Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno data a gasglwyd o'r cyfrifiad blynyddol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae hefyd yn cyflwyno data ar gyfer ysgolion annibynnol. Mae’n adrodd gwybodaeth ar gyfer ysgolion, disgyblion, ethnigrwydd, cymwys i brydau ysgol am ddim, anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig, maint dosbarthiadau, athrawon a staff cymorth.

Mae'r data mwyaf diweddar yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â'r sefyllfa ym mis Chwefror 2022. Fel arfer byddai'r Cyfrifiad Ysgol Flynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) yn cael ei gynnal ym mis Ionawr. Fodd bynnag, oherwydd lefel yr achosion coronafeirws (COVID-19) ym mis Ionawr 2022, gohiriwyd dyddiad y cyfrifiad i 15 Chwefror 2022. Gwnaed y penderfyniad hwn i ganiatáu i ysgolion ac awdurdodau lleol ganolbwyntio’r adnoddau sydd ar gael iddynt ar ailagor ysgolion a chefnogi dysgwyr sy’n dychwelyd ar ôl gwyliau ysgol y Nadolig.

Nodyn ar ansawdd a chwmpas y data

Dyma ryddhad olaf data cyfrifiad ysgolion 2022, yn dilyn dilysu fel rhan o setliad Cyllid Llywodraeth Leol fel mewn blynyddoedd blaenorol. Mae nifer y disgyblion wedi cynyddu ychydig ers rhyddhau'r data hwn dros dro ym mis Mai 2022 gan fod y data ar gyfer 2 ysgol nad oeddent wedi cyflwyno data ar y pwynt hwnnw bellach wedi'u gynnwys.

Prif bwyntiau

  • Roedd 1,470 ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 3 llai o’i gymharu ag Ebrill 2021.
  • Roedd 471,131 disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 3,593 llai na mis Ebrill 2021. Roedd nifer y disgyblion yn uwch ym mis Ebrill 2021 yn rhannol oherwydd dyddiad y cyfrifiad diweddarach a oedd yn golygu bod mwy o ddisgyblion wedi dechrau mewn ddosbarthiadau meithrin erbyn dyddiad y cyfrifiad.
  • O’r 380,870 disgybl 5 i 15 oed, roedd 23.3% yn gymwys am brydau ysgol am ddim, i fyny o 22.9% yn Ebrill 2021. Nid yw’r ffigurau yma yn cynnwys gwarchodaeth drosiannol (gweler isod).
  • Roedd 74,661 disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (15.8% o'r holl ddisgyblion) ym mis Chwefror 2022, i lawr o 92,668 (19.5%) ym mis Ebrill 2021. Gweler y nodyn isod. Gweler yr adran anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig am esboniad o'r newidiadau i'r data hwn.
  • Roedd 5,992 disgybl (6.0%) mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 disgybl ym mis Chwefor 2022, i lawr o 7,617 disgybl (7.5%) yn Ebrill 2021.
  • Roedd 24,657 o athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 715 (3.0%) yn fwy na mis Ebrill 2021.

Ysgolion a disgyblion

Mae’r adran yma yn cyflwyno data ar gyfer ysgolion a gynhelir gan yr ALl a disgyblion. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.

Am ddiffiniadau o fathau o ysgolion (gan gynnwys sut y cânt eu dosbarthu yn nhermau iaith yr addysgu (cyfrwng)) gweler diffiniadau.

Tabl 1: Nifer yr ysgolion yng Nghymru yn ôl sector, 2021 i 2022
Sector 2021 2022
Meithrin 9 8
Cynradd 1,219 1,217
Canol 23 23
Uwchradd 182 182
Arbennig 40 40
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol  1,473 1,470
Annibynnol 80 79
Cyfanswm 1,553 1,549

