn cael ei ystyried yn angen, gan na fyddent yn ddigartref nac mewn perygl o fod yn ddigartref – gweler cylchlythyr cynllunio Llywodraeth Cymru 005/2018, “Cynllunio ar gyfer Safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn”.

Dylid cofnodi’r galw sy’n deillio o wersylloedd diawdurdod a safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio yn ardal yr awdurdod lleol yn rhesi G a H Atodiad 5.

Mae hyn yn cynnwys safleoedd heb unrhyw sicrwydd o amddiffyniad yn erbyn gorfodaeth cynllunio neu’r rhai ar safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio yn dod i ben o fewn pum mlynedd.

Gorlenwi

Mae galw am leiniau preswyl hefyd yn debygol o ddeillio o orlenwi, naill ai mewn safleoedd presennol neu dai brics a mortar. Oherwydd yr etifeddiaeth o ddiffyg safleoedd, mae llain llawer sydd ar safleoedd ar hyd a lled Cymru yn orlawn. Mae’r sefyllfa hon yn gallu arwain at oblygiadau iechyd a diogelwch difrifol, gan gynnwys y risg o dân os rhoddir gormod o garafannau ar lain.

Nid oes diffiniad cyfreithiol o orlenwi yng nghyd-destun cartref symudol. Fodd bynnag, gellir defnyddio’r canlynol fel canllaw.

At ddibenion y canllawiau hyn, gellir ystyried bod angen ardal cysgu ar wahân ar gyfer pob un o’r canlynol:

  • Pob cwpl sy’n oedolion (priod neu’n cyd-fyw).
  • Unrhyw un arall 16 oed neu hŷn.
  • Pob pâr o blant dan 16 oed o’r un rhyw.
  • Pob pâr o blant dan 10 oed beth bynnag fo’u rhyw.
  • Unrhyw blentyn arall.

Mewn cartrefi symudol, gall fod yn fwy cywir ystyried gwahanu ardaloedd cysgu, yn hytrach nag ystafelloedd gwely.

Gellir ystyried lliniaru unrhyw orlenwi a nodwyd drwy ychwanegu cartref symudol arall ar y llain, dim ond os yw’r llain yn addas ar gyfer cynnydd o’r fath mewn meddiannaeth.

Caiff awdurdodau lleol ganiatáu gosod cartref symudol arall ar lain dim ond os yw gwneud hynny’n cydymffurfio â’r canllawiau Diogelwch Tân fel y cyfeirir atynt yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ‘Cynllunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’. Rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub lleol os nad ydynt yn siŵr a fyddai’n ddiogel gosod cartrefi symudol ychwanegol ar y llain. Os nad yw aelwydydd yn gallu gosod cartref symudol ychwanegol yn ddiogel ar eu llain neu mewn man arall ar y safle a bod eu llety presennol yn orlawn, bydd hyn yn arwydd o alw ychwanegol am leiniau preswyl.

Dylai fod yn symlach asesu gorlenwi mewn tai brics a mortar a bydd awdurdodau tai lleol wedi arfer cynnal asesiadau o’r fath drwy eu swyddogaethau tai presennol.

Pan fydd gorlenwi’n digwydd mewn tai brics a mortar neu fod natur aelwyd newydd yn dod i’r amlwg, bydd angen i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol y gallai hyn fod yn alw ychwanegol am leiniau preswyl. Os yw’r gorlenwi yn ganlyniad i blant dibynnol yn dod yn oedolion, efallai bydd yr aelwydydd newydd hyn yn mynegi dymuniad i fyw mewn llety cartref symudol. Bydd Adran B yr holiadur yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol am farn cyfranogwyr am orlenwi.

Y galw am leiniau preswyl yn y dyfodol

Dylai’r atebion gan gyfranogwyr o dan Adran D yr holiadur ddangos y twf disgwyliedig yn y dyfodol. Bydd hyn yn rhoi amcangyfrif o’r aelwydydd ychwanegol dros y cyfnod pum mlynedd nesaf.

