Canllawiau statudol ar gynlluniau ar gyfer cyllido ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol
Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canllawiau hyn pan fyddant yn diwygio eu cynlluniau, mewn ymgynghoriad â'r fforwm ysgolion.
Ar y dudalen hon
1. Crynodeb a newidiadau
1.1 Y canllawiau hyn
Canllawiau statudol yw'r canllawiau hyn a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 48(4) a pharagraff 2A(2) o Atodlen 14 i Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae'n cynnwys canllawiau statudol ac, felly, rhaid i awdurdodau lleol ei hystyried wrth ddiwygio eu cynlluniau ariannol.
Mae’r canllawiau hyn yn disodli’r ‘Canllawiau ar Gynlluniau ar gyfer Cyllido Ysgolion’ a’r ‘Canllawiau Atodol ar Gynlluniau ar gyfer Cyllido Ysgolion’ yn y cylchlythyr a gyhoeddwyd yn 2002 (NAfWC 31/2002).
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi cynlluniau ar gyfer cyllido ysgolion, gan nodi'r gydberthynas ariannol rhyngddynt a'r ysgolion a gynhelir ganddynt (gweler Rhan 4 o Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Rhif 2) (Cymru) 2026 (Rheoliadau Rhif 2)). Mae'r canllawiau hyn yn rhestru'r darpariaethau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys, y dylai eu cynnwys neu y caiff eu cynnwys. Lle y defnyddir “rhaid”, mae hynny'n cyfeirio at rwymedigaeth gyfreithiol ac, felly, gofyniad cyfreithiol ydyw. Lle rydym yn cyfeirio at “dylai neu dylid” neu “caiff” mae hyn yn dynodi cyngor yn unig.
Wrth wneud unrhyw newidiadau i'w cynlluniau, ac eithrio diwygiadau a gyfarwyddwyd, rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori â phob ysgol a gynhelir yn eu hardal a chael cymeradwyaeth aelodau eu fforwm ysgolion sy'n cynrychioli ysgolion a gynhelir. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canllawiau hyn pan fyddant yn diwygio eu cynlluniau, mewn ymgynghoriad â'r fforwm ysgolion.
Nid yw'r canllawiau hyn yn cynnig datganiad cynhwysfawr o'r gyfraith, ac nid ydynt yn honni eu bod yn gwneud hynny, ac felly, ni ddylid eu hystyried yn gyngor o ran yr hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yw'r rhain. Fodd bynnag, dylent geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain o ran yr hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â Deddf Caffael 2023 a deddfwriaeth a wneir oddi tani. Y canllawiau perthnasol yw Deddf Caffael 2023: dogfennau canllaw.
1.2 Diwygiadau a gyfarwyddwyd
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, ddiwygio'r cynllun cyfan neu unrhyw ran ohono o'r cyfryw ddyddiad ag a bennir yn y cyfarwyddyd (gweler paragraff 2A(4) o Atodlen 14 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998). Er mwyn gwneud diwygiad a gyfarwyddwyd i gynlluniau, mae darpariaethau yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r awdurdodau lleol perthnasol a phartïon eraill â diddordeb.
1.3 Newidiadau i gynnwys gofynnol cynlluniau ariannol ac o ran cyhoeddi cynlluniau o'r fath
Mae Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i gynnwys gofynnol cynlluniau ariannol, gan gynnwys:
- gofyniad newydd ynghylch cyhoeddi'r cynllun
- gofyniad i gynnwys y penawdau gwariant yn y Gyllideb Ysgolion a gedwir gan yr awdurdod lleol (paragraff 2)
- diwygiad i'r trothwy sy'n diffinio gwarged gormodol (paragraff 20)
- darpariaeth newydd ynghylch sut y bydd yr awdurdod lleol yn monitro gwargedion (paragraff 21)
- darpariaeth newydd ynghylch “cynlluniau adennill diffyg” (paragraff 23)
- cynnwys unrhyw raddfa y mae'r awdurdod lleol yn ei defnyddio i ddiogelu ysgol y byddai ei chyllid, fel arall, yn lleihau fwy na 5% mewn dwy flwyddyn ddilynol (paragraff 33)
2. The outline scheme
Rydym yn defnyddio'r cyfeiriadau canlynol drwy'r canllawiau statudol hyn:
- “yr awdurdod” yw'r awdurdod lleol
- “Rheoliadau Rhif 2” yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Rhif 2) (Cymru) 2026.
Mae Rheoliadau Rhif 2 yn nodi bod yn rhaid i gynlluniau ariannol ymdrin â'r materion canlynol:
- Cario ymlaen o un cyfnod cyllido i'r llall wargedion a diffygion sy'n codi mewn perthynas â chyfrannau ysgolion o'r gyllideb.
- Nodi'r holl ddosbarthiadau neu ddisgrifiadau o wariant sy'n rhan o gyllideb ysgolion yr awdurdod lleol ond na fyddant yn ffurfio unrhyw ran o'r gyllideb ysgolion unigol ac a gaiff eu cadw gan yr awdurdod lleol yn lle hynny.
- Symiau y gellir eu codi yn erbyn cyfrannau ysgolion o'r gyllideb.
- Symiau a geir gan ysgolion a all gael eu cadw gan eu cyrff llywodraethu a'r dibenion y gellir defnyddio symiau o'r fath ar eu cyfer.
- Amodau, gan gynnwys amodau sy'n rhagnodi rheolaethau a gweithdrefnau ariannol, a osodir gan y cynllun ariannol neu oddi tano y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio â nhw mewn perthynas â rheoli'r canlynol–
- eu cyllidebau dirprwyedig
- symiau a ddarperir i gyrff llywodraethu gan yr awdurdod lleol nad ydynt yn rhan o gyllidebau dirprwyedig
- Y telerau y darperir gwasanaethau a chyfleusterau gan yr awdurdod lleol ar gyfer ysgolion a gynhelir ganddo oddi tanynt.
- Llog a delir gan yr awdurdod lleol neu iddo.
- Yr adegau y darperir symiau y mae eu cyfanswm yn cyfateb i gyfran yr ysgol o'r gyllideb i gyrff llywodraethu a'r gyfran o'r gyfran o'r gyllideb a ddarperir ar bob adeg o'r fath.
- Trosglwyddo cyllid rhwng penawdau gwariant yn y gyllideb ddirprwyedig.
- Amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol ddirprwyo i'r corff llywodraethu y pŵer i wario unrhyw ran o gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion neu gyllideb ysgolion yr awdurdod yn ychwanegol ar y rhai a nodir yn adran 49(4)(a) i (c) o'r Ddeddf.
- Y defnydd o gyllidebau dirprwyedig a symiau a ddarperir i gorff llywodraethu gan yr awdurdod lleol nad ydynt yn rhan o gyllidebau dirprwyedig.
- Benthyca gan gyrff llywodraethu.
- Y trefniadau bancio y gall cyrff llywodraethu eu gwneud.
- Datganiad ynghylch atebolrwydd personol llywodraethwyr mewn perthynas â chyfrannau ysgolion o'r gyllideb gan ystyried adran 50(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
- Datganiad ynghylch y lwfansau sy'n daladwy i lywodraethwyr ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig yn unol â'r cynllun ariannol a wneir gan yr awdurdod lleol at ddibenion adran 519 o Ddeddf Addysg 1996.
- Cadw cofrestr o unrhyw fuddiannau busnes sydd gan y llywodraethwyr a'r pennaeth.
- Gwybodaeth a ddarperir gan y corff llywodraethu ac iddo.
- Cynnal rhestrau o asedau.
- Cynlluniau gwariant corff llywodraethu.
- Datganiad ynghylch y defnydd y mae corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud o unrhyw warged a gariwyd ymlaen o'r cyfnod cyllido yn union cyn y cyfnod cyllido presennol pan fo'r gwarged hwnnw yn fwy na 5% o gyfran yr ysgol o'r gyllideb yn y cyfnod cyllido presennol.
- Datganiad yn nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn monitro'r modd y bydd corff llywodraethu yn defnyddio'r gwarged sydd wedi'i gynnwys mewn unrhyw ddatganiad a wneir o dan baragraff 20.
- Darpariaeth y caiff:
- yr awdurdod lleol gyfarwyddo corff llywodraethu ynglŷn â sut i wario unrhyw warged a gariwyd ymlaen o'r cyfnod cyllido blaenorol ym malans yr ysgol ar gyfer cyfnod cyllido, os yw'r gwarged yn fwy na 5% o gyfran yr ysgol o'r gyllideb, ac y caiff.
- yr awdurdod lleol, os na fydd corff llywodraethu yn cydymffurfio â chyfarwyddyd o'r fath, ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu dalu'r gwarged cyfan neu ran ohono i'r awdurdod lleol i'w ddefnyddio fel rhan o'i gyllideb ysgolion ar gyfer y cyfnod cyllido dan sylw, oddi tani.
(1) Darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gyflwyno i'r awdurdod lleol gynllun i adennill unrhyw ddiffygion sy'n codi mewn perthynas â chyfran yr ysgol o'r gyllideb (“cynllun adennill diffyg”) er mwyn i'r awdurdod lleol ei gymeradwyo.
(2) Datganiad sy'n nodi mewn perthynas â chynllun adennill diffyg drafft—
- erbyn pryd y mae'n rhaid i'r corff llywodraethu gyflwyno cynllun drafft i'r awdurdod lleol er mwyn ei gymeradwyo
- y manylion gan gynnwys y cyfeiriad ar gyfer ble y dylai'r corff llywodraethu anfon cynllun adennill diffyg
- ffurf y cynllun adennill diffyg a'r materion y mae'n rhaid ymdrin â nhw ynddo
- hyd cynllun adennill diffyg
- faint o amser fydd ar gael i'r awdurdod lleol ystyried cynllun adennill diffyg drafft
- canlyniadau peidio â chyflwyno cynllun adennill diffyg drafft i'r awdurdod lleol
- unrhyw ofynion i adolygu a diwygio'r cynllun adennill diffyg cymeradwy
- canlyniadau peidio â chydymffurfio â chynllun adennill diffyg cymeradwy
- Datganiad ynghylch trethu symiau a delir neu a geir gan gorff llywodraethu.
- Yswiriant.
- Y defnydd a wneir o gyllidebau dirprwyedig gan gyrff llywodraethu i fodloni dyletswyddau'r awdurdod lleol a osodir gan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 neu oddi tani.
- Rhoi cyngor cyfreithiol i gorff llywodraethu.
- Cyllid ar gyfer materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant.
- Prydau ysgol.
- Sut yr ymdrinnir â chwynion gan bobl sy'n gweithio mewn ysgol neu gan lywodraethwyr ynghylch rheolaeth ariannol neu briodoldeb ariannol yn yr ysgol ac i bwy y dylid gwneud cwynion o'r fath.
- Gwariant yr eir iddo gan gorff llywodraethu wrth arfer y pŵer a roddir yn adran 27 o Ddeddf Addysg 2002 (pŵer corff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau cymunedol ac ati).
- Ffurflenni a gwybodaeth a ddarperir gan gyrff llywodraethu at ddibenion pensiynau athrawon.
- Y raddfa y mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol gyhoeddi o dan reoliad 21(4) (o Reoliadau Rhif 2).
3. Cyflwyniad
3.1 Rôl y cynllun
Dylai'r cynllun gynnwys paragraff sy'n esbonio rôl y cynllun ei hun. Dylai hyn esbonio bod y cynllun yn nodi'r gydberthynas ariannol rhwng yr awdurdod lleol a'r ysgolion a gynhelir a ariennir ganddo. Dylai nodi'n glir bod y cynllun yn cynnwys gofynion sy'n ymwneud â rheolaeth ariannol a materion cysylltiedig, sy'n gyfrwymol ar yr awdurdod lleol ac ysgolion.
Dylai fod gan y cynllun adran ragarweiniol sy'n disgrifio prif nodweddion y fframwaith cyllido presennol. Dylai hyn gynnwys disgrifiadau o'r gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion; y gyllideb ysgolion; y gyllideb ysgolion unigol; y gyllideb ysgolion unigol a gedwir; a chyfran yr ysgol o'r gyllideb. Ceir disgrifiad enghreifftiol yn Atodiad A. Gellir ei ddiwygio, ychwanegu ato neu roi fersiwn wahanol yn ei le ond dylai'r cynllun anelu at y lefel hon o fanylder o leiaf.
3.2 Cymhwyso'r cynllun at yr awdurdod lleol ac ysgolion a gynhelir
Fel disgrifiad o'i gwmpas sefydliadol, dylai'r cynllun nodi ei fod yn gymwys mewn perthynas â'r holl ysgolion cymunedol, meithrin, gwirfoddol, sefydledig, arbennig cymunedol neu arbennig sefydledig a gynhelir gan yr awdurdod lleol. Dylid rhestru'r ysgolion y bydd yr awdurdod lleol yn eu cynnal er gwybodaeth mewn atodiad i'r cynllun.
