Canllawiau i Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru
Hoffem glywed eich barn am y canllawiau y mae Gweinidogion Cymru yn eu cyhoeddi ar gyfer Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru.
Ar y dudalen hon
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2026
Camau i’w cymryd: 18 Medi 2026
Sut i ymateb
E-bostiwch/postiwch eich ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i’r cyfeiriad isod i gyrraedd erbyn 18 Medi 2026 fan hwyraf.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu
mewn ieithoedd eraill.
Gellir gweld y dogfennau ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Etifeddiaeth Mwyngloddio, Dŵr a Llifogydd
Y Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: YmgyngoriadauTommeniNasDefnyddir@llyw.cymru
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael ei gyhoeddi/eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb ac y byddwn yn eu cynnwys.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan ymrwymiad cyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hynny a gyhoeddir yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata eraill sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i wneud y canlynol:
- gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, a gweld y data hynny
- mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wallau yn eich data
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn rhai amgylchiadau)
- i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
- i gludadwyedd y data (mewn rhai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw, a sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/
Gair gan y Gweinidog
Mae gan Gymru hanes hir a balch o fwyngloddio. Am genedlaethau, bu’n cymunedau’n pweru'r chwyldro diwydiannol gan greu’r byd modern. Ond mae'r gwaddol hwn wedi gadael miloedd o domenni glo a chwareli ar ei hôl, ac mae rhai’n fygythiad go iawn i ddiogelwch y cyhoedd, yn enwedig yn wyneb newid hinsawdd a phatrymau tywydd cynyddol eithafol.
Mae trychineb Aberfan yn dal yn fyw ar gof y genedl. Mae digwyddiadau mwy diweddar, fel y tirlithriadau yn Tylorstown a Chwmtyleri, yn ein hatgoffa nad yw etifeddiaeth y diwydiant glo yn un hanesyddol yn unig - mae'n fyw ac yn cael ei theimlo gan gymunedau hyd heddiw. Dyna pam rydyn ni'n gweithredu. Trwy ddeddfu a chreu corff cyhoeddus newydd, rydym yn gweithio i sicrhau nad oes yr un teulu yng Nghymru yn byw gyda'r ofn y gallai'r tir o'i gwmpas ansefydlogi oherwydd tomen nas defnyddir.
Mae Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru) 2025 yn drobwynt pwysig. Mae'n ddeddf gref sy'n mynd i'r afael ag olion mwyngloddio gan geisio sicrhau bod tomenni nas defnyddir yn ddiogel. Mae'r Ddeddf yn sefydlu Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru (yr Awdurdod), corff cyhoeddus newydd sy'n gyfrifol am asesu, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir gyda'r bwriad o sicrhau na fydd eu hansefydlogrwydd yn bygwth lles pobl.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y canllawiau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu rhoi i'r Awdurdod. Nod y canllawiau yw helpu'r Awdurdod i ddefnyddio'i bwerau'n effeithiol ac yn dryloyw, fel bod cymunedau'n cael eu diogelu a bod yr Awdurdod yn gweithio mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu barn y rhai y mae'n eu gwasanaethu ac yn cydweithio â nhw.
Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â rhanddeiliaid, partneriaid cyflenwi a'r cyhoedd i lunio'r canllawiau hyn. Bydd eich barn yn ein helpu i sicrhau bod yr Awdurdod yn gweithio mewn ffordd deg, gymesur ac ymatebol i anghenion cymunedau ledled Cymru.
Crynodeb
Pam rydyn ni'n rhoi canllawiau i'r Awdurdod?
Mae Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru) 2025 (y Ddeddf) yn sefydlu fframwaith cyfreithiol newydd i reoli'r risgiau diogelwch sy'n gysylltiedig â thomenni segur ledled Cymru. Mae'n ymateb i hen bryderon am sefydlogrwydd y safleoedd hyn, yn enwedig yn sgil y newid yn yr hinsawdd a thirlithriadau diweddar.
