Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi canmol tîm sy’n helpu pobl ddigartref yn Wrecsam yn ystod ymweliad â’r dref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Hwb Gofal Cymunedol, sydd wedi elwa o gyllid Llywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n cysgu ar y stryd, a hefyd cyngor ar dai a lles ac amrywiaeth o wasanaethau eraill.                  

Sylfaenwyd yr Hwb yn 2016 gan feddyg teulu yn Wrecsam, Dr Karen Sankey, Dewi Richards, rheolwr iechyd meddwl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a Tanya Jones o’r elusen i bobl ddigartref, The Wallich.

Mae’n cynnal sesiynau galw heibio wythnosol gyda nifer o sefydliadau, gan gynnwys y bwrdd iechyd, yr Adran ar gyfer Gwaith a Phensiynau a Chyngor Wrecsam. Bellach mae’r hwb yn cefnogi mwy na 100 o bobl ddigartref, sy’n cysgu ar y stryd neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.

Ymunodd y Prif Weinidog ag un o’r sesiynau galw heibio yn adeilad Byddin yr Iachawdwriaeth yn Wrecsam.

Dywedodd Mark Drakeford:

“Wrth i’r tywydd oeri, mae’n hanfodol bod y gefnogaeth briodol ar gael i bobl sy’n ddigartref ac yn cysgu ar y stryd.

“Yn ddiweddar rydyn ni wedi cyhoeddi £1.34m i roi sylw i gysgu ar y stryd yng Nghymru y gaeaf yma, gan gynnwys £54,000 ar gyfer yr Hwb Gofal Cymunedol yn Wrecsam.

“Mae’r dull amlasiantaeth o weithio yma, gyda phawb ar gael mewn un lle i ddarparu cyngor a chefnogaeth hanfodol, yn rhagorol. Mae sawl rheswm cymhleth pam mae pobl yn mynd yn ddigartref i ddechrau ac mae’n bwysig eu bod nhw’n cael cyfle i gael y gefnogaeth briodol ar yr amser priodol – fel maen nhw yma.                        

“Fe hoffwn i ddiolch i bawb sy’n rhan o’r prosiect yma am eu gwaith caled a’u hymroddiad.”

Dywedodd Dr Sankey:

“Rydw i’n hynod falch o’r hyn mae’r gydweithfa gofal cymunedol wedi’i gyflawni yn yr hwb mewn partneriaeth ag AVOW a Byddin yr Iachawdwriaeth, gan weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid o’r sector gwirfoddol a statudol.        

“Mae’r hwb yn fodel arloesol o ofal sylfaenol sy’n cynnig dull hygyrch, cyfannol a pherson-ganolog o weithio sy’n diwallu anghenion iechyd a lles rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned ni.  

“Mae llwyddiant yr hwb wedi denu cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, Sefydliad Steve Morgan, Sefydliad Waterloo a Sefydliad Allen Lane, gan alluogi cydweithredu i gyflogi gweithwyr llywio gofal – ac roedd un o’r rhain yn defnyddio’r hwb yn ei ddyddiau cynnar.

“Gan weithio gyda’r bwrdd iechyd, rydyn ni’n edrych ar sut gallai’r model gael ei efelychu fel model amgen o ddarpariaeth gofal sylfaenol ar gyfer y gymuned ehangach.”

Dywedodd Uwchgapten Roger Batt, Comander Adrannol gyda Byddin yr Iachawdwriaeth yng Ngogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru:

“Rydw i mor falch bod y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dod yma heddiw i Fyddin yr Iachawdwriaeth yn Wrecsam i weld drosto’i hun bod yr hwb gofal yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl sy’n wynebu digartrefedd yn y dref a’r cyffiniau.

“Mae’r ffaith bod ymwelwyr sydd wedi galw yn yr eglwys dim ond er mwyn cael pryd bwyd poeth a dillad glân yn gallu gweld meddyg teulu hefyd, mynd i’r gymhorthfa lleihau niwed neu gael cyngor ar fudd-daliadau tra maen nhw yma yn wych.      

“Mae’r hwb gofal wir yn helpu i ailgysylltu pobl â’r gefnogaeth y mae arnyn nhw ei hangen er mwyn goresgyn digartrefedd ac rydw i’n llawn edmygedd o bawb sy’n ymwneud â’r bartneriaeth am sicrhau ei bod yn gymaint o lwyddiant.”