Canllawiau drafft ar gyfer cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 3: asesu anghenion llety
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Bydd y bennod hon yn amlinellu’r broses o ddefnyddio’r data a gasglwyd drwy adolygu ffynonellau data a’r arolwg arbenigol. Mae’n helpu i asesu anghenion a dewisiadau, y galw am lety yn ardal benodol yr awdurdod lleol ac mewn ardaloedd eraill, sut mae rhagweld natur yr aelwyd net, a sut mae gwneud y cyfrifiad terfynol o’r angen am leiniau.
Ar ôl cynnal y cyfweliadau a gorffen adolygu’r data, rhaid i awdurdodau lleol asesu a oes angen darparu lleiniau ychwanegol ar gyfer eu hardal.
Dylai canlyniadau’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr nodi nifer yr aelwydydd Sipsiwn a Theithwyr mae angen lleiniau ychwanegol arnynt ar unwaith, o fewn y cyfnod adolygu a thros gyfnod y Cynllun Datblygu.
Rhaid i’r canlyniadau gynnwys:
- y mathau o lety sydd eu hangen i ddiwallu’r angen (hy safleoedd preswyl neu safleoedd tramwy, safleoedd penodol ar gyfer Siewmyn Teithiol neu Sipsiwn Romani/Teithwyr Gwyddelig ac ati)
- nifer yr aelwydydd sy’n byw mewn llety anaddas yn yr awdurdod lleol (hy gorlawn, yn byw mewn tai confensiynol sy’n anaddas oherwydd gwrthwynebiad diwylliannol ac ati)
- cyfradd debygol natur yr aelwyd net (hy oedolion ifanc sydd angen eu lleiniau eu hunain, mudo a diddymu aelwydydd ac ati)
- nifer yr aelwydydd sydd â chyfle realistig i symud i fath gwahanol o lety, a allai ryddhau lleiniau sbâr neu gartrefi brics a morter
- nifer yr aelwydydd ar wersylloedd diawdurdod neu ar safleoedd preifat gyda dim ond caniatâd cynllunio dros dro neu ddim caniatâd cynllunio
- rhaid ystyried unrhyw fannau aros dros dro/a negodwyd y gwyddys eu bod yn cael eu defnyddio mewn ardal awdurdod lleol wrth asesu anghenion llety, hyd yn oed os nad oes teuluoedd yn aros yn y man hwnnw adeg yr arolwg ei hun
Mae dyletswyddau awdurdodau lleol o dan Ran 3 o Ddeddf 2014 yn canolbwyntio ar y gofyniad i ddarparu lleiniau cartrefi symudol yn hytrach na mathau eraill o lety. Fodd bynnag, dylid ystyried unrhyw angen sy’n codi am gartrefi brics a morter fel rhan o’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a’i gynnwys yn y strategaeth dai leol, yn ôl yr angen.
Cyflenwad presennol o leiniau preswyl (wedi'u meddiannu)
Cyn i awdurdodau lleol allu ystyried y galw am leiniau ychwanegol yn eu hardal, mae’n bwysig asesu’r cyflenwad presennol o leiniau preswyl sydd ar gael. I raddau helaeth mae hyn yn fater o gasglu data sydd eisoes gan adrannau cynllunio a thai awdurdodau lleol am safleoedd awdurdod lleol, safleoedd preifat, mannau aros tramwy neu dros dro/a negodwyd a gwersylloedd diawdurdod. Mae Rhesi A i B yn Atodiad 5 ‘Amcangyfrif o’r angen am leiniau safleoedd preswyl’ yn dangos sut dylid cyflwyno nifer y lleiniau awdurdod lleol a lleiniau preifat sy’n cael eu meddiannu.
Dylid cofnodi nifer y lleiniau awdurdod lleol a feddiennir yn rhes A. Mae’r data hwn ar gael o’r system Cyfrif Carafannau a chofnodion tai awdurdodau lleol. Ni ddylid cynnwys lleiniau gwag oherwydd bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn rhes D.
