Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Diben yr atodiad hwn yw amlinellu newidiadau i’r ffordd y mae rhaglen Gofyn a Gweithredu yn cael ei chyflawni. Dylid ystyried yr atodiad hwn ynghyd â chanllawiau presennol Gofyn a Gweithredu a’i ystyried ar gyfer rhoi’r rhaglen ar waith yn eich rhanbarthau yn y dyfodol.

Gofyn a Gweithredu yn y dyfodol

Mae'r Rhaglen Gofyn a Gweithredu yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Lywodraethu (Llywodraeth Cymru, 2021) yn datgan ei hymrwymiadau a'i blaenoriaethau allweddol ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Un o'r blaenoriaethau allweddol yw parhau i gyflwyno'r rhaglen Gofyn a Gweithredu, gan gynnwys i awdurdodau yng Nghymru nad ydynt wedi’u rhestru ymhlith yr “awdurdodau perthnasol”.

Rhoi Gofyn a Gweithredu ar Waith

Mae Gofyn a Gweithredu bellach yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol o fewn yr holl awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Y nod cychwynnol oedd hyfforddi dros 35,000 o weithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau cyhoeddus dros bum mlynedd, drwy'r consortia hyfforddi rhanbarthol. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, mae 12,000 o unigolion wedi'u hyfforddi drwy'r rhaglen ac wrth i'r broses o gyflwyno'r prosiect barhau bydd hyn yn cynyddu. Mae'r newid i ddysgu rhithwir o fewn awdurdodau perthnasol wedi golygu nad yw pandemig COVID:19 wedi cael fawr o effaith ar ddarparu hyfforddiant.

Mae hyfforddiant Gofyn a Gweithredu yn parhau i gael ei ddarparu drwy fodel lledaenu rhanbarthol. O'r herwydd, mae dau fath o hyfforddiant; Hyfforddi'r 'Hyfforddwr' a Hyfforddiant Ymwybyddiaeth y mae'r ‘Hyfforddwyr’ wedyn yn ei ddarparu i'r gweithlu o fewn cylch gwaith eu consortia hyfforddi. Mae hyfforddiant y rhai sy'n dilyn rhaglen Hyfforddi'r Hyfforddwr yn parhau i gael ei achredu gan Agored Cymru.

Mae'r cwrs Hyfforddi'r Hyfforddwr "Gofyn a Gweithredu" wedi'i ddatblygu gan ddarparwr canolog ar ran Llywodraeth Cymru a’r darparwr hwnnw fydd yn ei gyflwyno hefyd.  Bydd yr un cwrs (wedi'i addasu yn ôl anghenion lleol) yn cael ei ddarparu ym mhob rhanbarth; i greu consortia hyfforddi rhanbarthol.  Ar ôl hynny, bydd y consortia hyfforddi rhanbarthol yn cyflwyno hyfforddiant "Gofyn a Gweithredu" yn eu hardal leol/awdurdod perthnasol ar strwythur a phatrwm sy'n addas i anghenion lleol.

Mae'n bwysig cydnabod efallai na fydd "Gofyn a Gweithredu" yn edrych yr un fath ym mhob awdurdod perthnasol.  Mae grwpiau a strwythurau cleientiaid yn amrywio, yn ogystal â’r cynulleidfaoedd a flaenoriaethir. Dylai pob awdurdod perthnasol ystyried y ffordd orau o gynnig "Gofyn a Gweithredu" o fewn ei swyddogaethau a’i rolau proffesiynol amrywiol.

Fodd bynnag, dylai pob amrywiad fod yn seiliedig ar yr un sylfaen. Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gofyn am ymateb gwasanaeth cyhoeddus. Mae hyder proffesiynol i adnabod y problemau hyn, i holi amdanynt ac i ymateb yn effeithiol yn hanfodol ar gyfer arfer clinigol a gofal cymdeithasol da.