3.3 Cyhoeddi'r cynllun
Mae'r gofynion cyhoeddi wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Rhif 2. Maent yn nodi'n glir bod yn rhaid i'r cynllun, o leiaf, gael ei gyhoeddi ar wefan sy'n hygyrch i'r cyhoedd a bod yn rhaid i unrhyw fersiwn ddiwygiedig gael ei chyhoeddi erbyn y dyddiad y daw'r diwygiadau i rym, ynghyd â datganiad y daw'r cynllun diwygiedig i rym ar y dyddiad hwnnw. Rhaid anfon copi electronig o'r cynllun hefyd at gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
3.4 Diwygio'r cynllun
Rhaid ymgynghori ar unrhyw ddiwygiadau i'r cynllun. Dylai'r cynllun gynnwys datganiad yr ymgynghorir â chorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol ar unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i'r cynllun cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r fforwm ysgolion i'w cymeradwyo.
Rhaid cyflwyno unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i'r fforwm ysgolion i'w cymeradwyo gan yr aelodau hynny o'r fforwm sy'n cynrychioli ysgolion a gynhelir. Os na fydd y fforwm ysgolion yn eu cymeradwyo neu os bydd yn eu cymeradwyo yn amodol ar addasiadau nad ydynt yn dderbyniol i'r awdurdod lleol, caiff yr awdurdod wneud cais i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo.
Mae hefyd yn bosibl i Weinidogion Cymru wneud diwygiadau a gyfarwyddwyd i'r cynllun cyfan neu unrhyw ran ohono ar ôl ymgynghori â'r awdurdod lleol perthnasol a phartïon eraill â diddordeb. Daw diwygiadau o'r fath yn rhan o'r cynllun o ddyddiad y cyfarwyddyd.
3.5 Dirprwyo pwerau i'r pennaeth
Dylai'r cynllun ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu ystyried i ba raddau y mae am ddirprwyo ei bwerau ariannol i'r pennaeth a chofnodi ei benderfyniad (ac unrhyw ddiwygiadau) yng nghofnodion y corff llywodraethu.
Dylai'r cynllun nodi cyfrifoldebau'r pennaeth a'r corff llywodraethu mewn perthynas â'r cynllun cyllidebol blynyddol; rhaid i'r cynllun cyllidebol ffurfiol cyntaf ar gyfer pob blwyddyn ariannol gael ei gymeradwyo gan y corff llywodraethu neu un o bwyllgorau'r corff llywodraethu.
Caiff yr awdurdod lleol awgrymu i ysgolion beth fyddai'n lefel ddymunol o ddirprwyo i benaethiaid ond ni ddylai'r cynllun geisio gosod unrhyw lefel benodol o ddirprwyo.
3.6 Cynnal a chadw ysgolion
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi mai'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r ysgolion a gwmpesir gan y cynllun a bod hyn yn cynnwys y ddyletswydd i dalu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'u cynnal a'u cadw (ac eithrio yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir lle mae rhai o'r costau, drwy statud, yn daladwy gan y corff llywodraethu). Rhan o'r ffordd y mae awdurdod lleol yn cynnal a chadw ysgolion yw drwy'r system gyllido a roddwyd ar waith o dan adrannau 45 i 53 o'r Ddeddf.
4. Rheolaethau ariannol
4.1 Gweithdrefnau cyffredinol
4.1.1 Cymhwyso rheolaethau ariannol at ysgolion
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion, wrth reoli eu cyllidebau dirprwyedig, gydymffurfio â gofynion yr awdurdod lleol o ran rheolaethau ariannol a monitro, nid dim ond y gofynion hynny yn y cynllun ond hefyd y gofynion a geir mewn cyhoeddiadau mwy manwl y cyfeirir atynt yn y cynllun. Bydd y cynllun yn drech nag unrhyw reolau neu reoliadau eraill a wneir gan yr awdurdod sy'n ymwneud â chyllido'r ysgolion a gynhelir ganddo neu reolaeth ariannol yr ysgolion hynny.
Gall gofynion yr awdurdod lleol fod yn wahanol ar gyfer ysgolion sydd â'u cyfrifon banc eu hunain.
4.1.2 Darparu gwybodaeth ac adroddiadau ariannol
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion roi manylion gwariant ac incwm disgwyliedig a gwirioneddol i'r awdurdod lleol, ar ffurf ac ar adegau a bennir gan yr awdurdod. Fodd bynnag, ni ddylai'r cynllun ei gwneud yn ofynnol i fanylion o'r fath gael eu cyflwyno yn amlach nag unwaith bob tri mis ac eithrio ar gyfer y rhai sy'n gysylltiedig â chysoni treth a bancio; oni fydd yr awdurdod lleol wedi hysbysu'r ysgol yn ysgrifenedig ei fod o'r farn bod sefyllfa ariannol yr ysgol yn golygu bod angen cyflwyno manylion yn amlach neu os bydd yr ysgol yn ei blwyddyn weithredu gyntaf.
Dylai'r cynllun hefyd nodi'n glir nad yw'r cyfyngiad i fwlch o dri mis o leiaf yn gymwys i ysgolion sy'n rhan o system gyfrifyddu ariannol ar-lein a weithredir gan yr awdurdod lleol.
Mae hyn yn wahanol i ofyniad ar gyfer cynlluniau cyllidebol blynyddol.
4.1.3 Talu cyflogau a thalu biliau
Gallai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n gymwys ar wahân i weithdrefnau gweinyddol cyhoeddedig ar gyfer y rhain. Bydd y gweithdrefnau hyn yn amrywio yn dibynnu ar safbwynt ar ddirprwyo cyllid ac unrhyw drefniadau ar gyfer prynu gwasanaethau yn ôl sydd ar waith.
4.1.4 Rheoli asedau
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gadw rhestr o'i asedau symudol nad ydynt yn asedau cyfalaf (gweler paragraff 18 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2). Dylai'r rhestr hon fod ar ffurf a bennir gan yr awdurdod a dylai nodi'r gweithdrefnau awdurdodi sylfaenol ar gyfer gwaredu asedau. Fodd bynnag, dylai ysgolion fod yn rhydd i benderfynu ar eu trefniadau eu hunain ar gyfer cadw cofrestr o asedau gwerth llai na £1,000. Dylai'r cynllun annog ysgolion i gofrestru unrhyw beth sy'n gludadwy ac yn ddeniadol, megis camera. Dylai gadw cofrestr o ryw fath. Rhaid i'r gofrestr hon fodloni unrhyw ofyniad a bennir gan yswirwyr.
Er y gall awdurdodau benderfynu ar ffurf rhestr ar gyfer eitemau uwchlaw'r trothwy o £1,000, yn lle hynny cânt benderfynu'n syml y dylai ysgolion ddilyn canllawiau yn hytrach na fformat caeth.
4.1.5 Polisïau cyfrifyddu, gan gynnwys gweithdrefnau diwedd blwyddyn
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddilyn gweithdrefnau a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol ar gyfer hyn.
4.2 Sail cyfrifyddu
Caiff y cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau a chyfrifon a gyflwynir i'r awdurdod lleol fod ar sail arian parod neu groniadau. Fodd bynnag, ni ddylai'r cynllun geisio gosod y naill system na'r llall ar systemau mewnol ysgolion.
Bwriedir i'r ddarpariaeth hon sicrhau, er y dylai awdurdodau lleol allu mynnu bod adroddiadau yn cael eu cyflwyno ar y sail sydd ei hangen arnynt, na ddylent allu dweud wrth ysgolion sut maent yn trefnu eu cyfrifon. Mae hyn yn golygu'n benodol y dylai ysgolion allu defnyddio pa feddalwedd ariannol bynnag y maent am eu defnyddio, ar yr amod eu bod yn talu costau addasu er mwyn darparu allbwn sydd ei angen ar yr awdurdod lleol.
4.3 Cyflwyno cynlluniau cyllidebol
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gyflwyno cynllun i'r awdurdod sy'n dangos ei bwriadau o ran gwariant yn y flwyddyn ariannol bresennol (gweler paragraff 19 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2). Dylai hyn gynnwys dyddiad penodedig erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno'r cynllun a'r tybiaethau sy'n sail i'r cynllun cyllidebol. Caiff y ddarpariaeth hon ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau diwygiedig gael eu cyflwyno drwy gydol y flwyddyn, ond dim ond pan fydd yr amgylchiadau yn cyfiawnhau hynny, er enghraifft, pan fydd gan ysgol ddiffyg ariannol sylweddol.
Caiff awdurdodau gynnwys gofyniad bod cynlluniau cyllidebol dros dro yn cael eu cyflwyno erbyn dyddiad penodol; ond rhaid gwahaniaethu rhwng y rhain a'r cynllun cyllidebol ffurfiol na ellir gofyn i ysgolion eu cyflwyno cyn 1 Mai.
Ni ddylai'r dyddiad penodedig ar gyfer cyflwyno'r cynllun ffurfiol fod cyn 1 Mai nac ar ôl 30 Mehefin. Ni ddylai'r cynllun ei gwneud yn ofynnol i ddiwygiadau gael eu cyflwyno yn amlach nag unwaith bob tri mis. Dylai fformat y cynllun gael ei bennu gan yr awdurdod mewn cyhoeddiad ar wahân. Efallai y bydd awdurdodau am roi arweiniad i ysgolion ar dybiaethau sy'n debygol o fod yr un peth ar gyfer pob ysgol e.e. ynghylch chwyddiant.
Rhaid i'r cynllun hefyd gynnwys darpariaeth sy'n rhwymo'r awdurdod i ddarparu i ysgolion yr holl ddata ar incwm a gwariant ysgolion a ddelir ganddo sydd eu hangen ar ysgolion i gynllunio'n effeithlon, a rhoi datganiad blynyddol i ysgolion sy'n dangos pryd y caiff y wybodaeth hon ei darparu yn ystod y flwyddyn.
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ystyried diffygion a gwargedion ar ddiwedd y cyfnod cyllido blaenorol yn llawn yn eu cynllun.
4.4 Rheoli adnoddau ysgolion
Rhaid i'r cynllun gynnwys y ddarpariaeth ganlynol, sy'n gosod gofyniad ar ysgolion i reoli eu hadnoddau er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i ddisgyblion.
Rhaid i ysgolion geisio rheoli adnoddau yn effeithiol a sicrhau gwerth am arian, er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o'u hadnoddau a buddsoddi mewn addysgu a dysgu, gan ystyried gofynion prynu, tendro a chontractio'r awdurdod lleol.
Mater i benaethiaid a llywodraethwyr yw penderfynu ar lefel ysgol sut i wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau a sicrhau'r gwerth mwyaf posibl am arian.
Ceir amrywiadau sylweddol rhwng ysgolion tebyg o ran sut maent yn mynd ati i reoli adnoddau'n effeithiol ac, felly, mae'n bwysig bod ysgolion yn adolygu eu gwariant presennol, yn ei gymharu ag ysgolion eraill ac yn ystyried sut i wneud gwelliannau.
4.5 Trosglwyddo
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n galluogi ysgolion i drosglwyddo'n rhydd rhwng penaethiaid wrth wario eu cyfrannau o'r gyllideb.
4.6 Archwilio cronfeydd gwirfoddol a phreifat
Dylai cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddarparu tystysgrifau archwilio mewn perthynas â chronfeydd gwirfoddol a phreifat a ddelir gan ysgolion, ac mewn perthynas â chyfrifon unrhyw sefydliadau masnachu a reolir gan yr ysgol.
Diben darpariaeth o'r fath yw galluogi'r awdurdod lleol i fodloni ei hun nad yw arian cyhoeddus yn cael ei gamddefnyddio.
Ni ddylai awdurdodau lleol geisio gosod, drwy'r cynllun, hawl i archwilio cronfeydd o'r fath eu hunain nac fel arall weld cyfrifon cronfeydd preifat. Nid ydym o'r farn bod angen y fath hawl nac ychwaith bod y cynllun yn gallu ei rhoi.
Mae ysgol sy'n gwrthod darparu tystysgrifau archwilio i'r awdurdod lleol fel sy'n ofynnol gan y cynllun yn torri amodau'r cynllun a gall yr awdurdod gymryd camau ar y sail honno. Mater i'r ysgol yw penderfynu a ddylai ganiatáu i asiantaethau eraill weld cyfrifon o'r fath. Mater i'r rhai sy'n darparu'r cyllid, ac i unrhyw ofynion sydd gan y Comisiwn Elusennau, yw unrhyw ofyniad arall o ran archwilio cronfeydd o'r fath.
4.7 Cofrestr o fuddiannau busnes
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu pob ysgol gynnal cofrestr sy'n rhestru buddiannau busnes pob aelod o'r corff llywodraethu a phennaeth neu unrhyw aelod o'i deulu agos (gweler paragraff 16 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2).
Caiff yr awdurdod lleol gyhoeddi canllawiau manylach ar gynnal cofrestr o'r fath.
4.8 Gofynion prynu, tendro a chontractio
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddilyn rheolau ariannol a rheolau sefydlog yr awdurdod lleol mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â phrynu, tendro a chontractio. Dylai hyn gynnwys gofyniad i asesu ymlaen llaw gymhwysedd proffesiynol unrhyw gontractwyr mewn meysydd megis cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch, arferion diogelu ac ati, gan ystyried polisïau a gweithdrefnau'r awdurdod lleol.
