Neidio i'r prif gynnwy

Dyma ganllawiau statudol ar sut y gall cyrff y GIG ac awdurdodau lleol ddelio â sylwadau a gyflwynir iddynt gan Llais.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Canllawiau statudol ar sylwadau a gyflwynir gan Gorff Llais y Dinesydd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 275 KB

PDF
275 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Mae’n nodi sut mae hyn yn gallu digwydd mewn ffordd gymesur, gan adlewyrchu amrywiaeth y sylwadau. Mae'n annog dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae hefyd yn cydnabod yr angen i greu prosesau hyblyg, gweithredol. Mae hyn oherwydd y gallai’r sylwadau fod yn ymwneud ag unrhyw elfen o ddarparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.

Er mwyn galluogi cyrff y GIG ac awdurdodau lleol i wneud eu dyletswydd i ystyried y sylwadau hyn, dylent:

  • gael system glir ar gyfer ymdrin â sylwadau, sy'n gymesur â'r materion dan sylw
  • sicrhau bod Llais yn ymwybodol o hynt y broses o ddelio â’r sylwadau
  • sicrhau bod Llais yn cael gwybod beth oedd canlyniad ei sylwadau