Neidio i'r prif gynnwy

Atodiad A: canllaw cam wrth gam ar gyfer y ffurflen gais

Llywio’ch ffordd drwy’r ffurflen gais

Mae’r meysydd â seren ‘*’ yn orfodol, felly rhaid ichi eu llenwi neu ni fyddwch yn gallu cyflwyno eich cais. Os nad oes ‘*’, nid yw’r maes hwnnw’n orfodol, gan nad yw’n berthnasol i bob ymgeisydd efallai. Unwaith y byddwch wedi ateb pob cwestiwn ar y dudalen, dewiswch ‘Cadw a pharhau’ (bydd hyn yn arbed atebion y dudalen honno). Pwyswch y botwm ar gyfer ‘Yn ôl’ unrhyw adeg i fynd yn ôl i’r dudalen flaenorol. Fel arall, gallwch ddewis tudalen benodol rydych am fynd yn ôl iddi drwy glicio ar ddolen i’r dudalen o dan ‘Cynnydd’.

Olrhain cynnydd

Mae tic gwyrdd ger adran yn dangos eich bod wedi ateb pob cwestiwn yn yr adran honno. Mae tic glas yn dangos eich bod wedi ateb pob cwestiwn gorfodol yn yr adran honno. Mae croes yn nodi nad ydych wedi ateb rhai cwestiynau gorfodol ac na ellir cyflwyno’r cais, felly. Nid oes rhaid ichi lenwi’r ffurflen gais gyfan ar unwaith. Ar ôl ichi lenwi rhan ohoni, cliciwch ‘Cadw a pharhau’ i arbed popeth rydych wedi’i ysgrifennu yn y rhan honno. Gallwch wedyn allgofnodi o’ch cyfrif a mynd yn ôl at eich cais anorffenedig unrhyw adeg hyd at ddyddiad cau’r cais. I fynd yn ôl at y ffurflen gais, mewngofnodwch i’ch cyfrif, dewis yr adran lle cedwir ceisiadau (‘Fy ngheisiadau’) a chlicio ar deitl y swydd berthnasol. Dylai fod yn eich hanes ceisiadau.

Cyflwyniad

Diben y cwestiynau hyn yw pennu a ydych yn gymwys i wneud cais am y cyfle hwn. I sicrhau’ch bod yn gymwys i wneud cais, gofynnir ichi gadarnhau i ba genedl rydych chi’n perthyn a bod gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gofynnir ichi hefyd a ydych yn bodloni gofynion Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil: Rheolau cenedligrwydd ar GOV.UK. Mae hyn yn ofynnol er mwyn cael gweithio yn y Gwasanaeth Sifil. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra a nodir yn y ffurflen gais, ni fyddwn yn mynd â’ch cais ymhellach. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, mae’n bosibl y bydd eich cais neu’ch cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Manylion personol

Nodwch eich manylion personol, fel eich enw, eich cyfeiriad ac yn y blaen. Mae’n hanfodol eich bod yn darparu’r wybodaeth gywir a diweddaraf, gan fod angen yr wybodaeth i symud eich cais ymlaen.

Addysg a Chymwysterau Proffesiynol

Rhowch fanylion eich addysg inni. Y sefydliad yw’r ysgol, y coleg a’r brifysgol y gwnaethoch eu mynychu, a’r pwnc/cymhwyster yw’r hyn y gwnaethoch ei astudio yno. Gallwch ychwanegu mwy o flychau os nad oes digon ohonynt i nodi eich holl gymwysterau.

Eich hanes yn y Gwasanaeth Sifil

Diben yr adran hon yw canfod a ydych yn Was Sifil presennol ai peidio. Os byddwch yn dewis 'nac ydw' byddwch yn mynd ymlaen i gam nesaf y ffurflen gais. Os byddwch yn dewis 'ydw' gofynnir ichi roi rhagor o fanylion.

Hanes cyflogaeth 

Nodwch fanylion eich cyflogaeth bresennol (neu ddiwethaf) ac yna ychwanegu gwybodaeth am unrhyw gyflogaeth flaenorol. I ychwanegu manylion cyflogwr neu rôl, atebwch yn gadarnhaol i’r cwestiwn ‘Ydych chi'n meddu ar brofiad o waith cyflogedig?’. Bydd hyn yn creu mwy o le i roi gwybodaeth yn yr adran manylion cyflogwr. Mae'n hanfodol eich bod yn darparu'r wybodaeth gywir a diweddaraf. Os oes gennych enghreifftiau pellach i'w hychwanegu, cliciwch ar 'ychwanegu enghraifft arall’. Sicrhewch hefyd fod unrhyw fylchau mewn cyflogaeth yn cael eu nodi o dan 'Bylchau mewn cyflogaeth’.

