Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu canllawiau newydd ar gyfer lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig i'w helpu i sicrhau eu bod darparu bwyd a diod iach i'r plant dan eu gofal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r canllawiau newydd yn rhan o gyfres o fentrau gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cyfrannu at atal gordewdra a sicrhau bod mwy o blant yn medru cyrraedd a chynnal pwysau iach wrth dyfu a datblygu.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething a'r Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies yn lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar safonau newydd a chanllawiau arferion gorau ar gyfer bwyd a maeth, fel darparu prydau, byrbrydau a diodydd i blant 1-12 oed mewn lleoliadau gofal plant. 

Gall plant sy'n mynychu lleoliadau gofal o oedran ifanc fod yn derbyn hyd at 90% o'u bwyd a'u maeth yno, gan gynnwys byrbrydau a diodydd, os ydynt yn cael gofal am ddiwrnod llawn. Drwy annog plant i fwyta deiet cytbwys o amrywiol fwydydd maethlon, mae'n bosib sefydlu arferion bwyta cadarnhaol ar gyfer bywyd fel oedolyn. 

Mae'r safonau a'r canllawiau newydd yn cynnwys bwydlenni a rysetiau. Y bwriad yw helpu lleoliadau i fodloni'r rheoliadau gofal plant ar gyfer bwyd a diod, a hefyd helpu rhieni i fod yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae'r lleoliadau yn ei gynnig i'w plant.

Mae'r canllawiau yn gosod safonau bwyd cyfoes, ar sail tystiolaeth, a chyngor ymarferol ynghylch sut i'w gweithredu yn ymarferol fel y gall lleoliadau gofal plant wneud y canlynol:

  • Gweini prydau blasus, maethlon er mwyn helpu i ddatblygu arferion bwyta da
  • Sicrhau bod maint y dognau yn briodol ar gyfer oedran y plant 
  • Gweini byrbrydau sy'n faethlon, gydag ychydig o siwgr a halen os o gwbl
  • Darparu diodydd iach sy'n torri syched ac yn gwarchod dannedd, hynny yw llaeth a dŵr. 

Mae'r Rhaglen Mesur Plant ar gyfer 2017 yn dangos bod tua chwarter (27.4%) plant 4-5 oed Cymru dros eu pwysau neu'n ordew. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Mae bwyta bwyd maethlon yn hanfodol bwysig i blant yn ystod eu blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn eu helpu i dyfu a datblygu mewn ffordd iach, yn amddiffyn dannedd rhag pydru ac yn gosod sylfaen ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant yn y dyfodol. 

“Mae'r canllawiau maeth yn un elfen o waith y Llywodraeth hon i atal a gostwng lefelau gordewdra. Drwy Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, rydym yn datblygu strategaeth 10 mlynedd er mwyn helpu i osod y sylfeini a fydd yn ein helpu i atal ac yna gostwng lefelau gordewdra a chynyddu'r gyfran o bobl sydd â phwysau iach."


Bydd Gweinidogion yn lansio ymgynghoriad ar y strategaeth gordewdra yn ddiweddarach eleni, gan geisio profi nifer o syniadau a chynigion gyda chymunedau ar draws Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies:

“Ein gweledigaeth yw i blant o bob cefndir gael y dechrau gorau posib mewn bywyd. 

“Gall y blynyddoedd cynnar gael effaith gadarnhaol ar ddewisiadau bwyd wrth i blentyn bach ddechrau cael llais wrth benderfynu pa fwydydd mae'n fodlon eu bwyta. Mae tystiolaeth yn dangos bod arferion bwyta yn ystod y blynyddoedd cynnar yn parhau yn ystod plentyndod diweddarach a bywyd fel oedolyn. 

“Gall lleoliadau gofal plant gynnig cyfle perffaith i annog plant ifanc i fwyta'n iach a dysgu am fwyd.”