Canllawiau Deddf Caffael 2023: dyfarniad uniongyrchol
Arweiniad technegol ar dyfarniad uniongyrchol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw dyfarniad uniongyrchol?
1. Dyfarniad uniongyrchol yw pan ddyfernir contract heb weithdrefn dendro gystadleuol a rhoddir y contract cyhoeddus yn uniongyrchol i'r cyflenwr a ddewisir gan yr awdurdod contractio.
2. O dan Ddeddf Caffael 2023 (y Ddeddf), rhaid cyhoeddi hysbysiad tryloywder cyn i gontract gael ei ddyfarnu'n uniongyrchol. Diben yr hysbysiad tryloywder yw hysbysu rhanddeiliaid bod awdurdod contractio yn bwriadu dyfarnu contract yn uniongyrchol a sicrhau bod y penderfyniad hwn yn dryloyw. Mae'n cynnig cyfle i bartïon â diddordeb ystyried y sail dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol.
Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu dyfarniad uniongyrchol?
3. Gweithdrefn dendro gystadleuol yw'r weithdrefn ddiofyn ar gyfer y rhan fwyaf o gaffaeliadau cyhoeddus. Dim ond pan fo adran 41 (ac un neu fwy o'r seiliau a nodir yn Atodlen 5), adran 42 neu adran 43 o'r Ddeddf yn gymwys y caiff awdurdod contractio ddyfarnu contract cyhoeddus yn uniongyrchol.
4. Mae adran 25 o'r Ddeddf yn nodi'r amgylchiadau lle y caiff awdurdod contractio ei gwneud yn ofynnol i gyflenwr ddyfarnu contract yn uniongyrchol i is-gontractwr penodol.
5. Mae adran 44 yn nodi rhwymedigaethau mewn perthynas â chyhoeddi hysbysiad tryloywder wrth ddyfarnu contract yn uniongyrchol. Mae cynnwys yr hysbysiad tryloywder wedi'i nodi yn rheoliad 27 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 (y Rheoliadau).
6. Mae'r rhwymedigaeth dim gwahaniaethu yn adran 90 o'r Ddeddf hefyd yn berthnasol i ddyfarniad uniongyrchol a rhaid i awdurdodau contractio sicrhau, wrth ddyfarnu contract yn uniongyrchol, nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad. Er enghraifft, wrth bennu eu gofynion, dylid ystyried gofynion adran 56 o'r Ddeddf ynglŷn â manylebau technegol, y bwriedir iddynt (yn rhannol) sicrhau nad yw manylebau technegol yn ei gwneud yn anos i gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad na chyflenwyr yn y DU, fodloni'r gofyniad.
Beth sydd wedi newid?
7. Mae bellach fwy o dryloywder o ran dyfarniadau uniongyrchol nag o dan y ddeddfwriaeth flaenorol a seiliau newydd dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol sy'n ymwneud ag amddiffyn a diogelwch a dewis defnyddwyr. Mae'r seiliau eraill yn ddigyfnewid ar y cyfan. Mae'r newidiadau allweddol i ddyfarniad uniongyrchol a wnaed gan y Ddeddf fel a ganlyn:
- mae'r hysbysiad tryloywder, yn wahanol i'r hysbysiad tryloywder gwirfoddol o dan y ddeddfwriaeth flaenorol, yn orfodol (ac eithrio yn achos contract a ddyfernir yn uniongyrchol o dan baragraffau 15-17 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (contractau dewis defnyddwyr))
- mae cyfnod segur gorfodol o wyth diwrnod gwaith (ar ôl i'r hysbysiad dyfarnu contract gael ei gyhoeddi) yn ofynnol yn y rhan fwyaf o achosion (gweler paragraffau 74-76 isod)
- mae seiliau newydd dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol yn gymwys ar gyfer contractau dewis defnyddwyr a chontractau amddiffyn a diogelwch penodol
- mae adran 42 yn rhoi pŵer i Weinidogion y Goron wneud rheoliadau pan fo angen dyfarnu contractau yn uniongyrchol er mwyn diogelu bywyd neu iechyd dynol, anifail neu blanhigyn neu ddiogelu trefn gyhoeddus neu ddiogelwch cyhoeddus.
8. Nid yw'r sail a amlinellir yn adran 43 o'r Ddeddf ‘newid i ddyfarniad uniongyrchol’ yn newydd, ond mae wedi'i wahanu oddi wrth y seiliau dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol a nodir yn Atodlen 5, gan mai dim ond ar ôl i'r awdurdod contractio gynnal gweithdrefn dendro gystadleuol ac na all ddyfarnu contract, y gellir dyfarnu contract yn uniongyrchol o dan adran 43.
Pwyntiau allweddol a bwriad polisi
9. Mae amgylchiadau cyfyngedig lle y caiff awdurdod contractio ddyfarnu contract cyhoeddus i gyflenwr heb gynnal gweithdrefn dendro gystadleuol yn gyntaf. Darperir ar gyfer y rhain yn adran 41 o'r Ddeddf a chyfeirir atynt fel ‘seiliau dros ddyfarniad uniongyrchol’. Mae Atodlen 5 i'r Ddeddf yn nodi'r seiliau dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol.
10. Mae adran 41 o'r Ddeddf yn darparu na ddylai contract gael ei ddyfarnu'n uniongyrchol i gyflenwr gwaharddedig (fel y'i diffinnir yn adran 57(1) (ystyr cyflenwr gwaharddedig a gwaharddadwy) o'r Ddeddf) oni fydd budd cyhoeddus tra phwysig mewn dyfarnu'r contract i'r cyflenwr. Mae budd cyhoeddus tra phwysig yn codi o dan yr amgylchiadau canlynol:
mae angen dyfarnu'r contract ar gyfer adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu seilwaith cenedlaethol allweddol.
