Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau arholiadau allanol a gafodd eu sefyll gan ddisgyblion gan ddisgyblion ym mlwyddyn 11 (Cyfnod Allweddol 4) neu ddisgyblion 17 oed ar gyfer Medi 2018 i Awst 2019.

Prif bwyntiau

Disgyblion ym mlwyddyn 11

  • Y sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer Llythrennedd yw 39.0, y sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer Rhifedd yw 37.1 a'r sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer Gwyddoniaeth yw 36.8.
  • Y sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer y Dystysgrif Her Sgiliau yw 36.4.
  • Y sgôr Capio 9 cyfartalog (fersiwn y mesur interim) oedd 353.3.
  • Roedd perfformiad merched yn well na pherfformiad bechgyn ym mhob un o'r pum dangosydd hyn, ac roedd sgôr gyfartalog disgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn is na'r rheini nad oeddent yn gymwys.
  • Cyflawnodd 53.8% o ddisgyblion 5 TGAU (neu gymhwyster cyfwerth) gradd A*-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg (trothwy cynwysedig Lefel 2).

Disgyblion 17 oed

  • Cyflawnodd 97.8% 2 radd A*-E ar lefel Safon Uwch (trothwy Lefel 3).
  • Cyflawnodd 57.6% 3 gradd A*-C ar lefel Safon Uwch.
  • Cyflawnodd 13.1% 3 gradd A*-A ar lefel Safon Uwch.

Nodyn

Yn dilyn adolygiad sylfaenol o'r system atebolrwydd ar gyfer ysgolion yng Nghymru, mae sawl mesur perfformiad interim wedi'u cyflwyno ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Yn ogystal, mae'r holl fesurau eleni yn cael eu cyfrif ar sail cofnod cyntaf disgybl mewn cymhwyster yn hytrach na'u cofnod gorau fel yn y gorffennol. Mae hyn yn gwneud cymariaethau dros amser yn anoddach. Gweler y datganiad a'r nodiadau cysylltiedig am ragor o wybodaeth.

Nodyn diwygiad

Cyhoeddwyd ystadegau ar gyfer 2018/19 gyntaf ar 3 Hydref 2019. Ar ôl eu cyhoeddi, nodwyd mater lle'r oedd rhai o'r ffigurau'n seiliedig ar nifer y disgyblion 15 oed yn hytrach na'r rhai ym Mlwyddyn 11. Nid yw'r mater hwn yn effeithio ar y ffigurau prydau ysgol am ddim neu ffigurau ar gyfer disgyblion 17 oed.

Adroddiadau

Canlyniadau arholiadau, Medi 2018 i Awst 2019 (dros dro): diwygiedig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 816 KB

PDF
816 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Canlyniadau arholiadau, Medi 2018 i Awst 2019 (dros dro): nodiadau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 585 KB

PDF
585 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Canlyniadau arholiadau, Medi 2018 i Awst 2019 (dros dro): tablau (diwygiedig) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 31 KB

ODS
31 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.