Bydd angen ichi nodi enwau eich cyflogwyr blaenorol, eich swydd(i) a’r rheswm/rhesymau dros adael, a hynny ar gyfer y 3 blynedd diwethaf o leiaf (oni bai nad ydych wedi bod yn gweithio mor hir â hyn – rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch). Os nad ydych wedi cael eich cyflogi yn y gorffennol, nodwch ‘Nac ydw’ i’r cwestiwn ‘Ydych chi eisoes yn was sifil?’, a nodi ‘Dim hanes cyflogaeth’ yn y blwch sy’n gofyn am enw’r cyflogwr.

Y Gymraeg

Dewiswch lefel eich gallu yn y Gymraeg mewn perthynas â’r sgiliau amrywiol a nodir, ac ym mha iaith y byddai’n well gennych gael eich asesu. Ni fydd lefel eich gallu ond yn cael ei hystyried os nodir bod y Gymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol ar gyfer y rôl, er mwyn ein galluogi i baru ymgeiswyr llwyddiannus â’r rolau hyn. Os yw'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer rôl, efallai y bydd angen asesu eich sgiliau Cymraeg.

Cynhwysiant a Hygyrchedd

Fel cyflogwr, rydym yn cynnig ystod o gynlluniau gwarantu cyfweliad fel y nodir ar dudalennau 4 a 5 o'r canllawiau ymgeisio hyn. Os oes gennych unrhyw reswm dros fod angen addasiadau recriwtio a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn yr ymarfer recriwtio hwn, nodwch yma grynodeb o unrhyw ofynion sydd gennych, neu unrhyw wybodaeth yr hoffech inni fod yn ymwybodol ohoni ynglŷn â’ch gofynion. Os oes gennych amhariad neu gyflwr iechyd, neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru. Dim ond os ydym yn ymwybodol o'ch gofynion cyn i’ch cais gael ei gyflwyno, neu cyn prawf neu gyfweliad, y gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau. 18 Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa ac rydym yn eich annog i siarad â ni am addasiadau os oes eu hangen arnoch.

Darparu eich tystiolaeth

Bydd teitl yr adran hon o'r ffurflen gais yn cyd-fynd â'r broses asesu a nodir yn yr hysbyseb swydd (e.e. Datganiad o Addasrwydd neu Ymddygiadau/Sgiliau Technegol/Profiad/CV).

Datganiad o Addasrwydd

Mae datganiad o addasrwydd yn debyg i lythyr eglurhaol ac mae’n gyfle i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.

Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol y gellid eich adnabod yn uniongyrchol ohoni.

Ymddygiadau

Yn ôl geiriadur Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil, mae ymddygiadau’n golygu’r gweithredoedd a’r gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy'n arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd.

Gallech baratoi eich tystiolaeth y tu allan i’r system ar-lein ac yna ei rhoi yn y blychau isod rhag ofn i amser eich sesiwn yn y system recriwtio ar-lein ddod i ben.

Uwchben pob blwch tystiolaeth, fe welwch fanylion y meini prawf ymddygiad y gofynnir ichi ddarparu tystiolaeth ar eu cyfer. Rhaid ichi sicrhau’ch bod yn darparu tystiolaeth ar gyfer pob un o'r meini prawf a restrir. Fel arall, efallai y bydd eich cais yn cael ei ystyried yn un anghyflawn a gallai hyn olygu na fyddwch yn cyrraedd y rhestr fer

CV

Os yw’n ofynnol, bydd angen ichi gyflwyno CV dienw, gan gynnwys eich hanes cyflogaeth, profiad perthnasol, sgiliau a chyflawniadau allweddol.

Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol y gellid eich adnabod yn uniongyrchol ohoni. Bydd gofyn ichi dicio blwch i gadarnhau’ch bod wedi dileu unrhyw wybodaeth y gellid eich adnabod ohoni.

Os gofynnwyd am CV yn unig fel rhan o'r broses ymgeisio, gwnewch yn siŵr eich bod yn adolygu'r blwch 'Gwybodaeth arall yn ymwneud â’r swydd wag' yn yr hysbyseb swydd i sicrhau’ch bod yn ymwybodol o'r meini prawf sy'n cael eu profi yn y cam sifftio CVs, fel y gallwch deilwra’ch CV yn unol â hynny.

Profiad

Yn ôl geiriadur Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil, mae profiad yn golygu gwybodaeth am weithgaredd neu bwnc, neu feistrolaeth arnynt, a geir drwy ymwneud neu ddod i gysylltiad â nhw.