Nodau ac Amcanion Gwerthusiad Gofyn a Gweithredu

Cynigiodd Llywodraeth Cymru’r cyfle i gynnal gwerthusiad annibynnol o Raglen Gofyn a Gweithredu i dendrau yn 2020, a’r contractiwr llwyddiannus oedd y Centre for Regional Economic and Social Research (CRESR), canolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil polisi o fewn Prifysgol Sheffield Hallam.

Amcanion y gwaith gwerthuso oedd:

  • ymchwilio i effeithiolrwydd gweithredu'r hyfforddiant hyd hynny
  • ymchwilio i effaith hyfforddiant Gofyn a Gweithredu ar unigolion ac yna asesu pa mor llwyddiannus yw’r hyfforddiant o ran cyflawni nodau Gofyn a Gweithredu
  • ymchwilio i ba mor effeithiol yw’r hyfforddiant o ran cyfrannu at amcanion y Strategaeth Genedlaethol

Canlyniadau'r Gwerthusiad

Roedd y mwyafrif llethol yn cytuno ar bwysigrwydd Gofyn a Gweithredu a'r angen amdano. Teimlid fod rhoi trais a cham-drin ar yr agenda o fewn sefydliadau yn flaenoriaeth ac roedd llawer o'r farn bod Gofyn a Gweithredu yn ffordd effeithiol o gyflawni hyn. Teimlid fod Gofyn a Gweithredu yn cyd-fynd yn dda â'r hyfforddiant trais a cham-drin presennol a bod y cysondeb y byddai'r dull gweithredu hwn yn ei gynnig ledled Cymru yn werthfawr. Mae Gofyn a Gweithredu yn cael ei ystyried yn rhaglen bwysig a gwerthfawr sy'n cael effaith ledled Cymru ar y rhai sy'n cymryd rhan, yn unigol ac ar lefel sefydliadol sector. Mae angen parhau i gefnogi a buddsoddi yn y broses o gyflwyno Gofyn a Gweithredu ledled Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol perthnasol yn cael yr hyfforddiant hwn.

Barnwyd mai model Hyfforddi'r Hyfforddwr oedd y dull mwyaf priodol o ddarparu a lledaenu'r hyfforddiant.

Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ac effaith gadarnhaol Gofyn a Gweithredu yn y dyfodol gwnaed nifer o argymhellion. 

Roedd y 15 argymhelliad yn y gwerthusiad yn ymdrin â phopeth sy'n ymwneud â chyflawni a chyflwyno, cynnwys y cwrs, deunyddiau hyfforddi a gwerthuso. Mae'r atodiad hwn wedi'i gyhoeddi i ymgorffori'r argymhellion yn y dull a awgrymir ar gyfer darparu Gofyn a Gweithredu.

Newidiadau a argymhellir

Bydd nifer o argymhellion y gwerthusiad yn cael eu cynnwys fel rhan o fanyleb newydd y contract wrth gyflawni Gofyn a Gweithredu dros y 3 blynedd nesaf.

Bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

  • darparu sesiynau hyfforddi rhanbarthol cymysg ar gyfer Grŵp 2 a 3 o'r model Hyfforddi'r Hyfforddwr gyda rhybudd ymlaen llaw ynghylch pryd y bydd sesiynau'n cael eu cyflwyno
  • parhau â hyfforddiant Gofyn a Gweithredu ar-lein, gall hyfforddiant wyneb yn wyneb ddigwydd hefyd a dewis y rhanbarthau fyddai sut y byddai sesiynau'n cael eu darparu
  • bydd cyrsiau gloywi ar-lein ar gael i bawb fu ar gwrs Hyfforddi'r Hyfforddwr ar ôl cyfnod o ddwy flynedd
  • cyfarfodydd monitro chwarterol ar gynnydd rhanbarthol o ran cyflawni'r rhaglen Gofyn a Gweithredu
  • bydd Grŵp Llywio Gofyn a Gweithredu yn parhau fel mecanwaith cymorth ar gyfer pob rhanbarth
  • datblygu ffordd o alluogi hyfforddwyr (rhai nad ydynt yn arbenigwyr ac arbenigwyr trydydd sector) i adolygu ffurflenni gwerthuso yn rheolaidd i'w cefnogi i ddal ati i ddatblygu hyfforddiant Ymwybyddiaeth
  • adolygiad o gynnwys y sesiynau Hyfforddi'r Hyfforddwr a'r sesiynau ymwybyddiaeth presennol
  • adolygiad o elfen feicro-addysgu y sesiynau Hyfforddi'r Hyfforddwr
  • adolygiad o ddeunyddiau atodol mewn cydweithrediad ag aelodau o'r Grŵp Llywio
  • cynnal gwaith monitro a gwerthuso parhaus yn genedlaethol i fonitro canlyniadau tymor hwy. Bydd y rhain yn cael eu rheoli o fewn y grŵp llywio a thrwy gyfarfodydd monitro chwarterol gyda deiliad y contract

