Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno data a gasglwyd o'r cyfrifiad blynyddol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae hefyd yn cyflwyno data ar gyfer ysgolion annibynnol. Mae’n adrodd gwybodaeth ar gyfer ysgolion, disgyblion, ethnigrwydd, cymwys i brydau ysgol am ddim, anghenion addysgol arbennig (AAA), maint dosbarthiadau, athrawon a staff cymorth.

Amseru

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â chyfnod amser tu fewn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae'r data mwyaf diweddar yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â'r sefyllfa ym mis Ebrill 2021. Fel arfer byddai'r Cyfrifiad Ysgol Flynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) yn cael ei gynnal ym mis Ionawr. Fodd bynnag, roedd ysgolion ar gau rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) ac felly gohiriwyd dyddiad y cyfrifiad i 20 Ebrill 2021.

Nodyn ar ansawdd a chwmpas y data

Dyma ryddhad olaf data cyfrifiad ysgolion 2021, yn dilyn dilysu fel rhan o setliad Cyllid Llywodraeth Leol fel mewn blynyddoedd blaenorol. Mae nifer y disgyblion wedi cynyddu ychydig ers rhyddhau'r data hwn dros dro ym mis Mehefin 2021 gan fod y data ar gyfer 6 ysgol nad oeddent wedi cyflwyno data ar y pwynt hwnnw bellach wedi'u gynnwys.

Prif bwyntiau

  • Roedd 1,473 ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 7 llai o’i gymharu ag Ionawr 2020.
  • Roedd 474,724 disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 5,548 yn fwy na mis Ionawr 2020.
  • O’r 379,669 disgybl 5 i 15 oed, roedd 22.9% yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim, i fyny o 19.9% yn Ionawr 2020. Nid yw’r ffigurau yma yn cynnwys gwarchodaeth drosiannol (gweler isod).
  • Roedd 92,688 o ddisgyblion gydag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (19.5% o’r holl ddisgyblion), i lawr o 97,551 (20.8%) yn Ionawr 2020. 
  • Roedd 7,617 disgybl (7.5%) mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 disgybl ym mis Ebrill 2021, dim newid o’r 7,620 disgybl (7.4%) yn Ionawr 2020.
  • Roedd 23,941 o athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 347 yn fwy na mis Ionawr 2020.

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

O'r 379,669 o ddisgyblion rhwng 5 a 15 oed, roedd 25.2% yn gymwys am brydau ysgol am ddim neu warchodaeth drosiannol ym mis Ebrill 2021, i fyny o 21.1% yn Ionawr 2020.

Ysgolion a disgyblion

Mae’r adran yma yn cyflwyno data ar gyfer ysgolion a gynhelir gan yr ALl a disgyblion. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.

Am ddiffiniadau o fathau o ysgolion (gan gynnwys sut y cânt eu dosbarthu yn nhermau iaith yr addysgu (cyfrwng)) gweler diffiniadau.

Tabl 1: Nifer yr ysgolion yn ôl sector, 2020 i 2021
Sector 2020 2021
Meithrin 9 9
Cynradd 1,225 1,219
Canol 22 23
Uwchradd 183 182
Arbennig 41 40
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol  1,480 1,473
Annibynnol 78 80
Cyfanswm 1,558 1,553

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion

  • Roedd 1,473 ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol ym mis Ebrill 2021, 7 llai o’i gymharu ag Ionawr 2020.
  • Roedd 80 o ysgolion annibynnol, 2 yn fwy o’i gymharu ag Ionawr 2020.
Image
Caerdydd oedd â'r nifer uchaf o ysgolion yn gyffredinol ym mis Ebrill 2021 a Gwynedd oedd â'r nifer uchaf o ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Nifer yr ysgolion a gynhelir, yn ôl awdurdod lleol a chyfrwng (MS Excel)