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion

  • Roedd 1,470 ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol ym mis Chwefror 2022, 3 llai o’i gymharu ag Ebrill 2021.
  • Roedd 79 o ysgolion annibynnol, 1 llai o’i gymharu ag Ebrill 2021.
Image
Caerdydd oedd â'r nifer uchaf o ysgolion yn gyffredinol ym mis Chwefror 2022 a Gwynedd oedd â'r nifer uchaf o ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Nifer yr ysgolion a gynhelir, yn ôl awdurdod lleol a chyfrwng (MS Excel)

  • Roedd 439 o ysgolion cyfrwng Cymraeg ym mis Chwefror 2022 gyda 109,331 (23%) o ddisgyblion yn cael eu haddysgu ynddynt.
  • Addysgir rhan fwyaf o ddisgyblion yn Sir Fôn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Ebrill 2021. Yn yr 18 awdurdod arall addysgir rhan fwyaf o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Tabl 2: Nifer y disgyblion yng Nghymru yn ôl sector, 2021 i 2022
Sector 2021 2022
Meithrin 724 611
Cynradd 272,339 266,574
Canol 22,308 22,516
Uwchradd 174,133 175,957
Arbennig 5,220 5,473
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol  474,724 471,131
Annibynnol (a) 9,855 10,034
Cyfanswm 484,579 481,165

(a) Ni chyflwynodd 10 ysgol annibynnol data yn 2021 ac ni chyflwynodd 10 ysgol annibynnol data yn 2022.

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion

  • Roedd 471,131 disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 3,593 llai na mis Ebrill 2021. Roedd nifer y disgyblion yn uwch ym mis Ebrill 2021 yn rhannol oherwydd dyddiad y cyfrifiad diweddarach a oedd yn golygu bod mwy o ddisgyblion wedi dechrau mewn ddosbarthiadau meithrin erbyn dyddiad y cyfrifiad.
  • Roedd 10,034 disgyblion mewn ysgolion annibynnol (2.1% o'r holl ddisgyblion) ym mis Chwefror 2022, i fyny 179 o’i gymharu ag Ebrill 2021

Mae'r holl ddata sy'n dilyn yn y datganiad hwn yn ymwneud ag ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn unig.

Image
Yn ysgolion cynradd roedd yr cymhareb disgybl athro uchaf dros yr 15 blwyddyn diwethaf.

Cymhareb disgybl athro (CDA) yn ôl sector (MS Excel)

  • Roedd y gymhareb disgybl athro ym mis Chwefror 2022 ar ei uchaf mewn ysgolion cynradd gyda 21.0 ac yn isaf mewn ysgolion arbennig gyda 6.7. Roedd y gymhareb disgybl athro mewn ysgolion uwchradd yn 16.8.
  • Mae’r cymhareb disgybl athro wedi gostwng ym mhob sector yn 2022. The pupil teacher ratio has decreased in all sectors in 2022. Gall hyn fod yn rhannol oherwydd cyllid Llywodraeth Cymru a ddarparwyd i ysgolion o dan y cynllun “recriwtio, adennill a chodi safonau” i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi disgyblion yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Cefndir ethnig

Dyma'r grŵp ethnig y mae'r disgybl yn nodi eu hunain.

Tabl 3: Nifer y disgyblion 5 oed a throsodd yn ôl cefndir ethnig, 2022
Cefndir ethnig Nifer Canran
Gwyn 365,231 90.3
Gwyn Prydeinig 350,842 86.7
Teithiwr 443 0.1
Sipsi/ Roma 740 0.2
Unrhyw gefndir Gwyn arall 13,206 3.3
Cymysg 14,775 3.7
Gwyn a Du Caribïaidd 2,754 0.7
Gwyn a Du Affricanaidd 2,198 0.5
Gwyn ac Asiaidd 3,011 0.7
Unrhyw gefndir cymysg arall 6,812 1.7
Asiaidd 10,520 2.6
Indiaidd 2,641 0.7
Pacistanaidd 3,285 0.8
Bangladeshaidd 3,304 0.8
Unrhyw gefndir Asiaidd arall 1,290 0.3
Du 4,446 1.1
Du Caribïaidd 198 0.0
Du Affricanaidd 3,711 0.9
Unrhyw gefndir Du arall 537 0.1
Tsieineaidd 939 0.2
Unrhyw gefndir ethnig arall 6,059 1.5
Cyfanswm â chategori dilys 401,970 99.4
Ddim yn gwybod 2,511 0.6
Pob disgybl 404,481 100.0

