Canllawiau Deddf Caffael 2023: caffael cymysg
Canllawiau technegol ar caffael cymysg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw caffael cymysg?
1. Mae angen i Awdurdodau Contractio allu dyfarnu contractau nad ydynt bob amser yn 100% nwyddau, 100% gwasanaethau neu 100% gwaith. Felly gall contractau gynnwys cyfuniad o ddau gategori gwahanol neu fwy. Efallai y bydd angen i awdurdodau contractio hefyd ddyfarnu contractau naill ai o un math (megis contract consesiwn, neu gontract cyffyrddiad ysgafn), neu gyfuniad o wahanol fathau o gontract.
2. Mae'r trothwy ar gyfer ystyried contract yn gontract cyhoeddus yn wahanol ar gyfer categorïau gwahanol. Hefyd, mae'r ffordd mae'r rheolau yn Neddf Caffael 2023 ('y Ddeddf') yn cael eu cymhwyso yn wahanol ar gyfer mathau gwahanol o gontract (fel contractau consesiwn, contractau cyffyrddiad ysgafn, contractau amddiffyn a diogelwch, a chontractau cyfleustodau yn destun defnydd gwahanol o’r rheolau yn Neddf Caffael 2023 (y “Ddeddf”).
3. Felly, mae'n bwysig bod awdurdodau contractio'n gwybod sut i gategoreiddio unrhyw gontractau y maent am eu dyfarnu a allai gynnwys cyfuniad o gategorïau neu fathau gwahanol.
Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n rheoli caffael cymysg?
Adran 5
4. Mae adran 5 o'r Ddeddf yn nodi'r rheolau ar gyfer penderfynu pryd y bydd contract cymysg yn cael ei ystyried yn gontract cyhoeddus. Y rheswm am hyn yw y gall contract cymysg gynnwys dwy elfen neu fwy a fyddai, os cânt eu caffael ar wahân, â throthwyon cymwys gwahanol. Mae Adran 5 yn rhoi eglurder ynghylch cymhwyso'r rheolau ar drothwyon mewn sefyllfa pan fydd contract yn cynnwys cyfuniad o elfennau, ac o leiaf un dros ac un o dan y trothwyon perthnasol. O ganlyniad, mae gan awdurdodau'r hyblygrwydd sydd eu hangen i gaffael contractau cymysg pan fydd hynny'n briodol, ond maent yn cael eu hatal rhag camddefnyddio'r hyblygrwydd hwnnw i osgoi un neu ragor o'r rheolau a amlinellir yn y Ddeddf.
5. Rhaid deall y darpariaethau hyn ar y cyd ag Atodlen 1 i'r Ddeddf, paragraff 4, sy'n nodi pan mai gwaith fydd prif ddiben contract caiff ei ystyried yn gontract gwaith.
Adran 10
6. Mae adran 10 o'r Ddeddf yn nodi sut y bydd y rheolau yn berthnasol i gontractau sy'n cynnwys mwy nag un categori, pan fydd o leiaf un math yn gontract 'trefn arbennig'. Mae'n rheoleiddio amgylchiadau pan fydd awdurdodau contractio yn cyfuno contractau trefn arbennig, sy'n elwa ar rywfaint o hyblygrwydd (fel trothwyon uwch neu rwymedigaethau proses ysgafnach), naill ai gyda contractau eraill a ddylai fod yn ddarostyngedig i'r rheolau cyffredinol (na fyddent fel arfer yn cynnwys y fath hyblygrwydd) neu gontractau trefn arbennig eraill. Mae'n darparu set glir o reolau y gall awdurdodau contractio eu dilyn wrth benderfynu a ddylid cyfuno neu wahanu contractau sy'n cynnwys o leiaf un elfen y mae rheolau trefn arbennig yn berthnasol iddi. Mae hyn yn golygu bod gan awdurdodau'r hyblygrwydd sydd ei angen i gyfuno contractau sy'n cynnwys elfennau trefn arbennig pan fydd hynny'n briodol, ond eu bod yn cael eu hatal rhag camddefnyddio'r hyblygrwydd hwnnw (a manteisio ar reolau ysgafnach trefn arbennig benodol) pan fydd yn rhesymol gwahanu'r contract cymysg.
Beth sydd wedi newid?