Dylid cofnodi nifer y lleiniau preifat a feddiennir (gyda chaniatâd cynllunio) yn rhes B. Dylid cofnodi nifer y lleiniau preifat a feddiennir (heb ganiatâd cynllunio) yn rhes C. Bydd y data hwn ar gael drwy gwblhau arolygon safle gyda meddianwyr. Efallai y bydd rhai perchnogion safle preifat yn gwrthod mynediad i gyfwelwyr i’r safle, a allai atal yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr rhag nodi unrhyw leiniau gwag posibl. Os bydd hyn yn digwydd, dylid cymryd bod y safle’n llawn at ddibenion yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
Yn yr un modd, os mai dim ond caniatâd cynllunio dros dro sydd gan safleoedd preifat a’u bod i fod i gau o fewn y cyfnod adolygu mae’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn ymdrin ag ef, bydd yr aelwydydd ar y safleoedd hyn yn creu galw o dan res H, yn hytrach na chyflenwad lleiniau.
Ar ôl nodi cyfanswm y lleiniau sydd wedi’u meddiannu, dylai awdurdodau lleol ystyried y cyflenwad ychwanegol arfaethedig o leiniau.
Cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl
Dylai awdurdodau lleol restru nifer y lleiniau gwag sydd ar safleoedd awdurdodau lleol a safleoedd preifat ar hyn o bryd yn rhes D. Dylai nifer y lleiniau gwag hyn fod ar gael o’r system Cyfrif Carafannau a chofnodion tai awdurdodau lleol. Dylai’r ffynhonnell data a ddefnyddir i nodi nifer y lleiniau gwag gyd-fynd â’r ffynhonnell data a ddefnyddir i nodi nifer y lleiniau a feddiennir yn rhes A.
Er mwyn deall lefel y lleiniau gwag ar safleoedd preifat, bydd angen cyfathrebu’n effeithiol â pherchnogion y safle. Efallai na fydd rhai perchnogion safle’n dymuno lesio eu lleiniau gwag i unigolion nad ydynt yn aelodau o’r teulu. Dylid hefyd cofnodi nifer y lleiniau gwag ar safleoedd preifat sydd ar gael ar sail agored yn rhes D.
Er mwyn nodi nifer y lleiniau y disgwylir iddynt ddod yn wag yn y dyfodol agos, dylai awdurdodau lleol adolygu eu cofnodion rheoli safle i asesu trosiant blynyddol y lleiniau dros gyfnod o 5 mlynedd. Dylid cofnodi cyfradd trosiant cyfartalog y lleiniau am flwyddyn yn rhes E.
Ar ben hynny, dylai awdurdodau lleol adolygu atebion yr arolwg o gwestiynau A6 i A7 ac Adran C. Mae’r atebion i’r cwestiynau hyn yn debygol o roi manylion dyheadau aelwydydd sy’n dymuno symud. Gall awdurdodau lleol nodi pa atebion sy’n dod o aelwydydd sydd ar hyn o bryd yn meddiannu lleiniau awdurdodau lleol drwy gyfeirio at yr atebion i gwestiwn A1. Gall awdurdodau lleol archwilio’r wybodaeth hon i ganfod a oes modd cyflawni unrhyw un o’r dyheadau hyn.
Wrth ystyried y rhai sy’n debygol o adael lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol yn y dyfodol agos, efallai bydd atebion i’r arolwg yn nodi aelwydydd sydd wedi mynegi eu bod yn dymuno symud i dai confensiynol. Gall awdurdodau lleol nodi bod y lleiniau sy’n cael eu meddiannu ar hyn o bryd gan yr aelwydydd hyn yn debygol o ddod yn wag yn y dyfodol agos, dim ond os ydynt yn gallu dangos y bydd yr aelwyd yn cael llety arall. Os gellir dangos hyn, gellir cynnwys y lleiniau hyn yn rhes E.
Bydd y lefelau bodlonrwydd presennol â’r llety presennol yn rhoi rhyw syniad a yw aelwydydd yn debygol o aros yn eu llety presennol. Efallai y bydd rhai unigolion yn dymuno gadael llety cartref symudol a symud i dai brics a morter confensiynol, tra bydd eraill yn mynegi dewis neu angen diwylliannol i adael tŷ confensiynol am lety cartref symudol.
Wrth holi am lefelau bodlonrwydd presennol â’r llety presennol (cwestiynau A2 ac A7), mae’n bosibl y byddai’n well gan yr unigolion dan sylw wella neu addasu’r llety presennol yn hytrach na symud. Pan fo’n briodol, gellir helpu unigolion i aros yn eu llety presennol drwy ddefnyddio’r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl neu’r Grant Cefnogi Pobl i wneud y llety hwnnw’n addas at eu dibenion.
