Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Mai 2025.

Cyfnod ymgynghori:
17 Chwefror 2025 i 19 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Cyhoeddwyd un ymateb i’r 4 ymgynghoriad canlynol:

  • canllawiau diwygiedig ar gynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr
  • canllawiau diwygiedig ar reoli gwersylloedd diawdurdod
  • canllawiau diwygiedig ar gyfer rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
  • canllawiau diwygiedig ar ddylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Gwnaethom hyn gan eu bod yn gysylltiedig iawn â’i gilydd. Bydd llawer o’r polisïau sy’n ymwneud ag unrhyw un ohonynt yn effeithio ar y lleill. 

Darllenwch yr ymateb cyfun i’r ymgynghoriad ar y canllawiau diwygiedig ar ddylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem gael eich barn ar ein canllawiau diwygiedig ar gyfer rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Dyma’r prif newidiadau y bwrir ymlaen â nhw yn y canllawiau drafft:

  • diweddaru cyfeiriadau at Ddeddf Tai (Cymru) 2015
  • diweddaru cyfeiriadau at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • egluro’r disgrifiadau o wahanol safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
  • mwy o bwyslais ar ymgynghori â thrigolion Sipsiwn a Theithwyr
  • mwy o bwyslais ar waith cynnal a chadw arferol ar y safle
  • cynnwys adran ar ddatganiadau ysgrifenedig a chytundebau cartrefi symudol