Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar drafodiadau penodol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/2130 Contract a Throsglwyddo

(adran 10)

Pan fydd contract wedi’i gwblhau neu wedi'i gyflawni’n sylweddol, bydd yn drafodiad tir. Mae’n bosib y bydd angen i’r prynwr ddychwelyd ffurflen dreth os yw’r trafodiad yn un hysbysadwy, ac mae’n bosib y bydd yn rhaid talu treth trafodiadau tir os yw’r trafodiad yn drafodiad trethadwy. Ni ystyrir bod unigolyn wedi ymrwymo i drafodiad tir os yw wedi ymrwymo i gontract yn unig.

DTTT/2140 Contract wedi'i gwblhau heb gyflawni'n sylweddol yn flaenorol

Os yw contract wedi’i gwblhau ond heb ei gyflawni'n sylweddol cyn hynny, mae’r contract a phroses cwblhau’r trafodiad hwnnw yn rhannau o’r un trafodiad tir. Y dyddiad y daw’r trafodiad tir i rym yw’r dyddiad cwblhau.

DTTT/2150 Cyflawni'n sylweddol

Os caiff contract ei gyflawni’n sylweddol ond heb gael ei gwblhau, bydd y contract yn cael ei drin fel pe bai hwnnw yw’r trafodiad, a’r dyddiad y daw'r trafodiad i rym fydd y dyddiad y caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.

Pan fo perfformiad sylweddol yn digwidd

Bydd contract yn cael ei gyflawni’n sylweddol pan fydd:

  • y prynwr, neu unigolyn sy’n gysylltiedig â’r prynwr, yn cymryd meddiant o holl destun y contract, neu’r holl destun hwnnw i raddau helaeth; neu
  • cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth yn cael ei thalu neu ei darparu

Mae cymryd meddiant o’r testun yn golygu bod y prynwr, neu’r unigolyn sy’n gysylltiedig â’r prynwr, yn cael yr hawl i dderbyn rhent ac elw o’r eiddo, neu’n eu cael y rhent ac elw o’r eiddo wedyn. Bydd cyflawni'n sylweddol drwy gymryd meddiant yn digwydd pa un ai ei fod yn digwydd o ganlyniad i’r contract neu o dan drwydded, les dros dro neu denantiaeth wrth ewyllys.

Os nad oes dim o’r gydnabyddiaeth yn rhent, caiff swm sylweddol o’r gydnabyddiaeth ei dalu pan delir neu pan ddarperir yr holl gydnabyddiaeth, neu’r holl gydnabyddiaeth i raddau helaeth.

Os rhent yw’r unig gydnabyddiaeth, caiff swm sylweddol o’r gydnabyddiaeth ei dalu pan wneir y taliad rhent cyntaf.

Os yw’r gydnabyddiaeth yn cynnwys rhent a chydnabyddiaeth arall ar wahân i rent, bydd y cyflawni'n sylweddol yn digwydd, pa un bynnag sydd gynharaf;

  • pan gaiff yr holl gydnabyddiaeth, neu’r holl gydnabyddiaeth i raddau helaeth, ei thalu neu ei darparu; neu
  • pan wneir y taliad rhent cyntaf

Pan fydd y gydnabyddiaeth yn rhywbeth arall ar wahân i rent, yn ei hanfod, mae ‘holl’ yn golygu swm sy’n hafal i 90 y cant o gyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus o dan y contract, neu swm mwy na hynny, oni bai fod amgylchiadau'r trafodiad yn mynnu fod yr holl gydnabyddiaeth, yn ei hanfod, wedi’i thalu neu ei darparu.

Os bydd yr eiddo ym meddiant y prynwr yn barod o dan fuddiant gwahanol, er enghraifft os yw’r pryniant yn un rhydd-ddaliad ac mai tenant yw'r prynwr, ni fydd cyflawni'n sylweddol ar sail meddiant yn cael ei sbarduno ar adeg y contract cyn belled â bod y prynwr yn cadw at gyfamod y les. Ond, yn dibynnu ar y ffeithiau, mae’n bosibl i'r trethdalwr sbarduno cyflawni'n sylweddol wrth dalu bron holl swm y gydnabyddiaeth.

Enghraifft 1

Mae Mr A wedi ymrwymo i gontract i brynu eiddo. Pan ymrwymir i’r contractau, mae’n talu ernes o 20% o’r gydnabyddiaeth. Ni fydd hyn gyfystyr â chyflawni'n sylweddol. Disgwylir i’r contract gael ei gwblhau ar 30 Ebrill 2020. Ar 1 Rhagfyr 2019 mae Mr A yn talu 70% arall o’r gydnabyddiaeth i’r gwerthwr. Yn ei hanfod, mae wedi talu'r holl gydnabyddiaeth erbyn hyn ac felly mae wedi cyflawni’r contract yn sylweddol (er nad yw’r eiddo yn ei feddiant). Y dyddiad y daw'r trafodiad i rym fydd 1 Rhagfyr 2019 a bydd angen cyflwyno ffurflen dreth erbyn 31 Rhagfyr 2019. Wrth gwblhau'r contract (30 Ebrill 2020) bydd angen cyflwyno ffurflen dreth arall.

Enghraifft 2

Caniateir i B Cyf gael meddiant o siop er mwyn ei gosod cyn dechrau masnachu. Yn y cytundeb gyda'r landlord, er eu bod wedi cytuno ar ddyddiad cychwyn hwyrach i’r les, caiff B Cyf fynd i mewn i’r eiddo yn gynharach er mwyn ei gosod. Ond, mae’r landlord am weld taliad pro rata o’r rhent yn cael ei dalu ar y dyddiad y mae B Cyf yn cael y mynediad cyntaf i’r siop. Bydd taliad cyntaf y rhent yn cyflawni'r les hwnnw yn sylweddol.

Neu, pe byddai’r gydnabyddiaeth yn cael ei thalu gan gydnabyddiaeth arall ar wahân i rent a bod y gwerthwr yn caniatáu i B Cyf wneud y gwaith gosod am y ddau fis cyn i’r trafodiad gael ei gwblhau, mae'r hawl i feddiannu a defnyddio’r siop yn gyfystyr â chyflawni’r contract yn sylweddol.

Enghraifft 3

Mae Y Cyf yn ymrwymo i gontract i gaffael tir gan W Cyf y mae am ei ddatblygu i greu parc diwydiant ysgafn. Mae maint y tir yn dri hectar, a’r pris a osodwyd yn y contract yw £1,200,000 gyda’r contract wedi’i lofnodi ar 1 Gorffennaf 2020 a gyda dyddiad cwblhau o 30 Mehefin 2022. Mae gwerth cyfartal i bob rhan o'r tir. Pennwyd y dyddiad cwblhau yn gymharol bell yn y dyfodol gan fod W Cyf wedi rhoi les dros ddau hectar o’r tir i safle gwersylla sydd â dyddiad terfynu ar 31 Rhagfyr 2021.

Mae W Cyf yn cytuno i roi mynediad i Y Cyf ar 1 Gorffennaf 2020 at yr un hectar nad yw wedi’i roi ar les fel y gall ddechrau'r gwaith paratoi. Gan fod y tir o werth cyfartal, a bod Y Cyf wedi cael mynediad at ddim ond traean o'r tir, nid yw wedi cymryd meddiant o’r holl dir i raddau helaeth. O’r herwydd, nid yw’r contract wedi ei gwblhau yn ei hanfod.

Mae perchennog y safle gwersylla ar dir a gafwyd ar les gan W Cyf yn mynd yn wael ac o 1 Medi 2020 nid oes modd iddo barhau i redeg y safle gwersylla. Mae W Cyf, sydd wedi bod â pherthynas gadarnhaol iawn gyda pherchennog y safle gwersylla, yn cytuno i’r les gael ei hildio ar unwaith heb unrhyw gydnabyddiaeth, ac mae hefyd yn caniatáu i berchennog y safle gwersylla barhau i feddiannu (dan drwydded) dŷ a gerddi gweithredwr y safle gwersylla, gan nodi bod yn rhaid iddo gael ei wagio erbyn 31 Rhagfyr 2021.

Ar 1 Ionawr 2022 mae Y Cyf yn gofyn am ganiatâd i gael mynediad at y ddau hectar arall (ac eithrio tŷ a gerddi'r gweithredwr). Mae W Cyf yn cytuno â’r cais hwn ac mae Y Cyf yn cymryd meddiant ar y ddau hectar sydd ar ôl (ac eithrio’r tŷ) ar 1 Mawrth 2022. Ar y pwynt hwn, mae Y Cyf wedi cymryd meddiant ar yr holl dir yn ei hanfod ac o’r herwydd mae’r contract wedi’i gyflawni’n sylweddol.