Mae’n bosibl bod amwynder cyffredinol safle a materion iechyd a diogelwch yn rhesymau sy’n golygu bod aelwydydd eisiau symud. Efallai fod awdurdodau lleol yn gymwys i ddefnyddio Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Llywodraeth Cymru i adnewyddu eu safleoedd.
Yn ogystal â’r asesiad o leiniau presennol awdurdodau lleol, dylai awdurdodau lleol ystyried faint o leiniau ychwanegol sydd â chaniatâd cynllunio sydd ar fin dod ar gael. Bydd hyn yn cynnwys lleiniau ar safleoedd preifat a safleoedd awdurdodau lleol lle bydd y rhain ar gael yn agored i’w rhentu.
Dylid cynnwys y lleiniau ychwanegol hyn fel rhan o’r cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl yn rhes F. Dim ond safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio y dylid eu cynnwys ar hyn o bryd. Ni ddylid ystyried safleoedd sydd yn y system gynllunio ar hyn o bryd ond heb ganiatâd cynllunio. Y rheswm am hyn yw nad oes sicrwydd y bydd modd cyflawni’r safle cyn cael caniatâd cynllunio, a byddai cynnwys ceisiadau am safleoedd a allai fod yn aflwyddiannus yn y pen draw yn tanamcangyfrif yr angen nas diwallwyd yn yr ardal. Serch hynny, os caiff caniatâd cynllunio ei gymeradwyo ar gyfer safle ar ôl cyhoeddi’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, bydd nifer y lleiniau a gymeradwyir yn gwrthbwyso’r angen nas diwallwyd a ganfuwyd.
Gellir cyfrifo’r cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl drwy adio nifer y:
- lleiniau awdurdod lleol sy’n wag ar hyn o bryd (rhes C)
- lleiniau y disgwylir iddynt ddod yn wag yn y dyfodol agos (rhes D)
- lleiniau sydd â chaniatâd cynllunio sydd eto i’w datblygu neu eu meddiannu (rhes E).
- lleiniau sydd â chaniatâd cynllunio ar safle preifat (rhes F)
Dylai’r cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl ymddangos yn awtomatig yn rhes A yn Atodiad 5.
Y galw presennol am leiniau preswyl
Mae’r galw presennol am leiniau preswyl i’w weld drwy ddadansoddi atebion y Sipsiwn a Theithwyr yr ymgynghorwyd â nhw drwy’r arolwg arbenigol a ffynonellau data perthnasol eraill. Bydd angen i awdurdodau lleol ddadansoddi’r data hwn i amcangyfrif yr anghenion tebygol.
Bydd cyfrifo lefel y galw presennol am leiniau preswyl yn golygu bod angen i awdurdodau lleol asesu’r rhai:
- ar wersylloedd diawdurdod awdurdod lleol sydd ag angen llety safle (G)
- ar safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio (H)
- ar safleoedd presennol awdurdod lleol ond mewn amodau gorlawn (I)
- mewn tai brics a morter ond gyda gwrthwynebiad diwylliannol at dai o’r fath neu dai gorlawn (J)
- aelwydydd newydd y disgwylir iddynt gyrraedd neu y mae angen llety arnynt yn yr ardal (K)
Dylai’r data a gesglir drwy adrannau A, C a D yr holiadur helpu awdurdodau lleol i asesu cyfanswm y galw yn eu hardaloedd yn briodol.
Deall ‘anghenion’ a ‘dewisiadau’
Yn aml, nid yw Sipsiwn a Theithwyr wedi gallu cael mynediad at safleoedd sy’n ddiwylliannol briodol yn yr ardaloedd lle maen nhw’n dymuno byw. Mae dulliau gwahanol awdurdodau lleol o ddarparu safleoedd a chamau gorfodi weithiau wedi gwneud i gymunedau ymgartrefu mewn lleoliadau amhriodol neu anaddas, er enghraifft, i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd estynedig. Os felly, dylai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am yr ardal lle mae’r angen am lety wedi codi weithio’n agos gydag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth i ddod o hyd i ateb a rennir.
Mae dosbarthiad safleoedd awdurdodau lleol wedi’i wasgaru’n anwastad ledled Cymru. Bydd rhywfaint o hyn yn deillio o ddewisiadau personol aelodau’r gymuned sydd wedi dewis byw mewn ardaloedd penodol am resymau teuluol, economaidd neu ddiwylliannol.