Fodd bynnag, dylai'r cynllun hefyd gynnwys darpariaeth sy'n datgymhwyso o ysgolion unrhyw un o ddarpariaethau'r rheolau neu'r rheolau sefydlog hynny a fyddai'n gwneud y canlynol:
- ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud unrhyw beth sy'n anghydnaws ag unrhyw un o ddarpariaethau'r cynllun, neu unrhyw ddarpariaeth statudol,
- ei gwneud yn ofynnol iddynt gael cydlofnod yr awdurdod lleol ar gyfer unrhyw gontractau ar gyfer nwyddau, gwaith neu wasanaethau am werth islaw £60,000 mewn unrhyw flwyddyn benodol;
- ei gwneud yn ofynnol iddynt ddewis contractau a (neu) llwybrau contractiol o restr gymeradwy yn unig;
- caniatáu iddynt geisio llai na thri thendr neu ddyfynbris mewn perthynas ag unrhyw gontract gwerth mwy na £10,000 mewn unrhyw flwyddyn.
Caiff awdurdod bennu trothwy uwch yn ei gynllun.
Nid oes unrhyw wrthwynebiad i awdurdodau yn cyhoeddi rhestrau o gontractau a (neu) llwybrau contractiol cymeradwy; ond ni ddylid gwneud i ysgolion yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol eu defnyddio. Efallai y bydd awdurdodau am dynnu sylw at fanteision defnyddio rhestrau o gyflenwyr cymeradwy, er enghraifft, sicrwydd ynglŷn â materion iechyd a diogelwch.
Nid yw'r ffaith bod contract awdurdod lleol wedi'i ddyfarnu yn unol â rheolau ariannol a rheolau sefydlog yr awdurdod lleol mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â phrynu, tendro a chontractio ynddi'i hun yn ei gwneud yn bosibl i ysgol gael ei rhwymo i fod yn rhan o'r contract hwnnw. At ddibenion y gweithdrefnau caffael, ystyrir bod ysgolion yn awdurdodau contractio ar wahân.
Dylai'r gofyniad i gael cydlofnod gael ei gymhwyso'n synhwyrol gan awdurdodau lleol ac ysgolion fel ei gilydd, gan osgoi ymdrechion i gyfuno neu ddadgyfuno archebion yn artiffisial er mwyn osgoi neu osod y gofyniad.
4.9 Cymhwyso contractau at ysgolion.
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi'n glir hawl ysgolion i optio allan o gontractau a drefnir gan awdurdodau lleol ac eithrio pan fydd y cynllun yn darparu fel arall.
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi'n glir, er bod cyrff llywodraethu wedi'u grymuso o dan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 2002 ymrwymo i gontractau, yn y rhan fwyaf o achosion, eu bod yn gwneud hynny ar ran yr awdurdod lleol fel y corff sy'n cynnal yr ysgol a pherchennog y cyllid yn y gyfran o'r gyllideb (dyma'r prif reswm dros ganiatáu i awdurdodau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gydlofnodi contractau gwerth mwy na swm penodol).
Fodd bynnag, dylai'r ddarpariaeth hefyd nodi'n glir y gall contractau eraill gael eu gwneud ar ran y corff llywodraethu yn unig, pan fydd gan y corff llywodraethu rwymedigaethau statudol; er enghraifft, contractau a wneir gan ysgolion a gynorthwyir neu ysgolion sefydledig at ddibenion cyflogi staff.
4.10 Cronfeydd canolog a chlustnodi
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth gyffredinol sy'n awdurdodi'r awdurdod lleol i ddarparu symiau i ysgolion o gronfeydd canolog, ar ffurf dyraniadau sy'n ychwanegol at gyfrannau'r ysgolion o'r gyllideb ac ar wahân iddynt (gweler paragraff 10 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2). Dylai'r cynllun nodi y dylai dyraniadau o'r fath fod yn ddarostyngedig i amodau sy'n nodi'r diben neu'r dibenion y gellir defnyddio'r cronfeydd ar ei gyfer neu eu cyfer; ni ddylid mynd â hyn mor bell â chymathu'r dyraniadau yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb.
Er enghraifft, gallai dyraniadau o'r fath fod yn symiau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol neu fentrau eraill a ariennir o wariant canolog cyllideb ysgolion awdurdod lleol neu un o gyllidebau eraill yr awdurdod.
Dylai'r cynllun gynnwys gofyniad mai dim ond at y dibenion y'i rhoddir ar eu cyfer y dylid gwario'r cyfryw gyllid wedi'i glustnodi o gronfeydd a gedwir yn ganolog, neu, os bydd yr awdurdod lleol am ganiatáu hynny, ar benawdau cyllideb eraill y rhoddir cyllid wedi'i glustnodi ar eu cyfer ac nas trosglwyddir i'r gyfran o'r gyllideb. Dylai fod mecanwaith cyfrifyddu i ysgolion allu dangos y cydymffurfiwyd â'r gofyniad hwn.
Gallai'r awdurdod lleol gynnwys gofyniad bod yn rhaid i gyllid wedi'i glustnodi gael ei ddychwelyd i'r awdurdod os na chaiff ei wario yn ystod y flwyddyn, neu yn ystod y cyfnod y caniateir i ysgolion ddefnyddio'r cyllid os yw'n wahanol.
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n gwahardd yr awdurdod lleol rhag didynnu unrhyw swm, mewn perthynas â chostau llog i'r awdurdod, o grant datganoledig penodol a delir i ysgolion.
4.11 Gwariant at ddibenion yr ysgol
Er bod adran 50(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn galluogi cyrff llywodraethu i wario cyfrannau o'r gyllideb at ddibenion yr ysgol, mae hyn yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ac unrhyw un o ddarpariaethau'r cynllun.
4.12 Gwariant cyfalaf o gyfrannau o'r gyllideb
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n caniatáu i gyrff llywodraethu yn benodol ddefnyddio eu cyfrannau o'r gyllideb i dalu cost gwariant cyfalaf ar safle'r ysgol. Mae hyn yn cynnwys gwariant gan gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir ar waith y mae'n gyfrifol amdano o dan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Fodd bynnag, os bydd yr awdurdod lleol yn dymuno gwneud hynny, caiff nodi, os disgwylir gwariant cyfalaf o'r gyfran o'r gyllideb, fod yn rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu'r awdurdod; a bod yn rhaid iddo ystyried unrhyw gyngor gan y Prif Swyddog Addysg ar rinweddau'r gwariant arfaethedig os yw'n fwy na'r ffigur o £15,000 (neu ryw swm uwch).
Caiff y cynllun nodi, os yw'r safle yn eiddo i'r awdurdod lleol, neu os oes gan yr ysgol statws ysgol wirfoddol a reolir, y dylai'r corff llywodraethu geisio cydsyniad yr awdurdod i'r gwaith arfaethedig, ond mai dim ond am resymau iechyd a diogelwch y gellir gwrthod rhoi cydsyniad o'r fath.
Y rheswm dros y darpariaethau hyn yw helpu i gyflawni cyfrifoldebau yn Rheoliadau Addysg (Mangreoedd Ysgol) 1999, Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992, Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005, Deddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Adeiladu 2010.
Os bydd unrhyw werthoedd arian parod yn ymddangos mewn cynlluniau, efallai y bydd awdurdodau lleol am eu diweddaru pan fyddant yn diwygio'r cynllun.
Ni fyddai'r darpariaethau hyn yn effeithio ar wariant o unrhyw ddyraniad cyfalaf a ddarperir gan yr awdurdod lleol y tu allan i'r gyfran ddirprwyedig o'r gyllideb.
4.13 Amseriad cyfrannau o'r gyllideb yn gyffredinol
Mae adran 50(2) o'r Ddeddf yn darparu y bydd awdurdodau lleol yn darparu cyfrannau o'r gyllideb ar adeg ac mewn ffordd a bennir gan y cynllun.
Ar gyfer ysgolion sy'n gweithredu eu cyfrif banc eu hunain ar gyfer rheoli eu cyllidebau dirprwyedig, nodir y gofyniad sy'n ymwneud ag amseriad rhandaliadau o'r gyfran o'r gyllideb yn adran 5.
Ar gyfer ysgolion sy'n defnyddio cyfrif banc yr awdurdod i reoli eu cyllidebau dirprwyedig, fel arfer byddai'r gyfran lawn o'r gyllideb ar gael iddynt ar 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, rhaid nodi pa bynnag drefniant sydd ar waith yn y cynllun. Fodd bynnag, byddai'n annoeth iawn i ysgol beidio â rhannu ei gwariant dros y flwyddyn ariannol lawn, oherwydd ei chost fwyaf o bell ffordd yw cyflogau sydd bron bob amser yn cael eu talu'n fisol.
4.14 Hysbysiad o bryder
Dylai'r cynllun hefyd gynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r awdurdod lleol i gyflwyno hysbysiad o bryder i unrhyw un o'r ysgolion a gynhelir ganddo. Am ragor o wybodaeth, gweler Ysgolion sy’n achosi pryder: canllawiau statudol ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol.
Gallai'r awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o bryder i gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir ganddo os bydd yr ysgol wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaethau yn y cynllun, neu pan fydd angen cymryd camau i ddiogelu sefyllfa ariannol yr awdurdod neu'r ysgol.
Bydd yr hysbysiad yn nodi'n glir beth yw'r gofynion hyn a'r ffordd y mae'n rhaid cydymffurfio â gofynion o'r fath ac erbyn pryd er mwyn i'r hysbysiad gael ei dynnu'n ôl. Bydd hefyd yn nodi'r camau y caiff yr awdurdod lleol eu cymryd os na fydd y corff llywodraethu yn cydymffurfio â'r hysbysiad.
Diben y ddarpariaeth hon yw galluogi awdurdod lleol i nodi'n ffurfiol unrhyw bryderon sydd ganddo ynghylch rheolaeth ariannol ysgol a gynhelir ganddo a'i gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd eu hangen, ym marn yr awdurdod lleol.
Rhaid mai'r prif faen prawf ar gyfer cyflwyno hysbysiad a phenderfynu ar y gofynion a gynhwysir ynddo, yw diogelu sefyllfa ariannol yr awdurdod lleol neu ysgol.
Ni ddylid ei ddefnyddio yn lle tynnu dirprwyad ariannol yn ôl o dan adran 51 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu o dan adran 8 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 os mai dyna'r cam priodol i'w gymryd. Fodd bynnag, gallai ddarparu ffordd o roi gwybod i gorff llywodraethu am bryderon awdurdod lleol heb fynd mor bell â thynnu dirprwyad yn ôl a nodi'r camau y dylai corff llywodraethu eu cymryd i wella ei drefniadau rheoli ariannol er mwyn sicrhau na chaiff dirprwyad ei dynnu'n ôl.
Os bydd awdurdod lleol yn cyflwyno hysbysiad o bryder, dylai'r cynllun ddarparu i'r hysbysiad gael ei dynnu'n ôl unwaith y bydd y corff llywodraethu wedi cydymffurfio â'r gofynion a osodir ganddo.
Wrth gynnwys y ddarpariaeth hon yn ei gynllun, efallai y bydd awdurdod lleol am ystyried y ffordd y gellir datrys anghydfod rhyngddo ef a'r ysgol y mae'n cyflwyno hysbysiad iddo ynghylch unrhyw agwedd ar yr hysbysiad.
4.15 Twyll
Rhaid bod gan bob ysgol system gadarn o reolaethau i'w diogelu ei hun rhag defnydd twyllodrus neu amhriodol o arian ac asedau cyhoeddus.
Rhaid i'r corff llywodraethu a'r pennaeth hysbysu pob aelod o'r staff am bolisïau a gweithdrefnau'r ysgol sy'n ymwneud â thwyll a dwyn, y rheolaethau sydd ar waith i'w hatal a chanlyniadau torri'r rheolaethau hynny. Rhaid i'r wybodaeth hon hefyd gael ei chynnwys yn y rhaglen sefydlu ar gyfer aelodau newydd o staff yr ysgol a llywodraethwyr newydd.
5. Ysgolion sy'n gweithredu cyfrif banc at ddibenion gwario'r gyfran o'r gyllideb
5.1 Amlder rhandaliadau
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi pa mor aml y darperir y gyfran o'r gyllideb i gyrff llywodraethu (gweler paragraff 8 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2). Dylai hyn fod o leiaf unwaith y tymor. At hynny, dylai'r cynllun ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol ddarparu rhandaliadau o'r gyfran o'r gyllideb bob mis i ysgolion sy'n gofyn am hynny; ond dylai'r cais gael ei wneud cyn dechrau'r flwyddyn ariannol berthnasol.
Os bydd awdurdod lleol yn gweinyddu'r gyflogres i ysgol, gall yr awdurdod ofyn i'r ysgol dan sylw ystyried a oes angen iddi gymryd yr opsiwn, a roddir o dan y cynllun, i gael arian yn gros o gostau cyflogau, mewn gwirionedd.
5.2 Dosrannu'r gyfran o'r gyllideb sy'n daladwy ym mhob rhandaliad
Dylai'r cynllun nodi'n glir ar ba sail y darperir y rhan o'r gyfran o'r gyllideb i ysgolion, mewn perthynas â chynnwys costau cyflogau amcangyfrifedig ac unrhyw bwysoliad sy'n golygu nad yw rhandaliadau o'r un faint.
Os darperir rhandaliadau misol, dylai'r cynllun ganiatáu i ysgolion ddewis i randaliadau o gyfanswm y gyfran o'r gyllideb gael eu darparu iddynt drwy eu talu i mewn i gyfrif banc ysgol, er y gellir cynnig cyfrannau o'r gyllideb yn net o gostau cyflogau amcangyfrifedig bob mis hefyd.