Enghraifft 4

Mae T Cyf yn ymrwymo i gontract i gaffael adeilad gan U Cyf. Mae gwerth yr eiddo ar y farchnad yn £10m. Cwrddir â’r pris prynu, fel y nodir mewn contract dyddiedig 5 Ionawr 2020 drwy dalu £15m. Y swm hwnnw i'w dalu mewn dwy ran, £10m yn daladwy ar 5 Ionawr 2020 a’r gweddill yn 2150. Bydd ACC yn ystyried, mewn achos o’r fath bod y contract wedi’i gyflawni’n sylweddol oherwydd, er bod traean o’r gydnabyddiaeth yn parhau’n daladwy, mae’r dyddiad talu hwnnw cyn belled i'r dyfodol fel bod yr holl gydnabyddiaeth wedi ei rhoi i raddau helaeth. Mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yn parhau’n £15miliwn, y swm yn y contract.

Yn yr enghraifft hon, mae hefyd yn bosibl y bydd T Cyf wedi cymryd meddiant ar yr eiddo hefyd. O’r herwydd, gallai fod wedi cyflawni’r contract i raddau helaeth dan y rheolau hynny.

DTTT/2160 Cyflawni'n sylweddol - Cwblhau contract yn dilyn cyflawni'n sylweddol

Pan fydd trafodiad wedi'i gyflawni’n sylweddol ac wedi'i gwblhau wedi hynny, gall cyflawni’r contract yn sylweddol a chwblhau'r contract fod yn drafodiadau hysbysadwy.

Os yw’r dreth a godir wrth gwblhau’r contract yn uwch na swm y dreth a godir wrth gyflawni'r contract yn sylweddol, rhaid cynnwys y swm ychwanegol yn yr hunanasesiad ar y ffurflen dreth honno. Rhaid i’r ffurflen dreth ar gyfer cyflawni'r contract yn sylweddol a'r ffurflen dreth ar gyfer cwblhau’r trafodiad ddangos cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n daladwy, sy’n hysbys ar y dyddiad y caiff pob ffurflen dreth ei chwblhau.

DTTT/2170 Cyflawni'n sylweddol – contract heb ei weithredu

Yn dilyn cyflawni contract yn sylweddol, mae’n bosibl y caiff y contract (yn rhannol neu’n gyfan) ei ddadwneud, ei ddirymu, neu am unrhyw reswm arall, ddim ei weithredu. Os bydd hyn yn digwydd, bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn ad-dalu’r dreth a dalwyd (neu’r swm priodol o dreth) os bydd y trethdalwr yn cyflwyno ffurflen dreth ddiwygiedig sy’n dangos effaith dadwneud y contract ac ati (neu ran o’r contract).

Dim ond drwy gyflwyno ffurflen dreth ddiwygiedig y bydd modd cael ad-daliad. Dim ond yn ystod cyfnod o 12 mis y gellir cyflwyno ffurflen dreth ddiwygiedig lle bydd y cyfnod yn dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth yr effeithiwyd arni yn sgil dad-wneud y contract ac ati.

Un o ganlyniadau'r rheol hon yw mai dim ond y 12 mis sydd gan y trethdalwr o’r dyddiad ffeilio er mwyn cyflawni'r contract yn sylweddol. Sef 12 mis a 30 diwrnod o’r dyddiad y daw’r trafodiad i rym. Os caiff y contract ei ddadwneud y tu allan i'r cyfnod hwn, ni fydd y trethdalwr yn gallu diwygio ei ffurflen dreth ac ni fydd yn gallu hawlio ad-daliad.

DTTT/2180 Contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti

(adran 11)

Os ymrwymir i gontract sy’n mynnu bod un parti yn y contract (P2), â'r hawl i gyfarwyddo neu ofyn i’r gwerthwr (P1) drosglwyddo testun y contract iddynt hwy eu hunain neu i drydydd parti (P3), bydd y rheolau canlynol yn berthnasol:

  • ni ystyrir bod P2 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd ei fod yn ymrwymo i’r contract;
  • os bydd y buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo i P3 o dan gyfarwyddyd P2, a P2 heb gyflawni'r contract yn sylweddol cyn y trosglwyddo hwnnw, yna dim ond un trafodiad tir sydd, sef yr un rhwng P1 a P3;
  • os bydd y buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo i P2, bydd y rheolau arferol sy’n ymwneud â chontract a throsglwyddo yn berthnasol;
  • bydd y rheolau arferol yn berthnasol hefyd i unrhyw gontract rhwng P2 a P3;
  • os bydd y contract yn cael ei gyflawni’n sylweddol gan P2, hyd yn oed os bydd y contract wedi'i gwblhau wedi hynny wrth drosglwyddo’r buddiant trethadwy o P1 i P3, ystyrir bod P2 yn rhywun sydd wedi cael buddiant trethadwy ac wedi ymrwymo i drafodiad tir. Y dyddiad y daw’r trafodiad hwnnw i rym yw’r dyddiad cyflawni'n sylweddol

Os bydd y contract, ar ôl i P2 gyflawni'r contract yn sylweddol, yn cael ei ddad-wneud, ei ddirymu neu ddim ei weithredu, mae’n bosibl y caiff y dreth ei had-dalu.

Enghraifft o hyn yw cytundeb datblygiad lle mae gan y datblygwr yr hawl i fynd ar y tir ac adeiladu arno ac yna cyfarwyddo proses trawsgludo’r plotiau gorffenedig. Yn yr achos hwn, y dyddiad y daw'r trafodiad i rym yw'r dyddiad pan fydd P2 wedi cyflawni'r contract yn sylweddol; pan gymerodd P2 feddiant o’r eiddo er mwyn ei ddatblygu. Bydd dwy rwymedigaeth Treth Trafodiadau Tir (LTT) yn codi; un ar gyflawni’r contract yn sylweddol gan P2 a’r ail ar y trawsgludiad i’r prynwr terfynol trydydd parti.

Os bydd P2 yn cyfarwyddo’r gwerthwr gwreiddiol (P1) i drosglwyddo plot (neu’r eiddo cyfan) i P3, bydd y rheolau uchod ynghylch ‘contract a thrawsgludo’, ‘cwblhau heb gyflawni'n sylweddol’ a ‘cyflawni'n sylweddol heb gwblhau’ yn berthnasol i'r contract rhwng P2 a P3 ac i’r broses trawsgludo o P1 i P3. O ganlyniad, bydd yn rhaid i P3 dalu Treth Trafodiadau Tir ar y gydnabyddiaeth a delir i P1 neu P2, naill wrth gwblhau neu wrth gyflawni eu contract yn sylweddol.

Enghraifft 1

Mae B Cyf (P2) yn ymrwymo i gontract i brynu eiddo gan A Cyf (P1). Mae’r contract yn cynnwys cymal sy’n caniatáu i B Cyf roi cyfarwyddyd i A Cyf drosglwyddo’r eiddo i drydydd parti. Mae B Cyf yn talu 100% o’r pris prynu y cytunwyd arno (£2,000,000) i A Cyf ac felly, mae wedi cyflawni’r contract yn sylweddol a rhaid iddo gyflwyno ffurflen dreth i ACC cyn pen 30 diwrnod i gyflawni’r contract yn sylweddol. Mae B Cyf yn datblygu’r tir wedyn i greu canolfan siopa. Pan fydd y ganolfan siopa wedi’i chwblhau, mae B Cyf yn gwerthu'r ganolfan i C Cyf (P3) drwy gontract ar wahân am £6,000,000. Mae B Cyf yn rhoi cyfarwyddyd i A Cyf drosglwyddo’r eiddo i C Cyf. Bydd ffurflen dreth C Cyf (gyda B Cyf fel y gwerthwr) yn dangos y gydnabyddiaeth o £6,000,000. Bydd C Cyf yn cwblhau’r gwerthiant gan A Cyf hefyd gan ddangos mai ef ei hun yw’r prynwr gan nad yw B Cyf wedi cwblhau'r broses trosglwyddo’r eiddo iddo'i hun.

DTTT/2190 Contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti: effaith trosglwyddiad hawliau

(adran 12)

Mae'r rheolau hyn yn ategu'r rheolau ar gyfer contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti.