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi canllawiau i'r Awdurdod newydd ac ymgynghori arnynt ar y meysydd canlynol:
- codi ffioedd;
- monitro tomenni cofrestredig;
- asesiadau cychwynnol a llawn
- iawndal am ddifrod neu aflonyddu o achos gweithgareddau monitro neu asesu;
- taliadau mewn cysylltiad â chynnal gweithrediadau; a
- chynlluniau rheoli.
Yn ogystal â'r rhain, mae'r canllawiau yn delio hefyd â:
- apelau;
- categoreiddio tomenni;
- materion trawsffiniol;
- datrys anghydfodau;
- trafod â pherchnogion a phartïon â diddordeb; a
- hysbysiadau.
Nod y canllawiau yw helpu'r Awdurdod i wneud ei ddyletswyddau statudol a sicrhau ei fod yn gweithredu'n gyson, yn gymesur ac yn effeithiol, gyda ffocws clir ar ddiogelu'r cyhoedd a gwydnwch yr amgylchedd. Bydd yn helpu'r Awdurdod i flaenoriaethu ei waith, i gyfathrebu â rhanddeiliaid ac i gymhwyso ei bwerau o dan y Ddeddf.
Am beth mae'r ymgynghoriad hwn?
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn i chi am eich barn am y canllawiau drafft y mae gofyn i Weinidogion Cymru eu rhoi i'r Awdurdod o dan y Ddeddf. Bydd y canllawiau yn helpu'r Awdurdod i wneud ei swyddogaethau statudol, sy'n cynnwys asesu, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir.
Mae'r canllawiau yn nodi sut y dylai'r Awdurdod fynd ati i wneud ei ddyletswyddau mewn ffordd gyson, cymesur a thryloyw. Mae'n ymdrin ag agweddau pwysig fel asesu, categoreiddio, trafod â pherchenogion a chymunedau a chyhoeddi gwybodaeth berthnasol. Y nod yw sicrhau bod yr Awdurdod yn gweithredu'n effeithiol ac mewn ffordd sy'n ennyn hyder y cyhoedd yn y drefn newydd. Rydym yn gwahodd rhanddeiliaid i ymateb, i'n helpu i lunio fersiwn derfynol y canllawiau cyn eu cyhoeddi'n ffurfiol.
Tystiolaeth o blaid newid
Mae profiad hanesyddol, digwyddiadau diweddar a barn rhanddeiliaid wedi dangos yn glir bod angen newid.
Mae etifeddiaeth mwyngloddio Cymru wedi gadael miloedd o domenni segur, llawer ohonynt wrth ymyl cymunedau. Er nad yw rhai yn peri fawr o risg, gwelwyd bod rhai eraill yn ansefydlog, yn enwedig pan fydd hi'n bwrw glaw’n drwm a pharhaus. Mae'r digwyddiadau torcalonnus yn Aberfan yn 1966 yn dal yn atgof poenus o beth all ddigwydd pe bai tomen yn dymchwel. Yn fwy diweddar, cafwyd tirlithriadau yn Nhylorstown a Chwmtyleri gan ddangos bod y risgiau'n dal i fod a bod cyfyngiadau i'r fframwaith deddfwriaethol presennol.
Nid oedd Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969, sef yr hen ddeddf rheoli tomenni, wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â nifer na chymhlethdod y tomenni rydym wedi'u hetifeddu yng Nghymru na heriau newid hinsawdd. Nid oes darpariaethau ynddi ar gyfer monitro rhagweithiol, goruchwyliaeth na safonau cyson ar draws rhanbarthau.
Mae'r trafod helaeth ag awdurdodau lleol, arbenigwyr technegol a chymunedau yr effeithir arnynt wedi cadarnhau bod angen trefn newydd. Mae rhanddeiliaid wedi galw'n gyson am:
- Gorff canolog gyda chyfrifoldeb clir am ddiogelwch tomenni;
- Dull cyson a thryloyw o asesu risg ac ar gyfer ymyrryd pan fydd angen; a
- Cyfathrebu a thrafod yn well â chymunedau sy'n byw ger tomenni nas defnyddir.
