Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ystadegau ar ysgolion, athrawon a disgyblion yn cynnwys data ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ym mis Ionawr 2020.

Mae'r data mwyaf diweddar yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â'r sefyllfa ym mis Ionawr 2020. Felly nid yw'r adroddiad yn ymwneud â chyfnod y pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae'r pennawd hwn bellach yn cynnwys data wedi'i ddilysu ar faint o ddosbarthiadau yng Nghymru. Nid oes  un o'r ffigurau eraill wedi newid ers i'r pennawd hwn gael ei gyhoeddi'n wreiddiol ar 27 Ebrill 2020.

Prif bwyntiau

Roedd 1,480 ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 14 llai o’i gymharu ag Ionawr 2019. Yn bennaf mae hyn oherwydd uno ysgolion.

Roedd 469,176 disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 778 yn fwy na mis Ionawr 2019.

O’r 377,812 disgybl 5 i 15 oed, roedd 19.9% yn gymwys am brydau ysgol am ddim, i fyny o 18.3% yn Ionawr 2019. Nid yw’r ffigurau yma yn cynnwys gwarchodaeth trosiannol (gweler isod).

Roedd 23,594 o athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, dim newid o Ionawr 2019.

Roedd 97,551 o ddisgyblion gydag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (20.8% o’r holl ddisgyblion), i lawr o 103,967 (22.2%) yn Ionawr 2019.

Roedd 7.4% o ddisgyblion (7,620) mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 o ddisgyblion, i fyny o 7.2% (7,581) ym mis Ionawr 2019.

Gwarchodaeth trosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth trosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol presennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth trosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

O'r 377,812 o ddisgyblion rhwng 5 a 15 oed, roedd 21.1% yn gymwys i gael gwarchodaeth trosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim ym mis Ionawr 2020.

Nodyn ar ansawdd y data

Er bod y rhan fwyaf o'r prosesau arferol dilysu data’r cyfrifiad ysgolion 2020 wedi digwydd, oherwydd y pandemig parhaol y coronafeirws, nid yw’r data wedi mynd trwy'r broses ddilysu derfynol arferol. Fel rhan o Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru, dychwelir y data fel arfer i awdurdodau lleol i'w ddilysu'n derfynol. Fel arfer, ni fydd niferoedd cyffredinol y disgyblion ac athrawon yn newid yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, gyda’r newid mwyaf tebygol yn nodweddion y disgyblion eu hunain e.e. hawl i brydau ysgol am ddim. Felly dylai defnyddwyr fod yn fwy gofalus wrth gymharu data ar nodweddion disgyblion a staff dros amser, yn enwedig gyda charfannau bach. Mae'r wybodaeth maint dosbarthiadau wedi cael Cyfnod pellach o ddilysu gydag awdurdodau lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion, ym mis Ionawr 2020: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 74 KB

ODS
74 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.