Neidio i'r prif gynnwy

Caiff canllawiau diwygiedig newydd ar gyfer ymweld ag ysbytai GIG Cymru eu cyhoeddi ddydd Llun 30 Tachwedd 2020. Mae'r rhain yn disodli'r canllawiau a gyhoeddwyd gynt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r canllawiau diwygiedig yn nodi'r llinell sylfaen ar gyfer ymweliadau yng Nghymru yn ystod y pandemig, ond yn caniatáu i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a hosbisau  wyro oddi wrth y canllawiau.

Mae'r hyblygrwydd hwn yn deillio o'r newid yn y sefyllfa o ran trosglwyddiad y coronafeirws ledled Cymru, gydag amrywiadau sylweddol mewn trosglwyddiad cymunedol ar draws gwahanol rannau o Gymru a gwahaniaethau yng nghyfradd y trosglwyddiad nosocomiaidd.

Mae'r canllawiau newydd yn caniatáu i ddarparwyr gofal iechyd asesu ffactorau lleol a gweithio gyda thimau atal a rheoli haint lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth gytuno ar drefniadau ymweld.

Gall darparwyr gofal iechyd wyro oddi wrth y canllawiau mewn ymateb i:

  1. lefelau cynyddol o drosglwyddiad COVID-19 yn eu hardaloedd, gan gynnwys lefelau a arweiniodd at gyfyngiadau symud cenedlaethol a/neu dystiolaeth o drosglwyddiad nosocomiaidd mewn lleoliad penodol; neu
  2. lefelau trosglwyddo sy'n gostwng yn eu hardal leol

Yn ogystal â chaniatáu ar gyfer yr hyblygrwydd hwn, mae'r canllawiau wedi cael eu diwygio ar ôl gwrando ar adborht gan fenywod a theuluoedd ac ymgynghori â Penaethiaid Bydwreigiaeth a gwasanaethau Sonograffeg a Radiograffeg.Bydd ymweliadau mewn gwasanaethau mamolaeth bellach yn seiliedig ar asesu risg gan y byrddau iechyd. Bydd hyn yn cymryd i ystyriaeth ffactorau amgylcheddol lleol megis maint ystafelloedd, y gallu i gadw pellter cymdeithasol a risgiau atal a rheoli haint wrth alluogi partneriaid i gadw cwmni i fenywod beichiog a mamau newydd yn ddiogel. Dylid defnyddio'r dull gweithredu hwn sydd wedi'i asesu yn ôl risg gyda gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol, timau atal a rheoli haint lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Caiff pob menyw ei chefnogi i gael o leiaf un partner gyda hi pan fydd yn esgor, yr enedigaeth ei hun a'r cyfnod ar ôl yr enedigaeth, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig iawn o amgylchiadau.

Mae'r canllawiau diwygiedig hefyd yn cydnabod y gallai fod ar rai pobl angen cynorthwyydd cymorth hanfodol ar gyfer cymorth ychwanegol penodol ee gweithiwr cymorth neu gyfieithydd ar y pryd. Ni ddylid categoreiddio cynorthwywyr cymorth hanfodol fel ymwelwyr. Mewn rhai amgylchiadau, lle maent yn cael gofal a chymorth gan aelod o'r teulu neu bartner, gallant enwebu'r person hwn fel eu cynorthwyydd cymorth hanfodol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

Rydyn ni'n cydnabod bod y cyfyngiadau ar ymweld yn cael effaith enfawr ar gleifion, eu teuluoedd a'u hanwyliaid. Rydyn ni wedi cyhoeddi newidiadau pellach i'r canllawiau heddiw i roi'r hyblygrwydd i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a hosbisau wyro oddi wrth y canllawiau mewn ymateb i lefelau lleol o drosglwyddiad COVID-19. Mae'n bwysig cofio nad yw'r feirws wedi diflannu a bod iechyd, diogelwch a llesiant cleifion a staff y GIG yn flaenoriaeth hollbwysig ar gyfer Llywodraeth Cymru a darparwyr gofal iechyd. Bydd angen i ddewisiadau anodd gael eu gwneud o hyd ond rydym yn gobeithio y bydd y canllawiau diwygiedig yn rhoi mwy o hyblygrwydd  i ddarparwyr gofal iechyd. ”