7. Fel sy'n wir gyda diffiniadau a chysyniadau sylfaenol penodol eraill, nid yw'r polisi ar gaffael cymysg wedi cael ei ddiwygio'n sylweddol. Yn hytrach, defnyddiwyd y cyfle i symleiddio'r rheolau hyn yn sylweddol wrth gadw bwriad ac effaith sy'n debyg i'r hen reolau ar gaffael cymysg yn y ddeddfwriaeth flaenorol.
8. Mae rhai gwahaniaethau anochel yn y ffordd y mae'r rheolau hyn yn cael eu hamlinellu yn y Ddeddf. Er enghraifft, roedd y ddeddfwriaeth flaenorol ar gontractau cymysg yn cynnwys llywio'r rhyngweithio rhwng cyfuniadau o gontractau caffael sy'n cynnwys cynlluniau rheoleiddio lluosog. I'r gwrthwyneb, mae'r Ddeddf yn mynd i'r afael â chaffael cymysg o fewn un cynllun. Felly, nid oes angen bellach i awdurdodau gynnal cyfres o brofion i benderfynu pa gynllun rheoleiddio fydd yn berthnasol i'r contract caffael. Mae 'prawf pwnc' y ddeddfwriaeth flaenorol wedi cael ei ddisodli gan brawf 'prif bwrpas' i adlewyrchu'r newid hwn, er bod y ddau yn cael effaith debyg.
Pwyntiau allweddol a bwriad y polisi
Adran 5
9. Bydd y trothwyon a bennir yn Atodlen 1 y Ddeddf, yn penderfynu a yw contract yn gontract cyhoeddus ai peidio sy’n cael ei reoleiddio gan y Ddeddf. Mae trothwyon gwahanol ar gyfer contractau nwyddau, contractau gwaith neu gontractau gwasanaethau. Pan fydd contract yn cynnwys cyfuniad o'r elfennau hyn (contract cymysg), bydd angen i awdurdodau contractio benderfynu pa drothwy i'w gymhwyso ac a ddylid gwahanu elfennau gwahanol contract cymysg yn gontractau ar wahân. Os yw'r contract yn cael ei wahanu, gellir cyfrifo trothwyon ar wahân ar gyfer pob contract ar wahân (y bydd pob un ohonynt o fewn un categori yn unig).
10. Mae Adran 5 y Ddeddf yn nodi'r prawf sydd i'w gymhwyso i sicrhau nad yw awdurdodau'n cyfuno elfennau dros neu o dan drothwy dim ond er mwyn osgoi'r rheolau. Mae hyn yn bwysig oherwydd, heb unrhyw reolau ar gaffael cymysg, gallai'r gwahanol drothwyon creu bwlch lle y gellir osgoi'r rheolau.
11. Ymdrinnir â chontractau sy'n cynnwys cyfuniad o elfennau sy'n cynnwys trothwyon 'trefn arbennig' ar wahân yn adran 10 y Ddeddf.
12. Os yw'n rhesymol gwahanu contract cymysg, ond bod awdurdod contractio'n dewis peidio â gwneud hynny, bydd y contract cymysg yn cael ei drin fel contract cyhoeddus uwchben y trothwy os pan fydd un elfen dros y trothwy sy'n berthnasol iddi. Darperir ar gyfer hyn yn adran 5(3), sy'n ei gwneud yn ofynnol i gontractau cymysg gael eu trin fel contractau sydd dros y trothwy o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 5(1).
13. Mae adran 5(2) yn darparu bod prawf tebyg yn gymwys pan fydd contract a ddyfernir yn fframwaith sydd o dan y trothwy sy'n darparu ar gyfer caffael contract cymysg o dano. Os yw contract cymysg i'w ddyfarnu o dan y fframwaith yn cynnwys elfennau sydd dros neu o dan y trothwy y byddai'n rhesymol eu gwahanu, a gellir dyfarnu'r elfen sydd dros y trothwy y tu allan i'r fframwaith sydd o dan y trothwy, ond mae awdurdod contractio yn dewis peidio â'u gwahanu, rhaid trin y fframwaith fel contract cyhoeddus sydd dros y trothwy. Yn ogystal, bydd adran 45 yn gymwys i bob contract cymysg a ddyfernir o dan y fframwaith hwnnw lle mae elfen o'r contract cymysg dros y trothwy trothw. Mae hyn ni waeth a yw'n rhesymol gwahanu'r contract ac mae adran 5(6) yn darparu na chaiff y prawf ei ailgymhwyso pan ddyfernir contractau o dan y fframwaith.
