Canllawiau ymgeisio ar gyfer penodiadau cyhoeddus
Canllawiau i'ch helpu i wneud cais am benodau cyhoeddus.
Ar y dudalen hon
Gwneud cais am benodiad cyhoeddus
Gall gwneud cais am benodiad cyhoeddus deimlo fel profiad a fydd yn llethu rhywun i ryw raddau, yn enwedig os mai dyma'r tro cyntaf ichi wneud hynny.
Rydym am i'r broses fod mor agored, tryloyw a hygyrch â phosibl. Mae penodiadau cyhoeddus yn agored i bobl o ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau. Nid oes angen profiad blaenorol o fod yn aelod o fwrdd i wneud cais.
P'un a yw eich profiad yn deillio o gyflogaeth, gwaith gwirfoddol, gweithgarwch cymunedol, rolau ym maes llywodraethiant, cyfrifoldebau gofalu neu brofiad bywyd, gall ddarparu tystiolaeth werthfawr o'r hyn y gallech ei gynnig i'r rôl. Mae'r broses asesu wedi'i chynllunio i gydnabod gwahanol fathau o brofiad a'r cyfraniad y gallant ei wneud at fywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Canllaw i ymgeiswyr
I'ch helpu i ddeall y broses recriwtio a sut y caiff ymgeiswyr eu hasesu, rydym wedi datblygu canllaw i ymgeiswyr. Mae'r canllaw yn darparu gwybodaeth ymarferol am y Fframwaith Asesu, yr hyn y mae paneli yn chwilio amdano, sut i ddarparu tystiolaeth gref a'r cymorth sydd ar gael drwy gydol y broses recriwtio.
Deall sut y byddwch chi'n cael eich asesu
Mae'r Fframwaith Asesu Penodiadau Cyhoeddus yn edrych ar dystiolaeth ar draws pedwar maes eang:
Cymhelliant, Gwasanaethu'r Cyhoedd ac Uniondeb
Mae'r maes hwn yn ystyried:
- Pam rydych chi eisiau gwasanaethu mewn bywyd cyhoeddus
- Eich ymrwymiad i weithredu er budd y cyhoedd
- Eich dealltwriaeth o atebolrwydd a stiwardiaeth
- Y gwerthoedd a'r safonau y byddech chi'n eu cynnig i'r rôl
Cydweithredu a Chynnig Her Adeiladol
Mae'r maes hwn yn ystyried sut rydych chi'n gweithio gydag eraill ac yn cyfrannu at wneud penderfyniadau ar y cyd.
Gallai hyn gynnwys:
- Meithrin cysylltiadau effeithiol
- Gwrando ar wahanol safbwyntiau
- Gweithio ar y cyd i wella canlyniadau
- Cynnig her adeiladol pan fo'n briodol
Chwilfrydedd, Crebwyll a Gwneud Penderfyniadau Moesegol
Mae'r maes hwn yn ystyried sut rydych chi'n mynd i'r afael â phroblemau, yn gwneud penderfyniadau ac yn defnyddio crebwyll.
Gallai hyn gynnwys:
- Dadansoddi gwybodaeth
- Ystyried risgiau a chyfleoedd
- Cydbwyso blaenoriaethau sy'n cystadlu
- Defnyddio crebwyll cadarn mewn sefyllfaoedd cymhleth
- Ystyried goblygiadau moesegol wrth wneud penderfyniadau
Ymwybyddiaeth o'r Dyfodol
Mae'r maes hwn yn ystyried eich dealltwriaeth o'r sefydliad, ei amgylchedd gweithredu a'r cyd-destun ehangach y mae'n gweithio ynddo.
Gallai hyn gynnwys:
- Ymwybyddiaeth o heriau a chyfleoedd yn y dyfodol
- Deall y cyd-destun Cymreig
- Diddordeb yn y sefydliad a'i ddiben
- Y gallu i feddwl yn strategol ac i edrych y tu hwnt i faterion uniongyrchol
Caiff ymgeiswyr eu hasesu yn erbyn y pedwar maes hyn drwy gydol y broses recriwtio. Bydd paneli yn ystyried tystiolaeth o'r ffurflen gais, y cyfweliad a'r ymarfer efelychu bwrdd, yn hytrach na dibynnu ar un cam o'r broses.
Darparu tystiolaeth gref
Mae'r ffurflen gais yn gyfle ichi ddangos eich profiadau, eich sgiliau, eich crebwyll a'ch cyfraniad posibl.
Fel arfer, bydd ffurflenni cais cryf yn:
- Defnyddio enghreifftiau penodol yn hytrach na datganiadau cyffredinol
- Egluro'r hyn a wnaethoch chi'n bersonol
- Disgrifio sut y daethpwyd i benderfyniad
- Dangos sut yr ymdriniwyd â heriau
- Dangos yr effaith a gafwyd neu'r canlyniad a sicrhawyd
- Ystyried yr hyn y mae'r enghraifft yn ei ddweud am y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn gweithio
Wrth ddisgrifio enghraifft, canolbwyntiwch nid yn unig ar yr hyn a ddigwyddodd, ond ar y canlynol hefyd:
- Sut wnaethoch chi ymdrin â'r sefyllfa
- Pa wybodaeth wnaethoch chi ei hystyried
- Sut wnaethoch chi weithio gydag eraill
- Sut wnaethoch chi bwyso a mesur gwahanol opsiynau
- Yr hyn a wnaeth lywio eich crebwyll
Mae gan baneli ddiddordeb mewn deall sut rydych chi'n meddwl ac yn cyfrannu, nid yn unig pa swydd rydych chi'n ei dal neu faint o brofiad sydd gennych.
