Canllawiau i geidwaid gwartheg ar gydymffurfio â deddfwriaeth Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yng Nghymru.
Cynnwys
Y cefndir
Mae Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yn glefyd mewn gwartheg sy'n cael effaith fawr ar iechyd, lles a chynhyrchiant anifeiliaid yr effeithir arnynt. Yn dilyn y rhaglen Gwaredu BVD, a welodd dros 80% o fuchesi Cymru yn cael eu sgrinio am BVD, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gyflwyno deddfwriaeth i reoli a dileu BVD yng Nghymru.
Nod
Nod y ddeddfwriaeth BVD yw dileu BVD o Gymru yn y pen draw. Mae BVD yn glefyd y gallwn ei ddileu'n realistig, fel y dangoswyd mewn sawl gwlad arall yn Ewrop.
Mae sawl dull y gellir eu rhoi ar waith i ddileu BVD ar lefel genedlaethol. Y dull sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd yw'r “prawf gwirio“ sef gwasanaeth sgrinio serolegol grwpiau o wahanol grwpiau rheoli o fewn buchesi, i ddod o hyd i dystiolaeth o gysylltiad â'r clefyd. Dyma'r dull a ddefnyddir yn Gwaredu BVD a dyma'r model a ddefnyddir gan wledydd Sgandinafaidd i ddileu BVD.
Mae'r dull prawf gwirio yn ffordd sensitif o adnabod haint BVD ar lefel buches, gan hefyd gadw nifer y samplau gorfodol sy'n cael eu cymryd i'r lleiafswm. Mae hyn yn golygu nad oes angen i fuchesi heb dystiolaeth o ddod o gysylltiad â BVD ysgwyddo costau ariannol gormodol.
Ar ôl canfod haint ar lefel buches, bydd gofyniad i drefnu prawf dilynol i adnabod unrhyw anifeiliaid â haint parhaus (PI) ar y fferm. Mae anifeiliaid PI yn cael eu gwneud pan fydd anifeiliaid ar gam penodol o feichiogrwydd yn cael eu heintio, mae'r llo yn cael ei eni wedi'i heintio ac yn cario'r feirws am oes, gan ollwng a lledaenu'r feirws. Anifeiliaid PI yw'r prif risg o ran lledaenu BVD.
Mathau o brofion
Mae dau fath o brawf rydym yn eu cydnabod ar gyfer BVD yng Ngorchymyn BVD Cymru.
Profion gwrthgyrff
Mae profion gwrthgyrff yn gwirio am gysylltiad â'r feirws. Gellir dod o hyd i ymatebion gwrthgyrff hefyd oherwydd brechiad BVD. Am y rheswm hwn, bydd profion gwrthgyrff yn cael eu targedu'n bennaf at anifeiliaid ifanc heb eu brechu.
Mae ymateb gwrthgyrff mewn anifail heb ei frechu yn dangos bod yr anifail wedi'i heintio â'r feirws ac mae bellach wedi dechrau ysgogi ymateb imiwnedd. Mae'r anifail hwn yn iach, ond mae'r prawf wedi dangos i ni fod y feirws wedi bod yn cylchredeg yn y fuches ac y gallai fod yn dal i gylchredeg yn y fuches.
Mae profion gwrthgyrff yn cael eu cynnal ar samplau gwaed a gymerir gan eich milfeddyg eich hun, neu aelod hyfforddedig a chymeradwy o'u staff.
Profion antigenau
mae profion antigenau yn gwirio am y feirws ei hun. Gall profion antigenau nodi a yw unigolyn wedi'i heintio ar y foment pan fydd y sampl yn cael ei gymryd.
Gellir cynnal profion antigenau ar samplau gwaed neu samplau meinwe a gasglwyd trwy dagiau clust penodol.
Gallai canlyniad positif ar brawf antigenau nodi bod anifail naill ai'n PI, neu fod ganddynt haint dros dro y byddant yn ei glirio mewn ychydig wythnosau.
Ar ôl prawf antigenau positif mae'n hanfodol ailbrofi'r anifail.
Beth yw'r gofynion sylfaenol?
Rhaid cynnal prawf sgrinio BVD blynyddol gorfodol ar bob buches yng Nghymru. Y sgrin hon yw'r prawf gwirio, a bydd y prawf yn cael ei ddefnyddio i bennu statws buches.
Mae'r prawf gwirio yn sgrinio pum anifail o grwpiau rheoli ar wahân. Mae'r prawf hwn yn chwilio am wrthgyrff sy'n dangos cysylltiad â haint ac y gallai'r feirws fod yn cylchredeg yn y fuches.