Dylai'r cynllun hefyd nodi'r ffordd y bydd yr awdurdod lleol yn cyfrifo'r amcangyfrif cychwynnol o gostau cyflogau. Gall hyn fod yn wahanol ar gyfer ysgolion o faint gwahanol neu ysgolion cynradd ac uwchradd ond ni chaiff wahaniaethu rhwng categorïau o ysgolion, ac eithrio pan fydd yr amcangyfrif yn ystyried gwybodaeth a ddarparwyd gan ysgolion unigol.
Mater i ddisgresiwn awdurdodau lleol yw unrhyw bwysoliad gwahaniaethol ar gyfer rhandaliadau tymhorol neu fisol.
Caiff cynlluniau wneud darpariaethau gwahanol o ran amlder a chyfran rhandaliadau i ysgolion â chyfrifon banc a'r rhai heb gyfrifon banc.
Caiff cynlluniau ddarparu mai dim ond pan fydd ysgol wedi cyflwyno unrhyw wybodaeth gysylltiedig, e.e. cynlluniau cyllidebol, gwariant ac incwm disgwyliedig a gwirioneddol a ffurflenni TAW, yn gywir i'r awdurdod lleol y bydd rhandaliadau yn daladwy. Mae angen i ysgol ddangos rheolaeth ariannol gadarn os bydd yn gweithredu cyfrif banc ar gyfer gwario ei chyfran o'r gyllideb.
5.3 Adfachu llog
Caiff y cynllun ddarparu i'r awdurdod lleol ddidynnu o randaliadau o'r gyfran o'r gyllideb swm sy'n cyfateb i'r llog amcangyfrifedig a gollir gan yr awdurdod wrth ddarparu'r gyfran o'r gyllideb ymlaen llaw.
Pan wneir darpariaeth o'r fath, dylai'r cynllun esbonio'r cyfiawnhad dros adfachu llog a dangos yn glir sail gyfrifo'r didyniad, gan ystyried yr opsiynau o ran amlder a gynigir gan y cynllun.
Mater i'r awdurdod lleol benderfynu arno yw'r union fethodoleg ar gyfer cyfrifo adfachiadau, ar yr amod ei bod yn hawdd i'w deall ac nad yw'n mynd ymhellach nag adennill llog a gollwyd. Os bydd y gyfran gyfan o'r gyllideb yn cael ei thalu i gyfrifon yn fisol, bydd talu ar ddyddiad sy'n agos i'r dyddiad y mae cyflogau yn daladwy yn cwtogi ar y llog a gollir.
5.4 Llog ar gyfrannau o'r gyllideb a delir yn hwyr
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol ychwanegu log at randaliadau o gyfrannau o'r gyllideb a delir yn hwyr, pan fydd taliad hwyr o'r fath i'w briodoli i wall ar ran yr awdurdod.
Dylai'r gyfradd llog a ddefnyddir fod yr un a ddefnyddir ar gyfer cyfrifiadau adfachu neu os na fydd y fath fecanwaith adfachu ar waith, cyfradd sylfaenol bresennol Banc Lloegr o leiaf.
5.5 Talu cyfrannau o'r gyllideb i ysgolion sy'n cau
Caiff y cynllun ddarparu i gyfrannau ysgolion o'r gyllideb y mae cymeradwyaeth i'w cau wedi'i sicrhau, gael eu darparu bob mis yn net o gostau cyflogau amcangyfrifedig (os yw'n briodol), hyd yn oed pan ddefnyddiwyd seiliau gwahanol yn flaenorol.
5.6 Cyfrifon banc a chyfrifon cymdeithasau adeiladu
Dylai'r cynllun ganiatáu i bob ysgol a gynhelir fod â chyfrifon banc allanol y telir rhandaliadau o'u cyfran o'r gyllideb i mewn iddynt.
Dylai'r cynllun hefyd ddarparu, os bydd gan ysgolion gyfrifon o'r fath, y dylid caniatáu iddynt gadw unrhyw log sy'n daladwy ar y cyfrif oni fyddant yn dewis cael cyfrif mewn contract awdurdod lleol sy'n gwneud darpariaeth arall.
Caiff y cynllun ddarparu na all ysgolion heb gyfrifon banc gael un nes i unrhyw ddiffyg gael ei glirio.
Dylai cynlluniau gynnwys darpariaeth sy'n nodi, os bydd ysgol yn agor cyfrif banc allanol, fod yn rhaid i'r awdurdod lleol, os bydd yr ysgol yn dymuno hynny, drosglwyddo i'r cyfrif ar unwaith swm y cytunir arno gan yr ysgol a'r awdurdod fel y gwarged amcangyfrifedig a ddelir gan yr awdurdod mewn perthynas â chyfran yr ysgol o'r gyllideb, ar y sail y gwneir cywiriad wedyn pan gaiff cyfrifon ar gyfer y flwyddyn berthnasol eu cau.
Gall cynlluniau ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gael cyfrifon o'r fath, ond nid oes unrhyw ddisgwyliad y byddai hyn yn digwydd fel arfer.
Nid yw cyfrifon banc y cyfeirir atynt yma yn cynnwys cyfrifon imprest, er nad oes unrhyw beth i atal awdurdodau lleol rhag cynnig cyfrifon imprest i ysgolion fel dewis amgen.
5.7 Cyfyngiadau ar gyfrifon
Caiff y cynllun bennu pa gyfrifon banc neu gyfrifon cymdeithasau adeiladu y gellir eu dal er mwyn i gyfrannau o'r gyllideb gael eu talu i mewn iddynt. Dylai'r rhestr gymeradwy fod yn gyson â pholisi rheoli trysorlys yr awdurdod lleol.
Rhaid i'r cynllun ganiatáu i ysgolion gael cyfrifon at ddibenion cyfrannau o'r gyllideb sydd yn enw'r ysgol yn hytrach na'r awdurdod lleol. Fodd bynnag, os bydd gan ysgol gyfrif o'r fath, dylai'r cynllun ei gwneud yn ofynnol i fandad y cyfrif ddarparu mai'r awdurdod lleol yw perchennog yr arian yn y cyfrif, bod ganddo hawl i gael datganiadau ac y gall gymryd rheolaeth dros y cyfrif os caiff hawl yr ysgol i gyllideb ddirprwyedig ei hatal gan yr awdurdod.
Gall yr awdurdod barhau i gael trefniadau a negodir â banciau penodol lle mae'r cyfrifon yn enw'r awdurdod lleol ond yn benodol i bob ysgol a chynnig trefniadau o'r fath i ysgolion.
Mae cyllid cyfrannau o'r gyllideb a delir gan yr awdurdod lleol ac a ddelir yng nghyfrifon ysgolion yn dal i fod eiddo i'r awdurdod nes iddo gael ei wario.
Caiff cynlluniau gynnwys darpariaeth sy'n cyfyngu ar lofnodwyr cyfrifon banc, ond dylai darpariaethau o'r fath ganiatáu i gyflogeion awdurdodau lleol a chyflogeion ysgolion fod yn llofnodwyr o leiaf.
Ni ddylid cyfyngu darpariaeth o'r fath i gyflogeion awdurdodau lleol yn unig, gan nad yw hyn yn ymarferol ar gyfer ysgolion sefydledig nac ysgolion a gynorthwyir. Caiff cynlluniau wahardd llywodraethwyr nad ydynt yn aelodau o staff rhag bod yn llofnodwyr.
Ni ddylai'r cynllun gynnwys darpariaethau sy'n cyfyngu ar y defnydd o ddebydau uniongyrchol nac archebion sefydlog ar gyfer cyfrif banc a weithredir gan ysgol, ac eithrio pan fo'r cyfrif yn rhan o gontract awdurdod lleol.
6. Y modd y caiff gwargedion a diffygion sy'n codi mewn perthynas â chyfrannau o'r gyllideb eu trin
6.1 Yr hawl i gario gwargedion ymlaen
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gario ymlaen o un flwyddyn ariannol i'r llall unrhyw ddiffyg mewn gwariant o gymharu â chyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ynghyd ag neu llai unrhyw falans a gariwyd ymlaen o'r flwyddyn flaenorol.
Dylai'r cynllun esbonio ar ba sail y byddai swm unrhyw falans sydd i'w drosglwyddo i gyfrif banc ysgol yn cael ei gyfrifo dros dro ar gyfer ysgol sy'n cael cyfrif banc newydd, a'r dyddiad y byddai'r swm hwnnw'n cael ei drosglwyddo, tra'n aros am gysoniad yn ddiweddarach.
Byddai swm unrhyw warged yn cael ei ddangos yn y datganiad alldro perthnasol a nodir yn Rheoliadau Rhif 2, er y gallai fod ymrwymiadau yn erbyn unrhyw ffigur a ddangosir mewn datganiad o'r fath.
6.2 Rheolaethau ar wargedion
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu gyflwyno adroddiad i'r awdurdod ar y defnydd y mae'r ysgol yn bwriadu ei wneud o wargedion, mewn achosion lle y caiff y gwarged ei gario ymlaen o'r cyfnod cyllido yn union cyn y cyfnod cyllido presennol pan fo'r gwarged hwnnw yn fwy na 5% o gyfran yr ysgol o'r gyllideb yn y cyfnod cyllido presennol. Caiff y ddarpariaeth nodi y byddai cynllun cyllidebol sy'n dod â'r gwarged i lai na 5% erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf yn gwneud y tro.
Rhaid i gynllun gynnwys datganiad yn nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn monitro'r modd y bydd corff llywodraethu yn defnyddio'r gwarged. Diben darpariaeth o'r fath yw caniatáu i awdurdodau fonitro balansau dros ben, nid sefydlu trefn reoli gyffredinol. Ni fwriedir rhoi cap ar falansau na'u hystyried wrth gyfrifo cyfrannau o'r gyllideb.
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth y gall yr awdurdod lleol gyfarwyddo corff llywodraethu i wario gwarged, sy'n fwy na 5% o gyfran yr ysgol o'r gyllideb, oddi tani (gweler paragraff 22 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2).
Rhaid i'r cynllun hefyd gynnwys darpariaeth i adfachu gwargedion gormodol, os na fydd corff llywodraethu yn cydymffurfio â chyfarwyddyd i wario. Rhaid i wargedion a adenillwyd gael eu dyrannu i gyllideb ysgolion yr awdurdod. Ni ellir colli’r arian hwn o gyllidebau ysgolion felly.
Dylai unrhyw fecanwaith ystyried yr egwyddor y dylai ysgolion fod yn symud tuag at fwy o ymreolaeth, na ddylid eu hatal rhag gwneud arbedion effeithlonrwydd cynnar er mwyn cefnogi eu prosesau cyllidebu tymor canolig mewn hinsawdd ariannol mwy heriol ac na ddylent gael eu llethu gan fiwrocratiaeth.
Felly, dylai'r mecanwaith ond canolbwyntio ar yr ysgolion hynny sydd wedi cronni balansau heb ei neilltuo gormodol sylweddol neu lle y byddai rhywfaint o ailddosbarthu yn helpu i wella'r ddarpariaeth ledled ardal leol.
Mae Rheoliadau Rhif 2 yn galluogi awdurdodau lleol i gymryd camau penodol pan fydd gwargedion ysgolion yn cyrraedd lefelau penodol.
Os bydd gwarged a ddelir gan ysgol ar ddechrau blwyddyn ariannol yn fwy na 5% o gyfran yr ysgol honno o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol honno, gall yr awdurdod lleol gyfarwyddo'r ysgol i wario'r elfen honno o'r gwarged sy'n fwy na 5%. Dylai unrhyw gyfarwyddyd fod yn glir a dylai fod terfyn amser iddo. Os na fydd y corff llywodraethu yn cydymffurfio â chyfarwyddyd o'r fath o fewn y terfyn amser penodedig, gall yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu dalu'r elfen gwarged honno neu ran ohoni i'r awdurdod lleol i'w ddefnyddio fel rhan o'i gyllideb ysgolion ar gyfer y cyfnod cyllido dan sylw.
Mae'r lefel a ddarperir yn Rheoliadau Rhif 2 yn drothwy y gellir cymryd camau os eir drosto, nid lle mae'n rhaid cymryd camau.
Dylai ysgolion â gwarged allu cyfiawnhau eu cynlluniau ar gyfer y balans cyfan, nid dim ond y swm y maent dros y trothwy, neu efallai y byddant yn destun camau gweithredu.
Os bydd gan ysgol gynllun penodol ac ystyrlon i wario gwarged o fewn cyfnod rhesymol o amser, dylid caniatáu iddi gadw'r gwarged hwnnw am y tro. Fodd bynnag, dylai cynlluniau o'r fath fod yn dda a dylent ddal eu harchwilio.
