Canllawiau datganiadau monitro ariannol GIG Cymru 2025 i 2026 (WHC/2025/013)
Canllawiau i fyrddau iechyd y GIG, awdurdodau iechyd arbennig ac ymddiriedolaethau GIG ar y ffurflenau monitro ariannol fisol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Cydymffurfio.
Categori:
Cyllid.
Teitl:
Canllawiau datganiadau monitro ariannol GIG Cymru 2025 i 2026.
Dyddiad dod i ben / dyddiad yr adolygiad:
Ebrill 2026.
I'w weithredu gan:
- Brif weithredwyr a chyfarwyddwyr cyllid.
- Byrddau iechyd lleol /awdurdodau iechyd
arbennig / ymddiriedolaethau. - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
- Y Cyd-bwyllgor Comisiynu.
Angen gweithredu erbyn:
Cyfeiriwch at atodiad 1 yn y canllawiau.
Anfonwr:
Hywel Jones,
Cyfarwyddwr Cyllid GIG Cymru,
Y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar (GIGCBC).
Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:
Pennaeth / Dirprwy Bennaeth Rheolaeth Ariannol y GIG,
Y Gyfarwyddiaeth Gyllid,
Y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar.
E-bost: nhsfinancialmanagement@llyw.cymru
Dogfennau amgaeedig:
Llythyr eglurhaol a chanllawiau.
Rhestr dosbarthiad cylchlythyrau iechyd Cymru
Ysgrifenyddion byrddau:
- Bae Abertawe.
- Aneurin Bevan.
- Betsi Cadwaladr.
- Caerdydd a’r Fro.
- Cwm Taf Morgannwg.
- Hywel Dda.
- Powys.
- Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Ymddiriedolaeth Felindre.
- Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).
- Ysgrifennydd Grŵp Ysgrifenyddion Byrddau.
Prif weithredwyr:
- Bae Abertawe.
- Aneurin Bevan.
- Betsi Cadwaladr.
- Caerdydd a’r Fro.
- Cwm Taf Morgannwg.
- Hywel Dda.
- Powys.
- Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Ymddiriedolaeth Felindre.
- WAST.
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
- Y Cyd-bwyllgor Comisiynu.
- AaGIC.
- DHCW.
Cadeiryddion:
- Bae Abertawe.
- Aneurin Bevan.
- Betsi Cadwaladr.
- Caerdydd a’r Fro.
- Cwm Taf Morgannwg.
- Hywel Dda.
- Powys.
- Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Ymddiriedolaeth Felindre.
- WAST.
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
- Y Cyd-bwyllgor Comisiynu.
- AaGIC.
- DHCW.
Cyfarwyddwyr cyllid:
- Bae Abertawe.
- Aneurin Bevan.
- Betsi Cadwaladr.
- Caerdydd a’r Fro.
- Cwm Taf Morgannwg.
- Hywel Dda.
- Powys.
- Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Ymddiriedolaeth Felindre.
- WAST.
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
- Y Cyd-bwyllgor Comisiynu.
- AaGIC.
- DHCW.
Llywodraeth Cymru:
- Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr GIG Cymru, GIGCBC.
- Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, GIGCBC.
- Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid GIG Cymru, GIGCBC.
- Pennaeth Rheoli Ariannol y GIG, GIGCBC.
- Pennaeth Rheoli Ariannol a Llywodraethu GIGC, GIGCBC.
- Y Tîm Gweithrediadau GIGC, GIGCBC.
- Y Tîm Cyfathrebu, GIGCBC.
Arall:
- Rheolwr Technegol Sector y GIG, Swyddfa Archwilio Cymru.
- Cyfarwyddwr Uned Cyflenwi Cyllid, Y Weithrediaeth GIG Cymru.
Canllawiau datganiadau monitro ariannol GIG Cymru 2025 i 2026
Annwyl Gydweithiwr
Gofynnwyd i gyrff ddatblygu cynlluniau cadarn sy’n cyflawni’r blaenoriaethau ar gyfer 2025 i 2026, fel y nodwyd yn fframwaith cynllunio’r GIG, o ddyraniadau 2025 i 2026. Mae disgwyliad clir y bydd cyrff yn gweithredu o fewn y dyraniadau craidd.
I rai cyrff y GIG, roedd heriau wrth sicrhau bod monitro effeithiol a rhagolygon clir ar waith yn gyson yn ystod 2024 i 2025 ac wrth ddisgrifio'r symudiadau yn ystod y flwyddyn i gynlluniau sefydliadol. Hoffem eich atgoffa ei bod yn hanfodol bod eich datganiadau ariannol misol yn cynnwys asesiad cadarn o'ch sefyllfa alldro a ragwelir, risgiau materol ar gyfer cyflawni, a'r cyfleoedd i liniaru ac adfer sefyllfaoedd a chyflwyno rhagolygon lle bo angen. Mae angen i hyn gael ei gefnogi gan wybodaeth ariannol o ansawdd uchel sy'n cydymffurfio â'r canllawiau atodedig.
O fewn y cyd-destun hwnnw, mae cyfle eleni i ddileu a lleihau, fel y bo'n berthnasol, rhai o'r gofynion data a gyflwynwyd dros dro oherwydd pandemig COVID-19 a'r digwyddiadau a effeithiodd ar brisiau ynni. Mae set ddata newydd yn cael ei hymgorffori yn y cyflwyniadau sy'n galluogi sefydliadau i ddisgrifio'n well y symudiadau gwariant yn ystod y flwyddyn i ffwrdd o’r rhagdybiaethau yn y cynllun gwreiddiol, ar lefel fwy gronynnog. Bwriad hyn yw gwella dealltwriaeth ar draws y prif grwpiau gwariant o ysgogwyr newidiadau heb eu cynllunio, a ddylai wella cadernid cynlluniau yn y dyfodol, llywio'r broses o wneud penderfyniadau yn well a'r camau gofynnol i gyflawni rhagolygon.
Hoffwn eich atgoffa y dylai’r wybodaeth hon ffurfio rhan allweddol o lywodraethiant cyllid eich bwrdd, ac y dylai amseroldeb ac ansawdd yr wybodaeth a ddarperir adlewyrchu hynny.
Mae’r canllawiau manwl yn nodi’r newidiadau a wnaed eleni i’r gofynion data, a’r egwyddorion cwblhau.
Yn gywir,
Hywel Jones
Cyfarwyddwr Cyllid.
Amgaeëdigion.