Mae cyfradd twf net aelwydydd cenedlaethol o 2.25% wedi cael ei defnyddio at ddibenion enghreifftiol yn Atodiad 5 ar y sail y gallai hyn fod yn waelodlin resymol ar gyfer twf blynyddol mewn cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Mae tystiolaeth i gefnogi’r ffaith bod y gyfradd twf aelwydydd net genedlaethol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn gallu amrywio o 1.5% i 2.5%, gyda phoblogaethau iau yn dangos cyfraddau twf aelwydydd blynyddol uwch. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol ddadansoddi’r data demograffig a roddir gan aelodau’r gymuned i asesu eu cyfradd twf tebygol yn lleol dros y cyfnod adolygu.

Rhes M: gellir cyfrifo’r angen ychwanegol am leiniau aelwydydd drwy dynnu’r nifer presennol o aelwydydd yng ngholofn gyntaf rhes L o’r amcangyfrif o nifer yr aelwydydd yn y dyfodol yn ail a thrydedd golofn y rhes. Bydd y gwerthoedd hyn yn llenwi rhesi O a P yn Atodiad 5.

Rhes N: bydd cyfanswm y galw am leiniau preswyl yn llenwi’r rhes hon yn Atodiad 5.

Rhes O: y galw am leiniau preswyl yn y dyfodol dros gyfnod yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a nodwyd yn rhes M.

Rhes P: y galw am leiniau preswyl yn y dyfodol dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol a nodwyd yn rhes M.

Gan fod yr amcangyfrif o dwf aelwydydd yn seiliedig ar ddymuniadau a chynlluniau aelodau’r gymuned, mae’n anodd rhagweld twf yn gywir dros 5 mlynedd.

Fodd bynnag, mae’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn ddarn pwysig o dystiolaeth sy’n sail i Gynlluniau Datblygu Lleol, sy’n gweithredu o fewn amserlen hirach. Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno defnyddio’r un cyfraddau twf amcangyfrifedig yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a’r Cynllun Datblygu Lleol perthnasol, os ydynt yn credu bod hyn yn briodol.

Mae’r angen cyffredinol heb ei fodloni yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr (pum mlynedd) (rhes R) yn cael ei gyfrifo drwy ychwanegu’r galw presennol am leiniau preswyl a’r galw am leiniau preswyl yn y dyfodol (pum mlynedd) (rhes O), yna tynnu’r cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl (rhes Q). 

Mae’r angen cyffredinol heb ei fodloni yn y Cynllun Datblygu Lleol (rhes S) yn cael ei gyfrifo drwy ychwanegu’r galw presennol am leiniau preswyl (rhes N) a’r galw am leiniau preswyl yn y dyfodol (Cynllun Datblygu Lleol) (rhes P), yna tynnu’r cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl (rhes Q). 

Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau’r angen heb ei fodloni a nodwyd ar gyfer cyfnod adolygu’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Dylid darparu unrhyw angen tymor hirach yn ystod oes y Cynllun Datblygu Lleol.

Cyfrifo’r angen tramwy

Bydd yr asesiad o’r angen am lety yn nodi a oes angen mwy o leiniau o fewn ardal awdurdod lleol, yr angen am leiniau tramwy, neu ddim angen am y naill na’r llall.

Gall rhai gwersylloedd godi dros dro mewn ardal awdurdod lleol heb nodi o reidrwydd bod angen unrhyw ddarpariaeth dramwy barhaol yn yr ardal, er enghraifft, lle mae’r meddianwyr yn “pasio drwodd.”

 Bydd dal angen i awdurdodau lleol ystyried a ddylid darparu mannau aros dros dro/a negodwyd lle mae gwersylloedd o’r fath yn codi, neu a fyddai safle tramwy yn fwy cynaliadwy yn achos arosiadau amlach. Mae rhagor o wybodaeth am ymateb i achosion o wersylla diawdurdod ar gael yng nghanllawiau Rheoli Gwersylloedd Diawdurdod Llywodraeth Cymru.

Mae mannau aros dros dro/a negodwyd yn gyfleusterau tymor byr y gellir eu defnyddio i roi llety i’r rhai sy’n pasio drwodd neu i adleoli gwersyll sydd wedi codi mewn lleoliad amhriodol neu anniogel. Dylai awdurdodau lleol fynd ati’n rhagweithiol i adnabod y mannau aros dros dro/a negodwyd hyn ymlaen llaw i sicrhau bod modd anfon gwersylloedd diawdurdod yno cyn gynted ag y bo angen.

