Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw rhagwahardd?

1. Mae'r drefn rhagwahardd yn galluogi Gweinidog y Goron i roi cyflenwyr ar restr rhagwaharddiadau gyhoeddedig. Mae cael ei gynnwys ar y rhestr yn golygu bod ymddygiad neu amgylchiadau'r cyflenwr yn y gorffennol yn golygu na chaniateir iddo gymryd rhan mewn caffaeliadau wedi'u cwmpasu na chael contractau cyhoeddus. Nod rhagwahardd yw lleihau'r risg sy'n gysylltiedig â chyflenwyr ym maes caffael cyhoeddus a chymell cyflenwyr i sicrhau cydymffurfiaeth gorfforaethol a safonau ymddygiad rhagorol.

2. Er bod y drefn wahardd yn dibynnu'n llwyr ar asesiadau a wneir gan awdurdodau contractio, bydd y rhagwaharddiadau yn cael eu rheoli'n ganolog gan Lywodraeth y DU. Mae rhagwahardd yn gysylltiedig yn agos â gwaharddiadau gan mai dim ond os bydd unrhyw un o'r seiliau gwahardd gorfodol neu ddewisol, a amlinellir yn Atodlenni 6 a 7 i Ddeddf Caffael 2023 (y Ddeddf), yn gymwys a bod yr amgylchiadau sy'n berthnasol i’r sail gwahardd yn parhau neu’n debygol o ddigwydd eto, y bydd modd ystyried cyflenwr ar gyfer rhagwahardd. Y prif wahaniaeth yw mai dim ond un o Weinidogion y Goron all wneud y penderfyniad i roi cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau. Rhaid i bob awdurdod contractio wirio'r rhestr rhagwaharddiadau ym mhob caffaeliad a rhaid iddynt wahardd (neu fod â’r rhyddid i wahardd) cyflenwyr, os ydynt ar y rhestr rhagwaharddiadau.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n rheoli rhagwahardd?

3. Mae adran 59 o’r Ddeddf (Hysbysiad gwahardd cyflenwr) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio hysbysu Gweinidog y Goron, Gweinidogion Cymru neu adrannau Gogledd Iwerddon (yn dibynnu ar statws yr awdurdod contractio) pryd bynnag y bydd awdurdod contractio wedi penderfynu bod cyflenwr (gan gynnwys yn rhinwedd person cysylltiedig, person â chyswllt neu is-gontractwr) yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy ac wedi cymryd camau penodol o dan y drefn waharddiadau. Mae hyn yn darparu un llwybr y gellir ei ddefnyddio i ddwyn cyflenwyr i sylw un o Weinidogion y Goron ar gyfer rhagwaharddiad posibl.

4. Mae Adran 60 o’r Ddeddf (Ymchwiliadau i gyflenwyr: seiliau dros wahardd) yn caniatáu i Weinidog y Goron, Gweinidogion Cymru neu adrannau Gogledd Iwerddon gynnal ymchwiliadau i gyflenwyr er mwyn sefydlu a ydynt yn gyflenwr gwaharddadwy neu'n gyflenwr gwaharddedig, at ddibenion bod un o Weinidogion y Goron wedyn yn ystyried a ddylid ychwanegu'r cyflenwr at y rhestr rhagwaharddiadau. Mae'n darparu pwerau i hwyluso cydgasglu gwybodaeth yn ystod yr ymchwiliad ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyflenwr gael gwybod am ymchwiliad. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidog y Goron barhau i adolygu a ddylid ymchwilio i gyflenwyr yng ngoleuni bygythiadau diogelwch gwladol. Ym mhob achos, mae ymchwiliad yn rhagofyniad cyn y gall un o Weinidogion y Goron roi cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau.

5. Mae Adran 61 o’r Ddeddf (Ymchwiliadau o dan adran 60: adroddiadau) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfeirio cyflenwr y maent wedi ymchwilio iddo at Weinidog y Goron er mwyn iddo gael ei ystyried ar gyfer rhagwaharddiad posibl.