Er nas nodir yn y Ddeddf, bwriedir i adran 41(5)(a) ymdrin â seilwaith cenedlaethol allweddol fel y'i diffinnir yn Strategaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol 2016-2021, sy'n darparu mai ‘Seilwaith Cenedlaethol Allweddol’ yw'r elfennau hynny o seilwaith (sef asedau, cyfleusterau, systemau, rhwydweithiau neu brosesau a'r gweithwyr hanfodol sy'n eu gweithredu neu'n eu hwyluso), y gallai eu colli neu eu tanseilio arwain at y canlynol:
- effaith andwyol fawr ar argaeledd neu gyfanrwydd gwasanaethau hanfodol neu'r modd y cânt eu darparu – gan gynnwys y gwasanaethau hynny y gallai eu cyfanrwydd, os caiff ei danseilio, arwain at nifer sylweddol o farwolaethau neu anafiadau – gan ystyried effeithiau economaidd neu gymdeithasol sylweddol, a/neu
- effaith sylweddol ar ddiogelwch cenedlaethol, amddiffyn gwladol neu weithrediad y wladwriaeth.
- mae angen dyfarnu'r contract er mwyn sicrhau bod sector y mae amddiffyn, diogelwch neu sefydlogrwydd economaidd y DU yn dibynnu arno yn gweithredu'n iawn
- byddai peidio â dyfarnu'r contract i'r cyflenwr yn effeithio ar y ffordd y mae gweithrediadau milwrol neu weithrediadau diogelwch yn cael eu cynnal neu ar weithrediad effeithiol y lluoedd arfog neu'r gwasanaethau cudd-wybodaeth, neu
- mae'r contract yn cael ei ddyfarnu o dan y darpariaethau brys ym mharagraff 13 o Atodlen 5 i'r Ddeddf, ac na ellir ei ddyfarnu i gyflenwr nad yw'n gyflenwr gwaharddedig, neu na all gael ei gyflawni gan gyflenwr o'r fath, o fewn y terfyn amser gofynnol.
11. Cyn dyfarnu contract cyhoeddus o dan adran 41 o'r Ddeddf, rhaid i awdurdod contractio ystyried a yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy (fel y'i diffinnir yn adran 57(2) o'r Ddeddf). Os mai cyflenwr gwaharddadwy yw'r cyflenwr, bydd angen i'r awdurdod contractio benderfynu a yw'n briodol i'r contract gael ei ddyfarnu i'r cyflenwr. Gweler y canllaw ar waharddiadau am ragor o wybodaeth.
12. Mae adran 41 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer cynnal prosesau dethol neu gymryd camau rhagarweiniol eraill cyn i gontract gael ei ddyfarnu'n uniongyrchol. Y rheswm dros hyn yw, hyd yn oed os caniateir i awdurdod contractio ddyfarnu contract yn uniongyrchol, y gall fod lle o hyd i gynnal rhyw broses gystadlu neu ddethol gyfyngedig/anffurfiol.
13. Er ei bod yn dechnegol bosibl dyfarnu fframwaith (ond nid fframwaith agored) yn uniongyrchol o dan adran 41 neu adran 43 o'r Ddeddf, byddai'n anarferol cael fframwaith un cyflenwr. Gweler y canllaw ar fframweithiau am ragor o wybodaeth.
14. Esbonnir y seiliau dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol a nodir yn Atodlen 5 i'r Ddeddf o dan y penawdau isod. Diben yr enghreifftiau sydd wedi'u cynnwys yw dangos senarios lle y gellid defnyddio'r gwahanol seiliau. Ni fwriedir iddynt fod yn rhestr hollgynhwysfawr ond dylai awdurdodau contractio ystyried eu hamgylchiadau penodol a, lle y bo angen, geisio cymorth cyfreithiol.
Atodlen 5: Seiliau dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol
Prototeipiau a datblygu
15. Mae'r sail hon yn darparu ar gyfer dyfarnu contract yn uniongyrchol wrth gaffael prototeip neu nwydd neu wasanaeth newydd arall a gaiff ei ddylunio neu ei ddatblygu ar gais yr awdurdod contractio. Er enghraifft, caffael system er mwyn i ddata allu cael eu rhannu'n ddiogel rhwng asiantaethau gwahanol.
16. Rhaid cyfyngu'r contract cyhoeddus i'r camau dylunio a datblygu cynnar a sicrhau mai ei unig ddiben yw profi addasrwydd nwyddau neu wasanaethau, deall ymarferoldeb cynhyrchu neu gyflenwi mewn swmp neu wneud gwaith ymchwil, arbrofi, astudio neu ddatblygu arall. Mae hyn yn golygu na ddylai gynnwys cynhyrchu na chyflenwi symiau sy'n fwy na'r hyn sydd ei angen at y dibenion hyn, er enghraifft, cynhyrchu'r nwyddau neu'r gwasanaeth neu eu cyflenwi/ei ddarparu i'r awdurdod contractio ar sail fasnachol.
17. Gweler hefyd y canllaw ar gontractau esempt, sy'n cynnwys contractau esempt ar gyfer gwasanaethau ymchwil a datblygu.
Cyflenwyr unigol
18. Mae tair sail dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol o dan y pennawd hwn. Y sail gyntaf yw pan fo'r contract cyhoeddus yn ymwneud â chreu neu gaffael gwaith celf neu berfformiad artistig unigryw. Er enghraifft, pan fo pwy yw'r artist ynddo'i hun yn pennu cymeriad a gwerth unigryw'r gwaith celf, sy'n golygu mai dim ond un artist a all fodloni'r gofyniad.
19. Yr ail sail yw pan fo cyflenwr penodol yn meddu ar eiddo deallusol neu hawliau llwyr-gyfyngedig eraill ac nad oes unrhyw ddewisiadau amgen rhesymol, sy'n golygu mai dim ond y cyflenwr â'r hawliau hynny a all gyflenwi'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau.
20. Er enghraifft, mae'n bosibl bod y ddarpariaeth wreiddiol, megis meddalwedd, wedi cael ei datblygu a'i darparu gan gyflenwr penodol a'i fod yn berchen ar yr hawliau eiddo deallusol ac mai ef yw'r unig gyflenwr a all ddarparu diweddariadau diogelwch, patsys a datrysiadau i drwsio bygiau.
21. Fel arall, gallai fod gan gyflenwr hawliau dosbarthu llwyr-gyfyngedig sy'n golygu mai dim ond y cyflenwr hwnnw a all gyflenwi'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau sydd eu hangen. Efallai mai'r rheswm dros hyn yw bod y cyflenwr yn berchen ar yr hawliau eiddo deallusol neu fod perchennog yr hawliau wedi rhoi trwydded lwyr-gyfyngedig iddo.
