Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Mehefin 2025.

Cyfnod ymgynghori:
3 Mawrth 2025 i 3 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Cyhoeddwyd un ymateb i’r 4 ymgynghoriad canlynol:

  • canllawiau diwygiedig ar gynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr
  • canllawiau diwygiedig ar reoli gwersylloedd diawdurdod
  • canllawiau diwygiedig ar gyfer rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
  • canllawiau diwygiedig ar ddylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Gwnaethom hyn gan eu bod yn gysylltiedig iawn â’i gilydd. Bydd llawer o’r polisïau sy’n ymwneud ag unrhyw un ohonynt yn effeithio ar y lleill. 

Darllenwch yr ymateb cyfun i’r ymgynghoriad ar y canllawiau diwygiedig ar ddylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem gael eich barn ar ein canllawiau diwygiedig ar gyfer rheoli gwersylloedd diawdurdod.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Dyma’r prif newidiadau y bwrir ymlaen â nhw yn y canllawiau drafft:

  • diweddaru i gyfeirio at Ddeddf Tai (Cymru) 2015
  • diweddaru cyfeiriadau at Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022
  • diweddaru i gyfeirio at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • egluro’r disgrifiadau o wahanol safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
  • mwy o ffocws ar ddull cymesur a rhesymol o ymdrin â gwersylloedd diawdurdod
  • mwy o ffocws ar ddewisiadau amgen i wersylloedd diawdurdod
  • mwy o bwyslais ar ymgynghori â phreswylwyr sy’n Sipsiwn a Theithwyr

Dogfennau ymgynghori

Atodiad 3: drafft o ffurflen asesu lles , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 22 KB

DOCX
22 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.