Mae'r Ddeddf wedi ymateb i'r dystiolaeth hon drwy sefydlu'r Awdurdod ac yn gofyn bod Gweinidogion Cymru yn rhoi canllawiau i'w helpu gyda'i waith. Bydd y canllawiau yn sicrhau bod gwaith yr Awdurdod yn cael ei lywio gan arferion gorau sy'n gymesur â'r risg ac sy’n ymateb i bryderon y rhai yr effeithir arnynt.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o ymgais Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r canllawiau ar y cyd â rhanddeiliaid. Trwy geisio barn arbenigwyr technegol, awdurdodau lleol, perchenogion tir a chymunedau, rydym am sicrhau bod y canllawiau yn adlewyrchu'r gofynion ymarferol sydd eu hangen i reoli tomenni a blaenoriaethau'r rhai sy'n byw ger tomenni nas defnyddir.
Ble ry'n ni arni nawr?
Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod yr Awdurdod yn barod i ddechrau ar ei waith erbyn Ebrill 2027, yn unol â'r Ddeddf.
Mae'r gwaith paratoi yn cynnwys:
- treialu offer monitro ar gyfer asesu tomenni a chasglu data yn y dyfodol, gan helpu i fwydo'r ffordd y bydd yr Awdurdod yn rheoli risg;
- penodi'r Prif Weithredwr, Cadeirydd y bwrdd a 5 aelod o'r bwrdd, i sefydlu llywodraethu cryf a chyfeiriad strategol;
- llunio systemau a phrosesau gweithredol i gefnogi swyddogaethau craidd yr Awdurdod, megis cofrestru a monitro tomenni ac ymyrryd; a
- casglu tystiolaeth, gan gynnwys mapio a chasglu data, i gefnogi dull cyson sy'n seiliedig ar risg ledled Cymru.
Mae'r camau hyn yn gosod sylfeini Awdurdod fydd yn gweithio ac yn ysgwyddo ei gyfrifoldebau yn effeithiol o'r diwrnod cyntaf.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i ateb y cwestiynau isod.
Eglurder y canllawiau
Cwestiwn 1
A yw'r canllawiau'n glir ynghylch sut mae disgwyl i'r Awdurdod wneud ei swyddogaethau o dan y Ddeddf?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cwestiwn 2
Oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwella siâp y canllawiau a'u gwneud yn haws eu deall?
Oes
Nac oes
Os oes, manylwch:
Cyfathrebu
Cwestiwn 3
A yw'r canllawiau'n glir ynglŷn â'r wybodaeth y mae gofyn i'r Awdurdod ei rhoi neu ei chyhoeddi o dan y Ddeddf?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cwestiwn 4
A yw'r canllawiau'n glir ynghylch y wybodaeth ychwanegol y disgwylir i'r Awdurdod ei rhoi i'r cyhoedd?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Asesu a chategoreiddio
Cwestiwn 5
A yw'r prosesau ar gyfer cynnal asesiadau cychwynnol a llawn yn glir ac yn addas?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cwestiwn 6
A yw'r canllawiau am y meini prawf ar gyfer cofrestru a chategoreiddio yn glir?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cynlluniau Rheoli
Cwestiwn 7
A yw'r canllawiau'n esbonio'n glir y wybodaeth y mae'n rhaid i gynlluniau rheoli ei chynnwys o dan y Ddeddf, yn ogystal â'r manylion ychwanegol y disgwylir i'r Awdurdod eu cynnwys?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cwestiwn 8
A yw'r lefel o wybodaeth a ddisgwylir mewn cynlluniau rheoli yn gymesur ac wedi'i hesbonio'n glir?