Newidiadau i ofynion Hyfforddi'r Hyfforddwr

Fel rhan o'r contract blaenorol, gwnaed nifer o newidiadau i'r model Hyfforddi'r Hyfforddwr er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd. Mae hyn wedi cynnwys y canlynol:

  • mae rhagofynion wedi'u gosod ar gwrs Hyfforddi'r Hyfforddwr Grŵp 2. Rhaid i ddysgwyr gael o leiaf 6 mis o brofiad o ddarparu hyfforddiant a neu ddysgu achrededig mewn addysg neu hyfforddiant. Gellir gweld yr Uned Hyfforddi'r Hyfforddwr Grŵp 2 ddiwygiedig
  • er mwyn cadw cysondeb o fewn yr unedau a'r grwpiau, ychwanegwyd rhagofynion at gwrs Hyfforddi'r Hyfforddwr Grŵp 3. Rhaid i ddysgwyr gael o leiaf 6 mis o brofiad o ddarparu hyfforddiant a neu ddysgu achrededig mewn addysg neu hyfforddiant A dylent fod wedi dilyn cwrs Hyfforddi'r Hyfforddwr Grŵp 2
  • rhaid i'r rhai y disgwylir iddynt ddarparu'r hyfforddiant grŵp 3 (Eiriolwyr "Gofyn a Gweithredu") hefyd fod wedi cwblhau cwrs Hyfforddi'r Hyfforddwr ("Gofyn a Gweithredu") Grŵp 2

Darparu Gofyn a Gweithredu i Awdurdodau Nad Ydynt yn Awdurdodau Perthnasol

Ers rhoi’r rhaglen ar waith yn 2016, gwnaed sawl cais i Lywodraeth Cymru i ehangu cylch gwaith yr hyfforddiant i gynnwys y gweithluoedd y tu hwnt i'r rhai a enwir ymhlith yr “awdurdodau perthnasol”. Fel ffordd o ehangu Gofyn a Gweithredu i unrhyw weithiwr proffesiynol yng Nghymru, cytunwyd ar hyn bellach fel rhan o flaenoriaethau ac ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu.

Dylai consortia hyfforddi rhanbarthol ystyried y canlynol:

  • dim ond hyfforddwyr achrededig "Gofyn a Gweithredu" a ganiateir i ddarparu hyfforddiant i awdurdodau nad ydynt yn awdurdodau perthnasol a dylid eu cynnig drwy'r cynlluniau hyfforddi rhanbarthol yn unig
  • dylai hyfforddwyr achrededig sicrhau bod y pecyn hyfforddi diweddaraf ar gael at eu defnydd, eu bod yn ymgorffori unrhyw ddiwygiadau ac yn sicrhau bod unrhyw hyfforddiant gloywi yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen briodol
  • dim ond os ydynt yn cefnogi'r awdurdodau perthnasol fel rhan o'r broses genedlaethol o gyflwyno "Gofyn a Gweithredu" y bydd darparwyr sydd â hyfforddwyr "Gofyn a Gweithredu" achrededig yn cael hysbysebu eu bod yn gallu cymryd rhan yn y gwaith hwn
  • dylid parhau i flaenoriaethu gwaith i gefnogi'r cynllun hyfforddi rhanbarthol ac mae Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried bod staff o fewn awdurdodau perthnasol yn flaenoriaeth

Dylid hwyluso mynediad i awdurdodau nad ydynt yn awdurdodau perthnasol at hyfforddiant "Gofyn a Gweithredu" drwy'r tîm rhanbarthol perthnasol i sicrhau nad oes ffafriaeth o ran mynediad dylid darparu rhestr i awdurdodau nad ydynt yn awdurdodau perthnasol sydd â diddordeb o'r hyfforddiant sydd ar gael yn eu rhanbarthau.