Mater i'r awdurdod lleol fydd penderfynu sut y caiff y broses hon ei rheoli. Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol, gyda'i ysgolion, ddatblygu fframwaith polisi priodol ar gyfer ei anghenion ei hunain (gweler paragraffau 20 i 22 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2). Ni ddylid ystyried bod gwaith ar wargedion yn fater diwedd blwyddyn yn unig. Yn lle hynny, argymhellir y dylid ei integreiddio â phrosesau cynllunio cyllidebau ysgolion aml-flwyddyn a gweithgarwch monitro yn ystod y flwyddyn. Dylai ysgolion â gwargedion sydd eisoes uwchlaw'r trothwy fod yn destun gwaith monitro parhaus er mwyn sicrhau y caiff cynlluniau a gymeradwywyd i wario eu balansau eu cyflawni neu y caiff y gwarged gormodol fel arall ei adfachu. Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol ddechrau ar eu gwaith cynllunio gyn gynted â phosibl yn y flwyddyn, fel eu bod yn gwybod ymhell cyn diwedd y flwyddyn a yw'r ysgol yn debygol o fod yn destun trafodaethau ynghylch gwarged. Waeth beth fo'r broses y cytunir arni'n lleol, dylid diffinio amserlenni yn glir a'u rhannu ag ysgolion. Ni ddylid ystyried bod arian wedi'i neilltuo oni all yr ysgol ddarparu tystiolaeth i ddangos:
- ei fod wedi'i neilltuo at ddiben penodol
- y caiff ei wario o fewn cyfnod diffiniedig ag un pwynt terfyn penodedig
- ei fod wedi cael ei gymeradwyo'n briodol gan lywodraethwyr
Dylid cynllunio ar gyfer symiau wedi'u neilltuo ac ni ddylid eu defnyddio dim ond i esbonio balans mawr. Dylai ysgolion ddarparu tystiolaeth o waith cynllunio, megis manylion prosiectau mewn Cynllun Rheoli Asedau neu Gynllun Datblygu Ysgol, ynghyd â chofnodion cyfarfodydd llywodraethwyr. Petai awdurdod lleol am gytuno gyda'r ysgol ar gynllun i leihau ei gwarged a fyddai'n cynnwys proses leihau fesul cam, mater i'r awdurdod fyddai hynny. Byddai hyn yn debyg iawn i'r trefniadau ar gyfer mantoli cyllideb ysgol sydd â diffyg ariannol ond o chwith. Byddai angen i'r awdurdod nodi'r pethau hyn yn ei bolisi.
Mae'r canlynol yn rhesymau derbyniol dros ddal balansau mawr:
- Os bydd gwariant sydd wedi'i neilltuo erbyn diwedd y flwyddyn ariannol drwy roi archebion neu gyflogi staff cyn y dyddiad hwnnw ond nad yw wedi'i godi ar y flwyddyn ariannol flaenorol.
- Os bydd gwariant wedi'i neilltuo er mwyn talu costau ychwanegol angenrheidiol cynllun cymeradwy yn y rhaglen gyfalaf, megis dodrefnu ystafell ddosbarth newydd.
- Os bydd gwariant wedi'i neilltuo ar gyfer gwaith cyfalaf sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Cynllun Rheoli Asedau'r Cyngor a bod amserlen y cytunwyd arni ar gyfer y gwaith.
- Os bydd cyllid wedi'i neilltuo er mwyn talu costau cynnal trefniadaeth cwricwlwm ar gyfer un grŵp blwyddyn â llai o ddisgyblion wrth iddo fynd drwy'r ysgol.
- Os bwriedir osgoi lleihad yn nifer y staff ar gyfer tymor yr haf er mwyn rhoi sefydlogrwydd i ddisgyblion am weddill y flwyddyn academaidd.
Ni ddylai'r canlynol fod yn rhesymau derbyniol dros ddal balansau mawr:
- Cadw digon o arian i ddiogelu'r gyllideb rhag gostyngiadau yn nifer y disgyblion yn y dyfodol, pan fyddai balansau yn parhau i fod uwchlaw'r trothwy ar ddiwedd cyfnod o dair blynedd yn dechrau â'r flwyddyn ariannol ganlynol.
- Cario gwargedion cronnol ymlaen.
- Prosiectau cyfalaf nad ydynt wedi cael eu diffinio'n glir a (neu) nad ydynt yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Cynllun Rheoli Asedau.
6.3 Llog ar wargedion
Rhaid i gynlluniau gynnwys darpariaeth sy'n nodi'n glir a godir llog ar falansau a ddelir gan yr awdurdod lleol ar ran ysgolion (gweler paragraff 7 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2). Os codir llog ar falansau o'r fath, efallai y bydd y cynllun ei hun yn dangos y sail gyfrifo neu efallai y cyfeirir at ganllawiau ar wahân a gyhoeddir o bryd i'w gilydd.
6.4 Rhwymedigaeth i gario diffygion ymlaen
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth ar gyfer cario diffygion ymlaen.
Byddai'r diffyg yn cael ei ddangos ar y datganiad alldro a nodir yn Rheoliadau Rhif 2; er y gallai gael ei ddangos yn gros o wariant wedi'i neilltuo ac, felly, ymddangos yn is nad y byddai yn ei wneud fel arall.
6.5 Cynlluniau cyllidebol â diffyg
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyflwyno cynllun adfer i'r awdurdod lleol cyn gynted ag y byddant yn rhoi gwybod am ddiffyg ariannol. Nodir y gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â chynllun adennill diffyg ym mharagraff 23 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2.
Caiff y cynllun gyfeirio at ganllawiau eraill ar weithredu'r trefniant diffyg. Fodd bynnag, rhaid i'r ddarpariaeth yn y cynllun mewn perthynas â chynllun adennill diffyg drafft nodi'r canlynol o leiaf:
- erbyn pryd y mae'n rhaid i'r corff llywodraethu gyflwyno cynllun drafft i'r awdurdod lleol er mwyn ei gymeradwyo
- y manylion gan gynnwys y cyfeiriad ar gyfer ble y dylai'r corff llywodraethu anfon cynllun adennill diffyg
- ffurf y cynllun adennill diffyg a'r materion y mae'n rhaid ymdrin â nhw ynddo
- hyd cynllun adennill diffyg
- faint o amser fydd ar gael i'r awdurdod lleol ystyried cynllun adennill diffyg drafft
- canlyniadau peidio â chyflwyno cynllun adennill diffyg drafft i'r awdurdod lleol
- unrhyw ofynion i adolygu a diwygio'r cynllun adennill diffyg cymeradwy
- canlyniadau peidio â chydymffurfio â chynllun adennill diffyg cymeradwy
Dylai'r cynllun hefyd gynnwys y canlynol:
- y dibenion y gellir cytuno ar y trefniant diffyg ar eu cyfer
- uchafswm maint y diffygion y gellir cytuno arnynt; gall hyn fod drwy gyfeirio at faint y gyfran o'r gyllideb a (neu) mewn termau arian parod
- rôl Prif Swyddog Addysg a Phrif Swyddog Cyllid yr awdurdod lleol wrth gytuno ar unrhyw drefniadau ar gyfer ysgolion unigol
Dylai cynllun adennill diffyg fod mor fyr ag y bo'n ymarferol bosibl ond, sut bynnag, ni ddylai fod yn hwy na phum mlynedd.
Dylai'r ddarpariaeth hon sicrhau bod cyllideb ysgol yn cael ei monitro'n briodol ac y caiff cymorth ei ddarparu mewn modd amserol. Mae balansau a ddelir gan ysgol mewn cyfrif banc allanol yn parhau i fod yn eiddo i'r awdurdod lleol, os cawsant eu darparu gan yr awdurdod i ddechrau ac, felly, yn ôl y gyfraith gall yr awdurdod eu hystyried wrth asesu cyfanswm y diffyg trwyddedig y gallai fod am ei ddarparu i ysgolion.
O dan gynllun diffyg trwyddedig, yr unig effaith ar ddatganiadau cyllideb a datganiadau alldro yw bod y balans yn mynd i ddiffyg yn yr olaf am fod gwariant ar lefel uwch na'r gyfran o'r gyllideb, ond bod y diffyg hwn yn lleihau i sero erbyn diwedd y cyfnod ad-dalu am fod yn rhaid i'r ysgol gyfyngu ar ei gwariant er mwyn gwneud yr ad-daliad. Ni chofnodir unrhyw ‘daliad’ i'r ysgol.
O dan amgylchiadau lle mae angen i ysgol gael cyfran o'r gyllideb ymlaen llaw er mwyn sicrhau na fydd ei chyfrif yn ddyledus yn ei banc, dylid trin hyn fel blaendaliad arian parod ac nid benthyciad. Ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar gyllideb na datganiadau alldro'r ysgol.
6.6 Codi llog ar ddiffygion
Caiff y cynllun gynnwys darpariaeth sy'n caniatáu i'r awdurdod lleol godi llog ar ddiffygion. Os bydd yn gwneud hynny, rhaid nodi'n glir ar ba sail y codir y llog yn y cynllun ei hun.
6.7 Dileu diffygion
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi'n glir na all yr awdurdod lleol ddileu diffygion unrhyw ysgol.
6.8 Balansau ysgolion sy'n cau ac ysgolion sy'n disodli rhai eraill
Pan fydd ysgol wedi'i sefydlu neu'n destun addasiad a ragnodwyd o ganlyniad i gau ysgol yn ystod y cyfnod cyllido, caiff awdurdod lleol ychwanegu swm at gyfran ysgol newydd neu ysgol wedi'i hehangu o'r gyllideb er mwyn adlewyrchu cyfran gyfran yr ysgol sy'n cau o'r gyllideb nas gwariwyd neu ran ohoni, gan gynnwys unrhyw warged a gariwyd ymlaen o'r cyfnodau cyllido blaenorol, ar gyfer y cyfnod cyllido pan mae'n cau.
6.9 Balansau pan fo ysgol yn gadael ffederasiwn
Pan fo trefniadau cyllideb unedig ar waith, yr awdurdod lleol fydd yn pennu sut y bydd unrhyw warged neu ddiffyg yn cael ei ddyrannu ar ôl ystyried amgylchiadau'r ffederasiwn, tarddiad cronfeydd a'r defnydd ohonynt, ymrwymiadau a rhwymedigaethau sy'n parhau, ac unrhyw sylwadau gan y corff llywodraethu. Bydd penderfyniad yr awdurdod lleol yn derfynol.
6.10 Cynlluniau benthyca
Caiff awdurdod lleol gynnwys yn ei gynllun fath o drefniant benthyca ar gyfer ysgolion nad yw'n gweithredu drwy ddiffyg trwyddedig ond sy'n gweithredu, yn hytrach, drwy daliadau gwirioneddol i ysgolion neu wariant gan yr awdurdod mewn perthynas ag ysgol benodol ar yr amod y caiff swm cyfatebol ei ad-dalu o'r gyfran o'r gyllideb.
Unwaith eto, efallai y bydd awdurdod lleol am wahodd ysgolion â balansau mewn cyfrifon allanol i ddefnyddio'r holl falansau hynny neu rai ohonynt i gefnogi cynllun benthyca, a dylai'r cynllun nodi'n glir ar ba sail y byddai hyn yn digwydd.
Os bydd cynllun benthyca ar y sail hon, rhaid i'r awdurdod lleol ddangos yn ei ddatganiadau cyllideb y swm a gedwir yn ganolog ar gyfer yr hyn a fyddai'n daliad datganoledig i ysgolion, a dylai'r taliad ymddangos yn y datganiadau alldro.
Dim ond er mwyn helpu ysgolion i rannu dros fwy nag un flwyddyn gost eitemau unigol untro mawr o natur cyfalaf sy'n dod â budd i ysgolion sy'n para am fwy nag un flwyddyn ariannol neu academaidd y dylid defnyddio benthyciadau.
Ni ddylid defnyddio benthyciadau fel ffordd o gyllido diffyg sy'n wedi codi am fod costau cylchol ysgol yn fwy na'i hincwm presennol.
7. Incwm
Yr egwyddor sylfaenol y dylai cynlluniau ei dilyn yw y dylai ysgolion allu cadw incwm ac eithrio o dan yr amgylchiadau penodol canlynol.
7.1 Incwm o osodiadau
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n galluogi ysgolion i gadw incwm o osod mangreoedd ysgol a fyddai fel arall yn mynd i'r awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau amgen sy'n codi o unrhyw gytundebau cyllid preifat.
Dylai'r cynllun alluogi ysgolion yn benodol i groes-gymorthdalu gosodiadau at ddefnydd cymdeithasol neu wirfoddol ag incwm o osodiadau eraill, ar yr amod bod y corff llywodraethu wedi'i fodloni na fydd hyn yn ymyrryd â chyflawni unrhyw un o'r dyletswyddau a osodir arno gan y deddfau addysg, gan gynnwys y gofyniad i redeg yr ysgol er mwyn hyrwyddo safonau cyrhaeddiad addysgol uchel.
Fodd bynnag, dylai fod yn ofynnol i ysgolion ystyried cyfarwyddiadau a roddir gan yr awdurdod lleol o ran defnyddio mangreoedd ysgol, fel y'i caniateir o dan y ddeddf ar gyfer gwahanol gategorïau o ysgolion.
Fel arfer, ni ddylai incwm o osod mangreoedd ysgol fod yn daladwy i gronfeydd gwirfoddol na phreifat a ddelir gan yr ysgol. Fodd bynnag, pan ddelir tir gan ymddiriedolaeth elusennol, mater i'r ymddiriedolwyr fydd penderfynu sut y dylid defnyddio unrhyw incwm a gynhyrchir gan y tir.