22. Gall hawliau llwyr-gyfyngedig gynnwys perchenogaeth o dir sy'n golygu bod gan berchennog y tir yr hawl i benderfynu pa gyflenwr a all gyflenwi gweithiau ar y tir hwnnw. Gall fod gan artistiaid hawl lwyr-gyfyngedig hefyd i fanteisio ar eu gweithiau celf eu hunain, eu hatgyweirio neu eu hail-wneud at ddibenion masnachol.
23. Wrth ystyried hawliau, mae'n bwysig sicrhau mai dim ond y cyflenwr a all gyflenwi'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau sydd eu hangen mewn gwirionedd. Mewn sefyllfa fasnachol, yn aml gall cyflenwyr eraill negodi â'r deiliad hawliau (er enghraifft i gael trwydded/is-drwydded neu lesio'r tir) i allu cyflenwi'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau neu efallai y bydd yr awdurdod contractio yn gallu negodi â'r deiliad hawliau i gael trwydded neu les er budd y prosiect.
24. Nid yw'r ffaith bod gan gyflenwr penodol hawl yn golygu y gall awdurdod contractio bob amser ddyfarnu'r contract iddo yn uniongyrchol. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod contractio ystyried a oes unrhyw nwyddau, gweithiau neu wasanaethau amgen rhesymol. Er enghraifft, gall fod yn rhesymol caffael system gyfathrebu amgen yn hytrach na dibynnu ar berchennog yr hawliau i ddarparu system benodol.
25. Y drydedd sail yw pan mai dim ond cyflenwr penodol a all gyflenwi'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau sydd eu hangen am nad oes unrhyw gystadleuaeth am resymau technegol, ar yr amod nad oes unrhyw ddewisiadau amgen rhesymol. Gallai'r sail hon gael ei defnyddio, er enghraifft, pan mai dim ond cyflenwr penodol sydd â'r wybodaeth neu'r adnoddau penodol i addasu neu ôl-osod cyfarpar pwrpasol.
26. Gall rhesymau technegol hefyd ddeillio o ofynion penodol o ran rhyngweithredu a/neu ddiogelwch sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau yn gweithredu'n iawn, er enghraifft, pan gânt eu defnyddio'n weithredol gan y lluoedd arfog neu'r gwasanaeth tân.
27. Gallai unrhyw anghydnawsedd rhwng systemau/cyfarpar presennol a nwyddau, gwasanaethau neu weithiau newydd arwain hefyd at waith ail-ddylunio ac addasu llafurus a chymhleth a allai fod yn annerbyniol o dan yr amgylchiadau, a fyddai'n golygu, er enghraifft, gost a/neu oedi sylweddol i wasanaeth pwysig.
Nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol neu fynych
28. Mae dwy sail dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol o dan y pennawd hwn ac mae'r ddwy yn galluogi awdurdod contractio i ddyfarnu contract cyhoeddus i gyflenwr presennol. ‘Cyflenwr presennol’ yw cyflenwr a gyflenwodd y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau gwreiddiol, gan gynnwys un nad oes gan yr awdurdod contractio gontract ag ef mwyach.
29. Y sail gyntaf yw pan fo'r awdurdod contractio am brynu nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol neu gaffael nwyddau, gwasanaethau neu weithiau newydd yn lle rhai presennol, sydd yr un fath â darpariaethau presennol neu'n gydnaws â nhw (sef nwyddau, gwasanaethau neu weithiau sydd eisoes wedi'u cyflenwi neu rai y mae contract wedi'i ddyfarnu i'w cyflenwi). Yn yr achos hwn, gellir dyfarnu contract yn uniongyrchol pan fyddai newid y cyflenwr yn golygu bod yr awdurdod contractio yn cael nwyddau, gwasanaethau neu weithiau sy'n wahanol i'r nwyddau, gwasanaethau neu weithiau presennol, neu sy'n anghydnaws â nhw, ac y byddai'r gwahaniaeth neu'r anghydnawsedd hwnnw yn arwain at anawsterau technegol anghymesur o ran gweithredu neu gynnal a chadw. Er enghraifft, efallai y bydd angen i awdurdod contractio ddyfarnu contract i gyflenwr presennol er mwyn diweddaru rhai o'i ddyfeisiau cyfathrebu a ddelir â llaw ar gyfer gweithredwyr patrolio strydoedd er mwyn sicrhau bod y dyfeisiau newydd yn gydnaws â'r dyfeisiau presennol. Neu byddai angen i awdurdod contractio sy'n gweithredu porthladd sy'n adnewyddu'r peiriannau yn y craeniau yn ei iard longau ddewis peiriannau a all ryngweithredu â nodweddion presennol y craeniau.
30. Fel dewis amgen posibl, efallai y bydd yr awdurdod contractio am ystyried y sail dros addasu contract ym mharagraff 8 o Atodlen 8 (nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol) i'r Ddeddf o dan yr amgylchiadau hyn. Gweler y canllaw ar addasu contract am ragor o wybodaeth.
31. Yr ail sail dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol o dan y pennawd hwn yw pan fydd contract wedi'i ddyfarnu'n flaenorol o dan weithdrefn dendro gystadleuol a nododd yr hysbysiad tendro neu'r dogfennau tendro mai'r bwriad oedd cynnal caffaeliad dilynol ar gyfer nwyddau, gwasanaethau neu weithiau tebyg drwy ddyfarniad uniongyrchol. Yn fras, rhaid i'r dyfarniad uniongyrchol gael ei wneud o fewn pum mlynedd i ddyfarnu'r contract gwreiddiol gan ddefnyddio gweithdrefn dendro gystadleuol (gweler paragraff 8(a) o Atodlen 5 i'r Ddeddf ar gyfer yr union derfyn amser).
Nwyddau
32. Y sail hon yw pan gaiff nwyddau eu prynu ar farchnad nwyddau. Yn yr achos hwn, fel arfer mae'r pris a'r argaeledd yn seiliedig ar y galw yn y farchnad sy'n golygu nad oes angen mynnu bod cyflenwyr yn tendro yn y ffordd arferol, nad yw'n briodol gwneud hynny a'i bod yn bosibl na fydd yn sicrhau'r canlyniad gorau i'r awdurdod contractio.