6. Mae adran 62 o’r Ddeddf (Rhestr rhagwaharddiadau) yn caniatáu i Weinidog y Goron greu rhestr rhagwaharddiadau. Mae hon yn rhestr gyhoeddedig o gyflenwyr sydd, yn dilyn ymchwiliad, yn eu barn hwy, yn gyflenwyr gwaharddedig neu'n waharddadwy ac y maent wedi penderfynu eu rhoi ar y rhestr rhagwaharddiadau. Mae hefyd yn caniatáu i Weinidog y Goron roi cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau pan fo’r Gweinidog y Goron wedi pennu bod methiant y cyflenwr i gydweithredu ag ymchwiliad o dan adran 60 o’r Ddeddf (Ymchwiliadau cyflenwr: seiliau dros wahardd) yn ddigon difrifol i gyfiawnhau gwaharddiad gorfodol. Yn ogystal, mae'r Ddeddf yn nodi: pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chofnodi ar y rhestr rhagwaharddiadau; y rhybudd ymlaen llaw y mae'n rhaid ei roi i'r cyflenwr cyn iddo gael ei gofnodi ar y rhestr rhagwaharddiadau (sy'n sbarduno cyfnod segur); pryd y mae'n rhaid ymgynghori â Gweinidogion Cymru ac adrannau Gogledd Iwerddon; a gofynion eraill sy'n ymwneud â sut mae'r rhestr yn cael ei chynnal.

7. Mae Adran 63 o’r Ddeddf (Penderfyniadau rhagwaharddiad: rhyddhad interim) yn caniatáu i gyflenwr wneud cais i'r llys am ryddhad interim h.y. i atal penderfyniad rhagwahardd hyd nes y bydd apêl. Ar ôl hysbysu'r cyflenwr o'r penderfyniad rhagwahardd, yn unol ag adran 62 o’r Ddeddf (Rhestr Rhagwaharddiadau), rhaid i Weinidog y Goron aros 8 diwrnod gwaith (y cyfnod segur) cyn rhoi enw'r cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau. Os yw'r cyflenwr yn gwneud cais llwyddiannus am ryddhad interim yn ystod y cyfnod segur, ni chaiff Gweinidog y Goron roi enw'r cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau nes bod apêl ddilynol wedi dod i ben neu fod yr amser a ganiateir i gyflwyno apêl wedi mynd heibio. Wrth ystyried cais am ryddhad interim, rhaid i'r llys gydbwyso buddiannau'r cyflenwr yn erbyn budd y cyhoedd.

8. Mae Adran 64 o’r Ddeddf (Rhestr Rhagwaharddiadau: Cais am ddileu) yn caniatáu i gyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau wneud cais i'w gofnod gael ei ddiwygio neu ei dynnu oddi ar y rhestr. Dim ond os oes gwybodaeth newydd sylweddol neu newid sylweddol mewn amgylchiadau y mae'n ofynnol i Weinidog y Goron ystyried cais o'r fath.

9. Mae Adran 65 o’r Ddeddf (Penderfyniadau rhagwahardd: apeliadau) yn caniatáu i gyflenwyr apelio yn erbyn rhai penderfyniadau sy'n ymwneud â rhagwahardd gerbron y llys. Rhaid cyflwyno apeliadau o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad yr oedd y cyflenwr yn ymwybodol o benderfyniad Gweinidog y Goron, neu y dyddiad y dylai fod wedi bod yn ymwybodol ohono. Dim ond os yw'n fodlon bod Gweinidog y Goron wedi gwneud camgymeriad materol yn y gyfraith y gall y llys wneud gorchymyn; gall y llys hefyd orchymyn i Weinidog y Goron dalu'r costau a wariwyd gan y cyflenwr wrth wneud cais caffael y mae wedi'i wahardd ohono o ganlyniad i'r camgymeriad. Bydd disgwyl i gyflenwyr fod wedi lliniaru'r costau hynny.

10. Mae adran 66 o’r Ddeddf (Trafodion rhagwahardd a gweithdrefn deunydd caeedig) yn caniatáu i Weinidog Swyddfa'r Cabinet wneud cais am ddatganiad sy'n caniatáu ceisiadau gweithdrefn deunydd caeedig mewn achosion rhyddhad interim a thrafodion apeliadau. Mae gweithdrefn deunydd caeedig yn golygu bod y partïon nad ydynt yn llywodraeth yn gadael y llys tra bod deunydd sensitif yn cael ei glywed. Mae hyn yn debygol o gael ei ddefnyddio o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn yn unig, megis pan fo cyflenwr wedi'i ychwanegu at y rhestr rhagwaharddiadau ar sail diogelwch gwladol.

Beth sydd wedi newid?