Bydd eich milfeddyg yn helpu i ddewis yr anifeiliaid ar gyfer prawf gwirio.
Dylai'r prawf gwirio gwrthgyrff blynyddol ddefnyddio dull (a) isod. Pan nad yw hyn yn bosibl, dylid defnyddio dull (b). Pan nad yw dull (b) yn bosibl, dylid defnyddio dull (c). Yn olaf, os nad oes dull arall yn briodol, dylid defnyddio dull (d).
a. Pum llo heb eu brechu rhwng 9 a 18 mis oed
Dylai eich milfeddyg gymryd samplau o waed o bum llo heb eu brechu rhwng 9 a 18 mis ym mhob grŵp perthnasol a reolir ar wahân (grwpiau nad oes risg sylweddol o ledaeniad uniongyrchol y clefyd rhyngddynt ym marn glinigol y milfeddyg). Deg llo heb eu brechu rhwng 0 a 9 mis oed
Os oes unrhyw un o'ch sampl o loi yn 0-9 mis oed, dylai’ch milfeddyg gymryd sampl gwaed o ddim llai na deg llo heb eu brechu rhwng 0 a 9 mis oed ym mhob grŵp a reolir ar wahân (fel uchod).
b. Os nad oes gennych anifeiliaid sy'n bodloni'r meini prawf uchod, dylai eich milfeddyg gynghori ar boblogaeth a maint sampl priodol o'r ystodau oedran sydd ar gael yn y fuches.
Statws buches/daliad
Bydd gan bob daliad gwartheg yng Nghymru statws lefel buches yn dilyn prawf:
- Anhysbys - nid oes unrhyw waith sgrinio blynyddol wedi'i wneud eto. Mae'r statws hwn am gyfnod penodol o amser ac mae'n berthnasol yn bennaf i fuchesi newydd o fewn eu 30 diwrnod cyntaf.
- Negatif - nid oes unrhyw dystiolaeth o haint BVD neu gysylltiad â BVD
- Nad yw'n negatif - mae tystiolaeth o haint BVD neu gysylltiad â BVD neu nid yw’r gwaith gorfodol o ran sgrinio buches wedi digwydd o fewn y dyddiadau cau ar gyfer cydymffurfio.
Statws anifail
Mae anifeiliaid unigol hefyd yn cael statws yn seiliedig ar brofion antigenau.
- Anhysbys: nid yw'r anifeiliaid hyn wedi cael prawf antigenau felly mae eu statws yn anhysbys.
- Negatif: mae'r anifeiliaid hyn wedi cael prawf antigenau negatif. Mae'r statws hwn yn para am oes.
- Positif: mae'r anifeiliaid hyn wedi cael prawf antigenau positif, dylid eu hail-brofi o leiaf 3 wythnos yn ddiweddarach i benderfynu a ydynt wedi'u heintio'n barhaus.
- PI: mae'r anifeiliaid hyn wedi cael profion antigenau positif dro ar ôl tro. Dylid difa'r anifeiliaid hyn. Os ydych chi'n dewis peidio â'u difa yna mae'n rhaid iddynt gael eu hynysu am oes a gallant adael eich daliad i fynd i'w lladd yn unig.
Canlyniadau sgrinio blynyddol negatif
Os yw eich holl ganlyniadau sgrinio gwrthgyrff i gyd yn negatif yna bydd eich buches yn cael statws negatif.
Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw dystiolaeth o haint wedi'i chanfod yn eich buches. Gall eich buches barhau i fasnachu fel arfer am y flwyddyn nesaf. Dylech gymryd gofal i beidio â chyflwyno BVD i'ch buches, ac ystyriwch ymgynghori â'ch milfeddyg preifat am gyngor pellach.
Dylech sicrhau mai dim ond anifeiliaid o ddaliadau negatif eraill y byddwch yn eu cyflwyno, neu anifeiliaid sydd â phrawf cyn symud negatif.
Os ydych chi'n prynu gwartheg o fuchesi yn Lloegr neu'r Alban, dylech geisio sicrwydd bod yr anifeiliaid yn rhydd rhag BVD. Bydd gofyn i chi brofi'r anifeiliaid ar ôl eu symud, ac os oes ganddynt brawf ar ôl symud positif yna byddwch chi'n colli eich statws negatif.
Statws nad yw'n negatif
Bydd unrhyw ganlyniad positif ar eich sgrin gwrthgyrff blynyddol yn arwain at statws nad yw'n negatif. Gall canlyniadau gwrthgyrff positif nodi cysylltiad â'r feirws, ac mae'n golygu bod risg bod y feirws yn cylchredeg yn y fuches.