33. Gallai hyn fod ar gyfer tanwydd, er enghraifft, os caiff ei brynu gan asiantiaid lleol yn y porthladd ac mai dim ond dyfynbrisiau byrdymor sydd ar gael.
Telerau manteisiol mewn achos o ansolfedd
34. Y sail hon yw pan fydd dyfarnu contract cyhoeddus i gyflenwr penodol yn sicrhau telerau arbennig o fanteisiol i'r awdurdod contractio oherwydd y ffaith bod cyflenwr (p'un ai'r cyflenwr hwn yw'r un y bwriedir dyfarnu'r contract iddo ai peidio) yn destun achos ansolfedd. Mae hyn yn caniatáu i'r awdurdod contractio, er enghraifft, ddyfarnu contract cyhoeddus i'r cyflenwr ei hun, er enghraifft er mwyn prynu nwyddau am bris ffafriol wrth i'r cyflenwr geisio gwerthu stoc fel rhan o'r broses o'i ddirwyn i ben, neu i weinyddwr neu drydydd parti arall sy'n ceisio cadw'r busnes i fynd er mwyn gwerthu ei asedau neu ei werthu fel busnes gweithredol. Rhaid i'r contract cyhoeddus fod ar delerau arbennig o ffafriol. Diffinnir ‘Bod yn destun achos ansolfedd’ ym mharagraff 12 o Atodlen 5 i'r Ddeddf.
Brys
35. Y sail hon yw pan na ellir dyfarnu'r contract cyhoeddus ar sail gweithdrefn dendro gystadleuol am fod y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau yn hollol angenrheidiol am resymau sy'n ymwneud â brys eithafol ac anosgoadwy. Mae'r brys yn un na ellir ei osgoi os nad yw i'w briodoli i unrhyw weithred neu anweithred ar ran yr awdurdod contractio ac na allai gael ei ragweld gan yr awdurdod contractio.
36. Ni fyddai'r cysyniad o frys ‘anosgoadwy’ yn gymwys os mai dim ond methu â neilltuo digon o amser i ailgaffael contract roedd yr awdurdod contractio wedi'i wneud. Fodd bynnag, gallai fod yn gymwys, er enghraifft, petai halogiad yn cael ei ganfod yn annisgwyl ar safle y mae'r awdurdod contractio yn ei ddarparu i'r cyflenwr llwyddiannus fel rhan o gaffaeliad a bod angen cael gwared ar yr halogiad hwn ar unwaith er mwyn sicrhau na pherir oedi cyn cyflawni'r contract yn gyffredinol.
37. Mae'r cyfeiriad at yr anallu i ddyfarnu contract ar sail gweithdrefn dendro gystadleuol yn golygu bod cymaint o frys yn gysylltiedig â'r sefyllfa fel na all yr awdurdod contractio gydymffurfio â'r terfynau amser gofynnol ar gyfer gweithdrefn dendro gystadleuol (hyd yn oed y terfynau amser byrrach a ganiateir ar gyfer brys yn adran 54 o'r Ddeddf). Mae'r cyfeiriad at y ffaith bod y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau yn ‘hollol angenrheidiol’ yn golygu mai dim ond i gael y nwyddau, y gwasanaethau a'r gweithiau sydd eu hangen er mwyn ymdopi â natur frys y sefyllfa y dylid defnyddio'r contract a ddyfernir ac na ddylid ei ddefnyddio at ddibenion ehangach nac ar gyfer y tymor hwy; dylid dechrau caffaeliad ar wahân os bydd angen y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau ar gyfer y tymor hwy.
38. Hyd yn oed os na ellir cynnal gweithdrefn dendro gystadleuol, efallai y bydd awdurdod contractio am ystyried cynnal rhyw fath o gystadleuaeth anffurfiol cyn dyfarnu'r contract. Gallai hyn amrywio o'r awdurdod contractio yn cyflwyno gofyniad syml i nifer o gyflenwyr o'i ddewis a gofyn i'r cyflenwyr ddangos sut y byddent yn ei fodloni a darparu pris, y byddai'r awdurdod contractio yn gwneud ei benderfyniad yn seiliedig arno; neu, ar gyfer nwydd neu wasanaeth sydd ar gael yn fasnachol, gallai fod mor syml â chysylltu â nifer o gyflenwyr neu edrych ar-lein i weld a all cyflenwr fodloni'r gofyniad yn yr amser cyflymaf ac am y pris gorau.
39. Ni fydd cynnal unrhyw gystadleuaeth anffurfiol yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar ddisgresiwn yr awdurdod contractio i ddibynnu ar y sail hon dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol.
40. Efallai y bydd yr awdurdod contractio hefyd am ystyried a yw'n fwy buddiol, o dan yr amgylchiadau hyn, addasu contract presennol gan ddefnyddio'r sail addasu a ganiateir ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 8 (brys a diogelu bywyd, ac ati) i'r Ddeddf, yn hytrach na gwneud dyfarniad uniongyrchol. Gweler y canllaw ar addasu contract am ragor o wybodaeth.
Contractau dewis defnyddwyr
41. Y sail hon yw pan fo gan eraill hawl gyfreithiol i leisio eu barn yn y broses o ddewis y cyflenwr. Mae'r sail hon ond yn gymwys o dan yr amgylchiadau canlynol:
- y gwasanaethau yw'r rhai a fyddai'n cael eu caffael fel arfer o dan gontract cyffyrddiad ysgafn
- caiff gwasanaethau o'r fath eu cyflenwi er budd unigolyn penodol
- mae'n ofynnol i awdurdod contractio, o dan ddeddfwriaeth, ystyried barn yr unigolyn penodol, neu berson sy'n darparu gofal i'r unigolyn hwnnw (ei ofalwr), ynghylch pwy ddylai gyflenwi'r gwasanaethau.
42. Er mwyn dibynnu ar y sail hon:
- rhaid bod yr unigolyn neu'r gofalwr wedi mynegi dymuniad o ran pwy ddylai gyflenwi'r gwasanaethau, neu rhaid bod natur y gwasanaethau sydd i'w cyflenwi yn golygu mai dim ond un cyflenwr a all eu darparu; a
- mae'r awdurdod contractio o'r farn nad yw dyfarnu contract gan ddefnyddio gweithdrefn dendro gystadleuol er lles pennaf yr unigolyn.