Gall safleoedd mewn rhai ardaloedd gynnwys rhai sydd â chysylltiadau hirdymor mewn awdurdodau cyfagos. Efallai nad oes gan ardaloedd eraill safleoedd ond bod poblogaethau sylweddol o Sipsiwn a Theithwyr yn byw mewn tai brics a morter confensiynol yn yr ardal.
O ganlyniad, gall awdurdodau tai lleol ddod ar draws sefyllfaoedd amrywiol wrth gynnal eu harolygon, lle gall fod yn anodd datgysylltu anghenion a dewisiadau meddianwyr.
Mae ystyried anghenion yn erbyn dewisiadau yn debygol o fod yn seiliedig ar 3 prif thema:
- Aelodau o’r gymuned mewn tai confensiynol sydd angen lleiniau cartref symudol oherwydd gwrthwynebiad diwylliannol.
- Aelodau o’r gymuned sy’n mynegi’r angen am leiniau cartrefi symudol mewn ardal awdurdod lleol wahanol i’r un sy’n cynnal yr asesiad.
- Y rhai sydd ar wersylloedd diawdurdod oherwydd prinder lleiniau awdurdod lleol neu ddarpariaeth mannau aros tramwy neu dros dro/a negodwyd sy’n mynegi’r angen am leiniau cartref symudol yn yr awdurdod lleol penodol sy’n cynnal yr asesiad.
Deall gwrthwynebiad diwylliannol
I lawer o Sipsiwn a Theithwyr, mae byw mewn cartrefi symudol yn agwedd allweddol ar eu hunaniaeth ddiwylliannol. Fodd bynnag, roedd Cyfrifiad 2021 yn awgrymu mai dim ond 22% o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru a Lloegr sy’n byw mewn carafannau neu strwythurau dros dro eraill. Roedd Cyfrifiad 2021 yn dangos bod 78% o’r cymunedau hyn yn byw mewn tai, fflatiau, fflatiau deulawr neu randai yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd.
Mae llawer o’r rhai sy’n byw mewn tai, fflatiau, fflatiau deulawr neu randai yn gwneud hynny o ddewis ac am amrywiaeth o resymau. Fodd bynnag, credir hefyd y gallai lleiafrif sylweddol o’r boblogaeth hon fod wedi symud i dai confensiynol oherwydd diffyg dewisiadau cyfreithlon ar gyfer lleiniau i gartrefi symudol. Gweler Shelter, ‘Good Practice Guide: Working with housed Gypsies and Travellers’ (2007).
Mae’n debyg y bydd rhai aelodau o’r gymuned sy’n byw mewn profiad tai confensiynol yn profi’r hyn a elwir yn ‘wrthwynebiad diwylliannol’ i’r math hwn o lety. Mae hyn wedi cael ei sefydlu mewn cyfraith achosion, yn wreiddiol yn Clarke v. Yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a'r Rhanbarthau (2001).
Hynny yw, aelodau o’r gymuned sydd â thraddodiad o fyw mewn cartref symudol neu ar safleoedd ac sy’n ei chael hi’n anodd addasu i fyw mewn llety brics a morter confensiynol ond sy’n gwneud hynny oherwydd rheidrwydd nid oherwydd dewis.
Gallai gwrthwynebiad diwylliannol fod yn seiliedig ar y math o lety neu ffordd o fyw mwy llonydd sy’n gysylltiedig â thai confensiynol neu ynysu oddi wrth aelodau o’r gymuned a’r teulu a allai fod yn byw mewn cartrefi symudol.
Bydd angen i awdurdodau tai lleol ystyried yn ofalus a ellid dweud bod gan y rhai sy’n cael eu cyfweld sy’n byw mewn tai confensiynol ac sy’n ffafrio byw ar safleoedd cartrefi symudol hefyd wrthwynebiad diwylliannol at gynnal eu llety mewn tai confensiynol.