Os bydd awdurdod lleol yn cael llawer o wersylloedd diawdurdod tymor hirach, gallai hyn ddangos bod angen safleoedd tramwy. Er enghraifft, byddai angen am safleoedd tramwy yn cael ei nodi os oes llawer o wersylloedd yn codi mewn ardal awdurdod lleol, yn enwedig rhwng mis Mawrth a mis Hydref, ac yn arbennig os ydynt yn para mwy nag ychydig ddyddiau.

Yn wahanol i fannau aros dros dro/a negodwyd, mae safleoedd tramwy yn gyfleusterau parhaol sy’n caniatáu i aelwydydd fyw ynddynt am hyd at dri mis ar y tro. Gall safleoedd tramwy fod yn gymwys i gael cyllid Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Llywodraeth Cymru a byddai awdurdodau lleol yn gallu codi rhent a thaliadau gwasanaeth wythnosol ar breswylwyr.

Efallai fod gan rai sy’n defnyddio gwersylloedd diawdurdod mewn ardal awdurdod lleol ganolfannau awdurdodedig parhaol mewn llefydd eraill ac felly ni fyddent yn cael eu hystyried yn rhai y mae angen lleiniau preswyl arnynt yn ardal yr arolwg. Fodd bynnag, mae’n bosib bod y grŵp hwn yn dangos yn glir bod angen lleiniau tramwy yn yr ardal.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu rhwydwaith o safleoedd tramwy yn y lleoliadau mwyaf priodol o amgylch Cymru.

Mae’n debyg y bydd angen cydweithio ag awdurdodau lleol eraill er mwyn gallu deall yn gywir yr angen am safleoedd tramwy. Mae Adran E yr holiadur yn ceisio cofnodi gofynion tramwy Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru, a ddylai helpu i roi sylfaen dystiolaeth o anghenion tebygol mewn awdurdodau lleol eraill. Bydd angen rhannu’r data hwn yn ardal y bartneriaeth ac ag awdurdodau lleol eraill lle rhagwelir y bydd angen tramwy.

Dylai data Cyfrif Carfannau hefyd roi gwybodaeth ddefnyddiol iawn am yr anghenion tramwy tebygol yn ardal yr awdurdod lleol oherwydd bydd elfen ‘cofnod o safleoedd diawdurdod’ y system yn cofnodi lleoliadau gwersylloedd pan fydd awdurdodau lleol yn ymateb iddynt. Bydd adolygu’r data hwn yn rhoi nifer y gwersylloedd diawdurdod a gafodd awdurdodau lleol drwy gydol blwyddyn y cyfrif, y lleoliadau mwyaf poblogaidd, nifer y carafannau a oedd ym mhob gwersyll a hyd a rheswm yr arhosiad. Mae modd dadansoddi’r wybodaeth hon at ddibenion yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i helpu’r awdurdod lleol i ddeall a oes angen safle tramwy a pha faint fyddai ei angen.

Wrth gyfrifo’r angen heb ei fodloni am leiniau tramwy, rhaid i awdurdodau lleol ystyried cyfran yr angen sy’n deillio o bob cymuned Sipsiwn a Theithwyr benodol, gan fod hyn yn debygol o effeithio ar ffurfweddiad y safleoedd y bydd angen eu darparu. Er enghraifft, oherwydd gofynion dylunio a rheoli penodol Siewmyn Teithiol a safleoedd Teithwyr Newydd, maen nhw’n debygol o fod angen safleoedd sy’n bodloni eu hanghenion penodol.

Pennod 4: defnyddio’r asesiad

Trosolwg

Yn ogystal ag asesu anghenion llety, dylai asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr nodi cynlluniau’r awdurdod lleol i fodloni’r anghenion dynodedig. Mae’r rhain yn gallu bod yn gynlluniau tymor byr a/neu dymor hirach, yn ôl yr angen. Mae angen yr wybodaeth hon i fodloni Gweinidogion Cymru bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 2014 a bydd yn cael ei defnyddio i lywio cyfarfodydd monitro rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

Ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, bydd dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i arfer eu swyddogaethau i ddarparu lleiniau cartrefi symudol i fodloni'r anghenion a ganfuwyd.

Mae asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cymeradwy presennol awdurdod lleol yn dal yn ddilys nes iddo gael ei ddisodli gan yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr nesaf a fydd yn cael ei gymeradwyo yng nghyswllt yr awdurdod, yn unol â’r cylchoedd a nodwyd yn flaenorol.