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion

  • Dynodwyd 86.7% o ddisgyblion 5 oed a hŷn fel Gwyn Prydeinig ym mis Chwefror 2022.
  • Mae’r ffigwr hyn wedi gostwng ychydig ym mob un o’r pum mlynedd diwethaf gyda chynnydd yn y cefndiroedd ethnig eraill dros yr un cyfnod.
  • O'r disgyblion hynny o gefndir ethnig lleiafrifol y grwpiau mwyaf yw'r rhai o gefndir ethnig cymysg (14,775 o ddisgyblion), cefndir Gwyn heblaw Gwyn Prydeinig (13,206 o ddisgyblion), Asaidd (10,520) a Du (4,446); tra bod dros 6,000 o ddisgyblion yn nodi eu hunain fel grŵp ethnig arall.

Prydau am ddim

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu teuluoedd yn derbyn rhai budd-daliadau daliadau / cymorth, sydd wedi eu hamlinellu yn y dudalen we ganlynol: Gwefan Llywodraeth Cymru: Prydau ysgol am ddim.

Ar 17 Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’r hawl i brydau ysgol am ddim yn cael ei hymestyn i bob plentyn ysgol gynradd. Bwriedir dechrau gweithredu’r polisi hwn ym mis Medi 2022, gyda’r dysgwyr ieuengaf mewn ysgolion cynradd yn cael prydau ysgol am ddim i ddechrau.

Image
Cynyddodd canran y disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim rhwng 2018 a 2022 ar ôl gostwng dros y pum mlynedd cynt.

Canran o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (MS Excel)

  • Mae’r canran y disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim wedi cynyddu pob blwyddyn ers 2018.
  • Roedd 100,305 disgybl (21.3%) o bob oedran yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim ym mis Chwefror 2022, i fyny o 99,135 disgybl (20.9%) ym mis Ebrill 2021.
  • Roedd 88,808 disgybl (23.3%) 5 i 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim ym mis Chwefror 2022, i fyny o 87,095 disgybl (22.9%) ym mis Ebrill 2021.
  • Nid yw’r ffigurau yma yn cynnwys gwarchodaeth drosiannol (gweler isod).

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

Tabl 4: Nifer a chanran y disgyblion yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim (PYD) neu warchodaeth drosiannol (GD), 2020 i 2022
  2020 2021 2022
Disgyblion 5 i 15 oed
    Nifer yn gymwys am PYD 75,157 87,095 88,808
    % yn gymwys am PYD 19.9 22.9 23.3
    Nifer yn gymwys am PYD neu GD 79,587 95,532 102,391
    % yn gymwys am PYD neu GD 21.1 25.2 26.9
Disgyblion pob oedran
    Nifer yn gymwys am PYD 85,731 99,135 100,305
    % yn gymwys am PYD 18.3 20.9 21.3
    Nifer yn gymwys am PYD neu GD 90,662 108,447 114,992
    % yn gymwys am PYD neu GD 19.3 22.8 24.4

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion

  • Roedd 102,391 disgybl (26.9%) 5 i 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim neu warchodaeth drosiannol mis Chwefror 2022, i fyny o 95,532 disgybl (25.2%) ym mis Ebrill 2021.
  • Roedd 114,992 disgybl (24.4%) o bob oedran yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim neu warchodaeth drosiannol mis Chwefror 2022, i fyny o 108,447 disgybl (22.8%) ym mis Ebrill 2021.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA)

Mae gan blentyn anghenion arbennig os oes ganddynt anawsterau dysgu y mae angen darparu cymorth addysgol arbennig ar eu cyfer. Mae anhawster dysgu yn golygu bod gan y plentyn dipyn mwy o anhawster wrth ddysgu na’r mwyafrif o blant o’r un oedran neu fod gan y plentyn nam neu gyflwr iechyd neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain anabledd sy’n gofyn am gyfleusterau addysgol gwahanol i’r rhai y mae’r ysgol yn eu darparu fel rheol ar gyfer plant. Gall disgyblion ag anghenion addysgol arbennig gael Datganiad a roddir gan ALl neu gall yr ysgol nodi eu hanghenion. Yn yr ail achos, dônt o dan un o ddau gategori pellach: Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy.

Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion sydd wedi’i gynllunio’n briodol a’i ddiogelu, gyda dysgwyr wrth galon y broses.

Mae plant yn symud o’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) i’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn grwpiau dros 3 blynedd, er mwyn sicrhau digon o amser i feithrinfeydd, ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen ac i baratoi cynlluniau.

Mae’r Cod ADY wedi’i weithredu mewn partneriaeth ag arweinwyr trawsnewid addysg, partneriaid darparu a sefydliadau addysg, gyda rhaglen ddysgu a datblygu, a chreu rolau statudol newydd mewn awdurdodau lleol, ysgolion a’r gwasanaeth iechyd.

Mae cyfrifiad ysgolion 2022 yn cynrychioli’r cyflwyniadau cyntaf gan Gydlynwyr ADY penodedig ledled Cymru, fel rhan o Weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Mae dadansoddiad o’r data, ynghyd ag adborth gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod y gostyngiad yn nifer y disgyblion ADY/AAA yn 2022 o ganlyniad i adolygiad systematig gan ysgolion o’u cofrestrau ADY/AAA yn barod ar gyfer cyflwyno’r system ADY. Tynnwyd y disgyblion hynny ag anghenion lefel isel, na nodwyd bod ganddynt ADY/AAA cydnabyddedig, oddi ar y gofrestr.

Gofynnwyd hefyd i ysgolion beidio defnyddio’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ ac i ailasesu categori priodol o angen ar gyfer disgyblion o’r fath. Roedd y categori hwn wedi dod yn un cyffredinol ar gyfer y rhai yr oedd angen cymorth dal i fyny arnynt, gyda mân anghenion a/neu le'r oedd anghenion lluosog yn bodoli, yn lle ei fwriad gwreiddiol, sef dal dysgwyr a oedd yn aros am asesiad. Mae hyn wedi arwain at dynnu rhai disgyblion oddi ar y gofrestr os canfyddir nad oedd ganddynt ADY/AAA. Bydd y categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ yn cael ei ddileu o gyfrifiad ysgolion 2023.

Yn ogystal, mae llawer o ddisgyblion ar Gynlluniau Gweithredu Gan Yr Ysgol (y rhai sydd angen y swm lleiaf o ddarpariaeth addysgol arbennig) wedi'u tynnu oddi ar y gofrestr ADY/AAA. Roedd hyn naill ai oherwydd bod eu hanghenion yn rhai tymor byr ond eu bod yn parhau ar y gofrestr, neu nid oes angen darpariaeth ychwanegol neu wahanol i'r hyn a ddarperir ar gyfer dysgwyr eraill, y gellir mynd i'r afael â hi fel rhan o ddarpariaeth gyfannol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro nifer y dysgwyr ag ADY/AAA drwy gydol gweithrediad y system ADY ac yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y data’n adlewyrchiad cywir o niferoedd a chategorïau’r dysgwyr ag ADY/AAA yng Nghymru, ac i sicrhau eu bod yn anghenion yn cael eu diwallu.

Image
Y ddarpariaeth dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig mwyaf cyffredin yw Gweithredu gan yr Ysgol, ac yna Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.

Nifer a chanran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math o ddarpariaeth (MS Excel)

  • Roedd 74,661 disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (15.8% o'r holl ddisgyblion) ym mis Chwefror 2022, i lawr o 92,668 (19.5%) ym mis Ebrill 2021.
  • Gostyngodd y nifer o ddisgyblion gyda darpariaeth Gweithredu gan yr Ysgol o 31 y cant a’r nifer o ddisgyblion gyda darpariaeth Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy o 21 y cant yn 2022.
  • Roedd bron dim newid yn y nifer o ddisgylblion gyda datgamiad o anghenion yn 2022.
Image
Y math o anghenion addysgol arbennig mwyaf cyffredin oedd anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu ym mis Chwefror 2022.