Dylai awdurdodau lleol ystyried y canlynol:
- traddodiad diwylliannol yr unigolion o fyw mewn cartrefi symudol
- y rheswm dros symud i gartref confensiynol
- yr effaith andwyol bosibl ar yr unigolion os ydynt yn aros mewn tai confensiynol
- gwell dealltwriaeth o fater gwrthwynebiad diwylliannol
Yn ystod yr asesiad llety, ni fyddai’n briodol i awdurdodau lleol fynnu bod y rhai sy’n cael eu cyfweld yn dangos eu gwrthwynebiad drwy unrhyw fath o asesiad meddygol neu seiciatrig. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi y gall y ffordd nomadaidd draddodiadol o fyw fod yn anodd i Sipsiwn a Theithwyr ei chyflawni. Mae Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig yn lleiafrifoedd ethnig cydnabyddedig ac nid oes angen y ffordd draddodiadol o deithio na nomadiaeth er mwyn cynnal eu hunaniaeth hiliol. Felly, mae’r diffiniad ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr a ddefnyddir at ddibenion y canllawiau hyn yn cydnabod y gallai aelodau o’r gymuned hon, er eu bod yn bobl o arferiad nomadaidd o fywyd, fod wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu’n barhaol oherwydd anghenion addysgol, iechyd neu henaint.
Dylai gwybodaeth a gofnodir yn holiadur yr arolwg (yn enwedig cwestiynau A2, A3, A7 ac Adran B) helpu awdurdodau lleol i ganfod a oes gan unigolion wrthwynebiad diwylliannol at dai confensiynol.
Dylai amcangyfrifon o nifer yr aelodau o’r gymuned sydd â gwrthwynebiad diwylliannol at dai confensiynol adlewyrchu’r atebion a roddir yn yr holiadur a’r pwyntiau a amlinellir uchod. Cydnabyddir mai amcangyfrifon yw’r rhain ond gallent serch hynny fod yn ffordd bragmataidd o fesur nifer yr aelwydydd sy’n byw mewn tai confensiynol sydd angen lleiniau cartrefi symudol.
Lle nodir bod gan unigolion wrthwynebiad diwylliannol at dai confensiynol, dylai awdurdodau tai lleol gynnwys yr angen am leiniau cartrefi symudol gan yr aelwydydd hyn fel rhan o’r galw presennol am leiniau cartrefi symudol. Dylid cynnwys hyn yn Rhes L Atodiad 5.
Y galw am lety mewn ardal leol arall
Wrth gynnal arolygon, efallai bydd rhai aelodau o’r gymuned yn nodi bod yn well ganddynt neu fod arnynt angen cael llety ar safle cartrefi symudol mewn ardal awdurdod lleol arall.
Dylai Adrannau C a D yr holiadur gasglu data i helpu awdurdodau lleol i ddeall lle mae’r galw am lety o’r fath yn debygol o godi. Mae Adran E hefyd yn debygol o ddarparu data defnyddiol i awdurdodau cyfagos i’w helpu i ragweld anghenion llety tramwy yn y dyfodol. Dylai awdurdodau lleol geisio ymgysylltu’n rhagweithiol ag ardaloedd eraill gan ragweld y tebygolrwydd hwn. Bydd hyn yn haws ei gyflawni os oes partneriaeth ranbarthol eisoes wedi’i sefydlu i gynnal asesiadau llety neu os yw’r awdurdodau lleol eraill hefyd yn cynnal eu hasesiadau ar yr un pryd.
Mae’n bwysig bod yr anghenion mae aelodau’r gymuned yn eu datgan yn cael eu hystyried yn briodol a bod yr awdurdodau lleol perthnasol yn gweithio gyda’i gilydd i benderfynu lle dylid nodi’r galw am lety yn briodol. Pan fo galw wedi’i nodi am lety mewn awdurdod arall, rhaid ei gofnodi, a rhaid rhoi’r manylion i’r awdurdod perthnasol.
Mae hyn yn debyg o fod yn broses ddwyffordd gyda’r naill awdurdod a’r llall angen cyfathrebu’n effeithiol â’i gilydd. Dylid deall sut yr ymdrinnir ag amgylchiadau o’r fath cyn ymgymryd â’r arolwg.
Gallai’r broses hon olygu bod yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael gwybod gan awdurdodau lleol eraill am aelwydydd newydd y disgwylir iddynt gyrraedd eu hardal, ac i’r gwrthwyneb. Bydd atebion i gwestiwn D5 hefyd yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am y pwynt hwn. Yn olaf, gall rhestr aros yr awdurdodau lleol am leiniau hefyd gynnwys gwybodaeth a fydd yn ychwanegu at y ffigur hwn.
Bydd nifer yr aelwydydd a nodir yn llenwi rhes L Atodiad 5.
Y galw am lety o wersylloedd diawdurdod
Pan fydd arolygon o’r rhai sy’n defnyddio gwersylloedd diawdurdod neu safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio yn dangos y galw am leiniau cartrefi symudol mewn awdurdod lleol lle maen nhw’n byw ar hyn o bryd, bydd angen i awdurdodau lleol wneud yn siŵr nad oes gan aelodau’r gymuned lety arall yn rhywle arall.