Er mwyn cofnodi’r ehangiad hwn o ran darparu hyfforddiant Gofyn a Gweithredu, dylid cynnwys y niferoedd hyn wrth gyflwyno'r cynllun hyfforddi blynyddol a ddarperir gan gonsortia rhanbarthol i fonitro faint o bobl ychwanegol sy'n cael eu cyrraedd drwy roi hyfforddiant "Gofyn a Gweithredu" i awdurdodau nad ydynt yn awdurdodau perthnasol.

Dyraniad Cyllid Grant Cymhorthdal

Mae'r Grant Cymhorthdal Gofyn a Gweithredu wedi'i gynllunio i’w gwneud yn bosibl i awdurdodau perthnasol dalu am gyfraniad y trydydd sector i ddarparu ar y cyd ac felly mae'n penderfynu faint o hyfforddiant y gellir ei ddarparu'n rhanbarthol. Ers cyflwyno'r rhaglen, mae'r grant wedi cael ei danddefnyddio’n aml a thynnodd rhanbarthau sylw at faterion yn ymwneud â'r swm a gawsant a'r ffordd y gweinyddwyd y grant.

Er mwyn gwella'r defnydd o'r Grant Cymhorthdal, cytunwyd y bydd dyraniad ychwanegol a chyfartal yn cael ei ddarparu i bob rhanbarth nawr er mwyn parhau i gefnogi'r gwaith o'i gyflwyno. Mae telerau ac amodau diwygiedig y grant wedi'u newid i ganiatáu mwy o hyblygrwydd. Mae Awdurdodau perthnasol ac arweinwyr hyfforddiant yn gyfrifol am reoli a dyrannu'r grant ar sail anghenion yn y rhanbarth a thrwy drafod gyda'r is-grŵp hyfforddi rhanbarthol. Rhaid defnyddio'r Grant ar gyfer cyflwyno grŵpiau 2 a 3 o'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn unig.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda chydgysylltwyr rhanbarthol i sicrhau bod egwyddorion allweddol yn dal i gael eu bodloni drwy gyfarfodydd monitro grantiau chwarterol. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

  • defnyddir staff arbenigol y sector lle bynnag y bo modd i sicrhau bod staff Awdurdodau Perthnasol yn cael y cymorth, yr wybodaeth ychwanegol a'r cefndir priodol wrth iddynt gynyddu eu gwybodaeth eu hunain
  • mae asiantaethau arbenigol y Trydydd Sector yn parhau i fod yn bartneriaid mewn consortia hyfforddi ac yn cael pob cyfle i gyd-ddarparu ac yn parhau i gael mynediad i'r grant cymhorthdal

Cefndir Polisi

Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hail Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Amlinellir y ddyletswydd i’w chyhoeddi yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae'r Strategaeth Genedlaethol yn nodi chwe amcan sy'n seiliedig ar dri diben y Ddeddf - atal; amddiffyn; a chymorth.

Dyma amcanion y strategaeth:

Amcan 1

Herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohonynt.  

Amcan 2

Cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.

Amcan 3

Cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin eraill i gyfrif a chefnogi'r rhai a allai ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.

Amcan 4

Blaenoriaethu ymyrryd yn gynnar a dulliau ataliol.

Amcan 5

Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.

Amcan 6

Darparu mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau ledled Cymru sydd wedi’u hariannu’n briodol, o ansawdd da, wedi’u harwain gan angen, wedi’u seilio ar gryfder, yn groestoriadol ac yn ymatebol.