43. Gallai hyn fod, er enghraifft, mewn perthynas â gofynion gofal personol neu gymdeithasol. Gall anghenion yr unigolyn (gan gynnwys, lle y bo'n berthnasol, anghenion plentyn) fod yn rhai arbenigol iawn gyda dim ond nifer cyfyngedig o gyflenwyr a all fodloni'r gofyniad. Mae'n debygol y bydd elfen sylweddol o ddewis gan yr unigolyn, a/neu ei riant neu ofalwr, er enghraifft, dymuno bod y cyflenwr wedi'i leoli mor agos â phosibl at aelodau o'r teulu neu fod plentyn yn gallu parhau i fynd i'r un ysgol, ac elfen gref o farn broffesiynol gan staff gofal cymdeithasol.
Amddiffyn a diogelwch
44. Mae tair sail o dan y categori hwn. Y sail gyntaf yw pan fo'r contract cyhoeddus yn gontract amddiffyn a diogelwch (fel y'i diffinnir yn adran 7 o'r Ddeddf) ac mae ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cludiant yn yr awyr neu dros y môr i'r lluoedd arfog neu'r gwasanaethau diogelwch tra byddant wedi'u lleoli y tu allan i'r DU neu er mwyn eu lleoli y tu allan i'r DU. At hynny, fel sy'n arferol, er enghraifft, yn y farchnad hurio awyrennau, rhaid bod natur y gwasanaethau sydd i'w cyflenwi yn golygu na allai cyflenwr rhesymol warantu ei gynnig am 10 diwrnod.
45. Yr ail sail yw pan fo'n fwy priodol, o dan amgylchiadau penodol, i ddyfarnu contract cyhoeddus newydd yn uniongyrchol yn hytrach na diwygio contract presennol. Dim ond pan fyddai'r contract newydd yn ‘gontract amddiffyn cymwys’ o dan adran 14(2) o Ddeddf Diwygio Amddiffyn 2014 y gellir defnyddio'r sail hon.
46. Yn yr achos hwn, rhaid bod gan yr awdurdod contractio gontract presennol â'r cyflenwr eisoes er mwyn i'r contract newydd gael ei ddyfarnu iddo a, phe bai'r contract presennol yn cael ei addasu yn lle dyfarnu contract newydd, mai naill ai:
- na fyddai addasu'r contract yn addasiad sylweddol (o dan adran 74(3)), neu
- y byddai addasu'r contract yn cael ei ganiatáu o dan baragraff 4 (amgylchiadau na ellir eu rhagweld) neu baragraff 8 (nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol) o Atodlen 8.
47. Yn ymarferol, diben y sail hon yw delio â chontractau a gafodd eu dyfarnu'n gystadleuol yn wreiddiol ond sydd, i bob pwrpas, yn cael eu diwygio gan ddefnyddio contract ar wahân er mwyn i Reoliadau Contractau Un Ffynhonnell 2014 allu bod yn gymwys i'r rhan ‘ddiwygiedig’ o'r contract.
48. Y drydedd sail yw pan fo'r contract:
- yn gontract awdurdod amddiffyn - Diffinnir contract awdurdod amddiffyn yn adran 7(4) fel contract amddiffyn a diogelwch a ddyfernir gan awdurdod amddiffyn. Diffinnir awdurdod amddiffyn yn rheoliad 46 o Reoliadau Llywodraeth y DU (‘Rheoliadau Caffael 2024’) fel:
- yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn
- y Sefydliad Arfau Atomig (AWE PLC)
- yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a
- yr Asiantaeth Olew a Phiblinellau.
- yn gontract amddiffyn a diogelwch am fod o leiaf un o'r rhesymau yn adran 7(1)(a-f) yn gymwys (h.y. nid dim ond 7(1)(g) neu, yn achos fframwaith, nid dim ond 7(1)(g) a 7(2))
- bod angen i'r contract gael ei ddyfarnu'n uniongyrchol er mwyn gwella neu gynnal gallu gweithredol, effeithiolrwydd, parodrwydd i weithredu neu ddiogelwch y lluoedd arfog. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, pan fo angen dyfarnu contractau yn gyflym er mwyn cynnal effeithiolrwydd gweithredol y lluoedd arfog. Uwchlaw trothwy penodol, byddai angen i'r Weinyddiaeth Amddiffyn (gan gynnwys Cyfarpar Amddiffyn a Chymorth) geisio cymeradwyaeth Swyddfa'r Cabinet er mwyn defnyddio'r sail hon.
Adran 42 (Dyfarniad unionyrchol er mwyn diogelu bywyd, ac ati)
49. Mae Adran 42 (Dyfarniad uniongyrchol er mwyn diogelu bywyd, ac ati) o'r Ddeddf yn caniatáu i gontractau penodedig gael eu dyfarnu'n uniongyrchol fel petai sail dros ddyfarniad uniongyrchol (o dan adran 41 o'r Ddeddf) yn gymwys. Yn yr achos hwn, dim ond pan fydd is-ddeddfwriaeth (rheoliadau) wedi'i gwneud sy'n caniatáu'r dyfarniad uniongyrchol y bydd y sail yn gymwys. Dim ond pan fydd un o Weinidogion y Goron o'r farn bod ei hagen er mwyn diogelu bywyd neu iechyd dynol, anifail neu blanhigyn, neu er mwyn diogelu trefn gyhoeddus neu ddiogelwch cyhoeddus, y caiff is-ddeddfwriaeth ei gwneud.
50. Diben y ddarpariaeth hon yw sicrhau y gellir cyflawni caffaeliadau yn gyflym a gyda gwybodaeth lawn o dan amgylchiadau brys, hyd yn oed os gellir rhagweld yr amgylchiadau sy'n arwain at y digwyddiad (a fyddai'n golygu na ellid defnyddio'r sail brys eithafol dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol a geir ym mharagraffau 13 a 14 o Atodlen 5 i'r Ddeddf).