7.2 Incwm o ffioedd a thaliadau
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n galluogi ysgolion i gadw incwm o ffioedd a thaliadau ac eithrio pan ddarperir gwasanaeth gan yr awdurdod lleol gan ddefnyddio cyllid a gedwir yn ganolog. Fodd bynnag, dylai fod yn ofynnol i ysgolion ystyried unrhyw ddatganiadau polisi ar godi tâl a gaiff eu llunio gan yr awdurdod lleol.
Cesglir incwm o daliadau lletya ar ran yr awdurdod lleol ac ni ddylai fod yn fwy na'r hyn sydd ei angen i ddarparu bwyd a llety i'r disgyblion dan sylw.
7.3 Incwm o weithgareddau codi arian
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi'n glir fod ysgolion yn cael cadw incwm o weithgareddau codi arian ond y dylid defnyddio incwm o'r fath at ddibenion yr ysgol.
7.4 Incwm o werthu asedau
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n galluogi ysgolion i gadw'r elw o werthu asedau, ac eithrio mewn achosion lle y prynwyd yr ased gan ddefnyddio cyllid heb ei ddirprwyo (pan ddylai'r awdurdod lleol benderfynu a ddylai'r ysgol gadw'r elw) neu pan mai tir neu adeiladau sy'n rhan o safle'r ysgol ac sy'n eiddo i'r awdurdod yw'r ased dan sylw.
Nid mater i'r cynllun fydd cadw elw o werthu safleoedd nad ydynt yn eiddo i'r awdurdod lleol.
7.5 Dibenion y gellir defnyddio incwm ar eu cyfer
Caiff y cynllun gynnwys darpariaeth mai dim ond at ddibenion yr ysgol y gellir gwario incwm o werthu asedau a brynwyd gan ddefnyddio cyllid wedi'i ddirprwyo.
7.6 Gweithdrefnau gweinyddol ar gyfer casglu incwm
Caiff y cynllun gynnwys darpariaeth sy'n cymhwyso rheolau gwahanol ynglŷn â hyn at ysgolion, ond dim ond ar gyfer incwm sy'n mynd i'r awdurdod lleol; er enghraifft, pan fydd ysgol wedi ymrwymo i gontract â gwasanaeth prydau ysgol y cyngor.
Efallai y bydd yr awdurdod lleol am geisio cyngor ei ganolfan cyngor ar TAW i fusnesau leol ynghylch a ddylai ysgolion godi TAW ar osodiadau a'r gwasanaethau sy'n arwain at ffioedd a thaliadau ac ar oblygiadau gweithgareddau codi arian a gwerthu asedau o ran TAW.
8. Penawdau gwariant yn y gyllideb ysgolion a gedwir gan yr awdurdod
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi'r penawdau gwariant yn y cyllidebau ysgolion a gedwir gan yr awdurdod lleol. Daw unrhyw benawdau gwariant yn y gyllideb ysgolion nad ydynt wedi'u cynnwys yn y ddarpariaeth hon yn rhan o gyllideb ysgolion unigol yr awdurdod. Nodir y penawdau gwariant yn y cyllidebau ysgolion y gall yr awdurdod eu cadw yn Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2.
Bydd hyn yn sicrhau tryloywder o ran pa benawdau gwariant y mae awdurdod lleol yn dewis eu dirprwyo, a pha rai sy'n cael eu cadw gan yr awdurdod lleol.
Rhaid i unrhyw eitem a restrir yn y ddarpariaeth hon gael ei rhestru yn Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2. Fodd bynnag, dylid mabwysiadu'r egwyddor y dylai eitemau a gedwir yn ganolog gan yr awdurdod lleol er mwyn eu gwario ar gefnogi ysgolion, yn hytrach na'u dirprwyo i ysgolion (y gyllideb ysgolion unigol) fod yn eitemau o wariant yr ystyrir y gallent fod yn anaddas i'w dirprwyo. Gallai’r rhesymau dros hyn gynnwys, ymhlith pethau eraill, feysydd gwariant sydd:
- y tu hwnt i ddylanwad pennaeth neu gorff llywodraethu
- yn rhy fiwrocrataidd
- yn cynnwys lefelau annerbyniol o risg
- yn elwa ar arbedion maint
- yn gofyn am arbenigedd proffesiynol penodol
- yn gymhleth eu natur
9. Codi ar gyfrannau ysgol o'r gyllideb heb gydsyniad y corff llywodraethu
9.1 Darpariaeth gyffredinol
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn bosibl i'r awdurdod lleol godi ar gyfran ysgol o'r gyllideb heb gydsyniad y corff llywodraethu dim ond o dan amgylchiadau a ganiateir yn benodol gan y cynllun ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori ag ysgolion ynghylch y bwriad i godi ar gyfran ysgolion o'r gyllideb a hysbysu ysgolion pan fydd wedi gwneud hynny.
Caiff cynlluniau ddarparu ar gyfer gweithdrefnau anghydfodau ar gyfer codi taliadau o'r fath.
Er bod hawl awdurdodau lleol i ddiogelu eu sefyllfa ariannol rhag rhwymedigaethau a achosir gan weithred neu anweithred cyrff llywodraethu drwy godi ar gyfrannau o'r gyllideb yn sefydledig, bwriad y polisi yw sicrhau bod ysgolion yn gwbl ymwybodol o'r amgylchiadau lle y gallai hyn ddigwydd.
Felly, rhaid i gynlluniau restru'r amgylchiadau lle y caniateir codi taliadau o'r fath. Nodir y prif amgylchiadau isod, a chaiff awdurdodau lleol ychwanegu eraill neu hepgor rhai os byddant o'r farn nad oes eu hangen (gweler paragraff 3 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2).
Gallai fod yn ddefnyddiol atgoffa ysgolion na all yr awdurdod lleol ymddwyn yn afresymol wrth arfer unrhyw bŵer a roddir gan y cynllun, neu y gallai fod yn destun cyfarwyddyd o dan adran Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Ar gyfer pob un o'r amgylchiadau hyn, byddai'n rhaid i'r awdurdod lleol allu dangos ei fod wedi mynd i'r gwariant a godir bellach ar y gyfran o'r gyllideb o angenrheidrwydd. Mae hyn yn golygu, pan na all yr awdurdod lleol fynd i rwymedigaeth am fod y cyfrifoldeb statudol yn nwylo corff arall, nad oes modd codi taliadau. Felly, bydd y sefyllfa o ran codi taliadau yn amrywio rhwng categorïau o ysgol.
Mewn rhai achosion, mae'r gallu i godi ar gyfrannau o'r gyllideb yn dibynnu a yw'r awdurdod lleol wedi rhoi cyngor yn flaenorol i'r corff llywodraethu. Mae angen i awdurdodau lleol sicrhau eu bod wedi cymryd camau i'w galluogi i roi cyngor pryd bynnag y bo'n bosibl ac efallai y byddant am atgoffa ysgolion o hyn.
9.2 Codi ar gyflogau am y gost wirioneddol
Os bydd yr awdurdod lleol yn darparu'r gwasanaeth cyflogres i ysgolion, dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol godi ar gyflogau staff ysgol ar gyfrannau ysgolion o'r gyllideb am y gost wirioneddol.
9.3 Amgylchiadau lle y gellir codi taliadau os ydynt wedi'u nodi yn y cynllun
- Os aed i gostau ymddeol yn gynnar heb gael cytundeb ysgrifenedig yr awdurdod lleol ymlaen llaw i dalu costau o'r fath (yr unig swm y gellir codi amdano yw'r hyn sy'n fwy na'r swm y cytunwyd arno gan yr awdurdod).
- Gwariant arall yr eir iddo er mwyn sicrhau ymddiswyddiadau pan fo rheswm da dros godi'r gwariant hwn ar yr ysgol.
- Dyfarniadau gan lysoedd a thribiwnlysoedd cyflogaeth yn erbyn yr awdurdod lleol, neu setliadau y tu allan i'r llys, sy'n deillio o weithred neu anweithred ar ran y corff llywodraethu yn groes i gyngor yr awdurdod. Weithiau, gall dyfarniadau fod yn erbyn y corff llywodraethu yn uniongyrchol a byddai'n rhaid eu talu o'r gyfran o'r gyllideb. Os bydd y corff llywodraethu yn ymuno â'r awdurdod lleol yn y weithred a bod yr awdurdod lleol yn mynd i wariant am nad yw'r corff llywodraethu wedi dilyn ei gyngor, bydd codi gwariant yr awdurdod ar y gyfran o'r gyllideb yn diogelu sefyllfa'r awdurdod. Dylai awdurdodau lleol sicrhau, wrth lunio unrhyw gyngor o'r fath, ei fod wedi rhoi ystyriaeth briodol i rôl cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir.
- Gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod lleol wrth wneud gwaith iechyd a diogelwch y mae'r awdurdod yn atebol amdano pan fo cyllid wedi'i ddirprwyo i'r corff llywodraethu ar gyfer gwaith o'r fath, ond nid yw'r corff llywodraethu wedi gwneud y gwaith gofynnol.
- Gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod lleol wrth unioni diffygion mewn gwaith adeiladu a ariannwyd gan ddefnyddio gwariant cyfalaf o gyfrannau o'r gyllideb, pan fo'r safle yn eiddo i'r awdurdod neu pan fo gan yr ysgol statws ysgol wirfoddol a reolir.
- Gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod lleol wrth yswirio ei buddiannau ei hun mewn ysgol pan fo cyllid wedi'i ddirprwyo ond mae'r ysgol wedi methu â dangos ei bod wedi trefnu yswiriant sydd o leiaf cystal â'r hyn a fyddai wedi cael ei drefnu gan yr awdurdod. Mae angen i'r awdurdod lleol ei hun ystyried a oes ganddi fuddiant yswiriadwy mewn unrhyw achos penodol.
- Adennill arian sy'n ddyledus gan ysgol am wasanaethau a ddarparwyd i'r ysgol, pan fo anghydfod ynghylch yr arian wedi'i gyfeirio at weithdrefn anghydfodau a nodir mewn cytundeb lefel gwasanaeth a phan mai'r canlyniad yw bod yr arian yn ddyledus gan yr ysgol i'r awdurdod lleol.
- Adennill cosbau a osodwyd ar yr awdurdod lleol gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF), Teachers' Pensions, Asiantaeth yr Amgylchedd neu awdurdodau rheoleiddio eraill o ganlyniad i esgeulustod ysgol.
- Cywiro gwallau awdurdod lleol wrth gyfrifo taliadau ar gyfran o'r gyllideb; er enghraifft, didyniadau pensiwn. Cyn cymhwyso unrhyw ddarpariaeth o'r fath, dylai'r awdurdod lleol ystyried a yw'n rhesymol gwneud hynny. Os bydd y gwall yn dyddio'n ôl sawl blwyddyn, gellid amau a yw codi taliadau o'r fath yn rhesymol.
- Costau cludiant ychwanegol yr eir iddynt gan yr awdurdod lleol sy'n deillio o benderfyniadau gan y corff llywodraethu ynghylch hyd y diwrnod ysgol, neu fethiant i hysbysu'r awdurdod am ddiwrnodau pan na fydd disgyblion yn bresennol yn yr ysgol sy'n arwain at gostau cludiant diangen.
- Costau cyfreithiol yr eir iddynt gan yr awdurdod lleol am na dderbyniodd y corff llywodraethu gyngor yr awdurdod.
- Costau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant iechyd a diogelwch angenrheidiol ar gyfer staff a gyflogir gan yr awdurdod lleol, pan oedd cyllid ar gyfer hyfforddiant wedi'i ddirprwyo ond na chynhaliwyd yr hyfforddiant angenrheidiol.
- Iawndal a delir i fenthyciwr pan fydd ysgol yn ymrwymo i gontract ar gyfer benthyca sydd y tu hwnt i'w phwerau cyfreithiol ac nid yw'r contract yn effeithiol.
- Cost gwaith a wneir mewn perthynas â thaliadau pensiwn athrawon a chofnodion ar gyfer ysgolion sy'n defnyddio contractwyr cyflogres awdurdodau nad ydynt yn lleol, pan mai'r tâl a godir fydd yr isafswm sydd ei angen i dalu cost cydymffurfedd yr awdurdod â'i rwymedigaethau statudol.
- Costau yr eir iddynt gan yr awdurdod lleol wrth sicrhau darpariaeth a bennir mewn cynllun datblygu unigol (CDU) pan fydd corff llywodraethu ysgol yn methu â sicrhau darpariaeth o'r fath er bod cyllid perthnasol wedi'i ddirprwyo.
- Costau yr eir iddynt gan yr awdurdod lleol am fod yr ysgol wedi cyflwyno data anghywir.
- Adennill symiau a wariwyd o grantiau penodol ar ddibenion anghymwys.
- Costau yr eir iddynt gan yr awdurdod lleol am fod y corff llywodraethu wedi torri telerau contract.
- Costau yr eir iddynt gan yr awdurdod lleol neu ysgol arall am fod ysgol wedi tynnu'n ôl o drefniant clwstwr neu ffederasiwn, er enghraifft pan fydd hyn wedi ariannu staff sy'n darparu gwasanaethau ar draws y clwstwr neu'r ffederasiwn.
10. Trethiant
10.1 Treth ar Werth (TAW)
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n crynhoi'r weithdrefn y dylai ysgolion ei dilyn er mwyn gallu defnyddio gallu'r awdurdod lleol i adennill TAW ar wariant sy'n ymwneud â gweithgarwch nad yw'n weithgarwch busnes. Dylai'r ddarpariaeth nodi y caiff symiau a gaiff eu hadennill felly eu trosglwyddo'n ôl i'r ysgol.