 Hyd yn oed os yw’r awdurdod lleol wedi cyflwyno asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr newydd i’w gymeradwyo ai peidio, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd statudol o hyd i fodloni unrhyw angen sy’n weddill sydd wedi’i nodi yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cymeradwy presennol hyd at ddyddiad cymeradwyo’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr nesaf.

Mae adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol fodloni’r angen hwn. Fodd bynnag, bydd awdurdodau lleol yn gwybod bod amrywiaeth o adnoddau ar gael iddynt i’w cefnogi i gyflawni’r ddyletswydd hon.

Dylai awdurdodau lleol ystyried i ba raddau y gall pob un o’r opsiynau canlynol eu helpu i ddarparu ar gyfer yr angen heb ei fodloni:

  • darparu safleoedd awdurdod lleol
  • cefnogi aelwydydd i ddatblygu safleoedd preifat hyfyw
  • cefnogi aelwydydd i ddatblygu dulliau ymarferol sy’n cael eu harwain gan y gymuned, fel ymddiriedolaethau tir cymunedol

Bydd Opsiwn A yn golygu bod awdurdodau lleol yn gallu rheoli dyrannu lleiniau ar y safleoedd hyn. Byddai hyn yn golygu y gellid llenwi lleiniau gwag yn y dyfodol yn ôl yr angen er mwyn mynd i’r afael â gorlenwi neu ddigartrefedd yn yr ardal. Ar ben hynny, mewn rhai amgylchiadau, gellid defnyddio lleiniau gwag ar safleoedd o’r fath i adleoli’r rhai sydd ar wersylloedd diawdurdod.

Os bydd awdurdodau lleol yn penderfynu mynd ar drywydd Opsiwn A i fodloni rhai, neu’r cyfan, o’r anghenion heb eu bodloni ar gyfer llety, gallent fod yn gymwys am Grant Cyfalaf Safleoedd Llywodraeth Cymru. I fod yn gymwys am y Grant Cyfalaf Safleoedd, rhaid i awdurdodau lleol gadw perchnogaeth neu lesddaliad y safle sydd i gael ei adnewyddu neu ei ddatblygu. Rhaid i safleoedd newydd posib fod â’r caniatâd cynllunio angenrheidiol yn ei le hefyd cyn bod modd cyflwyno ceisiadau am gyllid Grant Cyfalaf Safleoedd.

Byddai Opsiwn B yn golygu bod yr awdurdod lleol yn gweithio’n rhagweithiol gydag aelwydydd Sipsiwn neu Deithwyr sydd â chyfle ymarferol i ddatblygu safleoedd preifat yn yr ardal. Bydd ymatebion i Adran C yr holiadur yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol am ddyheadau ar gyfer safleoedd preifat. Dylai awdurdodau cynllunio lleol geisio trafod cynigion â Sipsiwn a Theithwyr cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau mai dim ond ceisiadau safle dichonadwy sy’n cael eu datblygu. Efallai y bydd Cymorth Cynllunio Cymru yn gallu helpu gyda rhywfaint o ymgysylltu â’r gymuned mewn perthynas â chynigion safle.

Bydd asesiad o hyfywedd yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys gofynion cynllunio lleol perthnasol. Gallai awdurdodau lleol sydd â pholisïau eithriadau gwledig sy’n caniatáu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gynyddu’r tebygolrwydd y deuir o hyd i safleoedd hyfyw, a gallai tir fod yn rhatach mewn lleoliadau mwy gwledig: Yn gyson â Pholisi Cynllunio Cymru, mae angen i bob awdurdod lleol drafod hyfywedd safleoedd preifat ag unigolion sydd â diddordeb fesul achos. 

Ni fyddai mynd ar drywydd Opsiwn B yn bodloni dyletswydd yr awdurdod lleol i ddarparu’r safleoedd ychwanegol sydd eu hangen nes bydd y lleiniau preifat newydd ar gael i’w meddiannu. Serch hynny, dylai cefnogi aelwydydd i ddatblygu safleoedd preifat arwain at gostau bach iawn i’r awdurdod lleol ac mae’n debygol o wrthbwyso’r galw heb ei ateb am safleoedd.

Byddai Opsiwn C yn golygu bod yr awdurdod lleol yn gweithio’n rhagweithiol gydag aelwydydd Sipsiwn a Theithwyr i ddatblygu dull mwy cymunedol, fel ymddiriedolaethau tir cymunedol.

