Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi canmol y ffordd mae Ysgol Feithrin Tremorfa wedi codi safonau drwy weithio gyda rhieni, teuluoedd a’r gymuned yn ehangach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cynllun gwasanaethau integredig wedi bod yn ei le yn yr ysgol ers 10 mlynedd ac mae’r ddarpariaeth yn cynnwys grwpiau i blant bach, grwpiau babanod, caffi a gweithdai i’r rhieni.

Mae hyn oll wedi helpu i ennyn diddordeb y rhieni a’u grymuso. Mae’r plant a gymerodd ran yn y gweithgareddau a gynhaliwyd ar eu cyfer cyn dechrau yn yr ysgol feithrin  wedi’u paratoi yn well i ddechrau yn yr ysgol feithrin ac i fynd ymlaen i gyflawni’n well.

Yn dilyn astudiaeth achos Ewropeaidd a gynhaliwyd yn ddiweddar (a drefnwyd gan Asiantaeth Ewropeaidd ar gyfer Cynhwysiant ac Anghenion Addysgol Arbennig), cafodd y feithrinfa ei dewis yn destun astudiaeth achos ar gynhwysiant ac ymgysylltu. Treuliodd ymarferwyr o ledled Ewrop nifer o ddiwrnodau yn dysgu am y system addysg yng Nghymru a’r arferion gwych yn Nhremorfa.

Gan siarad yn yr ysgol ddydd Mawrth (12 Gorffennaf), pwysleisiodd Kirsty Williams bwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned a theuluoedd wrth godi cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc yng Nghymru:

“Ar adeg o newid mawr, mae rhoi i bob plentyn addysg o’r radd flaenaf yn golygu bod angen i bob un ohonon ni wneud mwy. Rydyn ni i gyd - yn athrawon, yn fyfyrwyr, yn rhieni, yn wleidyddion etholedig ac yn arweinwyr cymunedol - yn atebol am lwyddiant ein plant.

“Mae mwy i addysgu a dysgu na’r hyn o welir yn yr ystafell ddosbarth. Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i helpu rhagor o blant a rhaid i ni wneud hynny mewn mwy o ffyrdd ac yn fwy effeithiol.

“Mae dymuniadau llywodraeth a phryderon y proffesiwn i’w clywed yn aml  wrth i ni ddadlau’n gyhoeddus am ein system addysg, ond rydw i am glywed gan gynifer o rieni a phlant ag sy’n bosibl gan fod eu pryderon yn ganolog i’m hagenda.

“Hoffwn weld yr holl ganolfannau dysgu yn ymgysylltu â rhieni, beth bynnag yw eu cefndir, er mwyn hybu addysg eu plant. Rydw i am harneisio dyheadau rhieni yn ogystal â dyheadau eu plant.”