Os bydd contract yn darparu ar gyfer trosglwyddo’r testun gan y gwerthwr (P1) i drydydd parti (P3) ar gyfarwyddyd y prynwr (P2) ond bod unigolyn arall (P4) yn gallu ymarfer hawliau’r prynwr hwnnw, yna:

  • ni ystyrir bod P4 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd bod yr hawliau wedi’u trosglwyddo;
  • bydd trosglwyddo hawliau yn cael ei ystyried yn gontract ar wahân (‘eilaidd’);
  • bydd P4 yn cael ei ystyried fel pe bai ef yw’r prynwr (P2) o dan y contract gwreiddiol;
  • y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus gan P4 o dan y contract eilaidd yw: y gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol sy’n ymwneud â thestun y trosglwyddiad hawliau sydd i’w roi i P4 (neu unigolyn sy’n gysylltiedig â P4), a’r gydnabyddiaeth a roddir am y trosglwyddiad hawliau

Os yw P2 wedi cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol, rhaid diystyru’r cyflawni’n sylweddol (mae hynny’n golygu nad yw P2 yn rhwym i’r rhwymedigaethau ar y ffurflen dreth sy’n codi wrth gyflawni’n sylweddol) os yw’n digwydd:

  • ar yr un pryd â chyflawni’r contract eilaidd yn sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny; neu
  • ar ôl y trosglwyddiad hawliau i P4

Os trosglwyddir hawliau yn olynol, mae’r rheolau yn berthnasol i bob un o’r trosglwyddiadau hawliau hynny ar wahân. Felly, os caiff y contract eilaidd sy’n gysylltiedig â throsglwyddiad hawliau cynharach ei gyflawni’n sylweddol, mae hynny i’w ddiystyru os yw’n digwydd:

  • ar yr un pryd ag y caiff y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad hawliau dilynol ei gyflawni’n sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny; neu,
  • ar ôl y trosglwyddiad dilynol hwnnw

Os yw trosglwyddiad hawliau mewn perthynas â rhan yn unig o destun y contract gwreiddiol, neu â rhai yn unig o’r hawliau o dan y contract hwnnw, yna:

  • dim ond i’r rhan honno o’r testun neu’r hawliau hynny y mae'r rheolau’n berthnasol; a,
  • mae’r contract mewn perthynas â'r rhannau neu'r hawliau eraill yn cael ei drin fel contract ar wahân

Ni all y dyddiad y daw’r trafodiad tir i rym yn deillio o gontract eilaidd fod yn gynharach na dyddiad yr aseinio ac ati a arweiniodd at drosglwyddo’r hawliau i P4.

DTTT/2200 Trafodiadau cyn-gwblhau

(adran 13 ac Atodlen 2)

Y man cychwyn ar gyfer trafodiad cyn-gwblhau yw bod yn rhaid cael contract ar gyfer trafodiad tir ac mae’n rhaid ei gwblhau drwy drosglwyddiad. Cyn bod y ‘contract gwreiddiol’ hwnnw’n cael ei gyflawni’n sylweddol neu ei gwblhau, gall y prynwr o dan y contract hwnnw ymrwymo i gytundeb arall ac, o ganlyniad i hyn, bydd gan rywun arall yr hawl i alw am drosglwyddo rhan o destun y contract gwreiddiol neu’r testun cyfan. Gelwir cytundeb o’r fath yn drafodiad cyn-gwblhau.

Yng nghyd-destun trafodiad cyn-gwblhau, bydd y prynwr o dan y contract gwreiddiol yn cael ei alw’n ‘trosglwyddwr’ weithiau a’r prynwr yn y pen draw yn cael ei alw’n ‘trosglwyddai’.

Mae hwn yn faes cymhleth yn y Dreth Trafodiadau Tir felly mae'r canllawiau’n cyfeirio’n benodol at y ddeddfwriaeth berthnasol.

DTTT/2210 Amlinelliad o ddeddfwriaeth

Mae Adran 13 yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n cynnwys darpariaethau am drafodiadau cyn-gwblhau. Oni nodir yn wahanol, mae unrhyw gyfeirio at baragraffau yn y canllawiau hyn yn cyfeirio at baragraffau yn Atodlen 2. Gellir rhannu’r Atodlen i greu’r meysydd gwahanol canlynol.

Paragraffau

Maes

Paragraffau 1-5 Darpariaethau rhagarweiniol a diffiniadau allweddol
Paragraffau 6-11 Aseinio hawliau
Paragraffau 12-13 Trosglwyddiadau annibynnol
Paragraff 14 Eithriadau
Paragraffau 15-17 Rheol isafswm y gydnabyddiaeth
Paragraffau 18-20 Rhyddhad i’r trosglwyddwr
Paragraffau 20 Dehongli

Darpariaethau rhagarweiniol a diffiniadau allweddol

Paragraffau 1-5

Mae’r paragraffau hyn yn diffinio trafodiad cyn-gwblhau ac yn gwahaniaethu rhwng aseinio hawliau a thrafodiadau cyn-gwblhau eraill (a elwir yn drosglwyddiadau annibynnol). Maent yn nodi hefyd na ystyrir bod y trosglwyddai yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y trafodiad cyn-gwblhau yn unig.

Aseinio hawliau

Paragraffau 6-11

Mae paragraff 7 yn amlinellu sut mae'r trosglwyddai’n cael ei drin yn yr achosion hyn. Yn fras, y gydnabyddiaeth ar gyfer caffaeliad y trosglwyddai yw pa beth bynnag y mae'r trosglwyddai yn ei roi o dan y contract gwreiddiol, ynghyd â’r hyn y mae’r trosglwyddai’n ei roi am aseinio hawliau.

Y gwerthwr ar gyfer caffaeliad y trosglwyddai fel arfer yw’r gwerthwr gwreiddiol o dan y contract gwreiddiol, er bod eithriadau i’r rheol gyffredinol hon (gweler paragraff 11).

Mae paragraff 8 yn creu ‘trafodiad tir tybiannol’ ar gyfer y trosglwyddwr o dan aseinio hawliau (is-baragraff 8(1)). Os bydd aseiniadau olynol, bydd ‘trafodiad tir ychwanegol’ tybiannol hefyd ar gyfer pob trosglwyddwr ychwanegol dilynol yn y gadwyn (is-baragraff 8(3)). Yn fras, y gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir tybiannol yw unrhyw gydnabyddiaeth a roddir o dan y contract gwreiddiol naill ai gan y trosglwyddai neu gan y trosglwyddwr. Ar gyfer trafodiad tir ychwanegol, codir treth ar unrhyw gydnabyddiaeth a roddir gan y prynwr o dan y trafodiad tir ychwanegol ar gyfer yr aseinio blaenorol.

Os caiff y contract gwreiddiol ei gyflawni’n sylweddol ond ei ddad-wneud neu ei ddirymu wedi hynny, bydd y rheolau arferol yn berthnasol i sefyllfa’r trosglwyddai. Gwneir darpariaethau tebyg ym mharagraff 9 ar gyfer trafodiad tir ychwanegol neu dybiannol ym mharagraff 8.

Gall aseinio hawliau fod mewn perthynas â rhan yn unig o’r tir sy’n destun y contract gwreiddiol. Mewn achos o’r fath, mae paragraffau 7 a 8 yn berthnasol fel pe bai'r contract gwreiddiol wedi'i rannu’n ddau gontract: un ar gyfer y tir sy’n destun yr aseinio ac un ar gyfer gweddill y tir (paragraff 10).

Trosglwyddiadau annibynnol

Paragraffau 12-13

Mae paragraff 13 yn berthnasol i’r trosglwyddai. Mae’n ychwanegu unrhyw gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trafodiad cyn-gwblhau at y gydnabyddiaeth a roddir fel arall gan y trosglwyddai. Yng nghyswllt yr aseinio hawliau, y gwerthwr ar gyfer caffaeliad y trosglwyddai yw’r gwerthwr gwreiddiol fel arfer.

Ni wneir darpariaeth arbennig ar gyfer y trosglwyddwr. Os yw’r trosglwyddiad annibynnol yn is-werthiant, bydd y contract gwreiddiol wedi’i gwblhau (neu ei gyflawni’n sylweddol) felly'r trosglwyddwr fydd y prynwr o dan drafodiad tir fel arfer yn unol â'r rheolau sy’n ymwneud â chontract a throsglwyddo. Os yw'r trosglwyddiad annibynnol yn newyddiad, nid oes trafodiad tir lle mai’r trosglwyddwr yw’r prynwr, felly nid oes yn rhaid i’r trosglwyddwr ffeilio ffurflen dreth neu hawlio rhyddhad.

Y gwerthwr mewn trafodiadau cysylltiol

Paragraff 14

Boed caffaeliad y trosglwyddai’n dod o dan y rheolau ar gyfer aseinio hawliau (paragraffau 6-11) neu drosglwyddiadau annibynnol (paragraffau 12 – 13), y gwerthwr gwreiddiol fydd y gwerthwr fel arfer, yn ddarostyngedig i rai eithriadau penodol.