  • Roedd 440 o ysgolion cyfrwng Cymraeg ym mis Ebrill 2021 gyda 110,142 (23%) o ddisgyblion yn cael eu haddysgu ynddynt.
  • Addysgir rhan fwyaf o ddisgyblion yn Sir Fôn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Ebrill 2021. Yn yr 18 awdurdod arall addysgir rhan fwyaf o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Tabl 2: Nifer y disgyblion yng Nghymru yn ôl sector, 2020 i 2021
Sector 2020 2021
Meithrin 683 724
Cynradd 271,323 272,339
Canol 20,746 22,308
Uwchradd 171,271 174,133
Arbennig 5,153 5,220
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol  469,176 474,724
Annibynnol (a) . 9,855
Cyfanswm . 484,579

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion

. Nid yw'r eitem ddata yn berthnasol. Ni chyhoeddwyd data ar gyfer ysgolion annibynnol yn 2020 gan na chwblhawyd y casglu data.
(a) Nid ddarparwyd data gan 10 o’r 80 ysgol annibynnol yn 2021.

  • Roedd 474,724 o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol ym mis Ebrill 2021, 5,548 yn fwy na mis Ionawr 2020.
  • Mae'r cynnydd hwn yn bennaf oherwydd yr oedi yn nyddiad y cyfrifiad hyd at fis Ebrill. Mae'r cyfrifiad fel arfer yn digwydd ar yr ail ddydd Mawrth ym mis Ionawr. Aeth 5,273 o ddisgyblion i ddosbarth meithrin rhwng 13 Ionawr 2021 a 20 Ebrill 2021. Ni fyddai'r disgyblion hyn yn cael eu cynnwys mewn cyfrifiad ym mis Ionawr.

Mae'r holl ddata sy'n dilyn yn y datganiad hwn yn ymwneud ag ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn unig.

Image
Yn ysgolion cynradd roedd yr cymhareb disgybl athro uchaf dros yr 13 blwyddyn diwethaf.

Cymhareb disgybl athro (CDA) yn ôl sector (MS Excel)

  • Mae’r gymhareb disgybl athro ar ei fwyaf mewn ysgolion cynradd gyda 21.9 ac ar ei isaf mewn ysgolion arbennig gyda 6.9. Roedd y gymhareb disgybl athro mewn ysgolion uwchradd yn 17.2.
  • Mae’r gymhareb disgybl athro wedi cynyddu yn gyson ar gyfer ysgolion canol dros y 5 mlynedd diwethaf, i 18.0 yn 2021.Mae’r gymhareb wedi cynyddu ychydig ar gyfer ysgolion uwchradd hefyd. Mae’r gymhareb ysgolion meithrin wedi amrywio ond wedi aros yn sefydlog yn ysgolion cynradd ac arbennig.

Cefndir ethnig

Dyma'r grŵp ethnig y mae'r disgybl yn nodi eu hunain.

Tabl 3: Nifer y disgyblion 5 oed a throsodd yn ôl cefndir ethnig, 2021
Cefndir ethnig Nifer Canran
Gwyn 366,116 90.8
Gwyn Prydeinig 351,949 87.3
Teithiwr 434 0.1
Sipsi/ Roma 714 0.2
Unrhyw gefndir Gwyn arall 13,019 3.2
Cymysg 14,006 3.5
Gwyn a Du Caribïaidd 2,676 0.7
Gwyn a Du Affricanaidd 2,071 0.5
Gwyn ac Asiaidd 2,908 0.7
Unrhyw gefndir cymysg arall 6,351 1.6
Asiaidd 10,218 2.5
Indiaidd 2,515 0.6
Pacistanaidd 3,237 0.8
Bangladeshaidd 3,329 0.8
Unrhyw gefndir Asiaidd arall 1,137 0.3
Du 4,103 1.0
Du Caribïaidd 193 0.0
Du Affricanaidd 3,376 0.8
Unrhyw gefndir Du arall 534 0.1
Tsieineaidd 832 0.2
Unrhyw gefndir ethnig arall 5,807 1.4
Cyfanswm â chategori dilys 401,082 99.4
Ddim yn gwybod 2,252 0.6
Pob disgybl 403,334 100.0