Fel arfer, byddai'r ddarpariaeth yn cyfeirio at ganllawiau manylach ar wahân. Dylai canllawiau manwl a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol nodi'n glir beth yw'r amserlen arferol ar gyfer ad-dalu TAW.
Mae CThEF wedi cytuno y caiff TAW yr eir iddi gan ysgolion wrth wario unrhyw gyllid a ddarparwyd gan yr awdurdod lleol ei thrin fel petai'r awdurdod wedi mynd iddi a'i bod yn gymwys i gael ei hadennill gan yr awdurdod.
Nid yw hyn yn cynnwys gwariant yr eir iddo gan lywodraethwyr ysgol wirfoddol a gynorthwyir wrth gyflawni eu cyfrifoldebau statudol i gynnal a chadw adeiladwaith allanol eu hadeiladau.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol ymgynghori â chanolfannau cyngor ar TAW i fusnesau lleol ynghylch materion sy'n ymwneud ag ad-dalu TAW.
10.2 Cynllun y Diwydiant Adeiladu
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddilyn gweithdrefnau a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â chynllun y diwydiant adeiladu.
10.3 Pennu Statws Cyflogaeth (IR35)
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddilyn gweithdrefnau a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad ag IR35.
11. Gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan yr awdurdod lleol
11.1 Darparu gwasanaethau gan ddefnyddio cyllidebau a gedwir yn ganolog
Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi'n glir mai mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu ar ba sail y darperir gwasanaethau i ysgolion gan ddefnyddio cyllid a gedwir yn ganolog (gweler paragraff 6 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2).
Dylid llunio'r ddarpariaeth mewn ffordd sy'n cwmpasu'n glir gostau ymddeol yn gynnar a thaliadau dileu swydd presennol, y mae'n bosibl nad ydynt yn cael eu hystyried yn wasanaethau fel arfer.
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n gwahardd yr awdurdod lleol rhag gwahaniaethu wrth ddarparu gwasanaethau ar sail categorïau o ysgolion, ac eithrio pan fyddai hyn yn cael ei ganiatáu o dan Reoliadau Rhif 2.
11.2 Darparu gwasanaethau a brynwyd yn ôl o'r awdurdod lleol gan ddefnyddio cyllidebau wedi'u dirprwyo
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n cyfyngu ar dymor unrhyw drefniant ag ysgol i brynu gwasanaethau neu gyfleusterau gan yr awdurdod lleol i hyd at dair blynedd o ddyddiad estyniadau'r cytundeb iddo. Ystyrir bod unrhyw drefniant sy'n rhoi'r opsiwn i'r ysgol adael y trefniant drwy gymal ymadael a fyddai'n rhoi'r hawl i'r ysgol adael y trefniant o fewn tair blynedd fan bellaf yn cydymffurfio â'r terfyn uchaf. Nid oes isafswm cyfnod.
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi, pan ddarperir gwasanaeth na chedwir cyllid yn ganolog ar ei gyfer gan yr awdurdod o dan reoliadau a wnaed o dan adran 45A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (h.y. Rheoliadau Rhif 2), y dylid ei gynnig am brisiau y bwriedir iddynt gynhyrchu incwm na fydd yn llai na chost darparu'r gwasanaethau hynny.
Dylai cyfanswm cost y gwasanaeth gael ei dalu gan gyfanswm yr incwm, hyd yn oed os codir ar ysgolion yn wahaniaethol.
Cydnabyddir na ellir talu costau gwasanaeth yn llawn o'r incwm a gynhyrchir bob amser dros flynyddoedd ariannol penodedig; mater i'r awdurdod lleol yw dangos, yn ystod profion archwilio, y gellir disgwyl yn rhesymol i'r polisi codi tâl osgoi'r angen i gymorthdalu gwasanaethau o gronfeydd canolog.
11.3 Pecynnu
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth i'r perwyl bod yn rhaid i unrhyw wasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan awdurdod lleol ar sail prynu'n ôl gael ei gynnig mewn ffordd nad yw'n cyfyngu'n afresymol ar ryddid ysgolion i ddewis o blith y gwasanaethau sydd ar gael a, lle y bo'n ymarferol, bydd hyn yn cynnwys darpariaeth ar sail fesul gwasanaeth yn ogystal â phecynnau o wasanaethau.
Ni fyddai'r ddarpariaeth hon yn atal awdurdodau lleol rhag cynnig pecynnau o wasanaethau sy'n cynnig disgownt i ysgolion sy'n dewis cael ystod ehangach o wasanaethau, ond anogir awdurdodau i gynnig gwasanaethau yn unigol yn ogystal â chyfuniad o wasanaethau.
11.4 Cytundebau lefel gwasanaeth
Dylai'r cynllun ddarparu bod yn rhaid i gytundebau lefel gwasanaeth fod ar waith erbyn dyddiad penodol er mwyn iddynt fod yn effeithiol ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol, a bod yn rhaid i ysgolion gael o leiaf fis i ystyried telerau cytundebau.
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi, os darperir gwasanaethau neu gyfleusterau o dan gytundeb lefel gwasanaeth, boed hynny am ddim neu ar sail prynu'n ôl, y caiff telerau unrhyw gytundeb o'r fath sy'n dechrau pan sefydlir y cynllun neu ar ôl hynny, eu hadolygu o leiaf unwaith bob tair blynedd os bydd y cytundeb yn para mwy na hynny.
Os darperir gwasanaethau ar sail ad hoc, gellir codi tâl amdanynt ar gyfradd wahanol na phetaent yn cael eu darparu ar sail cytundeb estynedig.
Dylai'r cynllun hepgor yn benodol yswiriant mangreoedd ac atebolrwydd a drefnir yn ganolog o'r gofynion hyn o ran darparu gwasanaethau, am ei bod yn bosibl y bydd y cyfyngiadau a ragwelir yn anymarferol at ddibenion yswiriant.
11.5 Pensiynau athrawon
Rhaid i'r cynllun wneud darpariaeth mewn perthynas â ffurflenni a gwybodaeth gan gyrff llywodraethu at ddibenion pensiynau athrawon (gweler paragraff 32 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2). Dylai hyn ddarparu y dylai cyrff llywodraethu ysgolion sy'n darparu gwasanaethau cyflogres gyflwyno ffurflen yn nodi manylion cyflogau a gwasanaeth bob mis i'r awdurdod lleol.
Dylai cyrff llywodraethu hefyd sicrhau bod manylion cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod lleol o fewn y terfyn amser a bennir yn y cynllun cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol. Y testun safonol a awgrymir ar gyfer hyn yw:
“Er mwyn sicrhau y cyflawnir y ddyletswydd sydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu gwybodaeth i Teachers' Pensions o dan Reoliadau Cynllun Pensiynau Athrawon 2014, gosodir yr amodau canlynol ar yr awdurdod a chyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir a gwmpesir gan y cynllun hwn mewn perthynas â'u cyfrannau o'r gyllideb.
Dim ond i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir nad ydynt wedi ymrwymo i drefniant â'r awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau cyflogres y mae'r amodau'n gymwys.
Bydd corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, p'un ai cyflogwr yr athrawon mewn ysgol o'r fath ydyw ai peidio, sydd wedi ymrwymo i unrhyw drefniant neu gytundeb â pherson ac eithrio'r awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau cyflogres, yn sicrhau y caiff unrhyw drefniant neu gytundeb o'r fath ei amrywio er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ddarparu data cyflogau, gwasanaeth a phensiynau i'r awdurdod sydd eu hangen ar yr awdurdod i gyflwyno ei ffurflen fisol sy'n cynnwys manylion cyflogau a gwasanaeth i Teachers' Pensions a llunio ei dystysgrif cyfraniadau archwiliedig.
Bydd yr awdurdod lleol yn hysbysu ysgolion bob blwyddyn o amseriad, fformat a manylion y wybodaeth sydd ei hangen. Bydd corff llywodraethu hefyd yn sicrhau y caiff unrhyw drefniant a chytundeb o'r fath ei amrywio er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gyfraniadau gwirfoddol ychwanegol gael eu trosglwyddo i'r awdurdod lleol o fewn y terfyn amser a bennir yn y cynllun cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol. Bydd y corff llywodraethu yn talu unrhyw gostau canlyniadol sy'n deillio o gyfran yr ysgol o'r gyllideb.
Bydd corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir sy'n gweinyddu ei gyflogres yn uniongyrchol yn darparu data cyflogau, gwasanaeth a phensiynau i'r awdurdod lleol sydd eu hangen ar yr awdurdod er mwyn cyflwyno ei ffurflen fisol sy'n cynnwys manylion cyflogau a gwasanaeth i Teachers' Pensions a llunio ei dystysgrif cyfraniadau archwiliedig.
Bydd yr awdurdod lleol yn hysbysu ysgolion bob blwyddyn o amseriad, fformat a manylion y wybodaeth sydd ei hangen gan bob ysgol. Bydd corff llywodraethu hefyd yn sicrhau y caiff cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol eu trosglwyddo i'r awdurdod lleol o fewn y terfyn amser a bennir yn y cynllun cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol. Bydd y corff llywodraethu yn talu unrhyw gostau canlyniadol sy'n deillio o gyfran yr ysgol o'r gyllideb.”
12. Partneriaethau cyllid preifat
Efallai y bydd awdurdod lleol am gynnwys darpariaethau eraill sy'n ymwneud â phrosiectau cyllid preifat yn ei gynllun. Ymhlith materion eraill, gallai'r darpariaethau hyn ymdrin â chytuno â chyrff llywodraethu ysgolion ar sail taliadau o'r fath a'r ffordd y caiff arian a gedwir yn ôl o gontractwyr oherwydd perfformiad gwael ei drin.
Ymhlith darpariaethau'r contract, gall fod un sy'n nodi'n ffurfiol bŵer yr awdurdod lleol i godi symiau y cytunwyd arnynt o dan gytundeb cyllid y mae corff llywodraethu ysgol wedi ymrwymo iddo, ar gyfran yr ysgol o'r gyllideb.
13. Yswiriant
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi, os caiff cyllid ar gyfer yswiriant ei ddirprwyo i unrhyw ysgol, y caiff yr awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r ysgol ddangos bod yswiriant sy'n berthnasol i fuddiannau yswiriadwy awdurdod, o dan bolisi a drefnir gan y corff llywodraethu, o leiaf cystal â'r yswiriant gofynnol perthnasol a drefnir gan yr awdurdod os yw'r awdurdod yn gwneud trefniadau o'r fath, a delir naill ai o gronfeydd canolog neu o gyfraniadau o gyllidebau dirprwyedig ysgolion.
Dylai'r dystiolaeth sydd ei hangen i ddangos cyfartalwch yswiriant fod yn rhesymol, ni ddylai osod gormodol ar yr ysgol ac ni ddylai rwystro'r ysgol rhag gallu dewis ei ddarparwr.
Rhaid i'r cynllun ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol ystyried y risgiau gwirioneddol y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt godi yn yr ysgol dan sylw wrth weithredu gofyniad o'r fath, yn hytrach na phennu lefel ofynnol fympwyol o yswiriant ar gyfer pob ysgol.
Dylai'r cynllun hefyd gynnwys darpariaeth i bob ysgol gynradd a (neu) uwchradd a gynhelir allu ymuno â threfniadau yswiriant yr awdurdod lleol drwy gytuno ar y cyd drwy'r fforwm ysgolion i ddad-ddirprwyo cyllid.
14. Amrywiol
14.1 Yr hawl i weld gwybodaeth
Yn ogystal â gofynion penodol a restrir uchod, caiff y cynllun ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ddarparu'r holl wybodaeth ariannol a gwybodaeth arall y gallai fod ei hangen yn rhesymol er mwyn i'r awdurdod lleol fodloni ei hun ynglŷn â'r ffordd y mae'r ysgol yn rheoli ei chyfran ddirprwyedig o'r gyllideb, neu'r defnydd a wneir o unrhyw wariant canolog gan yr awdurdod ar yr ysgol; er enghraifft, cyllid wedi'i glustnodi.
14.2 Atebolrwydd llywodraethwyr
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi, am fod y corff llywodraethu yn gorff corfforaethol, ac oherwydd telerau adran 50(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, na fydd llywodraethwyr ysgolion a gynhelir yn atebol yn bersonol wrth arfer eu pŵer i wario'r gyfran ddirprwyedig o'r gyllideb ar yr amod eu bod yn ymddwyn yn onest, yn rhesymol ac yn ddidwyll.
Un enghraifft o ymddygiad nad yw'n ddidwyll yw cyflawni gweithredoedd twyllodrus. Efallai y bydd llywodraethwyr unigol yn atebol yn bersonol os ceir eu bod wedi methu â chyflawni eu dyletswydd o dan gyfraith elusennau, cyfraith cwmnïau neu gyfraith addysg, neu wedi cyflawni trosedd mewn perthynas â'u rôl fel llywodraethwr. Nid yw achosion o dorri telerau'r cynllun ynddynt eu hunain yn fethiannau i ymddwyn yn ddidwyll; nac ychwaith achosion o wrthod cyngor awdurdod lleol ar reolaeth ariannol.