Unwaith y bydd testun y contract gwreiddiol wedi'i drosglwyddo i'r trosglwyddai (neu, yn achos aseinio hawliau, unwaith y bydd y contract gwreiddiol wedi'i gyflawni'n sylweddol) at ddibenion y rheolau trafodiadau cysylltiol (adran 8 (1) o'r Dreth Trafodiadau Tir), gellir tybio mai’r gwerthwr yw’r gwerthwr yn y trafodiad gwreiddiol ac unrhyw drosglwyddwr mewn un neu ragor o drafodiadau cyn-gwblhau sy'n ymwneud â’r trafodiad. Yn gyffredinol, bydd hyn yn golygu, os yw'r trosglwyddwr a'r trosglwyddai yn bersonau sy’n gysylltiedig â’i gilydd, yna bydd y rheolau trafodiadau cysylltiol yn gymwys i'r trafodiad gwreiddiol a'r trafodiad cyn-gwblhau sy'n ymwneud ag ef. Mae Enghraifft 5, yn adran LTTA/2230 isod, yn dangos sut y mae hyn yn gweithio'n ymarferol.

Rheol isafswm y gydnabyddiaeth

Paragraffau 15-17

Mae rheol isafswm y gydnabyddiaeth ond yn berthnasol pan fydd y prynwr yn y pen draw yn gysylltiedig â’r trosglwyddwr, neu heb fod yn gweithredu hyd braich i’r trosglwyddwr (neu unrhyw drosglwyddwr blaenorol arall lle mae trafodiadau cyn-gwblhau olynol). Gellir ei anwybyddu ar gyfer pob trafodiad arall.

Os yw’r rheol yn berthnasol, gall gynyddu’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffaeliad y prynwr yn y pen draw. Os bydd un o’r ddau ‘isafswm’ yn uwch na swm y gydnabyddiaeth a roddir o dan y rheolau arferol, caiff y gydnabyddiaeth ei chynyddu i’r isafswm uwch.

Yr isafswm cyntaf yw’r swm sy’n ddyledus o dan y contract gwreiddiol fel arfer. Rhoddir yr ail isafswm drwy fformiwla sy’n cynnwys y swm net a roddir gan bob parti (yn amodol ar rai eithriadau) i’r trafodiadau.

Rhyddhad i’r trosglwyddwr

Paragraffau 1-20 

Gall y trosglwyddwr hawlio rhyddhad llawn am ei drafodiad tir o dan rai amgylchiadau. Er mwyn i’r rhyddhad fod ar gael, rhaid i’r trafodiad cyn-gwblhau fod yn achos o aseinio hawliau neu’n is-werthiant. Mae rhyddhad ar wahân ar gyfer aseinio (paragraff 18) ac ar gyfer is-werthiannau (paragraff 19). Ar gyfer is-werthiant, rhaid i'r contract gwreiddiol gael ei gyflawni’n sylweddol neu ei gwblhau ar yr un pryd â chyflawni contract is-werthiant yn sylweddol neu gwblhau’r contract hwnnw, ac mewn cysylltiad â hynny. Mae rhyddhad rhannol ar gael os yw’r aseinio neu’r is-werthiant mewn perthynas â rhan yn unig o’r tir sy’n destun y contract gwreiddiol. Rhaid hawlio rhyddhad ar ffurflen dreth trafodiad tir, neu drwy ddiwygio ffurflen dreth o’r fath. Dewiswch y rhyddhad priodol ar y ffurflen TTT.
 
Mae rhyddhad wedi’i wahardd os yw rheol y cynllun gwrthweithio osgoi trethi yn berthnaso.

DTTT/2220 Cofrestru buddiant mewn tir

Bydd trethdalwr yn cael ei rwystro rhag cofrestru tir a gaffaelwyd yn y rhan fwyaf o drafodiadau tir hysbysadwy oni bai fod yr unigolyn sy’n gwneud cais i gofrestru eu buddiant yn cyflwyno tystysgrif ACC i Gofrestrfa Tir EM sy’n dangos ei fod wedi bodloni ei rwymedigaethau o ran y Dreth Trafodiadau Tir.

Mewn is-werthiant, bydd dau drosglwyddiad o’r tir fel arfer: A i B a B i C.

Os yw B yn dymuno cofrestru ei fuddiant yn y tir, bydd angen iddo gyflwyno tystysgrif ACC ynghyd â’i gais am gofrestru a’r trosglwyddiad o A i B, yn y ffordd arferol.

Os na fydd B yn dymuno cofrestru ei fuddiant yn y tir, bydd angen i C gyflwyno ei dystysgrif ACC, ei gais am gofrestru a’r trosglwyddiadau o A i B a B i C. Gyda’i gais am gofrestru, dylai C wneud y canlynol hefyd:

  1. Cadarnhau’n ysgrifenedig fod B wedi caffael y tir gan A ac wedi’i drosglwyddo i C yn unol â ‘trosglwyddiad annibynnol’ at ddibenion Atodlen 2 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017; neu
  2. Cyflwyno cadarnhad ysgrifenedig gan B (neu asiant B) fod B wedi caffael y tir gan A ac wedi’i drosglwyddo i C yn unol â ‘trosglwyddiad annibynnol’ at ddibenion Atodlen 2 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

Os un trosglwyddiad o’r tir sydd yn unig – A i C – yr oll y bydd angen i C ei wneud yw cyflwyno ei dystysgrif ACC, ei gais am gofrestru a’r trosglwyddiad o A i C.

Mewn achos o aseinio hawliau, dim ond un trosglwyddiad o’r tir fydd: A i C. Yn yr achos hwn, gall C gofrestru ei fuddiant yn y ffordd arferol. Mae'r trafodiad tir tybiannol rhwng A a B yn hysbysadwy at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir er nad yw’n caffael buddiant trethadwy neu’n brif fuddiant. Nid oes angen llythyr yn cadarnhau aseinio hawliau. Dim ond tystysgrif ACC ar gyfer C sydd ei hangen.

DTTT/2230 Enghreifftiau

Enghraifft 1 - Aseinio hawliau syml

Dyma enghraifft o sut mae’r rheolau’n berthnasol i aseinio hawliau.

  • mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am dir gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn yn daladwy wrth gwblhau.
  • mae B yn aseinio ei hawliau o dan y contract i C am daliad o £100,000.
  • mae C yn cwblhau’r caffaeliad ac yn talu £1 miliwn i A.

Yn sgil hyn, rhaid i B gyflwyno ffurflen dreth trafodiad tir am drafodiad gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn ond gall gynnwys hawliad am ryddhad llawn. Rhaid i C gyflwyno ffurflen dreth trafodiad tir gyda chydnabyddiaeth o £1.1 miliwn.

Mae'r trafodiadau yn rhan o Atodlen 2 fel a ganlyn:

  • mae’r trafodiadau yn rhan o’r diffiniad o drafodiad cyn-gwblhau ym mharagraffau 2 a 3;
  • mae’r trafodiad cyn-gwblhau yn achos o ‘aseinio hawliau’ sy’n rhan o baragraff 6;
  • y contract gwreiddiol yw’r contract rhwng A a B, y prynwr gwreiddiol yw B, y trosglwyddai yw C, a B yw’r trosglwyddwr;
  • ni ystyrir bod y trosglwyddai yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y trafodiad cyn-gwblhau yn unig (paragraff 5)

Mae sefyllfa’r trosglwyddai C yn cael sylw ym mharagraff 11 yn bennaf.

C yw’r prynwr o dan drafodiad tir ac nid yw'r geiriau ‘rhwng yr un partïon’ yn atal hyn.

Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer caffaeliad C yn cael ei sefydlu yn unol â'r rheolau yn Atodlen 4. Felly, mae’r £1 miliwn a roddwyd i A a’r £100,000 a roddwyd i B wedi’u cynnwys – cyfanswm o £1.1 miliwn.

Y gwerthwr ar gyfer caffaeliad C yw A; dylid cwblhau'r ffurflen dreth trafodiad tir yn unol â hynny.

Mae sefyllfa’r trosglwyddwr, B, fel a ganlyn:

  • tybir mai B yw’r prynwr o dan drafodiad tir tybiannol gyda'r dyddiad dod i rym yr un fath â thrafodiad tir C;
  • y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad tir tybiannol yw cyfanswm swm A a swm B. Mae swm A yn £1 miliwn gan mai dyma’r gydnabyddiaeth a roddwyd gan C i A o dan y contract gwreiddiol. Mae swm B yn ddim oherwydd na roddwyd cydnabyddiaeth arall o dan y contract gwreiddiol, felly'r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trethdalwr B yw £1 miliwn;
  • mae'r trafodiadau’n caniatáu i B hawlio rhyddhad llawn rhag treth (ar yr amod ei fod cydymffurfio â’r rheol rhyddhad penodol a ddim yn bodloni'r amodau a fyddai’n sbarduno’r rhyddhad cynllun gwrthweithio osgoi trethi)

Enghraifft 2 - Is-werthiant a rheol isafswm y gydnabyddiaeth

Mae hyn yn enghraifft o is-werthiant. Mae’n dangos hefyd sut mae rheol isafswm y gydnabyddiaeth yn gweithio lle mae cysylltiad rhwng y partïon.