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion

  • Dynodwyd 87.3% o ddisgyblion 5 oed a hŷn fel Gwyn Prydeinig ym mis Ebrill 2021.
  • Mae’r ffigwr hyn wedi gostwng ychydig ym mob un o’r pum mlynedd diwethaf gyda chynnydd yn y cefndiroedd ethnig eraill dros yr un cyfnod.
  • O'r disgyblion hynny o gefndir ethnig lleiafrifol y grwpiau mwyaf yw'r rhai o gefndir ethnig cymysg (14,006 o ddisgyblion), cefndir Gwyn heblaw Gwyn Prydeinig (13,019 o ddisgyblion), Du Affricanaidd (3,376), Bangladeshaidd (3,329), a Phacistanaidd (3,237); tra bod dros 5,000 o ddisgyblion yn nodi eu hunain fel grŵp ethnig arall.

Prydau am ddim

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu teuluoedd yn derbyn rhai budd-daliadau daliadau / cymorth, sydd wedi eu hamlinellu yn y dudalen we ganlynol: Gwefan Llywodraeth Cymru: Prydau ysgol am ddim

Image
Cynyddodd canran y disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim rhwng 2018 a 2021 ar ôl gostwng dros y pum mlynedd cynt.

Canran o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (MS Excel)

  • Mae’r canran y disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim wedi cynyddu pob blwyddyn ers 2018.
  • Roedd 99,135 disgybl (20.9%) o bob oedran yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim ym mis Ebrill 2021, i fyny o 85,731 disgybl (18.3%) ym mis Ionawr 2020.
  • Roedd 87,095 disgybl (22.9%) 5 i 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim ym mis Ebrill 2021, i fyny o 75,157 disgybl (19.9%) ym mis Ionawr 2020.
  • Mae’r ddau gynnydd hyn y cynnydd blynyddol mwyaf a welwyd ers i'r data gael ei gasglu am y tro cyntaf yn 2003.
  • Nid yw’r ffigurau yma yn cynnwys gwarchodaeth drosiannol (gweler isod).

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

Tabl 4: Nifer a chanran y disgyblion yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim (PYD) neu warchodaeth drosiannol (GD), 2019 i 2021
  2019 2020 2021
Disgyblion 5 i 15 oed
    Nifer yn gymwys am PYD 68,674 75,157 87,095
    % yn gymwys am PYD 18.3 19.9 22.9
    Nifer yn gymwys am PYD neu GD . 79,587 95,532
    % yn gymwys am PYD neu GD . 21.1 25.2
Disgyblion pob oedran
    Nifer yn gymwys am PYD 78,902 85,731 99,135
    % yn gymwys am PYD 16.8 18.3 20.9
    Nifer yn gymwys am PYD neu GD . 90,662 108,447
    % yn gymwys am PYD neu GD . 19.3 22.8

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion

. Nid yw'r eitem ddata yn berthnasol

  • Roedd 95,532 disgybl (25.2%) 5 i 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim neu warchodaeth drosiannol mis Ebrill 2021, i fyny o 79,587 disgybl (21.1%) ym mis Ionawr 2020.
  • Roedd 108,447 disgybl (22.8%) o bob oedran yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim neu warchodaeth drosiannol mis Ebrill 2021, i fyny o 90,662 disgybl (19.3%) ym mis Ionawr 2020.

Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

Mae gan blentyn anghenion arbennig os oes ganddynt anawsterau dysgu y mae angen darparu cymorth addysgol arbennig ar eu cyfer. Mae anhawster dysgu yn golygu bod gan y plentyn dipyn mwy o anhawster wrth ddysgu na’r mwyafrif o blant o’r un oedran neu fod gan y plentyn nam neu gyflwr iechyd neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain anabledd sy’n gofyn am gyfleusterau addysgol gwahanol i’r rhai y mae’r ysgol yn eu darparu fel rheol ar gyfer plant. Gall disgyblion ag anghenion addysgol arbennig gael Datganiad a roddir gan ALl neu gall yr ysgol nodi eu hanghenion. Yn yr ail achos, dônt o dan un o ddau gategori pellach: Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy.

Image
Y darpariaeth anghenion addysgol arbennig mwyaf cyffredin oedd Gweithredu gan yr Ysgol, gyda Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn dilyn.