Os oes gan yr aelwydydd hyn lety arall yn rhywle arall, ni fyddai eu dymuniad am leiniau mewn ardal wahanol fel arfer yn cael ei ystyried yn angen, gan na fyddent yn ddigartref nac mewn perygl o fod yn ddigartref – gweler cylchlythyr cynllunio Llywodraeth Cymru 005/2018, “Cynllunio ar gyfer Safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn”.
Dylid cofnodi’r galw sy’n deillio o wersylloedd diawdurdod a safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio yn ardal yr awdurdod lleol yn rhesi G a H Atodiad 5.
Mae hyn yn cynnwys safleoedd heb unrhyw sicrwydd o amddiffyniad yn erbyn gorfodaeth cynllunio neu’r rhai ar safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio yn dod i ben o fewn pum mlynedd.
Gorlenwi
Mae galw am leiniau preswyl hefyd yn debygol o ddeillio o orlenwi, naill ai mewn safleoedd presennol neu dai confensiynol. Oherwydd yr etifeddiaeth o ddiffyg safleoedd, mae llain llawer sydd ar safleoedd ar hyd a lled Cymru yn orlawn. Mae’r sefyllfa hon yn gallu arwain at oblygiadau iechyd a diogelwch difrifol, gan gynnwys y risg o dân os rhoddir gormod o garafannau ar lain.
Nid oes diffiniad cyfreithiol o orlenwi yng nghyd-destun cartref symudol. Fodd bynnag, gellir defnyddio’r canlynol fel canllaw.
At ddibenion y canllawiau hyn, gellir ystyried bod angen ardal cysgu ar wahân ar gyfer pob un o’r canlynol:
- Pob cwpl sy’n oedolion (priod neu’n cyd-fyw).
- Unrhyw un arall 16 oed neu hŷn.
- Pob pâr o blant dan 16 oed o’r un rhyw.
- Pob pâr o blant dan 10 oed beth bynnag fo’u rhyw.
- Unrhyw blentyn arall.
Mewn cartrefi symudol, gall fod yn fwy cywir ystyried gwahanu ardaloedd cysgu, yn hytrach nag ystafelloedd gwely. Gellir hefyd ystyried lliniaru unrhyw orlenwi a ganfuwyd drwy ychwanegu cartref symudol arall ar y llain, os yw’r llain yn addas ar gyfer cynnydd o’r fath mewn meddiannaeth.
Bydd angen i awdurdodau lleol fod yn dawel eu meddwl y gall aelwyd osod cartref symudol arall ar y llain dim ond os yw gwneud hynny’n dal i gydymffurfio â’r canllawiau Diogelwch Tân fel y cyfeirir atynt yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ‘Cynllunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub lleol os nad ydynt yn siŵr a fyddai’n ddiogel gosod cartrefi symudol ychwanegol ar y llain. Os nad yw aelwydydd yn gallu gosod cartref symudol ychwanegol yn ddiogel ar eu llain neu mewn man arall ar y safle a bod eu llety presennol yn orlawn, bydd hyn yn arwydd o alw ychwanegol am leiniau preswyl.
Dylai fod yn symlach asesu gorlenwi mewn tai confensiynol a bydd awdurdodau tai lleol wedi arfer cynnal asesiadau o’r fath drwy eu swyddogaethau tai presennol.
Fodd bynnag, pan fydd gorlenwi’n digwydd mewn tai oherwydd natur aelwyd newydd, bydd angen i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol y gallai hyn fod yn alw ychwanegol am leiniau preswyl. Os yw’r gorlenwi yn ganlyniad i blant dibynnol yn dod yn oedolion, efallai bydd yr aelwydydd newydd hyn yn mynegi dymuniad i fyw mewn llety cartref symudol. Bydd Adran B yr holiadur yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol am farn cyfranogwyr am orlenwi.
Cyfrifo’r angen cyffredinol am leiniau preswyl
Gellir cyfrifo’r galw presennol am leiniau preswyl drwy adio’r galw a geir drwy’r rhai ar wersylloedd diawdurdod (rhes G), safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio (rhes H), gorlenwi (rhes I), y rhai sydd â gwrthwynebiad diwylliannol i’w llety presennol (rhes J) a’r aelwydydd a ddisgwylir i’r ardal (rhes K).