Adroddiadau o anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math yr angen (MS Excel)

  • Gwnaed 102,653 adroddiadau o’r fath o ADY neu AAA - cyfartaledd o 1.4 fesul disgybl sydd ag ADY neu AAA.
  • Y math mwyaf cyffredin o angen oedd ‘anawsterau lleferydd, Iaith a chyfathrebu’, yn cynrychioli 30.0 y cant o ddisgyblion gyda rhyw fath o AAA.
  • Y nesaf uchaf oedd ‘anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol’ (29.0%) ac ‘anawsterau dysgu cyffredinol’ (18.6%).

Maint dosbarthiau

Tabl 5: Maint dosbarthiadau babanod ac iau ar gyfartaledd, 2020 i 2022
Dosbarth 2020 2021 2022
Babanod 25.4 25.3 24.9
Iau 26.3 26.2 25.8

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion

  • Bu gotyngiad yn 2022 ym maint dosbarthiadau babanod ac iau ar gyfartaledd. Gall hyn fod yn rhannol oherwydd cyllid Llywodraeth Cymru a ddarparwyd i ysgolion o dan y cynllun “recriwtio, adennill a chodi safonau” i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi disgyblion yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). 

Mae dosbarthiadau babanod o fwy na 30 disgybl yn anghyfreithlon o fawr heblaw bod amgylchiadau penodol o'r enw 'eithriadau' wedi’u bodloni.

Image
Gostyngodd canran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod cyfreithlon mawr ac ni fu newid yng nghanran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod anghyfreithlon mawr yn 2022.

Canran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod cyfreithlon neu anghyfreithlon o fawr (MS Excel)

  • Roedd 5,992 disgybl (6.0%) mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 disgybl ym mis Chwefor 2022, down from 7,617 disgybl (7.5%) yn Ebrill 2021.
  • Roedd 391 pupils (0.4%) mewn dosbarthiadau babanod mawr anghyfreithlon o dros 30 disgybl ym mis Chwefor 2022, dim newid o 385 disgybl (0.4%) yn Ebrill 2021.

Athrawon a staff cymorth

Cyflwynwyd y Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgol (CBGY) yn 2019 i rhoi gwybodaeth mwy cynhwysfawr ar y gweithlu ysgol yng Nghymru ac i helpu lywio polisïau Llywodraeth Cymru ar materion sy’n ymneud â’r gweithlu ysgol yng Nghymru. Bydd y data yn cael eu defnyddio ar gyfer cynllunio’r gweithlu ac i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth y gweithlu ysgol. Mae’r data sydd wedi’u cyhoeddi yn y datganiad ystadegol yma (Canlyniadau’r cyfrifiad ysgolion) wedi’u seilio ar gwybodaeth o’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a dylid parhau i’w defnyddio fel yr ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol, a’u defnyddio ar gyfer cymhariaeth dros amser. Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol CBGY diweddaraf ar 30 Mehefin 2022 fel ystadegau arbrofol.  Unwaith bydd safon y data a gesglir trwy’r CBGY wedi’u sicrhau ac unrhyw wahaniaethau wedi’u hesbonio bydd y datganiad yma yn darparu’r ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol yng Nghymru.

Ers 2021, mae gwybodaeth ar absenoldebau athrawon trwy salwch wedi’u casglu trwy’r CBGY. Mae’r casgliad CBGY yn cynnwys mwy o absenoldebau athrawon ysgol gan ei fod yn casglu data o ysgolion sydd wedi’u heithrio o gytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer AD neu gyflogres gyda’u hawdurdod lleol. Felly, nid yw data ar absenoldebau athrawon trwy salwch yn cael eu casglu ar wahan o awdurdodau lleol bellach a bydd y data yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r datganiad ystadegol CBGY o hyn ymlaen.