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am dir am gydnabyddiaeth o £1 miliwn yn daladwy wrth gwblhau.
  • Mae B yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu am yr un tir gyda C am gydnabyddiaeth o £900,000 yn daladwy wrth gwblhau.
  • Mewn un cyfarfod cwblhau, mae'r gwerthiant o A i B ac o B i C yn cael ei gwblhau; telir cydnabyddiaeth o £900,000 gan C i B a thelir cydnabyddiaeth o £1 miliwn gan B i A.

Os nad oes cysylltiad rhwng B ac C a’u bod yn gweithredu hyd braich, rhaid i B gyflwyno ffurflen dreth trafodiad tir am drafodiad gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn ond gall gynnwys hawliad am ryddhad llawn. Rhaid i C gyflwyno ffurflen dreth trafodiad tir gyda chydnabyddiaeth o £900,000.

Mae’r rhesymau dros hyn fel a ganlyn:

  • mae’r trafodiadau yn rhan o’r diffiniad o drafodiad cyn-gwblhau sy’n drosglwyddiad annibynnol;
  • y contract gwreiddiol yw’r contract rhwng A a B, y prynwr gwreiddiol yw B, y trosglwyddai yw C, a B yw’r trosglwyddwr;
  • ni ystyrir bod y trosglwyddai yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y trafodiad cyn-gwblhau;
  • nid yw’r trafodiad cyn-gwblhau yn achos o aseinio hawliau felly mae'r rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddiad annibynnol yn berthnasol;
  • gan nad oes darpariaeth arbennig, ystyrir bod B yn ymrwymo i drafodiad tir gydag A am gydnabyddiaeth o £1 miliwn (y swm yn y contract gwreiddiol).
  • mae'r trafodiad cyn-gwblhau yn is-werthiant cymwys ac mae’n bodloni’r amodau perthnasol a nodir am ryddhad ar gyfer is-werthiannau cymwys. Felly, gall B hawlio rhyddhad (ar yr amod ei fod yn cydymffurfio â’r rheol rhyddhad penodol a ddim yn bodloni'r amodau a fyddai’n sbarduno’r rhyddhad Cynllun Gwrthweithio Osgoi Trethi (TAAR))

Mae caffaeliad C gan B yn un sydd wedi’i gwblhau heb gael ei gyflawni'n sylweddol yn flaenorol. Cymerir bod y gydnabyddiaeth yn cynnwys y gydnabyddiaeth a roddwyd am y trosglwyddiad annibynnol, er mai dim yw'r swm hwnnw yn yr achos hwn. Felly, y gydnabyddiaeth yw’r £900,000 a dalwyd gan C i B yn y ffordd arferol.

Y gwerthwr ar gyfer caffaeliad C yw A, a dylid cwblhau'r ffurflen dreth trafodiad tir yn unol â hynny.
 
Pe byddai cysylltiad rhwng B a C, byddai rheol isafswm y gydnabyddiaeth yn berthnasol i gaffaeliad C – paragraffau 15-17 – a’r canlyniad mewn golwg fyddai cynyddu'r gydnabyddiaeth drethadwy o £900,000 i £1 miliwn.

Ystyrir mai’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffaeliad C yw’r swm mwyaf o’r tri: naill ai'r £900,000 a bennwyd eisoes uchod (h.y. yr hyn mae C wedi’i dalu i A) neu’r isafswm cyntaf neu’r ail isafswm.

Caiff yr isafswm cyntaf ei ddiffinio ym mharagraff 16(2) a (3). Yn yr achos hwn, dyma’r £1 miliwn a oedd yn ddyledus o dan y contract rhwng A a B.

Mae'r ail isafswm wedi’i nodi ym mharagraff 17 a dyma gyfanswm symiau net y gydnabyddiaeth (fel y pennwyd yn is-baragraff 17(2)) a roddwyd gan y partïon perthnasol (yn unol ag is-baragraff 17(3 )) ac yn amodol ar is-baragraff 17(4)). Yn yr achos hwn, B ac C yw’r partïon perthnasol. Swm net y gydnabyddiaeth a roddir gan C yw £900,000. Swm net y gydnabyddiaeth a roddir gan B yw £100,000 (hynny yw, y £1 miliwn a roddwyd i A llai'r £900,000 a dderbyniwyd gan C). Felly, cyfanswm symiau net y gydnabyddiaeth yw £1 miliwn.

Mae hyn yn golygu mai £1 miliwn yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffaeliad C – y swm mwyaf o blith £900,000, £1 miliwn a £1 miliwn.

Y gwerthwr ar gyfer caffaeliad C yw A, a dylid cwblhau'r ffurflen dreth trafodiad tir yn unol â hynny.

Enghraifft 3 - Aseinio rhan

Dyma enghraifft o sut mae’r rheolau’n berthnasol i aseinio hawliau mewn perthynas â rhan yn unig o’r tir o dan y contract gwreiddiol.

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am dir gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn yn daladwy wrth gwblhau. Ar y tir mae Plot 1 (gwerth £600,000) a Phlot 2 (gwerth £400,000).
  • Mae B yn aseinio ei hawliau i Blot 2 o dan y contract i C.
  • Mae C yn cwblhau caffael Plot 2 ac yn talu £400,000.
  • Mae B yn cwblhau caffael Plot 1 ac yn talu £600,000.

Yn sgil hyn, rhaid i B gyflwyno ffurflen dreth trafodiad tir am drafodiad gyda chydnabyddiaeth o £400,000 mewn perthynas â Phlot 2 ond gall gynnwys hawliad am ryddhad llawn rhag y dreth sy’n codi ar y swm hwnnw o gydnabyddiaeth. Rhaid i C gyflwyno ffurflen dreth trafodiad tir gyda chydnabyddiaeth o £400,000. Rhaid i B gyflwyno ffurflen dreth trafodiad tir hefyd am drafodiad gyda chydnabyddiaeth o £600,000 mewn perthynas â Phlot 1.

Mae’r rhesymau dros hyn fel a ganlyn:

  • mae’r trafodiadau yn rhan o’r diffiniad o drafodiad cyn-gwblhau;
  • mae'r trafodiad cyn-gwblhau yn achos o ‘aseinio hawliau’;
  • y contract gwreiddiol yw’r contract rhwng A a B, y prynwr gwreiddiol yw B, y trosglwyddai yw C, a B yw’r trosglwyddwr;
  • ni ystyrir bod y trosglwyddai yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y trafodiad cyn-gwblhau;
  • gan fod achos o aseinio hawliau mewn perthynas â rhan yn unig o’r contract gwreiddiol, mae paragraff 10 yn sicrhau bod y rheolau’n cael eu gweithredu fel pe bai contract gwreiddiol ar wahân ar gyfer Plot 2

Mae'r trosglwyddai, C, yn cwblhau ei ffurflen dreth ac yn talu treth ar y sail bod ‘contract ar wahân’ ar gyfer Plot 2.

Mae sefyllfa’r trosglwyddai C yn cael sylw ym mharagraff 11 yn bennaf.

C yw’r prynwr o dan drafodiad tir ac nid yw'r geiriau ‘rhwng yr un partïon’ yn atal hyn.

Mae’r £600,000 a roddwyd gan B wrth gwblhau caffael Plot 1 yn cael ei ystyried fel swm sydd wedi'i roi o dan gontract gwahanol. Bydd ffurflen dreth C yn dangos mai ef yw’r prynwr ac mai A yw’r gwerthwr a dim ond y £400,000 a roddwyd gan C wrth gwblhau yn gydnabyddiaeth drethadwy.