Mae ymddiriedolaethau tir cymunedol yn fecanwaith i gaffael a dal tir ac eiddo er budd ardal leol neu gymuned benodol. Darparu tai fforddiadwy yw diben ymddiriedolaethau tir cymunedol yn gyffredinol.

Gallai ymddiriedolaeth tir cymunedol ddal gwerth y tir ar ran y gymuned am byth gan ganiatáu i eraill ddefnyddio'r tir at ddibenion llety. Rhaid i ymddiriedolaethau tir cymunedol fod yn fudiadau nid-er-elw lle mae’r gymuned yn berchen ar y tir a/neu’r eiddo neu asedau mewn ymddiriedolaeth.

Gallai’r ymddiriedolaeth tir cymunedol ei hun fod yn berchen ar safle, yn hytrach na’r meddianwyr, a byddai’n cael ei gynnal at ddefnydd y cymunedau hyn am gyfnod amhenodol yn hytrach na bod yn safleoedd preifat sy’n eiddo i unigolion penodol.

Gallai awdurdodau lleol ystyried bod yn aelod o’r ymddiriedolaeth tir cymunedol, ynghyd ag aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ac unigolion neu fudiadau perthnasol eraill.

Gall cynlluniau o’r fath fod yn fwy deniadol na byw ar safleoedd awdurdodau lleol i rai cymunedau, er enghraifft, Teithwyr Newydd. Gallai’r awydd diwylliannol am fyw’n ecolegol ac yn gydweithredol ymhlith y gymuned hon fod yn addas i’r math hwn o ddatblygiad.

Wrth asesu a ddylid mynd ar drywydd opsiynau fel safleoedd preifat neu ymddiriedolaethau tir cymunedol, dylai awdurdodau lleol adolygu atebion y cyfranogwyr o dan Adran C yr holiadur.

Mae cynlluniau i ddatblygu ymddiriedolaethau tir cymunedol safleoedd Sipsiwn a Theithwyr wedi cael eu cynnig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, y prif rwystr fu sicrhau tir i’w ddatblygu. Os gall awdurdodau lleol oresgyn y rhwystr hwn, gall y math hwn o safle fod yn ddewis arall ymarferol yn lle safleoedd awdurdodau lleol neu safleoedd preifat.

Bydd awdurdodau lleol yn gwybod bod y broses o adnabod safleoedd a sicrhau caniatâd cynllunio yn gallu bod yn un hir. Bydd y prosesau hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a gall trigolion neu fusnesau wrthwynebu penderfyniadau. Felly, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod eu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ceisiadau cynllunio yn gadarn.

Gall y data a gesglir at ddibenion yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr hefyd gyfrannu at waith yr awdurdodau lleol mewn ffyrdd eraill, lle bo’n briodol. Bydd y data a gesglir drwy’r broses asesu llety yn llywio’r gwaith o baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. Dylai rhoi sylw dyledus i’r canllawiau hyn helpu awdurdodau lleol i ddangos bod y data sy’n ymwneud â Sipsiwn a Theithwyr yn eu Cynllun Datblygu Lleol yn gadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth. 

Pan fo’n briodol, dylai Cynlluniau Datblygu gynnwys cynigion sy’n benodol i’r safle i fodloni’r angen a nodwyd yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol a pholisïau sy’n seiliedig ar feini prawf i ddarparu ar gyfer unrhyw angen ychwanegol sy’n codi yn ystod y cyfnod hwnnw.

Pan fydd Cynlluniau Datblygu Lleol wedi cael eu mabwysiadu, bydd angen i awdurdodau cynllunio lleol adolygu eu polisïau ar anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn yr Adolygiad Monitro Blynyddol nesaf o’r Cynllun Datblygu Lleol. 

Pennod 5: adolygu a diweddaru

Trosolwg

Mae Deddf 2014 yn mynnu bod awdurdodau lleol yn cynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu pum mlynedd. Y rheswm am hyn yw ei bod hi’n anodd llunio asesiad cywir o newidiadau mewn poblogaeth Sipsiwn a Theithwyr dros gyfnod sy’n hirach na phum mlynedd.

