Neidio i'r prif gynnwy

Dylai myfyrwyr addysg gychwynnol athrawon gwblhau'r crynodeb hwn o'ch addysg gychwynnol i athrawon gyda'ch tiwtor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r proffil dechrau gyrfa yn rhoi crynodeb o addysg gychwynnol athrawon y myfyriwr, ac yn helpu i baratoi athrawon newydd gymhwyso ar gyfer eu cyfnod ymsefydlu statudol ar ddechrau ymarfer proffesiynol fel athro.

Bydd y proffil yn: 

  • helpu i ganolbwyntio, myfyrio, datblygu a pharatoi ar gyfer camau cynnar gyrfaoedd addysgu
  • helpu i gymryd rhan mewn trafodaeth gydweithredol wrth gynllunio sut i ddiwallu anghenion dysgu proffesiynol
  • darparu cysylltiad rhwng hyfforddiant AGA a'r ysgol(ion) lle bydd cyfnod ymsefydlu'n digwydd

Rhaid rhoi Proffil Dechrau Gyrfa i bob athro dan hyfforddiant yng Nghymru. Rhaid i'r Proffil gael ei gwblhau gan fyfyriwr a thiwtor AGA. Mae'n crynhoi'r drafodaeth am y paratoadau a’r blaenoriaethau dysgu proffesiynol ar gyfer dilyniant.

Gall myfyrwyr gael mynediad i'r proffil drwy eu Pasbort Dysgu Proffesiynol ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.