Gweler ein hadroddiad ‘Canlyniadau Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion: adroddiad ansawdd’ am fwy o fanylion ar y casgliad CBGY a chymharu eitemau data a gesglir yn y CBGY a CYBLD (ar gyfer athrawon wedi cymhwyso, absenoldebau athrawon trwy salwch a recriwtio a chadw athrawon).

Tabl 6: Nifer a athrwon wedi cymhwyso a staff cymorth cyfwerth ag amser llawn (FTE) mewn ysgolion wedi’u cynnal, 2020 i 2022
  2020 2021 2022
Athrawon wedi cymhwyso 23,594 23,941 24,657
Staff cymorth 23,796 23,779 24,517

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion

  • Ym mis Chwefror 2022 roedd yna 24,657 athro wedi cymhwyso cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol, cynnydd o 715 o’i gymharu â mis Ebrill 2021.
  • Hefyd, roedd yna 24,517 staff cymorth cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol, cynnydd o 738 o’i gymharu â mis Ebrill 2021.

Diffiniadau

Ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol

Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau lleol. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.

Ysgolion cyfrwng Cymraeg

Mae Ysgolion Cynradd yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg, Dwy Ffrwd a Throsiannol. Mae ysgolion Canol ac Uwchradd yn cynnwys Cyfrwng Cymraeg. Am fwy o wybodaeth, gwelir y nodiadau canllaw -nodiadau canllaw.

Ysgolion annibynnol

Ysgolion sy'n codi ffioedd ac a all gael eu hariannu hefyd gan unigolion, cwmnïau neu sefydliadau elusennol. Rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gofrestru gyda Llywodraeth Cymru.

Ysgolion meithrin

Dan 5 oed.

Ysgolion cynradd

3/4 i 10 oed.

Ysgolion canol

3/4 i 16/18 oed.

Ysgolion uwchradd

11 i 16/18 oed.

Ysgolion arbennig

Ysgolion arbennig, rhai dydd a rhai preswyl, sy'n darparu addysg i blant ag AAA na allant gael eu haddysgu'n foddhaol mewn ysgolion prif ffrwd.

Cyfwerth ag amser llawn (FTE)

Mae niferoedd disgyblion FTE yn cyfrif disgyblion rhan-amser fel 0.5.

Mae FTE athrawon rhan-amser yn dynodi gwasanaeth athrawon mewn oriau fel cyfran o wythnos ysgol: 32.5 awr ar gyfer ysgolion a gynhelir a 26 awr ar gyfer ysgolion annibynnol.

Cymarebau disgybl athro (CDA)

Cyfrifir y rhain o'r nifer o ddisgyblion FTE, wedi eu rhannu gan y nifer o athrawon FTE (prifathrawon, pennaeth dros dro, pennaeth cynorthwyol, dirprwyon ac athrawon cymwysedig eraill).

Anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig

Disgyblion â datganiad

Disgyblion y mae'r Awdurdod yn cadw datganiad o anghenion addysgol arbennig ar eu cyfer o dan Ran iv o Ddeddf Addysg 1996. Gall yr ALl gyhoeddi datganiad ar ôl asesu anghenion plentyn.

Gweithredu gan yr Ysgol

Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.

Cynlluniau Datblygu Unigol

Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2021. Gall fod gan ddysgwr naill ai CDU a gynhelir gan ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.

Maint dosbarthiadau babanod

Rhoddodd Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a’r rheoliadau cysylltiedig ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i gyfyngu i 30 faint dosbarthiadau Derbyn o 1999 ymlaen; dosbarthiadau Derbyn a Blwyddyn 1 o 2000 ymlaen a dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o 2001 ymlaen. Rhaid i ddosbarthiadau blynyddoedd cymysg neu Gyfnodau Allweddol cymysg gwrdd â’r terfyn, os yw’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn y blynyddoedd priodol, mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau meithrin/derbyn cymysg.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2010 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (Saesneg yn unig).

