Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Gwisg Ysgol i ddod yn statudol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y canllawiau diweddaraf, sy'n gryfach, ac yn destun ymgynghoriad 12 wythnos yn ystod yr hydref, yn canolbwyntio ar fforddiadwyedd. Byddant hefyd yn mynd i'r afael â nifer o faterion gwahanol y mae angen i ysgolion eu hystyried.

Unwaith eto, mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi annog rhieni a/neu ofalwyr plant cymwys i gysylltu â’r cyngor lleol i drafod gwneud cais ar gyfer cyllid o'r Gronfa newydd, sef y Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad.

Mae'r Grant hwn yn rhoi £125 i rieni a/neu ofalwyr brynu gwisg ysgol, cyfarpar, dillad chwaraeon a dillad i’w plant ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol.

Bydd plant sy'n derbyn gofal a dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gymwys am y grant hwn os byddant yn mynd i flwyddyn derbyn yn yr ysgol gynradd, yn mynd i flwyddyn 7 yn yr ysgol uwchradd neu’n 4 oed neu'n 11 oed mewn ysgolion arbennig, Unedau Anghenion Addysgol Arbennig, neu Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y disgyblion hynny sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion yn greiddiol i'n cenhadaeth genedlaethol - sef codi safonau.

“Mae  llawer o wahanol gostau’n wynebu rhieni a gofalwyr, o ran gwisg ysgol a gweithgareddau y tu fewn a'r tu allan i’r ysgol.

“Mae gwneud y canllawiau gwisg ysgol yn statudol yn un o'r ffyrdd y gallwn ni helpu i leihau'r costau hyn.

“Rwy'n annog rhieni a/neu ofalwyr plant cymwys i ddal ati i wneud ceisiadau am gyllid Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad. Dyma arian y mae ganddynt hawl iddo. Gallai'r arian wneud gwahaniaeth go iawn o ran costau gwisg ysgol a chyfarpar, dillad chwaraeon a dillad ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol hefyd.”