Mae gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i ymgymryd ag asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr bob 5 mlynedd neu unrhyw bryd rhwng hynny. Mae’n bosib iddynt gynnal asesiadau’n amlach os gwelir bod newid mawr yn lefel yr angen yn yr ardal. Caiff awdurdodau lleol ddewis adnewyddu eu hasesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr ar yr un pryd â chynnal yr adolygiad mawr o’r Cynllun Datblygu Lleol bob pedair blynedd.

Ar ôl cynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, dylai awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn ymgysylltu’n barhaus â chymunedau er mwyn rhannu eu cynlluniau a’r camau nesaf i roi sylw i ganfyddiadau eu hasesiad, gan sicrhau tryloywder, atebolrwydd a gweithredu ystyrlon. Hefyd, mae cymunedau wedi pwysleisio y dylai ymgysylltiad ag awdurdodau lleol barhau y tu allan i’r broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, ac y dylai awdurdodau lleol fynd ati i ddatblygu perthynas waith effeithiol â chymunedau a darparu ymatebion gweladwy i anghenion cymunedau yn rheolaidd.

Er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro faint o safleoedd sydd ar gael a’r cynnydd at fodloni’r angen a nodwyd yn asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr pob awdurdod lleol yn rheolaidd.

Mae’n bwysig i awdurdodau lleol gofio mai nhw ac nid Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y ddyletswydd i fodloni’r anghenion llety a nodwyd. Pan fydd asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr wedi canfod angen heb ei fodloni am safle Sipsiwn a Theithwyr, ond bod Gweinidogion Cymru yn fodlon bod yr awdurdod lleol wedi methu cydymffurfio â’i ddyletswydd i fodloni’r angen hwnnw, gellir cyfarwyddo’r awdurdod lleol i wneud hynny fel y nodir yn adran 103 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Bydd Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â’r awdurdod lleol perthnasol cyn cyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd er mwyn deall amgylchiadau llawn unrhyw achos cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Os yw aelodau’r gymuned yn anfodlon ar gynnydd unrhyw awdurdod lleol o ran bodloni’r anghenion llety a nodwyd, gallant gwyno’n uniongyrchol i’r cyngor yn y lle cyntaf. Cynghorir pob awdurdod lleol i gynnwys manylion ei weithdrefn gwyno wrth gyhoeddi ei asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Os yw aelodau’r gymuned yn anfodlon ar ganlyniad proses gwyno’r awdurdod lleol, gallant ofyn am ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r canllawiau hyn yn rheolaidd ac o ganlyniad i ddysgu o gylchoedd asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr.

Atodiad 1: geirfa

Geirfa

Llain

Tir ar safle cartrefi symudol lle mae gan ddefnyddwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am gyfnod amhenodol (oni nodir yn eu cytundeb llain). Fel arfer mae’n cynnwys bloc amwynder, lle ar gyfer carafán sefydlog a charafán deithiol a man parcio.

Bydd cynllun y llain yn dibynnu ar ddyluniad cyffredinol y safle. Elfen bwysig yn nyluniad a maint lleiniau yw’r capasiti arfaethedig. Mae Adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru), yn diffinio ‘cartref symudol’ fel un sy’n mesur hyd at 20 metr o hyd a 6.8 metr o led.

Safle

Bydd safle’n cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau (yn dibynnu ar faint y tir a’r gofynion), cysylltiadau â chyfleustodau, adeilad cymunedol, man chwarae, llwybr troed o amgylch y safle, goleuadau cyhoeddus, a ffensys/coed i greu ffin o amgylch y safle ar gyfer diogelwch ac amgáu.

Safle awdurdod lleol

Mae hwn yn safle sy’n eiddo i’r awdurdod lleol ac yn cael ei weithredu ganddo. Bydd y safle hwn yn cael ei ddynodi i’w ddefnyddio fel safle Sipsiwn a Theithwyr am gyfnod amhenodol. Gall preswylwyr ar y safleoedd hyn ddisgwyl defnyddio eu lleiniau cyhyd â’u bod yn glynu wrth delerau eu cytundeb llain, dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu gerllaw, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.

Safle preifat gyda chaniatâd cynllunio

Mae safle preifat Sipsiwn a Theithwyr yn cyfeirio at dir mewn perchnogaeth breifat gyda chaniatâd cynllunio sydd wedi’i gymeradwyo’n swyddogol gan yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer defnydd preswyl parhaol gan Sipsiwn a Theithwyr.