Ers yr adolygiad diweddaraf gan Swyddfa ar gyfer Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • wedi'i ychwanegu at a gwella y wybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi.
  • cynhyrchu'r datganiad diweddaraf mewn fformat newydd i gynnwys siartiau sy'n rhoi mewnwelediad pellach i rywfaint o'r wybodaeth allweddol.
  • gwneud mwy o ddata ar gael ar StatsCymru.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb. Mae hefyd yn ymdrin â materion penodol sy’n ymwneud ag ansawdd data 2022, ac yn disgrifio’r offeryn rheoli ansawdd a ddefnyddir yn y maes gwaith hwn.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
  • aelodau Senedd Cymru
  • polisï addysg o fewn Llywodraeth Cymru
  • rhannau eraill o Lywodraeth Cymru
  • Estyn
  • y gymuned ymchwilio
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:

  • dyrannu adnoddau yn Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru a’r Grant Datblygu Disgyblion
  • cyngor i weinidogion
  • i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn polisïau addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • i hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
  • maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • cyhoeddwyd ar Fy Ysgol Leol
  • i gynorthwyo ymchwil mewn i gyrhaeddiad addysgol

Cywirdeb

Mae’r data yn y datganiad hwn yn cwmpasu’r holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn ogystal ag ysgolion annibynnol.

Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) / Cyfrifiad Ysgolion (Ffurflen STATS1)

Mae data’r ysgolion yn deillio o'r dychweliadau Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion a'r dychweliadau STATS1 a anfonir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Ionawr bob blwyddyn. Caiff y dychweliadau eu hawdurdodi gan brifathrawon, a'u dilysu gan Awdurdodau Lleol. Oherwydd lefel yr achosion coronafeirws (COVID-19) ym mis Ionawr 2022, gohiriwyd dyddiad y cyfrifiad i 15 Chwefror 2022. Roedd cau ysgolion rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19) yn golygu bod dyddiad cyfrifiad 2021 wedi’i ohirio tan 20 Ebrill 2021.

Mae CYBLD yn gasgliad data electronig o ddata ar lefel disgybl ac ysgol a ddarperir pob mis Ionawr gan bob ysgol a gynhelir. Mae ysgolion yn cofnodi data ar eu disgyblion a’u hysgol trwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Gwybodaeth Rheoli (MIS). Mae’r data yn cael ei chyfuno i ffeil electronig CYBLD a’i gyrru i Gynulliad Cymru trwy DEWI, system rhannu data diogel ar y we, a ddatblygwyd gan Gynulliad Cymru. Mae DEWi yn dilysu’r data mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel ar gyfer creu polisi a chyllido.

Mae ysgolion annibynnol yng Nghymru hefyd yn llenwi ffurflen STATS 1.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data cyfrifiad yn y datganiad hwn yn dangos y sefyllfa ar Ddydd Mawrth 15 Chwefror 2022. Roedd DEWi ar gael i lanwytho ffeiliau ar 20 Ebrill 2021. Wedyn gofynnwyd i ysgolion ac awdurdodau lleol ddilysu eu data yn y cyfnod dilysu, a ddaeth i ben ar 20 Mai 2022.

Hygyrchedd ac Eglurder

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru. Yn cyd-fynd ag ef mae Taenlen Dogfen a mae tablau manylach ar StatsCymru, gwasanaeth y gellir ei ddefnyddio am ddim sy’n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data. Fe fydd y data hefyd yn cael ei gyhoeddi ar Fy Ysgol Leol, gwefan a ddyluniwyd i agor mynediad i ddata ysgolion i rieni a phawb arall sydd â diddordeb yn eu hysgol leol.

Cymharedd

Dyma’r data diweddara ar gyfer:

Lloegr

Ystadegau: niferoedd ysgolion a disgyblion (GOV.UK)

Ystadegau: addysg a hyfforddiant y DU (GOV.UK)

Yr Alban

Ystadegau ac ymchwil (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon

Ystadegau addysg (Yr Adran Addysg, Gogledd Iwerddon)

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Geraint Turner
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 189/2022