Mae sefyllfa’r trosglwyddwr, B, ar y sail bod ‘contract ar wahân’ ar gyfer Plot 2 a bod rhyddhad ar gael, fel a ganlyn:

  • tybir mai B yw’r prynwr o dan drafodiad tir tybiannol gyda'r dyddiad dod i rym yr un fath â thrafodiad tir C;
  • mae paragraff 8(6)(a) yn ymdrin â’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer caffaeliad B. £400,000 yw’r gydnabyddiaeth honno gan mai dyna yw’r gydnabyddiaeth a roddwyd gan C i A mewn perthynas â thestun y contract gwreiddiol
  • mae'r trafodiadau’n caniatáu i B hawlio rhyddhad llawn rhag treth (ar yr amod ei fod yn cydymffurfio â’r rheol rhyddhad penodol a ddim yn bodloni'r amodau a fyddai’n sbarduno’r rhyddhad cynllun gwrthweithio osgoi trethi)

Mae hyn yn golygu mai B sy’n caffael Plot 1. Mae'r ffeithiau’n dangos bod B wedi ymrwymo i drafodiad tir gyda chydnabyddiaeth drethadwy o’r £600,000 a roddir gan B i gaffael Plot 1.

Yn yr enghraifft hon, mae’n amlwg faint o’r gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol sy’n berthnasol i Blot 1, a faint sy’n berthnasol i Blot 2. Gan amlaf, byddai angen dosrannu'r gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol ar sail resymol a theg yn unol â’r hyn sy’n ofynnol ym mharagraff 4 o Atodlen 4.

Os yw testun y contract gwreiddiol yn fuddiant rhydd-ddaliadol, ni all achos o aseinio hawliau (neu is-werthiant) sy’n ymwneud â rhoi les o’r rhydd-ddaliad hwnnw fod yn trafodiad cyn-gwblhau, oherwydd nad yw’r les yn destun y contract gwreiddiol neu’n rhan o destun y contract gwreiddiol (paragraff 3(1)(a) a 4(1)). Mae’r un rheol yn berthnasol os yw testun y contract gwreiddiol yn brif les a bod yr aseinio (neu’r is-werthiant) yn ymwneud â rhoi is-les.

Enghraifft 4 - Is-werthiant rhan

Dyma enghraifft o sut mae’r rheolau’n berthnasol i is-werthiant mewn perthynas â rhan yn unig o’r tir sy’n destun y contract gwreiddiol.

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am dir gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn yn daladwy wrth gwblhau. Ar y tir mae Plot 1 (gwerth £600,000) a Phlot 2 (gwerth £400,000).
  • Mae B yn ymrwymo i gytundeb is-werthiant i werthu Plot 2 i C am £400,000.
  • Mewn un cyfarfod cwblhau, mae'r gwerthiant o A i B ac o B i C yn cael ei gwblhau; telir cydnabyddiaeth o £400,000 gan C i B a thelir cydnabyddiaeth o £1 miliwn gan B i A.

Rhaid i B gyflwyno ffurflen dreth trafodiad tir ar gyfer trafodiad tir gyda chydnabyddiaeth, ar yr egwyddor sylfaenol, o £1 miliwn ond gall gynnwys hawliad am ryddhad rhannol sy’n lleihau’r gydnabyddiaeth i £600,000.

Rhaid i C gyflwyno ffurflen dreth trafodiad tir hefyd (gyda B fel y gwerthwr), gyda chydnabyddiaeth o £400,000.

Mae'r trafodiadau yn rhan o Atodlen 2 oherwydd:

  • bod y trafodiadau yn rhan o'r diffiniad o drafodiad cyn-gwblhau;
  • mae'r trafodiad cyn-gwblhau yn ‘drosglwyddiad annibynnol’

Y contract gwreiddiol yw’r contract rhwng A a B, y prynwr gwreiddiol yw B, y trosglwyddai yw C, a B yw’r trosglwyddwr.

Ni ystyrir bod y trosglwyddai yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y trafodiad cyn-gwblhau.

Nid yw’r trafodiad cyn-gwblhau yn achos o aseinio hawliau felly mae paragraff 13 yn berthnasol. Mae hyn yn golygu y bydd y trafodiadau a ddisgrifir yn yr enghraifft hon yn cael eu cysylltu at ddibenion adran 8 (1) o'r Ddeddf. Gweler enghraifft 5 am esiampl o sut mae hyn yn gweithio'n ymarferol.

Mae caffaeliad C gan B yn un sydd wedi’i gwblhau heb gael ei gyflawni'n sylweddol yn flaenorol. Cymerir bod y gydnabyddiaeth yn cynnwys y gydnabyddiaeth a roddwyd am y trosglwyddiad annibynnol, er mai dim yw'r swm hwnnw yn yr achos hwn. Felly, y gydnabyddiaeth yw’r £400,000 a dalwyd gan C i B yn y ffordd arferol.

Gan nad oes darpariaeth arbennig, ystyrir bod B yn ymrwymo i drafodiad tir gydag A am gydnabyddiaeth o £1 miliwn.

Mae'r trafodiad cyn-gwblhau yn is-werthiant cymwys os yw’r amodau perthnasol yn cael eu bodloni. Felly, gall B hawlio rhyddhad (ar yr amod ei fod yn cydymffurfio â’r rheol rhyddhad penodol a ddim yn bodloni'r amodau a fyddai’n sbarduno’r rhyddhad cynllun gwrthweithio osgoi trethi (TAAR)). Gan fod yr is-werthiant mewn perthynas â rhan yn unig o destun y contract gwreiddiol, ni all B hawlio rhyddhad llawn. Yn hytrach, mae'r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad wedi’i lleihau gan swm o’r gydnabyddiaeth o £1 miliwn sy’n ymwneud â Phlot 2. Yn yr achos hwn, mae hynny’n £400,000 felly mae cydnabyddiaeth B wedi'i lleihau i £600,000.

Enghraifft 5 - Is-werthiannau a thrafodiadau cysylltiol

Mae hon yn enghraifft o sut mae'r rheolau'n gymwys i is-werthiant sy'n ymwneud â dim ond rhan o'r tir sydd o dan y contract gwreiddiol, a sut mae'r rheolau trafodiadau cysylltiol yn berthnasol pan fo'r partïon yn gysylltiedig.

  • Mae A yn ymrwymo i gytundeb gwerthu a phrynu gyda B ar gyfer rhydd-ddaliad tir amhreswyl gyda chydnabyddiaeth o £1,000,000 yn daladwy ar ôl cwblhau. Mae'r tir yn cynnwys Plot 1 (gwerth £600,000) a Phlot 2 (gwerth £400,000).
  • Mae B yn ymrwymo i gytundeb is-werthiant i werthu Plot 2 i C am £400,000.
  • Mae B ac C yn gysylltiedig â’i gilydd.
  • Mewn un cyfarfod cwblhau, caiff y gwerthiannau o A i B ac o B i C eu cwblhau; caiff cydnabyddiaeth o £400,000 ei thalu gan C i B a chaiff cydnabyddiaeth o £1m ei thalu gan B i A.

Rhaid i B ddychwelyd ffurflen dreth trafodiadau tir ar gyfer y trafodiad tir gyda chydnabyddiaeth, ar sail egwyddorion cyntaf, o £1m ond gall gynnwys cais am ryddhad rhannol gan leihau'r gydnabyddiaeth i £600,000.

Gan fod B ac C yn gysylltiedig â’i gilydd, mae caffaeliad C yn ddarostyngedig i reolau isafswm y gydnabyddiaeth (paragraffau 15-17). Yn yr enghraifft hon, mae'r dosraniad o £600,000/£400,000 rhwng Plot 1 a Phlot 2 yn deg a rhesymol. O dan reolau isafswm y gydnabyddiaeth, £400,000 yw’r isafswm cyntaf a'r ail isafswm yn yr enghraifft hon. Mae hwn yr un swm ag y byddai'r gydnabyddiaeth o dan y rheolau arferol. Y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer caffaeliad C felly yw £400,000.

Er bod C yn prynu oddi wrth B, at ddibenion y ddeddfwriaeth, y gwerthwr ar gyfer caffaeliad C yw A, yn unol â pharagraff 14(2) (gweler hefyd 14(5)). Mae hyn yn golygu bod y trafodiadau (rhwng A a B, a B ac C) yn cael eu cysylltu at ddibenion Adran 8 (1) o DTTT2017. Felly, rhaid cyfrifo'r dreth ar gyfer pob ffurflen dreth (gan ddefnyddio'r bandiau a'r cyfraddau sydd mewn grym ar 01/04/2018) fel a ganlyn:

  • cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y ddau drafodiad yw £1,000,000 (gall A hawlio rhyddhad rhannol o £400,000, gan leihau'r gydnabyddiaeth gan B i A i £600,000. Ar ôl ychwanegu hyn at y £400,000 sy’n rhaid i C dalu i B, ceir cyfanswm o £1,000,000) 
  • cyfanswm y dreth y gellir ei chodi yn erbyn £1,000,000 gan ddefnyddio'r bandiau a'r cyfraddau amhreswyl yw £38,500
  • rhaid i B ffeilio ffurflen dreth yn dangos treth o £38,500 / £1,000,000 X £600,000 = £23,100
  • rhaid i B ffeilio ffurflen dreth yn dangos treth o £38,500 / £1,000,000 X £400,000 = £15,400
  • rhaid i'r ddwy ffurflen dreth ddangos A fel y gwerthwr

Enghraifft 5 - Cyfres o aseiniadau

Mae'r enghraifft hon yn rhoi sylw i nifer o senarios sydd ychydig yn wahanol mewn perthynas â chyfres o aseinio hawliau.