11. Mae'r Ddeddf yn creu cyfundrefn rhagwahardd newydd gyda phwerau i Weinidog y Goron osod cyflenwyr ar restr rhagwaharddiadau cyhoeddedig, y mae'n rhaid ei hystyried ar gyfer pob proses gaffael a gwmpesir. Mae hyn yn sefydlu proses rhagwahardd ganolog mewn deddfwriaeth ar draws pob caffaeliad cyhoeddus, yn ogystal ag ehangu'r drefn gwaharddiadau cyflenwyr (gweler y canllawiau ar waharddiadau am ragor o wybodaeth).

12. O ganlyniad i'r broses o ragwahardd, o dan y Ddeddf, bydd gan awdurdodau contractio fynediad at ffynhonnell ganolog o wybodaeth a gyhoeddir ar gov.uk ac a fydd yn cefnogi awdurdodau contractio i wneud penderfyniadau gwahardd a sicrhau lefel o gysondeb ar draws y sector cyhoeddus. Bydd cyhoeddi adroddiadau a gynhyrchir yn dilyn ymchwiliadau rhagwahardd hefyd yn cynorthwyo awdurdodau contractio i wneud eu hasesiadau eu hunain o gyflenwyr sydd eisoes wedi bod yn destun ymchwiliad rhagwahardd. Bydd yr wybodaeth ychwanegol hon yn fwyaf defnyddiol pan fydd ymchwiliad wedi’i gynnal ar gyflenwr ond nad yw’r cyflenwr hwnnw wedi ei ychwanegu at y rhestr rhagwaharddiadau a phan fydd cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau mewn perthynas â sail dros wahardd ddewisol gan y gall awdurdod contractio ei gymhwyso’r sail honno i'w gyd-destun caffael ei hun a'i defnyddio i gefnogi ei broses benderfynu ei hun.

Pwyntiau allweddol a bwriad polisi

13. Ni fwriedir i ragwahardd fod yn gosb am gamymddwyn yn y gorffennol, ond mae'n fesur sy'n seiliedig ar risg i sicrhau nad yw cyflenwr yn cymryd rhan mewn caffael neu y dyfernir contractau iddo lle mae un o Weinidogion y Goron wedi rhoi'r cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau.

14. Bydd y rhestr rhagwaharddiadau yn cael ei chyhoeddi ar GOV.UK. Bydd yn nodi:

  1. y cyflenwr
  2. y sail dros wahardd sy'n berthnasol (ac a yw hyn yn orfodol neu'n ddewisol), a'r
  3. y dyddiad y disgwylir i enw'r cyflenwr gael ei dynnu oddi ar y rhestr rhagwaharddiadau.

15. Dylai awdurdodau contractio wirio'r rhestr rhagwaharddiadau cyn caniatáu i unrhyw gyflenwr gymryd rhan mewn proses gaffael a gwmpesir a chyn penderfynu dyfarnu contract cyhoeddus i gyflenwr. Rhaid i awdurdodau contractio wirio a yw enw'r cyflenwr neu enwau unrhyw bersonau â chyswllt neu is-gontractwyr arfaethedig ar y rhestr rhagwaharddiadau a dylent hefyd wirio a yw enwau unrhyw bersonau cysylltiedig mewn perthynas â’r cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau, gan y gallai hyn fod yn sail dros ystyried gwahardd y cyflenwr. Mae'r cyfeiriadau at gyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau yn y canllawiau hyn yn cynnwys personau â chyswllt ac is-gontractwyr arfaethedig. Am ragor o fanylion, gweler y canllawiau ar waharddiadau.

16. Pan fydd cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau mewn perthynas â sail dros wahardd orfodol, rhaid i awdurdod contractio beidio â chaniatáu i'r cyflenwr wneud cais mewn gweithdrefn hyblyg gystadleuol na chael contract cyhoeddus mewn unrhyw weithdrefn dendro gystadleuol neu drwy ddyfarniad uniongyrchol a rhaid diystyru unrhyw dendr a gyflwynir ganddynt. Mae'r eithriadau canlynol yn berthnasol:

  1. caffael gan gyfleustodau preifat
  2. pan fo cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau ar sail diogelwch gwladol ar gyfer mathau penodol o gontractau, gan nad yw'r gwaharddiad yn effeithio ar eu cymhwystra i wneud cais am fathau eraill o gontractau, a
  3. caffaeliadau drwy ddyfarniad uniongyrchol pan fo budd cyhoeddus tra phwysig wrth ddyfarnu'r contract i'r cyflenwr hwnnw. Mae'r rhain yn cynnwys rhai rhesymau amddiffyn a diogelwch ac mewn rhai achosion lle mae brys eithafol ac anochel.