Dylai cyfanswm y galw am leiniau preswyl lenwi rhes N yn Atodiad 5.
Y galw am leiniau preswyl yn y dyfodol
Dylai’r atebion gan gyfranogwyr o dan adran D yr holiadur ddangos y twf disgwyliedig yn y dyfodol. Bydd hyn yn rhoi amcangyfrif o’r aelwydydd ychwanegol dros y cyfnod 5 mlynedd nesaf.
Mae cyfradd twf net aelwydydd cenedlaethol o 2.25% wedi cael ei defnyddio at ddibenion enghreifftiol yn Atodiad 5 ar y sail y gallai hyn fod yn waelodlin resymol ar gyfer twf blynyddol mewn cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol ddadansoddi’r data demograffig a roddir gan aelodau’r gymuned i ystyried eu cyfradd twf tebygol yn lleol dros y cyfnod adolygu. Mae tystiolaeth i gefnogi’r ffaith bod y gyfradd twf aelwydydd net genedlaethol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn gallu amrywio o 1.5% i 2.5%, gyda phoblogaethau iau yn dangos cyfraddau twf aelwydydd blynyddol uwch.
Dylid defnyddio amcangyfrif o nifer yr aelwydydd sy’n cynrychioli galw am leiniau preswyl yn y dyfodol yn rhes O Atodiad 5. Mae colofn gyntaf rhes O yn adlewyrchu nifer yr aelwydydd sydd ar hyn o bryd yn meddiannu lleiniau awdurdod lleol yn yr ardal ynghyd â’r galw presennol am leiniau preswyl, llai’r lleiniau gwag disgwyliedig ar leiniau awdurdod lleol a geir yn rhes D.
Mae’n anochel y bydd rhai aelwydydd yn cael eu diddymu dros amser. Dylai awdurdodau lleol ystyried cyfraddau diddymu tebygol drwy ystyried eu cyfradd trosiant lleiniau yn rhes D. Pan fydd aelwydydd ar leiniau wedi cael eu diddymu, byddai’r llain wedi cael ei hailddyrannu fel rhan o’r trosiant hwn.
Gan fod yr amcangyfrif o dwf aelwydydd yn seiliedig ar ddymuniadau a chynlluniau aelodau’r gymuned, mae’n anodd rhagweld twf yn gywir dros 5 mlynedd. Fodd bynnag, mae’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn ddarn pwysig o dystiolaeth sy’n sail i Gynlluniau Datblygu Lleol, sy’n gweithredu o fewn amserlen hirach. Argymhellir, pan fo’n bosibl, defnyddio’r un gyfradd twf amcangyfrifedig yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a’r Cynllun Datblygu Lleol perthnasol.
Gellir cyfrifo’r angen ychwanegol am leiniau aelwydydd (rhes M) drwy dynnu’r nifer presennol o aelwydydd yng ngholofn gyntaf rhes L o’r amcangyfrif o nifer yr aelwydydd yn y dyfodol yn ail a thrydedd golofn y rhes. Bydd y gwerthoedd hyn yn llenwi rhesi O a P yn Atodiad 5.
Gellir cyfrifo’r angen cyffredinol am leiniau preswyl ychwanegol drwy adio’r galw presennol am leiniau preswyl a’r amcangyfrif o’r angen am leiniau ychwanegol yn y dyfodol, wedyn tynnu’r cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl. Bydd balans y ffigurau hyn yn rhoi’r angen nas diwallwyd ar gyfer y cyfnod adolygu (rhes R) a thros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol (rhes S), fel y nodir ar waelod yr enghraifft yn Atodiad 5.
Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau’r angen nas diwallwyd a nodwyd ar gyfer cyfnod adolygu’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cyn gynted ag y bo modd. Dylid darparu’r angen tymor hirach yn ystod oes y Cynllun Datblygu Lleol.
Cyfrifo’r angen tramwy
Bydd yr asesiad o’r angen am lety yn nodi a oes angen mwy o leiniau o fewn ardal awdurdod lleol, yr angen am leiniau tramwy, neu ddim angen am y naill na’r llall.