14.3 Lwfansau llywodraethwyr
14.3.1 Ysgolion heb gyllidebau dirprwyedig
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r awdurdod lleol i ddirprwyo cyllid i gorff llywodraethu ysgol nad yw wedi cael cyllideb ddirprwyedig eto, er mwyn talu treuliau llywodraethwyr.
Fel arfer, ni fyddai gan gyrff llywodraethu unrhyw ddisgresiwn o ran lwfansau o'r fath, a fyddai'n cael eu pennu gan yr awdurdod lleol.
O dan adran 50(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, dim ond lwfansau mewn perthynas â dibenion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 y gellir eu talu i lywodraethwyr o gyfran ysgol o'r gyllideb ddirprwyedig (gweler Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005).
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n gwahardd talu unrhyw lwfansau eraill. Dylid hefyd wahardd ysgolion rhag talu treuliau sy'n dyblygu'r rhai a delir gan Weinidogion Cymru i lywodraethwyr ychwanegol a benodir ganddynt i ysgolion o dan fesurau arbennig.
14.3.2 Ysgolion â chyllidebau dirprwyedig
Yn achos ysgolion â chyllidebau dirprwyedig, caiff awdurdodau lleol gyhoeddi, ar wahân i'r cynllun, ganllaw ar yr hyn sy'n dreuliau rhesymol, yn eu barn nhw.
14.4 Cyfrifoldeb am gostau cyfreithiol
Caiff y cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi y gellir codi costau cyfreithiol yr eir iddynt gan y corff llywodraethu ar gyfran yr ysgol o'r gyllideb, oni fydd y corff llywodraethu yn gweithredu yn unol â chyngor yr awdurdod lleol; er mai cyfrifoldeb yr awdurdod yw hwn, fel rhan o gost cynnal a chadw'r ysgol oni fyddant yn ymwneud â chyfrifoldeb statudol llywodraethwyr ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir am adeiladau.
Effaith hyn yw na all ysgol ddisgwyl i gost cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr awdurdod lleol ei hun gael ei had-dalu iddi; er nad oes unrhyw beth i atal awdurdod rhag gwneud ad-daliad o'r fath os bydd o'r farn bod hyn yn ddymunol neu'n angenrheidiol o dan yr amgylchiadau.
Y costau y cyfeirir atynt yw costau camau cyfreithiol, gan gynnwys costau a ddyfernir yn erbyn awdurdod lleol; nid cost cyngor cyfreithiol a roddir.
Dylai cynllun esbonio'r weithdrefn y dylai ysgolion ei dilyn wrth gael cyngor cyfreithiol os bydd gwrthdaro buddiannau rhwng yr awdurdod lleol a'r corff llywodraethu.
Nid yw hyn yn golygu y dylid sefydlu gweithdrefn arbennig, ond dylid rhoi gwybod i gyrff llywodraethu am y problemau a allai godi a sut y gallent eu datrys.
14.5 Iechyd a diogelwch
Dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu, wrth wario cyfran yr ysgol o'r gyllideb, roi sylw dyladwy i ddyletswyddau sydd wedi'u gosod ar yr awdurdod lleol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch, ynghyd â pholisi'r awdurdod ar faterion iechyd a diogelwch wrth reoli'r gyfran o'r gyllideb.
14.6 Hawl y Prif Swyddog Cyllid i fod yn bresennol
Dylai'r cynllun ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ganiatáu i Brif Swyddog Cyllid yr awdurdod lleol neu unrhyw un o swyddogion yr awdurdod a enwebir gan y Prif Swyddog Cyllid, fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu lle mae unrhyw eitemau ar yr agenda yn berthnasol i'r broses o arfer ei gyfrifoldebau.
Fel arfer, dylid cyfyngu presenoldeb y Prif Swyddog Cyllid i eitemau sy'n ymwneud â materion priodoldeb neu reolaeth ariannol yn gyffredinol; ni ddylid ystyried bod presenoldeb o'r fath yn rhywbeth arferol. Dylai'r awdurdod lleol roi gwybod ymlaen llaw y bydd y Prif Swyddog Cyllid yn bresennol mewn cyfarfod oni fydd hyn yn anymarferol.
14.7 Anghenion dysgu ychwanegol
Efallai y bydd awdurdodau lleol am gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddefnyddio eu cyfran o’r gyllideb mewn modd sy’n eu helpu i gyflawni eu dyletswyddau statudol mewn perthynas â dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
Byddai bodolaeth darpariaeth o'r fath mewn cynllun yn ei gwneud yn bosibl i ddirprwyad gael ei atal dros dro petai sefyllfa yn ddigon difrifol i gyfiawnhau hynny; fel arfer, byddai hyn yn ymwneud â disgybl unigol.
14.8 Llog ar daliadau hwyr
Ni all telerau'r cynllun effeithio ar y gofynion statudol o ran y mater hwn ond efallai y bydd awdurdodau lleol am gynnwys nodyn atgoffa yn eu cynlluniau.
14.9 Chwythu’r chwiban
Rhaid i gynlluniau nodi'r weithdrefn i'w dilyn gan bobl sy'n gweithio mewn ysgol neu lywodraethwyr ysgol sydd am gwyno ynghylch rheolaeth ariannol neu briodoldeb ariannol yn yr ysgol, sut yr ymdrinnir â chwynion o'r fath (gweler paragraff 30 o Atodlen 4 i Reoliadau Rhif 2).
14.10 Amddiffyn plant
Dylai'r awdurdod lleol gynnwys darpariaeth yn ei gynllun sy'n esbonio'r angen i ryddhau staff i fynd i gynadleddau achosion amddiffyn plant a digwyddiadau cysylltiedig eraill, ac a fydd yr awdurdod yn gwneud unrhyw daliadau i ysgolion er mwyn eu helpu i dalu costau.
14.11 Costau dileu swyddi ac ymddeol yn gynnar
Mae Deddf Addysg 2002 yn nodi sut y dylid ariannu costau ymddeol yn gynnar a dileu swyddi fel arfer. Os bydd yr awdurdod lleol yn bwriadu gwneud trefniadau lleol yn unol â'r ddeddf, dylai'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n nodi sut y bydd hyn yn gweithio.
15. Cyfrifoldeb am waith atgyweirio a chynnal a chadw
Dylai'r cynllun gynnwys datganiad sy'n dangos y categorïau o waith y mae'n rhaid i gyrff llywodraethu ddisgwyl eu hariannu o'u cyllideb.
Dylai awdurdodau lleol ddirprwyo cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mewn ysgolion; dim ond gwariant cyfalaf a ddylai gael ei gadw gan awdurdodau. Caiff yr awdurdod lleol hefyd gadw gwariant ar atgyweirio a chynnal a chadw cegin ysgol pan ddidynnir gwariant ar brydau bwyd mewn perthynas â'r ysgol o gyllideb ysgolion yr awdurdod lleol o dan Atodlen 3 i Reoliadau Rhif 2.
At y dibenion hyn, dim ond os bydd yn ateb y diffiniad o gyfalaf a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol at ddibenion cyfrifyddu ariannol yn unol â chod ymarfer Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ar gyfrifyddu awdurdodau lleol y gellir trin gwariant fel cyfalaf.
Dylai cynlluniau nodi unrhyw derfyn de minimis y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu ei ddefnyddio i ddiffinio cyfalaf a refeniw wrth bennu cyfrifoldeb am fathau o waith. Os bydd awdurdodau lleol yn defnyddio terfynau de minimis ar gyfer pa wariant a gaiff ei drin fel cyfalaf a beth yw refeniw yn eu cyfrifon ariannol, dylid defnyddio'r un terfynau de minimis wrth ddiffinio'r hyn a gaiff ei ddirprwyo.
Yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, yr un yw atebolrwydd yr awdurdod lleol am waith atgyweirio a chynnal a chadw (er y caiff costau gwaith o'r fath eu talu drwy ddirprwyo cyllid drwy'r gyfran o'r gyllideb) a'i atebolrwydd mewn perthynas ag ysgolion eraill a gynhelir, ac nid oes angen rhestr ar wahân o gyfrifoldebau ar gyfer ysgolion o'r fath.
Fodd bynnag, nid yw cymhwystra i gael grant cyfalaf gan Weinidogion Cymru ar gyfer gwaith cyfalaf mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn dibynnu ar y terfyn de minimis a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol.
Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar awdurdodau lleol i gynnwys rhestr o enghreifftiau dangosol ar yr amod yr esbonnir y ffordd y caiff gwariant ei drin fel cyfalaf neu wariant nad yw'n wariant cyfalaf.
Atodiad A: Prif nodweddion y fframwaith cyllido
Nodir y fframwaith cyllido yn y darpariaethau deddfwriaethol yn Rheoliadau Rhif 2.
O dan y ddeddfwriaeth hon, mae awdurdodau lleol yn penderfynu ar faint eu cyllideb ysgolion a'u cyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion drostynt eu hunain.
Rhagnodir y categorïau o wariant sy'n dod o fewn y ddwy gyllideb o dan reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, ond mae'r holl wariant uniongyrchol ac anuniongyrchol ar ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol wedi'u cynnwys yn y ddwy gyllideb, gyda'i gilydd, ac eithrio eitemau cyfalaf a rhai eitemau amrywiol.
Caiff awdurdodau lleol ddidynnu cyllid o'u cyllideb ysgolion at ddibenion a bennir yn Rheoliadau Rhif 2 a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 45A o'r ddeddf (y gwariant a gedwir yn ganolog).
Yr awdurdod lleol dan sylw sy'n penderfynu ar y symiau sydd i'w didynnu at y dibenion hyn, yn ddarostyngedig i unrhyw derfynau neu amodau, gan gynnwys cael cymeradwyaeth ei fforwm ysgolion neu Weinidogion Cymru mewn achosion penodol.
Gelwir balans y gyllideb ysgolion sy'n weddill ar ôl didynnu'r gwariant a gedwir yn ganolog yn gyllideb ysgolion unigol.
Rhaid cadw eitemau o wariant yn y gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion yn ganolog, er y gellir gwneud dyraniadau wedi'u clustnodi i ysgolion.
Rhaid i awdurdodau lleol ddosbarthu'r gyllideb ysgolion unigol ymhlith yr ysgolion a gynhelir ganddynt gan ddefnyddio fformiwla sy'n cyd-fynd â Rheoliadau Rhif 2 ac sy'n ei gwneud yn bosibl i gyfran o'r gyllideb gael ei chyfrifo ar gyfer pob ysgol a gynhelir.
Yna, caiff y gyfran hon o'r gyllideb ei dirprwyo i gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw, oni bai fod yr ysgol yn ysgol newydd nad yw wedi cael ei chyllideb ddirprwyedig eto, neu fod yr hawl i gyllideb ddirprwyedig wedi cael ei hatal dros dro yn unol ag adran 51 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Nodir y rheolaethau ariannol y mae dirprwyo yn gweithio o'u mewn, mewn cynllun a lunnir gan yr awdurdod lleol yn unol ag adran 48 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a Rheoliadau Rhif 2 a wnaed o dan yr adran honno.
Rhaid i unrhyw gynigion i ddiwygio'r cynllun gael eu cymeradwyo gan y fforwm ysgolion, er y gall yr awdurdod lleol wneud cais i Weinidogion Cymru ar gyfer cymeradwyaeth os bydd y fforwm yn gwrthod cynnig neu'n ei gymeradwyo yn amodol ar addasiadau nad ydynt yn dderbyniol i'r awdurdod.
Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y cynllun hwnnw neu oddi tano, caiff cyrff llywodraethu ysgolion wario'r cyfryw symiau o'u cyfrannau o'r gyllideb ag sy'n briodol, yn eu barn nhw, at unrhyw un o ddibenion eu hysgol neu at unrhyw ddibenion ychwanegol a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir o dan adran 50 o'r Ddeddf.
Caiff awdurdod lleol atal hawl ysgol i gyllideb ddirprwyedig dros dro, os bydd darpariaethau cynllun ariannol yr awdurdod, neu reolau a weithredir gan y cynllun, wedi'u torri'n sylweddol neu'n barhaus, neu os na fydd y gyfran o'r gyllideb wedi cael ei rheoli'n foddhaol.
Gall hawl ysgol i gyfran o'r gyllideb ddirprwyedig hefyd gael ei hatal dros dro am resymau eraill, o dan Atodlen 17 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gyhoeddi datganiad sy'n nodi manylion ei gyllideb ysgolion arfaethedig, gan ddangos y symiau a gedwir yn ganolog a'r cyllid a ddirprwyir i ysgolion; ar gyfer pob blwyddyn ariannol mae'n rhaid i'r awdurdod gyhoeddi datganiad sy'n dangos gwariant alldro.
Nodir y gofynion cyhoeddi manwl ar gyfer datganiadau ariannol yn Rheoliadau Rhif 2.
Dylid cyhoeddi copi o ddatganiad cyllideb a datganiad alldro pob blwyddyn a sicrhau ei fod yn hygyrch i bob ysgol.
Mae rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun ac unrhyw ddiwygiadau iddo ar wefan sy'n hygyrch i'r cyhoedd, erbyn y dyddiad y daw'r diwygiadau i rym ynghyd â datganiad y daw'r cynllun i rym ar y dyddiad hwnnw.