Os nad ydych wedi cwblhau prawf sgrinio gwrthgyrff blynyddol yn y 12 mis diwethaf, bydd eich statws hefyd yn cael ei osod i nad yw'n negatif. Os ydych chi'n penderfynu cwblhau eich gwaith sgrinio blynyddol ac mae'r holl ganlyniadau yn wrthgyrff negatif, yna bydd statws y fuches yn dod yn negatif.
Pan fydd gan fuches anifail sydd â statws unigol o antigenau positif, neu anifail PI ynddi, yna bydd gan y fuches statws nad yw'n negatif.
Os ydych wedi prynu anifail o ddaliad BVD nad yw'n negatif yng Nghymru, nad yw wedi cael prawf cyn symud dilys, bydd eich statws yn cael ei osod i nad yw'n negatif.
Os oes anifail o ddaliad y tu allan i Gymru wedi'i brynu ar gyfer y fuches ac nad yw'r anifail wedi cael ei brofi ar ôl ei symud o fewn 20 diwrnod ar ôl cyrraedd, bydd statws y daliad yn dod yn un nad yw'n negatif. Os yw canlyniad y prawf ar ôl symud yn bositif, bydd y daliad hefyd yn dod yn un â statws nad yw'n negatif.
Goblygiadau statws nad yw'n negatif
Os oes gennych statws nad yw'n negatif, rydych chi'n wynebu cyfyngiadau symud a gofynion profi pellach o 1 Gorffennaf 2026.
Gallwch:
- anfon anifeiliaid i'w lladd
- symud anifeiliaid i bractis milfeddygol ar gyfer triniaeth
- symud gwartheg i'r daliad
Rhaid ichi wneud y canlynol:
- trefnu samplu pob anifail ar y fferm i roi statws BVD unigol iddynt yn seiliedig ar brawf antigenau
- profi'r holl loi newydd-anedig ar eich daliad gan ddefnyddio tagiau meinwe clust. Bydd y gofyniad hwn yn aros mewn grym am 12 mis ar ôl i chi adennill statws negatif ac mae'n cynnwys lloi a erthylwyd neu loi marw-anedig
- dylid ailbrofi unrhyw anifeiliaid antigenau positif ddim llai na 21 diwrnod ar ôl eu prawf positif i bennu statws PI
- os nodir unrhyw anifeiliaid PI ar eich daliad, rhaid iddynt gael eu hynysu am oes ac ni allant byth symud i ddaliad arall.
Ni chaniateir ichi:
- symud unrhyw wartheg oddi ar y daliad heb brawf cyn symud dilys
- symud unrhyw anifail PI oddi ar y daliad oni bai ei fod yn mynd i'w ladd
Beth i'w wneud ar ôl canlyniad sgrinio blynyddol positif?
Os ydych chi wedi cael canlyniad gwrthgyrff positif yn eich prawf sgrinio blynyddol, fe gewch statws nad yw'n negatif. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi wneud y canlynol:
- sgrinio'r holl wartheg yn eich buches i adnabod unrhyw anifeiliaid PI. Bydd hyn yn golygu bod angen prawf antigenau ar bob anifail a gall hwn fod naill ai'n dag meinwe clust, neu gall eich milfeddyg drefnu casglu sampl gwaed
- bydd angen prawf cyn symud arnoch i symud anifeiliaid oddi ar eich daliad. Mae'n rhaid i hwn fod yn brawf antigenau. Bydd angen i'ch milfeddyg gynnal prawf cyn symud a bydd yn ddilys am 60 diwrnod
- profi'r holl loi newydd-anedig yn eich buches tra bod statws nad yw'n negatif gennych, ac am 12 mis arall ar ôl i chi adennill statws negatif
Anifeiliaid â haint parhaus
Bydd unrhyw anifeiliaid sydd â dau ganlyniad antigenau positif yn cael statws PI. Ni ellir byth symud yr anifeiliaid hyn i ddaliad arall. Dylech eu difa nhw. Os ydych chi'n penderfynu cadw anifeiliaid PI, yna rhaid iddynt gael eu hynysu am oes.
Gellir anfon anifeiliaid PI i'w lladd.
Symud o statws Nad yw'n Negatif i statws Negatif
Er mwyn symud o statws nad yw'n negatif i statws negatif, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth nad oes unrhyw anifeiliaid positif nac anifeiliaid â haint parhaus ar eich daliad. Mae hyn yn golygu profi pob anifail am antigenau i roi statws anifail unigol iddynt.
Pan fydd gan bob anifail unigol ar eich fferm statws negatif yna bydd eich statws buches yn cael ei newid i negatif. Fodd bynnag, bydd gennych y gofyniad parhaus am 12 mis o sgrinio'r holl loi newydd-anedig, lloi a erthylwyd neu loi marw-anedig.