Nifer a chanran y disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir, yn ôl math o ddarpariaeth AAA (MS Excel)

  • Mae 92,688 o ddisgyblion (19.5%) gydag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir yn Ebrill 2021, i lawr o 97,551 (20.8%) yn Ionawr 2020.
  • Roedd o gwmpas hanner o’r rhain gyda darpariaeth o Weithredu gan yr Ysgol ac o gwmpas treian gyda darpariaeth o Weithredu gan yr Ysgol a Mwy.
  • 15.2% o'r disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig gyda Datganiadau o AAA.
Image
Y math o anghenion addysgol arbennig mwyaf cyffredin oedd anawsterau dysgu cyffredinol ym mis Ebrill 2021.

Adroddiadau o Anghenion Addysgol Arbennig mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math yr angen (MS Excel)

  • Gwnaed 125,569 adroddiadau o’r fath o AAA - cyfartaledd o 1.4 fesul disgybl sydd ag AAA.
  • Y math mwyaf cyffredin o angen oedd 'Anawsterau dysgu cyffredinol', yn cynrychioli 33.1 y cant o ddisgyblion gyda rhyw fath o AAA.
  • Y nesaf uchaf oedd ‘Anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu’ (26.4%) ac ‘Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol’ (26.3%).

Maint dosbarthiau

Tabl 5: Maint dosbarthiadau babanod ac iau ar gyfartaledd, 2019 i 2021
Dosbarth 2019 2020 2021
Babanod 25.4 25.4 25.3
Iau 26.3 26.3 26.2
  • Roedd gostyngiad bach ym maint dosbarthiadau babanod ac iau ar gyfartaledd yn 2021.

Mae dosbarthiadau babanod o fwy na 30 disgybl yn anghyfreithlon o fawr heblaw bod amgylchiadau penodol o'r enw 'eithriadau' wedi’u bodloni.

Image
Dros y tair blynedd diwethaf mae canran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod mawr anghyfreithlon wedi gostwng tra bod canran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod cyfreithlon mawr wedi cynyddu.

Canran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod cyfreithlon neu anghyfreithlon o fawr (MS Excel)

  • Roedd 7,617 disgybl (7.5%) mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 disgybl ym mis Ebrill 2021, dim newid o’r 7,620 disgybl (7.4%) yn Ionawr 2020.
  • Roedd 385 pupils (0.4%) mewn dosbarthiadau babanod mawr anghyfreithlon o dros 30 disgybl ym mis Ebrill 2021, i lawr o 728 disgybl (0.7%) yn Ionawr 2020.

Athrawon a staff cymorth

Cyflwynwyd y Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgol (CBGY) yn 2019 i rhoi gwybodaeth mwy cynhwysfawr ar y gweithlu ysgol yng Nghymru ac i helpu lywio polisïau Llywodraeth Cymru ar materion sy’n ymneud â’r gweithlu ysgol yng Nghymru. Bydd y data yn cael eu defnyddio ar gyfer cynllunio’r gweithlu ac i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth y gweithlu ysgol. Mae’r data sydd wedi’u cyhoeddi yn y datganiad ystadegol yma (Canlyniadau’r cyfrifiad ysgolion) wedi’u seilio ar gwybodaeth o’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a dylid parhau i’w defnyddio fel yr ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol, a’u defnyddio ar gyfer cymhariaeth dros amser. Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol CBGY diweddaraf ar 26 Awst 2021 fel ystadegau arbrofol.  Unwaith bydd safon y data a gesglir trwy’r CBGY wedi’u sicrhau ac unrhyw wahaniaethau wedi’u hesbonio bydd y datganiad yma yn darparu’r ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol yng Nghymru.

Tabl 6: Nifer a athrwon wedi cymhwyso a staff cymorth cyfwerth ag amser llawn (FTE) mewn ysgolion wedi’u cynnal, 2019 i 2021
  2019 2020 2021
Athrawon wedi cymhwyso 23,593 23,594 23,941
Staff cymorth 23,251 23,796 23,779
  • Ym mis Ebrill 2021 roedd yna 23,941 athro wedi cymhwyso cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol, cynnydd o 347 o’i gymharu â mis Ionawr 2020.
  • Hefyd, roedd yna 23,779 staff cymorth cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol, heb newid llawer ers Ionawr 2020.