Un o’r mecanweithiau allweddol ar gyfer cyflwyno Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yw Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol VAWDASV . Nod y Fframwaith (Llywodraeth Cymru, 2019) yw sicrhau bod hyfforddiant cyson, wedi'i ledaenu'n gymesur ar gael i'r awdurdodau perthnasol a nodir o dan y Ddeddf gyda'r egwyddor allweddol o wella dealltwriaeth o drais a cham-drin yn y gweithlu cyffredinol, ac felly gwella'r ymateb i oroeswyr. Yn gyffredinol, mae'r Fframwaith yn gymwys i bob awdurdod perthnasol sy'n wahanol i’w gilydd o ran eu rôl broffesiynol a'u cysylltiad â dioddefwyr trais a cham-drin. Diffinnir awdurdodau perthnasol fel awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, awdurdodau tân ac achub ac Ymddiriedolaethau'r GIG. Mae gan Awdurdodau Perthnasol ddyletswydd statudol i ddarparu hyfforddiant cyson i'w holl staff fel y nodir yn Neddf VAWDASV 2015.

Mae'r Fframwaith yn disgrifio Gofyn a Gweithredu fel " “Proses o ymchwilio wedi ei thargedu ar draws Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a phroses o ymchwilio fel mater o drefn o fewn gwasanaethau mamau a bydwreigiaeth, lleoliadau iechyd meddwl a chamdriniaeth plant (Llywodraeth Cymru, 2019, tud.3). Mae Gofyn a Gweithredu yn arbennig o berthnasol i Amcanion 1, 4 a 5 y Ddeddf.

Mae elfen 'Gofyn a Gweithredu' y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn ymwneud â Grwpiau 2 a 3 o'r Fframwaith. Mae hyfforddiant i'r rhai yng Ngrŵp 2 a Grŵp 3 wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol sy'n debygol o ddod i gysylltiad uniongyrchol ac aml â dioddefwyr posibl cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd, gan gynnwys trais yn erbyn menywod a thrais rhywiol a’i fwriad yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol iddynt gyflawni eu dyletswydd o 'ofyn' a 'gweithredu’.

Nod yr hyfforddiant Gofyn a Gweithredu yw gwella dealltwriaeth y gweithlu cyffredinol, gan gynnwys staff y sector cyhoeddus. Dylai hyfforddiant Grŵp 2 gefnogi staff i adnabod dangosyddion sawl math o drais a cham-drin a chymryd camau priodol. Mae hyfforddiant Grŵp 3 ar gyfer eiriolwyr 'Gofyn a Gweithredu' sy’n gallu cefnogi cydweithwyr sydd wedi'u hyfforddi i "Ofyn a Gweithredu”. Bydd gan yr "eiriolwyr" hyn well gwybodaeth ar gyfer cynghori'r rhai sydd wedi'u hyfforddi i "Ofyn a Gweithredu" ynghylch a ydynt wedi cymryd pob cam priodol, wedi ystyried anghenion holl aelodau'r teulu ac wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i wella diogelwch a lles y sawl sy’n dioddef camdriniaeth.

Nodau "Gofyn a Gweithredu" yw:

  • cynyddu cyfraddau nodi’r rheiny sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • cynnig atgyfeiriadau ac ymyriadau i'r rhai a nodwyd, sy'n darparu cymorth arbenigol yn seiliedig ar risg ac angen defnyddiwr y gwasanaeth
  • dechrau creu diwylliant ar draws y sector gwasanaeth cyhoeddus sy’n deall pwysigrwydd mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, lle mae datgelu'n cael ei dderbyn a'i hwyluso a lle mae cymorth  yn briodol ac yn gyson
  • gwella'r ymateb i'r rhai sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sydd ag anghenion cymhleth eraill megis camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl
  • ymgysylltu’n rhagweithiol â’r rheiny sy'n agored i niwed ac yn gudd, ar y cyfle cyntaf, yn hytrach nag ymateb yn adweithiol i'r rhai sydd mewn argyfwng neu mewn perygl bod niwed difrifol ar fin ei wneud iddynt