Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Tachwedd 2025.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am eich barn ar y canllawiau gweithredol drafft ynghylch teithio gan ddysgwyr 2025.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar ail argraffiad drafft y Canllawiau Gweithredol Teithio i Ddysgwyr. Mae'r Canllawiau drafft yn gwneud newidiadau i argraffiad cyntaf y Canllawiau a gyhoeddwyd yn 2014. Mae'r rhan fwyaf o'r diwygiadau hyn yn adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi sydd wedi digwydd ers i'r Canllawiau ddod i rym neu'n egluro gofynion sy'n ymwneud â deddfwriaeth a oedd ar waith bryd hynny.
Ein prif nodau wrth adolygu'r canllawiau hyn yw sicrhau bod y canllawiau:
- yn cyd-fynd â, ac yn ymhelaethu ar y datblygiadau deddfwriaethol sydd wedi digwydd ers i'r canllawiau gael eu cyhoeddi'n wreiddiol yn 2014
- darparu eglurder ar ddarpariaeth trafnidiaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
- cryfhau canllawiau ar Adran 10 (hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg) ac Adran 11 (hyrwyddo teithio cynaliadwy) o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)
- adlewyrchu rhai o'r arferion da a nodwyd ledled Cymru i annog cydweithio a gweithio mewn partneriaeth rhwng partneriaid cyflawni
Nodwch i ni sylwi ar gamgymeriad yn fersiwn Gymraeg y ddogfen ymgynghori. Roedd cyfeiriad anghywir at y trothwy milltiroedd ar gyfer dysgwyr (tud19, para 23). Mae hwn bellach wedi’i gywiro. Bydd yr ymgynghoriad nawr yn cau ar 10 Medi 2025.