14. Mae nifer o ffactorau y gall awdurdodau contractio eu hystyried wrth benderfynu a yw'n rhesymol caffael elfennau o gontract cymysg ar wahân. Gall y rhain gynnwys (ond nad ydynt yn gyfyngedig i) canlyniadau ymarferol ac ariannol gwahanu'r gofyniad.
15. Mae angen hyblygrwydd ar awdurdodau contractio o ystyried amrediad eang caffael cyhoeddus: gellir caffael elfennau ar wahân ar wahân bob amser, ac mae'r Ddeddf yn caniatáu contractau cymysg nad oes modd gwahanu'r gwahanol elfennau. Yn wir, bydd llawer o gontractau'n cynnwys elfennau o wahanol gategorïau. Ond mae'r mesur diogelwch sylfaenol yn parhau i fod ar waith, sef os yw'n rhesymol gwahanu'r elfennau, ond bod awdurdod contractio yn dewis peidio â gwneud hynny, rhaid trin contract cymysg sy'n cynnwys elfennau sydd dros ac o dan y trothwy fel contract sydd dros y trothwy, ac felly mae o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth.
16. Nid yw'r Ddeddf yn nodi nac yn rhoi enghreifftiau o'r materion hyn; mae hyn yn ôl disgresiwn yr awdurdod contractio, gan y bydd ystyriaethau o'r fath yn amrywio o un contract caffael i'r llall. Mae'n bosibl y gallai ystyriaethau o'r fath gynnwys, er enghraifft, yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i gynnal nifer o gontractau caffael yn hytrach nag un contract caffael cyfun, neu'r potensial am fwy o werth am arian neu fanteision posibl o ran mynediad i fusnesau bach a chanolig drwy wahanu'r contractau, ond nid yw'r Ddeddf yn gosod unrhyw ffiniau na therfynau penodol ar ddisgresiwn awdurdodau contractio yn hyn o beth.
17. O edrych ar y cyfuniadau posibl o gontractau yr effeithir arnynt gan y darpariaethau yn adran 5, yn amlwg, os yw'r ddwy/pob elfen o dan y trothwy yna bydd y contract cyfan o dan y trothwy, ond os yw'r holl elfennau dros y trothwy yna bydd y contract cyfan dros y trothwy. Nid yw'r rheolau ar gaffael cymysg yn adran 5 ond yn berthnasol mewn sefyllfa pa fydd elfen ar gyfer nwyddau/gwasanaethau yn cael ei chyfuno ag elfen ar gyfer gwaith, a dim ond un elfen sydd dros y trothwy. Mewn sefyllfa o'r fath, gall yr awdurdod contractio naill ai wahanu'r elfennau a'u caffael ar wahân, neu gyfuno'r elfennau yn gontract cymysg a dilyn y rheolau a nodir yn adran 5 i benderfynu pa drothwy sy'n gymwys.
18. Ar ôl penderfynu defnyddio contract caffael cymysg, rhaid i'r awdurdod contractio wedyn gymhwyso'r prawf 'rhesymol gwahanu'.
19. Os nad yw'n rhesymol gwahanu elfennau'r contract (e.e. oherwydd y byddai eu caffael ar wahân yn peryglu gwerth am arian), yna byddai angen i'r awdurdod contractio ystyried ai gwaith yw prif bwrpas y contract. Mae Atodlen 1, paragraff 4 yn berthnasol yma, gan ei bod yn nodi pan mai gwaith yw prif bwrpas contract bydd yn cael ei ystyried yn gontract gwaith a bydd yn cael ei drin yn ôl gwerth yr elfen waith. Os nad gwaith yw'r prif bwrpas, yna mae'n glir mai'r trothwy ar gyfer nwyddau/gwasanaethau sy'n berthnasol.
20. Fodd bynnag, fel a nodir yn enghraifft 1 uchod, os yw'n rhesymol gwahanu'r elfen gwaith a'r elfen nwyddau neu wasanaethau, a bod un elfen uwchben ei drothwy perthnasol, ond bod awdurdod contractio yn dewis peidio eu gwahanu, rhaid trin y contract cymysg cyfan fel pe bai dros y trothwy. Mae hyn yn atal awdurdodau rhag cyfuno contractau nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddynt er mwyn osgoi'r rheolau.