Ydy
Nac ydy
Os nac ydy, esboniwch sut:
Cwestiwn 9
A yw'r canllawiau'n glir ynghylch sut y dylai'r Awdurdod weithio gyda pherchenogion tir, perchenogion tir cyfagos, awdurdodau cyhoeddus ac ymatebwyr brys wrth baratoi cynlluniau rheoli?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Arolygiadau a Monitro
Cwestiwn 10
A yw'r canllawiau yn esbonio'n glir pa mor aml y caiff arolygiadau statudol eu cynnal?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cwestiwn 11
A yw'r canllawiau'n esbonio'n ddigon clir pryd y dylid cynnal arolygiadau neu waith monitro ychwanegol?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Hysbysiadau
Cwestiwn 12
A yw'r canllawiau'n esbonio'n glir pa hysbysiadau y mae'n rhaid i'r Awdurdod eu cyhoeddi ac o dan ba amgylchiadau?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cwestiwn 13
A yw'r canllawiau'n glir am y gofynion cyfreithiol ar gyfer rhoi hysbysiadau, gan gynnwys achosion sy'n ymwneud â thir y Goron, tir preswyl neu lle nad ydych yn gwybod pwy yw'r perchennog?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Adennill Costau a Chodi Tâl am Wybodaeth a Chyngor
Cwestiwn 14
A yw'r esboniad pryd y bydd modd adennill costau cynnal ymchwiliadau a gwaith yn glir?
Ydy
Nac ydy
Os nac ydy, esboniwch sut:
Cwestiwn 15
A yw'r canllawiau'n esbonio'n glir pa wybodaeth am rag-gostau, mewn perthynas ag ymchwiliadau a gweithrediadau, y disgwylir i'r Awdurdod ei darparu, a phryd y gall yr Awdurdod adennill y costau hynny?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cwestiwn 16
A yw'r canllawiau'n glir ynghylch pa opsiynau y dylai'r Awdurdod eu cynnig i berchenogion tir nad ydynt yn gallu talu'r costau y mae'r Awdurdod yn bwriadu eu hadennill?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cwestiwn 17
A yw'r canllawiau'n glir ynghylch pryd y caiff yr Awdurdod godi tâl am wybodaeth a chyngor?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Iawndal
Cwestiwn 18
A yw'r canllawiau'n esbonio'n glir yr amgylchiadau pryd y gellir hawlio iawndal?
Ydy
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cwestiwn 19
A yw'r enghreifftiau yn y canllawiau yn ddefnyddiol i ddangos yr amgylchiadau hyn yn ymarferol?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cwestiwn 20
A yw'r canllawiau'n esbonio'r polisïau a'r gweithdrefnau y dylai'r Awdurdod eu datblygu ar gyfer ymdrin â hawliadau iawndal yn ddigon clir?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Trefniadau trawsffiniol
Cwestiwn 21
A yw'r canllawiau ar domenni trawsffiniol yn ddigon clir ynghylch cyfrifoldebau o dan y Ddeddf a Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Datrys anghydfodau
Cwestiwn 22
A yw'r canllawiau'n glir ynghylch y disgwyliad y dylai'r Awdurdod osgoi anghydfodau trwy gyfathrebu ac ymgysylltu'n fuan?
Ydyn
Nac ydyn
Os nac ydyn, esboniwch sut:
Cwestiwn 23
A yw'r esboniad o'r opsiynau amgen ar gyfer datrys anghydfod yn glir ac yn ddefnyddiol?
Ydy
Nac ydy
Os nac ydy, esboniwch sut:
Ystyriaethau Terfynol
Cwestiwn 24
A oes unrhyw rannau y gellid eu gwella yn eich barn chi?
Oes
Nac oes
Os oes, nodwch sut yma:
Cwestiwn 25
Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Sylwadau ategol:
Cwestiwn 26
Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y canllawiau er mwyn gwneud y canlynol:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Sylwadau ategol:
Cwestiwn 27
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ateb y cwestiynau uchod.