17. Pan fydd cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau o ganlyniad i sail ddewisol, mae'n parhau i fod yn bosibl i awdurdod contractio ganiatáu i'r cyflenwr wneud cais am gontract cyhoeddus a'i ddyfarnu i'r cyflenwr hwnnw. Dylai awdurdodau contractio fod yn ofalus a dim ond ar ôl adolygu'n ofalus y dylid gwneud hyn, gan ystyried unrhyw adroddiad ymchwilio perthnasol sy'n ymwneud â'r cofnod ar y rhestr rhagwaharddiadau ac ymgymryd â diwydrwydd dyladwy ychwanegol priodol. Dim ond os oes ganddynt resymau da dros wneud hynny y dylai awdurdodau contractio symud ymlaen. Gall y rhain gynnwys cyfyngiadau'r farchnad, contractau critigol o safbwynt gweithredol, neu'r risg a berir gan y cyflenwr ar y contract penodol hwnnw, ond bydd pob achos yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Fel gyda phob penderfyniad gwahardd, dylai awdurdodau contractio gadw trywydd archwilio o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto.

18. Pan fo'r cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau mewn perthynas â mathau penodol o gontractau (lle mae Gweinidog y Goron wedi asesu bod y cyflenwr yn fygythiad i ddiogelwch gwladol mewn perthynas â'r mathau hynny o gontractau), bydd rhagwahardd yn sicrhau na ellir defnyddio cyflenwyr a aseswyd fel rhai sy'n peri bygythiad mewn cyd-destunau sensitif, gan sicrhau bod caffaeliadau risg uchel yn cael eu trin yn ddarbodus.

19. Efallai y bydd awdurdodau contractio eisiau ystyried y rhestr rhagwaharddiadau wrth ddyfarnu contractau heblaw contractau cyhoeddus (megis contractau sydd wedi'u heithrio neu gontractau sydd o dan y trothwy).

20. Os nad yw cyflenwr wedi'i enwi ar y rhestr rhagwaharddiadau, dim ond os yw’r awdurdod contractio yn fodlon, yn dilyn ei asesiad ei hun, bod y cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy, y caiff wahardd cyflenwyr o broses gaffael a diystyru eu tendrau. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod unrhyw un o'r seiliau dros wahardd yn berthnasol i gyflenwr sy'n destun ymchwiliad neu sy’n cael ei ystyried ar gyfer rhagwaharddiad. Gweler y canllawiau ar waharddiadau.

21. Mae'r Ddeddf yn rhoi telerau ymhlyg mewn contractau cyhoeddus (adran 78) sy'n rhoi hawl i awdurdodau contractio derfynu'r contract mewn amgylchiadau penodol. Mae hyn yn galluogi awdurdod contractio i derfynu contract pan fo cyflenwr, ers i’r contract gael ei ddyfarnu, wedi dod yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy (gan gynnwys trwy berthynas â pherson â chyswllt); neu pan fo cyflenwr (ac eithrio person â chyswllt) y mae'r cyflenwr yn is-gontractio rhan o gontract cyhoeddus neu gontract cyhoeddus cyfan iddo yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy. Mae hyn yn cynnwys pan fo cyflenwyr o'r fath wedi'u hychwanegu at y rhestr rhagwaharddiadau. Fel mater o arfer gorau, dylai awdurdodau contractio gynnwys yn benodol yn eu contractau rwymedigaeth ar gyflenwyr i'w hysbysu os ydynt yn dod yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy (gan gynnwys pan gânt eu rhoi ar y rhestr rhagwaharddiadau yn ystod cyfnod y contract neu yn sgil eu personau cysylltiedig, personau â chyswllt neu is-gontractwyr). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau ar derfynu contractau.

22. Rhaid i awdurdodau Cymreig datganoledig (DWAs) hysbysu Gweinidogion Cymru os ydynt yn gwahardd cyflenwr (neu os ydynt yn cymryd mathau penodol o gamau eraill o dan y drefn waharddiadau; gweler y canllawiau ar waharddiadau) a hefyd os yw'r cyflenwr yn herio penderfyniad i'w wahardd. Rhaid rhoi hysbysiad o fewn 30 diwrnod i'r cyflenwr gael ei wahardd (neu'r camau perthnasol eraill a gymerwyd). Bydd angen i awdurdodau Cymreig datganoledig hysbysu yr Uned Adolygu Caffael Cymru (WPRU) ar y blwch post penodedig WalesPRU@llyw.cymru. Bydd unrhyw achosion sy'n ymwneud â diogelwch gwladol yn cael eu hanfon gan Uned Adolygu Caffael Cymru i'r Uned Diogelwch Gwladol ar gyfer Caffael.