Lloi
Statws buches negatif
Os oes gan eich buches statws negatif nid oes gofynion penodol ynghylch samplu lloi, ond efallai yr hoffech brofi lloi er mwyn sicrhau eich hun. Os ydych chi'n sgrinio lloi ar hyn o bryd fel rhan o'ch mesurau rheoli iechyd arferol ar y fferm, efallai yr hoffech barhau i wneud hynny. Bydd gwneud hynny yn rhoi statws BVD unigol i'ch anifeiliaid pe bai gennych unrhyw broblemau yn y dyfodol.
Statws buches nad yw'n negatif
Os mai nad yw'n negatif yw statws eich buches neu os yw'ch buches wedi cael statws nad yw'n negatif o fewn y 12 mis blaenorol, yna rhaid i chi sgrinio'r holl loi o a gaiff eu geni yn eich buches o fewn 20 diwrnod i'w geni. Rhaid gwneud hyn gyda sampl tag meinwe clust.
Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os ydych wedi cwblhau helfa PI ac wedi adennill statws negatif, rhaid i chi barhau i brofi lloi newydd-anedig am 12 mis o ddyddiad olaf eich statws nad yw'n negatif.
Mae'r gofyniad hwn hefyd yn berthnasol i unrhyw loi sydd wedi'u herthylu neu loi marw-enedig, y mae'n rhaid eu tagio o fewn 7 diwrnod.
Gwerthu stoc neu symud gwartheg oddi ar y daliad - a oes angen i mi gynnal prawf cyn symud?
Statws buches negatif
Os yw eich statws BVD yn negatif, yna gallwch symud a gwerthu eich gwartheg fel y byddech yn ei wneud fel arfer.
Statws buches nad yw'n negatif
Os mai nad yw'n negatif yw'ch statws BVD yna ni allwch symud stoc o'r daliad heb brawf cyn symud dilys. Mae hyn yn cynnwys gwerthu stoc neu symud gwartheg i unrhyw ddaliad arall rydych chi'n berchen arno, yn ei reoli neu'n pori arno.
Rhaid i brofion cyn symud gael eu cynnal gan filfeddyg neu samplwr gwaed cymeradwy, ac maent yn ddilys am 60 diwrnod o ddyddiad y samplu. Rhaid i chi roi gwybod i geidwad newydd yr anifail am ganlyniad y prawf cyn symud BVD dim mwy na 3 diwrnod cyn symud yr anifail.
Ni chaniateir i unrhyw anifail sydd â statws BVD unigol positif neu PI symud.
Gall symudiadau i ladd-dai barhau fel arfer ar gyfer pob buches ni waeth beth fo'i statws BVD. Cewch hefyd symud anifeiliaid i bractis milfeddygol ar gyfer triniaeth yn ôl yr angen, ni waeth beth yw eich statws BVD.
Prynu stoc neu symud gwartheg o ddaliad arall yng Nghymru
Bydd gan yr holl ddaliadau gwartheg yng Nghymru statws BVD. Os ydych chi'n symud gwartheg o fuches negatif yng Nghymru, ni fydd unrhyw oblygiadau i chi ac fe gewch barhau fel arfer.
Os ydych chi'n derbyn gwartheg o ddaliad sydd â statws nad yw'n negatif ar ôl 1 Gorffennaf 2026, dylent fod wedi cael prawf cyn symud negatif o fewn y 60 diwrnod blaenorol.
Os yw'r amod hwn wedi'i ddilyn, ni fydd unrhyw oblygiadau i chi, ond dylech ofyn am dystiolaeth o ganlyniad prawf negatif cyn symud er mwyn sicrhau eich hun.
Ar ôl 1 Gorffennaf 2026, os byddwch yn derbyn gwartheg o ddaliad yng Nghymru sydd â statws nad yw'n negatif nad oes ganddynt brawf cyn symud dilys, yna rydych chi'n peryglu colli eich statws negatif.
Beth am symud rhwng dau o'm daliadau fy hun os yw fy mhrif ddaliad yn negatif?
Os oes gennych ddau neu fwy o ddaliadau ar wahân, bydd angen eu statws BVD eu hunain arnynt. Mae'r rheolau ar gyfer symud anifeiliaid rhwng eich daliadau ar wahân eich hun yr un fath ar gyfer symudiadau rhwng unrhyw ddaliadau eraill.
Gellir gwneud symudiadau yn rhydd o ddaliad negatif i unrhyw ddaliadau eraill.