21. Mae Atodlen 2, paragraff 1 y Ddeddf yn darparu nad yw contract yn esempt oni bai bod y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith sy'n ffurfio ei brif ddiben esempt. Er enghraifft, ni fydd elfen o wasanaethau esempt mewn contract cymysg yn golygu bod y contract cyfan yn esempt os nad yr elfen honno yw prif bwrpas y contract.
Adran 10
22. Mae adran 10 y Ddeddf wedi'i chysylltu'n agos ag adran 5, a dylid eu hystyried ochr yn ochr. Mae'n mynd i'r afael â chontractau cymysg sy'n cynnwys (o leiaf) un elfen i'w chaffael o dan 'reolau trefn arbennig'. Gan fod contractau 'trefn arbennig' fel arfer yn cynnwys rheolau cyffyrddiad ysgafnach a throthwyon uwch, mae angen ystyried sut y gellir eu cyfuno â chontractau sy'n ddarostyngedig i reolau'r drefn gyffredinol. Yn yr un modd, nid oes gan bob trefn arbennig yr un trothwyon na ffyrdd o ddefnyddio cyffyrddiad ysgafnach, felly mae angen gwneud penderfyniad ynghylch pa drefn arbennig fydd yn berthnasol lle y gellid cymhwyso mwy nag un drefn arbennig i'r contract cymysg.
23. Yn debyg i adran 5, mae'n bwysig cydnabod a darparu ar gyfer y posibilrwydd anochel y bydd yr angen am gontractau cymysg o'r fath yn codi, wrth ddiogelu rhag y posibilrwydd o gamddefnyddio esemptiadau a'r rheolau cyffyrddiad ysgafnach mewn sefyllfa lle byddai rheolau'r drefn lawn yn fwy priodol. Gwneir hyn mewn ffordd debyg i'r diogelu yn adran 5, drwy gyflwyno prawf i wirio a yw gwahanu yn rhesymol.
24. Wrth osod contract cymysg sy'n cynnwys un neu ragor o elfennau a fyddai, pe baent yn cael eu caffael ar wahân, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau 'trefn arbennig' yn y Ddeddf, ynghyd ag elfennau eraill dros y trothwy na fyddai'n ddarostyngedig i'r drefn arbennig honno, mae adran 10(3) yn darparu na all awdurdod contractio fanteisio ar reolau trefn arbennig o'r fath lle byddai'n rhesymol gwahanu'r gofyniad. Mae'r rheol hon yn gymwys p'un a yw'r contract sy'n cael ei osod yn un uniongyrchol ar gyfer gwaith/nwyddau/gwasanaethau ai peidio neu a yw ar gyfer fframwaith y bydd contractau'n cael eu gosod ar gyfer gwaith/nwyddau/gwasanaethau oddi tano (gweler adran 10(2) i'w cymhwyso i fframweithiau).
25. Yn ogystal, mae Atodlen 2, paragraff 1 o'r Ddeddf yn darparu nad yw contract yn esempt oni bai bod y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith sy'n ffurfio ei brif ddiben yn esempt. Er enghraifft, ni fydd elfen o wasanaethau esempt mewn contract cymysg yn golygu bod y contract cyfan yn esempt os nad yr elfen honno yw prif ddiben y contract.
26. Os oes modd gwahanu'r elfennau sy'n dod o dan reolau'r drefn gyffredinol a'r rhai sy'n dod o dan reolau trefn arbennig, ond bod awdurdod contractio yn dewis peidio â gwahanu'r contract, yna rhaid dyfarnu'r contract cymysg hwnnw yn unol â'r rheolau cyffredinol – ni fydd yn gymwys ar gyfer rheolau trefn arbennig pe bai'n rhesymol caffael yr elfennau ar wahân. Wrth benderfynu a yw'n rhesymol caffael elfennau o gontract cymysg ar wahân ai peidio, gall awdurdod contractio ystyried ffactorau fel canlyniadau ymarferol ac ariannol sy'n gysylltiedig â dyfarnu mwy nag un contract.
27. Ni waeth a ellir trin y contract cymysg fel contract trefn arbennig ai peidio, mae'r contract yn dal i gael ei drin fel contract cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf.