Uwchben pob blwch tystiolaeth, fe welwch fanylion y meini prawf profiad y gofynnir ichi ddarparu tystiolaeth ar eu cyfer. Rhaid ichi sicrhau’ch bod yn darparu tystiolaeth 19 ar gyfer pob un o'r meini prawf a restrir. Fel arall, efallai y bydd eich cais yn cael ei ystyried yn un anghyflawn a gallai hyn olygu na fyddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Technegol

Yn ôl geiriadur Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil, mae sgiliau technegol yn golygu meddu ar sgiliau, gwybodaeth neu gymwysterau proffesiynol penodol.

Uwchben pob blwch tystiolaeth, fe welwch fanylion y meini prawf technegol y gofynnir ichi ddarparu tystiolaeth ar eu cyfer. Rhaid ichi sicrhau’ch bod yn darparu tystiolaeth ar gyfer pob un o'r meini prawf a restrir. Fel arall, efallai y bydd eich cais yn cael ei ystyried yn un anghyflawn a gallai hyn olygu na fyddwch yn cyrraedd y rhestr fer

Geirdaon

Bydd angen ichi roi enw dau ganolwr (gan gynnwys eich cyflogwr presennol neu’ch cyflogwr diweddaraf) sy’n cwmpasu’r tair blynedd diwethaf o gyflogaeth o leiaf. Os ydych newydd adael yr ysgol neu’r coleg a heb brofiad o weithio, rhowch enw o leiaf un o’ch athrawon neu’ch darlithwyr, eich pennaeth neu’ch tiwtor personol. Ni ofynnir am eirda hyd nes y byddwn yn cynnig swydd i ymgeiswyr llwyddiannus.

Perthynas a Datganiad o Fuddiant

Yn yr adran hon, gofynnir ichi ddatgan a ydych mewn perthynas agos ag un o gyflogeion presennol Llywodraeth Cymru neu ag un o Aelodau Senedd Cymru, neu’n perthyn yn agos i un ohonynt. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r dolenni yn y ffurflen gais.

Data Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae’r Gwasanaeth Sifil wedi ymrwymo i sicrhau gweithlu sy’n adlewyrchu’r gymdeithas y mae’n ei gwasanaethu, ar bob lefel, gan gynnwys y lefelau uchaf. Trwy gasglu’r wybodaeth hon, cawn weld a ydym yn recriwtio o’r gronfa dalentau fwyaf posibl a sicrhau ein bod yn trin pob grŵp yn deg drwy gydol y broses. Ni chaiff neb sy’n asesu’ch cais weld y ffurflen hon. Os nad ydych am ateb cwestiwn penodol, dewiswch yr opsiwn sy’n dynodi ei bod yn well gennych beidio â dweud. Rydym yn deall y byddai'n well gan rai pobl beidio â llenwi ffurflenni amrywiaeth. Hoffem gadarnhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir yn cael ei chadw’n gyfrinachol, a’i defnyddio ar gyfer dibenion ystadegol yn unig. Ni fydd yn cael ei defnyddio i ddylanwadu ar benderfyniadau recriwtio.

Sut y clywsoch chi am y swydd

Rhowch wybod inni sut y daethoch ar draws y swydd – at ddibenion monitro y mae’r wybodaeth hon, er mwyn sicrhau ein bod yn hysbysebu yn y ffyrdd mwyaf effeithiol.

Datganiad

Cofiwch ddarllen y datganiad. Os ydych yn cytuno â’r datganiadau ynghylch diogelu data, cyfle cyfartal a sut y caiff eich cais ei brosesu, ticiwch y blwch i nodi eich bod yn cytuno.

Dim ond pan fyddwch yn fodlon bod eich cais wedi’i gwblhau ac nad ydych am wneud unrhyw newidiadau y dylech ddewis ‘Cyflwyno’

Gwybodaeth am hynt eich cais

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am swydd, cewch wybodaeth gyson am hynt eich cais drwy’ch cyfeiriad e-bost cofrestredig. Gallwch hefyd wirio hynt eich cais drwy fewngofnodi i'ch cyfrif a mynd i’r adran lle cedwir ceisiadau (‘Fy ngheisiadau’).

Atodiad B: Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil

Atodiad C: Cod y Gwasanaeth Sifil

Fel Gwas Sifil, fe'ch penodir yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, ac mae disgwyl ichi ymgymryd â'ch rôl ag ymroddiad ac ymrwymiad i'r Gwasanaeth Sifil a'i werthoedd craidd.

Gweler Cod y Gwasanaeth Sifil ar GOV.UK.