51. Os caiff rheoliadau o'r fath eu gwneud, yna gellir dyfarnu contractau cyhoeddus o fewn y cwmpas fel petai sail dros ddyfarniad uniongyrchol yn gymwys (felly bydd y rheolau yn adran 41 o'r Ddeddf yn gymwys). Dim ond ar ôl i is-ddeddfwriaethgael ei gwneud ac os yw'r ddeddfwriaeth yn gymwys i'r contract penodol y bydd awdurdodau contractio yn gallu dyfarnu contractau cyhoeddus yn uniongyrchol ar y sail hon.
52. Rhagwelir mai anaml y caiff contractau eu dyfarnu'n uniongyrchol fel hyn ac, os caiff is-ddeddfwriaeth ei gwneud, rhoddir gwybod i awdurdodau contractio drwy Nodyn Polisi Caffael neu ddull addas arall.
Adran 43 (Newid i ddyfarniad uniongyrchol)
53. Mae adran 43 o'r Ddeddf (Newid i ddyfarniad uniongyrchol) yn galluogi awdurdod contractio i newid o weithdrefn dendro gystadleuol i ddyfarnu contract cyhoeddus yn uniongyrchol o dan amgylchiadau lle nad oes unrhyw dendrau na cheisiadau/tendrau na cheisiadau addas i gymryd rhan wedi dod i law yn y weithdrefn dendro gystadleuol honno ac mae'r awdurdod contractio o'r farn nad oes modd dyfarnu contract gan ddefnyddio gweithdrefn dendro gystadleuol o dan adran 19 o'r Ddeddf o dan yr amgylchiadau (gweler adran 43(1) o'r Ddeddf).
54. O dan yr amgylchiadau hyn, ni ellir dyfarnu contract yn uniongyrchol i gyflenwr gwaharddedig (fel y'i diffinnir yn adran 57 o'r Ddeddf) ac nid yw'r prawf budd y cyhoedd yn adran 41(2) o'r Ddeddf yn gymwys. Cyn dyfarnu contract o dan adran 43 o'r Ddeddf, rhaid i'r awdurdod contractio gadarnhau a yw'r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy ac, yna, weithredu yn unol â hynny.
55. Mae adran 43(2) o'r Ddeddf yn nodi pryd na fyddai tendr neu gais i gymryd rhan yn cael ei hystyried yn ‘addas’. Mae pedwar amgylchiad, sef:
- pan fyddai tendr neu gais y cyflenwr yn cael ei ddiystyru o dan 19(3)(a), (b) neu (c)3 o'r Ddeddf (Dyfarnu contractau cyhoeddus yn dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol):
- nid yw'r tendr yn bodloni'r amodau cymryd rhan
- mae'r tendr gan gyflenwr nad yw'n gyflenwr yn y DU nac yn gyflenwr gwladwriaeth gytuniad neu sy'n bwriadu is-gontractio i gyflenwr nad yw'n gyflenwr yn y DU nac yn gyflenwr gwladwriaeth gytuniad
- mae'r pris yn anarferol o isel.
- nid yw'r tendr neu'r cais yn bodloni gofynion na meini prawf yr awdurdod contractio
- os oes tystiolaeth o lygredd neu gydgynllwynio
- os yw'r tendr yn torri gofyniad gweithdrefnol a nodir i bob cyflenwr gydymffurfio ag ef yn yr hysbysiad tendro neu'r dogfennau tendro cysylltiedig, a hynny mewn ffordd berthnasol.
56. Mae adran 43 o'r Ddeddf yn cynnwys manylion am yr hyn sy'n gyfystyr â ‘thorri gofyniad gweithdrefnol mewn ffordd berthnasol’, sy'n cynnwys torri gofyniad gweithdrefnol mewn perthynas â thendr. Er enghraifft, gallai penderfyniad y cyflenwr i wrthod ymrwymo i gael gwarant o berfformiad fod yn gyfystyr â thorri gofyniad gweithdrefnol mewn ffordd berthnasol. Mae achos o dorri gofyniad gweithdrefnol yn berthnasol petai ei anwybyddu yn golygu bod y cyflenwr yn cael ei drin yn fwy ffafriol na chyflenwyr eraill.
57. Rhaid i'r awdurdod contractio hefyd ystyried a gyflwynodd cyflenwr dendr neu gais anaddas i gymryd rhan yn y weithdrefn dendro gystadleuol. Y rheswm dros hyn yw ei bod yn bosibl na fydd yn briodol, o dan rai amgylchiadau, i'r contract cyhoeddus gael ei ddyfarnu'n uniongyrchol i gyflenwr o'r fath, er nad yw'n waharddiad absoliwt ac y byddai'n dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Er enghraifft, petai tendr y cyflenwr yn anaddas oherwydd cydgynllwynio, byddai'n amhriodol dyfarnu'r contract yn uniongyrchol, ond petai'n anaddas oherwydd methiant i fodloni meini prawf penodol, gallai fod yn well, serch hynny, ddyfarnu'r contract i'r cyflenwr hwnnw yn hytrach nag i gyflenwr a fethodd â bodloni unrhyw feini prawf dyfarnu.
58. Wrth benderfynu newid i ddyfarniad uniongyrchol a chadarnhau a oes modd dyfarnu contract o dan adran 19 o'r Ddeddf, dylai'r awdurdod contractio ystyried ai'r rheswm pam na chafodd unrhyw dendrau na cheisiadau addas yw am nad oedd y ddogfennaeth yn glir neu am fod gwall a allai, petai'n cael ei gywiro a bod amser yn caniatáu hynny o hyd, arwain at ddyfarnu contract yn llwyddiannus.
59. Petai cyflenwr yn cyflwyno tendr anaddas cyn newid, (o dan adran 50 o'r Ddeddf) ni fyddai'n ofynnol i'r awdurdod contractio ddarparu crynodeb o asesiad i'r cyflenwr. Y rheswm dros hyn yw na fyddai'r tendr a gyflwynwyd yn ‘dendr a aseswyd’ o dan adran 50 o'r Ddeddf.
60. Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i'r awdurdod contractio hysbysu'r cyflenwr yn ysgrifenedig fod ei dendr yn anaddas a pham o hyd, er mwyn dangos iddo gyflawni'r amcan yn adran 12(1)(c) o'r Ddeddf. Dylid defnyddio strwythur y crynodeb o asesiad i wneud hyn.