28. Yn yr un modd ag adran 5, ni ddylai awdurdodau contractio gynnal y dadansoddiad ar gyfer contractau a ddyfarnwyd o dan fframwaith eto; byddai'r prawf wedi cael ei gymhwyso cyn caffael ar gyfer y fframwaith drwy ystyried y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith sydd i'w cyflenwi o dan gytundebau yn ôl y gofyn posibl i'w dyfarnu o dan y fframwaith (gweler adran 10(2)).
29. Mae Adran 10 hefyd yn cydnabod ac yn darparu ar gyfer y posibilrwydd bod contract cymysg yn cynnwys dwy elfen 'trefn arbennig' neu fwy. Er bod achosion o'r fath yn brin, bydd prawf i wirio a yw'n rhesymol gwahanu'r elfennau i lywio penderfyniadau ynghylch pa reolau sy'n berthnasol. Dim ond pan nad yw'n rhesymol gwahanu'r ddwy elfen yr ystyrir bod y prif bwrpas yn dod o dan y drefn arbennig. Os yw'n rhesymol gwahanu'r elfennau ond na wneir hynny, bydd y broses gaffael gymysg yn ddarostyngedig i reolau'r drefn arferol, nid rheolau trefn arbennig. Yn y sefyllfa hon, byddai'r awdurdod contractio yn cael dewis rhwng caffael dau gontract trefn arbennig ar wahân (a manteisio ar hyblygrwydd y drefn briodol gywir ar gyfer pob contract caffael), neu ddilyn contract cymysg o dan reolau'r drefn lawn.
Contractau Cymysg sy'n cynnwys gwasanaethau iechyd sy'n dod o dan Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 – Trefn Dewis Darparwyr Cymru (PSR Cymru)
30. Mae'r darpariaethau yn Neddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (y “Ddeddf Iechyd”) yn ymwneud â newidiadau yn y broses weithredol ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd ar ran y GIG yng Nghymru.
31. Mae'r Ddeddf Iechyd yn diwygio'r ffordd mae rhai gwasanaethau iechyd yn cael eu caffael yng Nghymru gan 'awdurdodau perthnasol' (fel y'u diffinnir gan y Ddeddf Iechyd), drwy gyflwyno cyfundrefn gaffael newydd a fydd yn cynyddu hyblygrwydd, yn lleihau biwrocratiaeth, ac yn annog cydweithio a phartneriaethau.
32. Bydd y drefn gaffael newydd arfaethedig o dan y Ddeddf Iechyd yn berthnasol i wasanaethau penodol a ddiffinnir gan godau geirfa caffael gyffredin, a gall hefyd fod yn berthnasol i gaffael nwyddau neu wasanaethau eraill os ydynt yn bodloni'r profion 'caffael cymysg' ac yn 'gysylltiedig' â'r prif wasanaeth iechyd. Ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau nad ydynt o fewn cwmpas y drefn newydd arfaethedig o dan y Ddeddf Iechyd, mae'n bosibl y bydd y Ddeddf Caffael yn berthnasol.
33. Bydd y rheoliadau sy'n sail i'r ffordd mae cyfundrefn gaffael arfaethedig newydd y gwasanaeth yn cael ei gweithredu'n cael eu gosod yn y Senedd yn ystod y misoedd nesaf, ac os cytunir arnynt, disgwylir iddynt ddod i rym yn ddiweddarach eleni. Bydd y rheoliadau'n cael eu cefnogi gan ganllawiau a hyfforddiant statudol ar egwyddorion gweithredol cyfundrefn gaffael arfaethedig newydd y gwasanaeth iechyd. Bydd canllawiau i Awdurdodau Contractio Cymru ar gwmpas y rheoliadau a'r ffordd y byddant yn cael eu gweithredu'n cael eu diweddaru pan fyddant ar waith.
Pa gyngor arall sy'n arbennig o berthnasol i'r maes hwn?
- Canllawiau ar drothwyon
- Canllawiau ar brisio contractau
- Canllawiau ar y cyfundrefnau arbennig (consesiynau, cyfleustodau, cyffyrddiad ysgafn, amddiffyn a diogelwch)
- Canllawiau ar Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 (pan gaiff ei chyhoeddi)
Atodiad A: caffael cymysg - dros ac o dan y trothwy (Adran 5)

Atodiad B: caffael cymysg - trefn arbennig (Adran 10)