Diffiniadau

Ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol

Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau lleol. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.

Ysgolion cyfrwng Cymraeg

Mae Ysgolion Cynradd yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg, Dwy Ffrwd a Throsiannol. Mae ysgolion Canol ac Uwchradd yn cynnwys Cyfrwng Cymraeg. Am fwy o wybodaeth, gwelir y nodiadau canllaw -nodiadau canllaw.

Ysgolion annibynnol

Ysgolion sy'n codi ffioedd ac a all gael eu hariannu hefyd gan unigolion, cwmnïau neu sefydliadau elusennol. Rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gofrestru gyda Llywodraeth Cymru.

Ysgolion meithrin

Dan 5 oed.

Ysgolion cynradd

3/4 i 10 oed.

Ysgolion canol

3/4 i 16/18 oed.

Ysgolion uwchradd

11 i 16/18 oed.

Ysgolion arbennig

Ysgolion arbennig, rhai dydd a rhai preswyl, sy'n darparu addysg i blant ag AAA na allant gael eu haddysgu'n foddhaol mewn ysgolion prif ffrwd.

Cyfwerth ag amser llawn (FTE)

Mae niferoedd disgyblion FTE yn cyfrif disgyblion rhan-amser fel 0.5.

Mae FTE athrawon rhan-amser yn dynodi gwasanaeth athrawon mewn oriau fel cyfran o wythnos ysgol: 32.5 awr ar gyfer ysgolion a gynhelir a 26 awr ar gyfer ysgolion annibynnol.

Cymarebau disgybl athro (CDA)

Cyfrifir y rhain o'r nifer o ddisgyblion FTE, wedi eu rhannu gan y nifer o athrawon FTE (prifathrawon, pennaeth dros dro, pennaeth cynorthwyol, dirprwyon ac athrawon cymwysedig eraill).

Anghenion Addysgol Arbennig

Disgyblion â datganiad

Disgyblion y mae'r Awdurdod yn cadw datganiad o anghenion addysgol arbennig ar eu cyfer o dan Ran iv o Ddeddf Addysg 1996. Gall yr ALl gyhoeddi datganiad ar ôl asesu anghenion plentyn.

Gweithredu gan yr Ysgol

Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.

Maint dosbarthiadau babanod

Rhoddodd Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a’r rheoliadau cysylltiedig ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i gyfyngu i 30 faint dosbarthiadau Derbyn o 1999 ymlaen; dosbarthiadau Derbyn a Blwyddyn 1 o 2000 ymlaen a dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o 2001 ymlaen. Rhaid i ddosbarthiadau blynyddoedd cymysg neu Gyfnodau Allweddol cymysg gwrdd â’r terfyn, os yw’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn y blynyddoedd priodol, mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau meithrin/derbyn cymysg.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2010 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (Saesneg yn unig).

Ers yr adolygiad diweddaraf gan Swyddfa ar gyfer Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • wedi'i ychwanegu at a gwella y wybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi
  • cynhyrchu'r datganiad diweddaraf mewn fformat newydd i gynnwys siartiau sy'n rhoi mewnwelediad pellach i rywfaint o'r wybodaeth allweddol
  • gwneud mwy o ddata ar gael ar StatsCymru

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb. Mae hefyd yn ymdrin â materion penodol sy’n ymwneud ag ansawdd data 2021, ac yn disgrifio’r offeryn rheoli ansawdd a ddefnyddir yn y maes gwaith hwn.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
  • aelodau Senedd Cymru
  • polisï addysg o fewn Llywodraeth Cymru
  • rhannau eraill o Lywodraeth Cymru
  • Estyn
  • y gymuned ymchwilio
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:

  • dyrannu adnoddau yn Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru a’r Grant Datblygu Disgyblion
  • cyngor i weinidogion
  • i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn polisïau addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • i hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
  • maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • cyhoeddwyd ar Fy Ysgol Leol
  • i gynorthwyo ymchwil mewn i gyrhaeddiad addysgol

Cywirdeb

Mae’r data yn y datganiad hwn yn cwmpasu’r holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn ogystal ag ysgolion annibynnol. Mae'r data absenoldeb salwch athrawon a gynhwysir yn y daenlen gysylltiedig yn ymwneud â phob ysgol a gynhelir yn unig.

Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) / Cyfrifiad Ysgolion (Ffurflen STATS1)

Mae data’r ysgolion yn deillio o'r dychweliadau Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion a'r dychweliadau STATS1 a anfonir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Ionawr bob blwyddyn. Caiff y dychweliadau eu hawdurdodi gan brifathrawon, a'u dilysu gan Awdurdodau Lleol. Mae’r data absenoldeb athrawon yn cael ei gasglu yn uniongyrchol o awdurdodau lleol pob mis Ionawr. Roedd cau ysgolion rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi golygu bod casgliadau 2021 wedi'u gohirio tan fis Ebrill.

Mae CYBLD yn gasgliad data electronig o ddata ar lefel disgybl ac ysgol a ddarperir pob mis Ionawr gan bob ysgol a gynhelir. Mae ysgolion yn cofnodi data ar eu disgyblion a’u hysgol trwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Gwybodaeth Rheoli (MIS). Mae’r data yn cael ei chyfuno i ffeil electronig CYBLD a’i gyrru i Gynulliad Cymru trwy DEWI, system rhannu data diogel ar y we, a ddatblygwyd gan Gynulliad Cymru. Mae DEWi yn dilysu’r data mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel ar gyfer creu polisi a chyllido.

Mae ysgolion annibynnol yng Nghymru hefyd yn llenwi ffurflen STATS 1.

Ffurflenni blynyddol absenoldeb athrawon drwy salwch

Mae ysgolion yn anfonn data absenoldeb drwy salwch i awdurdodau lleol sy’n coladu’r data gyfer casgliad Llywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol yn ymgymryd dilysiadau eu hun, a roddir y cyfle iddynt adolygu’r data a gyflwynwyd am y flwyddyn flaenorol. Mae dilysiadau sydd wedi eu cynnwys yn y ffurflen casglu data i gymharu’r data newydd gyda data’r flwyddyn flaenorol, i amlygu unrhyw newidiadau sylweddol ac i ddarparu cyfle pellach i ddilysu’r data.

Mae nifer o awdurdodau lleol wedi nodi datblygiadau i’w systemau sydd wedi galluogi’r data cael eu casglu’n fwy cywir ac amserol nag mewn blynyddoedd blaenorol. Mae hyn wedi gwella safon y data a gesglir ac yn arwain i ddiwygiadau i ddata blynyddoedd blaenorol o bryd i’w gilydd.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data cyfrifiad yn y datganiad hwn yn dangos y sefyllfa ar Ddydd Mawrth 20 Ebrill 2021. Roedd DEWi ar gael i lanwytho ffeiliau ar 20 Ebrill 2021. Wedyn gofynnwyd i ysgolion ac awdurdodau lleol ddilysu eu data yn y cyfnod dilysu, a ddaeth i ben ar 9 Gorffennaf 2021. Mae’r data absenoldeb athrawon yn cyfeirio at y flwyddyn galendr blaenorol.

Hygyrchedd ac Eglurder

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru. Yn cyd-fynd ag ef mae Taenlen Dogfen a mae tablau manylach ar StatsCymru, gwasanaeth y gellir ei ddefnyddio am ddim sy’n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data. Cyhoeddir y data hefyd ar Fy Ysgol Leol, gwefan a ddyluniwyd i agor mynediad i ddata ysgolion i rieni a phawb arall sydd â diddordeb yn eu hysgol leol.

Cymharedd

Dyma’r data diweddara ar gyfer:

Lloegr

Ystadegau: niferoedd ysgolion a disgyblion (GOV.UK)

Ystadegau: addysg a hyfforddiant y DU (GOV.UK)

Yr Alban

Ystadegau ac ymchwil (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon

Ystadegau addysg (Yr Adran Addysg, Gogledd Iwerddon)

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Geraint Turner
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 269/2021