23. Pan fydd awdurdod Cymreig datganoledig yn gwahardd cyflenwr am ei fod ar y rhestr rhagwaharddiadau a’r sail dros wahardd gorfodol neu ddewisol yn ymwneud â diogelwch gwladol, rhaid i'r awdurdod Cymreig datganoledig hysbysu Gweinidogion Cymru (drwy’r WPRU).

24. Dylid nodi, pan fo DWA yn bwriadu gwahardd cyflenwr ar sail diogelwch cenedlaethol yn ôl disgresiwn, mae adran 29 o'r Ddeddf yn gofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Weinidog y Goron trwy PRU Llywodraeth y DU. Unwaith y bydd y Gweinidog yn penderfynu bod cyflenwr yn eithrio ac y dylid anwybyddu'r tendr, rhaid i'r DWA roi gwybod i Weinidogion Cymru (drwy'r WPRU) am waharddiad y cyflenwr o fewn 30 diwrnod.

Ymchwiliadau a phenderfyniadau rhagwahardd

25. Gall cyflenwyr gael eu dwyn i sylw Gweinidog y Goron am ragwaharddiad posibl drwy unrhyw fodd, gan gynnwys hysbysiad gwahardd cyflenwr o gaffaeliad penodol gan awdurdod contractio, ymchwiliad gan Weinidogion Cymru neu adran yng Ngogledd Iwerddon, neu drwy wybodaeth sydd ar gael fel arall. Gall Gweinidog y Goron ystyried cyflenwyr ar gyfer rhagwaharddiad posibl ar sail naill ai atgyfeiriad gan Weinidogion Cymru neu adrannau Gogledd Iwerddon, neu yn sgil ei ymchwiliad ei hun (dan arweiniad naill ai'r Uned Adolygu Caffael neu'r Uned Diogelwch Gwladol ar gyfer Caffael o fewn Swyddfa'r Cabinet, yn dibynnu ar y sail dros wahardd sydd dan sylw). Gall yr Uned Adolygu Caffael hefyd ddefnyddio hysbysiad gwahardd cyflenwr i gychwyn ymchwiliad rhagwahardd.

26. Unwaith y bydd y penderfyniad i ymchwilio wedi ei wneud, mae dyletswydd ar awdurdodau ymchwilio i roi gwybod i gyflenwr bod yr ymchwiliad yn digwydd, cadarnhau pa sail (seiliau) dros wahardd sy'n destun yr ymchwiliad a darparu gwybodaeth am sut y gall y cyflenwr gyflwyno sylwadau.

27. Yn ystod ymchwiliad, gall yr awdurdod ymchwilio ofyn i gyflenwyr ddarparu gwybodaeth neu ddarparu cymorth. Er nad oes gan gyflenwyr ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â cheisiadau am wybodaeth neu gymorth arall, gallai methu â gwneud hynny arwain at ragwahardd yn sgil y sail dros wahardd orfodol am fethu â chydweithredu ag ymchwiliad.

28. Efallai y bydd gofyn i awdurdodau contractio ddarparu gwybodaeth a chymorth yn ystod ymchwiliad i gyflenwr ar gyfer rhagwaharddiad posibl. Fel rhan o ymchwiliad, efallai y gofynnir i awdurdodau contractio ddarparu gwybodaeth berthnasol am gyflenwyr y mae ganddynt gontractau â hwy neu y maent wedi bod â chontractau â hwy yn y gorffennol, neu lle maent fel arall yn dal gwybodaeth am gyflenwyr. Yn wahanol i gyflenwyr, mae dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau contractio i gydymffurfio â cheisiadau o'r fath, oni bai eu bod fel arall yn cael eu hatal rhag gwneud hynny gan ddyletswyddau cyfreithiol eraill (megis cyfyngiadau ar rannu gwybodaeth).