Yn y senario cyntaf, mae’r trosglwyddai terfynol yn talu swm ychwanegol o gydnabyddiaeth.

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am dir gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn. Mae B yn talu ernes o £100,000 i A.
  • Mae B yn aseinio ei hawliau i C am £100,000 ac mae C yn aseinio ei hawliau i D am £150,000.
  • Mae D yn talu £900,000 i A wrth gwblhau.

Gan mai D yw’r trosglwyddai, rhaid i D dalu’r dreth. Y gydnabyddiaeth drethadwy yw £900,000 ynghyd â £150,000 sy’n rhoi cyfanswm o £1,050,000, sef cyfanswm y gydnabyddiaeth a roddir gan D.

Mae paragraff 8 yn berthnasol fel a ganlyn. Y caffaeliad gan D yw ‘trafodiad tir y trosglwyddai’ (paragraff 8(1)(a)). Yr aseinio o C i D yw’r ‘aseinio hawliau a weithredwyd’ (paragraff 5(3)). B yw’r prynwr o dan drafodiad tir tybiannol (paragraff 8(1)). C yw’r prynwr o dan drafodiad tir ychwanegol (paragraff 8(3)).

Mae paragraff 8(6)(a) yn ymdrin â’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad B – y trafodiad tir tybiannol. Hwn yw’r £100,000 a dalwyd gan B i A (swm ‘B’ ym mharagraff 8(8)) yn ogystal â'r £900,000 a dalwyd gan D i A wrth gwblhau (swm ‘A’ ym mharagraff 8(7)(b)) sy’n rhoi cyfanswm o £1 miliwn. Gall B hawlio rhyddhad.

Mae paragraff 8(6)(b) yn ymdrin â’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad C – trafodiad tir ychwanegol. Hwn yw’r £100,000 a dalwyd gan C i B (swm ‘C’ ym mharagraff 8(9)) – wrth gyfrifo swm C, ‘yr aseinio hawliau blaenorol’ oedd yr aseinio o B i C (paragraff 8(10)) yn ogystal â'r £900,000 a dalwyd gan D i A wrth gwblhau (swm ‘A’ ym mharagraff 8(7)(b)) sy’n rhoi cyfanswm o £1 miliwn. Gall C hawlio rhyddhad.

Yn yr ail senario, mae D yn talu llai.

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am dir gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn. Mae B yn talu ernes o £100,000 i A.
  • Mae B yn aseinio ei hawliau i C am £100,000 ac mae C yn aseinio ei hawliau i D am £50,000.
  • Mae D yn talu £900,000 i A wrth gwblhau.

Gan mai D yw’r trosglwyddai, rhaid i D dalu’r dreth. Y gydnabyddiaeth drethadwy yw £900,000 ynghyd â £50,000 sy’n rhoi cyfanswm o £950,000, sef cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy a roddir gan D.

Mae sefyllfa B ac C yr un fath ag yr oedd yn y senario blaenorol.

Yn y senario terfynol, ceir cyfres o aseinio hawliau lle mae cysylltiad rhwng D a C. Yn yr enghraifft hon, mae C yn cael dêl dda gan B mewn trafodiad cwbl fasnachol.

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am dir gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn. Mae B yn talu ernes o £100,000 i A.
  • Mae B yn aseinio ei hawliau i C am £50,000 ac mae C yn aseinio ei hawliau i D am y swm dim. Mae cyswllt rhwng C a D.
  • Mae D yn talu £900,000 i A wrth gwblhau.

Gan mai D yw’r trosglwyddai, rhaid i D dalu’r dreth. Y gydnabyddiaeth drethadwy yw £900,000 ynghyd â’r swm dim, sy’n rhoi cyfanswm o £900,000. Ond mae rheol isafswm y gydnabyddiaeth yn berthnasol. Mae'r isafswm cyntaf a'r ail isafswm ill dau yn £950,000 (gweler isod) felly mae’n rhaid i D dalu treth ar £950,000.

Mae sefyllfa B ac C yn debyg i’r enghreifftiau blaenorol.

Mae paragraff 16(3) yn cyfeirio at yr isafswm cyntaf. C yw’r trosglwyddwr (‘T’) (‘Amod B’ ym mharagraff 16(3)) a C hefyd yw’r ‘T cyntaf’. Mae paragraff 16(3) ond yn codi’r £50,000 a dalwyd gan C i B yn ogystal â'r £900,000 sy’n daladwy wrth gwblhau, ac nid y £1 miliwn llawn o dan y contract rhwng A a B.

Mae paragraff 17 yn cyfeirio at yr ail isafswm. Y partïon perthnasol yw C a D, nid B (paragraff 14(4)). Swm net y gydnabyddiaeth a roddwyd gan D yw £900,000 a swm net y gydnabyddiaeth a roddwyd gan C yw £50,000 (paragraff 17(2)). Mae'r ail isafswm yn £950,000 hefyd.

Enghraifft 6 - Cyfres o is-werthiannau

Mae hyn yn enghraifft o gyfres o is-werthiannau.

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am dir gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn. Mae B yn talu ernes o £100,000 i A.
  • Mae B yn ymrwymo i gytundeb is-werthiant gyda C am £1 miliwn, gyda C yn talu ernes o £100,000.
  • Mae C yn ymrwymo i gytundeb is-werthiant gyda D am £1.1 miliwn, gyda D yn talu ernes o £200,000 i C.
  • Mae'r contractau’n cael eu cwblhau gyda’i gilydd. Wrth gwblhau, mae D yn talu £900,000 i C, mae C yn talu £900,000 i B, ac mae B yn talu £900,000 i A.

Codir treth ar B ac C ar £1 miliwn yn unol â’r rheolau arferol gan eu bod wedi cwblhau eu contractau (heb gyflawni'n sylweddol yn flaenorol). Gallant hawlio rhyddhad. Rhaid i D dalu treth ar £1.1 miliwn.

Enghraifft 7 - Cyfnewidiadau – aseiniadau

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am Blot 1 gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn sy’n adlewyrchu gwerth marchnadol Plot 1. Mae B yn talu ernes o £500,000 i A. 
  • Mae B yn aseinio ei hawliau o dan y contract i C yn gyfnewid am gydnabyddiaeth o Blot 2 gan C. Mae Plot 2 yn werth £400,000. Mae hyn yn dderbyniol i B oherwydd bod safle Plot 2 o fudd masnachol i B.
  • Wrth gwblhau, mae C yn talu £500,000 i A am Blot 1.

Mae C wedi ymrwymo i un trafodiad fel prynwr (C yn caffael Plot 1) yn gydnabyddiaeth am ymrwymo i drafodiad arall fel gwerthwr mewn un arall (B yn caffael Plot 2). Mae rheolau cyfnewidiad yn berthnasol felly.

Codir treth ar B am drafodiad tir tybiannol ac mae modd hawlio rhyddhad am hyn. Y gydnabyddiaeth drethadwy yw £1 miliwn.

Codir treth ar B wrth gaffael Plot 2 gan C. Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cael ei phennu yn ôl paragraff 5 o Atodlen 4. Dyma yw gwerth marchnadol Plot 2 (£400,000). Nid oes modd dosrannu’r swm hwnnw o gwbl gan mai ei roi yn gydnabyddiaeth ar gyfer Plot 2 yn unig a wnaethpwyd. Felly, y gydnabyddiaeth drethadwy yw £400,000.

Codir treth ar C am gaffael Plot 1. Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cael ei phennu yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 4. Gwerth marchnadol Plot 1 yw £1 miliwn. Byddai paragraff 1 o Atodlen 4, o’i ddarllen yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 2, yn rhoi cydnabyddiaeth drethadwy o £900,000 – y £500,000 a roddir gan C i A wrth gwblhau ynghyd â'r gydnabyddiaeth a roddir am yr aseinio, sef y gwerth marchnadol o £400,000 am Blot 2 (paragraff 8(7)).