61. Mae adran 43 o'r Ddeddf yn darparu bod modd newid i ddyfarnu'r contract a oedd yn destun gweithdrefn dendro gystadleuol yn uniongyrchol pan fo adran 43(1) yn gymwys. Mae adran 43(1)(a) yn darparu'n benodol mai'r contract sydd i'w ddyfarnu'n uniongyrchol o dan adran 43 yw'r un contract a oedd yn destun y weithdrefn dendro gystadleuol yn wreiddiol, sy'n golygu na ellir newid amodau'r contract yn sylweddol wrth newid i ddyfarniad uniongyrchol.
Adran 25 (manylebau is-gontractio)
62. Mewn caffaeliadau penodol, mae'n bosibl y bydd yr awdurdod contractio yn ei gwneud yn ofynnol i'r contract cyfan neu ran ohono gael ei is-gontractio/his-gontractio i gyflenwr penodedig. Dim ond pan fo sail dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol yn gymwys mewn perthynas â nwyddau, gwasanaethau neu weithiau penodol, fel y gallai'r awdurdod contractio ddyfarnu contract yn uniongyrchol i'r cyflenwr penodedig o dan adran 41 o'r Ddeddf, y caniateir i'r awdurdod contractio fynnu hyn. Er enghraifft, os bydd yr awdurdod contractio o'r farn y bydd angen i unrhyw gyflenwr ddefnyddio meddalwedd benodol sy'n eiddo i un cyflenwr penodol, caiff yr awdurdod contractio ei gwneud yn ofynnol i gyflenwr is-gontractio’r gwaith o gyflenwi'r feddalwedd i'r is-gontractwr penodol hwnnw. Yn yr enghraifft hon, rhaid i'r awdurdod contractio fod o'r farn y byddai modd dyfarnu'r contract yn uniongyrchol i'r is-gontractwr hwnnw o dan y sail dros ddyfarniad uniongyrchol ym mharagraff 5 o Atodlen 5 i'r Ddeddf.
63. Os bydd awdurdodau contractio yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwr is-gontractio i gyflenwr penodedig, dylid nodi hyn yn y dogfennau tendro cysylltiedig.
Beth yw'r prif hysbysiadau sy'n gysylltiedig â'r agwedd hon ar y Ddeddf?
64. Mae'n bosibl bod caffaeliad wedi bod yn destun naill ai hysbysiad piblinell, hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad a/neu hysbysiad caffael arfaethedig cyn i ddyfarniad uniongyrchol gychwyn.
65. Gan mai dim ond mewn gweithdrefn dendro gystadleuol y mae adran 16 o'r Ddeddf (ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad) yn gymwys, dim ond os caiff contract ei ddyfarnu'n uniongyrchol o dan adran 43 o'r Ddeddf (newid i ddyfarniad uniongyrchol) y byddai'r rhwymedigaeth i gyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad, petai'n berthnasol, yn codi. Fodd bynnag, gall awdurdodau contractio gynnal rhyw fath o weithgarwch ymgysylltu â'r farchnad cyn dyfarnu contract yn uniongyrchol, ac efallai y byddant am gyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad, er enghraifft er mwyn dangos tryloywder a chydymffurfiaeth â'r amcanion yn adran 12 o'r Ddeddf.
Hysbysiad tryloywder
66. Fel y nodwyd eisoes, yr hysbysiad tryloywder yw'r hysbysiad allweddol mewn dyfarniad uniongyrchol. Ar gyfer awdurdodau Cymreig datganoledig, mae'n ofynnol i'r hysbysiad tryloywder gael ei gyhoeddi ar y platfform digidol canolog drwy ei gyhoeddi ar y platfform digidol Cymreig (GwerthwchiGymru) yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau ac Adran 44 o'r Ddeddf. Nid yw'r gofyniad hwn yn gymwys i gontractau dewis defnyddwyr a ddyfernir o dan baragraff 15 o Atodlen 5 i'r Ddeddf. Mae rheoliad 27 o'r Rheoliadau yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn yr hysbysiad hwn. Fe'i crynhoir isod:
67. Gwybodaeth y cyflenwr. Dylai'r hysbysiad gynnwys y cyflenwr y bwriedir dyfarnu'r contract iddo, os bydd yn hysbys ar adeg cyhoeddi'r hysbysiad. Dylai hyn fod yn wir yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd dyfarnu uniongyrchol hyd yn oed pan fydd cyflenwr wedi'i nodi ond mae trafodaethau yn parhau. Gall fod eithriadau, er enghraifft, yn achos brys eithafol lle y gall yr awdurdod contractio fod yn cyhoeddi'r hysbysiad cyn penderfynu i bwy y caiff y contract ei ddyfarnu. Mae'r rheoliadau yn darparu ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad os na fydd cyflenwr wedi'i ddewis eto i ddyfarnu'r contract iddo.
68. Mae'r wybodaeth am y cyflenwr (os yw'n hysbys) y bwriedir dyfarnu contract iddo yn cynnwys, pan fo'r contract yn cael ei ddyfarnu'n uniongyrchol i gyflenwr o dan adran 41 o'r Ddeddf, wybodaeth am a yw'n gyflenwr gwaharddedig gan gynnwys, os yw'n berthnasol pa sail dros wahardd sy'n gymwys. Fel arfer, bydd y wybodaeth hon wedi'i darparu gan y cyflenwr drwy'r platfform digidol canolog. Fodd bynnag, mae rheoliad 8(4) o'r Rheoliadau yn rhoi hyblygrwydd mewn achos brys. Mae'r rheoliadau yn cydnabod na fydd yr awdurdod contractio, o bosibl, yn gallu aros i gyflenwr gofrestru a chwblhau a chyflwyno gwybodaeth graidd y cyflenwr cyn dyfarnu'r contract. Gweler y canllaw ar y Platfform Digidol Cymreig am ragor o wybodaeth am sut mae gwybodaeth graidd y cyflenwr yn cael ei ddarparu a'i chaffael.