29. Y cwestiynau y mae'n rhaid eu hystyried cyn gwneud penderfyniad i ragwahardd yw a yw sail dros wahardd yn gymwys ac a yw'r amgylchiadau a arweiniodd at y sail dros wahardd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto. Mae'r tebygolrwydd o rywbeth yn digwydd eto yn golygu asesiad hunanlanhau. Mae'r ffactorau sy'n berthnasol i hunanlanhau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: tystiolaeth bod yr amgylchiadau wedi cael eu cymryd o ddifrif, er enghraifft talu iawndal, camau a gymerwyd i atal yr amgylchiadau rhag digwydd eto, er enghraifft newid staff ac ymrwymiadau i gymryd camau o'r fath (gweler y canllawiau ar waharddiadau am ragor o fanylion). Pan fo Gweinidog y Goron yn penderfynu bod y ddau brawf hyn wedi'u bodloni, gall y Gweinidog wneud penderfyniad rhagwahardd. Gall Gweinidog benderfynu peidio â rhoi enw cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau am amryw o resymau, gan gynnwys, er enghraifft, pan fo budd cyhoeddus tra phwysig wrth ganiatáu i'r cyflenwr barhau i wneud cais am gontractau cyhoeddus. Mae’n rhaid i Weinidog y Goron o dan adran 62(12) o’r Ddeddf i ymgynghori â Gweinidogion Cymru (pan fo Gweinidog y Goron wedi ystyried ymchwiliad gan Weinidogion Cymru) cyn rhoi enw cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau, neu ddileu/diwygio cofnod ar y rhestr rhagwaharddiadau.

30. Unwaith y bydd ymchwiliad wedi dod i ben, neu pan fo Gweinidog y Goron wedi ystyried ymchwiliad gan Weinidogion Cymru neu adran yng Ngogledd Iwerddon, bydd y cyflenwr yn derbyn copi o'r adroddiad ymchwilio, fel arfer cyn ei gyhoeddi ac yn ddarostyngedig i rai eithriadau (fel y nodir isod ym mharagraff 35). Mae dyletswydd ar Weinidog y Goron hefyd i hysbysu cyflenwr cyn rhoi ei enw ar y rhestr rhagwaharddiadau.

31. Bydd gwaharddiad naill ai ar sail ddewisol neu orfodol, yn seiliedig ar y math o sail dros wahardd sy'n berthnasol. Ar gyfer rhai mathau o gamymddwyn, mae sail dros wahardd ddewisol yn ogystal â sail dros wahardd orfodol ac mae pa un fydd yn berthnasol yn dibynnu ar ddifrifoldeb neu natur y camymddwyn. Rhestrir y seiliau dros wahardd yn Atodlenni 6 a 7 i’r Ddeddf a cheir disgrifiad pellach o’r rheolau o ran ystyried a yw cyflenwr yn 'waharddedig' neu'n 'waharddadwy', gan gynnwys hunanlanhau ac ystyriaethau personau cysylltiedig y cyflenwr, personau â chyswllt ac is-gontractwyr yn y canllawiau ar waharddiadau.

32. Fel arfer, bydd cyflenwr yn aros ar y rhestr rhagwaharddiadau am hyd at 5 mlynedd o adeg y digwyddiad perthnasol (am seiliau dros wahardd gorfodol) neu pan oedd Gweinidog yn gwybod am y digwyddiad, neu pan fyddai penderfynwr rhesymol wybodus oherwydd natur ei swydd wedi bod yn ymwybodol ohono) (am seiliau dros wahardd dewisol). Yn y canllawiau hyn, er mwyn bod yn gryno, mae cyfeiriadau dilynol at ymwybyddiaeth yn cynnwys cyfeiriad at faterion y dylai'r awdurdod contractio fod wedi bod yn ymwybodol ohonynt, ond y prawf cyfreithiol yw a fyddai penderfynwr rhesymol wybodus yn sefyllfa'r awdurdod contractio wedi bod yn ymwybodol.

33. Gall gymryd amser i gyrraedd y pwynt penderfynu a ddylid ychwanegu cyflenwr at y rhestr rhagwaharddiadau. Efallai y bydd awdurdodau contractio yn dymuno ystyried goblygiadau ychwanegu cyflenwr at y rhestr rhagwaharddiadau yn ystod proses gaffael fyw, yn enwedig os gwneir y penderfyniad tuag at ddiwedd gweithdrefn dendro gystadleuol, ac ystyried nodi yn y ddogfennaeth dendro sut y bydd yn symud ymlaen i ddyfarnu contractau mewn amgylchiadau o'r fath.