Gall rhai gwersylloedd godi dros dro mewn ardal awdurdod lleol heb nodi o reidrwydd bod angen unrhyw ddarpariaeth barhaol neu dramwy yn yr ardal, er enghraifft, lle mae’r meddianwyr yn “pasio drwodd.” Bydd dal angen i awdurdodau lleol ystyried a ddylid darparu mannau aros dros dro/a negodwyd lle mae gwersylloedd o’r fath yn codi, neu a fyddai safle tramwy yn fwy cynaliadwy yn achos arosiadau amlach. Mae rhagor o wybodaeth am ymateb i achosion o wersylla diawdurdod ar gael yng nghanllawiau Rheoli Gwersylloedd Diawdurdod Llywodraeth Cymru.
Mae mannau aros dros dro/a negodwyd yn gyfleusterau tymor byr y gellir eu defnyddio i roi llety i’r rhai sy’n pasio drwodd neu i adleoli gwersyll sydd wedi codi mewn lleoliad amhriodol neu anniogel. Dylai awdurdodau lleol fynd ati’n rhagweithiol i adnabod y mannau aros dros dro/a negodwyd hyn ymlaen llaw i sicrhau bod modd anfon gwersylloedd yno cyn gynted ag y bo angen.
Os bydd awdurdod lleol yn cael llawer o wersylloedd diawdurdod tymor hirach, gallai hyn ddangos bod angen safleoedd tramwy. Yn wahanol i fannau aros dros dro/a negodwyd, mae safleoedd tramwy yn gyfleusterau parhaol sy’n caniatáu i aelwydydd fyw ynddynt am hyd at dri mis ar y tro. Gall safleoedd tramwy fod yn gymwys i gael cyllid Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Llywodraeth Cymru a byddai awdurdodau lleol yn gallu codi rhent a thaliadau gwasanaeth wythnosol ar breswylwyr.
Byddid yn canfod bod angen safleoedd tramwy os oes llawer o wersylloedd yn codi yn yr ardal, yn enwedig rhwng mis Mawrth a mis Hydref, ac yn arbennig os ydynt yn para mwy nag ychydig ddyddiau.
Efallai fod gan rai sy’n defnyddio gwersylloedd diawdurdod mewn ardal awdurdod lleol ganolfannau awdurdodedig parhaol mewn llefydd eraill ac felly ni fyddent yn cael eu hystyried yn rhai y mae angen lleiniau preswyl arnynt yn ardal yr arolwg. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod y grŵp hwn yn dangos yn glir bod angen lleiniau tramwy yn yr ardal.
Mae’n debyg y bydd angen cydweithio ag awdurdodau lleol eraill er mwyn gallu deall yn gywir yr angen am safleoedd tramwy. Mae Adran E yr holiadur yn ceisio cofnodi gofynion tramwy Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru, a ddylai helpu i roi sylfaen dystiolaeth o anghenion tebygol mewn awdurdodau lleol eraill. Bydd angen rhannu’r data hwn yn ardal y bartneriaeth ac ag awdurdodau lleol eraill lle rhagwelir y bydd angen tramwy.
Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu rhwydwaith o safleoedd tramwy yn y lleoliadau mwyaf priodol o amgylch Cymru.
Dylai data Cyfrif Carfannau hefyd roi gwybodaeth ddefnyddiol iawn am yr anghenion tramwy tebygol yn ardal yr awdurdod lleol. Y rheswm am hyn yw y bydd elfen ‘cofnod o safleoedd diawdurdod’ y system Cyfrif Carfannau yn cofnodi lleoliadau gwersylloedd pan fydd awdurdodau lleol yn ymateb iddynt. Bydd adolygu’r data hwn yn rhoi nifer y gwersylloedd a gafodd awdurdodau lleol drwy gydol blwyddyn y cyfrif, y lleoliadau mwyaf poblogaidd, nifer y carafannau a oedd ym mhob gwersyll a hyd a rheswm yr arhosiad. Mae modd dadansoddi’r wybodaeth hon at ddibenion yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i helpu’r awdurdod lleol i ddeall a oes angen safle tramwy a pha faint fyddai ei angen.
Wrth gyfrifo’r angen nas diwallwyd am leiniau tramwy, rhaid i awdurdodau lleol ystyried cyfran yr angen sy’n deillio o bob cymuned Sipsiwn a Theithwyr benodol, gan fod hyn yn debygol o effeithio ar ffurfweddiad y safleoedd y bydd angen eu darparu. Er enghraifft, oherwydd gofynion dylunio a rheoli penodol Siewmyn Teithiol a safleoedd Teithwyr Newydd, maen nhw’n debygol o fod angen safleoedd sy’n diwallu eu hanghenion penodol.