69. Y sail dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol a gwybodaeth gysylltiedig. Rhaid i awdurdodau contractio gynnwys yn yr hysbysiad:
- y sail dros ddyfarnu'r contract yn uniongyrchol
- pam mae'n dderbyniol dyfarnu'r contract yn uniongyrchol
- os bydd y contract yn cael ei ddyfarnu i gyflenwr gwaharddedig yn unol ag adran 41, y sail dros wahardd sy'n gymwys a pham mae'r awdurdod contractio o'r farn bod budd cyhoeddus tra phwysig mewn dyfarnu'r contract i'r cyflenwr hwnnw (pan fydd yn dyfarnu contract i fwy nag un cyflenwr, bydd angen i'r awdurdod contractio nodi'n glir pa gyflenwr sydd wedi'i wahardd)
- os bydd y contract yn cael ei ddyfarnu gan ddibynnu ar is-deddfwriaeth (rheoliadau) yn cael ei gwneud o dan adran 42(1) o'r Ddeddf, teitl a rhif cofrestru'r rheoliadau a wneir o dan adran 42(1)
- os bydd yr awdurdod contractio wedi newid i ddyfarniad uniongyrchol o dan adran 43 o'r Ddeddf, y rheswm pam mae o'r farn nad oedd unrhyw dendrau na cheisiadau addas i gymryd rhan a pham mae o'r farn nad oes modd dyfarnu'r contract o dan adran 19 o'r Ddeddf o dan yr amgylchiadau.
70. Risgiau hysbys, os bydd awdurdod contractio am ddibynnu ar y sail ‘Gwireddiad risg hysbys’ ym mharagraff 5 o Atodlen 8 i'r Ddeddf er mwyn gwneud unrhyw addasiadau yn y dyfodol i gontract a ddyfarnwyd yn uniongyrchol, rhaid i'r risgiau hysbys gael eu nodi yn yr hysbysiad tryloywder (fel sy'n ofynnol gan baragraff 6(b) o Atodlen 8 i'r Ddeddf). Am ragor o wybodaeth am addasiadau, gweler y canllaw ar addasu contract.
Amseru
71. Dylai awdurdod contractio ystyried amseriad yr Hysbysiad tryloywder gan mai dim ond 30 diwrnod sydd gan gyflenwr (o dan adran 106 (Terfynau amser ar hawliadau)) i wneud hawliad o'r adeg roedd yn gwybod, neu y dylai fod wedi gwybod, am amgylchiadau'r dyfarniad uniongyrchol.
Hysbysiadau dilynol
72. Ac eithrio fel y disgrifir isod, yr un yw'r gofynion ar gyfer hysbysiadau dilynol â'r gofynion ar gyfer contractau a ddyfernir o dan adran 19 o'r Ddeddf.
73. Bydd yr hysbysiad nesaf ar ôl yr hysbysiad tryloywder yn un o'r canlynol:
- hysbysiad terfynu caffaeliad: er mwyn hysbysu partïon â diddordeb bod awdurdod contractio wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r broses o ddyfarnu contract ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad tryloywder yn flaenorol. Mae hysbysiad terfynu caffaeliad yn orfodol ym mhob amgylchiad o'r fath ac eithrio pan gyhoeddwyd yr hysbysiad tryloywder gan gyfleustod preifat, neu
- hysbysiad dyfarnu contract: er mwyn hysbysu'r farchnad o ganlyniad caffaeliad a thynnu sylw'r farchnad at y ffaith bod yr awdurdod contractio ar fin ymrwymo i gontract.
74. Hysbysiad dyfarnu contract: Mae'r hysbysiad dyfarnu contract yn cychwyn unrhyw gyfnod segur gorfodol neu wirfoddol a rhaid iddo gael ei gyhoeddi cyn i'r awdurdod contractio ymrwymo i gontract cyhoeddus. Mae hysbysiad dyfarnu contract yn orfodol ar gyfer pob dyfarniad uniongyrchol ac eithrio pan fo'r dyfarniad uniongyrchol yn seiliedig ar y sail dros gontractau ddewis defnyddwyr (adran 50(6)(b) o'r Ddeddf). Ni chaniateir i'r awdurdod contractio ymrwymo i gontract yn ystod unrhyw gyfnod segur (adran 51(1) o'r Ddeddf).
75. Caniateir i awdurdod contractio gyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract unrhyw bryd ar ôl yr hysbysiad tryloywder pan fydd yn dyfarnu contract yn uniongyrchol o dan y Ddeddf.
76. Ceir eithriadau i'r cyfnod segur gorfodol pan ddyfernir contract yn uniongyrchol o dan adran 41 o'r Ddeddf yn unol â pharagraff 13 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (brys eithafol ac anosgoadwy); o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 o'r Ddeddf (dyfarniad uniongyrchol er mwyn diogelu bywyd, ac ati); ac o dan adran 41, adran 42 neu adran 43 o'r Ddeddf gan gyfleustodau preifat. Pan fo eithriad i'r cyfnod segur gorfodol yn gymwys, caiff yr awdurdod contractio ddewis rhoi cyfnod segur gwirfoddol ar waith o hyd. Gweler y canllaw ar yr hysbysiad dyfarnu contract a'r cyfnod segur.
77. Hysbysiad manylion contract: Yr hysbysiad nesaf yn y dilyniant ar ôl hysbysiad dyfarnu contract yw hysbysiad manylion contract. Mae'r hysbysiad hwn yn rhoi manylion y contract yr ymrwymwyd iddo i bartïon â diddordeb ac mae'n orfodol, ac eithrio pan ddyfarnwyd y contract yn uniongyrchol yn unol â pharagraff 15 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (contractau dewis defnyddwyr) neu pan gafodd ei ddyfarnu'n uniongyrchol gan gyfleustod preifat (adran 53(6)(a) o'r Ddeddf). (Gweler y canllaw ar yr hysbysiad manylion contract).
Pa ganllawiau eraill sy'n arbennig o berthnasol i'r pwnc hwn?
- Canllaw ar amcanion caffael a gwmpesir
- Canllaw ar wrthdaro buddiannau
- Canllaw ar waharddiadau
- Canllaw ar gontractau esempt
- Canllaw ar Fframweithiau
- Canllaw ar hysbysiadau dyfarnu contract a'r cyfnod segur
- Canllaw ar hysbysiadau manylion contract
- Canllaw ar addasu contract
- Canllaw ar y Platfform Digidol Cymreig (GwerthwchiGymru)