34. Er bod y Ddeddf yn datgan bod yn rhaid trin cyflenwr fel cyflenwr gwaharddedig mewn rhai amgylchiadau y tu allan i'r rhai a restrir yn Atodlen 6, nid yw'r rhain yn seiliau dros ragwahardd ac, os bydd unrhyw un o'r rhain yn berthnasol, rhaid gwahardd y cyflenwr o'r caffaeliad penodol hwnnw. Yr amgylchiadau hynny yw:

  1. pan fo cyfranogiad cyflenwr mewn ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad wedi rhoi mantais annheg anochel i'r cyflenwr (gweler adran 16 (Ymgysylltu Rhagarweiniol â'r Farchnad))
  2. pan fo'r cyflenwr wedi gweithredu'n amhriodol yn ystod y broses gaffael (sylwer bod gweithredu'n amhriodol mewn caffaeliadau eraill yn sail ddewisol dros wahardd o dan Atodlen 7, paragraff 13) (gweler adran 30 (Gwahardd cyflenwyr am ymddygiad amhriodol))
  3. pan fo cyflenwr wedi methu â darparu gwybodaeth am ei bersonau cysylltiedig neu bersonau â chyswllt (gweler adran 30 (Gwahardd cyflenwyr am ymddygiad amhriodol)), neu
  4. pan fo gwrthdaro buddiannau wedi rhoi mantais annheg i gyflenwr na ellir ei osgoi (gweler adran 82 (Gwrthdaro buddiannau: dyletswydd i liniaru)).

35. Rhaid cyhoeddi adroddiadau o ymchwiliadau a gynhaliwyd gan Weinidog y Goron, neu ystyried y canfyddiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru neu adran yng Ngogledd Iwerddon. Rhaid i'r adroddiad nodi a yw Gweinidog y Goron yn fodlon bod y cyflenwr yn waharddedig neu'n waharddadwy ac, os felly:

  1. mewn perthynas â phob sail dros wahardd berthnasol, p'un a yw hyn yn orfodol neu'n ddewisol
  2. os yw'r sail dros wahardd orfodol sy’n ymwneud â bygythiadau diogelwch gwladol ar gyfer mathau penodol o gontractau yn berthnasol, disgrifiad o'r mathau o gontractau
  3. y dyddiad y mae Gweinidog y Goron yn disgwyl i'r sail beidio â bod yn gymwys mwyach, a
  4. a yw Gweinidog y Goron yn bwriadu ychwanegu enw'r cyflenwr at y rhestr rhagwaharddiadau, ochr yn ochr â rhesymau Gweinidog y Goron dros bob un o'r pwyntiau hyn.

36. Yr unig eithriadau i'r gofyniad cyhoeddi hwn yw pan fydd Gweinidog y Goron o'r farn ei bod yn angenrheidiol i olygu, atal cyhoeddi neu gyfyngu ar ddatgelu'r adroddiad er mwyn diogelu diogelwch gwladol neu i atal cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif lle mae budd cyhoeddus tra phwysig i'w atal rhag cael ei gyhoeddi.

37. Mae gan Weinidog y Goron rwymedigaeth i adolygu'r rhestr rhagwaharddiadau a rhaid iddo dynnu enw cyflenwr o'r rhestr os ydyw’n fodlon nad yw’n gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy mwyach. Bydd hyn yn wir, er enghraifft, pan nad yw'r sail dros wahardd yn berthnasol i'r cyflenwr mwyach oherwydd bod y cyfnod amser perthnasol yn dod i ben neu pan fo'r cyflenwr wedi darparu tystiolaeth ddigonol o hunan-lanhau.

Hawl cyflenwyr i apelio

38. Ar unrhyw adeg, gall cyflenwr wneud cais i Weinidog y Goron am ddileu neu adolygu ei gofnod ar y rhestr rhagwaharddiadau. Dim ond pan fu newid sylweddol mewn amgylchiadau neu wybodaeth newydd sylweddol y mae angen ystyried cais o'r fath.

39. Bydd gan gyflenwyr wyth diwrnod gwaith ('y cyfnod segur rhagwahardd') ar ôl rhoi gwybod am y penderfyniad i'w hychwanegu at y rhestr rhagwaharddiadau, i wneud cais i'r llys am atal y penderfyniad dros dro. Os yw'r cais yn llwyddiannus, ni ellir ychwanegu enw'r cyflenwr at y rhestr nes bod naill ai 30 diwrnod wedi mynd heibio ers i'r cyflenwr gael gwybod (neu y dylai fod wedi cael gwybod) am benderfyniad Gweinidog y Goron ac nad yw'r cyflenwr wedi dechrau trafodion apêl, neu os yw unrhyw apêl sydd wedi dechrau wedi'i datrys neu ei gwaredu (e.e. wedi'i thynnu'n ôl).