Enghraifft 8 - Cyfnewidiadau – is-werthiannau

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am Blot 1 gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn sy’n adlewyrchu gwerth marchnadol Plot 1. Mae B yn talu ernes o £500,000 i A.
  • Mae B yn ymrwymo i gytundeb is-werthiant am Blot 1 gyda C, am gydnabyddiaeth o £500,000 ar ffurf arian parod ynghyd â Phlot 2. Gwerth marchnadol Plot 2 yw £400,000. Mae hyn yn dderbyniol i B oherwydd bod safle Plot 2 o fudd masnachol i B. Mae'r cytundebau’n cael eu cwblhau ar yr un pryd ac mewn cysylltiad â’i gilydd.

Mae C wedi ymrwymo i un trafodiad fel prynwr (C yn caffael Plot 1) yn gydnabyddiaeth am ymrwymo i drafodiad arall fel gwerthwr mewn un arall (B yn caffael Plot 2). Mae rheolau cyfnewidiad yn berthnasol felly.

Codir treth ar B am gaffael Plot 1 gan A ond gall hawlio rhyddhad.

Codir treth ar B hefyd wrth gaffael Plot 2 gan C. Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cael ei phennu yn ôl paragraff 5 o Atodlen 4. Dyma yw gwerth marchnadol Plot 2 (£400,000).

Codir treth ar C am gaffael Plot 1. Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cael ei phennu yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 4. Gwerth marchnadol Plot 1 yw £1 miliwn, felly £1 miliwn yw’r gydnabyddiaeth drethadwy.

Enghraifft 9 - Cwmni cysylltiedig yn caffael

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am dir gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn sy’n adlewyrchu gwerth marchnadol y tir. Y nod yw cwblhau ddwy flynedd ar ôl ymrwymo i’r cytundeb.
  • Ar ôl un flwyddyn, mae gwerth marchnadol y tir wedi cynyddu i £1.1 miliwm. Mae B yn ymrwymo i gytundeb is-werthiant gyda C am gydnabyddiaeth o £900,000. Mae C yn gwmni sy’n gysylltiedig â B. Mae'r ddau gytundeb yn cael eu cwblhau ar yr un pryd ac mewn cysylltiad â’i gilydd.

Codir treth ar B am gaffael y tir a gall hawlio rhyddhad.

Codir treth ar C am gaffael y tir. Yn y lle cyntaf, y gydnabyddiaeth drethadwy a bennir yn unol â pharagraff 13 (fel y mae’n berthnasol i baragraff 1 o Atodlen 4) yw £900,000.

Nid yw’r gwerth marchnadol tybiedig yn adran 53 yn berthnasol oherwydd mai A yw’r gwerthwr ar gyfer caffaeliad C (paragraff 10(4)). Felly, nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cynyddu i £1.1 miliwn.

Ond, mae cysylltiad rhwng B ac C, felly mae rheol isafswm y gydnabyddiaeth yn berthnasol i gynyddu'r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer caffaeliad C o’r £900,000 a roddwyd i £1 miliwn.

Enghraifft 10 - Partneriaethau

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am dir gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn sy’n adlewyrchu gwerth marchnadol y tir.
  • Mae B yn ymrwymo i gytundeb is-werthiant gyda C am gydnabyddiaeth o £1 miliwn. Mae C yn bartneriaeth ac mae gan B 90 y cant o gyfran yn y bartneriaeth. Mae'r ddau gytundeb yn cael eu cwblhau ar yr un pryd ac mewn cysylltiad â’i gilydd.

Codir treth ar B am gaffael y tir a gall hawlio rhyddhad.

Codir treth ar C am gaffael y tir. Y gydnabyddiaeth drethadwy a bennir yn unol â pharagraff 13 (fel y mae’n berthnasol i baragraff 1 o Atodlen 4) yw £1 miliwn. Nid yw C yn cael budd o’r rheolau ar gyfer trafodiadau partneriaeth arbennig yn Rhan 3 o Atodlen 15 oherwydd mai A yw’r gwerthwr ar gyfer caffaeliad C (h.y. ddim yn bartner yn y bartneriaeth).

Enghraifft 11 - Newyddiad

Dyma enghraifft o sut mae’r rheolau’n berthnasol i newyddiad.

  • Mae A yn ymrwymo i werthiant a chytundeb prynu gyda B am dir gyda chydnabyddiaeth o £1 miliwn yn daladwy wrth gwblhau.
  • Mae A, B ac C yn ymrwymo i weithred newyddiad ac yn y weithred hon: mae C yn cymryd lle B fel prynwr y tir; ac mae C yn talu £100,000 i B yn gydnabyddiaeth am fod B yn ildio ei hawliau o dan y contract cyntaf. Yn unol â’r weithred, caiff A a B eu rhyddhau rhag unrhyw rwymedigaethau at y naill a’r llall. Yn dilyn y weithred newyddiad, nid yw’r contract gwreiddiol rhwng A a B yn bodoli mwyach. Mae wedi cael ei ddisodli gan gontract newydd rhwng A ac C.
  • Mae C yn cwblhau'r contract newydd i gaffael y tir gan A ac yn talu £1 miliwn i A.

Mae'r newyddiad yn drafodiad cyn-gwblhau oherwydd ei fod yn drosglwyddiad annibynnol. Nid yw hyn yn achos o aseinio hawliau oherwydd nad yw hawl C i alw am drosglwyddo yn hawl o dan y contract gwreiddiol, ond mae’n hawl o dan y contract newydd. Ni ystyrir bod C yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y newyddiad.

Wrth gwblhau, C yw’r prynwr o dan drafodiad tir. Y gydnabyddiaeth drethadwy yn unol â pharagraff 13 yw £1.1 miliwn.

Nid B yw’r prynwr o dan drafodiad tir felly nid oes raid iddo ffeilio ffurflen dreth trafodiad tir ac ni fydd angen hawlio rhyddhad.

DTTT/2240 Opsiynau a hawliau rhagbrynu

(adran 15)

Mae caffael opsiwn sy’n rhwymo’r grantwr i ymrwymo i drafodiad tir neu hawl rhagbrynu sy’n rhwystro'r grantwr rhag ymrwymo i drafodiad tir (neu gyfyngu ar eu hawl) yn drafodiad tir hefyd.
Pan roddir opsiwn neu hawl rhagbrynu, mae’r trafodiad tir hwnnw yn wahanol (ond bron yn sicr â chysylltiad) i’r trafodiad tir sy’n deillio o arfer yr opsiwn hwnnw neu’r hawl rhagbrynu. Y dyddiad y daw’r trafodiad i rym yw’r dyddiad y rhoddir yr opsiwn neu'r hawl rhagbrynu.

Nid yw opsiwn neu hawl rhagbrynu yn brif fuddiant, er ei fod yn fuddiant trethadwy.

Mae opsiwn i brynu tir yn hawl a roddir gan berchennog y tir i ddarpar brynwr i gaffael y tir. Bydd yr opsiwn yn aml yn cynnwys talu ffi ac yn gosod cyfyngiad amser ar gyfer hyd yr opsiwn hwnnw. Hawl dros dir yw hyn, a gall yr unigolyn sydd wedi cael yr hawl fynnu bod y tir yn cael ei werthu (iddo).

Gelwir hawl rhagbrynu yn hawl i gael y cynnig cyntaf hefyd. Rhaid i berchennog y tir gynnig yr eiddo i’w werthu i’r sawl sydd â’r hawl rhagbrynu cyn cynnig ei werthu i unrhyw un arall.

Pan fydd opsiwn wedi’i ganiatáu, gan roi cydnabyddiaeth am gael yr opsiwn hwnnw, a bod yr opsiwn yn cael ei weithredu, bydd y trafodiad tir ar ganiatáu'r opsiwn a’r trafodiad tir ar weithredu'r opsiwn yn drafodiadau cysylltiol.

DTTT/2250 Cyfnewidiadau

(adran 16 a pharagraff 5 o Atodlen 4)

Bydd cyfnewidiad (sef cyfnewid buddiannau mewn tir) yn digwydd pan fydd unigolyn (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i drafodiad tir fel prynwr yn llwyr neu’n rhannol, yn gydnabyddiaeth am drafodiad tir arall y mae ef (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo iddo fel gwerthwr a bod y trafodiadau tir perthynol yn cael eu rhoi’n llwyr neu’n rhannol fel cydnabyddiaeth am y tir arall. Caiff y ddau drafodiad eu hystyried ar wahân ac yn wahanol i’w gilydd ac ni fyddant yn drafodiadau cysylltiol.

Mae’r rheolau ar gyfer sefydlu’r gydnabyddiaeth drethadwy a roddir ar gael yn DTTT/2260.

Mae'r rheolau sy’n ymwneud â darnddosbarthu tir ar gael yn DTTT/2360.

Mae rheolau arbennig hefyd yn berthnasol i drefniadau sy’n cynnwys y cyhoedd neu gyrff addysgol.