Mae'n ofynnol cael prawf cyn symud negatif ar gyfer symudiadau o ddaliadau â statws anhysbys neu statws nad yw'n negatif.
Mae'r gofynion hyn yn bodoli i gadw'ch daliad negatif yn ddiogel, a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn negatif.
Prynu stoc neu symud gwartheg o ddaliad y tu allan i Gymru
IOs yw canlyniad prawf ar ôl symud yn bositif, yna bydd statws eich buches yn newid i nad yw'n negatif. Gweler “Goblygiadau statws nad yw'n negatif” uchod.
Rhaid i geidwaid sy'n symud gwartheg cyflo â statws BVD unigol anhysbys eu hynysu nes eu bod yn bwrw llo neu hyd nes bod prawf ar ôl symud negatif wedi'i gynnal. Cofiwch y gall y llo fod â statws gwahanol i'r fam, felly dylech hefyd brofi'r llo ar ôl iddo gael ei eni. Byddwch yn ofalus o loi Caerdroea, mae'r rhain yn peri bygythiad gwirioneddol o gyflwyno BVD i'ch buches.
Nodyn ar statws BVD gwartheg sy'n symud o'r tu allan i Gymru
Ar hyn o bryd, dim ond gwartheg sy'n cael eu samplu yng Nghymru neu sydd â chanlyniad wedi'i gyflwyno ar system BVD Cymru fydd â statws BVD hysbys. Bydd gan yr holl wartheg eraill statws anhysbys. Os yw'r stoc rydych chi'n ei brynu wedi'i sgrinio o'r blaen ar gyfer antigenau BVD ac mae ganddo ganlyniadau negatif, dylech ofyn i'r gwerthwr am gopi o'r rhain. Os byddwch chi'n darparu'r rhain i'ch milfeddyg, maent yn gallu newid statws anifeiliaid ac ni fydd angen prawf ar ôl symud.
Rhestr termau
Anifail â haint parhaus (PI)
Mae'r rhain yn anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaus â feirws BVD. Cafodd yr anifeiliaid hyn eu heintio cyn iddynt gael eu geni yng nghroth eu mam. Mae eu system imiwnedd wedi datblygu ochr yn ochr â'r feirws ac o ganlyniad nid ydynt yn adnabod feirws BVD fel haint. Byddant yn gollwng llawer iawn o'r feirws i'w hamgylcheddau ac yn peri risg fawr o heintio anifeiliaid eraill.
Dolur Rhydd Feirysol Buchol/BVD
Clefyd feirysol sy'n effeithio ar wartheg. Er gwaethaf yr enw, nid yw'r feirws yn achosi dolur rhydd yn gyffredin, fodd bynnag, mae'n atal imiwnedd gan wneud gwartheg yn fwy agored i glefydau eraill fel heintiau anadlol neu enterig, ac yn achosi colledion atgenhedlu.
Prawf antigenau
Mae profion antigenau yn canfod y feirws ei hun mewn sampl. Maent yn darparu tystiolaeth bod anifail unigol wedi'i heintio â'r feirws ar yr adeg y cymerwyd y sampl.
Prawf gwirio
Ffordd o samplu ar gyfer statws BVD ar lefel buches gyda maint sampl cymharol fach gan ddefnyddio statws gwrthgyrff niferoedd bach o anifeiliaid heb eu brechu. Mae hyn yn cadw'r gost orfodol i geidwaid sy'n gysylltiedig â gwaith sgrinio BVD i'r lleiafswm.
Prawf gwrthgyrff
Mae profion gwrthgyrff yn brofion ar gyfer tystiolaeth o ymatebion imiwnolegol. Mae'r profion hyn yn cael eu cynnal ar samplau gwaed a gallant ganfod ymatebion i'r naill haint neu'r llall, gan ddarparu tystiolaeth bod anifeiliaid wedi dod i gysylltiad â'r feirws. Gall brechu hefyd sbarduno canlyniadau gwrthgyrff positif felly mae dewis yr anifeiliaid cywir ar gyfer y profion hyn yn hanfodol.
Samplwr gwaed cymeradwy
Mae samplwr gwaed cymeradwy yn berson sydd wedi'i awdurdodi gan awdurdodau i gasglu samplau gwaed o wartheg i gefnogi'r gwaith o reoli BVD. Dim ond o dan gyfarwyddyd milfeddyg y gall yr unigolion hyn samplu, felly byddant yn cael eu cyflogi mewn practisau milfeddygol.
Tag meinwe clust
Tagiau clust yw'r rhain sy'n casglu sampl o feinwe pan fyddant yn cael eu defnyddio. Yna gellir profi'r feinwe hon am antigenau i bennu statws BVD unigol anifail.