40. Yr unig sail ar gyfer apêl yn y llys gan gyflenwr yn erbyn penderfyniad rhagwahardd yw bod Gweinidog y Goron wedi gwneud camgymeriad sylweddol yn y gyfraith wrth wneud y penderfyniad (adran 65 o’r Ddeddf). Rhaid i gyflenwr ddechrau apêl o fewn 30 diwrnod, o pan gafodd wybod (neu o’r adeg y dylai fod wedi cael gwybod) am benderfyniad Gweinidog y Goron.

41. Gellir cyflwyno apêl dim ond mewn perthynas â'r penderfyniadau canlynol:

  1. nodi enw'r cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau
  2. dynodi contractau o ddisgrifiad penodol fel rhan o gofnod a wneir mewn perthynas â'r cyflenwr ar sail paragraff 35 o Atodlen 6 i’r Ddeddf (Diogelwch Gwladol)
  3. nodi dyddiad penodol fel rhan o gofnod mewn cysylltiad â'r cyflenwr o dan adran 62 (4)(d) (y rhestr rhagwaharddiadau), a
  4. peidio â dileu neu ddiwygio cofnod a wnaed mewn perthynas â'r cyflenwr yn dilyn cais o dan adran 64 o’r Ddeddf (Rhestr Rhagwaharddiadau: cais i ddileu).

42. Fel y nodir ym mharagraff 9 uchod, os yw'r Llys yn fodlon bod Gweinidog y Goron wedi gwneud camgymeriad sylweddol yn y gyfraith, gall roi'r penderfyniad o'r neilltu. Os, o ganlyniad i'r penderfyniad anghywir hwnnw, y cafodd y cyflenwr ei wahardd o gaffael, gall y llys ddyfarnu iawndal i'r cyflenwr am unrhyw gostau a ysgwyddwyd wrth i'r cyflenwr gyfranogi yn y weithdrefn gaffael honno.

43. Bydd pob cofnod rhagwahardd yn aros ar y rhestr rhagwaharddiadau nes bod y cyfnod amser a nodir yn y cofnod yn dod i ben. Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau canlynol, gellir tynnu'r cyflenwr oddi ar y rhestr yn gynt na'r cyfnod amser penodedig:

  1. pan fo cyflenwr yn gwneud cais llwyddiannus i gael tynnu ei enw oddi ar y rhestr
  2. pan fo Gweinidog y Goron o'r farn nad oes sail dros wahardd mwyach (er enghraifft, nad yw'r sail dros yn berthnasol mwyach neu pan fo'r cyflenwr wedi dangos ei fod wedi hunanlanhau), a
  3. pan fo’r llys yn rhoi penderfyniad i ragwahardd o'r neilltu yn dilyn apêl lwyddiannus gan y cyflenwr.

Yr Uned Diogelwch Gwladol ar gyfer Caffael

44. Bydd Gweinidogion y Goron yn cael eu cefnogi gan yr Uned Diogelwch Gwladol ar gyfer Caffael (NSUP) (a fydd yn cydlynu ar draws y gymuned diogelwch gwladol ehangach) i benderfynu a yw cyflenwr yn peri risg diogelwch cenedlaethol.

45. Ar gyfer cyflenwyr y mae'r sail orfodol yn ymwneud â diogelwch gwladol yn berthnasol iddynt (oherwydd eu bod yn peri bygythiadau diogelwch gwladol ar gontractau o ddisgrifiad penodol), rhaid i awdurdodau contractio beidio â chaniatáu i'r cyflenwr gymryd rhan mewn caffael ar gyfer unrhyw gontract o'r math a ddisgrifir. Caniateir i'r cyflenwr barhau i gymryd rhan mewn prosesau caffael ar gyfer contractau eraill, ond dim ond pan fo'r awdurdod contractio yn fodlon na ddylid gwahardd y cyflenwr. Y rheswm am hyn yw pan fo'r sail orfodol dros wahardd ar sail diogelwch gwladol yn berthnasol i gyflenwr, bydd y prawf ar gyfer y sail ddewisol yn ymwneud â diogelwch gwladol hefyd yn berthnasol (h.y. ystyrir bod y cyflenwr yn fygythiad i ddiogelwch gwladol y DU) felly dylai awdurdodau contractio ystyried a ddylid arfer eu disgresiwn i wahardd y cyflenwr o fathau eraill o gontractau ar y sail hon.

Pa gyngor arall sy'n arbennig o berthnasol i'r maes hwn?

  • Canllawiau ar waharddiadau
  • Canllawiau ar hysbysiad perfformiad contract
  • Canllawiau ar derfynu contractau