Fel arfer, mae’r safleoedd hyn yn fach ac yn cynnwys nifer fach o leiniau ar gyfer teulu. Mae’r safleoedd hyn yn breifat i’w defnyddio gan y teulu hwnnw’n unig.

Safle preifat heb ganiatâd cynllunio

Tir a brynwyd gan aelod o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, nad yw wedi cael y caniatâd cynllunio angenrheidiol gan yr awdurdod cynllunio lleol i’w ddefnyddio fel safle Sipsiwn a Theithwyr.

Man aros dros dro/a negodwyd

Bwriedir i’r rhain fod yn rhai tymor byr o ran natur i helpu awdurdodau lleol pan dderbynnir bod angen lleiniau. 

Dylid darparu ar gyfer gwaredu gwastraff, cyflenwi dŵr a glanweithdra o leiaf.

Dim ond am gyfnod cyfyngedig y mae gan y safleoedd hyn ganiatâd cynllunio neu drwydded safle. Gall preswylwyr ar y safleoedd hyn ddisgwyl defnyddio eu lleiniau am gyfnod y caniatâd cynllunio neu’r drwydded safle (neu cyhyd â’u bod yn glynu wrth delerau eu cytundebau lleiniau, dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, pa un bynnag yw’r cynharaf).

Llain dramwy

Tir ar safle cartrefi symudol lle mae gan ddefnyddwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am hyd at dri mis.

Gall lleiniau tramwy fodoli ar safleoedd preswyl parhaol, fodd bynnag, nid yw hyn yn cael ei argymell.

Safle tramwy

Mae safleoedd tramwy yn gyfleusterau parhaol sydd wedi’u cynllunio i’w defnyddio dros dro am uchafswm o dri mis ar y tro. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnal a chadw systemau gwaredu gwastraff, cyflenwad dŵr a glanweithdra’r safle, yn amodol ar dâl.

Mae telerau penodol dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol ar y safleoedd hyn. Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu gerllaw, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.

Gwersyll diawdurdod

Tir sy’n cael ei feddiannu heb ganiatâd y perchennog neu heb y caniatâd cynllunio cywir o ran defnydd tir.

Gellir defnyddio gwersylloedd dros dro os nad oes darpariaeth ar gael ar gyfer mannau tramwy neu fannau aros dros dro/a negodwyd, a gall yr awdurdod lleol eu derbyn, tra bydd safleoedd amgen yn cael eu datblygu.

Brics a morter

Tŷ neu fflat, y cyfeirir atynt yn aml fel tai confensiynol. Efallai eu bod ar rent cymdeithasol, ar rent preifat, neu mewn perchnogaeth..

Y cyflenwad presennol o leiniau preswyl

Nifer y lleiniau awdurdod lleol sydd ar gael ac yn cael eu defnyddio o fewn yr awdurdod lleol neu ardal y bartneriaeth.

Mae hyn yn cynnwys lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol a safleoedd preifat.

Y galw presennol am leiniau preswyl

Y rhai sydd angen lleiniau awdurdod lleol am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys:

  • anallu i sicrhau llain awdurdod lleol sydd o bosibl yn arwain at ddefnyddio gwersylloedd diawdurdod
  • anallu i sicrhau caniatâd cynllunio cywir ar gyfer safle preifat
  • aelwydydd sy’n byw mewn amgylchiadau gorlawn ac sydd angen llain ar wahân
  • aelwydydd mewn tai confensiynol yn dangos gwrthwynebiad diwylliannol
  • aelwydydd newydd y disgwylir iddynt gyrraedd o fannau eraill

Y galw am leiniau preswyl yn y dyfodol

Lefel ddisgwyliedig o natur newydd aelwydydd a fydd yn creu galw ychwanegol o fewn cyfnod 5 mlynedd yr asesiad llety a chyfnod hirach y Cynllun Datblygu Lleol.

Yr angen cyffredinol am leiniau preswyl

Y cyfrifiad terfynol o’r angen am lety nas diwallwyd y mae’n rhaid ei nodi drwy’r broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. Mae modd cyfrifo’r ffigur hwn drwy adio’r angen am leiniau preswyl ar hyn o bryd a’r galw am leiniau preswyl yn y dyfodol. Bydd yr angen cyffredinol am leiniau preswyl yn cofnodi’r anghenion dros gyfnod 5 mlynedd yr asesiad llety.

Cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl

Nifer y lleiniau sy’n wag ac ar gael i’w rhentu ar safleoedd awdurdodau lleol neu safleoedd preifat. Mae hefyd yn cynnwys lleiniau a fydd yn cael eu gadael yn y dyfodol agos gan aelwydydd sy’n symud i dai confensiynol neu allan o ardal yr awdurdod lleol. 

Aelwyd

Yn y canllawiau hyn, mae hyn yn golygu unigolion o’r un teulu sy’n byw gyda’i gilydd ar un llain/tŷ/gwersyll.

Aelwyd gudd neu wedi’i ‘dyblu’

Mae hyn yn golygu aelwydydd nad ydynt yn gallu cael eu llain awdurdod lleol eu hunain ac sy’n byw yn lle hynny mewn llain awdurdod lleol sydd wedi’i neilltuo i aelwyd arall.

Gall hyn gynnwys plant sy’n oedolion nad ydynt wedi gallu symud cartref neu aelwydydd gwahanol sy’n meddiannu un llain.

Twf aelwydydd

Yn y canllawiau hyn, mae twf aelwydydd yn cael ei ddiffinio gan nifer yr aelwydydd newydd sy’n deillio o aelwydydd sydd eisoes yn cael llety yn yr ardal.

Cymunedau sefydlog

Mae cymunedau sefydlog yn gymunedau o bobl sydd ddim yn aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, ac maen nhw’n byw mewn tai brics a morter.

Atodiad 2: mudiadau rhanddeiliaid

Sefydliadau

Sipsiwn a Theithwyr Cymru

Canolfan Gymunedol
Trowbridge
CF3 1RU

Ffôn: 029 2021 4411
E-bost: info@gtwales.org.uk

Travelling Ahead (Tros Gynnal Plant Cymru)

Canolfan Sparc
TGP Cymru
Prifysgol
Caerdydd Heol
Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn: 0808 802 0025
Gwefan

There and Back Again

Ffôn: 07931 376636
Gwefan

Urdd Siewmyn Prydain Fawr

De Cymru
29, Westend Avenue
Notais
Porthcawl
CF63 3NE

Ffôn: 07867 506061
E-bost: sgwales1@gmail.com

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

4ydd Llawr
One Canal Parade
Heol Dumballs
Caerdydd
CF10 5BF

Ffôn: 02920 468600
E-bost: enquiries@wlga.gov.uk
Gwefan

Tîm Cyngor i Deithwyr

Community Law Partnership

Llinell gymorth genedlaethol i Deithwyr: 0121 685 8677 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 1pm) Y tu allan i oriau - argyfyngau yn unig: 07768 316755
Gwefan

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru

1 Pwynt Caspian
Ffordd Caspian
Caerdydd
CF10 4DQ

Ffôn: 029 2044 7710
E-bost: wales@equalityhumanrights.com
Gwefan

The Traveller Movement

40, Jeffrey’s Road
Stockwell
London
SW4 6QX

Ffôn: 020 7607 2002
E-bost: info@travellermovement.org.uk
Gwefan

Friends, Families and Travellers

Community Base
113 Queens Road
Brighton
BN1 3XG

Ffôn: 01273 234777
E-bost: Fft@gypsy-traveller.org
Gwefan

Tai Pawb

Llys Trident Heol
East Moors
Caerdydd
CF24 5TD

Ffôn: 02921 057957
E-bost: info@taipawb.org

Cymorth Cynllunio Cymru

Llawr Cyntaf
12 Cathedral Road
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 02920 625000
Gwefan

Roma Support Group

Blwch Post 23610
Llundain
E7 0XB

Ffôn: 07949 089778
E-bost: info@romasupportgroup.org.uk
Gwefan

Travellers Aid Trust

Blwch Post 16
Llangyndeyrn
Cydweli
SA 17 5YT

Ffôn: 01554 891976
E-bost: info@travellersaidtrust.org
Gwefan

Advisory Council for the Education of Romany and other Travellers (ACERT)

Little Kiln
Pottery Road
Bovey
Tracey
Devon
TQ13 9DS

Ffôn: 020 8374 1286
E-bost: Info@acert.org.uk
Gwefan

Atodiad 3: holiadur

Holiadur

Holiadur enghreifftiol i helpu i ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn cynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.

Llwytho’r holiadur i lawr.