Neidio i'r prif gynnwy

Mae trigolion a busnesau yng nghanolbarth Cymru wedi helpu i greu y fenter gyntaf yn y byd i wneud hynny drwy dreialu cynllun dychwelyd ernes digidol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Defnyddir cynlluniau dychwelyd ernes yn llwyddiannus ledled y byd fel ffordd o annog mwy o bobl i ailgylchu cynwysyddion diodydd fel poteli a chaniau.

Cymerodd deiliaid tai ac ymwelwyr Aberhonddu ran yn y treialon Cynllun Dychwelyd Ernes Digidol Sganio|Ailgylchu|Gwobr, ac mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos bod llawer wedi cymryd rhan gyda 18,794 o wobrau'n cael eu hawlio, mwy na phedwar ar gyfer pob aelwyd.

Arweiniwyd treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr Aberhonddu gan DDRS Alliance gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys, Rhaglen Newid Cydweithredol WRAP a manwerthwyr lleol.

Gweithiodd y treial yn wahanol i gynllun dychwelyd ernes traddodiadol wrth iddo dreialu technoleg sy'n sganio'r cynwysyddion diodydd yn ddigidol, sy'n golygu y gellir adennill ernes o'r cartref hyd yn oed. Roedd hefyd yn seiliedig ar wobrau, gyda thrigolion yn hawlio gwobr o 10c wrth ddychwelyd cynwysyddion cymwys. Fel arfer, codir blaendal ar gynhwysydd diodydd ac mae'n rhaid eu cymryd yn ôl at fanwerthwr neu i beiriant gwerthu i ddychwelyd ernes.

Yn ôl y rhai sy'n rhan o'r treial yn Aberhonddu, mae'r lefel uchel o gydweithio gyda'r cynllun yn dangos fod pobl yng Nghymru yn barod i ddefnyddio cynllun dychwelyd ernes digidol yn y dyfodol.

Roedd canlyniadau cadarnhaol y treial yn cynnwys:

  • Daeth 58% o'r holl gynwysyddion a ddychwelwyd drwy'r casgliadau ailgylchu wythnosol i'r cartref
  • dangosodd y treial fod amrywiaeth o opsiynau dychwelyd yn well nag unrhyw lwybr penodol
  • cafodd 97.6% o'r holl gynwysyddion a ddychwelwyd gartref eu dal yn y ffrwd ailgylchu
  • nid oedd unrhyw dwyll na chamddefnydd sylweddol o'r system
  • er gwaethaf y ffaith ei fod yn dreial cynnar, dywedodd 56% o'r cyfranogwyr a holwyd y byddent yn argymell y cynllun yn y dyfodol

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

Hoffwn ddiolch i bobl Aberhonddu am gymryd rhan yn y treial Cynllun Dychwelyd Ernes Digidol - bydd eu parodrwydd i gymryd rhan yn helpu i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes ledled Cymru.

Bydd y treial hwn yn cefnogi ein gwaith parhaus i'r Cynllun Dychwelyd Ernes Digidol ac yn helpu i adeiladu ar ein cyfraddau ailgylchu sydd eisoes o safon ryngwladol. Ein nod yw symud i economi fwy cylchol lle mae adnoddau'n cael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu yn hytrach na'u gwastraffu.

Galluogodd y treial i gynwysyddion cymwys gael eu dychwelyd, gyda chyfranogwyr yn hawlio gwobr 10c am bob un, trwy bedwar dull dychwelyd gwahanol wedi'u teilwra ar gyfer defnyddwyr heb ffonau clyfar yn ogystal â'r rhai sy'n hapus i ddefnyddio'r dechnoleg:

  • Carreg y Drws Defnyddio gwasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol sy'n bodoli eisoes, gan gredydu gwobrau i gyfrif ar-lein (angen ffôn clyfar).
  • Pwynt Dychwelyd Awtomataidd: Fel Peiriannau Gwerthu Dwyffordd traddodiadol (ond yn llawer symlach), credydwyd gwobrau i naill ai gyfrifon ar-lein neu dalebau arian parod wedi'u hargraffu (dim rhaid cael ffôn clyfar).
  • Biniau Cymunedol: Opsiwn awyr agored, wrth symud o gwmpas, yn rhoi credyd ar gyfrif ar-lein (angen ffôn clyfar).
  • Dros y Cownter: Cyfnewid gwobrau yn y siop fel arian parod (nid oes angen ffôn clyfar).

Yn ystod y treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr, hawliwyd 18,794 o wobrau. Nododd y canlyniadau mai dychweliad carreg y drws yw'r dull mwyaf poblogaidd a chyfleus (a ddewiswyd ar gyfer 58% o'r dychweliadau), gyda 97.6% yn cydymffurfio.

Roedd y dadansoddiad yn dangos bod ansawdd deunydd yn uchel ar draws llwybrau dychwelyd, gyda photeli plastig PET yn cynnwys 63% o ddychweliadau, ac yna caniau (29%), cartonau (7%), a gwydr (llai nag 1%).

Dywedodd Matt Perry, Prif Swyddog Cyngor Sir Powys:

Roedd preswylwyr, ymwelwyr a manwerthwyr Aberhonddu yn croesawu cymeryd rhan yn y treial arloesol hwn, ac roedd yn galonogol gweld brwdfrydedd a pharodrwydd pawb i roi cynnig ar y dechnoleg ddigidol. Mae'r canlyniadau'n dangos drostynt eu hunain sut y gellid ymgorffori fersiwn ddigidol o'r cynlluniau dychwelyd ernes traddodiadol yn hawdd yn y gwasanaethau casgliadau ymyl y ffordd wythnosol a gynigir gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol sy'n gwneud bywyd yn haws i ddinasyddion ddychwelyd cynwysyddion tra hefyd yn cadw ein hôl troed carbon mor isel â phosibl.

Dywedodd aelodau DDRS Alliance: 

Daethom ynghyd i ddarparu datrysiad technoleg ar raddfa i gefnogi treial Aberhonddu.

Fe weithiodd y system yn rhwydd y tu ôl i'r llenni er gwaethaf y ffaith y daw y gefnogaeth o bum gwlad Ewropeaidd ac mae'r canlyniadau'n dangos pa mor syml yw'r ateb hwn i'r cyhoedd.

Dywedodd Duncan Midwood, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr DDRS Alliance:

Roedd y treial hwn yn hynod gymhleth, yn cynnwys 24 o fanwerthwyr a dros 50 o gyflenwyr a phartneriaid.

Er gwaethaf ei gymhlethdod, gweithiodd yn rhwydd ac mae wedi rhoi gwybodaeth wych ac, yn bwysicach fyth, dangosodd fod y cyhoedd ym Mhrydain yn gwerthfawrogi cael ateb i gynyddu ailgylchu a lleihau sbwriel sy'n addas i'w bywydau amrywiol a phrysur.

Dywedodd Claire Shrewsberry, Cyfarwyddwr Mewnwelediadau ac Arloesi WRAP:

Bu'r treial hwn yn hynod bwysig er mwyn deall cymhlethdodau gweithredu cynllun Dychwelyd Ernes Digidol llwyddiannus yng Nghymru yn well. Mae'n amlwg bod y bobl dan sylw wedi cofleidio'r opsiynau yn llwyr. Mae WRAP yn edrych ymlaen at helpu Llywodraeth Cymru i gyflwyno system Dychwelyd Ernes sy'n gweithio'n llwyddiannus ledled y wlad gyfan ac yn adeiladu ar ei pherfformiad trawiadol o ailgylchu.