Defnyddio profiadau gwahanol
Gall tystiolaeth ddeillio o sawl agwedd ar eich bywyd a'ch gyrfa.
Dyma ambell enghraifft:
- Cyflogaeth neu brofiad proffesiynol
- Rolau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r sector wirfoddol
- Cyfranogiad yn y gymuned
- Profiad o lywodraethiant
- Gwaith gwirfoddol
- Addysg
- Cyfrifoldebau gofalu
- Profiad bywyd neu bersonol
Nid oes angen ichi ddangos pob maes asesu drwy arweinyddiaeth ffurfiol neu brofiad ar lefel bwrdd. Gall sgiliau trosglwyddadwy a dealltwriaeth a ddatblygwyd drwy wahanol brofiadau ddarparu tystiolaeth yr un mor werthfawr.
Defnyddio profiad bywyd
Mae gan bawb brofiadau a safbwyntiau a allai fod yn berthnasol i benodiad cyhoeddus.
Mae croeso ichi ddefnyddio profiad bywyd pan fo'n berthnasol i'r rôl ac yn helpu i ddangos eich dealltwriaeth, eich crebwyll, eich gwerthoedd, eich ymddygiadau neu'ch persbectif.
Gall profiad bywyd gryfhau tystiolaeth drwy ddangos:
- Dealltwriaeth ddyfnach o sut y mae penderfyniadau yn effeithio ar bobl a chymunedau
- Cymhelliant ar gyfer gwasanaethu'r cyhoedd
- Ymwybyddiaeth o rwystrau, risgiau neu gyfleoedd
- Y gallu i gynnig gwahanol safbwyntiau i drafodaethau a phrosesau gwneud penderfyniadau
Bydd paneli yn asesu ansawdd a pherthnasedd y dystiolaeth rydych chi'n ei darparu, nid tarddiad y dystiolaeth honno. Nid yw profiad bywyd yn faen prawf asesu ar wahân, ond gall helpu i gryfhau tystiolaeth ar draws y fframwaith pan fo'n berthnasol i'r rôl.
Cyn ichi gyflwyno eich cais
Addasiadau rhesymol
Rydym wedi ymrwymo i arferion recriwtio cynhwysol ar gyfer penodiadau cyhoeddus. Os ydych chi'n anabl, neu os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor neu angen penodol o ran hygyrchedd, gallwn gynnig addasiadau rhesymol i'ch cynorthwyo drwy'r broses recriwtio.
Beth yw addasiadau rhesymol?
Mae addasiadau rhesymol yn newidiadau sy'n dileu rhwystrau ac yn helpu i sicrhau profiad recriwtio teg a hygyrch. Gall y rhain gynnwys:
- Darparu ffurflenni cais mewn fformatau hygyrch (e.e. print bras, sy'n gydnaws â rhaglenni darllen sgrin)
- Cynnig amser ychwanegol neu fformatau amgen ar gyfer asesiadau
- Trefnu cyfweliadau mewn lleoliadau hygyrch neu drwy alwad fideo
- Rhannu cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw
- Defnyddio iaith glir mewn gohebiaeth a deunyddiau
Nid oes angen ichi ddatgelu diagnosis penodol; mae disgrifiad o'ch anghenion hygyrchedd yn ddigon.
Sut i ofyn am addasiadau
Gallwch ofyn am addasiadau yn ystod unrhyw gam o'r broses recriwtio. Yn syml:
- Nodwch eich anghenion wrth wneud cais; neu
- Cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar unrhyw adeg os bydd eich amgylchiadau'n newid.
Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion a chytuno ar gymorth priodol. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol a dim ond yn cael ei rhannu â'r rhai sy'n ymwneud â rhoi'r addasiad ar waith.
Enghreifftiau o addasiadau
Ffurflen gais
Enghreifftiau: Fformatau hygyrch, dulliau cyflwyno amgen.
Asesiad
Enghreifftiau: Amser ychwanegol, cwestiynau ymlaen llaw, cyfarwyddiadau mewn iaith glir.
Cyfweliad
Enghreifftiau: Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, cwestiynau ysgrifenedig ymlaen llaw, fformatau hyblyg.
Adborth
Enghreifftiau: Crynodebau ysgrifenedig, iaith glir, fformat a ffefrir.
Nid yw'r enghreifftiau hyn yn gynhwysfawr – rydym yn teilwra addasiadau i amgylchiadau unigol.
Rhagor o gymorth a chyngor
Rydym wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant ar draws penodiadau cyhoeddus yng Nghymru.
Rydym hefyd eisiau sicrhau bod pob ymgeisydd yn gallu dangos ei botensial llawn.
Os oes angen unrhyw addasiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn arnoch mewn perthynas â'r broses recriwtio, rydym yn hapus i drafod y rhain â chi.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost yn PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Swyddi gwag presennol
Os ydych chi eisiau gweld y swyddi gwag presennol, gallwch ddod o hyd i restr ar ein tudalennau recriwtio.
Ar y tudalennau hyn, gallwch hefyd gofrestru i gael rhybuddion am swyddi gwag newydd wrth iddynt ddod ar gael.
Gallwch ddod o hyd i ragor o swyddi gwag ar fyrddau cyhoeddus ar wefan Byrddau Cymru.
